Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

L THE OMNIBUS. ?i mE omus.…

Mrs. Lloyd George at Ammanford.

Mr. Towyn Jones at the Ivorites'…

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

I CYFRINACH Y CLOMEN.

DYLEDSWYDD CYMRU TUAG AT MR.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYLEDSWYDD CYMRU TUAG AT MR. LLOYD GEORGE. At Olygydd Cronicl Dyffryn Aman. I Syr,—Ceisiaf ychydig ofod gennych i ym- ofod gennyc h y m drin a r cwestiwn uchod. Paham y dylasem bleidleisio dros Mr. Towyn Jones? (1) Am ei fod wedi bod ar ei oreu i I gynnorthwyo Mr. Lloyd George a'r Llywodr- aeth bob amser pan oedd gelynion Prydain yn ymosod arno, sef y Pasifistiaid a'r Sosial- wyr. (2) Am ei fod yn wladgarwr trwyadl, ac I yn caru gwneud ei oreu dros ddelfrydau Cymru ac y mae yr hyn y mae wedi wneud drosti yn llefaru yn well na gwag siarad. (3) Am ei fod yn Gristion ac yn gwasan- I aethu Duw ac yn cadw Ei orchymyn.ion, ac yn credu mewn cadw y Dydd Sabbath yn sanctaidd i wasanaeth ei Waredwr. Dyma y cwestiwn mwyaf pwysig i bob crefyddwr heddyw, yw cadw y wlad rhag Materoliaeth ac Anffyddiaeth; ac i fi mae'n been clywed ieuenctyd sydd wedi eu magu yn yr Ysgol Sabothol ac yn y cyfeillachau crefyddol yn cael eu dysgu i ddiystyra crefydd eu cyndadau a'u rhiem. Pwy sydd yn dysgu em plant i fod yn wrthgrefyddwyr ac yn wrth- wladgarwyr? Y Blaid Sosialaidd a Phlaid Annibynol Llafur (I.L.P.). Dyma'r bobl sydd yn cefnogi Dr. Williams, ac y mae I yntau ei hunan wedi votio dros agor cinemas ar y Saboth: ac fe ddywedodd nad oedd gwahaniaeth rhwng un diwrnod a'r llall, ac mai ofergoeledd oedd credu hynny. Fe gariodd morwyr Jonah yn eu llong hyd nes yr aeth yn rhy ystormus; ond y mae morwyr Prydain yn paUu cario Mr. Henderson, Ramsey Macdonald, a Jowett, arweinwyr y Blaid Llafur, a chefnogwyr Dr. Williams. Am hynny, pleidleisiwn dros Mr. Towyn Jones, cefnogwr Mr. Lloyd George, y Cymro pur, ac nid dros Dr. Williams, cefnogwr Ramsey Macdonald a Mr. Henderson, estron- iaid an wiadgar.- Yr eiddoch, GLOWR PROFIADOL. I Rhag. 6, 1918.

YR WYTHNOS WEDDI. I

CARMEL A'R CYL6H. I

CAN ETHOLIADOL MR. TOWYN JONES.

DEIGRYN COFFA

Y DDI-OFID.

LLANDEBIE.