Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

L THE OMNIBUS. ?i mE omus.…

Mrs. Lloyd George at Ammanford.

Mr. Towyn Jones at the Ivorites'…

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

I CYFRINACH Y CLOMEN.

DYLEDSWYDD CYMRU TUAG AT MR.…

YR WYTHNOS WEDDI. I

CARMEL A'R CYL6H. I

CAN ETHOLIADOL MR. TOWYN JONES.

DEIGRYN COFFA

Y DDI-OFID.

LLANDEBIE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDEBIE. Nawn Saboth diweddaf, yng Nghapel Wesleaidd y lie uchod, cynhaliwyd gwasan- aeth coffadwriaethol i'r diweddar Lieut. B. A. Lewis, annwyl fab Mr. a Mrs. John Lewis, Brynywawr, Llandebie, yr hwn a syrthiodd ar faes y frwydr yn Ffrainc, T^ch- wedd 8, 1918. Dechreuwyd y gw at.? am ddau o'r gloch. Darllenwyd rhan o Air Duw gan y Parch. J. Towyn Jones, A.S., a gweddiwyd yn effeithiol ar ran y teulu yr. arbennig gan y Parch. W. Davies (B.), Salem. Pregethwyd gan y Parch. D. Corris Davies, Llandeilo, a thraddodwyd anerchiad byw gan Mr. Towyn Jones. Cafwyd unawd gysegredig. I have a Friend in Jesus," gan Mr. Tom Williams, Amanford. Gweddiwyd gan y Parch. J. Meirion Williams, Tirydail, a chwareuwyd y Dead March gan Mr. Matthews, ysgolfeistr, tra yr oedd y gynull- eidfa yn sefyll. Yr oedd y gwasanaeth drwyddo ag eneiniad y Nef arno. Teimlem fod y lien rhyngom a' r byd ysbrydol yn deneu iawn. Credwn ïr Arglwydd drwy Ei Ysbryd ddod atom i gysuro y teulu annwyl yn eu galar, ac i fendithio y gynulleidfa. Daeth cynulleidfa fawr ynghyd-y capel yn llawer rhy fach. Dangoswyd parch eithriadol i'r ymadawedig a'i rieni. Teilwng ydoedd o goffadwriaeth o'r fath. Yr oedd yn un o'r bechgyn mwyaf hoff a chariadus, ac yn boblogaidd gan ei gydnabod. Pe cawsat fyw, cawsai yrfa lwyddiannus yn y cylch addysgol. Yr oedd cyn ei ymuniad a'r Fyddin yn y Brifysgol, a'i gynnydd wedi bod yn amlwg iawn yno. Erbyn hyn y mae galar mawr ar ei ol, ac yntau wedi cael bedd yng nghladdfa Avesnes. Yr Arglwydd a ddiddano y rhieni a'r perthynasau oil. Y mae dau fab arall i Mr. a Mrs. Lewis yn y Fyddin—Lieut. T. H. Lewis, B.A., gynt o Ysgol Ganolraddol Porth, a Willie Lewis, y naill yn Ffrainc a'r llall ym Malestina. Yr oedd y Parch. Philip Evans (M.C.) yn bre- sennol hefyd. Printed and Published by the Amman Valley Chronicle, Limited, at their Offices, Quay, Street, Ammanford, in the County of Car- marthen, December 12th, 1918.