Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

THE OMNIBUS. I

Outlines of Local Government

Llandilo Board of Guardians.

IAT EIN GOHEBWYR AC r ERAILL.

[No title]

CAERBRYN.

IGORSLAS.

PENYGROES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENYGROES. Croesawi Gwýr Cad.-Nos Wener di- weddaf, cynhaliwyd cwrdd croeso i nifer o fechgyn y cyich ar eu dychweliad adref o faes yr heldrin mawr. Cadeiriwyd gan Mr. D. Mainwaring, Caledfryn, Penygroes, yn ei ffordd ddeheuig arferol. CyflwyHwyd y swm arferol "r bechgyn, pa rai a ddiolchasant yn garedig ,j'r pwyllgor am eu sel a' u parch tuag atynt. Angeu'n Medi.-Yr wythnos dd,iweddaf, bu pedair angladd yn y lie uchod, a heSryng- wyd cyfeillidn cu i gyrrau'r wlad lie mae'r wybren fyth yn glir. Ni wnawn roddi manylion ynglyn â hwynt, ond dymunwn i'r galarwyr wenau'r Nef yn eu hadfyd. Os ydym yn colli cyfeillion ar y ddaear, melys meddwl fod yna Un yn aros yn Dad, yn Frawd, yn Ffrind ac yn Gariad ar gyfyng ddydd marwolaeth. Efengyl y Groes.-Saboth diweddaf, darfu j'r bardd a'r lienor hyglod, Mr. S. Gwyneu- fryn Davies, Cwmcoch, Penygroes, lanw pulpud yr enwad yn y lie uchod. Cafwyd odfeuon gwlithog, ac eneiniad y Nef yn amlwg ar y pregethau. Mae Gwyneufryn wedi ei basio i bregethu gan yr Enwad yng Nghwrdd Chwarterol Llanelli, ychydig amser yn ol. Nid oes eisiau i mi ganu clodydd y gwr da uchod; gwyr pawb am ei gymhwys- derau aÏ set dros achos y Meistr Mawr. Deallwn ei fod i bregethu yng Nghwmgwili y Sul nesaf. Llwyddiant, frawd. Gwyl Ddewi.-Sadwm- nesaf, yn Festri y lie uchod, cynhelir eisteddfod i ddathlu Gwyl Ddewi. Cawsom ar dc; :all fod nifer fawr o gorau o bob rhan o'r wlad wedi pender- fynnu cystadlu ar y prif ddarn. Mae' r ornest i fod yn un galed, fechgyn. Deallwn hefyd fod yna argoelion da am gystadleuaeth yn yr adran-nau eraill. Ni chlywsom faint sydd i fewn ar y bryddest; pur debyg fod y beirdd wedi torchi ati. Cymerir y gadair yn brydton am 5 o'r gloch gan Mr'Rhydfab Rees. Mae swn traed tyrfaoedd yn tyrru tua'r lie ers ciyddiau. Os am wledd na cheir ei chyffelyb eto yng Nghymru, ewch yno y Sadwrn nesaf. Drama.—Nos Sadwm diweddaf, cafwyd perfformiad o' r ddrama, "Y Prentis Plwyf," gan Gwmni Dramayddol Caerbryn a' r Blaenau yn Ysgoldy'r Cyngor, Blaenau, pryd y cadeiriwyd gan Mr. T. Morgans, M.E., Penygroes. Cafwyd arai,th hyawdl gan Mr. Morgans o'r gadSir, yn yr hon y dywedodd y dylasai r bechgyn ieuainc ddat mantais ar eu cyfieusterau i hyrwyddo achosion da; fod gwell mantais ganddynt nag oedd gan ein tadau pan oeddent yn gweithio naw a deg awr. E-ithaf gwir, nid ydym well o gael oriau byr os na wnawn well defnydd ohonynt. Yr oedd y Ile yn orlawn, a'r elw yn mynd i ddau frawd sydd wedi colli eu hiechyd ers amser maith. HEDYDD Y BORE.

ODL CROESAWI .I

DYCHWELIAD Y MILWR. I

I Y SOSIALYDD GLOFAOL, i

I 'CYFLWYNEDIG

MILWYR ABERGWILI.

SUDDEN DEATH AT BRYNAMMAN.

GLANAMAN.

N.S.P.C.C. AND CHILD NEGLECT.