Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

[No title]

[No title]

Meysydd Lien a Chan.

Llwydd Cywirdeb; neu, Arthur…

Advertising

0 Benygroes. 0I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Benygroes. 0 I Ie, o Benygroes. Pa bryd o'r blaen? Mawi cyn lleied o hanes y cylch ymddangos- odd ar tudalennau'r Cronicl y misoedd aethant heibio. Beth ddaeth o ohebwyr dawnus fel Ehedydd y Bryn," Eryr Bane y Rock," Sannan," Gweledydd," Wil Hopcyn," ac eraill? Chwith oedd gennym eu colli. Hoffem ddarllen eugwaith bob amser. Y Sul cyn y diweddaf, cynhaliodd Eglwys Calfajia (B.) ei chyfarfodydd pregethu. Gwasanaethwyd yno gan y Parchn. D. R. John, Porth, a T. Thomas, Carmel. Cafwyd ganddynt bregethau grymus ymhob oedfa, i gynulleidfaoedd mawrion. Bachgen o'r lie hwn ydyw Mr. John. Bu am flynyddoedd yn aelod ffyddlawn o' r eglwys uchod. 'Roedd yn dda calon gan ei lu cyfeillion ei weled, a deall ei fod yn dod i r amlwg fel pregethwr gyda'i enwad. Gyda llaw, un o rianedd tecaf y fro yma ydyw ei annwyl briod. Eiddunaf iddynt ill dau a'r teulu bob llwyddiant. Gwr tyn fel datganwr ydyw Mr. Dyfnant Da.. Mae'n bleser calon gennyf ei lon- gyfarch ar ei fuddugoliaeth odidog yn Eis- teddfod y Tumble, y Sadwm cyn y diweddaf. Hefyd am ei lwyddiant yn Eisteddfod Aber- gwili, yr un wythnos. Tristawyd y gymdogaeth prynhawn dydd Gwener, pan gyfarfyddodd y braw d annwyl, Harri Nicholls, a damwain angeuol ar groes- ffordd y pentref. Pan yn dyfod o heol Castellrhingyll ar ei feisicl, daeth i wrth- darawiad a cherbyd ddigwyddodd ddyfod yr un pryd o'r pentref. Cafodd ei anafu mor enbyd fel y bu farw ymhen rhyw ugain munud. Yr oedd yn adnabyddus iawn y ffordd hon. Bu'n byw yma'n hir, cyn symud gylch Llangadog rhyw ddwy flynedd yn ol. Cydymdeimlir yn fawr a'r weddw a'r plant yn eu galar a'u trallod. Mae' n syn gennyf mat dim ond un bywyd sydd wedi ei golli ar groesffordd mor beryglus a hon. Fe vvyr y cyfarwydd fod mur uchel y fynwent yn rhwystro pobl i weled o un heol i r llall. Gwna hyn ddamwain bron yn anocheladwy pan gyferfydd dau yn dyfod o 'r cyféiadau a nodwyd. Tybed a ydyw yn bosibl tynnu mur y fynwent i'r hanner, a gosod rhywbeth aran ellid gweled trwyddo, y.i ei lie? Dyna'r ffordd diogel i osgoi drwg ya y dyfodol, ynte? Fe aeth tyrfa oddiyma i fwynhau' r per- fformiad o'r ddrama boblogaidd, Ephraim Harries," yn Neuadd Cross Hands, nos Sad'/rn. Clywais fod pethau'n mynd yn rhagorol yno. Canmol sydd ar Mr. Dan Mathews a'i barti ymhob man. Lwc dda iddo. Y mae r streic wedi rhoddi cyfle ardderchog i lawer o weithwyr i dynnu'r aTdd, fel y dywedir. Rhywbeth fel arfer ydyw'r cnydau y ffordd hon eleni eto. Y mae llawer o ddynion da wedi cael tato pwdr, a llawer o ddynion pwdr wedi cael tato da. Synnwyd fi yn ddiweddar iseled oedd pris y gwnmgod. Gwerthwyd hwy o amgylch y drysau gan rhyw bobl am dri swllt y par. Deuent yn rhatach po fwyaf a brynent. Cynygient dais am dri a chwech, a phe prynech hanner dwsin, hwyrach y cawsech hwynt am ddim. Methai'r gwragedd hefyd a deall sut y gwerthid hwy aled A oedd y gwningod yma'n bwyta blawd, e? Pan ar daith, pa ddydd, gwelais hysbys- lenni ac amynt hysbysiad o gyrddau diolch- garwch a gjmhelir mewn amryw o fannau gan yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd yr hysbys- lenni wedi eu hargraffu yn yr iaith Saesneg, Saesneg I cokerl Fe ddywed rhywrai wrtlmn mai hon yw Hen Eglwys y Cymry -vt, Fam Eglwys." Naf Na! 0 f na, nid I Saesnes oedd mam, taw beth II OWAIN LLEWELYN. I I I

Advertising

PRYDDEST-" HEDDWCH." I

Advertising

• •<.- • - I Tirydail, -"Amanford.

ILlarftiovery Eisteddfod.

Advertising