Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

DAN Y GROES

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAN Y GROES HELYNTION TEULU ADWY'R CLAWDD. PENNOD XXXVI. Cyfarfyddiad y Ddau Filwr. Wei, Cecil, ebai Sadi, rhaid i chi beidio cynhyffu felna, neu d'dowch chi byth i fendio'n iawn. Treiwch ddal yn llonydd nes y byddwch wedi cryfhau tipyn, da chi. Rhowch chwara teg i mi Sadi, ebai Cecil, mi fydda i yn well o 1awar wedi cael gollwng yr hyn sydd ar fy meddwl allan, byddaf wir. Raid i chi ddim ofni dim, yr wvf yn bownd o fendio rwan. Tj-dw i ddim yn erbyn i chi gael chwara teg, ebai Sadi; ond meddwl roeddwn i y buasech yn gwneud cam a chi'ch hunan wrth gynhetlio fel hyn, ac y mae'r nyrs wedi peri i mi fod Y11 fyr fy arhosiad. 0, ydi hi'n wir, ebai Cecil. Wei y mac'n dda iawn gen i gael eicli gweld, ydi vvir. Mi rvdych wedi bod yn ffeind iawn wrtha i, Sadi. Peidiwch a son, ebai Sadi, neis i ddim byd ond fy nyledswydd. 0, do, ebai Cecil, fe euthoch allan o'ch ffordd i arbed eich gelyn. Naddo, naddo, ebai Sadi, arbed cymrawd a wnes; tydi Prydeiniwr yngwisg y Brenin ddim yn cofio y bywyd preifat. Mae'r mil wyr yn gymrodyr i gyd Cecil. Nid i gyd, Sadi, ebai Cecil, nid pawb fasan gneud y peth ddaru chi neud, rwy'n siwr o hynny. Mae'n gwestiwn gen i a faswn i yn i neud o hefo chi radeg hono. Diar mi, Cecil- ebai Sadi wedi ei synnu. Fasa chi ddim yn fy helpu pe mewn perig? Dw i ddim yn meddwl y baswn, a deud' y gwir, ebai Cecil, yr adcg honno; ond mi faswn yn gneud rliw. bath fedrwn i rwan. Wei, wel, chlowis i'r fath syniad o'r blaen, ebai Sadi. Pttm ha ftias- ech yn gallu fy helpu vr adeg honno Cecil ? A deud y gwir wrthych Sadi, ebai Cecil, rown in meddwl nad oedd yna run diafol gwaeth 11a chi yn y byd i gyd, ac yr oeddwn yn meddwl eich bod wedi gneud y tro sala y mcdrai dyn ei neud trwu ddwyn Dorothy oddiarnaf. Rown i wedi tyngu pryd bynnag y deuai'r cyfla y baswn i yn talu'r pwyth yn ol costied a gostiai, ie, pe buasai raid i mi eich Uadd nid oedd o bwys gennyf. Yr ydych yn fy synnu, Cecil, ebai Sadi. Rowii i'n meddwl fod mwy o ddyn ynoch na hynny. Fe ddylech wybod nad oedd Dorothy i fod i chi neu buasai wedi glynu wrthych, ac ni ddylai peth o'r fath greu y drwg- deimlad yna mewn unrhyw ddyn. Be xviiewel-i chi i ddyn oedd yn ei charu a chariad cyflawn ? Fedrwn i yn fy myw, ebai Cecil, a'i ddagrau yn rowlio hyd ei ruddiau- weled dim ond lleidr anrhugiarog ynoch yn ei chymeryd a chithau yn gwybod ein bod yn canlyn ein gilydd, a dyna pam yr oeddwn wedi eich gneud y gelyn pena oedd gennyf ar y ddeuar yma. Wel, wel, ebai Sadi, na feindiweh, Cecil, ni wnaiff meddwl am betha felna unrhyw les yn awr. Yr ydych yn fyw a gobaith cael eich adfer i'ch cyncfin iechyd genvch. Ydwyf siwr, ebai Cecil, ac y mae'r cwbl oherwydd eich gwaith chi yn riscio eich bywyd. Faswn i ddim yma i ddeud y stori hcd1yw onibai am danoch, ac y mae eich gwmth wedi troi popeth? y chi beHpch fydd y ffrind mwyaf gennyf, a byddaf dan rwymall i'ch parchu am byth. Mae'n dda gennyf glywed, ebai Sadi, a bydd yn bleser gennyf gael gwneud unrhyvv betli i'ch helpu'n mlaen. Mi faswn yn caru ciel, deud un peth wrthych, ebai Cecil, os medra i ddeud hynny yn iawn. Os mai (1 wyn Dorothy a wnael4ro?h ar y .cynta, yr ydych wedi ei hennill yn deg rwan. Roedd hi yn eneth rhy deb i'm bath i; ond fe gaiff ddyn gwerth i ymddiried ynddo pan yn eich cael chi. Gobeithio y cewch eich cadw yn fyw i fynd ati hi, ac y V, cewch bob bendith ar cich bywyd. Diolch 3Tn fawr i chi, ebai Sadi. Rwy'n gweled fod y siarad yma'n deud arnoch, ac mai gwell i mi fydd- ai m- nd. Peidiwch mynd am funud Sadi, ebai Cecil. Ydi lihad" yn fyw o hyd djeudwch ? Ydi am a wn i, ebai Sadi. Chlowis i ddim yn amgenach'. Fyddwch chi yn cael gair oddi cartra, weithia? Byddaf yn awr ac yn y man. Fvddwch chi yn anfon yn ol hefyd ? Bvddaf, rwyf vn gneud he no, Cecil. Newch chi holi am fy nhad, a deud fy mod i yma wrthynt?, Gwnaf siwr, 'ebai Sadi. Ga i ddeud eich bod yn cofio ato, Cecil ? Cewch, Sadi, a dcudwch wrtho fod' y rhyfal wedi dwad ai fab drwg i'w senus, ac na fydd; bywyd byth yr un peth idclo eto. Rhoswch, rwan, yda chi ddim yn meddwl, ebai Sadi, y basan well i mi anfon yn syth at eich tad? O'r gora, os byddwch cystal, ebai Cecil, mi gawsai well effaith, -v-y n meddwl. Ilac arna i eisiau cael dod yn ffrindia hefo nhad, ces Y11 wir. Fe wnaf' Cecil, ebai Sadi. Piti garw oedd i fy mam druan farw cyn i mi (Iroi Yii hogun da, 3-lite Sadi ? Waeth heli son am betha felnaj Cecil. N.a waeth, mae'n wir, ebai Cecil; ond y mae'r hen gydwybod yma'n chwara'r andros hefo mi am i mi boeni fy mam druan i'r bedd gyda'm diygioni. 0, bobol anwyl, mi fum yn hogun gwirion. Rwan, rwan, ebai Sadi, rhaid i chi feddvvl am y gora, a byw yn dda rhagllaw, achos bydd hynny yn help i'ch mam fwynhau v nefoedd y mac ynddi yn well. Rwy'n mynd rwan, Cecil, daliwch eich calon i fyny, fe ddeuaf yma eto yforu. Diolch yn fawr i chi, Sadi, byddaf yn disgwyl am danoch. Dydd da i chi. Dydd da, Cecil. Yr oedd y nyrs broil wedi colli ei hamynedd yn disgwyl am Sadi; ond ofnai wneud dim i'w ddigio, gan fod s-i lygaid a'i ymddygiadau wedi cy meiyd meddiant llwyr ohoni. Sut yr oeddych yn ei weled, ebai wrtho. 0, mae'n gwella'n dda, ebai Sadi. Byddwch dyner ohono, a Duw a'ch bendithio. Yr wyf am ddoid i edrych am dano yforv eto. Da iawn, ebai'r nyrs, mae crocso i chi ,alw yma pan y mynoch. Dydd da, ebai Sadi. Dydd da, syr, ebai y nyrs Nid hawdd oecld gwybod pran ai y nyrs vnte Cecil oedd a'u meddwl fwyaf am Sadi. (I'w barhau).

MARW SOSIALYDD HYNOD. I

- j MILWR COES BREN. .,1

ISAFLE'R GYDWYBOD.

[No title]

CELL Y LLYTHYRAU.

IYSGOL FELGIAIDD.I

CYNGOR -PRESTATYN..

LLAFURWYR CHINEAIDD,

ARGLWYDD ROBERTS A CHYDWYBOD.

[No title]