Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. Caernarfon, Mai 20.-Ymenyn, Is 4c y pwys; wyau, 10 i 11 am Is; ffowls, 4s 6c i os 6c y cwbl; pytatws, 6s yr 112 pwys. Pwllheli, Maiol7. Ymenyn, Is 3c y pwys; wyau, 10s am 120; moch tewion, 8.1 c y pwys; perchyll, 34s i 40s. Yr oedd gofyn mawr am danynt, ac aeth rhai ohonynt mor uchel a 42s.
Family Notices
GENt. PRiODI. MARW. PRIODI. Parry—Howard—Mai 16eg, yn Llanbeblig, Sergeant-Major Robert Parry, 2, Pool Side, a Miss Margaret Ann Howard, 35 Crown Street, y ddau o Gaernarfon. Evans—-Jones—Mai 17eg, yn Llanbeblig, Mr T. E. Evans, 35, Dinorwic Street, gyda Miss Lily Mary Jones, 21, Pool Hill, y ddau o Gaernarfon. MARW. Thomas—Mai 19eg, yn 44 mlwydd oed, Mr David Thomas, Penycae, Llanrug (Pen- ygreuor gynt). Rcberts-YIai 16, yn Essendon Gwrecsam yn 75 mlwydd oed, Mrs Catherine Ro- berts, gweddw Mr Henry Roberts, Pen- isa'rwaen, Nantglyn, ger Dinbych. C laddwyd ym mynwent y Waen, Nanfe- glvn, Mai 18fed.
LLAFUR YN. RHYL.
LLAFUR YN. RHYL. AIL GYNHADLEDD LAFUR GOGLEDD CYMRU. UNOLIAETH A BRWDFRYDEDD. Yn y Brigade Hall, y Rhyl, ddydd Sad. wrn, Mai 20fed, am 11 a dau o'r gloch, cynhaliwyd cyfarfodydd ail Gynhadledd Lafur Gogledd Cymm. Mr R. T. Jones, Ysgifennydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, lywyddai air y ddau gyfarfod. Yr oedd 47 o gynrychiohvyr yno, a chafwyd cyfarfodydd trefnus, unol, a brwdfrydig. Enwau y cynrychiolwyr oeddynt:—Undeb Mwnwyr Gogledd Cymru: Mri Hugh Hughes, Gwrecsam; Joseph Rogers, New Broughton; ElliR Hughes, Gwreesara; Frank Blackwell, Bagillt; William Evans, Summerhill. Gwyr y Peiriannau a'r Berwedyddion: Mri Thomas Watson, Gol- borne; William Forshaw, St. Helens; E. Lloyd, Gwrecsam; W. H. Gittins, Ponc- iau. Tanwyr: Mri John Witter, Gres- ford; James Humphreys, Bilston. Gweithwyr Pennau'r Pyllau: Mri Thomas Evans, Rhostyllen; Frank Hampson, Johnstown, T. H. Bayley, Brymbo; John W. Williams, Ponciau. Clarcod a Phwyswyr: Mr Fred Williams, Ponciau. Chwarelwyr Gogledd Cymru: Mri John H. Jones, Llanberis; R. T. Jones, Caernar- fon; R. R Jones, Bethesda; Joseph Wil- liams, BI. Ffestiniog; Evan E. Morris, Llanllyfni. Gwyr y Ffyrdd Haeam: Mri George Gregory, St. Helens; J. Phipps, Ormskirk; T. E. Taylor, Bangor; C. H. Rawlinson, Bangor; Evan Williams, Caernarfon; Thos. Williams, Dinbych; Ro- bert Griffith, Caergybi; G. H. Edwards, Llandudno Junction; Wm. Pugh, Saltney Ferry. Docwyr (Undeb Sexton): Mr W. Pritchard, Bethesda. Gweithwyr y Doc- iau a. Glannau'r Afonydd: Mr W. H. Ben. nett, Connah's Quay. Gweithwyr Nwy: Mr Charles Dukes, Warrington. Undeb y Gweithwyr: Mr George Titt, Mancein- ion. Paentwyr: Mr George Swinglev, Gwrecsam. Pobwyr a Cliyffeithwyr: Mr J. C. Jones, Rhyl. Undeb yr Athrawon: Miss Jones, Conwy Mri J. H. S. Stevens, Llandudno; J. H. Adkins, Penarlag; R. T. Evans, B.A., Connah's Quay. Gweis. ion Bwrdeisiol: Mr Tom Cochrane, Man- ceinion. Cyngor Llafur Sir Gaernarfon: Mri Wm. Williams, y Felinheli; Robert Owen, Caernarfon. Cyngor Llafur Gwrec. sam: Mri J. E. Rogers, Broughton; Ed. i Ward Williams, Rhostyllen; ynghyda Mri David Thomas, Talysam (ysgrifennydd), a John E. Thomas, Pen y Greos, (brysor- ydd). CYFARFOD Y BORE. n e'1 I I r I ?<nwvu anercmau ier a cnynhwvStawr gan y Cadeirydd. Yr oedd Mr Arthur Peters, Swyddog Cenedlaethol y Blaid Lafur, yno ar ran y Blaid, a chyflwynodd ddymuniadau da ei Bwyllgor Gweithiol i'r Gynhadledd. Pasiwyd i sefydlu Cyngor Llafur Gog- ledd Cymru. Ei amcanion fydd:-(a) Cydio Cvmdeithasau ac Undebau Llafur Gogledd Cymrn yn ei gilydd, in gefnogi a chynorthwyo y naill y llall; eu cadw mewn cysylltiad agos a symudiadau ei gilydd, ac a r cymdeithasau mawrion cenedlaetbol- sef Cyngres yr Undebau Llafur, Undeb Cyffedinol yr Undebau Llafur, a'r Blaid Lafur. (b)Helpu i ffurfio Cymdeithasau ileol i gydweithredu a'r Gyngres i gyflawnj ei hamcanion. (c) Cynhyddu aelodaeth yi Undebau Llafur, a, helpu i ffurfio canghen nau newyddion lie bynnag y barn^'i Pwyllgor y byddai hynny'n fuddiol. (d) Casglu gwybodaeth a chyfarwyddo a chy northwyo Cymdeithasau cysylltiedig i godi a chynnal safon cyflog a bywoliaeth y gweithwyr yn y cylch. (e) Hyrwyddo etholiad Cynrychiolwyr Llafur ar bob Cyngor Cyhoeddus. (f) Canolbwyntio a datgan barn y dosbarth gweithiol vng Ngogledd Cymru ar fesurau Seneddol a mesurau eraill, sydd yn ymwneud a budd iannau a chynnydd y werin. (g) Cefnogi ffurfio Dosbarthiadau Addysg y Brifvsgol, a phob moddion a rail i ddwyn addysg o fewn cyrraedd y gweithwyr a'u plant, (h) CreTi bani gyhoeddus o blaid hawliau'r gweithwyr. Pasiwyd Rheolau a Chyfansoddiad y Cyngor Llafur newydd. Etholwyd Mr Hugh Hughes (Mwnwyr). Gwrecsam, yn llywydd am y flwyddyn ddyfodol, a Mr S. Catherall, Caernarfon, yn is-lywydd. Etholwyd Mr David Thomas, Tal y Sarn, yn ysgrifevuydd, a Mr J. E. Thomas, Pen y Groes, yn dry- sorydd; a Mri John Minns, Caer, a Tom Coohrane, Manceinion, yn archwilwvr. Dewiswyd y Pwyllgor fel y canlyn:—Mri DaviiJ .Tnnos, Tfynon Groovr; T? T. T,)p .i^'rnaiiao -!I>liTI vv Williams, Poncian; John E. Rogers, Gwrecsam; George Titt, Manceinion; Wm. Williams, y Felinheli; Edward Williams, Rhostyllen; ynghyda'r pedwar swyddog. Pasiwyd fod y Gynhadledd nesaf i'w chynnal yn Llandudno fis Mai, 1917. Mr R. T. Jones a Iywyddai, a galwodd ar Mr Peters i annerch yr hwn a ddywed- odd ei fod wedi ei gyfarwyddo gan ei bwyllgor i hysbysu'r symudiad yng Ngog- tedd Cymru ei fed mewn cydymdeimlad perffaith, ac yn barod i rodui cynorthwr llawn. Yr oedd yn bresenol yn y bore, ac yr oedd y gwaith yno yn mynd ymlaen mor rhwydd a didramgwydd fel mai ychydig iawn a gafodd ef i'w wneud. Hyderai, wedi cychwyn mor llewyrchus, y byddai adroddiad o waith y flwyddvn ddyfodol i'w gyfhvyno yn Llandudno yn cofnodi blwydd. yn o waith llwyddiannus a diddorol. Pwysleisiai'r ffaith ar y cynrychiolwyr fod yn ddyledswydd arnynt i ddychwelyd i'w lie eu hun a gweithio'n ddiwyd yno i gadw ysbrvd brwdfrydig y Gynhadlcdd i fynv ymhlith y gweithwyr. Yr oeddym yno fel cynrychiolwyr dewisedig y bobl, a dy- tedswyddau pwysig yn goiffwys ar ein hysgwyddau i roddi byi^yd ac egni yn y symudiad. Yr oedd rhagfarn a cham- ddealltwriaeth yn bodoli ynglyn a'n del- frydau a'n hamoanion. Ein dyledswydd ni ydoedd dileu yr amlieuon liyn, ac ond i ni weithio'n onest ac egniol y maent yn eicr o ddiflannu yn araf deg. Rhaid i ni greu barn gyhoeddus iachus trwy anfon ein cynrychiolwyr ar y Byrddau Lleol, a thrwy hynny wneud,daioni parhaol. Y dynion goreu ddylai gael eu hanfon gen- nym i'r gwaith hwn. Yr oedd yn llawen- ydd i'r Blaid yn Llundain weled y symuct iad yn cychwyn yn natnriol o'n mysg ni ein hunairij ac nid trwy eu hymvriad lnvy 0 Lundain. Yr oedd yn llawenydd mawr iddo ef a'i gymrodyr weled fod yng Ngog- ledd Cymry ddynion a fedrai drefnu yn fedrus ac effeithiol, ac fod yr awydd mor gryf am weled cynnydd i achos Llafur yn y cylch. Yr unig ffordd y medrir disgwyl llewyrch ar y mudiad vdvw hvrwyddo'r I.J gwaith trwy ymdrechion lleol. Yr oedd yn falcli o gael y cyfle i longyfarch y pwyllgor ar eu parotoadau gofahis a deallus ynglyn a chynllun rheolau a. chyf- ansoddiad. Dywedai na chvtunai ef a'r bobl hynny a gredai nad cyfaddas yr amser pryderus hwn i adeiladu cyfundrefn newydd, oherwydd bydd arnom angen mawr am gydweithrediad pan cldelo heddwelt, a rhaid i ni hogi'r arfau a threfnu ein cadlysoedd ar gyfer y frwydr fawr sydd o'n blaenau pan dawo rhu'r magnelau. Dymunai bob llwyddiant i ni, a cliyflwynai ar ran ei Gyngor Gweithiol fendith y Blaid Lafur ar ein hymdrechion. CYNGHORION BUDDIOL. Sylwodd y Cadoirydd (Mr R. T. Jones) fod nifer y cynrychiolwyr eleni yn Ilai o dipyn; nid oherwydd diffyg diddordeb yn y mudiad, ond yn unig oherwydd y rhyfel. Y mae teimlad cyffredinol ymysg y gweithwyr fod digon i'w wneud yn ystod y rhyfel, ac na fedrem fforddio oedi heb ei gyflawni hyd nes cyhoeddi heddweh. Rhaid i ni wynebu problemau ar ol hyn na f reiyrldwydiwyd am danynt cyn dechreu y rhyfel, heb son am y frwydr fawr fydd yn rhaid i ni ei hymladd i ad-ennill y tir a gollwyd. Y mae Undebiaeth Llafur wedi ymddiried llawer i addewidion, a thrwy hynny wedi colli llawrer o'i breint- iau. Ni cheir hwynt yn ol heb frwydro caled. Cyhuddir ni o ddiffvg gwladgar. wch os meiddiwn feirniadu, ond nid oes ddosbarth yn y wlad wedi aberthu cymaint yn yr argyfwng hwn a'r dosbarth gweith- iol. Y mae gan y gweithwyr hawl i wrandawiad, ac ni ddylai fod yn ddistaw os oes ganddo gwyn. Wrth edrych i'r dy- fodol teimlai fod un broblem yn anad yr un yn un ddyrus iawn. Y mae miloedd o aelodau Undebau Llafur yn y Fyddin, a miloedd o aelodau newyddion wedi llenwi eu lie. Bydd gan yr Undebau eu dyled- swydd tuagat y naill a'r llall pan ddych- welo'r milwyr i ymgymeryd a'i galwedig- aetliau. Yr unig ffordd i ddadrys y dyr. yswch fydd paratoi ymlaen Haw ar ei gyfer. Rhmd i ni sydd adref bwyso'n ddi- ildio ar y Hywodraeth i wneud ei dyled- swydd yn y cyfeiriad yma, trwy barotoi gwaith ar gyfer y dynion pan ddaw terfyn ar eu gwaith yn y Fyddin. Cynnygiwyd gan Mr Hugh Hughes, dros Undeb Mwnwyr Gogledd Cyml"u:- "Fod y Gyngrel lion yn teimlo'n gryf oherwydd gwaith y Bwrdd Masnach yn tynnu'n 01 y chweched ran a ad-delid i Undebau Llafur o Fudd Dilfyg Gwaith yn 01 Adran 106 o Ddeddf Yswiriant Genedl- aetliol 1911. Yr ydym o'r fain nad yd- yw'r 'rhesymau a roddir, sef Cynildeb Rhyfel; yn ddim amgen nag esgus dros atal yr ad-daliad yn gyfangwbl, a dymun- wn sylwi ar y ffaith fod y Llvwodraeth bob aniser yn disgyn ar y gweithwyr pan fo arni eusiau cvnilo, tra mae llawer o ddyn- ion mewn safleoedd uehel yn cael inn-yn-liati eu taliadau a'u hen freintiau megis cyn v rhyfel; 3. dylid ,'ralw am aoorth oddiwrthr ¡ yr.t liwy cyu i>eidio ,taltilii ol Fudd Diffyg Gwaith i'r gweithwyr." Dywedodd Mr Hughes fod y mater hwn wyddai'r chwarelwyr, er engraifft, ddim .yn effeithio ar y mwnwyr mewn modd na am dano. Yr oedd ei gymdeithas ef yn talu ar gjfartaledd ryw dair mil o bunnau o Fudd i'r Di-waith bob blwyddyn. Budd- soddodd ei gymdeithas ddeng mil o bunnau yn yr Echwyn Rhyfel, a thelid Hog syl- weddol iddynt am hynny, ond atelid dau gant 0 bunnau oddiarnynt gan y Llywod- raeth o arian yr arfei-ai eu talu iddynt. Nid safle'r fasnach sydd yn penderfynu swm y diffyg gwaith yn y pyllau glo bob amser, gan fod llawer o weithwyr yn cael eu liatal oherwydd cwympiadau ac achos- ion cvifelvb. Felly nid oedd haeriad y Llywodraeth fod cost Diffyg Gwaith i'r Undebau yn fychan ar hyn o biyd yn gywir yn ei berthynas a'r mwnwyr. Ofnai mai esgus oedd hyn dros atal yr ad-daliad yn gyfangwbl yn y dyfodol. Gallai'r Llywodraeth gynilo mewn llawer cyfeiriad amgenach na hwn. Dywedid nad oedd dim troseddau yn y wlad, ac eto teithiai'r Barnwyr o gwmpas yn eu cylchdeithiau fel o'r blaen. Gwariai'r Llywodraeth lawer o arian yn ddi-fudd ar wisgoedd ffansi i'r gweithwyr yn y ffatrioedd Cad-ddarpar. Cefnogodd Mr George Titt. Dywedodd fod ei Undeb ef wedi codi Budd Diffyg Gwaith i'w aelodau i 12s yr wythnos yn lie 10s ar bwys addewid y Llywodraeth mewn Deddf Seneddol i ad.dalu'r chwech- 'ed ran.' Yn awr, yr oedd y Llywodraeth yn torri ei haddewid, a'r Undeb yn ei golled o 2s yr wythnos am bob aelod Di- waith hyd nes niedi-u oliono newid ei Reol- au. Sonid llawer y dvddiau hyn am "Ddarnau Papur, ond yr oedd yr addewid hon o eiddo'r Llywodraeth yn gymaint o ddarn papur y dylid ei an- rhydeddu a'r cytundeb i amddiffyn Bel- gium. Pasiwyd y penderfyniad. Cynnygiodd Mr George H. Edwards, Llandudno Junction, y penderfyniad a ganii,n: "Y dylai pawb a droir o'r Fyddin a'r Llynges oherwydd colli ei iechyd mewn rhyw fodd. dderbyn lawn-dai." Dywedodd fod yr un sylwadau i'w cym. I iin s wyso at ymddygiad y Llywodraeth yn y mater hwn ag yn y penderfyniad o'r blaen. Yr oedd addewidion wedi eu gwneuthur, ond yr oedd yu amheus i, oeddynt yn cael eu cadw. Clywsai am lawer achos oedd yn adlewyrchu'n anffafriol iawn ar an- rhydedd y Llywodraeth. Dylem sicrhau gwell amodau i'r arwyr clwyfedig nag a wnaetlkom yn rhyfeloedd y gorffennol, ac nid gwneuthur addewidion a'u torri. Cefnogwyd gan Mr Charles Dukes, a, phwvsleisiodd y pwysignvydd 0 gael cyn- rychiolaeth ddigonol i Lafur at- Bwyllgor- au'r Pensiynau Rhyfel oedd yn cael eu sefydlu ar hyn o brvd. Edrychai'r dos- barthiadau eraill yn ofalus ar ol eu budd- iannau eu hunain ,ac yr oedd lie i ofni fod cyflogwyr yn manteisio'n annheg ar y ffaith fod milwyr yn derbyn pensiynnau, er mwyu talu llai o gyflog iddynt. Siaradwyd ymhellach gan Mr J. W. Wi]_ liams. Dywedodd fod cyflogwyr yn addaw'n wladgarol ia,wn yn nwhreu'r rhyfel y cymerent eu gweithwyr yn ol pain ddychwelent o'r rhvfel, ond daethai achos i'w sylw y dydd o'r blaen o ddyn yn cael ei wrtliod am nad oedd yn atebol i'r gwaith, er gwaethaf yr addewid a roddwyd iddo. Darllenodd y siaradwr lythyr a dderbyniwyd oddiwrth wraig milwr a goll- odd ei iechyd yn y fyddin, ac am ei bod heb dderbyn yr un ddimai o'r Swyddfa Rhyfel, erfyniai am gymorth ariannol gan yr Undeb. Ar ol i Mr George Titt giarad ymhellach, sylwodd Mr T. E. Taylor fod achosion i'w cael o fihvyr yn gorfod talu i'r Llywod- raeth am y gwasanaeth meddygol a gaw- sent yn yr ysbytai ar ol eu elwyfo, a gwrthodid a-hyddhad iddynt o'r fyddin nes talu'r arian. Pasiwyd y penderfyniad gyda brwd- frvdedd. Cynnygiodd Mr J. Phipps:— "Y dylai'r Llywodraeth roddi benthyg ngain miliwn o bunnau y flwyddvn tuagat r ddarpa.ru Tai Cymwys i'r dosbarth gweith- iol. Dywedodd mai ar y dosbarth gweithiol yr oedd llwyddiant y iliyfel hwn yn di. bynnu, ac yr oedd yn gywilydd i gyin- deithas eu gorfodi i fagu eu teuluoedd mewn tai mor seilion. Dyledswydd VI, Undebau Llafur oedd pwyso ar y Llywod- raeth i symud ymlaen i ddarparu gwell tai ar gyfer y genhedlaeth nesaf oedd yn tyfu i fyny. j Cefnogwyd gan Mr George Gregory, a phasiwyd yn unfydol. Cynnygiodd Mr J. E. Thomas y pender- fyniad a ganlyn "Fod y Gynhadledd yn Rylweddoli fod llwyddiant cenedl yn dibvnnu i raddau helaeth "Sr gyflenwad o .ddinasyddion ieu- ainc, wedi eu hyfforddi'n dda ar gyfer pob rhwymedigaeth genedlaethol, ac felly yn datgan yn gryf, beth bynnag a fyddo'r nngen am i ni gynilo gydag addysg yn yr argyfwng presennol, y dylai safon addysg gael ei godi yn llawer uwch ar dorfvn y rhyfel nag ydoedd ar ei ddcehreu. < Dywedodd Mr J. E. Thomas fod yr aw- dvxrdodau lleol yn manteisio ar y rhyfel i gynilo'n annoeth ynglyn ag addysg ein plant. Yr oeddynt yn anwybyddu'r dy- fodol, ac yn sarnu ar dir nad oedd gan- ddynt hawl arno o gwbl, sef ar freintiau'r genhedlaeth sy'n codi. Y mae He i ofni nad yw'r awdurdodau yn gwneud yr egni a ddylent i lenwi lleoedd athrawon hyff- orddedig pan ymunant a'r fyddin a pher- sonau cymwys i'r gwaith. Gofidus iawn oedd ganddo weled arwyddion ymhob cyf- eiriad fod plant yn cael eu gollwng o'r ysgolion i weithio cyn cyrraedd yr oed nodir yn y Ddeddf Addysg. Yr ydym yn darparu yn helaeth a gwastrafflyd ar gyfer rhyfel yn gwario'n ddiderfvn ar arfau dinistrio. Ond y mae He i ofni nad ydym yn parotoi dim ar gyfer heddwch. Yn hytrach gadewir i ffug gynliildeb gloddio o dan sylfeini ein cymdeithas. Y mae ein colegau wedi eu halltudio, a'n hysgol- ion wedi eu troi yn ysbytai. Y mae'n hen bryd i ni ymatal, a cheisio ystyried y dyfodol a'r gwaith mawr o aiLadeiladu sydd o'n blaen. Y mae un cyfeiriad arall y cynhilir yn annoeth ynddo, sef Gwasan- aeth Feddygol i Blant yr Ysgolion a Bwydo Plant Anghenus. Enillwyd y di- wygiadan hyn trwy ormod o anhawsfcerau j ollwng gafael arnynt yn awr, ac ni ddylid canfatau i Awdurdodau Addysg gynhilo ar drau l ietJiyd a bywyd y plant. Yr ydym yn sicr o guro'r gelyn trwv rym arfau a. lluoedd, ond erys y ffaith mai'r genedl orfoleddus yw'r un sydd a'i gwerin yn ddeallus a goleuedig. Nid yw gwario ar addysg yn wastraff byth, ond y mae cynhilo yn ddiangen arno yn niwaid ac yn felldith. Cefnogwyd gan Mr J. E. Rogers, Ys- grifennydd Undeb Athrawon Sir Ddin- bych. Yr oedd Mr Rogers wedi mynd i drafferth mawr i gasglu ffigyrau i brofi fod Awdurdodau Addysg yn cvnilo ar hyn o bryd ar draul addysg y plant, a sylwodd fod plant y gweithwyr, oherwydd hynny, yn colli rhywbeth na cliaent byth mo'r cyfle i'w ennill yn ol. Gwnaeth sylwadau cyrhaeddgar iawn ynghlrh y gwahaniaeth I dirfawr sydd rhwng yr addysg a. gyfrennir I i blant y tlodion ag addysg plant y dos- barth canol. Yr oedd ganddo ystadegau manwl am y symiau .a wel-il. mewn amryw o siroedd yng Nghvmru, a disgwyliwn gael y ffigyrau mewn erthygl yn y "Dinesydd" oyn bo hir. Siaradwyd ymhellach gan Mr Stevens, Llywydd Undeb Athrawon Sir Gaernar. fon, a chan Mr Adkins dros Athrawon Sir Fflint, a. phasiwyd ef yn unfiydol. Cynnygiodd Mr Gregory, Llywydd Dos- barth Gogledd Cymru o Siroedd Caer a Chaerhirfryn, o Undeb Gwvr y Ffyrdd I Haiarn, v penderfyniad a ganlyn dros ei I Undeb:— "Fod y Gynhadledd hon o'r farn fod buddiannau cenediaethol yn hawlio i'r I ffyrdd haearn beidio myned yn ol i ddwy- Jaw preifat ar derfyn y rhyfel, oud v dylai'r Llywodraeth symud ymlaen yn fuan i'w pwrcasu yn eiddo'r genedl." Cefnogwyd y penderfyniad gan Mr Thomas Watson, a chariwyd ef. Cynnygiodd Mr David Thomas, yr Y& grifennydd, y penderfyniad canlynol: "Yn wvneb y ffaith fod Bwrdd Amaetli- yddiaeth yn bwriadu sefydlu tri o ran- diroedd o Fan-Ddaliadau, i osod milwvr a monvyr a ddychwol o'r rhyfel ar y tir. fod y Gynhadledd hon yn pwyso ar y Bwrdd sefydlu un o'r rhandiroedd hyn yng Nghymru." Cefnogwyd y penderfyniad gan Mr Fred Williams, a phasiwyd ef. Pasiwyd pleidlais o ddlolchganvch i'r Llywydd ar gvnnygiad Mri William Wil- liams, y Felinheli, a George Swingley, Gwrecsam.
Advertising
CYFARFOD Y PRYNHAWN. I Xahe's popular Cafe. BRIDGE STREET, CARNARVON Y LLE ,MWYAF CYFLEUS A CHYSURUS AM BRYD 0 FWYD GWIRIONEDDOL DDA. TJrfa Fawr 0 Gefnogwyr, a phob un a gair uchel am y lie. Defnyddir y Te Byd.Enwog Gold Medal yn unig. Pob Math 0 Ddanteithion Uwch- raddol am Brisiau Cymedrol. LA KE & Co., Ltd.: PERCHKNOGION I LAKE & Co., Ltd., Ca?n?on.
LLYS APEL ARFON.
LLYS APEL ARFON. Y DYFARNIADAU. liti eisteddiad o'r uchod yng Nghaernar- fon dydd Mercher, o dan lywyddiaeth Mr J. E. Greaves. Yn absenoldeb Mr Caradog Davies, gweithredai Mr Issard Davies fel cynrychiolydd milwrol. Apel- iadau y etnrychiolydd milwrol yn erbyn dyfamiadau Tribunal Lleol Gwyrfai yd- oedd mwyafrif yr aohosion ddygwyd ger- bron. Y DYFARNIADAU. '1.. Caniatawyd apeliadau y cynrycliioJya<j milwrol yn achosion Hugh W. Evans, 4, Glaslyn Terrace, Talysam; W. T. WiL liams, 4, Glanrafon, Nebo; W. J. Brown, Bwlch Uchaf, Llandinoi-wig; D. Llew. Jones, Corlanau, Ebenezer; James Jones, Braichtrigwr Uchaf, Carmel, a H. H. Ro- berts, Cefncoch, ond nid ydynt i'w galw i fyny hyd Mehefin 30. Gwnaed hyn hefyd yn achosion Owen T. Williams, 25, Beach Road, Felinheli; Wm. Roberts, Ty Fry, Llanrug; J. E. WTilliams, 35, Station Road, Talysarn, a Robert D. Roberts, Glandwi- Stores. i Llanberis, ond nid ydynt i'w galw i fyny hyd: Mai 31ain. Khoddwyd lhyddhad hyd Mehefin 14 i n. R. Hughes, Bryncrwn, Cwmyglo, a thri mis o ryddhad i Maurice Hughes, Shop Gerlan, Penygroes; O. R. Jones, 6, Well Street, Llanberis, a Gwilym Owen Edwards, Rhosddu, Llanrug. Gwrthodwyd apel y cynrychiolydd mil- wrol yn achosion Wm. H. Jones, Peny- bryn Gwyn, Ebenezer, a Wm. Roberts, Tanymarchllyn, Ebenezer.
Advertising
J. FLETCHER. LTD., MEMORIAL WORKS, CARNARVON a BANGOR. 8 _# Argraffwyd a chyhoeddwyd g.an Gwmni y Dinesydd Cymreig, Cyf., yn 16, Palace Street, Caernarfon.