Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

GORCHESTION CRISTIONOGION…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GORCHESTION CRISTIONOGION BOREOL. (Gan y Parch D. R. GRIFFITHS, Penmaenmawr) Testun gwir bwysig i bob gwir Gristion er y cyfnod, dyweder A.D. 500, ymhob gwlad y digwyddo yr Anfeidrol Fod osod unrhyw ddyn neu ddynes ynddi ydyw yr ticbod-Gorchestion Cristionogion yr oes oedd yn dilyn yr Oes Apostolaidd-yn Asia, i [wrop, a Gog!edd Affrig: testun teilwng o efrydiaeth y proffesor, yr ysgolhaig, yr hanesydd bydol, a phob dyn neu ddynes yn eu hiawn bw3-11! Fe ysgrifenwyd cyfrol- au lawcr ar y cyfnod yma—A.D. 100-500— gan hauesuyr fel Gibbon, yr anffyddiwr; Deon Farrar o Eglwys Loegr; a'r Parch John Pugh, B.A., Treffynnon; a'r Parch Hugh Roberts, Bangor; yr oil, ond Gib- bon, yn yr oes o'r blaen-nid oes fawr flwyddi ers pan yr hunodd y tri olaf yn yr angau; gobeithio fod Farrar, er yn ansicr ei feddwl gyda golwg ar Dragwyddol Gosb, ,-Wedi ysgrifennu llyfr "Eternal Hope," -wedi cyrraedd gwlad lie nad oes neb o'r trigolion n ansicr ei feddwl, fel rhai heddyw yng Nghymru a'r byd "Cristion- ogol" y tu allan i Walia, parthed yr hyn y mae Crist yr Hollwybodol wedi traethu yn glir a tberfynol arno—"Lie nad yw eu pi-vf liwynt yn marw na'rtân yn diffodd." Nid oedd amheuaeth o gwbl ym meddwl y Cristionogion boreol ynghylch tynged y gwrth-Griaiionogion yn eu hamser hwy. Credent mewn Gehenna, mor ddiysgog a Nefoedd o wynfyd; a, rhyfedd fod Cymro mewn oes fel hon yn cael ci flino gan am- heuon, neu yn sigledig, neu yn chwilio am olouni ychwanegol, pan y mae yr Holl- alluog, a'r Cyfiawn, a'r Trugarog Crist wedi darlunio y pwll diwaelod yn eithaf clir; mor glir fel vr oedd pob Ymneilltuwr rng Nghymru yn credu yr liyn y mae hyd yn oed y Tabydd heddyw yn ei gydnabod, -vn credu yn ddiysgog gyda'r Hen GorfF, a phob enwad arall o'r Ymneilltuwyr, hyd o fewn y 30 mlynedd diweddaf. "G-orchesrion Cristionogion boreol" ydyw y penawd yr ymdrechwn ei ddwyn gerbron dai llenwyr y "Dinesydd Cym- reig" yn ?.wr—nid gorchestion dynion di- ailanedig neu annuwiol—yr un peth ond ceisiwn osod yn deg bortread o'r gwir Gristion yn amser Ymherodraeth Rhufain oddeutu y fiwyddvn o oed Crist 250, sef o dan deyrnasiad creulon un o'r anghenfilod dvhiiaf welodd yr haul, neu a drec-cliodd ddaear yr HollaHuog eriocd. Amser ofnadwy ydyw y presennol yn [wrop, a ivnny ar fwy nag un cyfrif—yr elfeii sydd yn dwyn, lieddyw. Prydiin Agosaf at Gyfnod Nero ydyw, ni gredwn, y gwawdio ar gydwybod yn y trib mlysoedd Prydeinig, nid yr oil o'r cyfryw. ond niter fawr ohonynt; a'r ci eulonderau, yn 01 y Wasg Seisnig a Chymreig, arferir tuagat rai o'r dynion sydd yn cldigon gwrol a chydwybodol i wynebu carchar neu angau cyn gwadu egwyddorion moesol dyfnaf eu natur! Ni raid ymhelaetliu ar y creulonderau a'r amharch yma mewn careharau, ac yn gy- hoeddus, *n Lloegi- ynghanol y cythrwfl erchyll presennol; ond, yr oedd creulon- derau Rhtfain, a mannau eraill, a hynny am ugeiniau o flynvddau, ar ryw olwg yn fwy anfad na'r rhai sydd yn evmeryd lie mewn gwlad yn bostio bod yn "Gartref Rhyddid" ("The Home of Liberty"). Yr oedd yr arteithiau corfforol yn amser Nero yn waeth a gryn dipyn naV riiai presen- nol; ond rhaid cofio tywyllwch meddyliol y Latinwyr yn Itali, a goleuni manteision addysg allanol heddyw yn lwi-op-eto, braidd na feddyliwn fod creulonderau i enaid, neu feddwl, heddyw yn fwy na'r oesoedd Rhufeinig o gymaint a bod v goleuni ar Dduw, a Christ, a'r lawn An- feidrol, yn fwy yn awr ymysg y dosbarth cydwybodol ym Mhrydain nag oedd ymysg y caethion a'r tlodion wrth y miloedd, fyddai yn cael eu dirdynu gan y llewod, a chan offerynau ofnadwy y Rhufeiniaid. Gorchest heddyw ydyw gwynebu tri- bunal, fel y sylwir gan ambcll newyddiad- ur CVmreig—h.y., gorchest i ddyn gwir- ioneddol, achubedig, ac yn meddu cyd- wybod i Dduw—felly, yn amser Domitian, Caligula, neu Nero; nid Ihvfriaid^ nid dynion neu ferched o wlanen. nid rhag. rithwyr gwyneb-galed, nid eynffonwyr ych- waith i Lywodraeth Rhufain oedd y cewri o gaethion a llafurwyr tlodion orfodid i sefyll o flaen ti-ibunlysoedd y Paganiaid eilunaddotgar yn yr amseroedd blinion, enbyd yna, ond gwelid hynafgwyr 72 nilwydd oed; gwragedd hen, 80; merched glandeg 19 mlwydd oed ie, gwelid bechgyn a genetlwd bychain 15 oed yn dal yn lewaidd a digryn o flaen bwystfilod o ddynion llidiog yn erbyn y <;Nazart;aid," fel y'u gchvid yn eithaf creulon ac ofer- goelus! Fe fyddai darllen a myfyrio uwchn y merthyron ardderchog hyn— nierthyron yr 10 erledigaeth darllen a mcddwl yn hamddenol am eu gwroldeb a'u Befydlogrwydd o dan amgylchiadau ofn- adwy yn y Uyscedd; ac wedi eu dilyn i'r Arena (Cylch) Rhufeinig-eu gweled yn w-fyll yn y Circus yn wrthrychau melldithion, crechwenau, a chablau mil- oedd—5 neu 6 mil, neu ragor weithiau,- fe fyddai, meddwn, syllu ar y gwroniaid yma yn dal at argylioeddiadaii santaidd cydwybod, yn foddion gras mewn ystyr achubol, ond cael yspryd gweddi yr un pryd yn gydfynedol a'r darllen, y myfyrio, a'r Rylwi. Yma, yn y canrifoedd boi-eol, yr oedd gorchestion fel yr uchod yn bethau cyff- redin yn vr Ital, a gwledydd eraill—megis Groeg, Asia, Leiaf, a Gogleddbarth Affrig gwelid y Latinwyr yn clal, dyweder, cant o wir ddilynwvr Crist, eu cadw-y-n6, eq "brandio" a haiai-n poeth, eu hyspeilio o'u I tipyn eelfi a'u hoffer aniaethyddol, llosgi eu by thy-nod, dircli-nii eu cyrff yn eithaf barbaraidd, tynu eu llygaid allan, a'u hamarchu mewn dulliau nad gweddaidd eu hadrodd mewn newyddiadur parchus fel y "Dinesydd." A ddarfii eu ffydd, atolwg? A fu iddynt, yn ddigartef a diswcr, wadu eu Ceidwad Dwyfol er mwyn pad adferiad rhyddid neu fywyd, atolwg? A oedd ffrewyllau Rhufain eithaf pigog—yn llwyddo i gael y ferch ieuane neu'r hynaf. gwr i waeddi allan, "Gwrthodaf y Nazar- ead" P Na Fe ferthyrwyd miloedd yn amser I y bwystfil Domitian a'r diafol Nero, end nid oedd un 0 bob cant yn eefnu ar y Nazaread mewn llys, arena, na, charchar! Arddechog orchestion wnaed felly am rai ugeiniau o flynvddoedd, a hynny gan, fel y sylwyd, drueiniaid heb feddu llawer o'n manteision ni heddyw, yn yr Hen Wlad. Tybed a ydyw Crist y Nazaread yn myth, neu ddychymyg, neu freuddwyd, yn y dyddiau enbyd yma. Gobeithiwn nad yw felly i fdoedd yng "Nghymru fech- an dlawd" ond bod llawer Cymro yn ym- hvfrydu roW)" y dyddiau rhain mewn dar- llen ei Feibl, a gweddio yn y dirgel, nag mewn unrhvw orchwyl arall ddaw i'w ran!

! EIN BEIRDD.:

Advertising

SENEDD Y I PENTREF.

- BRjHUDDWYD HYNOD.

COFIO'R CLWYFEDIGION.

TREULIAU RHYFFL GERMANI.I

Advertising

LLOFRRUDDIAETH MON.

I———— CYNGOR EGLWYSI RHYDDION.

UNDEBAU LLAFUR A'R RHYFEL.