Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNLLUN MR LLOYD GEORGE. I Er nad yw cynllun Mr Lloyd George wedi ei dderbyn gyda boddlonrwydd mewn rhai lleoedd, mae'n amlwg fod derbyniad lie dda iddo'n gyffredinol. Bygwth hel- bul y mae y rhai eithafol yn y pleidiau gwrthwynebol; ond y mae'r Cenedlaethol- I wyr yn ymddangos yn ffafriol iddo. MR ASQUITH A LADYBANK. I Bydd Mr Asquith yn areithio yn Lady- hank ddydd Mercher. Mae y peth yn taro'n sydyn, ond credir y bydd yr araith yn ymwneud a phynciau llosgoI, megis di- wedd Arglwydd Kitchener a safle yr Iwerddon. I RHODD CYRNOL D. DAVIES, A.S. I Rhoddodd y Cyrnol David Davies, A.S., 500 o aceri, gwerth 15,000p, yn Nhref- aldwyn fel fferm djefedigol at wasanaeth (lynion fyddo wedi bod yn gwasanaethu eu gwlad. Y CIWRAD A R V.C. Dydd Linn, yn Buckingham Palace, yr oedd Curad Deptford, y Parch Edward Mellish, ymysg 25 oeddynt yn cael eu har- wisgo gan y Brenin gyda V.C. GWYR Y RHEiLFFORDD A GORFOD. I AETH. Mae pwyllgor cyfunol o gynrychiolwyr cwniniaa y rheilffyrdd ao Undeb Gwyr y Rheilffyrdd wedi ei ffurfio i roddi effaith i awgrymiadau y Bwrdd Masnach o dan y Mesur Gwasanaeth Milwrol. UNDEB GWLADGAROL. W l'th anerch Cyngres Undeb Cenedl- aethol Gweithwyr Nwy a Llafurwyr Cyff- redinol yn Llundain ddydd LInn, dywed- odd Mr J. li. Clynes, A.S., fod 40,000 o'r aelodau wedi ymuno o dan y faner. Syl- wodd hefyd fod yn rhaid terfynu rhyfei, neu y bydd rhyfei yn terfynu gwareiddiad. TAD I DDEG. Mae Tribunal Wycombe wedi lhoddi pedwar mis o ryddhad i dad deg o blant. Yr oedd naw ohonynt o dan dair ar ddeg oed. TEULU TEYRNGAROL. Mae Mr a Mrs George Shallis, Harles- den, wedi colli pedwar mab yn y rhyfei lion. Mae'r tad, yr hwn sydd dos yr oed- ran milwrol, yn awr wedi ymuno. CODIAD I WEITHWYR COTWM. Mae Syr George Askwith wedi rhoddi eodiad cyffredinol o 5 y cant i weithwyr cotwm Lancashire, ond dywedir nad ydyw y dvnion yn foddlawn ar hyn, ond dis- gwylir y rhoddant i fewn i'r penderfyniad. TAl R STREIC MEWN DIWRNOD. Cymerodd tair streic fan leiaf le ddoe (dydd Llun), fel canlyniad i'r proclamas. iwn Brenhinol ddywedai nad oedd dydd Llun Sulgwyn y flwyddyn hon i fod yn Wyl y Banc,'eef Docwyr Bryste, y rhai oedd eisiau 5s o overtime yn lie 2s 6c yr awr; gweithwyr Camlas ltegent, Llundain, y rhai hefyd oedd eisiau dwbl dal; a Docwyr Casnewydd, y rhai oedd eisiau yr overtime arferol. Gwrthododd y cyflogwyr ymhob achos ofynion y dynion. Gwastraffodd y dynion yng Nghasnewydd y diwnod i gerdded yr ystrydoedd, er fod y dociau yn llawn o longau eisiau eu llwytho. DIWEDD KITCHENER. Mae'r pellebr canlynol wedi ei anfon o Efrog Newvdd i Cyril Brown, Hotel Adlon, Berlin:— "A ydyw yn ffaith fod bad tanforawl Germanaidd wedi achub Kitchener o un o gychod yr Hampshire, a'i wneud yn gar- charor?"—"New York Times." t Ni roddir atebiad Berlin. PENSIWN NEWYDD. Nos Lun, cyhoeddwyd Army Order wedi ei arwyddo gan Mr Bonar Law yn delio gyda phensiynau milwyr ddiarddelir o'r fyddin oherwydd afiechyd. Maent i r gaelpensiwn cyfartal i bedair rhan o bump o'r pensiwn, yn cynnwys lIowances i blant. TRAMORWYR A KITCHENER. Pan fydd y Seaedd yn ail-agor ddydd Mawrth nesaf, bydd y cwestiwn o gar- cliaru gelynion tramor yn cael ei godi. Y posibilrwydd ydyw y gwneir apel at y LJywodraeth i'w carciiaru yn gyffredinol. Mae hyn yn deimlad cyffredinol drwy'r iviad yn gyfan. Arwydd amlwg o hyn ydyw y digwyddiad gymerodd le mewn i gwasanaeth coffa. i Arglwydd Kitchener yn y West Midlands. v Pan ddywedodd y Ficer y dylai gelynion tramor yn y wlad hon gael eu carchavu, ag i un lief dywedodd y gynulleidfa "Clywch, j ? Clywch."

;I t DYDD LLUN. I

I I r DYDD MAWRTH.I

.-——— MEISTR A MEISTRES TLOTl.I…

I I DYMCJNO BOD YN FERCH.

I 1ER COF AM KITCHENER. I…

- - -—— IBYR-NEWYDDION.

Advertising

[No title]

Family Notices

Advertising