Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
CYMANFA GANU PENYGROES. I
CYMANFA GANU PENYGROES. I CYDGYFARFYDDIAD YM METHEL. (Gan ein Gohebydd Arbennig). I Dydd Sadwm diweddaf, ynghapel Bethel, Penygroes, cynhaliwyd Cymanfa Ganu Clynnog ac Uwchgwyrfai. Cafwyd dau gyfat-fod,y prvhnawn a'r liwyr. Yr arweinydd cerddorol ydoedd Mr Wm. Howells, L.T.S.C., Porth; a hwylid yr organ gan Air Owen Hughes, A.L.C.M., Baladeulyn. Y llywyddion oeddynt: 2 o'r gloch, Mr T. Henry Hughes, Tanrallt; 6 o'r gloch, Mr W. Meiwyn Jones, Talysarn. Swyddogion y pwyllgor eleni oddynt: Mr H. Menanier Jones, Hyfydle, llywydd; Mr Edward Jones, L.T.S.C., Saron, tysor ydd; Mr .Llew Rogers, Talysarn, ysgrifen- nydd. Cyfarfod 2 0 r Gloch. I Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch John Jones, Hyfrydle. Canwyd y tonau, Dennis, Calfari, Latchford, Calcutta, Olwen, yr hon dreblwyd mewn hwyl; Mair, a Frondeg, a'r anthem "Bugail Da." Oaf. wyd annerchiad fuddiol ae amserol gan Mr Heny Hughes, Tanrallt. Diweddwyd V cyfarfod gan y Parch W. Elias Wiliiams, Bethel. i Cyfarfod 6 o'r Gloch. i Ymhell cvn amser decheu yr oedd y cape] yn orlawn c bob! aiddgar i roddi mawl i Dduw. lJwyliodd Mr W. Meiwyn Jones y cyfarfod i symud yn brydlon am 6 olr gloch. Dechreuwyd trwy ganu y don Calfari, ac i'r Parch Wynn Williams, Llanystumdwy, ddarllen rhan o'r Ysgryth- yr a. gweddio. Yna cymerodd yr arwein- ydd cerddorol, Mr W. Howells, y cyfarfod yn ei law. Wedi cyhoeddi mai y don "Dennis" oedd i'w chanu, darllenodd yr emyn drwyddo yn ei ffordd medrus ac mv. grymiadol ef. Codcdd y darlleniad y can- torion i ysbryd addolgar a meddylgar, a theimlwyd fod y pennill cyntaf yn agor y drws i foliant uwch :— Mae'r iachawdwriaeth rad Yn ddigon i bob rhai: Agorwyd ffvnnon er glanhad Pob pechod cas a bai. Yn yr ail bennill y dangosodd y cantorion y wedd oreu ar y don, a, meddwl godidoca'r emyn, yn enwedig i bererin pechadurus. Yr oedd y ddwy linell olaf i'r pennill yn cario argraff arbennig:— Daw tyrfa. rif y gwlith Yn iach trwy rin y gwaed: Pwy wyr na byddaf yn en plith, Yn lan o'm pen i'm traed? Ni chafodd yr arweinydd y cantorion i weithio yn effeithiol yn ol ei ymgais ar ddwy linell gyntaf y pennill oIaf-: Dan bwys euogrwydd du, I'klrychaf tua'r groes, Yr oedd gcrmod o ysfa canu ynddynt, ao ni ellid eu cael yn ddigon tyner a sibryd- gar; ond gweithiwyd y ddwy linell olaf allan yn dda odiaeth:— He llifodd gwaed fy Mhriod cu Anfeidrol lawn a ro'es. Ar ol y don dyner h6n canwyd "Port Penrliyn" ar brif emyn yr arweinydd yn ol ei ddatganiad ei hun; ac yr oedd ei I ddarlleniad ohono yn un campus. Can- wyd y don gyda gjym a dylanwad, a threb- Iwyd y pedwar Ilinell olaf mwen afiaeth Doed y nefol awel dyner I'n cyfarfod yn y glyn, Nes in' deimlo'n traed yn sengi Ar uchelder Seion fryn. Er mwyn i'r cantorion gael ychydig seibiant, gofynwyd i'r Parch R. Roberts. Rhydyclafdy, roi anerchiad. Dywedodd ei fod wedi clywed llawer o son am Gyman- fa Penygroes, a chan ei fod yn y cylch ni allai beidio dod iddi. Yr oedd yn falch o'r cyfie, a theimlai fod y cantorion ar eu goreu. Mewn cymanfa y ceid hwy ar eu goreu. Yr oedd pawb yn addef fod canu da yn help i wneud pregethwr da; ond ych- ydig gredai mewn rhoddi y syniad mewn ymarferiadi. Fel rheol yr emyn olaf ar nos Sul oedd yn cael goreu y cantorion. Llwydaidd a diwawr oedd yr emyn cyntaf yn y bore, ac yn torri calon y pregethwr. Os oedd -,rnom eisiau pregethau da boed i'r cantorion roddi eu goreii- yn y mawl o'r emyn cyntaf hyd yr olaf. Yr oedd canu fel popeth o werth, yn rhoi ei dai ynddo ci hun. Nid oedd eisiau aros talai yn y gwaith o ganu. Canwyd yr anthem "Y Bugail Da," Mr E. T. Davies, F.R.C.O., Merthyr, yn bur afaelgar. Yn cael ei dilyn gan y don "Berlin," ar y geiriau "Trig gyda mi." Nid oeddym yn teimlo'r datganiad yma raenused ac y clywsom hi Jawcr gwaith cyn hyn. Rhoddwyd datganiad cryf, llawn, mawr eddog o'r anthem "Teyrnasoedd y Ddaear." Canwyd hi ddwywaith drosodd gyda min ac arddeliad. Cymerwyd y ped- warawd gan y rhai canlynol: Soprano, Miss Maggie Powell, Nantlle; Alto, Miss Williams, Caemawr; Tenor, Mr Evan E. Morris, Llanllyfni; Bass, Mr W. J. Wil- liams, Talysarn. Cafwyd anerchiad gan y Parch Richard Jones (Glan Alaw).) Talodd warogaeth i'r arweinydd ar ei ddull meistrolgar yn agor yr emynau drwy ei ddarlleniad; rhoddai enau iddynt, a dangosai y gemau oedd ynddynt. Dyna ydyw yr Emynau, mwngloddiau yn llawn trysorau, neu Berth yn Llosgi; a gwaith y gerddoriaeth oedd cadw'r tan yn fyw. Wedi hyn canwyd y don "Heol Dwr" (J. T. Rees). Yr oedd hwn yn ddatgan- iad ysbrydol a hyfedr dros ben. Mae'r awdur wedi priodi y gerddoriaeth a'r geir- iau yn gampus. Disgwyliwn i'r arwein- ydd gymeryd gafael mewn un gair afael- odd ynom yn yr ail bennill, a thybiasom fod y cantorion am ei wneud beb yn wy- bod iddynt eu hunain y tro cyntaf y can- asant ef. Credwn fod maen clo yr Emyn yn y gair "hyn" sydd yn y linell Ond I'm gael hyn nid ofna'r glyn. Ac y mae awdur y don wedi rhoi lie i'w daro'n effeithiol. Onid vw'r "hyn" yn pwyntio at faddeu'r beiau sy'n rhoi hedd a golwg ar wedd Duw? Onid yr "hyn" sy'n rhoi nerth i ddweyd nid ofna'r glyn Na cholyn angeu'n hwy; 'I Dof yn Dy law i'r ochr draw, Heb friw na braw, ryw ddydd a ddaw, Uwon law pob loes a chlwy'. Ton gref, nerthol, ydyw lion, a chanwyd hi yn dda gan y cantorion; ond carasem pe wedi cael y maen clo yn ei le, oherwydd "ond i'm gael hyn" sy'n dod a. phopetn I arall. Yn nesaf cafwyd datganiad o'r don "Dewi Sant" (Cynogfab), ar yr Emyn A heibio'r dywell nos, Fe ffy cvmylau'r nen; Dyma'r don rymusa yn y daflen, a hon, credwn, gyrhaeddodd y pwynt uchaf yn y Gymanfa Fawr hon. Yr oedd y datgan- iad o'r trydydd pennill yn orfoleddus o dda, a'r Sopranos fel pe yn eu hafia<itli. Mae'n debyg na anghofir yn fuan y try- dan gcrddai drwy bawb pan genid y geir- iau 'Dyw profedigaeth ddim, Dyw'r holl gvstuddiau ond gwan, I guro hwnnw i lawr A ddaliech Di i'r lan, Mae nerth Dy ras yn fwy na'r byd, A'r myrdd o ddrygau sy ynddo i gyd. Yr oedd ring ofnadwy yn y treblu fu ar y ddwy linell olaf, ac erys tine y canu yn hir ar ein clyw. Yn dilyn canwyd "Blackbourne" 3 "Mair," a gellir gweld beth oedd gwerth yr arweinydd pan yn mynu cael y cantor- ion i gael agoriad yr Emyn i'r don "Mair" yn groew a chlir, oblegid, meddai, y mae elch iacliawdwi-iaetli chwi a minnau yn dibynu ar wirnonedd y linell gyntaf—"Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw." Yr oedd yr arweinydd mewn cydymdeimlad byw a'r yspry-dol, a chafwyd canu felly ar y don. Clowyd y Gymanfa drwy ddatganiad efltro a byw o'r don "Croes-y-pare," yn swn y geiriau melus:- Bydd miloedd o saint ac angylion, Yn tjorf ogoneddus vnghyd, Yn canu rhyw anthem dragwyddol 0 foliant i Brynwr y byd. Gollyngwyd y dyrfa vmaith gan Mr W. Meiwyn Jones. Bu llawer ohonom yn meddwl y buasai gogoniant y Gymanfa hon yn cilio wedi i'r liyghxl John Thomas, Llanwrtyd, gilio ohoni. Ond ni raid ofni mwyach, gan fod Mr W. Howells wedi cael ei eneinio yn ddiseremoni i'w Ie, a'r fantell yn gorffwys yn esmwyth am dano. Cafwyd Cymanfa eleni oedd yn hafal i'w rliagflaeniaid, a'r canu yn adlewyrchu clod ar y dosbarth yn gyffredinol ynghyda'r arweinydd.
'%7..MARW LLENOR IFFRENGIG.…
'%7.. MARW LLENOR I FFRENGIG. I ,r H -1.. 1 xi \v\cunos or blaen ou tarw M. Emile Faquet, y critig Ffrengig envrog, yn 69 mlwydd oed. Gwnaed ef yn broffeswr Ymhrifysgol Paris yn y flwyddyn 1897, ao apwyntiwyd ef yn Aelod o'r Frecnh Aca- demy yn 1900. Cyhoeddodd amryw o lvfrau safonol, ac ystyrid ef yn awdurdod yn Ci! g\lch ei hun. Y FELLDITH FAWR ETO. I CYlio,d,],I vv a Gorchymyn Brenhinol yn gwahardd gwerthiant brandy drwy Norwy, ac yn gomedd cymeryd i mewn brandy, gwin, na. cliwrw. Dyma esiampl eto i Brydain!
BYR-NEWYDDION. !
BYR-NEWYDDION. GALW'R 17 OED I FYNY YN I GERMANI. Dywed adroddiad o Amsterdam dydd Sul fod pob bachgen dwy ar bymtheg oed yn Germani wedi cael rhybudd i fyned at yr awdurdodau milwrol. GWAITH FFERMWYR PRYDAIN. I Anfonwyd deng ambulance ychwanegol gan ffermwyr Prvdain at wasanaeth ein niilwvr yn 1- frainc, y mae hyn yn gwneud i fyny 61 sydd wedi cael eu hanfon gan y gronfa hoii. MARW PERCHENOG GLOFA. I Dydd Sadwrn, yng Nghasnewydd_, bu farw Mr Llewelyn Uewelyn, perchenog glofeydd adnabyddus Cymreig, yn yr oed- ran'teg o 76 mlwydd. ANRHYDEDDU CYMRO. I Mae Mr Vincent Morgan, y cyfansoddwr Cymreig hyglcd, wedi cael ei apwyntio yn arweinydd y Beecham Grand Opera. Efe ydyw rheolnrr cerddorol Cymdeithas Sir Ddinbych yn Llundain. DEMOCRATIAID HWNGERAIDD A I HEDDWCH. Yn y "Yolksrecht," organ swyddogol I Sosialwyr Democataidd Zurich, cyhoeddir y newydd o Budapest fod amyw o gynull. iadau Democrataidd Hungaraidd yn ddi- weddar wedi protestio yn erbyn y rhyfel. Ymyrwyd neu chwalwyd rhai o'r cyfarfod- ydd gan yr heddweision. PRAWFION AR DEYRNFRADWR- I IAETH. Hysbysir mewn newyddiadur o Berlin, drwy adroddiad o Vienna, fod Dr Kra- marsoh a Rosen-Hin wedi eu condemnio i farwolaeth fel canlyniad i brawfion am deyrnfradwriaeth. Anveinydd Czech ad- nabyddus ydyw Dr Kramarsch. CAIS AFLWYDDIANUS PRIODFAB. Dydd Sadwrn, yn Old' Street, Llunda.in, cvhuddwyd John Murray, dyn ieuanc, o ladrata. pyrsau. Gofynodd am feichiau, gan ddweyd mai ei ddiwrnod priodas yd- oedd. Gofynodd a gawsai heddwas fyned ag ef i gael ei briodi. Gwrthododd yr ustusiaid ei gais. LLAFUR AR OL Y RHYFEL. 1 Wi-th siarpd ym Mirmingham dydd Sad- wrn, dywedodd Mr Steel Maitland, A.S., y dylein harotoi mwy ar gyfer heddwch na rhyfel. Y gwaith cyntaf fyddai rhoddi dynion yn ol yn eu gwaith blaenorol, a dylai'r Wladwriaeth barotoi gwaith ar gyfer y rhai analluogir i wneud y gwaith arferant wneud. ARGRAFFWYR AR STREIC. Dywed fdroddiad o Copenhagen fod ar- graff wyr Belgiaidd sy'n gweithio ar hyn o bryd yn Brussels ar newyddiaduron o dan reoleiddiad Germanaidd, wedi myned ar streio olierwydd y modd y deliodd y "cen- sors" gyda'r newyddion am y llwyddiant Rwsiaidd. Dywed yr argraffwyr fod yn well ganddynt newynn nag argraffu y fath gelwyddau. LL3FRUDDIAETH MON. Mac L v'hol Sivy rid Mon (Mr Eccles) wedi sefydlu y 29am c-yfisol i ddienyddio John Elias, yr amaethwr ocdranus ddedfrydwyd i farwolaeth ym Mrawdlys Biwmaris am lofruddio ei fab. Mae Mr R.. Godron Roberts am apelio yn erbyn y ddedfryd ar y tir fod y Barnwr Coleridge wedi cam- arwain y rheithwyr. Os metha'r apel, cymer y dienyddiad le yng Nghaernarfon. HAWLlAU'R GYDWYBOD. Ynglyn a'r pemlerfyniad ar Hawliau I Cydwybod yng Nghymdeithasfa Llanwr- tyd, dywedodd y Parch Peter H. Griffiths: Yn ol fy syniad i "failure" mwyaf y Llyw. odraeth nedd dwyn y wlad i ryfel. Ond nid dyna r ewestiwn yn awr. Y mae y Llywodraeth wedi dwyn mesurau i mewn. Camgymeriad mawr oedd dwyn Gorfodaeth Filwrol i mewn, a. chwi fyddwch i gyd yn I cedu hynny ymhen tair bJynedd. I TEYRNGARWCH PERCHENOG J CHWAREL. I Yn Nhribunal Lkyn, dydd Sadwrn, }II' I Maurice Jones, Y.H., yn Uywyddu, apel- iodd Uywodraethwr Chwarelau Seits Tvdd- yn Hywel a Thanvgraig am ryddhad i Mr G. H. Sharpe. Dywedodd fod y cwmni wedi rhyddhau 120 o ddynion allan o 150 i'r fyddin. ac i wneud arfau. Nid oedd- ynt ond n cadw digon o ddynion i lusgo ymlaen hyd res y gwnaiff pethau wella, ac i wneud hyn yr oedd Sliarpe yn angen- rheidiol. Credai y Parch T. E. Owen mai prinder gwaith fa aclIos i'r dynion gael eu hatal, ac nid teyrngarwch, ond mewn atobiad dywedodd y llvwodraethwr fod y cwmni wedi calonnogi y dynion i .gynorth- wyo eu gwiad ymhob inofl<?' posibl. Os gwrthodid yr apel hwn, byddai yn raid cau yr holl chwarelau.—Rhoddwyd mis o rydd- had iddo. POBWYR ARSTREtC. I Nos S:v]wrn, aeth pobwyr Preston ar streic. Mient yn gofvn am godiad yn eu cyflogau. Credir na idio ry'r streic yn hir. COM ISIWN I FEDDYGON. I Dywed gohebydd meddygol y "Times" fod y Swyddfa Rhyfel wedi penderfynu rhoddi comisiwn yn yr R.A.M.C. i feddyg- on rhwng 4 5 a 55 mwlydd oed. Dylai hyn ddenu amryw o'r meddygon hynaf i was- anaethu eu gwlad. TAI I WEITHWYR. Mae Cvngor Gwledig Stroud wedi pen-I derfynu gwario dros 15,000p i adeiladu 50 o dai i weithwyr. Mae Corfforaeth Hud- dersfield hefyd wedi apelio at y Bwrdd | Llywodraeth Leol am gynorthwy ariannol i adeiladu 300 o dai gweithwyr. Y GWRTHWYNEBWYR CYDWYBODOL Hysbysir fod tua 1,200 o wrthwynebwyr cydwybodol ar hyn o bryd mewn carcharau, am wrthod gwneud dyledswyddau milwrol. O'r rhai hyn, dedfrjTdwyd tua'r dlrydedd ran olionynt gan lysoedd milwrol, mewn amryw achosion i ddwy flynedd. ARGLWYDD COLERIDGE YN WAEL. Mae Argl-ydd Coleridge wedi bod o dan weithred Iaw-feddygol. Trodd allan yn llwyddiannus, ac y mae ei gyflwr yn ber- ffaith foddhaol, ond fe gymer gryn amser cyn y gall ail-vmafael yn ei ddyledswyddau fel barnwr. Fe gofir mai efe ydoedd y bamwr eisteddai ar Frawdlysoedd diwedd- af Gogledd Cymru. -I- COllEDION GERMANI. in ol adroddiad o Geneva colledion Ger- mani o ddochreu y rhyfel hyd Mai 31ain, 1916, ydynt: —Wedi eu lladd, 742,552- wedi eu clwyfo, 1,829,439; ar goll, 368,204. Cyfanswju. 2.940,195. Mae hon yn rhestr swyddogol. GERMANIAID YN HEDDGARWYR Yn ol Dittman, yr hwn siaradodd yn y Heichstag yn y ddadJ ar y "Censorship," y mae yna filiynau o Germaniaid yn cas- hau y rhyfel ac yn caru heddweh, ao yn gredwyr cryf y bydd yr oes nesaf ar ol y rhyfel yn un o heddwch wedi ei sefydlu ar gariad dynol. MILWR UN FRAICH. Yn Wellingborough, ddydd Sadwrn,■ cy- huddwyd William Tibbs, o'r Northampton shire Regiment, yr hwn gollodd ei fraich ym mnv vdr La Basse, o fod yn absenol o'r fyddin heb ganiatad. Gwadodd hyn, gan ddweyd. mai disgwyl llythyr ydoedd i gael myned i ysbyty i gael braieh gelfyddydol. Bwriwyd « f drnsodd i aros gosgordd.
! YMCHWILIAD I BRISIAU BWYD.
YMCHWILIAD I BRISIAU BWYD. Apwyntio Pwyllgor. I Cyhoeddir yn swyddogol fod Llywydd I Bwrdd Masuach wedi apwyntio pwyllgor i I edrych i mewn i'r prif achosion arweiniodd I i brisiau tnor ucliel ar fwydydd er cychwyn- iad y rhyfel, ac i awgrymu unhyw fodd- ion, os byddai rhai, i wella. pethau yn y ffordd fwyaf hwylus ac ymarferol. Dyma enwau y pwyllgor:—Y Gwir Anrhyd. J. M. Robertson, A.S. (cadeirydd), Mr E. C. Ramsbottom (ysgrifennydd), Mr S. Pem- ber Reeves, Mr W. C. Anderson, A.S., Proffeswr W. J. Ashley, Mr-John Boland, A.S., Mr Thomas Brodric, Syr Gilbert Claughton, Mr J. R. Clynes, A.S., Mr R. K Prothero, A.S., Mr Thomas Shaw, Y.H., a Syr W. Capel Slaughter.
Advertising
Zahe"e popular Cafe* I BRIDGE STREET, CARNARVON Y LLE MWYAF CYFLEUS A CHYSURUS AM BRYD 0 FWYD GWI RIONEDDOL DDA. Tyrfa Fawr 0 Gefnogwyr, a phob un a gair uchel am y lie. Defnyddir y Te Byd.Enwog Gold Medal yn unig. Pob Math 0 Ddanteithion Uwch. raddol am Brisiau Cymedrol. PERCHENOGION I LAKE & Co., Ltd,, Carnarvon. I
I PTJNT YN YR WYTHNOS. I
I PTJNT YN YR WYTHNOS. I Yn Amhofibl Byw ami Heddyw. Yngliyfarfod Cyngor Gwledig Treffynon derbyniwyd cais oddiwrth amryw o wcitJj- wyr y ffyrdd yn rhanbath y Wyddgrug yn gofyn am godiad yn eu cyflogau, y rhai a dderbyniant bunt yn yr wythnos. Dywedodd Mr T. C. Roberts nad oedd yn ddigon, a'i bod yn amhosibl byw ami. Gofynodd Mr Petiie "Ymha leyr oedd- ynt i gael dynion os gadawant ni?" Dywedodd y Cadeirydd fod un oedd gyda hwynt yn derbyn punt yn yr wythnos yn awr yn derbyn 2p. Dywedodd Mr Petrie y gellid ei gwneud yn bosibl iddynt fyw. Ni all yr un dyn fyw a i- bunt yn yr wythnos heddyw. Yr oedd angen cyflog byw, ac nid oedd punt yn gyflog byw. Cynnygiwyd gan Mr Roberts fod yr apel wyr i gael 3foi yr wythnos o "war bonus," ond penderfynodd y Cyngor i gael adrodd- iad yn gyntaf o gyflogau holl weithwyr y ffyrdd.
TRANC MILWR 0 FELINHELI.
TRANC MILWR 0 FELINHELI. Saethu ei hun mewn Coed. Dydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, daeth Hugh J. Roberts, Menai Street, Felinheli, adref am ddau ddiwrnod o "leave" o'r 8th R.W.F. Ni ddarfu iddo ddychwelyd yn ei amser penodedig, a phan gynghorodd cyfeillion ef i ddychwelyd dy- wedodd na fuasai byth yn gwneud. Gan ei fod o'r farn fod yr heddlu yn ei wylied, cadwodd yn glir o'i gartref, a bore Gwener cafwyd ef a'i ben wedi ei falu yn ddarnau mewn c-ocdwig ger Trefarthen, Sir Fon. Nid odd ond 35 mlwydd oed, a bu'n llwyrymwrthodwr ar hyd ei oes. .1 Y CWEST. Cynhaliodd Mr Jones Roberts, Crwner Sir Fon, gwest ar y corff dydd Sadwrn yn yr Old Inn, Moelydon. Anabyddwyd y corff gan Mrs Kate Ro- berts, ei chwaer-yng-nghyfraith. Y Crwner: A oedd rhywbeth yn poeni ei feddwl ? Y Dyst: Oedd; triniaeth y swyddogion milwrol. Y Crwner: Beth ddywedodd am hynny ? Y Dyst: Dywedodd fod yno Gyrnol Ital- aidd yn y gwersyll, ac fod yna wrthwyneb. iad cyffredinol iddo drwy'r holl wersyll. Gwnaeth Poberts ei oreu, ac yr oedd yn hynod ufudd, ond yr oedd y swyddog hwn yn hynod iym, ao yn eu tyngu a'u rhegi. Y Crwner: A ddarfu iddo ddweyd ei fod yn rhegi pobl eraill ? Y Dyst: Do. Y Crwner: A ddywedodd rywbeth am ddychwelyd yn ol ? Dywedodd nad aethai yn ol oherwydd y driniaeth gawsai. Tystiodd. William Edwards, pysgotwr, iddo gael y corff tua naw o'r gloch bore Gwener. Yr oedd Roberts wedi dweyd wrtho nad oedd yn hoffi bod yn y fyddin oherwydd y driniaeth gawsai. Y tyst yd- oedd perchenog y gwn gafwyd wrth ochr y trancedig, ac. yr oedd wedi ei gymeryd heb ei ganiatad cf. Bwriwyd rlieitlifai-n "Iddo ladd ei hun tra allan o'i bwyll."
[No title]
———— Yn canfod ymddygiad hynod ceffyl mewn man arbennig o'r cae, trwy redeg a gwe- hyrru givnaeth ffermwr yn agos i Hexham ymchwiliad ar y lie, a chafodd gorff Rose Fairless, gwraig briod, yr hon oedd ar goll o'i chatref yn Hexham erE; hi mis. ———— ————
Family Notices
GENI. PRIODI. MARW. PRIODI. Jones-Hughes-Mehefin 14eg, ynghapel Salem, Caernarfon, Mr Solomon Jones, (Alaw Cadfan), Tyddyn Hen, gyda Miss Kate Ellen Hughes, Bod Afan,-v ddau o Rhosgadfan. Williams Jones -infeliefin 12 ynghapel Annibymvyr Evert-on, Lerpwl, Mr J. H. Williams, Ebenezer, gyda Miss Jane C. Jones, Bronrhyddallt, Pontrhvthallt MARW. Harker-Nleliefin lleg,Mr James Harker, 6, George Street, Llanrwst, yn 71' mlwydd oed. ER COF. Am Thomas Owen, Wrench, gynt, o 74, Hyfrydle Road, Talysarn, yr hwn a hun- odd yn yr Iesu, Mehefin 21, 1906, yn flwydd oed. EI FODRYB JENNIE. HIM —mi niaw^n
Advertising
I J. FLETCHER, LTD.. I MEMORIAL WORKS, CARNARVON a BANGOR. I Argraffivyd a chyhoedchvyd gan Gwmni y Dinesydd Cymreig, Cyf., yn 16, Palace Street, Caernarfon,