Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA GANU PENYGROES. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA GANU PENYGROES. I CYDGYFARFYDDIAD YM METHEL. (Gan ein Gohebydd Arbennig). I Dydd Sadwm diweddaf, ynghapel Bethel, Penygroes, cynhaliwyd Cymanfa Ganu Clynnog ac Uwchgwyrfai. Cafwyd dau gyfat-fod,y prvhnawn a'r liwyr. Yr arweinydd cerddorol ydoedd Mr Wm. Howells, L.T.S.C., Porth; a hwylid yr organ gan Air Owen Hughes, A.L.C.M., Baladeulyn. Y llywyddion oeddynt: 2 o'r gloch, Mr T. Henry Hughes, Tanrallt; 6 o'r gloch, Mr W. Meiwyn Jones, Talysarn. Swyddogion y pwyllgor eleni oddynt: Mr H. Menanier Jones, Hyfydle, llywydd; Mr Edward Jones, L.T.S.C., Saron, tysor ydd; Mr .Llew Rogers, Talysarn, ysgrifen- nydd. Cyfarfod 2 0 r Gloch. I Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch John Jones, Hyfrydle. Canwyd y tonau, Dennis, Calfari, Latchford, Calcutta, Olwen, yr hon dreblwyd mewn hwyl; Mair, a Frondeg, a'r anthem "Bugail Da." Oaf. wyd annerchiad fuddiol ae amserol gan Mr Heny Hughes, Tanrallt. Diweddwyd V cyfarfod gan y Parch W. Elias Wiliiams, Bethel. i Cyfarfod 6 o'r Gloch. i Ymhell cvn amser decheu yr oedd y cape] yn orlawn c bob! aiddgar i roddi mawl i Dduw. lJwyliodd Mr W. Meiwyn Jones y cyfarfod i symud yn brydlon am 6 olr gloch. Dechreuwyd trwy ganu y don Calfari, ac i'r Parch Wynn Williams, Llanystumdwy, ddarllen rhan o'r Ysgryth- yr a. gweddio. Yna cymerodd yr arwein- ydd cerddorol, Mr W. Howells, y cyfarfod yn ei law. Wedi cyhoeddi mai y don "Dennis" oedd i'w chanu, darllenodd yr emyn drwyddo yn ei ffordd medrus ac mv. grymiadol ef. Codcdd y darlleniad y can- torion i ysbryd addolgar a meddylgar, a theimlwyd fod y pennill cyntaf yn agor y drws i foliant uwch :— Mae'r iachawdwriaeth rad Yn ddigon i bob rhai: Agorwyd ffvnnon er glanhad Pob pechod cas a bai. Yn yr ail bennill y dangosodd y cantorion y wedd oreu ar y don, a, meddwl godidoca'r emyn, yn enwedig i bererin pechadurus. Yr oedd y ddwy linell olaf i'r pennill yn cario argraff arbennig:— Daw tyrfa. rif y gwlith Yn iach trwy rin y gwaed: Pwy wyr na byddaf yn en plith, Yn lan o'm pen i'm traed? Ni chafodd yr arweinydd y cantorion i weithio yn effeithiol yn ol ei ymgais ar ddwy linell gyntaf y pennill oIaf-: Dan bwys euogrwydd du, I'klrychaf tua'r groes, Yr oedd gcrmod o ysfa canu ynddynt, ao ni ellid eu cael yn ddigon tyner a sibryd- gar; ond gweithiwyd y ddwy linell olaf allan yn dda odiaeth:— He llifodd gwaed fy Mhriod cu Anfeidrol lawn a ro'es. Ar ol y don dyner h6n canwyd "Port Penrliyn" ar brif emyn yr arweinydd yn ol ei ddatganiad ei hun; ac yr oedd ei I ddarlleniad ohono yn un campus. Can- wyd y don gyda gjym a dylanwad, a threb- Iwyd y pedwar Ilinell olaf mwen afiaeth Doed y nefol awel dyner I'n cyfarfod yn y glyn, Nes in' deimlo'n traed yn sengi Ar uchelder Seion fryn. Er mwyn i'r cantorion gael ychydig seibiant, gofynwyd i'r Parch R. Roberts. Rhydyclafdy, roi anerchiad. Dywedodd ei fod wedi clywed llawer o son am Gyman- fa Penygroes, a chan ei fod yn y cylch ni allai beidio dod iddi. Yr oedd yn falch o'r cyfie, a theimlai fod y cantorion ar eu goreu. Mewn cymanfa y ceid hwy ar eu goreu. Yr oedd pawb yn addef fod canu da yn help i wneud pregethwr da; ond ych- ydig gredai mewn rhoddi y syniad mewn ymarferiadi. Fel rheol yr emyn olaf ar nos Sul oedd yn cael goreu y cantorion. Llwydaidd a diwawr oedd yr emyn cyntaf yn y bore, ac yn torri calon y pregethwr. Os oedd -,rnom eisiau pregethau da boed i'r cantorion roddi eu goreii- yn y mawl o'r emyn cyntaf hyd yr olaf. Yr oedd canu fel popeth o werth, yn rhoi ei dai ynddo ci hun. Nid oedd eisiau aros talai yn y gwaith o ganu. Canwyd yr anthem "Y Bugail Da," Mr E. T. Davies, F.R.C.O., Merthyr, yn bur afaelgar. Yn cael ei dilyn gan y don "Berlin," ar y geiriau "Trig gyda mi." Nid oeddym yn teimlo'r datganiad yma raenused ac y clywsom hi Jawcr gwaith cyn hyn. Rhoddwyd datganiad cryf, llawn, mawr eddog o'r anthem "Teyrnasoedd y Ddaear." Canwyd hi ddwywaith drosodd gyda min ac arddeliad. Cymerwyd y ped- warawd gan y rhai canlynol: Soprano, Miss Maggie Powell, Nantlle; Alto, Miss Williams, Caemawr; Tenor, Mr Evan E. Morris, Llanllyfni; Bass, Mr W. J. Wil- liams, Talysarn. Cafwyd anerchiad gan y Parch Richard Jones (Glan Alaw).) Talodd warogaeth i'r arweinydd ar ei ddull meistrolgar yn agor yr emynau drwy ei ddarlleniad; rhoddai enau iddynt, a dangosai y gemau oedd ynddynt. Dyna ydyw yr Emynau, mwngloddiau yn llawn trysorau, neu Berth yn Llosgi; a gwaith y gerddoriaeth oedd cadw'r tan yn fyw. Wedi hyn canwyd y don "Heol Dwr" (J. T. Rees). Yr oedd hwn yn ddatgan- iad ysbrydol a hyfedr dros ben. Mae'r awdur wedi priodi y gerddoriaeth a'r geir- iau yn gampus. Disgwyliwn i'r arwein- ydd gymeryd gafael mewn un gair afael- odd ynom yn yr ail bennill, a thybiasom fod y cantorion am ei wneud beb yn wy- bod iddynt eu hunain y tro cyntaf y can- asant ef. Credwn fod maen clo yr Emyn yn y gair "hyn" sydd yn y linell Ond I'm gael hyn nid ofna'r glyn. Ac y mae awdur y don wedi rhoi lie i'w daro'n effeithiol. Onid vw'r "hyn" yn pwyntio at faddeu'r beiau sy'n rhoi hedd a golwg ar wedd Duw? Onid yr "hyn" sy'n rhoi nerth i ddweyd nid ofna'r glyn Na cholyn angeu'n hwy; 'I Dof yn Dy law i'r ochr draw, Heb friw na braw, ryw ddydd a ddaw, Uwon law pob loes a chlwy'. Ton gref, nerthol, ydyw lion, a chanwyd hi yn dda gan y cantorion; ond carasem pe wedi cael y maen clo yn ei le, oherwydd "ond i'm gael hyn" sy'n dod a. phopetn I arall. Yn nesaf cafwyd datganiad o'r don "Dewi Sant" (Cynogfab), ar yr Emyn A heibio'r dywell nos, Fe ffy cvmylau'r nen; Dyma'r don rymusa yn y daflen, a hon, credwn, gyrhaeddodd y pwynt uchaf yn y Gymanfa Fawr hon. Yr oedd y datgan- iad o'r trydydd pennill yn orfoleddus o dda, a'r Sopranos fel pe yn eu hafia<itli. Mae'n debyg na anghofir yn fuan y try- dan gcrddai drwy bawb pan genid y geir- iau 'Dyw profedigaeth ddim, Dyw'r holl gvstuddiau ond gwan, I guro hwnnw i lawr A ddaliech Di i'r lan, Mae nerth Dy ras yn fwy na'r byd, A'r myrdd o ddrygau sy ynddo i gyd. Yr oedd ring ofnadwy yn y treblu fu ar y ddwy linell olaf, ac erys tine y canu yn hir ar ein clyw. Yn dilyn canwyd "Blackbourne" 3 "Mair," a gellir gweld beth oedd gwerth yr arweinydd pan yn mynu cael y cantor- ion i gael agoriad yr Emyn i'r don "Mair" yn groew a chlir, oblegid, meddai, y mae elch iacliawdwi-iaetli chwi a minnau yn dibynu ar wirnonedd y linell gyntaf—"Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw." Yr oedd yr arweinydd mewn cydymdeimlad byw a'r yspry-dol, a chafwyd canu felly ar y don. Clowyd y Gymanfa drwy ddatganiad efltro a byw o'r don "Croes-y-pare," yn swn y geiriau melus:- Bydd miloedd o saint ac angylion, Yn tjorf ogoneddus vnghyd, Yn canu rhyw anthem dragwyddol 0 foliant i Brynwr y byd. Gollyngwyd y dyrfa vmaith gan Mr W. Meiwyn Jones. Bu llawer ohonom yn meddwl y buasai gogoniant y Gymanfa hon yn cilio wedi i'r liyghxl John Thomas, Llanwrtyd, gilio ohoni. Ond ni raid ofni mwyach, gan fod Mr W. Howells wedi cael ei eneinio yn ddiseremoni i'w Ie, a'r fantell yn gorffwys yn esmwyth am dano. Cafwyd Cymanfa eleni oedd yn hafal i'w rliagflaeniaid, a'r canu yn adlewyrchu clod ar y dosbarth yn gyffredinol ynghyda'r arweinydd.

'%7..MARW LLENOR IFFRENGIG.…

BYR-NEWYDDION. !

! YMCHWILIAD I BRISIAU BWYD.

Advertising

I PTJNT YN YR WYTHNOS. I

TRANC MILWR 0 FELINHELI.

[No title]

Family Notices

Advertising