Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
1 irvrievc JAM I b\ 1 "Mother Rnows what we,, I i he I KYDD'S JAM Made from the finest Whole Fruit in the heart of the Country under ideal conditions, free from all contaminations. These Jams are perfect food Nourishing, appetising, and delicious. To try them once is to make friends of them for ever. ASK YOUR GROCER FOR KYDD'S JAMS. KYDD & KYDD, FRUIT PRESERVERS, FRODSHAM, CHESHIRE CYFLE ARBENNIC MAE T? D*? 'TTTST ?*?*VyT*? R. P. LLOYD, WEDI AGOR BUSNES NEWYDD YN 4, Palace St. Caernarfon, MEWN GWERTHU A CHYFNEWID DODREFN HEN A NEWYDD, GWELY- AU, CLOCIAU, PAPURAU TAI, A FANCY DECORATIONS, &c. Gallwn gyflenwi DODREFN TAI, a chan- iatau Is 6c yn y Bunt am Arian Parod. Prisiau Neilltuol o Resyrnol. DYMA GYFLE ARBENNIG. AR OSOD. TY AR OSOD. PENYDYFFRYN, TALYSARN. Medd. iant uniongyrchol; cyfle rhagorol.— Am fanylion pellach ymofyner a. J. T. Parry, Sgubor Fawr, Pontlvfni. 4 R OSOD,-SHOP GOCH, CROESOR. ? ?- Hen fasnachdy adnabyddus yn gwneyd busnes rhagorol mewn Grocery, Blawd, a Nwyddau Cyfrredinol, yn cyn- nwys Llythyrdy. Meddiant 12fcd o Dach- wedd, 1916.-Ymofyncr a Kellow, Croesor, Ponrhyndeudraeth. .-18 f YN EISIAU. POB Dosbarth o FORWYNION yn 1 Eisian. Lleoedd da yn agored yn Iowr ar ein llyfrau. Cooks, Cook- ('•nerals, Housemaids Hotel, Preifat a fThyboeddus, Generals, Waitresses, Ac. — Ymofyner i Colwyn Bay X.L, Servants Registry, Carlton Buildiiuzs* Colwyn Say. GUILD HALL, CAERNARFON. « i- y DARLUNIAU BYW DAVIES RHAGLEN RAGOROL YR WYTHNOS HON- "THE WHITE HOPE." "PRINCESS OF THE BLOOD." Idynediad i mewn, Is 2c j 7c; a 4o. Y DINESYDD CYMREIG ydyw yr ORGAN SWYDDOGOL I UNDEB CHWARELWYR GOGLEDD CYMRU. CYNYRCHWYD GYDA LLAFUR UNDEBOL. srop Y DDRAIG GOGH EASTGATE STREET. CARNARVON Y\V'R LLE GOREU AM BOB MATH 0 ESGIDIAU Am brisiau isaf yn bosibl. CYFLAWNDER 0 DDEWIS. ISGAER LEWIS, & CO. CURLY HAiR-WAVCURL. 13cautifiil Permanent Curls., One bottle sufficient, however listless your hair. One .testimon- ial says: "My hair soon became a mass of wavy culs." Results certain. Price, 2s 9d. Special reduction for short time. Send Is only for large size 2s 9d bottle.- THE NEW WAVCURL CO., 67, CROM- WELL HOUSE, HOLBORN, W.C. GGLQUHOUH & GO., Ranufaotcrars, GIUSfllELS, Sceum. All-Wool Tweeds and Yarns It 1111 fricss. All CiFrtam Pall. AU LUCTH CUT.. I ¡ EtTMnottt loam REGISTERED TRADE MARK. PATTERNS of -our LOVELY GENUINE OOODS mad. to meet all requirements, sent on tpprtval to any Lady or Gentleman. Write for them to-day. « 8 Partl.e' Own Wool made Into any kin* W\g La ? W..11.. Goods. S" our boklet Truths ttout Tweeds. (Agents Wanted) BRWYDR LYNGESOL. Dywed adroddiad o Amsterdam fod brwydro wedi cymeryd lie yr wythnos ddi- weddaf rhwng torpedo boats Germanaidd a llongau Prydeinig tuallan i Blanken- burgh. Ychydig oriau yn ddiweddarach, dychwelodd 15 o torpedo boats a distryw- yddion i mewn i'r porthladd. Dywedir fod y llongau hyn yn ysgowtio y mor yn fynyoh, yn cael eu blaenori gan awyrlong- au. Gyda hwy y mae "mine layers" ao "armed tugboats.
A OES BROFFWYD ?
A OES BROFFWYD ? Yn yr lielynt ofnadwy yr ydym ynddo mae'n hawdd gofyn cwestiwn, oblegid daw yr amgylchiadau i'w awgrymu'n ddibaid. Fel rheol bydd rhyw un cwestiwn mawr yn sefyll allan ar ei ben ei hunan, ac yn mynu cael ei ffordd er gwaethaf pob cwes- tiwn arall. Nid yr un cwestiwn flina pawb, ac nid yr un saif yn brif gwestiwn i bawb ychwaith. Dibyna hynny i I raddau mawr ar natur a thueddiadau y person ei hun. iNidyw pawb yn byw yn yr un byd, ac nid yr un bwyd wna'r tro i feithrin bywyd pawb. Ffurfir y cwes- tiynau o ran eu gwerth a'u pwysigrwydd yn ol y byd a'r bywyd y byddom yn ei fyw. Mae gan bob byd a bywyd ei gwes- tiynau, ac yn ddiddadl y mae cwestiynau fyrdd yn hofran yn dryfrith uwch ein i pennau heddyw. Yn eu canol oil, tybed nad ydym yn cael ein blino gan y cwes- tiwn, "A oes broffwyd yn ein mysg?" Trown i'r man a fynnom yr ydym yn llawn penbleth a dyryswch, a'r arwein- wyr honedig yn sigledig o'u pen i'w traed. Nid oes ungwr cadarn, digryn, i'w gael yn unman. Cawn fod y Gweledydd a'r Proffwyd ar goll, a phawb fel pe'n yniz balfalu goreu gall, megis plant bach yn chwareu dyfeisio, yn byw ar rith heb syl- wedd. Yr ydym yn wirioneddol dlawd am un dyn cryf, grymus, a digon o allu a dylanwad ganddo i gario y wlad gydag of. Mewn oes yr ymffrostir gymaint ynghylch ei dysg a'i hathrylith, mae'n syndod, pan awn i chwilio, mor dlawd ydym o ddynion gwir fawI'dynion ag y mae eu geiriau megis trydan yn symud pawb o'u cwmpas. Dyma ni, wyneb yn wyneb a'r alanas fwyaf welodd y byd erioed, ac nid oes yn yr holl fyd ddyn a digon o ddylanwad yn ei air na'i ymddygiadau i symud y pwyntil i gyfeiriad gwell. Mae'r peth yn ddych- rvnllyd pan awn i feddwl am dano. A chaniatau na ellir disgwyj cael un o'r fath yn y Senedd nac yn y bjfll. Beth am yr Eglwys? Ai silod di-asgwrn-cefn a fegir yno hefyd ? Onid oes gan Eglwys Crist yn Iwrop wr all sefyll dros yiv Athro a dweyd yn eofn a digryn wrth y Rheibwyr Ysgleifus, "Hyd yma "Yi, «Fch a dim ymhellafch." Onid oes Broilwyd yn ein mysg? Onid oes wr ddigon nerthol wedi bod yn y mynydd yn cael gweledigaeth i'w wneiid yn ddigon gwrol i gyhoeddi Royal Commission yn aNvT ? A anghofiwyd hanesion Gwroniaid y Ffydd ? Yr oedd ganddynt hwy weledigaeth eglur, ac nid oedd a'u lhwystrant i gyflwyno eu cen- adwri i'r byd yn erbyn llvwiawdwyr ac ymerodraethau. Nid oeddynt yn ym- f_,vngliopt gyda chig a gwaed, yr oedd gam- ddynt rywbeth mwy nerthol yn eu sym- bylu. Dynion ysbrydol oeddynt, yn byw ar yr Ysbryd, i'r Ysbryd, ac yn gweithio trwyddo ac crddo Ef: "Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy Ysbryd i, medd yr Arglwydd." Teimlent fod Duw yn gefn iddynt, ac yngrym hynny wynebant bopeth er ei fwyn Ef. Yr oedd eu brwydr bob amser yn erbyn y byd a'i lywodraeth, ac nid aethant i'r gyfaddawd leiaf ag ef er achub eu crwyn na'u safleoedd. Dyma'r dynion lwyddasant er fflamau, stanciau, ffwrn dan, a chroesau. Y mae arnom eisiau eu tebyg heddyw; ond o ba le y coir hwynt os na ddeuant o'r eglwys ? Yr ydym yn gwrido wrth weled arweinwyr yr eglwys mor lliprynaidd ac ofnus yn plygu i rhyw ysfa wladgarol afiach a di- reol, yn He bod yn deyrngarol i'w Phen, a dal ato Ef deued a ddelo. Wrth ei ddilyn Ef yn unig y mae caru gwlad, oblegid a gwaed ei gariad y carodd Efe ddyn, ac y mae Ei Groes Anfarwol Ef yn brotest fythol yn erbyn pob rhyfel gymer le yn y byd. Oes y mae an gen proffwyd, a'r Eglwys ddylai ei roddi. A gyfyd hi i'w rhwymedigaeithau ? Os na wna fe gyll ei chyfle goreu. Onid oes gennym broffwyd all droi gwirioneddau yr Efengyl yn fywyd ymar- feol i'r Eglwys, modd y gall y byd weld y gwahaniaeth sydd yn hanfodol cydrhwng y "deyrnas nad yw o'r byd hwn" a Ilyw- odraethau y byd ? Nid efengyl i fyw sydd gan ein harweinwyr, ond deunydd diwinyddiaeth a chredoa; ac oljonynt twf sectau a phleidiau, y rhai yn naturiol sy'n door ymgecraeth a rhwygiadau. Fxlrychir ar wirionoddau yr Efengyl drwy wydrau soctyddiaetli a chyfundrefnau, a throir hwynt yn gyfryngau i hwylio eu llongau arbennig hwy, heb falio rhyw lawer am hynt na thynged y llongau eraill. Can- lyniad y fFordd yma o dlrin yr Efengyl ydyw ei gwneud yn ddifudd pan ddaw gwlad wyneb yn wyneb ag argyfwng pwys. ig a ohwildroadol. Nid oes gan yr Eglwys weledigaeth eglur a phendant hyd yn oed ar wirioneddau lhanfodal ei theyrnas. Pwy sydd ar furiau Seion heddyw yn ddigon ,cryf i fedru rhoddi datganiad croew o safle Crist &'i ddysgeidiaeth wyneb yn wyneb ag amgylchiadau y wladP Pwy ymysg yr arweinwyr sydd yn ddigon nerthol o ran gallu meddyliol, corfforol, ac ysprydol i uno yr Eglwys mewn ymlyn- iad wrth y Crist, ei Phen? A yw d-sg- eidiaeth yr Athro mor gyfriniol ac aneall- adwy fel na ellir ei deongli a'i deall ? Tybed y gellir stumio meddyliau y Crist i olygu mwy na'r hyn osodir i lawr yn eu gwisgiad syirdP Os nad yw'n bosibl, pam na cheir unoliaeth barn, a pham na weith- redir yn 01 Ei ddysgeidiaeth ? Tybed mai llwfrdra moesol yw, ynte ai yw dydd y proffwyd ar ben? Mae arnom fel gwlad sy'n cydnabod uwchafiaeth y grefydd Gristionogol, angen am Broffwyd i roddi ei lie iddi ym mywyd y byd. Nid crefydd i'w rhoddi o'r neilltu er mwyn gwladgar- wch ffugiol nac ymdaith filwrol yw. Y j mae crefydd y Groes yn hawlio bod yn ben, ac nid oes unrhyw fath () wladgarweh na milw/iaeth yn cyfreithloni y gwyriad lleiaf oddiwrth deyrngarwch i'r Crist. Dyma'r ddelfryd, ac er uched yw, y mae'n ymarferol hyd yn oed heddyw pe cawsid Proffwyd yn ddigon cryf o ran bywyd, yspryd, a gair, i arwain y gad.
I _CAERNARFON. i
I CAERNARFON. I Marwolaeth. Drwg gennym gofnodi marwolaeth Miss Williams, 21, Palace Street, yr hyn a gymerodd le dydd Gwen- er. Cafodd gystudd maith. Bu Miss Williams mewn cysylltiadau masnachol yn y dref am flynyddau lawer. Gedy ar ei hoi frawd a chwaer mewn hiraeth, sef y Parch Roberts Williams, B.A., rheithor Glan Conwy, a Miss Williams, Palace Street. Yr oedd yn aelod selog a fFyd l- lon o egIwys Moriah. Cymea- yr angladd (preifat) le ddydd Meroher. Gwaith i Ferched. Mae Llywydd Bwrdd Masnach wedi penodi pwyllgor Ileol i ystyried cynllun ynglyn a gwaith i ferched. Y pwyllgor ydynt: Y Maer (Mr Chas. A. Jones), Mrs Nath. Roberts, Mrs Parry, Ty Newydd; Miss Gwladys Evans, Mr D. T. Lake, Dr Parry Edwards, Mr R. T. Jones, a Mr David Thomas, Talvsarn. Cynhaliwyd cyfarfod o'r pwyllgor nos Wener. Siaradwyd gau foneddigesau yn ynrychioli Bwrdd Mas- a'r Swyddfa Gartrefol, a Dr Parry Edwards. Dewiswyd Mr G. Owen, o'r Gyfnewidfa Lafur, yn vsgrifennydd. Llwyddiant.—Dymunwn longyfarch Mr W. Ellis Parry, A.C. (Gwilym Arfon), 24, Edward Street, ar ei waith yn pasio ar- holiad Urdd Cerddor Gorsedd Beirdd Y nys Prydain. Urddir ef yn Eisteddfod Gen- edlaethol Aberystwyth. Gwyl Bregethu.-Cyiihaliivyd gwyI bre- gethu flynvddol Siloh (M.C.) dydd Sul a nos Ltiii diweddaf. Y gweinidogion gwa- I, hoddcèig eleni oeddynt Proffeswr David Williams, M.A., Aberystwyth, a'r Parch J. H. Howad, Colwyn Bay. Ynadlys Sirol.—Cynhaliwyd y llys hwn ddydd Sadwrn, gerbron Mr A. Wynne Williams ac ynadon eraill. Cyhuddwyd bachgen 11 nilwvdd oed o Pontrug o dorri i mewn i PJastirion Lodge, a lladrata oddiyno oriawr aur. Rhoddwyd cymeriad uchel i'r cyhuddedig gan y swyddog pre- senoldeb, a datganodd syndod ei weled yn y llys. Rhwymwyd ef drosodd yn y swm o 5p am flwyddyn, ac archwyd i'w dad daluTr costau, 18s 6c. Darluniau Byw.—Mae'r ffylms ddangos- ir gan Mr Davies yn y Guild Hall yr wythnos hon yn ddigurro. Y rhan gyn- taf o'r wythnos ceir "The White Hope," a'r rhan olaf "Princess of the Blood" a "Bad Money" (drama). O'r Fyddin. Mae Gunner Robert Jones, North Penrallt, adref am fis o seib- iant cy* myned drosodd i Ffrainc. Eisteddfodol. Ymysg y rhai wahodd- wyd i gymeryd rhan ynghyhoeddiad Eis- teddfod Birkenhead y mae Mr John Tho- mas (Eifionydd) cofiadur, a Mr J. Wynne ceidwad y cledd. Cyngerdd Bodvan. Nos Iau, cynhal- iwyd cyngerdd blynyddol Bodvan. Y cad- eirydd. ydoedd Mr C. A. Jones (Maer), a'r arweinydd Mr Thomas Beuno Jones, Bontnewydd. Cyfeiliwyd gan Mr T. 0. Hughes. Cymerwyd rhan ynddo gan y rhai canlynol :-Misses Blodwen Williams, Prissy Ellis, Maggie Davies, Emily Davies, Mri Tom Thomas, W. G. Harris, H. Vaughan Davies, John Peters, R. Morris, tTr Arvonic Quartette.
ABERMAW. I
ABERMAW. I Milwrol.—Mae'r Rhingyll Sam Dillow adref am Stibiant o Ffrainc. Mae Cor- poraj Rees Pugh, Llys Arfon, yr hwn sydd gyda'r Oanadiaid yn Ffrainc, wedi ei ddyrchafu yn rhingyll. Wedi ei Glwyfo. Daeth hysbysiad i law fod Bugler Iorwerth Pryce Jones, Gwynfa Cottages, wedi ei saethu trwy ei ddwy goes yn Ffrainc. Priodas. Dydd Llun, yn Nolgellau, priodwyd Mr Hugh Williams, gynt o I Water Street, gyda Miss Maggie Lewis, I St. George's
CARMEL. I
CARMEL. I Marw a Chladdu. Gyda gofld dwys y I cofnodwn am farwolaeth a chladdedigaeth y brawd ieuaae Mr John W. Thoroae, Bay View mab Mr Wm. Thomas, Tanyffordd gynt, yr hyn gymerodd le dydd Llun di- weddaf ac efe ond 24 mlwydd oed. Un o'i brif nodweddion ydoedd ei sirioldeb a'i garedigrwydd. Bu'n gweithio yn y De ao yn Lerpwl, ond ar hyn o bryd yn Cil- gwyn y gweithiai, gan iddo ddod adref o Lerpwl ar ol ardystio i fyned at y Llynges. Daearwyd ei weddillion dydd Iau yn Pis- gah, lie eladdwyd ei fam rai blynyddoedd yn ol. 1 wneud yr amgylchiad yn fwy pruddaidd, yr oedd ei frawd Hughie yn orweddiog yn ei wely. Yr un dydd bu farw Mary, merch Mr Owen Jones, Cae'l'- gof, a hi ond 17 mlwydd oed. Claddwyd hihau yr un diwrnod. Er fod y tywydd yn anffafriol cafodd y ddau angladdau lluosog. Y Parch W. G. Hughes wasan- aethai.
I-u-BETHEL.
u- BETHEL. Milwrol.-Yi. oedd amryw o'n bechgyn adref dros y Sul, ac yn eu mysg hogia. Mr a Mrs John Hughes, Bryn Llwyd. Y maent yn bwiadu mynd i Ffrainc yr wyth- nos hon.
-.-CWMYGLO. - - - -
CWMYGLO. Pcnodiad.—Llongyfarchwn Mr W. M. Jones, Bod Gwynedd, ar ei benodiad i swydd bwysig yng Ngwrecsam. Y mae Willie yn facligen rhadlon a charedig, ao II yn ysgolor gwych. Ein Milwyr.—Ymysg y rhai ymwelsant a chartref yr wythnos hon cawn Preifat W. Hughes, Tanygraig, o Kinmel; Preifat A. Roberts, Celynen House, a Preifat W. G. Jones, Alexandra House, o Groesos- wallt. Itawdd oedd canfod llawenydd plant yr ysgol pan yn cyhoeddi fod eu hoff athraw, Ivfr Jones, wedi dod adref. Y mae iddo le cynnes yn serch ei ddisgybl- ion, a cholled i Mr Thomas yw gorfod gwneud ),ebddo.
IDOLGELLAU.
DOLGELLAU. O'r Ffrynt. Bu Major R. H. Mills, Brynbella, adref am ychydig geibiant o Ffrainc. Mae'n edrych yn dda.
I DYFFRYN NANTLLE.
DYFFRYN NANTLLE. I, Uniad Gweinidog. Dydd Mercher, Mehefin 21ain, ynghapel Siloh, Llandud- no, unwyd trwy briodas y Parch D. Cyn. ddelw Williams, B.A., Saron, caplan yn y fyddin, a Miss Margaret Hughes Jones, unig ferch cyn-Gynghorydd W. H. Jones, Brynymor, Llandudno. Y forwyn ydoedd Miss Maggie A. Hughes, a gweithredai Mr James Metcalf, Mancednion fel gwas. Gweinydd vyd gan y Parchn E. 0. Davies, B.Sc., ac H. Barrow Williams. Treulir y gwyliau priodasol yn Windermere. Marw ar Faes y Gad.-Daeth y newydd i law Mrs Williams, County Road, Peny. groes, fod Preifat William Williams, ei mab, wedi marw ym maes y frwydr yn I frainc. Yr oedd yno o'r deohreu, nea daeth ei ddiwedd ar yr 8fed o Fehefin, heb i ddim ddigwydd iddo. Dyma yr ail fab i Mrs Williams a syrthiodd yn y frwydr; ac y mae dau iddi yn aros yno eto. Rliodded Duw ei aden amddiffynol dros- tynt, a nerthed y fam weddw i ddal ei phrofedigaeth cliwerw. Mae ein cydym- deimlad fel ardal yn fawr gyda hi yn ei thrallod a'i chyfvngder. Teyrnged i Gerddor.-Wele dystiolaeth dau o brif arweinwyr seindyrf y deyrnas am gymeriad a galluoedd cerddorol dis- glair y diweddar Mr T. E. Sarah. Dy. wed Mr Wm. Rimmer:—"I am sorry to hear of the death of my old friend Tom Sarah. He was a conscientious and pains- taking bandmaster, and a. good man in every way." Eto, Mr Alexander Owen: —"Mr Sarah was a gentleman highly re- spected. His pupils loved him; and I have many reasons to be grateful for hia kind assistance during my early years with the Nantlle Band, as their leadert and especially as interpreter. He laboured assiduously to reach the goal his ambition to bring his band horaq suc- cessfully, and I should feel delighted to know that his name will long remem- bered., not only in Nantlle, but for miles distant around Snowdon by a.11 lovers of good music. He possessed superior ad- vantages in learning-full of tact, vigi- lance, and determination; so it would be a pity if his name (even in this horrid war time) should float down the stream of time. without due recognition. Thanks for the opportunity of adding my brief testimony- to a worthy musician." Ei seindorf greai syndod—drwy Walia., Dda. Sarah ddisorod; Ei fawl yn anfarwol fydd, Gu arweinydd gwir hynod, Caernarfon. A byw ofal bu hefyd ei dalent I'w deulu yn fywyd; Yr oedd ei gyfarwyddyd-yn helaeth A'i oruchwyliaeth yn ddifrycheulvd. EDMYGYDD.
FELINHELI. „ ... -
FELINHELI. „ TmwBiiaa ein Bechgyn.-Da oedd gen- nym weled amryw o'n bechgyn wedi talu ymweliad a'u cartref. Yr oeddynt oil yn edrych yn dda, a chawsant roeso calon.
LLANYSTUMDWY.
LLANYSTUMDWY. Ca dd aniryw yn y fro yma gryn Haa ar ddarllell erthygl ragorol y Parch Wyn Williams ar "Ben Bowen," yn y inen" am Orffennaf,