Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
38 erthygl ar y dudalen hon
Y SWISIAID YN DERBYN CARCHAR.I…
Y SWISIAID YN DERBYN CARCHAR. ORION. Gwnaeth Switzerland yn dda i drefnu ar gyfer rhoi derbyniad i garchaorion rhyfel. Dywed cynrychiolydd Prydeinig oedd yno yn gweled y rhai cyntaf yn cyr- raedd i'r milwyr ddatgan fod mynd i Switzerland fel "disgyn yn syth i'r nef- oedd o uffern."
-STREICIO YN CATALONIA.I
STREICIO YN CATALONIA. Daw newydd o Barcelona yn dweyd fod y streic yn Catalonia yn niwydiant gwef- rol yn edrych fel pe am fod yn un gyff- roclinoI. Bu i'r rhagolygon am drethu y proffidiau newid meddwl y meistri, y rliai oeddynt ar gytuno i roddi cynnydd ynghyflogau y gweithwyr.
YSBEILK) CYNRYCHIOLYDD YI…
YSBEILK) CYNRYCHIOLYDD Y I LLYWODRAETH. Yn ol pellebr o Chicago ddydd Sadwrn, cafodd Mr William Rebbe, yr hwn sy'n prynu ceflylau i'r C\rngieirwyr yn yr America, ei ysbeilio dydd Gwener, a chan- fyddwyd ef yn gorwedd yn Lake Drive yn dioddef oddiwrth archoll achoswyd gan Iawddryll. Hysbyswvd Yi- heddlu iddo gael ei ysbeilio tra'n cerdded ar hyd y drive, a chafodd y lleidr, neu ladron, tua 4,900p arno.
,HEDDWCH PERYGLUS.
HEDDWCH PERYGLUS. I Y Diwedd Ddim yn y Golwg. Wrth annerch cyfarfod yn Raunds, Northamptonshire, dydd Sadwrn, cyfeir- iodd Mr Arthur Henderson, A.S., at y siarad sydd am heddwch. Dywedodd fod hwn yn gwestiwn sy'n peri dicUordeb i bawb, a'i fod yn cael ei drafod yn fynych yn y wlad hon a gwledydd eraill. Yr ydym yn clywed siarad am yr angen o sefydlu ein termau heddwch. Yr wyf yn llwyr argyhoeddedig fod hyn yn beth dif- rifol ar hyn o bryd, ac yn beiyglus hollol. Pwy yw y bobl sy'n siarad am heddwch? Gelynion y wlad hon mewn gwledydd tra- mor sydd yn ymffrostio fod y Powerau i Cyngreiriol wedi eu gorchfygu. Mae ychydig o bobl gartref wedi ymuno a hwy. 4Ni wnaed dim ganddynt i rwystro i ni gael ein gorchfygu (clywch, clywch). Nid yw -y diwedd eto mewn golwg, ac am hyn ni ddylem ddigaloni o gwbl. Rhaid i ni ofalu pan ddaw heddwch, y bydd y fath ag a wnaiff ddiogelu ein plant rhag y fath drychinebau a'r rhai gymer le heddyw (clywch, clywoh). Credaf fod mwyafrif y bobl yn bwriadu parhau y rhyfel hyd nes y cawn heddwch parhaol, a llwyr fuddugoliaeth ar ein gelynion.
O'R LLONGAU I'R FFOSYDD.
O'R LLONGAU I'R FFOSYDD. Y iMcdd y Cuddir y Gwirionedd gan Germani. Dywed y "London Daily Express" fod amryw o forwyr Germanaidd ymysg y carcharorion gymerwyd gan y Prydein- wyr yn ddiweddar at- y ffrynt gorllewinol. Dywed y morwvr hyn eu bod wedi cael eu hachub ym mrwydr ddiweddaf Mor y Gog- ledd. Pan Iannvyd hwy yn Germani rhoddwyd gwisgoedd milwrol am danynt, ac anfonwvd hwy i'r fFosvdd er mwyn rhwystro iddynt ddweyd gartref beth ddigwyddodd i'r llongau Germanaidd. Fel hyn v mae Germani yn cadw'r gwir- ionedd rhag y bobl, a gorfodir hwy i gredu yr adroddiadau celwyddog gyhoeddir gan- ddynt. -ti»
CHW4RELWYR AR Y TIR. I
CHW4RELWYR AR Y TIR. I Un Gwas Fierm Cystal a Thri. Yn Nhribunal Lleyn, ddydd Sadwra, I rhoddwyd rhyddhad amodol i amryw o amaethwyr dros 30 mlwydd oed. Gwnaed cais gan amaethwr o ardal Lianaelhaiarn am ryddhad i'w was, ugain mlwydd oed. Gofynodd y Clerc ai gwir ydoedd fod yna amryw o chwarelwyr allan o waith yn yr ardal allai weithio ar y tir. Dywedodd yr aptelydd ei fod o'r un farn a Mr Daniel Jonas, cynrychiolydd y Bwrdd Amaethyddiaeth, sef nad oedd tri o chwarelwyr gystal ag un dyn wedi arfer gweithio ar y tir. j Y Clerc: A ydym i ddeall fod amaeth- wyr yn gwrthod cymeryd chwarelwyr i'w gwasanaeth ? Mr Daniel Jones: Ni aiff chwarelwyr i weithio ar y tir am bris yn y bvd. Dywedodd y Prifathro Evans, Madlyn, fod gan y ffermwyr ddigon o ddynion hyd ben tymor, ac nad oedd angen arnynt am lafur achlysurol. Y Clerc: Mae'n ymddangos felly nad yd:nv'r amaethwyr yn dioddef unrhvw an- il wyhisdod oddiwrth y rhyfel. Sylwodd y Cadeiiydd fod yn ddyled- swydd arnynt bwyso ar amaethwyr j1 crif- logi priod yn lie dynion sengl hyd v gallant, er mwyn sicrhau iia fuasai am- aethwyr priod yn gorfod ymuno a'r fyddin tra y byddai dynion sengl yn cael aros. gartref.
I BEIRNIADU CAPLAN.
I BEIRNIADU CAPLAN. I Ddim vn Gristion, Gerbron Tribunal Lleol Caergybi, hawl, iodd Evan Roberts, 39 oed, athraw cyn- orthwyol yn Ysgol Cybi, ryddhad oddiar dir cydwybod. Mewn atebiad i'r cwes- tiynau argraffedig raid i wrthwynebwyr cydwybodol ateb, dy wed odd yr apelydd fod rhyfel yn lofruddiaeth trefnedig, ac yn drosedd yn erbyn dynoliaeth. Pe bu- asai'r i-hai sy'n proffesu eu bod yn Grist- ionogion ivedi neidio allan o'u envyn pan ddechreuodd y rhyfel hon, buasent wedi atal yr holl fusnes, ac yn sefyll gwell cyflc o gael pethau yn wastad lla miliynau o iilwyr. Pan ofynwyd iddo gan aelod a oedd wedi ceisio perswadio dynion mewn oedran mil- wi ol i beidio ynuino, dywedodd nad oedd, ond ei fod yn eu hedmygu, am lynu wrth eu hegwyddorion. Y Clerc: A ydych chwi yn edmygu eu hegwyddorion?—Nag ydwyf. Y Cadeirvdd: Onid ydych yn barod i gymeryd esiampl oddiwrth y PaTch John Williams, Brynsiencyn? Onid ydych yn credu ei fod yn abl i ddangos rhywbeth yn ffordd esiampl i chwi fel Cristion? Mae Cristionogaeth yn erbyn cymeryd bywyd. Yr wyf yn llwyr argyhoeddedig o hyn. Os ydyw'r Parch John Williams, Brynsien- cyn, yn credu yn groes i hyn, nid wyf yn credu ei fod yn Gristion. Y Clerc: Mewn geiriau eraill, nid yw yn berson cymwys i bregethu yr Efengyl?— Nid wyf yn credu ei fod. Ar ol trafod yr aohos yn breifat, dywed- odd y Cadeirydd nad oeddynt yn credu fod yr apelydd wedi gwneud achos allan am ryddhad, ac am hynny yr oeddynt yn gwrthod ei apel. ■ — ■ —
MARCHNADOEDD.I
MARCHNADOEDD. I Caernarfon, Mehefin 24.—Ymenyn, Is 2c y pwys; wyau, 7 i 8 am Is; pytatws, 3c y pwys. Pwllheli, Mehefin 21.—Ymenyn, Is v pwys; biff, myton, a. phorc, 10c i Is 2c y pyys; moch tewion, 7ic y pwys; perchyll, 36. i 40s; wyau, 120 am 12s. Llangefni, Mehefin 22.—Ymenyn, Is Ie J pwys; v \au, 9 am Is; perchyll, 38s i 42s; moch tewion, 8c i 8tc y pwvs.
GWENITH. I
GWENITH. I Lerpwl, Mehefin 23.- Yr oecld gwenith ar y spot yn sylwcddol, y prisiau 6c i 3o yn is n,-i'r ftreiiiiad flaenoi-ol. Am y 100 pwysGwenith Awstralaidd, lis 2c i lis 4c; No. 2 red winter W., 9s 9c i 9s lie; detholedig, caled, 10s 2c i 10s 2e; No. 2. hard, 9s iic i 9s 6-Jc; No. 1, Northern Manitoba, 10s Oe i 10s Ie; cnwd newydd.' 9s HIke i 9s lie; No. 3 Northern, 9s 9c i 9s 9ic; Rosafe, 10s 5c.
PRIS BACWN.
PRIS BACWN. I Ymholiad yn y Senedd. Nos Iau, yn y Senedd, mewn atebiad i Mr William Thorne, dywedodd Mr Pretty- man mai 3,500,000 cwts. o faewn fewnfor- iwyd yn ystod pum mis cyntaf y flwyddyn hon, o'i gymharu a 2,200,000 cwts. am yr un cyfnod o flwyddyn 1914. Bydd i'r mewnforiad gynnyddu yn y dyfodol. O'r symiau hyn yi" oedd 2,200,000 cwts. yn 1916, a 700,000 cwts. yn 1914, wedi dod o'r Unol Daleithiau. Gofynodd Mr W. Thorne pam yr oedd pris y bacwn mor uchel a chymaint mwy ohono wedi dod i'r wlad yn 1916 na 1914 ? Dywedodd Mr Pretyman nad oedd bacwn yn sefyll wrtho ei hunan.. Yr oedd yn un o'r pethau hynny effeithiai ar eu gilydd mewn pris. Mr W. Thorne: Onid y ffaith piai yr lanci sy'n rheoli y rhan fwyaf ohono sy'n cyfrif am hyn? Mr Pretyman: Feallai mai dyna yw.
IYMDDISWYDDIAD ARGLWYDD -SELBORNE.-
I YMDDISWYDDIAD ARGLWYDD SELBORNE. I Yn hwyr nos Sadwrn cyhoeddwyd a gan- lyn gan y Press Bureau :— ''Mae'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Selborne wedi ymddiswycfdo o fod yn Llvwydd' Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgota." Deallwn mai agwedd tribunals a'r aw- durdodau milwrol tuagat amaethyddiaeth fu yr achos iddo ymddiswyddo. Protest- iodd amryw weithiau. Fe gofir iddo gael ei apwyntio i'r swydd hon y llyne<Id paa sefydlwyd y Llywodraeth Gyfunol. ————
ITRIBUNAL SIROL ARFON.
I TRIBUNAL SIROL ARFON. I Clerc Newydd. J Mae Mr Llewelyn Davies, Porthmadog, I cynrychiolydd Gogledd Cymru y "Cam- j brian News," wedi ei apwyntio yn glere I i'r Tribunal Sirol yn Arfon fel olynydd i Syr John Roberts. Gorfu iddo ymddi- swyddo oherwydd galwadau eraill.
I MARW SWYDDOG 0 -NEFYN.
MARW SWYDDOG 0 NEFYN. Daeth newydd i Nefyn, dydd Gwenji* fod yr Isgapten Evan Williams, mab Mr a Mrs Williams, Tycanol, wedi colli ti fywyd gyda'r "Hampshire." Nidi oedd ond tua 30 mlwydd oed, ac yr oedd yn dra phoblogaidd ymysg ei gyd-ddynion. ——
Family Notices
GENI. PRIODI. MARW. PRIODI. Williams- Jones Mehefin 21ain, y Parch D. Cynddelw Williams, B.A., caplan yn y fyddin, gyda Miss Margaret Hughes Jones, Brynymor, Llandudno. MARW. Williams Mehefin 23, Miss Margaret Williams, 21, Palace Street, Caernar- fon. Thomas—Mehefin 19,M.. J. W. Thomas. Bay View, Carmel, yn 24 mlwydd oed. Jones--I,Iehefin 20, Mr Richard Jones, piastre, Church Street, Llangefni. Griffith—Mehefin 20, "-t-,nrv, Griffith Llety. Trefriw, yn 82 mlwydd oed.
Advertising
111 J. FLETCHER. LTD.. MEMORIAL WORKS, CARNARVON a BANGOR .J':T" -w- -rs¿;¥I Argrafiwyd a cbyhoeddwyd gan Gwmni y Dinesydd Cymreig, Cyf., yn 16, Palace Street, Caernarfon.
Advertising
LLOYDS BANK I ???" ? H?"t?r=9f 0 t ??/f?TB TfFt r?B LIMITED, j I HEAD OFFICE: 71, LOMBARD ST., E.C. THIS BANK HAS MADE ARRANGEMENTS BY WHICH HOLDERS OF WAR LOAN COUPONS AND DIVIDEND WARRANTS WHO HAVE NO BANKING ACCOUNTS CAN OBTAIN | PAYMENT AT ANY OF ITS 900 OFFICES.
COLLEDION AWSTRIAIDD.
COLLEDION AWSTRIAIDD. Dywed adroddiad o Rhufain fod colled- ion yr Awstriaid er Mehefin 3ydd tua 44)0,000 o ddynion.
PRINDER METEL YN AWSTRIA.…
PRINDER METEL YN AWSTRIA. .n JJywedir too prinder mawr ar fetel yn Awstria, ac fod yr awdurdodau yn galw am gyflwyniad clociau yr eglwysi at eu gwasanaeth.
CENLLYSG YN NIWEIDIO CNYDAU.
CENLLYSG YN NIWEIDIO CNYDAU. Dywed pellebr o Jena i'r "Cologne Gazette" fod storm fawr o genllysg wedi gwneud difrod mawr ar gnydau yn Saxe Weimar a Thuringia, Germani.
IS-ELLMYNWYR A BWYD DRUD.
IS-ELLMYNWYR A BWYD DRUD. Torodd anhrefn arall allan ddiwedd yr wythnos yn Rotterdam oherwydd prisiau uchel bwyd, er gwaethaf y rhybudd yn gwahardd y fath arddangosiadau.
ANRHYDEDD MILWROL.
ANRHYDEDD MILWROL. Dywed Ysgrifennydd y Swyddfa Rhyfel fod 86 o Groesau Buddug, 130 o Groesau MilwiTol t 6,1500 D.C.M.'s, a 1,700 o Fath odynau Milwrol wedi cael eu hennill yn ystod y rhyfel hon gan swyddogion a mil- wyr.
FFAWD AGERLONG.
FFAWD AGERLONG. Dydd Gwener cymerodd y Great Eastern Harwich liner "Bussels" i'r ddalfa gan ddistrywyddion Germanaidd, ac aethpwyd a hi i Zeebrugge. Ar ei bwrdd yr oedd merched a phlant Belgaidd1, ynghyda chyHenwad mawr o fwydydd.
GWYLIAU GWEITHWYR CREWE.
GWYLIAU GWEITHWYR CREWE. Cauwyd gweithydd rheilffyrdd Crewe ddydd Sadwrn am wythnos o wyliau i'r dynion. Yr oedd y dynion yn cael clud- iad rhad iddynt hwy a'u teuluoedd, ac yr oedd y gofynion am danynt mor drwm fel y bu raid rhoddi trenau arbennig ar eu cyfer.
-CYFLAFAREDDIAD GORFODOL.…
CYFLAFAREDDIAD GORFODOL. I y mae Cyngrair Gweithwyr Norwy wedi datgaii yn erbyn cynrychioliad ar y Tri- bunlys Cyflafareddol, ac y mae'r Llywod- raeth wedi cymeryd ma-ntais ar Ddeddf Cyflafareddiad, drwy enwi person ar eu cyfrif eu hunain. Y mae'r gweithwyr yn erbyn cyflafareddiad gorfodol.
YSTYRIAETH DDYDDIOL Y LLYWODRAETH.
YSTYRIAETH DDYDDIOL Y LLYW- ODRAETH. Mewn atebiad i ddirprwyaeth ynglyn a I thriniaeth gwrthwynebwyr cvdwybodol yn Norwich, dydd Sadwrn, dywedodd Mr G. H. Roberta, A.S., fod yn rhaid iddo gael ffeithiau I lawn, ac nid cyhuddiadau. Credai ef mai'r tribunals ydoedd yr aw- durdodau lleol goreu ellid sefydlu. Mae cwestiwn y gwrthwynebwr cydwvbodol yn cael ystyriaeth ddyddiol y Llywodraeth.
I.^OSP GYFFREDIN. I
I. ^OSP GYFFREDIN. I Datganodd Ysgrifennydd y Rhyfel nad oeddis yn lhoddi cosbiadau arbennig ar wthwynebwyr cydwybodol y rhai allai fod wedi troseddu yn erbyn disgyblaeth—dim ond y cosbiadau arferol, dyna'r oil. Beth allai y rhai arbennig fod os yw y rhai cyffredin yn golygu bara a dwr, cell l dywell, heiym-ddwylo a thraed, &c.? Gan fod y Senedd wedi darparu i'w ham- ddiffyn pam oosb o gwbl P
I ADNODDAU RWSIA.I
I ADNODDAU RWSIA. Dywed Cyrnol Gablouski fod adnoddau Rwsia mewn dynion yn ddihysbydd, gan fod mwy na. 900,000 o fechgyn yn cyrraedd eu 18 oed bob blwvddyn yn Rwsia, a! gellir ameangyfrif yn ddiogel fod 800,000 ohonynt yn rhai cryfion ac abl i wasanaeth filwrol.
I BRWYDR POBWYR MELBOURNE.…
I BRWYDR POBWYR MELBOURNE. Dal ati yn gadarn y mae pobwyr Mel. bourne vn yr ymdrech i gael yn rhydd oddiwrth vaith y nos. Apelia y Llywod- raeth am i'r ffermwyr eu cyflenwi a dyn- ion fedr neu a geisiant wneud y gwaith. modd y gellir sierhau y fasnach allforol ac amddiffyn cyflenwad bara y bob!. Dyna, eu dull gofalus hwy o roddi y mater.
I CAMGYMERIAD TRIST.I
I CAMGYMERIAD TRIST. I Mewn cwest yn Southampton datga-n- wyd fod gwraig o'r enw Sarah M'Alpine wedi taflu paced o bapur i'r tan oedd yn cynnwys 130p o nodau arian gynilodd ei gwr. Bu i'r camgymeriad ei phoeni yn fawr a phan gyrhaeddodd ei gwr gartref i ddydd Iau gwelodd hi ynghrog yn ei hyg- I tafell wely.'
I CYFNEWIDIAD CHWILDROADOL.…
I CYFNEWIDIAD CHWILDROADOL. I Dywedodd Mr J. H. Thomas, A.S., mewn cyfarfod o wyr y rheilffyrdd yn Bryste fod Cyngres Bath wedi dangos yn glir fod yna gyfnewidiad hollol ymholisi Undeb Gwyr y Ffyrdd Haiarn. Bydd i bob trafodaeth o nodwedd genedlaethol gael ei wneud dirwy y fVyllgor Gweithiol, yn lie bod pob rheilffordd ar ei phen ei hun, fod yr oil yn cael eu cymeryd fel un.
I Y CARCHARORION GWYDDELIG.…
I Y CARCHARORION GWYDDELIG. Dywed adroddiad swyddogol o'r Pen- cadlys Milwrol yn Dublin, nos Sul mai cyfanrif y carcliaorion Gwyddelig sydd mewn carcharau yn Lloegr ydyw 1,614 o ddynion a 5 o ferched. Dedfrydwyd 169 o ddynion ac un ddynea o dan y Ddeddf Amddiffyn Gwlad. Rhif y rhai ryddha- wyd o Richmond Barracks ac o Loegr ydyw 11,000 o ddynion a, 71 o ferched.
SWYDDOGION UNDEB CLERCOD YI…
SWYDDOGION UNDEB CLERCOD Y I RHEILFFYRDD. Swyddogion yr Undeb uchod am eleni ydyw :—Llywydd, Mr W. E. Williams; trysorydd) Mr if. M. Roberts; ysgrifen- nydd Seneddol, Mr A. G. Walkden; cyn- rychiolwyr i gynhadledd y Blaid Lafur, Mri W. H. Farrar, G. Latham, W. J.. Petheick, F. B. Simpson, A. G. Walkden, I B. T. Williams, a W. E. Williams. j
CYNHAEAF CYFFREDIN YNI AWSTRIA.
CYNHAEAF CYFFREDIN YN I AWSTRIA. Oherwydd tywydd oer a gwlawogydd trymion y mae cryn bryder vnghyloh y cynhaeaf jn Awstria-Hungari. Addefir yn awr nad oes obaith am ddim ond cyn- haeaf cyffredin, a hynny os bydd i'r ty- wydd newid. Sut dywydd bynnag fydd ni ellir trin y crop yn gynnar fel y dis- gwylid.
ANRHYDEDDU MILWYR CYMREIG.…
ANRHYDEDDU MILWYR CYMREIG. Mae r swyddogion Cymreig canlynol I wedi cael eu haprhydeddu am wroldeb yn y ffrynt gyda Chroes Filwrol: Capten Frederick James Easterbrook 6th Batt., S. Wales Borderers, a'r Is-gapten Peter Robert Foulkes Roberts, 4tl¡ Batt., R.W.F. Cafodd a ganlyn "clasps" ar eu D.C.M. am gyflawni gwrhydri pellach: Capten J. G. Jones, 14th R.W.F.; Is- gapteniaid A. L. Jones, 14th R.W.F.; J. S. Strange, 14th R.W.F.; a J. A. Wilson, 20th Welsh Regiment.
DIRWYO GOLYGYDDjElOO.j
DIRWYO GOLYGYDDjElOO. Dydd Sadwrn, yn Clerkenwell, cyhudd- wyd T. H. Keell, golygydd y "Freedom," o ysgrifenu erthygl ynglyn a gwrthryfel yr Iwerddon. Cyhuddwyd ef hefyd gyda Lilian G. Woolf, am gyhoeddi yn y "Voice of Labour" erthygl yn delio gyda'r gwrth- orfodwyr. Mewn amddiffyniad dywed- wyd na cliyhoeddwyd yr erthygl gyntaf, gan i'r heddlu yniosod ar y swyddfa cyn I iddi fyned i'r Wasg. Tynwydy cyliudd. illd hwn yn ol, ond am y llall dirwywyd ef i lOOp neu dri mis o gaichar, a Miss Woolf i 2op neu ddau fis.
ANWYBYDDU "AMSER HAF."
ANWYBYDDU "AMSER HAF." Mae un pentref Cymreig heb dalu un- rhyw sylw i'r Mesur Cynilo Amser, sef Abergynoiwvn. Gwnaeth y trigolion gais at Gyngor Gwledig Dolgellau i'r "scaven- ger" ddeclireu ar ei waith awr yn ddi- weddarach, gan fod y chwarel yn gweithio. a'r gwasanaeth yn y capelau a'r eglwysi yn cael eu cynnal yn 01 yr hen amser, ac nid yn 01 yr "amser haf." Penderfyn- wyd ateb mai'r ffordd oreu ydoedd i'r pen- tref syrthio i mewn gyda'r Mesur Cynilo Amser. ———
Advertising
11ahet s popular Cafe. I BRIDGE STREET, CARNARVON Y LLE MWYAF CYFLEUS A CHYSURUS AM BRYD 0 FWYD GWI RIONEDDOL DDA. Tyrfa Fawr o Gefnogwyr, a phob un a gair uchel am y lie. Defnyddir y Te Byd.Enwog Gold Medal yn unig. Pob Math o Ddanteithion Uwch- | raddol am Brisiau Cymedrol. PERCHENOGION I LAKE & Co., Ltd., Carnarvon. I t
Y WAWR AR DORI.
Y WAWR AR DORI. BARN MR LLOYD GEORGE. Wrth annerch cyfarfod ynghapel Cym- reig Castle Street, Llundain, dydd Sul, dywedodd Mr Llovd'George fod yr amser presezinol yn hynod gymylog. Diwrnod o dywvllwch ydyw, meddai. Nid yn unig y dydd ond y nos, y nos sydd yn blaenori y wawr. Pa bryd y tyrr y wawr ni wn, ond mae hwn yn gyfnod pan mae'r wawr mewn golwg. Pan ddaw, newidir yr holl fyd, a bydd pawb ohonom yn cael daiar a nefoedd newydd. Dywedodd Mr Llewelyn Williams A.S., yr hwn lywyddai, mai tri Bedyddiwyr mawr sy'n fyw heddyw, sef Mr Hughes, Prif Weinidog Awstralia; y Barnwr Hughes, o'r Unol Daleithiau; a, Mr Lloyd George. O'r tri credai mai'r hen Fed- yddiwr o Griccieth ydoedd y mwyaf (cym.). I ——'——-    ————