Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
rag LLYN.-
rag LLYN. RHUTHR AWYROL. Hysbyeir fod rhuthr awyrol, credir eu bod yn 12 o rif, wedi cael ei wneud ar y Siroedd Dwyreiniol a rhanau ailanol o Lundain J'OB Sadwrn, gyda chanlyniadau alaethus i'r ymosodwyr. Daethpwyd a dwy o'r awyrlongau i lawr yn Essex. Un ohonynt yn disgyn yn fflamau mewn gwlad agored, a dinistriwyd hi a'r criw; 1 cymerwyd y Uall ynghvda'r criw o 22 o swyddogion a dynion. Yr oedd y ddwy yn awyrlongau mawrion o'r ffurf ddi- weddaraf. Bu i'r awyrlongau ym?el?d ag amryw iannau yn Nwyrain a De-ddwy- rain Lloegr; ond yr oedd y prif golledion mewn bywydau yn y rhanau allanol o Lundain, ile y Iladdwyd 28 o bersonau ac y niweidiwyd 89. Mewn tref yn East Midland lladdwyd dau a niweidiwyd 11. Y colledion oil oeddynt 130. Y FFRYNT GORLLEWINOL, ) Yr oedd yna gryn symud awyrol yn y I ffrynt gorllewinol ddiwedd yr wythnoe. Bu i'r Ffrancwyr yn unig ddydd Gwener 1 ar ffrynt Somme ymladd mewn 56 o frwydrau awyrol, a 29 yn yehwaneg ddoe. Mae'r trefi Germanaidd Ludwig- shafen a Mannheim ar y Rhine wedi eu bombardio. Ymosododd 50 o awyrlongau Prydeinig ar yr tin dydd junction rheilffordd bwysig gan ddinistrio dwy dren yn cyn- nwys defnyddiau rhyfel. Deuwyd a llawer o beirianau awyrol y gelyn i'r llaWT. Y mae pump o beirianau Pry- deinig ar goll. Mae y Germaniaid yn eu hadroddiad ddoe yn hawlio eu bod wedi saethu i lawr 24 o aeroplanes, 20 yn sec- tor Somme yn unig. Edrydd Berlin y Sadwrn fod 11 o beiriannau y Cyngreir- wyr wedi eu saethu i lawr i'r gogledd o 1 Somme. Mae yr awyrwyr Prydeinig wedi gwneud rhuthr ar aerodromes Germani yn St. Denis Westrem, Ghistelles, a Haud- zaeme yn Belgium. AR Y SOMME. I Parhau i wella eu sefyllfa y mae'r Pry- deinwyr i'r de o Ancre. I'r dwyrain o Courcelette cymerwyd nos Wener gyfun- drefn gaerol gref o ffosydd y gelyn, a symudwyd ein llinell ymlaen ar ffrynt o hanner milltir. I'r gorllewin o Mouquet Farm gyrwyd yn ol ymosodiad German- aidd chwyrn gan ein tanio gyda cholled- ion trymion. Y mae ein gunners wedi gwneud gwaith da. Mewn un adran o'r ffrynt Germanaidd distrywiwyd 10 o gun- 1 pits, a niweidiwyd 14 yn ddifrifol, a chwythwyd i fyny bump o pits cad-ddar- par. Achoswyd tan mawr mewn pentref arferid gan y Germaniaid er trosgludiad eu cyflenwadau. Mae y Ffrancwyr wedi atal ymosodiadau y Germaniaid yn Abbe Wood Farm, ac ar lan dde y Meuse. Y mae ysbiwyr Ffrengig wedi cyrraedd i'r rhaunau ailanol o bentref Combles. Y RWSIAID. Daw hanes o'r ffynt Rwsiaidd yn hv«- j bysu am frwydro caled ar hyd y llinell o Pripet i'r terfynau Rwmanaidd. Y peth- au mwyaf i'w hadrodd ydyw eymer., 1,500 yn garcharorion, ac atal ymosodiad- au y Germaniaid oeddynt yn cael fu blaenori gan ollyngiad nwyon. Dywed Berlin fod pump o ymosodiadan ) cydgasglol Rwsia wedi methu ar y Sereth a'r Strypa, gyda cholledion i'r Cyngreirwyr, ac fod y sefyllfaoedd ar y Carpathians wedi eu hadfeddiannu. Y rFRYNT RWMANAIDD. Daw y newydd o Rwmania fod enciliad j yr Awstriaid wedi peidio yn Dobrudja, gan fod y gelyn yn awr wedi dechreu sef- ydIu ei sefyllfacedd. Daw neges an- swyddogol yn hysbysu fod y Serbiaid yn Dobrudja wedi cael llwyddiant, gan gy- meryd wyth o ynau mawr a chwech o vnnau peiriannol. Mae y gelyn yn hawlio ei fod wedi clirio y Vulcan Pass. Ed- rydd y Bwlgariaid fod 20 bataliwn o'r j Rwsiaid-R wm ana idd, gyda gwyr meirch a chyflegrau vjedi cael eu gorchfygu yn I Dobrudja, a'u hymlid nes y daeth tvwyll- wch y nag i'w hatal.
ENWADAU YN Y FYDDIN * i! ENWADAU…
ENWADAU YN Y FYDDIN i! ENWADAU YN Y FYDDIN. I (At Olygydd y "Dinesydd"). Syr,—Mae llawer o ebychu mewn rhai i eyfeiriadau ar nifer yr aelodau o'r gwa- hanol enwadau sydd wedi ymuno a'r j fyddin yn yr argyfwng presennol. Myn | Eglwys Loegr, er engi-aifft, mai iddi hi v perthyn y nifer luosocaf o lawer. Caniataer i mi adrodd hanes un o'm eyfeillion a awyd i'r fyddin yn ddiweddar. yr hyn a dafla oleuni ar yr hyn sydd yn mynd ymlaen ynglyn ag enwadu v mil- wyr yn y fyddin. Pan aeth fy nghyfaill i'r orsaf gofrestr- | iadol rhowd ef i lawr fel Annibynwr. Yna anfonwyd ef i wersyll, lie y cymerwyd y manylion i fowr gan gorporal, yr hwn a'i rhoddodd i lawr fel Weslead. Yna- tros- glwyddodd hwnnw ef at yr uch-ringyll, rr hwn drachefn a'i rhoddodd i lawr fel yn perthyn i Eglwys Loegr, gan ddweyd, "0, fe rhown chwi i lawr fel yn perthvn i Eglwys Loegr, gan eu bod hwy yn dech- reu eu gwasanaeth yn ddiweddarach, ac yn gorffen yn gynt na'r lleill Fel mater o ffaith, magwyd fy nghyfaiU .vda'r Trefnyddion Cyntefig, ond ers rhai blvnyddau bellach ni pherthyn i unrhvw einvad. Teg a'r "Fam," luodd bynnag, yw ych- Wiinegu mni nid Cymro mohono. Fy unig amcan yn cyhoeddi y ffaith hon yw ceisio dangos mar lleied y gellid dibynu ar ystadegaeth ynglyn a'r mater hwn. Barnaf, pe ceid at y gwirionedd, y caw- J sid fod mwyafrif ein milwyr, ysywaeth, y tuallan i ddylanwad unrhyw enwad 0 gwbl.-Yr eiddoeh, WAETH PWY. I
.ESGOB LLUNDAIN.
ESGOB LLUNDAIN. Yn Victoria Park, Llundain, ddydd Sa<Iwrn, dywedodd Esgob Litindain:- Byddai i'r Eglwys bregethu i'r gweithiwr y rhaid iddo roddi diwmod teg o waith am dal diwrnod teg am dano, ac i'r cyfal- afwr fod yn rhaid iddo roddi tâ1 diwrnod teg am ddiwrnod teg o waith. Y r oedd cymrodwriaeth y ffosydd yn werg i gael ei gynnal ar ol y rhyfel. Yr oedd pob dyn a merch i gael cyfle teg i fyw drwy fynu cael cyfleusterau cyfartal.
CWESTIWN Y TIR.I
CWESTIWN Y TIR. I MR ELLIS DAVIES, A.S., A R I FFERMWYR. Dydd Sadwrn, yng LN, ghaernaxfon, tra- ddododd Mr Ellis Da vies, A.S., anerohiad i'r amaethwyr. Dywedodd na ddylai y llwyddiant mawr presennol mo'u dallu o bethynas i'r hyn oedd yn myned ymlaen ynglyn a'u diwydiant hwy a'r holl gwes- tiwn o bolisi y tir. Yr oedd prisiau bwyd, &'r perygli o newyn mewn rhyfel, ynghydag effaith bywyd gwledig ar ddy- noliaeth y wlad, oil gyda'u gilydd yn gwthio cwestiwn y tir i'r ffrynt. Yr oedd hawliad y Uafurwr i uwch cyflog, i dy iach, a chylchyniadau rhagorach yn cael ei gydnabod. Ni ellid ymladd yn ei erbyn. Yr oedd trin ychwaneg o dir, a gwneud gwell gwasanaeth o'r tir ydoedd eisys dan driniaeth yn anhebgorol i'r genedl, a'r unig gwestiwn ydoedd But i ddod a hynny oddiamgylch, a sut yr effeithiai hynny ar y ffermwyr. Camgymeriad oedd tybio fod yr amaethwyr fel dosbarth yn gyf- oethog a nerthol. Nid oedd dwy ran o dair o ffermwyr y wlad yn dal mwy na 50 acer o dir. Camgymeriad hefyd oedd dweyd fod y goreu yn cael ei dynu allan o'r tir yn awr. Beth ellid ei wneud i wella hyn ? Awgrymai Pwyllgor Fferm- ydd Trefedigaethol roddi toll, yn cyd- nabod hawl y llafurwr i isrif cyflog, a rhyfedd dweyd mai dyna oedd polisi yr Organ Lafurol newydd. Nid oedd am drafod cwestiwn y doll; gwyddant ei fod yn golygu cael mwy am yr hyn gynyrchid, a thalu mwy am yr hyn oedd yn rhaid ei brynu. Ond yr oedd yna bwynt a hawliai pylw. Darllenodd lawer" am amddiffyniad i amaethyddiaeth; ond ni cheid byth son am amddiffliniad i'r ffarmwr yn erbyn yoh- wanegiad yn y rhent. Dyna oedd eu perygl a'u gwir angen. Dywedir nad oedd y ffarmwr yn rhoi digon o gyfalaf na llafur yn ei dir. Nid oedd yn rhyfedd ganddo am hynny. Onid oedd ei gropiau at drugaredd game ei dirfeddianydd, a daliai ei ffarm at ewyllys y cynrychiolydd a Deddf Iawndal wedi ei malu i lawr i basio yr Arglwyddj fel y methai sicrhau i'r ffamwr yr hyn roddodd yn y tir. Mwy na hyn gallai, ar chwe mis o rybudd, gofti moddion ci gynhaliaeth. Yr oedd yn amlwg fod yn rhaid i'r wladwriaeth gymeiyd camrau i sicrhau trin mwy o dir; ond edi-yehai iddo ef mai yr hyn fyddai yn fwyaf effeithiol fyddai cael sicrwydd daliad y tir i'r ffarmwr, rhoi hawl iddo ddinistrio game, a gwneud i ffwrdd a hawl atafaeliaeth y tirfeddian- ydd. Pe gwneid hyn eawsid arian a llafur at amaethu fel pob diwydiant arall ddarparaj ad-daliad am yr arian werid.
LLAFURWYR YSGOTLAND.I
LLAFURWYR YSGOTLAND. I Tir a Chyfoeth yn eiddo'r Bobl. 1 Dydd Sadwrn, yn Edinburgh, cyfai-fu Pwyllgor Cynghorol Ysgotland, perthynol i'r Blaid I,afur. Pasiwyd penderfyniad yn hawlio y dylai y tir a ffynonelIau eraill o gyfoeth fod 3-n eiddo i'r bobl, pryd y byddo yn ddyledswydd i bob dinesydd am- ddiffyn ei wlad. Pasiwyd penderfyniad yn con.demnio gorfodaeth filwrol a diwyd- iannol, ac yn hawlio gwneud i ffwrdd yn ddioed a Deddfau Gwasanaeth Filwrol. Pasiwyd hefyd fod Llafurwyr a Sosialwyr gwahanol wledydd Iwrop i gyfarfod a'u giiydd er cael trafed heddwch yn ddioed. '=-=- ¡..
Advertising
t) —t ?\ SPECIAL SHOW G\ 0F RT LAD!ES' & MAIDS' ? ? COATS AND FURS (y ? ? f\\ IN ALL THE THIS "\? ?A Latest Styles WEEK t'-?\ WEEK ? ?.?\ ??° ?'- ? \? ?\? LOWEST CASH WE HAVE A ??.? PRICES. Great Show  ? 1???.???'?\ ? VT T A JG <? !? Millinery. ??y?  All the most UNIQUE STYLES. Suitable for ? .J???< LADIES AND CHILDREN, ? C\ AT MODERATE PRICES. U I
|0. T. A G. R.
0. T. A G. R. LLYTHYR 0 EGLURHAD PELLACH. 4, Bryn Derwen, Talysarn, 2 3 Medi, 1916. (At Olygydd y "Dinesydd"). Annwyl Gymrawd,—Derbyniais lythyr arall oddiwrth Mr Griffith Roberts hedd- yw'r bore, gyda hysbysiad ei fod yn ei anfon i'r YYasg ei hun. Anfonais atebiad iddo fel j canlyn.—Yr eiddoch yn bur, DAVID THOMAS. Annwyl Sy'r,—Dcrbyniais eich llythyr lieddyw'r bore. Gan eich bod yn ei anfon i'r Wasg eich liunan, nid oes dim yn galw am i mi wneud hynny. Priodol fyddai i chwi ddeall mai i'r Cymdeithasau Llafur y mae'r Cyngor j LInEur yn gyfrifol am ei weithredoedd, ac nad ydyw'n rhan o'm gwaitli i i drafod busnes y Cyngor gyda chwi, na neb arall o'r tu allan, ond yn unig cyn belled ag y mae gennych chwi gyfiawnhau'r cyhudd- iadau a wnaethoch gerbron y Cyngor Sir. Y cam cyntaf i'r cyfeiriad hwnnw ydyw deall yn glir pa beth a ddvwedsoch wi-th y Cyngor Sir. ac hyd nes cael hynny, gwaith ofor ydyw ceisio troi'r drafodaeth i at unhyw gwestiwn irall. Y mae fy I nghwyn yn eich erbyn wedi ei seilio'ar yr adroddiida-li o'ch svlwadau a vmddangos- odd yn y gwahanol bapurau newyddion, ac yr ydyc-!i chwithau'n gwrthod arddel na. diarddo! adroddiadau hynny, er i mi alw'ca' sylw at^Tit. Petasech chwi heb ddweyd dim mvey nag a nodir yn eich I llythyrau, ni i'uas^vn yn cwyno lawn ev- I maint. Nj ddymunwn wrthod derbyn eich tvstiolaeth, ond y mae'r papurau newyddion i gyd yn eich cyhuddo, a chwithau'n gwrthod neu'n methu a'ch clirio eich liun. A dyna lie y mae'r mater yn sefyll. Diddoroi iawn ydyw eich ymosodiad ar y Cyngor Llafur oliei-wydd iddo benodi ilti- R. \V. Jones yn gynrvchiolydd Llafur. Yr oeddycli chwi'n bresennol yng nghvf- arfod y Cyngor Sir ym mis Mai diweddaf. pan basiorld y Cyngor hwnnw fod DAU o'r saith gynrychiolydd Hafur i fod yn aelodau o ( ndeb yr Athrawon, ac ni chlywais son am danoch yn dweyd yr un gair yn erbyn y pryd hwnnw! Ym- ddengys i mi fod unrhyw ffon yn ddigon da gennych i guro'r Cyngor Llafur. Yr eiddoch yn gywir, DAVID THOMAS. I
TRALLOD Y BARDD. I
TRALLOD Y BARDD. Marw Priod Pedrog. Cydymd-imlwn yn fawr a'r plil-ell J. O. Williams (Pedrog) y brofedigaeth lem I o golli ei briod. yr hon a. fu farw dydd lau, Medi 21. Yr oedd wedi bod yn wael yn hir, a'r bm-dd ei hunan yn gystuddiol yr un pryd. Dydd Llun y claddwyd hi.
CYNILDEB A'R -DDIOD. I
CYNILDEB A'R DDIOD. Dyma ddywed Esgob Down: Nid yw ddim llai na rhagrith i siarad am gynildeb mewn millinery pan fo'r genedl yn gwario 180 miliwn o bunnau bob blwyddyii ar y dctisd f%UwW.
TYSTEB Y PARCH G. CEIDIOG…
TYSTEB Y PARCH G. CEIDIOG ROBERTS APEL. Ohcrwydd iod y Parch G. Ceidiog Ro- berts yn dioddef bellach ers hir amser o dan effeithiau ergyd o'r parlys, yr hyn sydd wedi ei hollol analluogi i si7niud nac i ddeiiiyddio ei barabl, y mae amryw yn teimlo awydd gwneud rhywbeth iddo fyddo yn gynorthwy sylweddol ac yn sir- ioldeb i'w feddwl yn yr amgylchiadau ad- fydus hyn. Y mae Pwyllgw cryf wedi ei Ifurtio yn ytfryn JSiantlle i gei.sio symud ymlacyy" gyda'i, amcan hwn. Bu ein brawd yn gwasanaethu yn hir gyda gwahanol achosion cyhoeddus—yn emvedig gyda symudiadau cymdeithasol— megis I)invest ac Addysg. Bu yn ffydd- lawn iawn yn y pethau hyn, a dioddefodd yn ei amgylchiadau amryw droion ar gyf- rif ei aiddgarweh a'i wroldeb yn dadleu drostynt. Fe fu yn wr cymwvnasgar a pharod ei gynorthwy—a hynny ar draul colled yn ainl iddo ei hun. Y mae gweled gwr fu mor fyw, am yr hanner can niiynetld diweddaf, wedi ei dorri i lawr o dan afiechyd mor flin yn sicr o enllyn cvdymdeimlad llu ato, a theimia y PwvlIgor yn hyderus yn eu liapel am fianysgriifadau at yr amcan hwn. Trefnir i gydnabod yr oil trwy y Wasg. Derbynir y Tanysgrifiadavi gan Swyddog- ion neu Aelodau o'r Pwyllgor. Arwyddwyd ar ran y Pwvllgor Parch JOHN JONES, Hyfrydle, M.C., Llywydd. Pareh R. J. PARRY, Horeb. W., Is-Iywydd. DAVID E. HUGHES, Plas Felin Gerrig, Llanllyfni, Trysorydd. OWEN W. JONES, Snowdon St., Penygroes, J. B. DAVIES, Llanllyfni, Penygroes, Ysgi-if- enyddion.
BYBB MAWRTH. - I II
BYBB MAWRTH. I I YN TRANSYLVANIA. 1 Dal i fynd ymlaen y mae'r Cyngreirwyr yy Balkakns. Yn ystod eu symudiad yjplaen yn Transylvania y mae'r Ruman- iaid yn awr wedi cymeryd 7,000 o garchar- Y maent hefyd yn cael llwyddiant yn Dobrudja. I'r gogledd-ddwyrain o Flo- rina y mae y Ffrancwyr wedi torri i mewn i Petorak, ar y rheilffordd Monastir. Salonika., tra y mae'r Rwsiaid i'r gor- llewin o'r dref hon wedi oario bryn pwysig drwy ymoeodiad. Y mae'r Serbiaid hefyd yn symud ymlaen. CYMERYD CAERFA DYRCAIDD. I Mrydd Sirydd Mecca fod caerfa Dyrc- I aidd, yr hon oedd yn cynnal y barracks I -=, .-0- _I_- a'r gaerfa yn Et-Taif (75 milltir i'r dwy- I11 rain o Mecca) wedi cael ei gorfodi i'w rhoddi i fyny. Cymerwyd 50 o swyddog. ion, a 1,800 o filwyr, deg o ynau, a swm mawr o ddefnyddiau. Y GROEGIAID. I. Dywedir fod 6,000 o filwyr yn gwylio y Palao Brenhinol Groegaidd yn Tatoi, lie y mae'r Brenin yn aros. Gwnaed i ffwdd a 27 o'r milwyr ffurfiai amddiffyn- wylwyr y Brenin, sef 45. Y rheswm yd- oedd eu bod yn ameu ffyddlondeb y 27 i'w Brenm. Mae safle Groeg yn un hynod, ac ni wyddis beth all ddigwydd ar darawiad. Disgwylia Germani y bydd yna ddigwyddiadau mawr yn cymeryd lie yn Groeg. t CARCHARORION GERMANAIDD. Cyfanswm y carcharorion Germanaidd gymerwyd gan Ffrainc yn y ddwy frwydrJ Somme a Verdun, i fyny i Medi 18fed ydyw 65,800. Y PRYDEINWYR. I Daw y rewydd swyddogol oddiwrth Syr Douglas Haig prynhawn Llun yn dweyd fod y gelyn wedi ymosod ar ein outposts yn Ne Ancre i'r dwyrain o Courcelette. ond iddynt gael eu trechu. Chwythasom fwnfeydd neithiwr i'r gogledd o Neuve Chapelle ac i'r gogledd o Hulluch. Gwnaed niwed i waith y gelyn. Rhuthr- wyd ar ffosydd y gelyn mewn amryw bwyntnau i'r gogledd o ffrynt y frwydr. Y RHUTHR AWYROL. 1 Edrydd Berlin yn ewyddogol fod dwy o'u hawyrlongau wedi eu dymchwel i'r ¡ llawr gan ein hawyrwyr ddiwedd yr wythnos. Dywed un o ohebwyr Swisaidid yn Germani fod colli tair o Zeppelins yn ystod y tair wythnos ddiweddaf wedi symud pobl Germani yn fwy nac unrhyw ddigwyddiad arall ers misoodd. Bu i'r hewydd yn ymarferol syfrdanu Berlin. Dywedid yn Llundain ddoe fod yna ad- feilion Zeppelin arall wedi ei godi i fyny o For y Gogledd, ond nid oes gadarnhad iddo. BARN IS.ELLMYNIG. I Dywed un o newyddiaduron Is-Ellmyn- aidd.Dyli Prydain deimlo'n ddiogel ar I ol y llwyddiant a'r fuddugoliaeth awyroJ II ddiweddaraf. Ar y Haw arall, bydd i'r Germaniaid f?ddwi ddwywaith cyn ymgy- J meryd yn y dyfodol ag ymosod gyda'r fath lynges awyrol enfawr. ANRHYDEDDU HEDDWAS.  iMae r heddwas gyflwynodd drosodd i'r awdurdodau milwrol lywydd a chriw y Zeppelin ddaeth i lawr fore Sul wedi cael ei godi yn rhingyll, a'i anrhegu gyda bathodyn teilyngdod am ei hunanfedd- iant a'i feddylgarwch. AWYRWYR FFRAINC. Hysbysir fod awyrwyr Ffainc wedi Uwyddo i gyrraedd Essen, ac anfon rhai 1 o'u mombs i'r nod; oblegid y mae adrodd- j ladau Germani yn addef fod peth niwed I wedi ei wneud.
NEWID PWLPUDAU.I
NEWID PWLPUDAU. I O'r CaPel i'r Eglwys. 1 Ymysg y rhai ordeiniwyd gan Kigub Ty Ddewi yn Eglwys St. Michael, Aber- ystwyth, ddydd Sul, yr oedd y Parch P. R. Thomas, B.A., B.D., gweinidog yr Annibynwyr, Llanddowror, Caerfyrddin, yr hwn sy'n mynd yn gurad i Pembrey; a'r Parch D. Spencer Jones, B.A., gweini- dog y Bedyddwyr, Abedar, yr hwn sydd wedi mynd drosodd i Eglwys Loegr. I
BETH WNEIR A'R CAWR?I
BETH WNEIR A'R CAWR? I Penbleth yn y Fyddin. I Mae yr awdurdodau milwrol yn Wilt- shire mewn penbleth beth i'w wneud a Frederick Hcmpster. Dywedir ei fod y dyn talaf yn y byd. Pan yn teithio gyda'r tren bydd yn rhaid iddo fyned gyda.'i' guard, gan fod y cerbydau ai-fei-ol yn rhy gyfyng iddo. Rhaid rhoddi tri o welyau yn un ei- mwyn iddo gael gorff- wys. Y inae yn 8 troedfedd a. 2 fodfedd o daldra, £ • c yn pwyso 376 o bwysau. Bydd yn goleu ei cigarette oddiar lampau yr heolydd, ac yn gallu cyfrio dau wytli- awd ar y berdoneg. Maintioli ei esgid ydyw 22j. Dywedir ei fod yn parhau i dyfu yn ol gradd o bedair modfedd yn flynyddol.
Family Notices
GENI. PRIODII. MARW. PRIODI. Newscme—Jones—Medi 23, yn LlaJl- beblig, Caernarfon. Sapper George Newsome, St. Helens (o'r West Lanes), a Miss vnnie Jones. 23, Chapel Street, Caernarfon. MARW. Jones--Nledi 20, Mr John Parry Jones, arwerthwr, Penlan, Penrhyndeudraeth, yn 67 mlwydd oed. Jones—Mrs Margaret Jones, Tynygadlas, Waenfawr, yn 78 mlwydd oed.
Advertising
•——• J. FLETCHER, LTD., MEMORIAL WORKS, | CARNARVON a BANGOR, Argraffwyd a chyhoeddwyd gan Gwmni y Dinesydd Cymreig, Cyf., yn 16, Palace Street, Caernarfon.