Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Y GWLAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GWLAN. EISIAU YR OLL I'R FYDDIN. I Yn Nhy'r Cyffredin, galwodd Mr Sher- well sylw at y ffaith fod y Llywodraeth wedi meddiannu yr oil or cyflemfrad gwlan, a. chondemniodd yn neilltuol y rheoleiddiad ag oedd wedi ei wneud gyd- a'r gwlan. Buasai yn well gwneud defnydd o'r fasnach i'w ddosbarthu. Nid oedd y masnaehwyr yn anlieyrngarol, ond yr oeddynt wedi blino ar y dull ag 1. I oedd yn cael ei gario yni l aen, Dywedodd Mr Theodore Tayor fod pris- wyr y Llywodraeth wedi gorfod tahi gwahanol brisiau yr un diwrnod. Credai mai y ffordd oreu i arbcd hyn oedd cv- hoeddi y prisiau. Credai Syr W. E. 15. Priestley na ellid cario ymlaen y fasnach ar y telerau pre- smiiol, gan fod y Lywodraeth yn lles- teirioi y masnaehwyr. Rhoddodd Mr Ellis Davies achos y ffermwr yn erbyn cvnlluii y Llywodraeth, a chwynai na ymddygid yn gyfiawn tuag- atynt gyda golwg r y prisiau. Mewn atebiad, dywedodd Mr W. H. Forster nad oedd efe yn lioffi traws- feddianu pethau, yr oedd yn erbyn ei ar- gyhoeddiadau politicaidd, ond nid yw angen yn cymeryd i ystyriaeth ddeddfau. Yr oedd yn benderfynol o ddefnyddio pob gallu i endill- y rhyfel, Yr oedd gwlan yn un o brif angenreidiau ein milwyr, yn ymarferol yr oedd arnom angen yr oil o'r gwlan croesrywiog i amcanion milwrol ag a allai yr Ymerodraeth ei gynyrehu. Yr oedd yn angenrheidiol i ni feddianu gwlan merino Awstralia, er mwyn gwneud yn sicr o ddigon o gyflenwad i amcanion milwrol i ni a'n Cyngreirwvr Nid oedd y Llywodraeth yn lioffi yniyryd yn ormodol gyda'r dull arferol o werthu y gwlan, ond yr oedd yn rhaid anfon y gwlan oedd ei eisiau at ddibenion mil- wrol i'r gwneuthunvyr. Gallai ell sier- liau mai anglicnion rliyfel oedd yn ga.lw am hyn, ac nad oedd ganddvnt amcanion cudd dros y tvefniani. Wcdi i'r angen milwrol gael ei gyflenwi, yr oedd yn bwysig i ni allforio gymaint ag oedd yn bosibl, iiyd yn nod pe golygai hynny aberthu pin niasnach gartrefol. Yr oeddynt Wedi derbyn llawer o gynorthwy gan am- ryw o wyr blaenaf v fasnach wlan, ac yr oedd y Llywodraeth yn dymuno ar i'r cynllun weithio aHan heb achosi anhwyl- nstod na niwed i'r fasnach. Mr Taylor: A gyhoeddir cofrestr o brisiau y gwlan? Mr Forster: Gobeithiaf hynny. Nid wyf yn deall paham y dylai fod yna un- rhyw anhawster. I

AR GRWYDR.

AMERICANIAID A'R GERMAN- I…

Advertising

SENEDD Y PENTREF.

I TYNGED Y FFESANT.!

! CYNLLUN SYNDICALIAID -1ISELLMAEN.

,IE. OND PWY OBECHREUDDO ?…

ICADFRIDOG OWEN THOMAS.

I DIWRNOD 0 SAITH AWR.