Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
HYN A'R LLALL.1
HYN A'R LLALL. (Gan NEMO). DYLEDSWYDDAU EFENGYLAIDD! Dywedodd gweinidog o'r Eglwys Grist- ionogol ar ei bregoth y dydd or blaen fod cefnogi y Benthyciad Rhyfel gan yr Eglwys "yn ddvledswydd wedi ei seilio yn gadarn ar egwyddorion cin ffydd mwyaf sanctaidd." (Mae yn lied eglur nad yw y "Ffyrdd Sanctaidd" yma yn .gysou a d sgeidiaeth Tywysog Tagnefedd, ,ond efallai ei bod yn talu yn dda—y <cant). Bob dydd er deckreu y rhyfel idvwed: "Y mae gennym aehos i ddiolch i Dduw a Thad ein Harglwydd l'esu Cliist am arweiniad ei Ysbryd Dwyfol, yr Hwn a'n harweiniodd ar hyd llwybr nad yw ond yr un droediwyd gan Fab y Dyn c'n blaen." Onid yw arweinwvr yr Eglwys yn yr Almaen yn honi pethau TOI)VO? Ond chware teg i'r diwinyddion; maent yn "llunio'r wadn fel bo'r troed," a dyna'r ffordd i gerddcd, mae'n debyg! Ymhell- ach ymlaon cawn ar ddeall mai dyled- swydd pob dyn ydyw cymeryd ei lo yn y ffosydd. Ond anghofiodd y Llywodraeth hyn wrth adael y gweinidogion yn rhydd t o afael y Ddeddf Fihvrol! Fodd bvn- ¡ nag, dyma gyfle ardderchog i brofi eu gwladgarwch (?) wedi dod, drwy fudd- soddi yn y Benthyciad Rhyfel Mor baganaidd a gwrth-wladgar ydoedd ys- grifcnwyr yr Hen Destament wrth gon- demnio ''rhoddi arian ar usurieth" (Deut. xxiii., Neh. v., Psfl xv., Eser. xxii )# Ond rha.id cofio nad oedd y "Defence of the Realm Act" mewn grym yn oea y proffwydi. Dyua sy'n cyfrif am Jiyn, mae'a debyg! AMSER YN NEWID DYNION A BARN I 31ae yn bur dcbyg fod dynion yn cyn- I nyddu mewn doethineb fel y maent yn heneiddio. Rhaid fod hyn yn wir am yr Arglwyddi Milner a C-urzon. Beth yw'r gwahaniaeth rhyngddynt yn 1909 a 1917? Dywedodd Mr Lloyd George yn Rhagfyr, 1909, am y ddau Arglwvdd a emvvd eu bod "yn ddynion galluog iawn, ond yn perthyn i'r dosbarth hwnnw o ddynion galluog sydd yn feddiannol ar bob dawn ond gynnwyr cyffredin." Am Milner ywd 'Y mae ganddo allu arbennig i iredeg sefvdliadan a gwledydd ar liyd cwrs dinistriol." Mae amser yn newid gwleidvddwyr fel popeth arall. ADDOll MARS. Mae llawer gwirionedd yn cael ei osod allan mewn diareb Gymreig. Hysbys i bob Cymro ydyw, "Broga blwydd yn lladd broga dwyflwydd." Fe ddywedir gan natnriaethwyr ei bod yn aaferiad vmhlith rhai anifeiliaid i'r ieunnc ladd yr hen. Dywedir hefyd fod anwariaid yn dir- mygii yr hen. Dywed traddodiad ei bod yn arferiad mewn oesau boreuol i'r mab gurro y tad Yn ein dyddiau ni yr ydym yn elywed mwy o son am y gwr yn fcntro y wraig, neu y wraig yn curro y plentyn. Beth ydyw ein hanes heddyw? t Onid yr hen yn lladd yr ieuano? Mae gwleidyddwyr a gwladganvyr yr esmwvth- 'feinciau (y rhan fwyaf o lawer dros yr ,oodraii milwrol) yn gorfodi bechgyn deu- -naw oed i'r fyddin er dysgu arfer arfau dinistriol, er mwyn wyniebu bechgyn deu- naw oed gwledydd a elwir yn elynol ini ar faes y gyflafan. Onid gwneud peir- iant o'n bechgyn ydyw hyn, er setlo cweryl & Uenwi llogellau yr hen? Pan gyrhaeddir y deunaw, fe gollir rhyddid, a gyda rhyddid ar flo fe ddiflana gwir all- rhydedd. Dyma ganlyniad gwneud Mars yn dduw—rhaid rhoi yr a berth os yn oydoabod y duw. 0, na syhveddolai y bobloedd mai gwaeth nac ofer yw rhy- fel! iliao rhyfel yn golygu colli popeth Bydd werth ei feddu mewn gwlad. Dylai hyn fod yn amlwg i bob un yn ein gwlad heddyw. Mae ein hawliau vmhlith peth- au y gorffennol. Bydd iau gormes yn drymach arnom yn y dyfodol buan nac ydyw. Mae gobaith y dyfodol yn cael ei ddinistrio am ein bod yn dawel pan mae proffwydi Mars yn gwaeddi-Gwaed, Gwaed, Gwaed! Ond "Pa les i ddyn (ac i deyrnas) os ennill efe yr holl fyd a fsholli ei enaid ei hun." Mae y deyrnas fijdii yn gwneud peiriannau o'r ieuenctyd a clmethweision o'i deiliaid yn sicr o fedi ffrwytli yr ynfydrwydd mewn tlodi, an- hrefn, anwybodaeth, ac anfoesoldeb. ac wrth wneud hynny yn colli ei henaid ei hun.
GWASANAETH GWYL DEWII - LLUNDAIN.
GWASANAETH GWYL DEWI I LLUNDAIN. Cynhaliwyd gwa.sanaeth Gwyl Dewi Tmneilltuwyr Cymreig Llundain yn y City Temple nos lau diweddaf. Y pre- gethwyr oeddynt y Parchn J. Roger Jones, Lerpwl, a E. K. Evans. Caer- :fyr-dd,ia. Yr oedd yno gynulliad llucsog.
I DDOE, HEDDYW, AC YFORY.
I DDOE, HEDDYW, AC YFORY. I (Gan J. T. W., Pistyll). Anifvr yw tiwnio v delyn, I duchan i fyddar o hyd; Ond pwy fedr beidio os ystyr Ddifrifwch sefyHfa y byd? Pan ydoedd haul llwyddiant yn tvvynu. A phawb am ei bleser yn byw, Troes pawb i addoli ci Eden, A phawb iddo'i hunan yn bvw. Pleserau a mwyniant y ddaear Oedd amean a diben pob petli, A "Deddfau lechydaeth" addolid Fr gullu cael gwynfyd dileth Gwneud rn foedd ddaearol i drigo, A clieLsio cael byw yiiddi byth, Oedd amcan "Cynghorau" gwyi- doeth- ion, A _,adael v I)iiiv i-oddl'n (tliwytli. Swyddogion lwhydol laor amled A gwybod, a greid o hyd, Bwthynod He maged "anwariaid" A aethant beryglus i'r hyd! Yr awyr a'r dyfroedd a hidlid Rhag digwydd fod "Hadau Ticae/' Y mwg a ga'i "Notice" i 'hedeg Er "iechvd" y byd fel pe tae! "Cofebau" a geid i frenhinoedd, Trwy lunio "Dinasoedd Tioae," Y g-wartlieg oi-eliiiivnid J bori Fel hyn, ac fel arall, bob cae! Fel gallai Prydeinwyr gael "iecliyd" I fyw ar y ddlr heb ball, Prin gel lid anadlu na phoeri Heb dorri deddf iechyd trwy wall! Os cadwai dyn focliyn mewn milltir l'i- dref oedd eisteddfod gwyr doeth, Peryglid hylifau yr mvyr A dygid annifyr dwvm boethl Neu lar, os ei cedwid, a welid Yn Microbs yn diwch dan ei phlu, Os byddid mewn angen am wyau, Ceid llongau i'w dwyn dros y lli. Fel yna yr awd i addoli Ein hunain a moli ein byd, A phawb yn ymdrechu rhoi crefydd Ymlieii yr oes ddynol o hyd 13vw ydoedd, a byw am yr hwvaf. Yn destun myfyrdod y byd, Cu-togi ar hawliau hen angau, A dryllio ei rwydau i gyd. HEDDYW. Gwel y newid erbyn heddyw, Pawb yn was i angau Bydd, Ymgystadlu y mae'r gwledydd Pwy yn lladdwr goreu fydd! Dyfais ddynol ar ei heithaf Yn was angau nchaf radd, Newydd da i'n gwlad yw heddyw Faint vn fwyaf fedrodd ]add!! Iechyd bechgyn erbyn heddyw Dry'n gymhwysder iddo fod Yn was lifrai angau'i hunan, Lladd ei gyd-ddyn—dyna'i nod! Hhoi cyfferi wneir i'w hyfed I)deffi- y'i- nwydau, ladd y dyn, Beth yw hyn ond uffemeiddiweh Prentis diafol a wneir o ddyn! Dyma ffrwyth yr Uwchddysgeidiaetli, Dyiiia ddaeth o'r hunan fyw, "Danm the consequences" heddyw, Gan benaethiaid uwchaf ryw; Wenn ehud, gwae dy eni, Bwyd y gwaedgi ydwyt ti, Trwy dy waed mae mawrion daear Yn bwriadu prvnu'u bri! YFORY. Pa fath gofeb gyfyd Ewrob I'w brejihinoedd sydd yn awr? P'run ai cofeb Carwr bywyd Ynte eofeb Mcdwr mawr ? Cofeb Jezebel, chwi gofiwch, Wnaed gan gwn yn hwylus iawn; Beth deilynga'r bod a u heddyw Ar orseddau Ewrob gawn?
Y DDEDDF YSWIRIANT.
Y DDEDDF YSWIRIANT. I fyny i Rhagfyr, 1916, fe dalwyd 79,409.150p am stamps o dan y Ddeddf Yswiriant.
Advertising
BYDD RICHARD EVANS, MEDDYG ESGYRN (Bone Setter), ADFER LE, GAOL STREET, PWLLHELI, yn Ymweled a'r lleoedd canlynol yn wythnosol Dydd lau.-Market Vaults, Llan- gefni. Dydd Gwener.—Sportsman Hotel, Portmadoc. Dydd Sadwrn.—Emu Temperance, 2, Palace Street, Caernarfon (gerllaw y Farchrtad). Oil at y Gewynau i Ddynion lac Anifeiliaid am Is lie a 2s 6c y Botel, 3c yn ychwanegol dlrwy'r Poet.
Y WASANAETH GENEDLAETHOL.
Y WASANAETH GENEDLAETHOL. I DIM GRFDAETH. Yii N. Seileti(I ilos lati, Cynnygiodd yr Ysgriiennydd Cartefoi ail-ddarlleniad y Mcsur Gwasanaeth Cen- edlaethol. Dywedodd fod yn rhaid caei dynion i'r fyddin os oedd y planiau a baratowyd gyda'n Cyngreirwyr i gael eu cadw Rhaid oedd cael merched a dyn- ion i'r gweithfeydd cad-ddarpar er mwyn .sicrhau deunydd i'r fyddin. Yr oedd yn angenrheidiol cadw ein diwydiannau han- fodol i iynd, sef arnaethyddiaeth, y fas- nach trosgludol ac alllorol, er mwyn bwydo a chyflenwi ein byddin, y bobl gar,- trei, a bvddinoedd ein Cyngreinvyr. Rhaid oedd cadw llong-adeiladaeth ar ei eithaf, er mwyn cadw ein ll\-v,-yddiaeth ar y mor, ar yr hyn y dibynwn. Pa fodd yr oedd yr angenrheidiau hyn i'w cyflen- wir1 Nid oedd ond tiivv ffoi-dd. Un ydoedd hon, sef fod yn rhaid i bob un ag oedd yn y diwvdiannau lianfoclot wneud egni gyda'r gwnith yr oedd ynglyn ag ef. Yr ail ydoodd, fod yn angen- rheidiol galw pob dyn o ddiwydiannau nad oeddynt yn hanfodol, er mwyn idd- ynt wneud gwaith liiiifodol Nid oedd y Llvwodraeth yn hoffi cau i fyny yn llwyr y diwydiannau nad oeddynt han- fodol. Yr oeddynt yn paratoi rbestr o'r diwydiannau hyn, ac yr oedd am gynnyg nad oedd llafur i'w ddefnyddio yn y di- wydiannau hyn rInvng 16 a 61 oed heb gydsyniad Rheolwr y Wasanaeth Genedl- aethol. Trefnent i ofyn am wirfoddol- wyr. Bwriadent roddi 25s yr wythnos i'r rhai roddid ar v tir. Mr Golds tone (LIaf.): A roddir y cyf- log hwn i'r rhai sydd ar y tir yn bresen- nol? Dywedodd yr Ysgri fennydd Cartrefol mai y dull i ddod dros yr anhwaster fydd i bawb sydd ar y tir gael eu talu yn ol 25s. Ni allai ddweyd mwy ar hyn o bryd. Yr oedd yn hyderu y gallent ddod dros ben yr anhawster. Ar hyn o bryd I yr oeddynt wedi dosbarthu 60,000 o wir- foddolwyr i'r gwahanol ddiwydiannau. Dibynent ar anrhydedd y gwirfoddolwyr i wneud eu dyledswydd. Yr oedd yr angen yn fawr, a gobeithiai y byddai i gyflogwyr. gweithwyr gyd-weithio i sicrhau llw. diant. Yr oedd yn dan syrlw fod yna nifer o welfiannau wedi eu cyn- nvg yng ngwyneb y posiblrwydd o orfod- aeth ddiwydiannol. Nid oedd yn gweled fod hynny yn bosibl o dan y Mesur. Gallai eu sicrhau na fyddai i'r Llywrod- raeth wneud unrhyw ddefnydd o alluoedd y Mesur ) drosglwyddo llafur ond trwy ganiatad y Ty. Ymhellach, ni bydd idd- ynt wneud cais am alluoedd o'r fath ond yngwvneb methiant y cynllun gwirfoddol. Cyfl'esodd Syr C. Hobhouse ei fod wedi dod i'r Ty o dan amheuath pa safle a gymerai tuagat y Mcsur. Ond yr oedd araith yr Ysgrifennydd Cartrefol wedi "yrond ei wrthwynebiad. Mr Phillip Snowden: Clywch, clywch. Fe fydd i chwi gael v swydd nesaf. Dywedodd Syr C. Hobhouse fod ganddo amheuaeth a oedd yna unrhyw un yn ddigon cyfaddas i benderfynu pa ddi- wydiant ordd yn angenrheidiol ai peidio, Yr Ysgrifennydd Cartrefol: Bwriedir penodi Ysgrifennydd i'r Rheolwr, a bydd ganddoi sedd yn Nhy'r Cyffredin. Sylwodd Syr C. Hobhouse ei fod wedi ympynghori a barnwr adnabyddus ac a chyfreithiwr enwog gyda golwg ar effeith- iau y Mesur. Yr oedd eu barn yn bollol lerthgyferbyniol Dywedai y Barnwr ei fod yn rhoddi gallu unbenaethol yn nwylo y Rheolwr, tra y dywedai y cyfreithiwr ei fod yn hollol ddiniwed. Dywedodd Mr J. H. Thomas fod gan- ddo amheuon gyda golwg ar y Mesur, ond yr oedd wedi gweled y Rheolwr, a deall- odd na fwriedid arfer gorfodaeth. Credai y dylai j Llvwodraeth wtieud hynny yn eglur yn y Mesur. Nid oedd dim yn fwy andwyol na chymeryd yn ganiataol fod yna lafur diderfyn yn y wlad hon Credai ein bod wedi dod i gyfwng ag yr oedd yn rhaid defnyddion dynion a merched y wlad i'r fantais oreu. Mr Molteno: Nid wyf mor hawdd i'm boddloni a Mr Thomas. Ymddangosai iddo ef fod gan y Rheolwr hawl i gymer- yd dynion o ddiwydiannau. Yr Ysgrifennydd Cartrefol: Nid oes gallu yn y Mesur i alluogi y Rheolwr i gymeryd trwy orfodaeth unrhyw ddyn o ddiwydiannau. Credai Mr Molteno nad oedd y Mesur ond amlinelliad, a bod yn boeibl estyn galluoedd i'r Rheolwr heb awdurdod na chydsyniad y Senedd. Cynnygiodd wrthod y Mesur ar y tir fod yna bosibl- rwydd gorfodaeth ddiwydiannol ynddo. Cefnogwyd y gwelliant gan Mr Havey. Dywedodd Syr F. Banbry ei fod yn bleidiwr gwasanaeth orfodol, ond nid oedd o blaid rhoddi yr hawl i unrhyw Weinidog na Llywodraeth i orfodi pobl i waith neu ymunoi a'r fyddin, os nad oedd wedi cael cydsyniad y Senedd. Nid oedd am wrthod pleidleis-io dros yr ail-ddar- lleniad. Yn y pwyllgor bydd iddo gyn- nyg gwelliant yn estyn yr hawl i'r Rheol- wr. Gwrthwynebai Mr John Dillon y Mesur yn gyfangwbl, gan y credai ei fod yn gosod i lawr gynllun gorfodol. Bwr- iedid gosod amacthyddiaeth a diwydian- nau dan reolaeth cwnhingod yn nhyllau llwfrdra "Whitehall, a phroffwydai y di- benai mewn anhrefn. Bwriadai with- wynebn i'r Mesur ymwneud a'r Iwerddon. Cwynai Mr T. Lough fod apel mewn achosion diwydiannol i gael eu gwneud i un person. Protestiodd Mr Pringle yn erbyn y Mesur gan ei fod yn sicr o arwain i or- fodaetll. Yr oeddynt yn rhoddi hawl i un dyn ddinistio diwydiannau heb unrhyw atalfa, rheolaeth, nac ape]. Dywedod'l Syr C. Seely os oeddynt yn bwriadu cyflwyno gorfodaeth ddiwydian- nol i'r wlad hon fe fyddent yn sicr o gyf- arfod a gwrthwynebiad eryf i cliAvenv oddiwrth y dosbarth gweithiol. Atebodd yr Ysgrifennydd Cartrefol, a dywedodd y byddai i'r pwyntiau godwyd gan Mr Dillon ynglyn a'r Iwerddon gael sylw yn y pwyllgor. Pi-ogviydai yr aelod anrhyded-lus yn gynamserol gyda golwg ar lwyddiant y Rheolwr, yr hwn oedd wedi ymgymeryd a thasg oodd yn ddigon i drethu y dyn galluocaf yn y wlad. Dywedodd Mr Dillon ei fod wedi galw sylw nad oedd yna ddim yn y Mcsur yn awgrymu fod gan y Rheolwr ddigon o alluoedd i ymwneud a'r Swyddfa Ryfel, gan fod y swyddfa honno wedi parlysu Llywydd Bwrdd Arnaethyddiaeth yn barod. Dyweilodd yr Ys^iitciiuydd Cartrefol y bydd i'r Rheolwr gael a gwneud defn- ydd o'r galluoedd llawnaf oedd arno eis- iau Ymosodwyd ar y Mesur oherwydd y galluoedd enfawr fwriedid eu rhoddi i'r Rheolwr. Cytunai fod geiriad y Mesur yn eang, ond yr oeddynt yn gymwys yr un peth a phan wnaed y Gweinidogion I eraill gan y Ty. Ofnid y cyflwvnid gor- I fodaeth trwy foddion dirgel. Y r oedd wedi rhoddi sicrhad na ddigwyddai hynny. Pan y dywedodd y deuai i'r Senedd i gael awdurdod neilltuol os yn angenrheid- iol, wrth gwrs yr hyn a dybiai oedd dod i'r Senedd i gael deddfwriaeth. Credai modd bynnag y byddai yn rhyddhad i'r Ty pe rhoddai syniadau a golygiadau y Llywodraoth yn y Mesur Gwerthfawr- ogai y dymuniad a ainlygwyd i weled yr awgrymiad mewn du a gwyn yn y Mesur. Bwriadai roddi i mewn eiriau arbennig, fel ag y bydd yrut gofnodiad yn y Mesur ei hun. Yr oedd yn sicr y dymunai y Rheolwr gael cydweithrediad gyda. chyn- rychiolwyr Llafur a diwydiant. Dywedodd Mr Anderson fod ymrwym- iad yr Ysgrifennydd Cartrefol wedi es- mwythau v sefyllfa, ac yr osgoid rhanu ar y Mesur. Yr oedd gan Mr Chamber- lain anhawster a gwaith diddiolcli. ond nid oedd un gwr a feddai well cymhwys- der at y gwaitli. Yr oedd yn bleidiwr i wasanaeth cenedllaethol a darddai o'r bobl, ond bydd i mi wrthwvnebu gorfod- aeth lafurol. Tynodd Mr Molteno ei welliant yn ol. a darllenwyd y Mesur am yr ail waith. I -000-
ITIR SIR GAERNARFON.
I TIR SIR GAERNARFON. 1 6,000 o Aceri o Ychwanegiad. Dywedodd Mr Evan R. Davies ym Mhwllheli fod yna 10,000 o aceri o leihad yn y tir a drinid yn Sir Gaernarfon yn ystod y flwyddyn ddiweddaf o'i gymharu a 43 mlwydd oed Ond yn ol adrodd- iadau a ddaeth i law yr oedd rhagolygon y byddai 6,000 o aceri o ychwanegiad at y tymor d fodol. Penodwyd trethwyr i wneud adroddiad ar safle arnaethyddiaeth ymhob plwyf trwy y sit". ———
I CYFLOGAU MERCHED.
I CYFLOGAU MERCHED. Archeb Newydd. i Gwnaed evfnewidiad pwysig yng nghyf- logau merched sydd yn gwneud gwaith arbennig gan y Weinyddiaeth Cad-ddar- par. Trefniii, fod Imerohed sydd yn gwneud gwaith sgilgar i dderbyn 258 am y pum wythnos cyntaf, a derbyniant god- iad yn ol cyfartaledd i fyny i'r drydedd wythnos ar ddeg, yna bydd iddynt gael eu talu yn ol safon y peirianwyr, sef 10Jc J yr Rwr. ———— 4019- ———
I GALWAD I WEINIDOG.
I GALWAD I WEINIDOG. I Dr Moelwyn Hughes yn Dod i Birkenhead. I Deallwn fod y Parch Moelwyn Hughes, M.A., Ph.D., Abterteifi, wedi derbyn yr I alwad gafodd i eghvys Parkfield, Birken- head. Dechreua ar ei weinidogaeth yn Ebrill. Bu Dr Moelwyn Huughes yn gwefnidogaethu yn Aberteifi am 21 mlyn- edd. Mae yn adnabyddus trwy Gymru fel ba-rdd a lienor o radd uchel.
I AR GRWYDR.
I AR GRWYDR. I (Gan J. R. TRYFANWY). I BYDD DYNER, Os gwyddost am nyth rhyw ehedydd; Gwna bopeth i'w gadw tan gudd,— )lae milfyrdd o adar y gwledydd A cheinciau eu bronnau yn brlldd j Xi ddichon i adar y gwledydd Delori lie rhuo'r gwn mawr; Ond os gwnei di noddi'r ehodydd, Cei g&niad ar doriad y wawr Os gwelaist feillion gtiriedig, Yn gwenu rhwng heulwen a glawr Dos heibio fel plentyn caredig, Na ddyro i'r fechan ddim braw; Mae'r nefoedd yn hoffi'r garadwy, f'e'i gwlitlia bob hwyr a phob gwawr A chofia di'r cadfaes ofnadwy,— Nid meillion sydd yno hyd la\yr ■ Os gwyddost am blentyn newynllyd, A'i wyneb fel eilun y bedd, Bydd dyner i r truan bach synllyd- Ni raid i'r newynog wrth wledd; Bydd dyner i'r by eh an lluddedig, Os na ddaeth ei hanes i'th glyw,- 0, cofia'r holl dadau caredig I A laddwvd i'th gadw di'n fyw.
I GWASANAETH CENEDL. AETHOL.
I GWASANAETH CENEDL. AETHOL. I Yng Nghyfarfod Misol Dyffryn Conwy pasiwyd penderfyniad at- gynnygiad y Parch J. H. Howard, Colwyn Bay, eu bod yn ar.nog yr awdurdodau eyfrifol i fantcisio or bar-odnvvdd ein gweinidogion i ymgymei-yd a gwaith o bwysigrwydd cenedlaethol mewn cylchoedd addysgol a moesol o fewn cylch rhesymol i'w heg- lwysi. Penderfynwyd anfon y pender- fyniad i Mr Neville Chamberlain.
Advertising
AT GYMRY LERPWL A'R CYLCH. Dymunwn wneud yn hysbys y gellir cael y DINESYDD oddiwrth ein Dosbathwr yn Lerpwl yn "wholesale" neu "retail," ond ymofyn ag ef MR. THOMAS YULE, Stationer and Newsagent) STRAND ROAD POST OFFICE, 301, STANLEY ROAD, BOOTLE, LIVERPOOL. The DINESYDD CYMREIG may be obtained wholesale or retail from our Agent at the above address.
APEL SYR ELLIS NANNEY.
APEL SYR ELLIS NANNEY. Yn Nhribunlys Lleyn, apeliai Syr Ellis Nanney am ryddhad John Maddison, 27 mlwydd oed. bwtler, yr hwn a weinyddai ar Lady Nanney, yr bon sy'n orweddog ers deng mlynedd Gofynai yr Isgapten Davies iddo ai onid oedd yn trethu ar allu y tribunlys yn or- modol wrth ofyn iddynt ryddhau dyn oedd yn addas i wasanaeth tramorol at wasanaeth teuluaidd. Nac ydwyf, ebai Syr EUia Nanney, y mae'n hollol angenrheidiol wrtho i godi Lady Nanney i fynd i mewn ac allan .o'i cherbyd, oherwydd mai dyna yr unig ym- arfei-lad y gall ei fwvnhau. Caniatawyd rhyddliad hyd Mai yr 16eg.
!CRONFA'R CONNENIARA. -
CRONFA'R CONNENIARA. Mae'r gionfa agorwyd gan Mr a Mra Robert J. Thomas, Garreglwyd, Caergybi, gyda thanvsgi ifiad o 500p, at gynorthwyo gweddwon a dibyniaid y rhai gollwyd drwy suddiad y Connemara tuallan i Greenore ym is Tachwedd, wedi cyrracdd dros 1,600p. yr hwn sydd y swm mwyaf a gasglwyd erioed gan unrhyw gronfa leol. Y mae'r swm o 1,235p wedi ei fuddsoddi yn y Benthyciad Rhyfel.
I t CYNILION RHYFEL Y GENEDL
I t CYNILION RHYFEL Y GENEDL Mewn atebiad ar ysgrifen, dywedodd Mr Bonar Law fod gwerthiant y Tyst- I ysgnfau Rhyfel o lp, 12p, a. 2op yn 60,949,062p yn Lloegr a Chymru; yn 4,699,383p yn Sgotland; yn 989,831p yn yr Iwerddon. ———— -ei- ————-
I ARIAN RHYDYCHEN.
I ARIAN RHYDYCHEN. Hysbysir fod dinas Rhydychen wedi rhoddi drwy y banciau lleol y ewm (J 1,100,000p yn y Benthyciad Rhyfel. Yr oeddynt oil yn arian newydd, ac ar wa- i han i'r symiau gymerwyd dwy y Llythyr* I dy. ,i