Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

FELINHELI. - - ...

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FELINHELI. Y Ddrama Gymreig. Nos lau, yn Festri Elim (W.), cafwyd dau berfform- iad o'r ddrama fechan ddirwestol "Dy- lanwad lthieni" (o waith Miss Giace Thomas, Pentraeth). Yr oedd yr ys- tafell yn orlawn y waith gyntaf a llawer oddialian, fel y cafwyd ail berfformiad i { gynulliad lluosog eto yn ddiweddaraclv yn yr hwyr. Oymerwyd rhan yn i. ddrama, yr lion nydd yn cvnnwys naw ( gymeriadau, gan blant "Band of Hope Elim, gyda dwy hynacli, sef Miss Gretta Jones, Cartref, a Miss Morfydd Jones,. 21, Bangor Street-y rhai oedd yn cyn- i-vebioli mewn modd per ft a it li y cymeriad o Wraig y Cyfreithiwr ac o Wraig y Meddwyn; a'r gwahanol gymeriadau eraill gan y plant canlynol: Laura M. Jones, Cartref; Nellie Joness, Beach Road; Gladys Jones, Islwvn; Wm. lvOI Jones a John E. Joneos, Assheton House; Hugh Owen, Menai Street, ac Alun Thomas, Waterloo House. Gwnaethl yr oil eu gwaith mewn niodd hynod o feistrolgar, ac er boddlonrwydd cyffred- inol i bawb oedd yn bresenol. Yn ystod y noswaith cafwyd caneuon ehwaethus gan y gantores ieuanc swvnol Miss Jennie Blodwen Jones, Assheton House. Y mae clod arbennig yn ddyledus i Mr 0. T. Williams, Noddfa Miss Morfydti Jones, a, Miss Gretta Jonoes am eu llafui a'n hymdrecliion gy(ii't- plant yr wyth nosau diweddaf hyn, trwy eu dysgu mor rhagorol. Da pe buasai i ofalwyr lioll "Bands of Hope" y cylcli gymeryd y ddrama hon i fyny a'i dvsgu i'r plant, gan ei bod yn llawn o addysgiadau dir- t westol, ac yn ddangosiad amlwg pa mor gryf a nerthol yw dylanwad rhieni ar feddwl plentyn, a'r fath bwysigrwydd a .?-sgwy d dau v i-iiieni chyfrifoldeb sydd ar ysgwyddau y rhieni ■hyn, oherwydd fod y plant yn dilyn eu ocamra,Li.-Nos Sadwrn eto, yn yr un lie, irhoddwyd y trydydd perfformiad o'r ddrama hon i gynuUiad lliosog. Yr oedd yr elw y waith hon at gronfa y ."White Cross. Gwaeledd.—Bydd yn ddnvg gan lawer ddeall am wlood trwm Dr Edwards, Trefeddyg. Mae cydymde^n'ad yr ardal gydag ef yn ei gystudd, a gobeithir yn fawr y bydd yn cael gwellhad buan. Pwyllgor Angen.—Yn Festri Moriah, nos Fawrth, cyfarfu y Pwyllgor Angen, a llywyddwyd gan Mr Edward Jones, Bromhyfiyd. yn absenokleb Mr Thomas Jones, Anwylta. Gwnaed yn hysbys gan yr ysgrifennydd, Mr AN-illiaiii Williams, Y Ddorwen, ei fod wedi derbyn arian- nodyn am 13p 16s. Hwn yw y pedwer- ydd a dderbyniodd, yn gwneud y cyfan- swm yn 85p. Rhoddwyd allan o'r pwyll- gor hwn, trwy law yr ysgrifennydd, y flwyddyn a hanner diweddaf y swm o 120p er lleddfu gwahanol achosion ang- enus oedd yn yr ardal. Pasiwyd pleid- lais Q gydymdeimlad a Mr Thomas Jono^, Anwylfa, yn ei bi-ofedigaetli o golli ei annwyl briod. Suddo Llong. Yn y Hong hwyliau "Centurion," a suddwyd y dydd o'r blaen gan y cychod tanforawl, tra. ar ei mordaitli o America i Lundain gyda llwyth gwerthfawr, yr oedd un o'r ardal hon yn ail awyddog ar ei bwrdd, sef Mr Evan Owen Jones, mab ieuengaf y di- weddar Capten a Mrs Jones, Gorphwysfa, a brawd i Miss Mary Jones, Halfway. Yr ydym yn deall erbyn hyn fod ef a'r lioll ddwylaw wedi glanio yn Falmouth. Y mae hwn yn ail drychineb o'r fath v mae Mr Jones wedi c'farfod ag ef, gan }of digwyddodd cyffelyb dynged i long ,arall yr oedd ynddi tua, blwyddyn yu ol, ttra ar ei mordaitli adref, wedi bod o'r wlad hon am dair blynedd. Mae yn llawenydd gennym feddwl ei fod ef a'r idwvlaw wedi eu gwaredu eto y waith hon. Y. M. C. A. — Llywydd y gymdeithas uchod yw Mr F. Richmond Brown, Llan- fair Hall a'r dydd o'r blaen anfonodd .Todd anrhydeddus at y sefydliad. BedVdd.—YTnghapel Salim (B.), y Sul 'o'r blaen, gweinyddwyd yr ordinhad o 1 fedydd trwy drochiad gan y Parch E. R. Williams, Pensarn, Amlwch, ar wyth o aeloliau yr Ysgol Sul—chwech o chwior- ydd a dau fachgen ieuanc, a thraddod- odd Mr Williams bregeth efleithiol i gy- nulliad lliosog. Y Cyngor Plwyf.—Nos Fawrth cynlial- iwyd y Cyngor hwn, dan lywyddiaeth Mr John Pritchard, Belmont, i ystyried cais o Bwyllgor Gweithiol y Dtysorfa Genedl- aethol er cael Flag Day ar ran y Milwyr Cymreig, Dydd Gwyl Dewi llesaf, yn yr ardal hon, fel lleoedd eraill. Pasiwyd penderfyniad i ofyn i foneddigesau Dos- barth Gwnio Undebol sydd yn y lie, llvw- yddes yr hwn yw Mrs Neele, gynt o Bias Dinorwic, i gydweitliredu gyda'r mudiad gyda'r Cyngor Plwyf. Yr ydym yn deall erbyn hyn eu bod wedi eydsynio a'r cais, a dydd lau nesaf byddant yn myned oddiamgylch gyda'r baneri o dy i dy, ac y mae yn ddiamheu y cant dderbyniad siriol a chroesawgar gan bawb.

f LLANFACHRETH.

-PENISA'RWAEN. I

PONTRHYTHALLT.-I ---- - __I

I n'_'PORTHMADOG. I

PENRHYNDEUDRAETH. 1 A-. I-…

-PWLLHELI.I I"_'....._.J..,.......

RHOSTRYFAN A'R CYLCH. I

Advertising

GWABCHEIDWAID CAERNARFON.…

MARW Y PARCH DANIEL t ROWLANDS,…

[No title]

CARCHARORION RHYFEL YN GWRTHRYFELA.

Y CYNLLWYN HONEDIG

[No title]

__ EBENEZER A'R CYT.CH