Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ST. DAVID'S DAY. I Thursday, March 1st, 1917 A GREAT WAR FESTIVAL AT THE PAVILION, CARNARVON. 1 I Grand MISCELLANEOUS PROGRAMME INCLUDING THE EAST LANCS. R.E. (T) BAND (Conductor, Sergt. HARNEY). PROCEEDS IN AID OF WAR CHARITIES. 1 VOUR VISIT TO THE PAVILION ON ST. DAVID'S DAY MEANS THAT YOU ARE DOING YOUR BIT TOWARDS HELPING THE BOYS AT THE FRONT. Admission 3 p.m. till 6 p.m. One Shilling. After 6 p.m. Six Pence.
PAWB I -ABERTHU.
PAWB I ABERTHU. I Araetb Bwysig gan MR. LLOYD GEORGE. I PRINDER STOC BYVYD. I Yn hj"'r Cyffredin, nos Wener, gwnaeth Mr Lloyd George ei fynegiant addawedig ar gvfyngiad mewnforion a h datblygiad amaethyddiaetli Dywedoda iddo fod yn trafod y broblem gyda Gweinidogion o Ffrainc. Yr oedd ein llwyddiant yn dibynu, yn ol ci farn ef, ar y ffordd y penderfynir yr anhawster- au trosgludol oedd yn ein hwynebu. Cyn toriad allan y rhyfel nid oedd ein llongau ond prin digon, a, bu raid gohirio adeil- adu llongau ar gychwyniad y rhyfel oher- wydd galwadau y Llynges. Yr oedd galw mawr wedi bod ar longau oherwydd y rhyfel i gyflenwi angenrheidiau milwrol. Ni adawyd ond oddeutu yr hanner at am- canion arferol y genedl.
Y SUBMARINES.-1
Y SUBMARINES. 1 Yn ystod y pedwar neu bum mis di- < weddaf yr oedd nifer ein lougau a sudd- wyd wedi mynd ar gynnydd. A'r mis I hwn oedd y gwaethaf, gan fod Germani wedi gwneud ymdreehion arbennig. Ad- eiladwyd submarines i'r pwrpas o ddinis- trio ein marsiandiaeth forwrol. Sylwedd- olent mai dyna y dull effeithiolaf i wneud niwed i ran bwysig o waith y Cvngreir- wyr. Am beth amser bu lleihad yn y tunellia.cl o t'oddion angenrheidiol y gen- edl, ac hyd yn nod yn y cysylltiadau mil- wrol. Yr oedd y safle yn un oedd yn galw am y mesurau difrifol i ymwneud a hwy. Os cymerwn y mater mewn Haw yn brydlon, a defnyddio moddion llym, fe allwn ynnvneud a'r perygl. Os na wneir—oa nad yw y genedl yn barod i ymgymeryd a moddion Ilym-nid oedd yn petruso dweyd fod dinistr yn ein gwyn- j ebu, ac yr oedd yno gyda holl gvfrifoldeb Gweinidog i ddweyd hynny vvrth y Ty a'r genedl. Bwriada y Llywodraoth gynnyg mesurau a dybiant a fyddant yn ddigon- nolo Yr oedd ein tynged gencdlaethol yn dibynu ar yr atebiad a, wneid i'w apel. Defnyddid agos hanner ein tun- elliad i amcanion rhyfel. Deuddcng mis cyn y rhyfel daeth .50 miliwn o dunelli i borthladdoedd Prydaiu. Yn ystod y 12 mis diweddaf yr oedd yn 30 miliwn o dun- elli. Nid y submarines oedd yn gyfrifoi. Y rheswm am y lleihad oedd fod cyfar- taledd mawr yn mynd yn syth i Fhainc, y Aifft, Mesopotamia, a Salonika.
! Y FFORDD EFFEITHIOL. I
Y FFORDD EFFEITHIOL. Gyda golwg ar ymgyroh y submarines, yr oedd y Llywodraeh yn teimlo yn obeithiol y gallent ddelio yn effeithiol ag ef. Ond byddom yn euog o drosedd dif- rifol os gorffwyswn ar y polisi o ddisgwyl yn amyneddgar i svlweddoli y gobeithion hyn Rhaid i ni fod yn abl i gario allan y rhyfel hon i fuddugoliaeth. hyd yn nod os methwn ag ymlid y submarines o'r plqr.. Nid aedd fuddugoliaeth sicr heb hynnyt Amhosibl adeiladu ar unrhyw beth arall. Suddwyd llawer o'n llongau, a suddir ychwaneg eto. Gan hynny, yr oedd yn rhaid ymwneud a'r broblem ar unwaitli, a hynny gydag egni. Yr oedd y mesurau yn driphlyg. Yn gyntaf, y mesurau gymerir gan y Llynges yn ail, adeiladu llongau marsiandiol; ac yn dry- dydd, cyfyngu ein hangenion o drosglud- iant morwrol trwy wneud i ffwrdd a defn- yddiau y gellid eu hebgor, a chynyrchu gvmaint ag oedd yn bosibl gartref. Yr oe(ld yn argvhoeddedig y gellid ychwan- egu adeiladu trwy gyflwyno cynllun fo'n talu yn ol yr hyn a gynyrchir, ond gol- ygai hyn ymgymeriad ar ran y cyflogwyr na leiheid y safon pan yr enillid cyflog mawr. Yr oedd yn wir angenrheidiol fod yn rhaid i ni gael gymaint o waith ag oedd yn bosibl o'r ierdydd, nid yn unig i'r farsiandiaeth forwrol, ond hefyd i adeiladu llongau i ymwneud a'r Eub- marines ar v mor.
Y COED.
Y COED. Y dull nesaf i ddelio a'r broblem oedd cynyrchiant ear trefol. Mewnforiwyd 6,400,000 o dunelli o goed y flwyddyn ddi- weddaf. Defnyddiwyd dwy filiwn i'r gweithfeydd glo, a'r gweddill at amcan- ion y fyddin, Rhaid oedd cynilo, gyda'r nwydd hwn. Rhoddodd Llywodraeth Ffrainc ddwy goedwig at ein gwasanaeth, a'r tebyg yw y byddwn yn gofyn am ych- waneg. Bydd yn ofynol cael nifer o wirfoddolwyr i gymynu coed yn y wlad hon er iiini-yn arbed y llongau.
MWN HAIARN.
MWN HAIARN. Dvma. nwydd ag yr oeddym yn mewn- foi io llawer ohono Os na ellir cael y nwydd yn y wlad lion, dm id cael llongau i'w drosgludo. mater o ffaith, yr oedd gennym ddigon o fwn haiarn yn y wlad hon, ond nid oedd o'r ansawdd oreu. Pe ceid digon o laftir fe ellir cael miloedd o dunelli yn Lincoln a Cumberland. Hv- I derai y byddai i bobl y wlad ateb yr alwad.
PROBLEM BWYD. I
PROBLEM BWYD. Yn y gorffennol esgeuluswyd amaeth- yddiaetli gan y Wladwriaeth. Yr oedd yma rhwng pedair a phum miliwn o acori heb ei amaethu. Ar hyn o bryd mewnforid tua 70 i 80 y cant o'n bwy d- ydd, ac yn awr yr oedd ein stoc yn is nag y bu era blynyddoedd. C vnhaeaf drwg oedd y rheswm, ac nid submarines. Er mwyn diogelwch y genedl dylem wneud pob ymdrech i gynyddu cynnyrch y flwyddyn hon Pe wedi dechreu yn gynt buasai yn. hawddach ei wneud. Nid oedd ond ychydig wythnosau yn weddill at hau y gwanwyn hwn. ac yr oedd yn dia phwysig i ni vchwanegu ein cyn- nyrch Neu ynte bydd yn rhaid i ui ddewiH- cydrhwng lleihau ein hymdrechion milwrol, yr hyn fyddai yn drychineb, neu ynte gyfyngu ar fwyd y bobl. Yn hvt- racli nag ymyryd a'i hymdrechion mil- wrol. penderfynodd Germani gyfvngu ar fwyd y bobl. Yr oedd yn ddewisiad a ddyinunai ci osgoi, ac fe allwn wneud hynny Yr anhawster oedd cael llafur. Ymunodd nifer fawr o'r llafurwyr a'r fyddin. ond ar hyn o bryd arferir rhyw gynwint o wahaniaeth. Yr anhawster mwyaf oedd ofnusrwydd y ffermwr i dorri i fyny ei dir pori Y r oedd wedi ei ddal gyda gormod o dir ar. Yr aradr oedd ein gobaith, a rhaid i ni wella y ffermwr o'i ofn-aradrol. Nid oedd modd per- i swadio y fferaiwyr na byddai i'r prisiau ddisgyn yn fuan ar ol y rhyfel. Rhaid b!an Sionyn, a rhywfodd mwyaf ydw i yn oedd eu perswadio o'r ffaith hon," a gwneud hynny ar unwaith." Nid oedd o un diben ymresymu, a'r unig ffordd i sicr- liau cydweithrediad y ffermwyr oedd trwy warantu iddynt isrif prisiau am gyfnod penodol. Yr oedd amryw ganlyniadau i hyn. Y cyntaf oedd gwarantiad cyflog. Credai fod y ffermwyr wedi dod i weled fod yr hen gyflogau wedi mynd, ac yr oedd hynny yn dda. i'r ffermwyr yn ogys- tal a'r llafurwyr. Bwriedir rhoddi isrif cyflog o 258 yr wythnos i lafurwyr am- aethyddol. Trefnir i'r cyflog gael ei warantu yn ystod y eyfnod y eicrheir y prisiau. Rhoddir hawt i'r Bwrdd Am- aethyddiaeth i orfodi trin tir. Isrif pris y gwenith y flwyddyn hon fvdd 60s y chwarter. Yn 1918-19 y pris fydd 55s; ac yn 1920-21--22, 45s. Ceirch, 388 6c y flwyddyn hon, 32s y flwyddyn nesaf, a 24s am y tair blynedd dilynol. Gwarentir pvtatws am 6p dLinell y tymor nesaf.
jLLEIHAD AMRYW NWYDDAU,
LLEIHAD AMRYW NWYDDAU, Yr oeddnt wedi dod i'r penderfvriiad fod yn rhaid lleihau allforiad papur at amcanion argraffu a phaeio i 640,000 o dunelli. Rhoddir atalfa ar bapur i am- canio hysbysleni. Atelir afalau, tomatoes, a ffrwythau yn gyfangwbi. Lleiheid oranges, bananas, a chnau i 25 y cant, a tyniau salmon i .30 y cant. Rhwystrir mewnforiad te, coffi, a cocoa tramor, a bydd lleihad yn nhe yr India. Gobeithiant allu arbed 900,000 o dun- elli o ddefnydd bwyd yn flynyddol. Atelir diodydd nwyol, mwnol, a byrddol. Fe dorir bragu i lawr i 10 miliwn o farilau yn flynyddol, trwy y hyn yr ar- bedir 600,000 tunell o ddefnydd bwyd. Bydd yna atalfa cyferbyniol mewn gwir- odydd, rhag gyrru y bobi i yfed gwirod- ydd yn lie ewrw.. Yr oedd yna rai pethau eraill ag y bwriedir eu cyfyngu, megis lledr at esgid- iau, croen, a photeli. Ni ddylai piynu anturiaethus na chornelu nwyddau gy- meryd lie. Os digwydd hynny bydd i'r Rheolwr Bwyd gynieiyd camrau i reoli y evflenwad a'r prisiau Ystyi-iwy-cl y cyf- yngiadau hyn yn ofalus, ac apeliaf at y Ty a'r wlad i'w cymcryd yn eu cyfan- gorff, Hawdd yw dweyd na ddylid cy- meryd hyn neu araIl, He na arbedir llawer o dunelliad trwy wahardd bananas neu nwyddau Ffrengig. Nid wyf yn medd- wl dweyd os y torwn un allan y bydd i'r genedl suddo, ond yr wyf yn dweyd os y decbreuwch roddi i mewn bydd i'r hoH, adeilad syrthio. Gwelais brawf o hynny, a dyna'r anhawster a'n evfarfyddai yr adeg honno. Yr oedd yn ddrwg ganddo orfod niweidio masnach ein Cyngreirwyr ac hefyd ein Trefedigaethau. Os gellir caio allan y rhaglen hon yn ei chyfan- rwydd, ac i'n pobl foddloni i'r cyfyngiad- au hyn gydag amynedd, ac heb gwyno>, yna yn onest gallaf ddweyd y gwynebwn y gwaethaf a wna'r gelyn. Dyna'r hyn y dylem baratoi ar ei gyfer. Pe yn tybio nad yw y genedl yn barod i gydym- ffurfio a'r cyfyngiadau hyn, yna dywedaf, gyda, difrifwch, nad wyf yn gwybod am unrhyw gorff o wyr anrhydeddus a ym- gymerant, am un awr, a'r cyfrifoldeb o gario ymtaen y rhyfel erchvll hon Mae vn angenrheidiol. Ceir miliynau o ddvn- ion ieuainc yn Ffrainc, Salonica, yr AifH, a Mesopotamia yn wynebu arteithiau, braw, a marwolaeth, yn barod ac yn ewvllyggar i wneud hyn. Dyma flodeu ein liil Os nad yw y genedl yn barod i wneud ei rhan o'r aberth bydd hyn oil yn ofer. a dywedaf y byddai yn drosedd, yn drosedd duo i unrhyw Lywodraeth ofya iddynt c:: byivyd:.u yn y gwrthdarawiad agoshaol os yw y genedl sydd o'r tu ol i -dynt yn wangalon ac luinanol. Byddai yr aberth yn ofer, ac nid oedd gennym unrhyw liawl i ofyn am dano. Am y rheswm yna, ar ol ym- gynghoriad maith ac ymholiad manwl ar ran LIywodraeth y wlad hon, yr wyf yu rhoddi i Dy'r Cyffredin, a thrwv y Ty i'r genedl. y cynygion y rhai yr wyf yn go- beithio y bydd i'r Ty eu cymeradwyo, a'r thai vr wyf yn gobeithio y bydd i'r gen- edl eu cario allan gyda chalon ddiysgog a dirwgnach (cym.) ,-t dii-wgnach (eym.)
"FY "NGHYD ATHRAWON." 1
"FY "NGHYD ATHRAWON." 1 Dyna fel v cyfarcha Mr H. A. L. Fisher, y Gweinidog Addysg, yr atiirawon. Apelia am ychwaneg 0 aberth, yngwyneb I y galw ychwanegol wneir ar yr athrawon. ———
MARW OFFERYNWR. -I
MARW OFFERYNWR. I Ddydd Sadwrn, yn dra svdyn, bu farw Mr E, R Bonnar Thomas, gemydd, Porthmadog, yn 45 mlwydd oed, fel can- lyniad i'r pneumonia. Yr oedd yn un o'r crythwyr mwyaf medrus yng Ngog- ledd Cymru, ac yn arweinydd i vSeindorf Linynol Porthmadog. Gedy briod a dau o blant.
I -0 GADAIR MODRYB SIAN. ___
I 0 GADAIR MODRYB SIAN. I TATWS, I W Ii i ddim beth i sgwenu aino yr wythnos yma, 'rydw i fel y 'gethwrs yma yn gwelad testun yn yr adnod yma, a thestun yn yr adnod arall. Buaswn yn leicio sgwenu ar erthygl "Arfonwr"-i-nae yna destun neu ddau ynddi, a dyma i chwi un ohonun "Truckiau Gwartheg," ond rhaid aros y tro yma. Gan fod y Weinvddiaeth newydd yma yn gofyn i in wneud ein goreu i dyfu tatws yn y wlad y flwyddyn yma, treiaf ddweyd tipin am y peth. Ryda ni yn Sir Fon yma yn lied gynefin a thyfu tatws, ac ar ol eu tyfu byddwn vn en gwerthu ym marchnadoedd Sir Gaemarfon. Welsoch chi rioed gy- maint o datws sydd yn cael eu tyfu gan ffermwyr yn oclirau Llangoed ar gyfer marchnad Bangor, ac yn yr haf gwehveh y ceir marchnad yn llawn o datws yn mynd i'r farchnad. 'Roeddwn i yn siarad am y peth yr wthnos ddiweddaf wrth Sionyn y gwr yma, ac yn dweud wrtho y dylaswn ni drio cael tipyn o dir i dyfu rhai, a ihywfodd dyna Sionyn yn gwilltio yn ofnadwy. Tyfu tatws yn wir, medda fo. Oes mae isiol tyfu tatws, ond paham r Wel, meddwn innau, am fod yna brin- der bwyd yn y wlad, Ie, medda Sionyn, rwyt yn iawn; ond ddarfu ti drio meddwl paham mae yma brinder? Mi ddywedai i wrtha ti. Y rheswm yfly", hyn: Mae yma rai pobol yn y wlad yma, ei rawyn cael yr enw o fod yn wadgarol, wedi colli eu synhwyr- au. Pe buasat ti yn l'heclag dy feddwl yn ol dipyn buasat yn cofio darllen yn y papurau hanes Ellis Griffith yn dweud yn y Senedd nad oedd o yn malio dim yn nhraddodiadau ei blaid, ennill y rhyfel oedd y peth pwysicaf iddo ef. Os, fel y canmolid ef am yr araith gan y "Daily Mail," yr oedd yn wladgarol, a dyna ¡ Ellis Griffith a'r "Daily Mail," a Lloyd George, a 11awar arall, yn mynd yn eu blaen i ennill y rhyfel. Isio National Service a gorfodaeth milwrol oedd ar Ellis Griffith. Ac ar ol trio y scheme yma a'r scheme arall, maent o'r diwadd yn llwvddo i gael National Service. Hydw i yn credu mewn National Service ond rywfodd nid yr un National Service ac u. gafwyd ac a geir. Mae y bobol hynny had oeddynt yn credu na malio yn nhra- ddodiadau eu plaid wedi gafael yn y pen rong i'r mater. Militariueth ydyw yr hyn a gawsom. Yr oedd eu National Service yn cynnwys cael dynion i'r fyddin a dim arall. A'r canlyniad ydyw prin- der 11atuf yn y wlad, a thrwy brindei-i llufur, prinder bwyd. Nid dyna ddylasit fod wedi ei wneud. Ac er mwyn i ti gap! gwubod (a thrwyddat ti holl bobol Sir Fon), mi ddyweda i beth fuaswn V wedi wneud hefo National Service. Cy- mera di Sir Fon yma am funud, fel siampl o'r hyn a fuaswn i yn wneud. Buaswn yn gyntaf yn gofyn i'r landlords yma beth yr oeddant. hwy yn wneud er mwyn eu gwlad. Ac ar ol cael allan, buaswn yn rhoddi gwaith iddynt, ac yn talu cyflog teilwng iddynt am dano. Buaswn yn dweud wrthynt fod yn rhaid iddynt wneud heb eu rhenti tra y parhao y rhyfel; fod yn amser iddynt aberthu fel pawb arall Ar ol y landlords buaswn yn dweud wrth y ffermwyr,— Wel rwan, foneddigion, rydach yn arfar gwaeddi mor wladgarol ydych, danghos- wch hynny i'r byd. Rhoddaf i chwi, fel dynion profiadol, gyflog teg a chyfiawn am superintendio eich fferam, cymeraf eioh stoc oddiarnoch, trwy dalu am dani, a chymeraf y cynnyrch hefyd, a gwerthaf f ef i'r cyhoedd am brisiau rhesymol. Rhaid i chwi fel ffermwyr aberthu eioh elw tra y pery y rhyfel. 'Run fath buaswn yn gwneud a'r gwas, cyflog teg a theilwng iddo fel i'r lleill, Y ffordd yna, Sian bach, y buaswn i yn wneud, a'r ffo-rdd yna yn unig ydyw y ffordd fuasai wedi rhoddi buddugoliaeth i ni Ar ol cael dynion profiadol, nid C3 men ar y fferam, a gwas fferam i tgubo y lawns a carriage drives yr officers., buaswn yn gotyn i'r War Office wcdyn ddangos fod gennyf orniod o ddv-nion. Wei, meddwn innau, ar ol i Sionyn or- ffen, tydi hyna ddim ond yr un peth a phawb yn weision i'r Wladwriaetli. I Id d Ù.' e, nieddzii Sloiivii,, dyna ydi o mewn geiriau bvr, ond credaf y buasai hynny yn well i ni o'r dechreu na'r ffordd a gy- merwyd. Tatws oedd y peth 'roeddan ni yn siarad am dano, onifce. Wyt ti ddim yn meddwl y buasai fy ffordd i wedi ateb yn well er Ilea pawb yn gyffredinol na ffotdd y "Do it HOW Cabinet." Y ffordd a gy mor ant hwy ydi, proffit i'r ffermwr, proffit i'r middle-man, proffit i'r siopwr, a phris mawr i'r oyhnrdd, gyda phrinder mawr trwy brinder lafur. Yr unig un i gael clw. yn ol fy ffordd i, ydyw y Wlad- wriaeth, ac oni fuasai y broffit yna yn help i dalu am y rhyfel yn lie gorfod ben- thyca a thalu Hog mawr am yr arian. Rydw i wedi bod yn meddwl llawer am — feddwl, mwyaf o synnwyr cyffredin rydw i yn vteld yn y peth. Er hynny, ofnaf fod yna ormod o vested interests ar y ffordd i blan SionjTti i fod yn practical. Pan y mae unrhyw beth yn ymyryd ag elw personol unrhyw un, buan iawn yr angliofir aur a thus i myrrh i waredwyr byd. Yn lie gwarogaeth iddynt., gwerth- ir hwy am ddeg darn ar hugain o arian. Cyn i Sionyn fynd allan gofynais iddo, pam roedd arno fo isiQi i mi ddweud wrth bohol Sir Fon am ei blan, a dyma yr ateb- iad gefais: Am fy mod, meddai, os na cheir rhywun gwell na fi, am ddod allan yn eubyn Ellis Griffith yn yr etholiad nesaf. Braidd na chlywaf bobol Sir Fon yn chwerthin ar ol darllan hwn, ac yn gofyn y naill i'r llall pwy ydi Sionyn? ———— -040. ————
PLWYF LLANLLYFNI.
PLWYF LLANLLYFNI. Nos Fawrth, C'hwefror 20fed, yn yataf- ell Cymru Fydd, Penvgroes, cynhaliwyd cyfarfod arbennig o gynrychiolwyr y plwyf ar y Cyngor Dosbarth, ac aelodau y Cyngor PIwyf, pryd yr oedd yn bre- sennol Mri John B. Davies, Robert G. Roberts, Griffith W. Pritchard, W. Mei. wyn Jones, John Parry, Griffith Jones, Richard Roberts, Robert Thomas, Grif- fith E Jones, W. W. Owen, E. Pierce Jones, H. Jones, a John Jones, ynghyda Mri David Price, yr Arolygydd Iechydol, ac Edward Jones, Clerc. Dewiswyd Mr John B. Davies yn gad- eirydd, Gwyl Dewi.—Darllenwyd cais o'r Cyng- or Dosbarth yn gofyn i gynrychiolwyr y plwyf symiul at gael "Flag Day" Ddydd Gwyl Dewi, neu rai or dyddiau canlynol. Teimlid fod llawer o anhawsderau at gael hyn, am fod cynifer yn gweithredu mewn rhyw gvfeiriad neu gilydd, ond yr oil i'r un amcan, sef cael buddiant i'r rhai Bydd yn gwasanaethu eu gwlad. Cafwyd am. ryw awgrymiadau, ac yn y diwedd pas- iwyd i apelio at Gymdeithas y Groea Goch am iddynt gynieryd hyn i fyny yn ychwanegol at y cynlluniau rhagorol y maent wrthi yn ddiwyd yn eu gweithio allan. Gwaith Arbennig (Special) am 1917-18, —Pasiwyd yn unfrydol i beidio ymgy- meryd a dim olyga ofyn am dreth neill- duol (special rate). Y Gwasanaeth Cenedlaethol.—Pasiwyd "Fod y cyfarfod yn apelio yn daer am i Reolwr Gwasanaeth Cenedlaethol yatyr- ied y Fasnach Lechi fel diwydiant anheb- gorol y rhanbarthau hyn, ac y byddai cau y chwarelau yn MInistriol i'r cymydog- aethau, gan y golygai y byddai yn am- hosibl agor y ehwarelau ar derfyn y rhyfel. Hef.vd, y mae y npvyafrif mawr gyflogir yn y chwarelau yn bresennol un ai dros yr oedran milwrol neu wedi eu profi yn anaddas at wasanaeth felly?
RHIF BYDDIN PRYDAIN.
RHIF BYDDIN PRYDAIN. 5,060,600 o Ddynion. Cyhoeddwyd amcangyfrifpn y Fyddin am 1917-18. Dywedir fod nifer y dynion yn y Fyddin, ar wahan i'r rhai sydd yn gwasanaethu yn yr India, yn 5,000,000. ————
MARW SYDYN CERDDOR.
MARW SYDYN CERDDOR. Mr W. T. Samuel, G. and L.T.S.C Tra yn arwain Cymanfa Get-ddoi-ol dydd Sadwrn yng Ngliaerdydd, syrthiodd Mr W. T. Samuel a'r arweinffon yn ei law. Cariwyd ef o'r neilltu i ystafell, He y bu farw yn ddioed. Er y digwyddiad trist galluogwyd i gario'r Gymanfa yn ei blaen gydag anveinydd arall. ————
Family Notices
GENt. PRIODI. MARW. MARW. Roberts-Chwefror 23, Mr Robert Ro- berts, Coiniiiercial, Penisa'rwaen, yn 50 mlwydd oed. Williams-Chwefror :22, Preifat Griffith Williams, Fron Chwith, Ebenezer, yn 29 mlwydd oed. Evans—Chwefror 21, Mrs Ellen Evans, Llainhir, Brynrefail, yn 83 mlwydd oed. Rowlands-Chwefror 25, Parch Daniel Rowlands, M.A., Bangor, yn 90 mlwydd oed. CYDNABOD CYDYMDEIMLAD. Dymuna Mrs Jones, Cae Darby, gel1 Caernarfon, ddatgan ei diolchgarwch am yr amlygiadau o gydymdeimlad ddangoswyd tuagati yn ei phrofedig- aeth.
Advertising
J. FLETCHER. LTD., MEMORIAL WORKS, CARNARVON a BANGOR Arfrraffvvyd a chyboeddwyd Pin Gwmni y Dinesydd Cymreig, Cyf. yn 16, Palace Street, Caerniiion,