Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

DAN Y GROESI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAN Y GROES I NELYNTION TEULU ADWY'R CLAWDD. PENNOD XCI11. I Yr Anwylyn y= y Fiech Goch.  y Fi-ech Goch. I Mor belled ag yr oedd addysg yn y cwestiwn, tyfai Gilbert Cecil gyda chyf- lymder. At hynny yr oedd yn iach fel y gneuen, yr dywedii, fel mai ycliydig bryder geid y ffordd hon. Cyn iddo fynd i'r ysgol nid oedd fawr ddim afiechyd na blinder allan o'r cyffredin ar lwybr bach ei fywyd, heblaw poen sy'n dilyn buchfreehu a thorri dannedd. Calondid mawr i'r Yswain, ac yn enwedig i'w daid, y Dr Gravel, ydoedd gweled deunydd dyn cryf yn ei 'lVj'r-; a llawer gwaih y dywed- odd wrth Sa-di "mai job go sal fuasai doctor pe buasai pob plentyn fel Gilbert bach." Ond cawsai Sadi bleser wrth ateb ei dad na fyddai dim i'w wneud ond cadw at hen drefn y Chineaid drwy roddi cyfiog i'r meddyg am bob dyn iach, a thynu oddiwrtho pan fyddai thy in vn ei gylch yn afiach. Chw< rtliai ei dad yn galonnog pan glywai llyn. Modd bynnag, wedi i Gilbert fynd i'r ysgol yr oedd Mrs Gravel fel pe'n disgwyl am i felldith ddisgyn arno, ac yr oedd bron wedi hanner pwdu wrth y bachgen fel pe byddai ganddo rhywbeth i'w ddweyd ar y mater. Yn awr, aeth ei hymddygiadau tuagato i'w gwneud yn atgas gan Gilbert Cecil. Nid oedd dim a wnelai yn iawn, a mynai ci nain ddweyd ei fod yn efelychu vulgar actions hogia isel y gweitliiwi-s cyffi-edin oed(I yn yr un ysgol ag ef. Aeth i-not- bell un diwrnod ag i ddweyd ei fod yn mynd i odrych yn waeth bob dydd er pan aeth j'r ysgol, 3 mynai, er i Dr Gravel ei gwrthwynebu, fod y wasting disease wedi gafael arno, ac na fyddai ytio yn hir iawn i boeni neb. Peth ofnadwy i'w feithrin vdvw rhag. farn! Y mae'n curro pob specialist am wneud gwydrau llygaid i siwtio'r amgylcli- iadau; ac raewn achos fel eiddo Mrs Gravel y mae'n gallu bod greuloned a'r arth, a rhoi ei bawenau angeuol ar y pethau anwylaf. Nid oes ddadl nad Gil- bert Cecil oedd y perlyu gloywaf ym meddwl Mrs Gravel. ond yr oedd rhag- farn ddisynnwyr a ffol yn erbyn evmvsgu ag arferion a chyrff plant y gweithwyn yn mynd rhwng Gilbcrt baeh a ehael ei le yn ei chalon. Teimlai Sadi'n gynddeiriog yn ei her- byn, ac yr oedd bron a cholli pob teimlad mabaidd tuagati. oherwydd ci dellni a'l ffolineb ancsgusodol ond ni ddywedai iawr ddim, gan ei fod yn crcdu mewn parchu ei fam am ei bod yn fam iddo. Yr oedd safle Cecil yn wnhanol, a gallodd ef roddi ambeJl i bwyth iddi aethai drwy graidd ei henaid. Ofnai Mrs Gravel ddigio mab yr swain, a hyr.ny yn unig a'i cadwai rhag cloi'r drws rhagddo. Dy- wedodd lawer tro wrth Elizabeth fod yn gas ganddi wpkd ci wyneb hagr heb son am glywed ei lais atiafar. Rhwng pob peth yr oedd v safle yn bur annifyr i Gilbert Cecil bach yn yr adwy hon ar lwybr ei fywrd, I wneud pethau yn waeth dechreuodd Gilbert- baoh glatyehu, a r .ethwyd yn lan a deall belli oedd arno. Yr oedd Sadi a i daid yn credu'n sicr mai poeni oher- wydd vmddygiad ei iii4PaLo Mvnai Dorothy mai y ffordd ddoethaf fyddai galw ar ei daid yno i'w archwilio cyn i rywbeth a fyddo gwaeth afael ynddo. Hynny a fu, a chafwvd Dr Gravel yno. Wei, ebai'r Dr, mae arnaf ofn ei fod yn casglu at ryw glefyd, a fedra i ddim dweyd yn iawn hyd bore foiu beth yw. ) Mi alwa. i ma yn y bore, ac fe gawn weld j yn derfynnol yr adeg honno be su arno. Cudwch ef yu gynnes hyd hynny, beth bynnag a wnewch. Ar ol iddo fyned yr oedd ei dad a'i fain yn bur anesmwyth yn ei gylch, a'r newydd ei fod yn easgh: am glefyd wedi en braw- ychu'n fawr. D x-iiit fo. nu-ddai ei fain, rown i'n deyd mai i hyn y deuai wrth ci yrru i'r ysgol at blant y gweithiwrs. dyma' su i'w gael wrth gymysgu gyda phlant budr. Twn i ddim sut y medrwch chi fadda i chi eich hun nvan am fynu ei gaei yno Sadi. 0, mi fuoch yn frwnt wrth eioh bachgen! Peidiwch a rllUthro i gasgIjadau yn rfiy fuan, ebai Sadi. Wyddo ni ar y ddeuar be ydi o etc. Heblaw hynny, ryda ni yn gwybod yn eitha. da nad oes yna neb ohono ni yn osgoi y clefyda yma sy'n digwydd fblant, y syndod ydi ei fod heb gael dim un eto. Mi ges i bob un yn ei dro a mina wedi cael ysgol breifat ar hyd fv oes. I Waeth gen i prun, ebai ei fam, yr hen ysgol fudr yna su wadi dwad ag 0. Sadi, It iv.- v'i) synu atoch yn peidio poeni am ei ynu iddi Raid i chi ddim, ebai Sadi, rwy'n gWJhod pcthau gwell; ond na hidiweh, gadeweh i ni weled be ddaw o 'r bachgen. Aeth y ddau i'w gwely yn bur brydenus y noson honno, a phan godasant yr oedd Gilbert bach wedi ei gyfrio drosodd gyda 'r frech goch. dia-l itia i mai dyna oedd hi. IMi wriaiff les iddo ond i ni gymeryd gofat ohono. Sut cafodd o hi, tybed, gofynai Doro- thy. Oddiar pwy y daeth hi iddo Sadi ? Rhaid i chi fynd i holi i'r ASgol y bora yma. Pwy wy i' o ble y dat th. ebai Sadi. Hwyiuch mai efe ydi'r cyntaf i'w chael yn y lie yma. Kin gwaith ni vdvw odrych ei fod yn mendio. :1 1 rhwystro i gerdded ymhellach. Thai hynyna ddim, ebai ei fam. siwr ein bod yn cadw'r ty yn rhy lan i gael dim cJefyd o fath yn y byd. Y mae'n rhaid i chi fynd i'r ysgol i holi. Os bydd i hynny eich plesio fe af. ebai Sadi. Te eweh, a deudwch y drefn wrth y mcistr. ebai wrtho. Chwarddodd Sadi yn harti, yr llyn a wylltiodd Dorothy yn enbyd. ond pan ddneth yr a Riser aeth i'r ysgol i holi, ac er ei fawr syndod nid oedd yno lJeb ag argoel y frech arno. Dywedodd y meistr rywbeth a'i synodd yn fa^T, sef ei fod wedi sylwi fod plant y hobl dda aHan, a'r rhai sy'n cael y gofal mwyaf yngljni a bwyd a dillad a glanweithdra yn fwy parod i gael en goddiweddyd gan glefydau na phhiat y tlodion a'r esgeulus. Dyna brofiad fy syhvadaeth i, meddai. Yr ydych yn mynd yu erbyn. damcan- iaeth wyddonol yr oes, ebai Sadi. Onid yw deddf ieehyd yn galw am lanweithdra, ac onid yw hynny yn atal clefydau? Wel, ebai'r athro, tydi damcaniaeth ddim yn eyrraedd i bob man, wyddoch chi. Mae brech yr ieir, y frech goch, i phethau o'r fath yn rhyw bethau ua I elweh eu cyfrif ond cwrs naturiol i buro fel ag y maE"r eira a'1' rhew, y daran a'r feU t cn. neu y gwynt ar gwlaw. Fel rheol plant y rhai glanaf sy'n cael y pethau hyn a elwir yn frechau amlaf. Dyna fy mhroliad i beth bynnag. Gall damcaniaeth wyddonol fod yn fy erbyn ond y mac profiad a ffeithiau o'm plaid. Diolch i chwi, ebai Sadi, wna i iiloleli cadw yn hwy. Bore da. Pan gyraeddodd adref vr oedd ei dad yno. a dywetlodd >ir iianes wrtho. wst t-i be. ebai'r Swl ddiiii bell o'i le ond wiw i mi ddweyd peth felna, nen fe'm cyfrifir yn ddwlyn 1 gan bob! yr oes; ond ùyua'r ffaitli. Ond paid poeni am Gilbert bach, bydd wedi fuan, mae hi wedi torri allan i yn grand. Cofiwch edryc-h ar ei 01 yn iawn. lr oedd y Doctor wedi cael Dorothy drosodd i gredu Sadi; ond am Mrs Gravel I yr oedd hi yn iiiobeltlilol. Mendiodd Gilbert yn tuan, ac yr ocdd I yn yr ysgol fel ariorol mor iached a hoen- used ag erioed. ———— ————

TRIN TIR YN SIR GAER.i jNARFON.

 YSGOUON SIR GAERNARI?1).N.…

- t CYFRANIAD 0 GAN MILIWN…

GWELLIANT. I

ARAITH MR ASQUITH. I

FFERMWYR A FFESANTS.

TRIN TIR AR Y SUL.

CARCHAR YN LLE'R FYDDIN.

Advertising