Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
PRIODAS MAB Y PRIFI WEINIDOG.
PRIODAS MAB Y PRIF I WEINIDOG. Yn yr Abbey, Bath, ddydd Sadwrn, un- wyd trwy briodas y Milwriad Hichard Lloyd George, a, Miss Roberta M'Alpine. merch ieuengaf Mr Robert M' Alpiu(', Tottcridgc. Herts. Y morw'nion oedd- i ynt Miss Mpgan Lloyd George a Miss Nida jM'Alipine, a gwasanaethwyd fel gwas gan yr Isgapten Evans, o'r Army j Swviee forpe.
MARW SYR JOHN ROBEBTS.
MARW SYR JOHN ROBEBTS. CWYMP UN O'R CEDYRN ETC. Bore Sadwrn, yn ei annedd, Pins Llan- wnda, Caernarfon, bu farw Syr John T. Roberts, yn 57 mlwydd oed. Yr oedd stad ei lecliyd erstlwin yn peri cryn bryder i'w deulu a'i gyfeillion. Oddeutu blwyddyn yn ol torodd i lawr, a bu raid iddo gymeryd gorffwys, yr hyn roddodd ychydig adgyfnerthiad iddo, ond nid yn ddigon boddhaol fel y caniataodd y Cyngor Sir iddo gael ychwaneg o seib- iant; ond nid oedd y gwellhad angen- lheidiol yn dod iddo. Un o "hogia'r dre" mewn gwirionedd ydoedd Syr John. Yn fab i'r diweddar Mr a Mrs T. Roberts, sigydd, Stryd y Llyn, a brawd i Mr Natli. Roberts,o Bron Eifion. Dygwyd ef i fyny fel cyfreithiwr, a daeth i'r amlwg yn fuan iawn ar ei yrfa fel un o'r dadleuwyr mwyaf Iwyddiannus yn y cylcli. Vr oedd yn Rhyddfrydwr a. Gwerinwr selog, a gwnaeth waith mawr dros Ryddfrydiaeth yn y sir. Bu yn gweithredu fel cynrychiolydd gwleidyddol i'r Prif Weinidog presennol pan yr ethol- wvd ef gyntaf dras Fwrdeisdrefi Arfon. Bu yn aeod byw iawn o'r Cyngor Trefol a'r Cyngor Sir, ac yn Faer y dref am ddwy flvnedd yn |olynol. Efe oedd y Maer adeg Arwisgiad Tywysog Cymru, pryd y gwnaed ef yn Farchog gan y Brenin. Pan fu farw Mr J. H. Bodvel Roberts, Syr Johon gafodd ei Ie fel Clerc y Cyngor Sir. a gwasanaethai yn ffyddlon hyd at yn dfliweddar pan y torodd ei iechyd i lawr, pryd y cariwyd y gwaith ymlaen gan ei ddirprwywr medrus a galluog Mr E. Harrison Morris. Bu Syr John bob amser a'i galon a'i fwriad am wneud ei oreu i'r sir, ac yn enwedig i'w hen dref enedigol. Faint bynnag ddyrchefid arno mewn swydd ac awdurdod yr oedd yn eu dal heb golli arno ei liun, ac yn aros mor ddiymhongar a dirodres ag erioed. Bydd yn chwith gennym golli ei wyneb siriol a'j gymwynas barod. Gedy briod. mab, merch, a brawd i alaru eu colled ar ei ol, Cleddir ef ddydd Mercher am 2,15- angladd ryhoeddus i ddynion. ———— ————.
0 GADAIR MOORYB SIAN.
0 GADAIR MOORYB SIAN. Y TLODION GYDA Nt, Mi welis i y diwrnod o'r blaen lythur yn un o Napurau Sir Fon yina. Mae'n ddrwg gen i fod Sionyn yma wedi usio y papur i danio ei getyn, achos roedd arna i isio copio y llytbur i'w anfon i'r "Dines- ydd." ivlae arna i isio i ddarJlenwyr y "Dinesydd" ddallt nad ydan ni i gyd yn ffarmwrs mawr yn Sir Fon yma yn gwneud elw mawr drwy y rhyfal yma. Na yn siwr i chwi mae yma dylodi mawr yn Sir Fon heddyw. Ond i ddod yn ol at y Uythur, cwyno roedd yr awdwi- (Tad oedd o yn galw ei hunan) fod Pwyllgor Addysg Sir Fon yn mynd a rhieni plant o flaen eu gwell i feeting yr stusiaid, a'r stusiaid yn finio y rhieni am beidio aufon eu plant i'r ysgolion. Gwarth o beth, meddai y Tad yma, ydi ptth fel yna, ac a yn mlaen i roddi hanas un neu ddau o achosion. Un wraig, meddai ef, nid oedd ganddi esgid- iau i roddi am draed y plant, punt yn yr wthnos oedd hi yn gael gan ei gwr, ac yr oedd yn amhosibl iddi fyw ar y fath gyflog isel a chael pethau i'r plant i fynd i'r ysgol. Rydw i yn hollol o'r un farn a hi a'r Tad. Achos arall, meddai y Tad, y plant yn afiach, un ohonynt yn disgwyl mynd i'r hospital unrhyw ddiwmod, y fam yn gor- fod mynd allan i weithio i gadw y ty a thrwy hynny yn gorfod cadw rhai o'r plant gartref i wylio y cleifion. Gwarth o beth ydi cosbi pobot <> dan amgylchiadau fel yna, meddai y Tad yna. ac rydw i yn hollol o'r un farn ag ef. Ar ol dwrdio dipyn, a y Tad yma yn ei flaen i ddaugos y feddyginiaeth. Buasai yn fEtiach i Bwyllgor Addysg Mon cyn cosbi y rhieni, meddai ef, edrych i fewn i amgylchiadau'r teulu. Ffitiach iddynt gofio fod pob peth mor ddrud, fod y bobol gyffredin yma yn methu byw, ac yn gorfod yn amal wneud llawar o bethau yn groes i'w dyinun-ad. Gadewch, meddai ef, y Tad, lonudd i'r rhieni neud fel y mynont hyd ddiwedd y rhyfal, neu chwiliwch am ryw foddion i gyflenwi y plant a bwyd, a sgidia, a phetha eraill fydd arnyn isio cyn cosbi Mae 'n l'haid nad ydi y Tad yma yn ffarmwr, neu ni fuasai yn cynnyg meddyginiaeth fel yna, achos bwgan mawr y ffarmwrs hefo ni ydi bwgan y trethi. Felly toes dim chance cael gwelliant trwy godi treth er mwyn dilladu a ffeedio y plant tlawd. Cerdod i'r plant, meddai y Tad yma, da chwi, meddai, wrth Bwyll- gor Addysg Mon, gwnewch gasgliad drwy y Sir, ffurfiwch rhyw gymdeithas fel y gall y plant gael yr hyn vydd arnynt eis- iau, cyn cosbi y rhieni. Nid ydw i run f-aim a'r Tad yma o gwbl. Punt yn yr wthnos, meddai y wraig, ydw i yn gael gan y gwr i gadw'r ty a chael bwyd i'r teulu, ac mae'n bur ddrwg gen i, ond fedra i ddim cael sgidia i anfon yr hogyn yma i'r ysgol. Gwnewch gasgliad iddi, meddai y Tad y cvfeiriais ato, isio rhyw fliig-da N. svdd arnom i gael arian i brynu peth fel yna. Rhoddwch chwanag o gyf- log i'r gwr, dyna sydd isio wneud, meddai Sian. Ys gwn i, ddarfu y Tad feddwl rioed am feddyginiaeth fel yna Peidiwch cosbi y tlodion, meddai y Tad. ie reit wir, ond rvwsut mae peidio anfon y plant i'r ysgol yn gam a'u dyfodol, a hwy gcir y gosb pen blynvddau. Yn lie gofyn i 13,vvllgot- Addysg beidio cosbi v rhieni, buaswn i yn gofyn iddynt gosbi y rhieni i eithaf y gyfraith. Mao dyfodol ein gwlad i raddau pell iawn yn dibynnu ar addysg plant yr oes lion. Os y gad- awn ri ;1 cyfundrefn addysg fynd y" llipa, a gadael i bawb wneud fel y mynont, buan iawn yr awn i'r wal. Wn i ddim a ddarfu i'r Tad yma feddwl rioed am y ewestiwn yn y ffordd yna, a ga i ofyn iddo wneud hyntiv. Mae yna rai dynion galluog ar Bwyllgor Addysg Mon, a dweyd wrthyn, Os ydych am i ni anfon ein plant i'r ysgol, mac yn amsar i chwi godi eich lief dros roddi chwanag o gyflog i ni. Credaf fod Cadeirydd Cyngor Sir Fon yn Gadeirydd Undeb Gweithwyr Mon, ac yn aelod o Bwyllgor Addysg y Sir hefvd, ac mi rydw i yn credu pe buasai y tadau yma yn mynd ato fo ac yn dweyd wrtho, Mae'n amsar i liwi fel un sydd yn amcanu gwella amgylchiadau cymdeithasol y gweithwyr. godi eich lief dros well cyfiog i ni fel gweithwyr. Gellwch ddadlei yn gryf yn Undeb y Ffernwvyr dros eu !<a\v 1 iau. amsar i chwi wneud rhyw- beth drosom ni. neu adael i ni chwilio un ein hiachawdwriaeth, ein hunain. Ond o ran hyny, ar ol meddwl tipyn, nid cos lawar o fai ar y Tad yma yn ysgrifeiinu fel y gwnaeth, dyna ydi hanas v byd onite. Tipyn o gardod a chydymdeimlnd I a'r gweithiwrr a bydd pob peth yn iawn. Tydi y dyn yma, a'r wraig acw, yn bobol •> ffeind, tydi nhw yn dda wrth y tlawd, ie, ac oni ydyn nhw yn byw ar lafnr y gweith- iwrs hefyd. Pa bryd, o Ddiiit y cedwi'r hnbj0 Te, pa brvel ? Wei, pan wna y bobol ,<?vr«nr! ymlae^ am ('11 hinchawdwr- iaeth eu hunain. dyna'r pryd y cedwir y < j
AR GRWYDR.
AR GRWYDR. (Gan J. R. TRYFANWY). I GYRRU ATEB I GRITIC (J. T. W., Pistyll). Os "Rhigwm Clee"-i-liaid cleeian Yn gywir, yn glir, a glan, Canys clec yw einioes clod Y rhigwm, nid un ffregod. Am hynny, mwyn i mi yw Cynhyddol glecian heddyw; Cleeian clec yn y clicied, Canu'r llawn glecian ar lied: Clec cloc clic y clic clec clo, Rhag i'm rhigwm eu rhwygo! ])Yna'i- sud i waiiii'r Sion A gar eiriau gor-wirion, Nes troi ffrwd pob mwstwr ffrom I bennu pob gras ynom, Heb un rheol ond lolian Ar ddull gwr o ddeall gwan. Ni thynais i eithinen—i'th wanu, Na t honnog ysgallen Ond, o barch i gan dy ben, Fe waedais frig y fedwen! Ac nid teg yw canu ton A'i Ilineilau yii byllion, Dan ei-gus bod yn wisgi I roi nodd y Gwir j ni. Nid vwr Gwir ond ffrind i'r gan Gywreiniaf a gar Anian A'r Gwir yw gwe yr Awen, Gem yr lor i Gymru Wen; Ac o'r Gwir v ceii- v Ati Fwynaf i'r nef ei hunan. Am hynny y dymunais—arnat ti Drin y tant yn lleclnais -1 A rhoi llith gerddgar ei llais Efo'r odlau hyfrydlais. Ni bu hvydd o ganu bler-i'r un cawr, Y na., cod at geinder; Ac oni sylli am ser, Dos i waelod y seier! Neu dos, ar naid, i hysio—y ci twt I'r cae tatws eto; Rhaig i frain dy lethrog fro Waedu'th ganiad a'th ginio! Neu dos am enyd i wydd Dwysterau y Distawrwydd A oreura yr oror, A'r haul mud ar ael y mor! Dos i weld y syw wylder, Mae'r dydd yn marw mor der! Wedyn, tyn fwyndon y tant. A gwna gan o ogoniant. Diolch tiiii sebon d'awen-a'i hannerch I'w hoenus "Fwyalchen" Ond yn siwi-, yn slwi- cei sen—nes dysgu Ac eirias gredu Gwersi Ceridwen. Nid e'll clr a wen ond us, A'i linellau yn wallus.
GWERSYLL PARK HALL.
GWERSYLL PARK HALL. Hysbysa Mr Macpherson, yn y papurau Seneddol, mewn atebiad i Mr Haydn Jones fod nifei- v manvolaethau yug Ngwersvll I'ark Hall, Croesoswallt, fel y caniyn: -Tachwedd, -5 Rhagfvr, 3 Ion. awr, 4; Chwefror, 35; Mawrth, 24. ————
ATEBIAD SYLWEDDOL. i - i
ATEBIAD SYLWEDDOL. Gofynai Mr a Airs Kvans, meistr a nieistres Tloty Conwy, i'r Gwaroheidwaid am lythyr cyineradwyaeth i fynd gyda'u hjTngais am le tebyg yn Abertawe ond yn lie hynny rhoddwyd 1;,)p o godiad ynghyflogau'r ddau ar yr amod iddynt aros a pheidio cynnyg am y lie yn Abertawe. ————— —————
RHEITHOR LLANGADWALDR. I
RHEITHOR LLANGADWALDR. Y Parch J. Lodwig Davies, M.A., ficer Bryncroes, ger Pwllheli, sydd wedi ei ben- odi yn rheithor Llangadwaladr, fel olyn- I ydd i'r Parch E. H. Griffith. ————
CAU CARCHARAU.I
CAU CARCHARAU. I Canlyniad Mynd i Ryfel. Dyvved Syr G. Cave fod 17 o garcharau I wedi eu tau i bwrpas carchar er cychwyn- iad y rhvfel. Y ii-iae, i- ,wy(l(logion wredi en trosglwyt.ldo i garcharau cr?ilil er mwyn Henwi lleoedd y dynion gyBwynodd eu hunain i wasanaeth^y wlad. Y mae cvf- anrif y swvddogion gwrywol yn y carchar- au wedi eu lleihau o 3,001 i 1,991.
Advertising
SUDD IACHUSOL DAIL CARN YR EBOL gan GRIFFITH OWEN, CAERNARFON, ydyw ei fod yn rbydtlhau y phlegm, ac yn poen v ft, Fw gfvei E.ewn poteli Is 2c yn y Siopan Druggist; gyda'r post, Is ft.
Y FORD RYDD.
Y FORD RYDD. i (Gan WENFFRWD.) EFENGYLYDD AMERICANAIDD. Amser yn ol olywsoni lawer am waith a dylanwad "yr efengylvdd poblogaidd a llwyddianus" Bily Sunday yn America. Dealhvn ei fod yn awr yn c-yhoeddi yr un efengyl ag a wna Bottomlev a Blatchford ym Mhrydain. Y Sul o'r blaen dywed- odd, "Credaf mai ewyllys yr Arglwydd ydyw i mi ddweyd wrth America am gyn- orthwyo i glirio yr Almaen oddiar y map." Kfallai fy mod yn ddwl pan yn darlleft yr Efengyl fel ei ceir yn y Testa- ment Newydd, ond rhaid i mi addof na chanfvddaf fawr o dine eiengylaidd yn y geiriau uchod, a, rhaid i mi ddod i'r casgl- iad mai Efengylvdd Anefengylaidd ydyw Billy Sunday. Bydd raid i Bottomley a Northcliffe ymroi o'r newydd i'w cenhad- aeth fel proffwydi Mars a Mamon, ncu bydd rhai o Efengylwyr ( P) Prydain (gan olygu Cymvu hefyd) a'r Amerig yn myned a'u 11 awryf oddiarnvnt. Eithaf gwir y ddiareb Gymreig, "Adar o'r un rhyw 'hed- ant i'r un lIe"; a llawn mor wir fyddai dweyd fod dynion o'r un egwyddorion yn pregethu \r un peth. Y GWASANAETH CENEDLAETHOL. Mae darllenwyr y "Dinesydd" yn ddi- ameu wedi darllen apel Rhoolwr Cyffred- ino] y Wasanaeth Genedlaethol am wir- I foddolwyr. AVrth ddarllen y llythyr llith- raf ar fy ngwaethaf i awyigylch diwedd 1915. \Y ''ih gwrs mae v pwyslais ar y gair gwirfoddol, yn union fel v bu yn hanes y Oerby Schieme; ei-, efallai, fod y cynllun hwn yn cynnwys gwirfoddolrwydd dyblyg. Yn yr adran gyntaf apelir am wirfoddolwyr i addaw eu gwasanaeth, ac yn adran 4 cawn ar ddeall nad yw ar- wvddo y Fnrflon yn golygu unrhvw rwym- edigaeth yfreithiol, ond y bydd ar y rhai arwyddant rwymedigaeth foesol i wneud yr hyn addawsant. Yn gyntaf cawn apel am wirfoddolwvr i addaw, ac yna apel at wirfoddolwyr i addaw i fod yn ddigon moesol (y rhwymedigaeh foesol) i gadw eu hadde.vid. Amheuem yn 1915 nad oedd y cynllun gwirfoddol (a'r Registra- tion Act) ond pethau yn rhagflaenu ac yn rhyddhau y ffordd i Orfodaeth eyffred- inol. Er holl ymrwvmiadau y gwleidyJd- wyi, gwiriwyd ein hameuon, a chawsom weled ein gwlad wedi ei rhwymo yn ddiogel yn hualau militariaeth ormesol ac anghyfiawn o fewn ychydig fisoedd. Heddyw mae yr hualau yn cael eu tynhau, ac unwaith yn rhagor trcinir i lusgo i fewn cilwaith i r huaJau y rhai ryddhawyd olu-rwydd afiechyd. Yr ydym yn drwg- dybio y cynllun gwirfoddol hwn ynglyn a gwasanaeth cenedlaethol i'r un graddau, ac am yr un rhv^ymau. ag y bu i mi ddrwgdybio cynllun 1915. Nid yw hwn ond yn rhagflaenu "gorfodaeth diwvd- iannol cyffredinol," a gall fod yn erfyn yn Haw y llywodraethwyr i lwyr ddinistrio yr yehvdig gweddill o hawliau y dosharth gweithiol. Deuir a'r cynllun oddiam- gylch yn (kbyg i fel y dygwyd goi-fodietb milwrol. Yn wir, os yw cynllwvnwyr cyfalafol a llywodraethoI i gael eu Hon- gyfarch m eu medr a'u cyfrwyster i ddi- fetha. rhyddid a gweriniaeth, rhaid i ni ymostwng i longyfarch y Prwsiaid Pry- deinig. ydyin yn llawen na raid i ni longyfarch Prwsiaid Rwsia. YMRANNU YN DWYN GWENDID. milwj-ol gwelsom rannu y gweithwyr gyda medr neilltuol. Caed y rhai priod yn erbyn y sengI, ac yna yr "attested" yn erbyn y "non- attested" ond buan yr agorwyd llygaid y gwahanol ddosbarthiadau achoswyd drwy fod y gweithwyr wedi ymranu yn eu plith eu liiinain. Gan eu bod wedi ymrannu nad oedd modd sefyll. Ofnwn y bydd i'r eyiillul- vma rannu y gweith- wyr er rhwyddhau y ffordd i orfodaeth diwydiannol fel cynllun 1915 ar gyfer gor- fodaeth filwrol. Ond os y mynn dosbarth lliosog roddi eu hunain fel gwirfoddolwyr yr addaw ni ddywedwn ddim yn eu her- byn, ond os ydyw gweriniaeth a rhyddid yn annwyl ganddynt, rhaid iddynt beidio gwneud eu hunain yn erfyn yn nwylo v Llywodraech i ddwyn gorfodaeth cyffred- inol ar y rhai na fydd iddynt addaw. Bydd y Thai roddant eu hunain yn wir- foddol i'r gwasanaeth cenedlaethol am eu bod yn credu fod hynny yn ddyledswydd I arnynt yn haeddu parch pob aelod o svm- deithas; ond os wedi addaw y troant i geisio dwyn v rhai heb addaw i hualau gorfodaeth, bydd gwerth moesol eu gwir- foddolrwyld wedi xnwy na'i wrthbrofi. Mae ymroddiad gwirfoddol gonest. yn codi oddiar syniad o ddyledswydd. yn weithred ragorol; ond mae ymroddiad gwiorfddol ( ?) er ceisio ogoi a fo gwaeth, gan fwriadu drwy bob dull a modd gilio yn ol rhag cyflawni yr addewid nes bydd pawb arall wedi eu gorfodi i wneud yr hyn na addawsant, yn dangos rhagrith y gsdrfoddolrwydd. Nid ydym yn anmwg i'r darllemydd beidio ymroi MS gwirfoddoiwi-, ond y mae gwers hanes yn peri i ni ddweyd wrtho am feddwl, ystyr- idd, a gwylio. DEFFROAD YM MHRYDAIN, LLON. GYFARCHIADAU I RWSIA. Mae llwyddiant a thon y cyiaifod gyn- haliwyd yn yr Abert Hall yn peri i ni gredu fod swn deffroad o'r diwedd i'w glywed ,\111 Mhrydain. Yr oedd yn afros i ddeuddeng mil yn bresennol, ac amcan- gyfrifir fod tua pum mil wedi methu cael mynediad i mewn, ac wedi troi ymaith mewn siomiant. Beth bynnag ddwed y Wasg Gyfalafol, mae darllen yr areithiau draddodwyd yn dangas yn eglur y "ffordd y mae'r gwynt' ('s tfywerl y Gogleddwr). (lyfai-fod ydoedd i longyfarch gwerin Rwsia ar ei buddugoliaeth ar drais a gor- mes, a chafwyd datganiad clir ac coin nad yw gwerin Prydain am gysgll tra mae ei rhyddid yn cael ei ddinistrio. Pasiwvd y peliderfyniad canlynol :—"Mae y cyfar- fod hwn yn anfon ei longyfarchiadau i Werinwyr Rwsia, ac yn galw ar Lywod- raeth Prydain Fawr, a phob gwlad amhleidiol a'r rhai sydd yn brwydro, i ddilyn esiampl Rwsia, drwy sefydlu Rhyddid Diwydiannol, Rhyddid Llafar a Gwasg, Diddymu pob Gwahaniaeth Cym- deithasol, Crefyddol, a Chenedlaethol, Pardwn diced am droseddau Politicaidd a Crefyddol, ac Etholfraint Cyffredinol." Cyfarfod j bobl yn llawn brwdfrvdedd dros ryddid a gweriniaeth oedd y cyfar. fod. Nid yt) unig f(, biegethid rhyddid Ilafar, ond yr oedd y rhyddid yma yn cael ei arfer gan yr areithwyr yn y cyfarfod. Siaradwyd heb ofn nac arfer gweniaith. Bydd dovl y "Dinesydd" at- eu mantais o ddarllen adroddiad cyflawn o'r areithiau fel eu ceir yn yr "Herald" Seisnig am Ebrill 7fed. Mae "Corn y Gad" brwydr rhyddid wedi ei seinio yn glir yn y cyfarfod llwyddiannus liwn. Atebed gwerinwyr Cynii-ii vi, alwad ac awn rhagom .nes dwyn ein gwlad dan gysg y "Faner Goch." Dyna yr adeg y bydd rhyfel yn amhosibl, ac y bydd gweithwyr y gwledydd mewn llawnder yn I datbygu mewn dysg a moes.
BEIRNIADU SWYDDOGi MEDDYGOL.
BEIRNIADU SWYDDOG i MEDDYGOL.  1 Geiriau Cryfion. I Mewn cyfarfod o Gyngor Dinesig Llan- gollen, nos Wener, darllenodd y Clerc lythyr oddiwrth Dr T. Roberts, Gwrecsam, y swyddog meddygol dros Sir Ddinbych, I yn gofyn am wybodaeth am yr hyn wnaed gyda'r Ddeddf Adeiladu Tai ynghyloh Llangollen, ac iiii adroddiad o'r tai j wnaed i ffwrdd a hwynt a welwyd "yn t anaddas i bobl fyw ynddynt." Mr H. Birch: Os y gwnawn i ffwrdd a'r tai. i ble r aiff y bobl? Nid oes gen. nyni ddynion i godi adeiladau newyddion. Y ('lerc: Ofnaf nad yw yn ystyried hynny, a gallem wneud yn hawdd lieb swyddog meddygol sirol yn ystod y rhyfel. Mr T. C. Davies: Gallai yn sicr wneud gwell gwasanaeth i'r wlad nag anfon allan adroddiad faith fel hon. Mr J. H Davies: Gadawer iddo ymuno, y mae mewn f/edrau milwrol. Mr H. liirch Bu raid i ni gau llawer o gytiau moch i'w foddhau ef amser yn 01; yn awr rhaid i ni eu hail-agor. Mr W. P. Williams: Y amhosibl cael dynion at waith adeiladu, ac y mae awgrymu can tai yn golygu troi pobl i'r stryd. Yr ydym yn gwneud popeth a allwn. Mr T. C. Davies: Mac yn cael eyflog mawr, ac mae'n debyg fod yn rhaid iddo ysgrifennu llythyrau maith i gyfiawnhau oi fodolaeth. Y Clerc: Ac y mae o oedran milwrol. Mr A. Lettsome: Ac y mae costau ar- graflu yr adroddiadau meithion hyn a'u dosbarthll yn golygu cryn dipyn. Pam na ellid ei arbed? Penderfynwyd, wedi ystyriaeth pellach. i hysbysu y swyddog meddygol fod y Cyngor yn gwneud yr oil a all. ———— —————
SAFLE CHWARELYDDIAETH. )
SAFLE CHWARELYDDIAETH. ) Yiig Nghyngor Gwyrfai prynhawn Sadwrn galwodd y Cynghorydd R. G. Roberts, Penygroes, sylw at y penderfyn- iad wnaed ganddynt hwy fel Cyngor ac awdurdodau eraill parth gosod chwarel- yddiaeth yn y diwydiannau anhebgorol, a dvwedodd l'ofl y Ddirprwyaeth Gymreig wedi datgan ei gymeradwyaeth ar nmod- all arbennig. —
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. Pwllhleli, Ebrill 4.—Ymenyn, Is lie; wyau, 13s yr 120; perchyll, 28s i 38s yr un; mooh tewion, 10c y pwys; biff, Is 2c i Is Gc; myton. Is 2c i Is oc; lamb. Is 10c. Llangefni, Ebrill 5. — Ymenyn, 2s; wyau 9 i 10 am Is; perehyl, 2os i 33s; moch tewion, 8c i 9c y pwys. Caernarfon, Ebrill 7.—Ymenyn, 2s Ie; wyau, 7 i 8 am Is; ff owls, 5s 6c i 7s y cwpl.
ESTYN AMSER Y MILWYR AR Y…
ESTYN AMSER Y MILWYR AR Y FFERMYDD. Dydd Sadwrn derbyniodd Mr O. Isgoed Jones, Y.H., y cynrychiolydd Amaetli. yddol yn nosbarth ymrestru Geirionydd, hysbvsrwydd oddiwrth yr awdurdodau milwrol y caniateir i'r milwyr sJrØd vn cynorthwyo yr amaethwyr aros hyd ddi- wedd Ebrill. Y terfniant cyntaf oedd hyd Ebrill 15fed.
Family Notices
GENI, PRIODI, MARW. PRIODI. Hughes—Jones—Ebrill 3, ynghapel Bryn Rhos, gan y Parch E. Arfon Jones, Preifat John Owen Hughes, Cefn Fron, Rhostryfan, a, Miss Maggie Jones, merch Mr a Mi-s Owen Jones, Llain- ffynnon Terrace, Gioeslon. Hughes—Jones—Ebrill 4, ynghapel y Cysegr, gan y Parch S. Venmore WiL liains, B.A., Mr Evan Roger Hughes (Kent, Pontrug), Penrallt leaf, Clyn- nog, a Miss Lizzie Jones, merch Mr a Mrs Robert Jones, Ty Capel Nazareth, Pontrug. MARW. Jones Ebrill 1. yn 41 mlwydd oed, Mr Thomas Jones, Cefn Ilhos, Llainffynnon Terrace, Groeslon. Evans-Ehrill 4, Mrs Annie Evans, an- nwyl briod Mr Griffith Evans, Plan- wydd, R hyd-ddu. Roberts-Ebi-ill 7. yn 57 mlwydd oed, yr Henadur Syr John Roberts, clero Cyngor Sir Caernarfon.
Advertising
j J. FLETCHER, LTD., j MEMORIAL WORKS, | CAERNARFON a BANGOR. | -n:r L UT J. Argraffwyd o chvlioeddwyd gan Cwmni y '(D ivtydd Cymreig," Cyf., yn 16, Palaw Street, .aua.rf.B.