Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
22 erthygl ar y dudalen hon
ARAITH MR LLOYD GEORGE. I…
ARAITH MR LLOYD GEORGE. Y PRIF WEINIDOG A'R AMERI- CANIAID. I PAM Y DAETHANT I MEWN I'R RHYFEL. Mr Lloyd George oedd y blaenaf o'r gwahoddedigion mewn gwledd roddwyd gan yr American Luncheon Club yn Savoy, Llundain, nos Iau, a chafodd dderbyniad bnvdfrydig. Dr -Page, y Llysgenhadydd Amerioanaidd a hvyddai. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn y safle hapus o fod y Gweinidog Prydeinig Cyntaf i'r Goron i aiarad ar ran y bob!. a gallu moesgyfareh y Genedl American- aidd fel ovinrodyr mewn arfau (cym.). Yr wyf yn llawen, yr wyf yn falc-h; yr wyf yn falch nid yn unig oherwydd yr adnoddau aufcrth rydd y genedl fawr hon i gynorthwyo'r Cyngreirwyr, ond llawcn- ycliaf fel gwerinwr (cym.). Mae dyfod- iad yr Unol Daleitluaa i'r rhyfel hon yn rhoddi v nod a'r sel derfynnol i gyiner- iad i'r gwrthdarawiad a'r ymdrech yn erbyn uchafiaeth milwrol dnvy yr boll fyd (cym.). Dyna oedd y nodyn eeiniai drwy anerc-hiad odidog yr Arlywydd Wil- son (clywch. clywchY Mae gan yr Unol Daleithiau draddodfftdau ardderchog, di- dor. o beidia torri allan i ryfel erioed oddigerth dros ryddid (cvm) ac y 111,10 hon yr ymdrech unionaf dros ryddid yr aethant erioed iddi (cym.). Nid wyf yn rhyfeddu o gwbl pan yn cofio am ryfel- oedd y gorffennol fod America wedi cy- meryd ei hamser i wneud ei meddwl i fyny ynghylch cymeriad yr ymdrech. Yn Iwrob yr oedd y rhan fwyaf o ryfeloedd y gorffennol wedi en g-wneud er mawrhad cartrefol a choncwest. Nid oedd yn eyn. dod pan ddechreuodd y rhvfel mawr hwn fod yna ryw elfennau o amheuaeth yn lleohu ym meddyliau pobl Unol Daleith- iau yr America. Meddyliai llawer. hwyrach, fod Brenhinoedd i fyny a'u hen driciau eto (chwerthin) ac er cu bod yn gweled Gweriniaeth ddev.r Ffrainc yn brwydro, hwyrach fod rhai ohonynt yn eu hystyried yn aberth i gynllwynion swash- bucklers teyrnaidd. Mae'r ffaith fod Unol Daleithiau'r America wedi gwneud ei meddwl i fyny'n derfynnol yn ei gwneud yn hollol glir i'r byd nad yw'r ymdrech hon o'r cymeriad hwnnw,- ond ei bod yn frwydr fawr dros ryddid y ddynoliaeth (cym.) Nid oedd- ynt yn naturiol ddeall yr hyn ddioddef- a-som yn Iwrob am flynyddau oddiwrth y llwyth filwraidd hwn yn Prwsia. Ni chyrhaeddodd erioed mor bell a'r Unol Daleithiau. Nid yw Prwsia yn Werin- iaeth, nid oood Prwsia yn dalaitli. Bydd- in ydoedd Prwsia (cym.). 'Roedd ga,n- ddi ddiwydiannnu mawr wedi eu datblygu yn uchel; yr oedd ganddi ei chyfundrefn addysgol fawr, yr oedd ganddi ei phrif ysgolion, a datblygodd ei gwyddorau. Yr oedd yr holl betha u hyn yn isordeiniedig i un pwrpas mawr o gael un byddin gonc- weriol i arwain y byd. Y fyddin oedd blaenfidog Prwsia, nid oedd y gweddill ond y earn. Dyna'r hyn yr oedd yn rhaid i ni ddelio gyda hwynt yn yr hen wledydd hyn. Yr oedd wedi mynd ar nyrfs Iwrob. Gwyddent beth olygai. Yr hyn na wyddem ydoedd pa bryd y deuai yr adeg i darro. Dyma oedd y bygyth iad, dyma oedd y gormes oddiwrth ba un y dioddefai Iwrob am banner can mlyn edd. Nid oedd Germani wedi ymyryd a rhyddid America i'r un graddau, os o gwbl. Ond o'r diwcdd daethant i gael yr un profiad ag Iwrob. Dywedid wrthynfc nad oeddynt i gael croesi ol a blaen ar y Werydd ond i'w perygl; suddwyd llongau America heb i-vbttdcl boddwyd deiliaid America, heb ymddiheurad o'r braidd—yn wir, fel mater o hawl Germanaidd. Ar y cychwyn prin y gallai America ei gredu. Dioddefasant unwaith a dwywaith, ond 0 r diwedd daeth yn glir fod Germani yn ei feddwl. Yna gweithredodd America, gvveithredodd yn brycllon (cym.). Tyn- wyd llinell Hindenburg ar hyd glannau America, a dywedwyd wrth yr American- iaid nad oeddynt i'w chroesi. A dy- wedodd America "Beth yw hvn?" (chwerthin). Dywedodd Germani, "Dyma ein llinell nad ydych i fynd drosti." Atebodd America. "Nid yr Atlantic yw lie y llinell yma, ond ar y Rhine, a rhaid i ni eich helpu chwi i'w rholio i fynv," ac y maent wedi cychwyn ar eu gwaith (cym.>. Y mac yna ddwy ffaith fawr sy'n setioll, ddadl fod y rhyfel hon dros ryddid Y gyntui y >v fod America wedi dod i mewn, ni fuasai i mewn ond am hynny. Beth yw yr Yr ail yw y chwildroad Iiwsiaidd (cym. uchel). Yn ol ei arler cafodd y Prif Weinidog hwyl arbennig ar ei ddiweddglo, a phan eisteddodd i lawr cododd y gynulleidfa i ganu "For He's a iolly Good Fellow,"
IDIRWYO MASNACHWR.I
DIRWYO MASNACHWR. I Am ddweyd wrth Vrraig fod ill j ha id I iddi brynu gwerth banner coron 0 nwydd. all eraill cyn ("aei hanner pwys o sigwr, dirwywvd Benjamin Bolton, Middles- brough, i 5p yn y 11 ys heddgeidwadol -n. ————
i TYSTYSGRIFAU CYNILION !…
TYSTYSGRIFAU CYNILION RHYFEL. Nifer y tystysgriiau werthwyd yr wytli- nos yn diweddll Mawrth 31 oeddynt 2,406,045. yn gwneud y cyfallswm i fyliy i'r dvddiad yn 95,156,019. Cyfanswni y gwerthiant yn ystod Mawrth ydoedd 12,796,156, ac yr oedd y derbyniadau am I dystysgrifau ai- gyfartaledd yn 480,000p yn y dydd. ———— ————
I CYNHADLEDD GYNGREIRIOL I…
CYNHADLEDD GYNGREIRIOL YN YR AMERICA. Gwahodd Cynrychiolwyr Llafur. Derbvniwyd brysneges danforol ddydd Gwener o Washington oddiwrth Mr Samuel Gompers i Mr Lloyd George a M. Robat yn gofyn i La fur Prydain a Ffrainc gael eu cynryohioli mewn eyn. hadledd, He awgrymwvd yr euwau Mr W. A. Appleton. Nlj- C. W. Bowennan, M. Jontaux, a M. Kenfer. Dywedai fod gol- ygiadau y pacwyr pore o'r pwysigrwydd mwyaf.
CYNYRCHIANT GLO, I
CYNYRCHIANT GLO, Deng 1\1.!J 0 Dunnelli yn Ychwaneg II y Dydd. Yr oedd cyfanswm cynnydd cynyrchiant glo yn y Deyrnas Gyfunol yn ystod 1916 ar y flwyddyn flaenorol yn 3,168,905 o dunnelli, yn ol adroddiad y Swyddfa Gar- trei'ol. Dyma'r ffigyrau 1913, 287,411,869; 1914, 265,643,030; 1915, 253,179,446; 1916, 256,348,351. Nifer y dynion gyflogid yn y mwnteyttd o dan Ddeddf Mwnfeydd Glo yn ystod y flwyddyn ydoedd 989,063, lleihad o 129,827 ar y flwyddyn cyn y rhyfel, 1913, ond cynnydd o 44.421 ar ffigyrau 1915. ——- t
I CYFLOGAU SEIRI COED.I
I CYFLOGAU SEIRI COED. Adroddir yn swyddogol fod codiadau ynghyflogau y seiri coed wedi cymeryd lie fel y can I yD isbeoh, Trowbridge, Hawick, Llandudno, a Taunton, 1C yr awr; Leeds, Dewsbury, Adlington, Barns- ley, Walsall, Barnstaple, Peterhead, Stirling, Plymouth, Southport, Steven- age, a Wigan, Ie yr awr.
I MARW MEDDYG HYGLOD. I
I MARW MEDDYG HYGLOD. Dydd Iau bu farw y meddyg hyglod Dr Peter Stuart, yn Hall Hoad, Blundell- sands, yn 64 mlvvydd oed. Yr oedd yn feddyg o awdurdod, ac yn adnabyddus drwy y Deyrnas Gyfunol.
TATWS YN LLE GLO.
TATWS YN LLE GLO. Cyfnewid Buddiol rhwng Yspaen a Lloegr. Hysby.sir fod ymweliad y Marchese de Cortina, cynrehiolvdd a rbennig Llywodr- aeth Ysbaen, a Phrydain wedi bod yn foddhaol i'r ddwy Lywodraeth. Dywedir fod eytundeh wedi ei M-neud. Y mae Llywodraeth Prydain i gyflenwi glo a nwvddau eraill angenrheidiol i ddiwydian- nau Yspaen, a bydd i'r Yspaen yn gyf- newid gyflenwi Prydain gyda haiarn a deunydd bwyd, yn enwedig pytatws. Yn y eytundeb y mae yna gynllun wedi ei ddarparu ar gvfer y chidiad a'r pris. cyd. rhwng Prydain a'r Hispaen.
GVVELL TAI I'R BOBL.
GVVELL TAI I'R BOBL. Dirprwyaeth gydag Arglwydd Rhon. dda. Dydd Gwener bu dirprwyaeth o'r Cymdeithasau C'enedlaethol o Bwyllgorau Yswiriant Lloegi- a Chymru yn y Bwrdd Llywodraeth Lleol. a derbyniwyd hwy gan Arglwydd Rhondda. Hyderai Arglwydd Rhondda. fod mewn safle i roddi gwybodaeth derfvnol ar v pwyntiau osodwyd o'i flaen; ond yn an- fIodus nid ydoedd. Yr oedd y Llywodr- aeth yn vstyried yn ddifrifddwys y ewestiwn 0 gael Gweinidog lechyd. a thra yr oedd yn rhaid iddo fod yn ofalus But i siarad, credai en bod oil yn gwybod digon am ei olygiadau ar y cweetiwn o gael rhyw awdurdod canclog j ddelio gyda. gweithrediadau iechvdol y genedl. Yr oedd yn gwasgu ei olygiadau ai- y Llyw- odraeth ac yr oedd y Bwrdd Llywodr- aeth Leol yn hollol fvw i bwysigrwydd cwestiwn y tai. Ystyriai ef y cwestiwn mwyaf c'r holl gwestiynau yr o-edd gan-. ddynt i ymwneud a hwy, ac yr oedd yn rhaid gwneud hynny yn ddioed
Y FFERMWYR i ENNILL Y'I RHYFEL.
Y FFERMWYR i ENNILL Y RHYFEL. LId o'r America. Datganodd Mr Houston, Ysgriiennydd Amaethyddiaeth yr Unoi Daleithiau, fel canlyniad i gynhadledd yn St. Louis, eu bod yn gofyn am roi 25,000,000 o ddoleri i gyfarfod yn dclioed a hawliad byddiniad, yn cynnwys 2,000,000 o ddoleri yn "bonds" at wasanaeth amaethyddol. Dy- .vedodd mai ar y ffermwyr i laddau mawr y gorffwx sai y cyfrifoldeb terfynol o cnniil y rhyfel.
I BARA HEB FURUM. ; -i
I BARA HEB FURUM. i Dywedir fod pobydd o Hincliley wedi dyfeisio moddion i wneud bara heb furum, drwy yr hwn yr ychwanegir y bara, ac hefyd yn rhoi mwy o fictli. -Nlae'r ddyf- ais yn nwylo'r Rheolwr Bwyd, a hysbysir fod arbrawf wedi ei wneud arno yngwydd dadansoddwr, nieddyg, dau ynad, a thri swyddog o adran y Llywodraeth. Y mae r daJauüddjad. yn ol y datganiad | arwyddwyd i adran Hwyd. yn dangos fod y cynnydd yn y onnyrch yn aros. a'r maeth yn rhoi cyunJ'dd'run pryd. ————
I FFRWYDRIAI) GWAITH CAD.…
I FFRWYDRIAI) GWAITH CAD. DDARPAR. 120 o Americaniaid wedi eu lladd. —— Ameu fod Cynllwyu Germanaidd. Daw hysbysnvydd o Philadelphia fod ffrwydriad wedi cymeryd lie ddydd Ma wrLh yr wytlmos ddiweddaf yng ngwaith Cwm- ni Gwneuthurol Eddystone, a weithir yn awr ynglyn a chad-ddai-pariaethau dilyn- wyd y ffrwydriad gyda than. Adroddir fod 120 wedi eu lladd. Credit- fod y drychineb yn ganlyniad cynllwyn Germanaidd. ac y mae dau wedi cap! eu cymeryd fyny. Dywed rhai o'r gwa redigion iddynt glywed sibrydion rhy. buddiol yr wytimes gYllt i beidio gweithio. Dywed yr arehwilvdd pelenau oedd yn yr ystafell lie tvehwynodd y tan yn bendanfc nad allai fod yn ddim ond cynllwyn. gan nad oedd yn yr ystafell fatli yn v byd o bowdwr, ond pelenau gweigion. Amcangyfrifir fed 300 wedi en hanafu, ond ei bod yn amhosibl cael gwybodaeth fanwl oherwvdd anallu i gael yn agog i fan y ff i-wvdriid. Mae y rhan fwyaf o'r meinv tuhwnt i fedru eu hadnabod. Daw neges o Trenton, New Jersey, yn datgan fod Mrs Annie Keating wedi ? rhoddi nod.m drosodd i'r Cynrychioiwyr Cvngreiriol, yr hwn a gododd i fyny yn Philadelphia, Mawrth 14. Dyma'l' geir- iau oedd at-no: "Popeth yn barod i ohwythu i fyny Eddystones; anfoner help." Arwyddwyd y nodyn gan ddau dramorwr, a disgwylir eu cael i'r ddalfa ————- —-———
iG\VARCHEID\VAIDBAGOR.I j…
G\VARCHEID\V AID BAGOR. j GWARCHEIDWAID BANGOR. Pasiodd v Bwrdd Gwareheidvraid gvn- | haliwyd ym Mangor bloidlais o gydym- deimlad a theuluoedd y diweddar Ganon R. T. Jones, a Mr Joseph Davies, yn eu profedigaeth. Derbvniwyd rhodd o ddar- lun ei diweddar briod gan Mrs R. H. Evans, gyda diolcligarwch. Hysbysodd Mr Benjamin Evans, y Clerc. eu bod wedi gwneud profBt o 87p allan o 28 o focli gadwyd gan y Gwarcheidwaid yn ystod y ehwe mis diweddaf.
IGOHIRIO RHYDDFREINIAD Y I…
GOHIRIO RHYDDFREINIAD Y PRIF WEINIDOG, Gohiriwyd rhyddfreiniad dinas Llun- dain i Mr Lloyd George ddydd Gwener hyd yr wvthnos nesaf oherv/ydd Gor- chymyn Breninhinol gafodd y Prif Weini- dog. Hysbysir mai y wasanaeth gyn- fielid yn St. Paul's gan Americaniaid Llundain oedd y rheswm, ae fod Mr Lloyd George eisiau presennoli ynddi. Cymer y aeremoni ryddfreiniol le ddydd j Gwener iimif.
I "——I I BYDD RICHARD EVANS.I
"—— I I BYDD RICHARD EVANS. I MEDDYG ESGYRN (Bone Setter) ADFER LE, GAOL STREET, PWLLHELI, I I yn Ynuveled a'r lleoedd canlynol yn wythnosol:— Dydd lau.N,larket Vaults, Llan- gefni. Dydd Gwener.—Sportsman Hotel, Portmadoc. Dydd Sadwrn.—I'mu Temperance, 2, Palace Street, Caernarfon (gerllaw y Farchnad) Oil at y Gewynau i Ddynion &c Anifeiliaid am Is lie a 25 ÕC y Botel, 3c yn ycbwanei^ol d:rwy'r Pott
GWEHYDDiON A U CYFLOGAU.
GWEHYDDiON A U CYFLOGAU. Ddydd Gwener gwnaeth dros 200,000 o wehyddion Manceinion gais am godiad oi 20 yn y cant yn eu cyflogau. Gwrthod- wyd hwy gan y cyflogwyr, gan (ilitt-an fod rhagolvgon o gyfnCKI tywyll o flaen y ddiwydfa gotwm. Nid yw'r dynion yn foddlon ar eu safle. ———— 4..
CAERNARFON. I
CAERNARFON. I Angladd Syr John Roberts. Dydd Mercher daeth cynulliad lluosog i dalu y g^vinwynas olaf i Syr John Roberts. C'y- merodd yr angladd le yn y fynwent new- ydd. Dyma y eyntai yn y fynwent lion. Gwasanaetlnvyd wi th y ty gan y Parch John Owen. M. A., a chynorthwywyd ef ar lan y Wdd gan y Paich J. K. Hughes, M.A., B.D. Y prif alarwyr oeddynt Lady Roberts (gweddw), Mis.s Dilys Ro- Liid I?obei-t-s I)II.N-S Ro- be-ts )h a lsg.-tl)tt?ll iiii 1.? 0I)e?- Ls, cliwaer-ynghyfralth). Mr R. F. Evans a -NTI-S Natli. Ilot)(,i-t, ?i berts (Porthmadog), Charles Brown (Mineras). T. n. Evans (Caeigybi), Foulkes Jones (Bangor), F. Parry (Porth- aethwy), Richard Toleman, Thomas Toleman, J. T. Williams. Master Evan Evans, a Nyrs Jones. Y r oedd hefyd yn bresennol amryw o aelodati bvrddau cy- hoeddus ac eraill. Anfonodd y Piil Weinidog ci gydymdeimlad a'r tenia y 11 eu galar. Tribunlys. Cynhaliwyd nos Fercher, Mr Chas. A. Jones yn y gadair. Dyma'r dN fai-iiiadaii:-A. R. Glover (37), B 1; a William Davies (29), A CUrl Henry Owen, eigydd), I aros hyd nes y c-eir rhai yn eu lie; William Roberts (41). David Jones (18), Cliapel Street J. R. Wiliams (30). Tanyfoel Ferry House; G. 'Williams (39). grocer. Pool Street, a Hugh Davies. Swyddfa. r "Herald," i gael archwiliad meddygol, D. O. Jones (19), 13, Yic- toria Street, a Robert Jonc's (11) (Mn Charles Pozzi), ddim i'w gahv i fyny hvd Mai 13. E. D. Ellis (33). Garnon Street, B 1 Owen Davies (39) (Mri D. W. Davies) a J. T. Hughes, 10. Chapel Street, j Menai Bridge. 2 fis. David Lloyd (39), 23. Eleanor Street, 3 wis. Dyma dely- farniadau p;wasanaethyddion Cwmni y Wasg Genedlaetliol Gymreig :-Ieuan G. Jones (C 3) a J. Jackson (C 3), rhydd- had amodol; L. A. Fraser, 3 mis; Owa-in Llew Owain (C 1), Richard Wïlliams (B 1), a T. Pandy Williams (13 1), 2 fis; Richard Jones Parry (A) i aros hyd ncs y c-eir un yn ei le Cynnan Roberts (A) a W. James Evans (C 3). i ymuno.
PORTHMADOG.
PORTHMADOG. Yn Nyrs.—Yr wythnos ddiweddaf aeth y Nyrs Nellie illiams, Ivy House, i was- ti-,iiiiot-. Marw.—Dydd Mercher, Kbrill lleg, bu farw Mr Morris Jones, Chapel Street, yn 90 mlwydd oed. Bu yn gweithio fel ''platelayer" ar Reilffordd y Cambrian. Dydd Sul, Ebrill 8fed, yn Lerpwl, bu farw }1r William Ambiose Jones, mab y di- weddar Gapten Evan Jonss, yn 43 mlwydd oed. Terfynnu Gobeithluoedd.- Llun y Pasg, rhoed te i blant Gobeithlu Zion (B.) gan fr Francis Jones, a chard (yfarfod cys- tadleuol yn yr Invyr.— Nes Fawrth, cyn- haltbdd Gobeithlu Annibynwyr Borthygest. eu tvinor drwy gj'farfod amrywiaethol poblogaidd a llewyrchus Llestri Cymun.—Aurhegodd Mr Isaac Parry Jones, Glanrafon. Eglwys Annibyn- wyr Morfa By cli an gvda llestri cymun unigol aluminium a phlatiau er cof am ei dad a'i fam, a gweinyddwvd yr ordinhad gyda hwynt- am y waith gyntaf Sul y Pasg gan y Parch W. Ross Hughes.
NODION 0 FFESTINIOG.
NODION 0 FFESTINIOG. oyaymdeimlad. Ceir eydymdeimlad eyffredinol gyda Mr a Mrs Joseph Hughes vn eu profedigaeth 0 golli eu merch fech- an dair blwydd oed. Newydd Trist. Daeth hysbysrwydd swyddogoI tod saith o'n beehgyn wedi eu lladd, ac ugain wedi t a clwvfo yu frwydr fawr fu yn yr A iff t. Y saltli Iidd wyd ydynt-Preifat Johnny Lloyd, mab Mi Lloj d, atclimaker ( orjxiral Richard Davies. mab Mr Richard Davies, Broil Barlwyd, Tanygri-siau; Prcifat Boh i iau I"i?eiftt .1301) Powell, mab Ali- William Powell, grocer: Preifat John Tl-nmas. ma b Mr Hugh Thomas, Manod Road Preifat Robert Edward Williams, livthyrgudydd, mab Mr W. D. Williams, Br, olnvrog, Glanyjiwll; Preifat D. R. Ellis, mab Mr Richard Ellis. DG, High Street. Blaenau Ffestin- ioy. Y rhai chvyfedig Mlvnt Preifats R. J. Roberts, 51, Mario I i?oad; Simon Hughes, Graigddu; Lovel!, Bodafon; Jones, Dyffrvn 'House. Tauvnianod Ter- race; Cradoc Jones, .-it Tommy Owen. 102, W ynne Road; Wniiam Jones, 22, Glanvpwll Road Owen K. Jones, Miu- ffordd, Oakeley Square; Abed Lloyd. Cam- brian Terrace; Evan Owen, Ty'nlhvyn. Tanygrisiau; John Parry, Yflgoldy, Tany- grisiaii \V. E. Roberts, 6, Glanrafon Ter- race. a ( apten Whittaker, Graigddu. Pregethau'r Pasg. Yn Bethesda, Tabernacl, a'r Pcniel. pregethwyd yn ys- tod y Pasg gan y Parchn J. Owen, M.A., R. W. Jones, M.A., Gerlan J. E. Davies, Caergybi; S. T. Jones, Colwyn Bay; D. Cwyfan Hughes, B.A., i NN-. J. Jones, B.A., lthyl. Gartref. Gwelsom y milwyr canlynol gartref:-Y Preifats W. Williams, Old Trefeini; W. H. Lewis, Tabernacl Ter- race; Richard Jones, mab ieuengaf C'yff- dy a'r Dreifar Hugh Parry. Walter Ter- race.
PENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. Apwyntiad.—Mr D. S. illiams Bydd wcdi ei apwyntio yn orsaf-feistr i Min- ffordd fel olynydd i Mr W. Parkins, sydd wedi viiiiiiio Y Ddrama.—Cat'odd Cwmni Penygroes liwyl anarterol yn eu perfformiad o'r "Ferch (I (jefnydta. Ar Goli,— Daeth hysbysnvydd yn myn- egi fod y Preifat 11, Ric!i:n'ds. Hock Ter- race, ar goll yn Ffrainc. Wedi eu Clwyfo.—Hysbyswyd fod y rhai canlynol wedi eu elwyto yn y ffrynt dwy- r(,iztlol :Pi-eifats Owen Edwards. Britan- nia House; J. Lloyd Williams, Bwlchfed- wen David Ro'.vit n Is, Taj ybiyn ac Evan Hughes, Brynisa, Hendref. Newydd Trist.—Adroddir fod y Preifat G. I for Lloyd, mab y diweddar Mr a Mrs Lloyd, Noddia. wedi oi ladd ar faes y gad.
PWLLHELI.
PWLLHELI. Cwymp ein Bechgyn. Daw hysbys. rwydd fod y Preifats Thomas Thomas, Greenfield, a John Williams, Penrhvdlin- iog. wedi eu lladd ar y maes. Ar Goll.—HysLyswyd Mr Thos. Owen, ironmonger, fod ei unig fab, y Flying- Lieutenant T. J. Owen ni- goll. Chwe mis yn ol ymunodd a'r Roval Flying Corps, ac y map wedi bod ar wasanaeth yn y maes ers pedwar iiii-, fel scout pilot. L ii
Advertising
CYFARFODYDD. pYLCHWYL LENYDDOL A CHERDD- ? OROL WAENFAWR, a gvnhelir NOS WENER, PRYDNAWN a NOS SADWRN, EBRILL 20 a 21, 1917. Beirniaid: Cerddorol: Dr Caradog Roberts, Rhos, Wrexham Licnyddol: Mr H. Parry Williams, Rhyd- ellisa rii,ae-n; Parch D. J. Lewis, lLA. Celfyddyd Mrs Vaughan Davies, Caer- narfon Mr .Humphrey A. Williams, Testynau Rhydd i'r 3yd. 1. Datganu "Y nJodeuYJI Olaf" (J. I Ambrose Lloyd), trefn. R. G_ Williams^ Penyhontfawj- (gwel y "( Vrddor," Chwef i Goran Merehed, heb fod dan 20 o Gwobr. £1 10s, ac Electro-plated Jam Dish i'j- Anveinydd. 2. Datganu "Awn i Chwareu yn yt Eira" (Pedr Alaw), i Gorau Plant, dan 17 oed ac licb fod dan 2-J o rif. Gwobr^ ■CI 10s. ac ArweinfTon liii-(Id l'i- Ai-ivein. ydd. Atelir 10s u'r wobr os na bydd cys* tadleuaetb. 3.—Uurliyw Ddeuawd. Gwobr, 12s. 4. Liirhyw I nawd allan o Gyfanwaith Gwuhr, 15s a- Suite Bag hardd. 5.—Unawd, "Bedd Glyndwr" (W. 0. Jones). Gwobr, 10s 6c ü.-Adrodd. "Esgyniaù Elias i'r Nef" (Fben Fardd). Gwobr, 10s Cc. 7. Duchesse Set. Gwobr, 5s. 8_ Black Satin Panel for Fire Screen- Gwohr, ] Os 6c, i fod yn eiddo rhoddwr y %vobr. lthestr o'r Testynau, pris Ceiniog, i'w cael trwy v post.- JOHN W. HUGHES, Ttron Hyfryd, Ysgrifenuydd. AT GYMRY LERPWL A'R CYLCH. Dymunwn wneud yn hysbys y gellir cael y DINESYDD oddiwrth ein Dosbathwr yn Lerpwl yn "wholesale" neu "retail," ond ymofyn ag ef MR. THOMAS YULE, Stationer and Newsagent. STRAND ROAD POST OFFICE, 301, STANLEY ROAD, BOOTLE, LIVERPOOL. The DINESYDD CYMREIG may be obtained wholesale or retail from Qut Agent at the above add,reae