Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DURING JANUARY ONLY. I 10th YEAR OF BEATY BROS LTf), Remarkable and Important Offer. Suits to Measure, Excellent J Satisfaction Value. ?ZC?/C? Assured. Worth Double. Good-class Materials and Beautifully made. ) ONLY ADDRESSES- j, CHURCH STREET & LONDON ROAD, LIVERPOOL. J e.—Order Department closed on Wednesdays 1 o'clock. (Open Saturdays). A yw'ch I. Llygaid yn eich jblino? Yw pethau'n troi'n niwlog ac arielwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y Ilygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen eu gwaethygu wna'u hesgeuluso. GaUwn ni gyda'n hofler gwyddonol ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwch heddyw: ARCHER & SONS, Eyesight Specialists, v 73 LORD STREET, T I Sefvdlwvd 1848. LIVERPOOL* I 'Pbone-3925 Bank, W. Griffii & SOD, TAILORS, 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Real Welsh Homespuns for Golfing and Fishing, 'Phone—580 Bootle. Mr. H. W. MELY. DANNEDD GOSOD TynntVoh Dant, heb yr ias leia o boen efo ffordd Lloegr a'r Amerig. PRISlAU CYMEDROL Y oyngor a'r telerau yn rhad ac am ddim Foneddigesau I welni Tellr cludiad cwsmeriaid o'r wlad 13 Norton Street, Liverpool (oongl London Road). Oria.u,9 i 7. W 'Phone, 1436 Royal. i COOK & TOWNSHEND, are now shewing The Newest and Smartest Overcoatsf or Winter Wear. Warmth without Weight. PRICES 21/- 25/- 30/- and 35/- Byrom St. & Dole St., LIVERPOOL. I iSK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. BODA WATER. POTASH WATER. SBLTZBR WATER. LEMONADE B&T OINORR ALB. eta. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL LLYFRAU AIL LLAW. LlyfrGweddi y CathoJig, neu Ymarferion Bywyd Cristionogol yn ol athraw- iaethau gwir eglwys Iesu Grist, Argraffedig yn Lerpwl yn 1837, Yehydig gopiau, 1/6, cas lledr. Hugh Evans <S"Sons, 358 Stanley(Road,Liverpool. ROBERTS d EDWARDS ESTATE' AGENTS, 64 Kirlidale Rd., Liverpool Telephone: 2193 Royal.
ft LAN Y TIFWVS
ft LAN Y TIFWVS rGAN Y GWYUWRI Westminster, Not Fawrth, 6 i. 1914. Hysio'r Cwn! MEDDYUODD y Toriaid yn eu calonnau eu bod wedi cael hyd i asgwrn cynnen yn yr interview a gafodd rhyw newyddiadurwr a Changhellor y Trysorlys yng Nghricieth wythnos yn ol. Codi ei lef yn erbyn gwastraff ar armaments wnaeth y Canghellor. Yn eu malais, gwelodd ei gaseion, mewn peth syn- hwyrol felly, ymosodiad beiddgar ar Mr. Winston Churchill, ac y maent â'u holl egni yn hysio 'r ddau i ymladd. Ond mae'r Morning Post, er melyned yw, yn ddigon gwyn i weled na wnaiff y cwestiwn hwn mo'r tro i godi ffrae. Nid yw Canghellor y Trysorlys a Phrif Arglwydd y Morlys-y ddau yn gyd- swyddogion mewn Gweinyddiaeth Rydd- frydig, a'i bryd ar unioni llawer camwri,—yn mynd i ymrafaelio ar bwnc sy'n ymwneud mor agos a bywyd a diogelwch y ger cfi', er mwyn gwneud sport i gynrychiolwyr ToriaetiV anysbrydoledig yr ugeinfed ganrif. Mae Mr. Churchill, fel Mr. Lloyd George, yn argy- hoeddedig fod gwastraff anhygool ynglyn a chadw i fyny safonau awdurdcdau milwrol a llyngesol yn y wlad hon a gwledydd ereill ond y mae'r naill a'r llall yr un mor argy. V- hoeddedig nad yw'n bosibl i Brydain ar ei phen ei hun sjTthio yn ol yn ei pharatoadau i gadw heddwch a chymdogaeth dda. Oblegid hynny, ni gredwn nad oes un rhithyn o wir- ionedd yn yr ensyniad o anghydwelediad rhwng y ddau wladweinydd ag y mae cymaint o gyfrifoldeb yn gorwedd arnynt ynglyn a,'n diogelwch fel cenedl. Ar bigau'r drain. Y rheswm am yr holl drwst yn y gwersyll Toriaidd o berthynas i olygiadau aelodau unigol o'r Weinyddiaeth Ryddfrydig yw yr anghydwelediad pwysig sy'n dangos ei hun ymhlith yr Arweinwyr Toriaidd ar brif bynciau eu gwleidiadaeth. Ceisia'r Times ein dychryn trwy fygwth petliau ofnadwy yn Ulster, ond y mae'r drogan hwnnw yn prjrsur golli ei ofnadwyaeth. Ac fel y iiesct Dadgyay 11 tiad, fe gyll hwnnw hefyd ei ddych- rynfeydd, ac fe foddlona'r wlad i weled Ty'r Arglwyddi yn cael ei ail-wampio a'i wneud yn effeithiol i gychwyn gyrfa newydd fel Ty cynrychioliadol. Y mater sy'n blino'r gwer- syll Toriaidd fwyaf i gyd yw'r ymraniad yn eu rhengau tar egwyddor Tariff Reform. Llyncodd Mr. Austin Chamberlain gyfaddawd Edinburgh mewn rhyw fath ar ffyddlondeb i Mr. Bonar Law, ond mae'n "pwyso" yn drwm ar ei galon, ac nid yw'n debyg y boddlona'n hir ar gyfaddawd sy'n cau'r drws am amser maith ar y diwygiad yr aberth- odd ei dad ac yntau gymaint er ei fwyn. Bydd yn ddiddorol gwylied pa, mor bell y cerir y gwrthryfel sy'n bygwth Mr. Bonar Law a'r gwyr sy'n foddlon aberthu Tarriff Reform ar alloT Ulster. Fel rheol, mae'r blaid Geid- wadol yn fwy abl i setlo ei chwerylon mewnol' na'n plaid ni, ond mae'n anodd gweled sut y penderfynant y cweryl presennol heb wneud i'w harweinydd fwjrta'r cenin, neu beth bynnag yw'r oruchwyliaeth sydd ganddynt yn cyfateb i hynny. -9- -9- Yr Eples yn torri'r badell. Gwnes gyfeiriad ysgafn—rhy ysgafn, hw\T- ach-yr wythnos ddiweddaf, at helynt fawr Cynhadledd Kikuyu. Mae'r helynt yn dech- reu gwisgo gwedd ddifrifol, yn enwedig i Eglwyswyr, ac yn arbennig i Archesgob Caer- gaint. Dengys Syr F. Carruthers Gould benbleth yr Archesgob mewn modd taraw- iadol iawn yn un o'r darluniau diweddar yn y Westminster Gazette. Gwna ddefnydd o gan Edgar Allan Poe, a gesyd y Deryn Du i sefyll ar benddelw o Ganghellor y Trysorlys. Odditanynt, y mae Dr. Davidson a'i olygon ar y ddau, ac yn dywedyd wrtho ei hun I know that Cymric bust, but what art tliou, bird of dusky hue ? Quoth the raven, "Kikuyu." Wrth ysgwydd y Canghellor y mae memrwn Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys yng Nghym- ru, mewn rhol ddestlus, yn arwyddo ei gyf- lawniad. Ar y foment, o leiaf, y mae croch eri'r Dervn Du yn cael mwy o sylw'r Arch- esgob na chanlyniadau Dadsefydliad, a dyna, mae'n ymddangos, yw'r gwir yn gyffredinol ymhlith Eglwyswyr. Y mae Esgob Zanzibar ar ei ffordd adref i gyhuddo'i frodyr o heresi, a rhaid i Dr. Davidson, yn gynt neu yn hwyr—yn apelio am ychwaneg o amser i ystyried y peth y mae yn awr— gymeryd y mater i fyny, er mai nid efe, ond Pwyllgor Cyfreithiol y Cyfrin-Cyngor, fydd raid benderfynu pwnc heresi bugeiliaid Mombassa ac Uganda. Rhyfedd o beth os wedir cyfan y daw Dadgysylltiad nid o'r tu- allan i'r Eglwys, ond o'r tufewn iddi. Mae llawer yn gwybod fod yr eples yn gweithio ynddi ers amser, ond prin y tybiai neb y torrai'r badell o
Advertising
DRINK DWYRYD TEA. The Tea of Old Time flavour.
Advertising
USE KEENORA SELF-RAISING FL0U8 u u il The ideal Flour for every kind of fancy Bread and Pastry Scones, &c., &c.
Swllt i'r Cinema ond ^ v Ceiniog…
Swllt i'r Cinema ond v Ceiniog i'r Capel. MAET BRYTHON eisoes wedi cyhoeddi ad- roddiad y Pwyllgor o gyfraniadau'r enwadau a'r sectau Cymreig at Ysbytai Lerpwl am 1912-13, ynghyda'r apel ar gyfer y casgliad a wneir at yr unrhyw y Sul nesaf-yr lleg cyfisol. Ond diau gennym yr addefir fod y mater yn ddigon pwysig i alw sylw ato un- waith yn rhagor, ac i adseinio'r apel i ystyr- iaeth ein darllenwyr, ar fin y cyfle a gant i gymorth achos gwir deilwng. Mewn un frawddeg, yn adroddiad y pwyll- gor, fe ddywedir llawer am y budd a ga'r Cymry oddiwrth yr Ysbytai hyn,- Gwefir yn ol adroddiad y Parch. John Evans fod dros chwe chant o Gymry wedi derbyn ymgeledd meddygol a llaw-feddygol yn- ddynt y flwyddyn ddiweddaf. Nid ydym yn golygu mai cenedlgarwch ddylai fod unig gylch na chymhellydd ein haelioni yn y cyfeiriad hwn. Yr ydym yn byw yng nghanol poblogaeth gymysg iawn, yn cyn- nwys, yn eu tro, gynrychiolwyr o agos holl genhedloedd y byd ac fe ddylai dyngarwch beri inni deimlo ein rhwymedigaeth iddynt hwy i gyd. Mae dynion yn bur unedig yn eu hanghenioncyffredinol, ac yn enwedig mewn cystuddiau a mynych y gwelir cyd-ddioddef yn peri iddynt deimlo hynny, ac yn llawer mwy effeithiol nag mewn iechyd. Yr oedd y deg o wahangleifion yn frawdoliaeth bur unol pan o dan eu pla, ac wedi anghofio pob gwa- haniaeth rhwng cenedl a sect. Wedi eu hiachau y cofiasant y gwahaniaeth rhwng Samariad ac Iddew, ac yn enwedig pan ddaeth eu hachos i berthynas a'r offeiriad. Oeddynt un yn eu hafiechyd, un yn eu hiachad, ond yn [ torn i lyny ar bwynt sectyddlaetb. Y fath fin oedd ar y fwyall sectol fel yr holltodd y gymdeithas fechan o ddeg i naw ac un. Nid yw cuwch sectyddiaeth yn hacrach, na'i chlindarddach yn grasach, na phan yr ymhonno'i hawl yn ystefyll yr ysbytai. Naturiol i bob sect ac enwad ofalu'n neilltuol am eu haelodau eu hunain, ac mae'n ddyled- swydd arnynt i wneuthur hynny ond y mae o flaen ein meddwl yr ymdrech a wneir, gan rai gorselog dros eu sect hwy, i argraffu nod a hawl eu,sect ar obennydd y claf. Ambell gaplan, wrth ei swydd, sy fwyaf tueddol i hynny. Beiddiodd un o'r cyfryw droi at gyfaill inni, sy'n weinidog parchus yn Lerpwl ers llawer blwyddyn, gan ofyn, What right have you to be here ? Wrth lwc, gofyn- nodd y cwestiwn i un o'r rhai ablaf i'w ateb. Eithnad, yn ddiau,yw anfoesgarwch ar y math yma, ond mae'n resyn fod cysgod y fath ysfc^yd honiadol ac anfrawdol yn disgyn ar lawr ysbyty, ac yn murmur rhwng gwelyau dioddefwyr. Modd bynnag, da gennym weled fod yr holl enwadau a sectau Cymreig yn Lerpwl yn ymuno a'i gilydd mor bell ag i gyfrannu at y sefydliadau rhagorol hyn ac nid yw o ba grefydd, neu ddim crefydd, y bo claf yn gwneuthur dim gwahaniaeth i ymweliadau'r Parch. John Evans. Llawer gwaith y der- byniasom air oddiwrtho, pan y credai fod priodoldeb neilltuol mewn inni ymweld a brawd neu chwaer. Dengys ei ystadegau fod cyfartaledd pur deg o'r enwadau wedi derbyn budd y gwahanol ysbytai a dylai hynny beri undeb calonnog mewn cyfrannu at eu cynnal. Daw nifer lliosog i'r ysbytai hyn o Ogledd Cymru. Nid ydym yn honni ymweled a hwynt yn amlach na'r cyffredin o'n brodyr, nac mor fynych ag amryw ond gwelsom nifer go helaeth yn ystod y flwyddyn ddi- weddaf. Heblaw hynny, y dystiolaeth gyffredinol oedd, fod y driniaetha dderbynnir yn y sefydliadau, gan feddygon a gweinydd- ion, yn rhagorol. Gyda llaw, mae cyfartaledd pur dda o Gymry ymysg y meddygon a'r gweinyddesau sydd ynddynt. Mae gennym fel cenedl le i ymfalchio yn rhif a safle medd- ygon Cymreig Lerpwl. Ond nid ydym yn pwysleisio hyn yn anffafriol i feddygon yr ysbytai'n gyflredinol. Ceir ganddynt y driniaeth feddygol uchaf a dymunol inni, lawer tro, fu clywed cyfeillion claf yn canmol meddygon a gweinyddesau am eu cyd- ymdeimlad a'u mwynder. Cofus gennym, flynyddoedd yn ol, ymwld a geneth ieuanc, tua 14eg oed. Geneth fach nodedig o ddeall- us, ac, yn ol a glywsom, ar y blaen yn ei dosbarth yn yr Ysgol Sul a'i rhan yn y Gobeithiu. Bu raid torri ei choes ymaith. Canmolai dynarwch y meddyg a dorasai ei g a dorasai ei choes, ord ar adegau gweinyddid ami gan feddyg arall, yr hwn nad oedd mor dyner. Cofiwn yn glir, fel yr oedd y ferch fach dirion, welw ei gwedd erbyn hyn, a'i phen cystuddiol ar ei gobennydd, yn gwneud y sylw am y ddau, a'r dagrau'n treiglo tros ei grudd, Mae hwrnw'n ddyn cas 'Ro.?dd o'n bygwth rhoi'r glustog ar y 'ngheg i os gwaedd- wr i. Ond mae'r llall (y meddyg a'i triniodd gyntaf) yn ddyn fieind Mi fydd yn dda gin i weld i wyneb o'n dwad trwy'r drws." Da gennym gredu mai'r eithriad yw'r cas," ac mai'r rheol yw'r ffeind." Fel hyn caiff lliaws o'n cydwladwyr, o Lerpwl a Chymru, driniaeth feddygol yn y sefydliadau hyn na fuasai modd iddynt ei chael onibai amdanynt hwy, a'r cyfraniadau a wneir tuag atynt, o flwyddyn i flwyddyn. Gresyn fod casgliadau y flwyddyn ddi- weddaf wedi lleihau eu swm agos ymhob enghraifft. Mae'n wir, a gwir pur bwysig, fel y cydnebydd y Pwyllgor Cymreig, fod llawer o ofynnion ar yr eglwysi. Anodd i eglwysi gweiniaid gyfrannu at bob apjl a wneir atynt, ac mae'r apeliadau'n amlhau o hyd. Er hynny, mae'n rhaid i bawb ystyrgar gyd- nabod teilyngdod eithriadol yr achos hwn. Rhaid, hefyd, gydnabod ddarfod i fasnach a gwaith, yn gyffredinol, fod yn llwyddiannus iawn yn ystod 1913. Ac ni wiw ei gelu, chwaith, fod arian yn cael eu gwario'n fwy nag erioed ar foethau a phleserau. Agorir neuaddau newyddion i'r darluniau byw beunydd, a llenwir hwy ddwywaith a their- gwaith yr un dydd. Mae'r oes, ar hyn o bryd, yn orffwyllog ar bleser. Meddwir ar bleser mor wirioneddol ag ar wirodydd, a rhaid talu amdano'n hael. Ebai bancer mewn tref yng Nghymru, We get our silver from the cinemas, and our coppers from the churches." Mae'r pleser a geisir yn arwynebol, ac heb darddu o'r teimlad o ddyledswydd foesol. Sonnir llawer am frawdoliaeth dyn," ond anghofir y frawdoliaeth yn yr angen a'r trueni sydd ynddi, a'r aberth a ofynnir erddi. Nid yw'r pleser-geisiwr yn offrymu ei ebyrth ar yr allor iawn. Myn fyw i hunan-fwynhad, ac osgoi hunan-aberth. Mae ar filoedd eisieu symud canolbwnc eu bywyd o'u nerves i'w cydwybodau. Wedyn fe deimlir grym ap61 y casgliad at Ysbytai Lerpwl. o
[No title]
LLANARMON DYFFRYN CEIRIOG-Dydd Nadolig, cynhaliwyd gwyl leryddol a cherdd- orol yr ardal hon eleni eto, fel arfer. Daeth tyrfa fawr ynghyd. Cafwyd cystadlu o safon uchel iawn, teilwng o ardal enedigol Ceiriog anfarwol. Teimlem fod ei ysbryd fel pe'n cynnmair drwy'r lie, gan mor fyw ydoedd pawb a phopeth. Yr oedd y testynau yn lluosog, a'r cystadlu yn uwch eleni nag arfer, ac yr oedd hyn yn llawenydd i bawb. Arwein. iwyd yn ddeheuig iawn gan Mr. D. Williams, Llanrhaeadr, br^mhawTi a hwyr. Sir. R. G. Williams, Pen y bont fawr, oedd y beirniad cerdd' rol dyma'r tro cyntaf inni gael y fraini o'i groesawu,—cerddor ieuanc fydd yn brysur yn gwneud enw iddo'i hun, a gobeithiwn y 0\.0.\ Tyfle eto i'w groesawu gwnaeth ei wau-j-) i • .idlonOT-ydd cyffredin ol. Mae gair o ganmolia.eu". vil ddyledus i'r pwyllgor am dynnu allan res.i destynau mor briodol Rhwydd-hynt meddwn iit eto ibarhau.- GOHEBYDD.