Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

TEYRNGED Y DWYRAIN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TEYRNGED Y DWYRAIN i Faban Bethlehem. I SEF crynhodeb pregeth y Parch. D. Adams, B.A., yn Grove Street fore dydd Nadolig di- weddaf, seiliedig ar Matt. ii. 11 Heddyw y mae'r byd Cristionogol yn cyf- eirio'i olygon i Fethlehem. Yno cenfydd, a llygad ei ddychymyg, y baban Iesu ar liniau Mair ei fam. Ymuna a'r angylion i ganu Gogoniant yn y goruchaf i Dduw tang- nefedd ar y ddaear i ddynion ewyllys da." Syll mewn syndod addolgar gyda'r bugeiliaid a chydymdeimla a syndod mad yr anifeiliaid sydd yn methu deall ystyr yr helynt rhyfedd o'u cylch. Pan yn edrych yn ol, fel hyn, dros ysgwyddau'r oesau, teimla pob meddwl myfyrgar ac addolgar fod y digwyddiadau goffeir ynglyn a genedigaeth yr Iesu yn meddu ar ystyr ddyfnach nag a welir ar y wyneb. Arweinir y meddwl crediniol, yn ddiarwybod ymron, i gysylltu ystyr arwyddltmiol a phroffwydol a'r digwyddiadau. Gwel yn- ddynt, nid yn bennaf, gyflawniad o broffwyd- oliaethau'r gorffennol, ond hysbysiadau ar- wyddluniol (symbolic) o'r dyfodol. Ynddynt codir cwrr y lien gudd a'n rhwystra i ganfod y dyfodol a'r deyrnged gynhyddol roddir gan- ddo i'r lesu. 1 ni, fel Cristionogion, y mae r angylion erbyn hyn yn cynrychioli diddordeb y nefoedd a'i phreswylwyr yn ymddanghosiad Duw yn natur dyn ar ein daear. Mae'r bugeiliaid yn cynrychioli diddordeb y dos- barth gweithiol yn Iesu, cyfaill pennaf y tlawd a'r gorthrymedig. Mae'r preseb yn llety'r anifail yn awgrym y bardd o barthed i'r gwirionedd gwyddonol fod pob dyn, o ran ei gorff, yn cychwyn allan i'w fywyd rhes- ymol o lety'r anifail. Mae hanes yr Eglwys Gristionogol yn ein harwain yn naturiol i edrych ar Herod frenin fel cynrychiolydd y gallu gwladol, gelyn gwaethaf ein Ceidwad yn fynych, am ei fod yn ymrithio yn y ffurf o noddwr cyfeillgar. Credwn hefyd fod gwy- ddor Crefydd Gymharol yn ein galluogi i weled ystyr newydd a dyfnach yn ymweliad y Doethion o'r Dwyrain a'r Iesu, ad-g ei enedigaeth ym Methlehem. Mae eu han- rhegion iddo yn broffwydoliaeth sydd yn cael cyflawniad amlwg yn ein dyddiau ni, yng ngwaith y byd Dwyreiniol yn codi ei lef am Iesu ac yn lledu ei freichiau i'w groesawu. Cynrychiolai'r Doethion y pryd hwnnw yr ychydig etholedig awyddus am grefydd ragorach, ac arweiniwyd hwy gan ryw reddf ysbrydoledig, a than arweiniad goleuni seren nefol, i deithio tua gwlad "yr addewid am y Messia. ii. Y mae'r ffurf gymer hanes ymweliad y Doethion yn ddyledus i syniadau crefyddol y Persiaid. Canfyddir hyn yn amlwg yn y cyfeiriad £ < Canys gwelsom ei seren ef yn y Dwyrain, a daethom i'w addoli Ef." Dysgid yng nghrefydd Persia fod yna fath o eileb (counterpoint) ysbrydol yn y nef yn cyfateb i bob person dynol enid ar y ddaear. Mewn rhyw fodd cyfrin cysylltid y cyfryw ledrith ysbrydol a'r sêr wybrennol. Hawdd i'r Parseaid crefyddol, felly, ar ymddanghosiad Seren newydd ac arbennig, oedd tynnu'r casgliad fod hynpy'n sicrwydd am enedigaeth rhywun arbennig ar ein daear. Ychwaneger gwybodaeth y Persiaid, er dyddiau Cyrus, gwaredydd Israel o gaethiwed Babilon, am ddisgwyliad ffyddiog yr Iddewon am ym- ddanghosiad y Messia, yna ceir esboniad ar ffurf yr hanes am arweiniad y Doethion gan y Seren i Fethlehem. Credir yn lied gyffredinol mai crefydd Persia, sefydlwyd gan Zoroaster yn y 6ed ganrif cyn Crist, oedd y rhagoraf o'r holl grefyddau Dwyreiniol. Yr oedd ganddi syniad cywirach am Dduw na'r un o honynt, a hyn yw maen prawf gwerth arhosol pob crefydd. Y mae yna hen draddodiad, meddir, fod dirprwyaeth o ganlynwyr Gautama, y Buddha mawr, goleuni y Dwyrain, o India, ac o ddisgyblion Confucius o China, wedi cael eu hanfon i Persia i ymholi ynghylch eu crefydd hwy. Yr oedd rhai o ddoethion pennaf India a China yn dechreu blino ar Bucldhiaeth a Chonfuciaeth, ac yn awyddus am well cref- ydd. Os digwyddodd hyn tua'r adeg yr ymddanghosodd Seren newydd yn yr wybren, nid oedd dim yn fwy naturiol nag i'r Doethion hyn ymuno i fynd ar hynt ymchwiliadol i gael gafael ar y proffwyd Iddewig oedd, yn ol traddodiad y genedl honno, i fod yn oleuni i oleuo'r cenehedloedd," yn ogystal a bod yn ogoniant i Israel. Fodd bynnag, y maent yn cael eu hunain o'r diwedd ym Methlehem. Gwelant Mair a'r mab bychan, yn yr Hwn y gall y cenhedloedd hwythau obeithio am ddatguddiad newydd am Dduw fydd yn sail crefydd ragorach na'r un grefydd arall mewn bod. Cyflwynasant eu hunain i Mair a Joseph, gan hysbysu iddynt amcan eu hymweliad. Nsaodd dis- gybl Confucius yn foesgar at Mair, a chan agor ei drysorgist, cyfarchodd hi: Dysgir ni i fawrygu rhieni ond y mae arnom ei'sieu mwy na hyn. Nid oes yn ein crefydd ni ddim ond parch addoliadol i rieni a hynafiaid; y can- lyniad yw fod y gorffennol yn gormesu'n or- modol arnom. Nid oes yn nysgeidiaeth Confucius le i gynnydd mewn Gwareiddiad na Chrefydd. Yn wir, nid oes i ni Dduw y can- iateir i werin ein gwlad nesau ato o gwbl, ond ym mherson yr ymherawdwr Oblegid hyn mae ein moes yn isel a'n harferion yn halog. Duw sanctaidd yw Duw yr Iddewon. A dyma'r Duw hwnnw yn ymddangos ar y ddaear yn natur dyn, yn ei Sanct Fab.l Iesu, meddir, yw ei enw-" Efe a wared ei bob oddiwrth eu pechodau. Iesu yw angen mawr China. Cyflwynaf iddo anrheg.- Myrr persawrus yw, yn arwyddlun o ddylan- wad ei fywyd a'i wersi i berarogli awyr moes a chrefydd ymhob gwlad. Yna nesaodd disgybl Gautama, ac eb efe Anwylir Gautama, y Buddha mawr," gan lu I mawr yn India a China. Gadawodd ef ei balas brenhinol, ac aeth allan yn brudd at ddynion i geisio ymlid ymaith boen a gofid. Amcan canmoiadwy ond nid yw wedi llwyddo. Ni chydnebydd mai pechod yw achosydd rhan fawr o boen y byd, ac ni wel mai disgyblaetk yw y rhan arall o hono. Am fod bywyd mor boenus, dywed wrthym mai'r fendith fwyaf fydd ymwrthod ag ef, ac ymgolli yn Nirvana, heb ymwybyddiaeth bersonol mwyach yn eiddo i ni. Ond O nis gall ein natur ymfoddloni i wneud hyn. Mae angen am anfarwoldab personol arrom. Dioddef- ydd mawr yw Duw proffwydi Israel Yn ei holl gystudd hwynt, efe a gystuddiwyd Gwr gofidus a chynefin âdolur" yw'r Messia i fod. Mae dioddef yn ddwyfol. Angen India yw crefydd ac allor ganddi ar yr hon y rhydd yr addolwyr eu hunain yn ebyrth byw. Drwy hyn, cyfranogion o fywyd Duw. Bydd hynny'n sicrwydd i ni am anfarwoldeb personol. Drwy boenau Aberth y cymhwysir Iesu'n' Waredwr. Ond ym mwg ei aberth esgynna'i ysbryd ef yn arogldarth peraidd i ffroenau Duw. Derbynied y thus yma'n anrheg, fel arwyddlun o ddylanwad ei fywyd a'i aberth poenus. Yn olaf, nesaodd y Parsee defosiynol at Mair, ac ebe yntau wrthi: Disgybl Zoroaster, sylfaenydd crefydd Persia, wyf fi. Yn ein crefydd ni, yr haul a'i oleuni yw cynrychiolydd Ormuzd, yr arglwydd doeth a da. Yn rhyfela yn ei erbyn yn ddibaid iawn ceir ei elyn dialgar Ahriman, y tywyllwch. Y mae daioni a drygioni yn bod erioed, meddir wrthym, ac i barhau yr elynion i'w gilydd am byth Ond os cywir can yr angylion, mae Iesu, goleuni y byd, i ddwyn tangnefedd ar y ddaear." Mae'r tywyllwch i gael ei orchfygu gan Oleuni Haul y cyfiawnder. Bendith arno am hyn Ein diffyg ffydd ni yn nerth gorchfygol Duw a daioni yw'r sorod sydd yn pylu disgleirdeb ein crefydd ni. Dyma anrheg i'r Iesu, y goleuni sydd i Iwyr ymlid y tywyllwch aur dilyn disorod yw, yn arwyddlun o werth uchraddol Sylfaenydd crefydd newydd, a gwell nag eiddo Zoroaster, er cystal yw honno. iii. Dyma ni wedi manylu ar ymweliad y Doethion o'r Dwyrain a'r Iesu. Cyfeiriwyd gennym at eu hanrhegion, o aur, thus, a myrr, yn arwyddluniau o'u dyheadau crefyddol eu hunain, ac o'u dymuniadau da i'r Iesu. O'r Dwyrain i gyfeiriad y Gorllewin, fel yr haul naturiol, y teithia gwareiddiad a chref- ydd, gan wasgar goleuni datguddiad cyn- hyddol. Cychwyn o'r Dwyrain wnaeth Cristionogaeth hefyd ond croesodd dros- odd i Ewrob yn fuan. Cafodd hadau ei gwir- ioneddau ddaear mwy cydnaws yno i dyfu ac addfedu. Mae rheswm da am hyn. Pen- defigion oedd llywodraethwyr y Dwyrain, yn wladol a chrefyddol. Sylfaen gwareiddiad yr hen fyd Dwyreiniol oedd llafur caethweision, mewn hinsawdd gynnes, a lle'r oedd Natur yn hael ei hysbryd. Mae gwareiddiad y byd gorllewinol yn Ewrob ac America yn awr yn sylfaenedig ar lafur rhydd, mewn hinsawdd oerach, a Natur yn fwy crintach. Melltith fawr y Dwyrain yw caste—y gyfun- drefn fyn ysgar dosbarthiadau oddiwrth ei gilydd, a chadw'r werin yn gaeth. Angen y Dwyrain yw y grefydd Gristionogol sydd yn urddasoli dyn, ac yn ei wneud yn gyd- weithiwr a Duw yn nhiriogaeth gwareiddiad a chrefydd crefydd werinol yw Cristionog- aeth. Mae athrawiaeth yr Ymgnawdoliad yn urddasoli natur dyn yn ogystal a datguddio Natur Duw. Anfantais i wareiddiad a meithriniad cymeriad moesol cryf yw fod Natur mor hael nes gwneud llafur i lawer bron yn ddiangenrhaid. Anfantais hefyd i grefydd a moes yw'r gred mai Duw sydd i wneud y cyfan ynglyn ag iachawdwriaeth yr enaid. Mae arwyddion yn ein dyddiau ni fod y Dwyrain yn fwy awyddus nag erioed i groesawu'r Iesu fel gwaredwr unigolion a theyrnasoedd. Try oddiwrth Confucius, Zoroaster, a Gautama, goleuni'r Dwyrain," at Iesu, Haul y Cyfiawnder a Goleuni'r byd. A wna Cristionogaeth y byd Gorllewinol gyf- lwyno'r hanes am Iesu yn anrheg i'r Dwyrain, yn fath o ad-daliad am anrhegion y Dwyrain i'r Iesu adeg ei eni ym Methlehem ? G awn ni ddyfod yn nes adref, at ddisgyblion proffesedig yr Iesu, at bersonau a chenhedloedd sydd yn cydnabod eu dyled iddo ? Pa anrhegion roddwn iddo ? A wna'r'byd Cristionogol foddloni cyflwyno ei gyfoeth i hyrwyddo amcanion ymgnawdoliad Duw yn Iesu- Tywysog Tangnefedd ? Pa ateb a roddir i'r gofyniad gan y symiau enfawr a dreulir ar fyddinoedd a llongau rhyfel gan wledydd Cristionogol Ewrob ? Ai boddhaol i'r Iesu yw'r ateb a roddir gan gyllid tafarndai, chwareudai, picturedromes ar un llaw; a chyllid cymdeithasau dyngar a chrefyddol ar y Haw arall ? A foddlona Gioyddoniacth cenhedloedd Ewrob i'w hymchwiliadau a'i dyfeisiadau gael eu bedyddio i wasanaeth yr Iesu-ffynhonnell pob gwirionedd ? Diolch y gallwn ateb, Gwna, i raddau helaethach nag erioed. A wna Moes y byd diweddar gydnabod Iesu fel ei brif'ysbrydolydd ? Atebwn, Gwna, yn fwy cyffredinol o lawer yn awr na chynt. Trodd y doethion yn ol i'w gwlad ei hun yn 11awen. Try pob un ohonom ninnau'n ol i'n cartrefi ac at ein gorchwylion yn fwy llawen os ydym wedi rhoddi ein hunain yn anrheg i'r Iesu, i'n defnyddio ganddo ao i fod yn eiddo iddo. Diolchwn i Dduw am anrhegu'r ddyn- oliaeth, oedd yn foesol dlawd, a'r Iesu, a'r cyfiawnder o ras sydd ynddo i'n eyfoethogi. Mae haeloni grasol calon Duw' yn parhau i gynhyrchu haelioni caredig yng nghalonnau dynion. Rhed ffrydlifo elusengarwch tos- turiol o galonnau disgyblion yr Iesu i gyfarfod ag angen tlodion a chleifion. Diloch i ysbryd yr Iesu am hyn. Ond y mae'n disgwyl mwy gan bob un ohonom. Fy mab, moes i mi dy galon." Dyma'r anrheg a werthfawrogir yn bennaf ganddo. Nid yr hyn sydd gennym, ond ein hunain. Gawn ni roddi i'r Iesu fore Nadolig, 1913, nid aur, a thus, a myrr ein golud yn unig, ond ein hunain yn llwyrach i'w wasanaeth ? Yna Uonnid angylion y nef, gorfoleddai'r saint yno, a llawenychai calon yr Iesu ei Hun. Rhoddai hyn "Nadolig Llawen i'n Gwaredwr bendigedig.

Advertising

iin Cqnedl ym Manceinion.