Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
MnmflT>su Agis GOODS A jj? j? j You Can SAVE 5/- :n the & '<'8- "IF YOU ?W tUU FURNISH ?? CASH, A Visit to our Showrooms, or, if this Is impossible, a psrusal of our 'l!? ?! !t!t t [LARGE ILLUSTRAT£D CATALOGUE fl will convince you of this fact. J ■ I" t -FIFTY YEARS REPUTATION FOR VALUNi if J IRYILES, 0M W 34>?d<38'40«a2>44<46'48' LONDOfl RP, I [■ f LI VEltftAfll' t
Y BEIRNIAD
Y BEIRNIAD Dan olygiaeth yr Athro J. Morris Jones, Lerpwl: Hugh Evans a'i Feibion. Pris Swllt, DYMA rifyn y Gaeaf wedi dilyn un yr Hydref j n bur fuan. Ac mae hwn eto yn gyfoethog o ysgrifau coeth ac aeddfed, ac ar destynau l-wysig. Cyfeiriasom y tro o'r blaen, yn lied helaeth, at ysgrif gyntaf yr Athro Miall Edwards ar Athroniaeth Bergson ac yn y rhifyn hwn ceir yr ail ysgrif, a'r olaf, ond odid, ar hyn o bryd. Cyfleu prif bwyntiau'r ddysgeidiaeth honno a wnai yn yr erthygl gyntaf ac yn yr ail y mae yn profi Bergson wrth safonau moeseg a diwinyddiaeth. Fel y crybwyllwyd o'r blaen, mae'r Athro Miall Edwards yn ysgrifennydd nodedig o glir. Y gwyn gyffredinol yn erbyn yr hwn a feirniedir ganddo yw ei fod yn anodd i'w ddeall. Beiddiwn ddywedyd fod y ddwy ysgrif alluog hyn yn ffrwyth meddwl treidd- lym a chlir, wedi gwneuthur y pwyntiau ar- bennig yn eglur,ac at hynny wedi dangos i b'le y cyfeiria dysgeidiaeth yr athronydd enwog Bergson, gyda golwg ar yr hyn sydd foesol a ehrefyddol. Mae yma allu beirniadol o radd uchel, a lienor hyfedr yn ei waith. Nid yw'n derbyn athroniaeth Bergson ar rai pwyntiau pwysig iawn, ond yn ei ganmol am yr yebryd- i aeth sydd oddiwrtho i feddylgarwch. Bydd dyfynnu ei frawddeg olaf yn awgrym o'i safle "Ond yn ddibetrus, yn yr ymchwil am y gwir, nid oes athronydd all roi inni fwy o "ysbrydiaeth na Bergson, ond inni ochel rhag i'w hudoliaeth a'i wreiddioldeb blethu cadwynau amdanom, a'n gwneu- thur yn gaethion i'w athrylith swynol." Gwelir oddiwrth ysgrif Mr. Ifor Williams mor hyfedr mewn llen-ladrad oedd rhai o'r hen feirdd. Ceir yma ymdriniaeth alluog, yn eyferbynu a chymharu gweithiau Dafydd ab Gwilym ag eiddo ereill-yn enwedig Rhys Goch ap Rhiccert. Profir y lladradau yn eglur ddigon, Y GymfCieg a Chenedlaetholdebry w testyn ysgrif ragorol Mr. H. Parry Jones, Casnewydd. Da gennym weled beirniad yn ddigon teg a mawrfrydig i ganiatau fod rhywbeth Cymreig heblaw ei hiaith yn perthyn i'n cenedl. Wrth gwrs, dyry le pwysig i iaith, fel y rhaid rhoi yr un pryd, diolchwn iddo am godi i sylw agwedd ar y Cymro nad yw bob amser yn cael ei chydnabod. Egyr faes i feddylgarwch buddiol, ac ond ei ystyried, efallai y daw llawer un i addef y gall mai nid Die Sion Dafydd yw pob un sydd wedi colli ei iaith. Yn dilyn ysgrif oleu a theg y Parch. Tecwyn Evans, mewn rhifyn blaenorol, ar Enwadaeth, eeir ysgrif gyffelyb, ar yr un testyn, gan y Parch. John Williams, Brynsiencyn. Ceir yma arwydd o'r pwyll, a'r cyfartalrwydd priodol rhwng gwahanol bethau, sydd mor nodweddiadol o'r awdur. Ceir ganddo'r frawddeg hon :— Peth arall sydd yn hollol glir inni yw, na ddaeth yr amser eto i ddodi enwadau crefyddol Cymru yn y crochan toddi." A yw crochan toddi yn welliant ar tawdd- lestr ? Gan y cyfeirir at bwnc y drafodaeth mewn lie arall, gadawn ef yma ar hyn o bryd. Ysgrifenna'r Parch Tegla Davies ar Gref- yddwyr Ieuainc y Dydd. Dyma'i bwyntiau,— Ysbryd yr Oes, Cyfleusterau'r Oes, a Delfrydau'r Oes. Ysgrif feddylgar, dalentog, a newydd. Byddai'n werth i holl ieuenctyd Cymru ddarllen ac ystyried y genadwri sydd gan Tegla iddyrt. Yn bendifaddau, dyma ysgrif arall ar grefydd." Trafod Pynciau Crefyddol yw ei thestyn, a chan Mr. D. J. Jones, Caergrawnt, y mae hi. Hoffwn ei hysbryd, yn gystal ag yr edmygwn ei gallu. Dengys yr awdur ei fod yn gyfarwydd a syniadau diwinyddol a chrefyddol yr oes, a chyda hynny ei fod yn eu meddwl o ddifrif, yn cyfrif ymchwil am y gwir yn deilwng o ddyn, a'i gael yn dal am y draul o'i geisio. Dadleua yn erbyn ysbryd ymladd rhwng dynion a'i gilydd mewn trafod- aethau ar bynciau'r Ffydd. Try ei ysgrif o gwmpas yr ymwybyddiaeth grefyddol. Ysgrif led faith, ond rhagorol ei ffurf a'i chynnwys. Tlws, newydd, a thyner iawn yw Galargan am yr Arglwyddes Rhys, gan Gwili. Mae Nodiadau'r Golygydd, fel arfer, yn wir ddiddorol a goleu- Welsh, Cymaint, a Parch, yw ei eiriau y tro hwn. Yn ein nodiadau ar Feirniad Hydref, galwasom sylw at y ffaith mai Mr." oedd o flaen enw'r Parchedig Volander Jones, yn y group darluniau. Dywed y Gol. yn awr iddo dybio mai blaenor parchus yng nghapel Pentre Ty Gwyn oedd Volander." Syr 'does mo'r fath greadur a blaenor mewn capel Annibynnol yng N ghymru-diaconiaid sydd yno Da gen- nym inni alw sylw at y gwall cyntaf, er mwyn eyfle i oleuo'r Gol. ar y mater pwysig hwn hefyd. Na, ni feddwn ddychymyg digon cryf i dybio fod unrhyw fwriad gan y Gol. i fychanu Volander, mwy nag i ysbeilio capel Pentref Ty Gwyn o'r ddiaconiaeth ond, yn wir, rhaid iddo droi mwy o'i sylw at y "sét fawr," a'i neilltuolion fmewn gwahanol enwadau. Wel, ceir yma, f 31 arfer, amryw Adolyg- iadau ar lyfrau. Adolygir dau waith gwa- hanol ar yr Epistol at yr Hebreaid-y naill gan y Prifathro Rees, Bangor, a'r Hall gan y Parch. O. L. Roberts, Liverpool. Adolygir dau lyfr ar Enwogion Mon (1860-1912),-y naill gan y parch. R. Hughes, y Valley a'r Hall gan R. M6n Williams. Diwedda trydedd gyfrol y Beirniad yn gyfoethog o gynnwys ac o addewidion. --0-
I Ffetan y Gol.I
I Ffetan y Gol. Cofted pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- GAU A NYTHU'R GWIR. Haeriad yr Heretic. I At Olygydd Y, BRYTiErox. SYR,—Mae yr hyn a gynhygir gan Cadvan Rhys er mwyn plymio dyfnder du ei wybod- aeth ef am ladradau Williams Pant y celyn, ac am ymddygiadau pwyllgor llyfr hymnau y Methodistiaid, ynglyn ag emyn lolo Mor- gannwg, yn fy marn i yn hollol anymarferol. Pwy ai byth i'r drafferth a'r draul o enwi, a chynnull chwech o reithwyr cymwys (i gyfarfod ei chwech ef), i'r amcan o geisio profi ai gwir ai anwir yw haeriadau noethion y gybolfa ryfedd a gyhoeddwyd yn Daniel 1 Evelyn ? Er mor chwerthinllyd o ynfyd fuasai y peth, diau y buasai'r helynt yn fantais fawr i awdur a chyhoeddwr y novel wrth-Gristionogo hon. Beth sydd yn rhwystro iddo ddyfynnu pump neu chwe dwsin o enghreifftiau o'r lladradau, a'u cyhoeddi bob yn ychydig trwy gyfrwng ryw newyddiadur, neu gyfnodolyn, fel y gallo'r wlad weled ei ddarganfyddiadau rhyfeddol, a thalu iddo yr anrhydedd dyladwy amdanynt ? Cofied Cadvan Rhys mai efe yw'r cyhuddwr yn yr achos hwn, a bod profi ei gyhuddiadau yn gorffwys arno.—Yr eiddoch yn gywir, W\ GWRTHEYRN. I Dim bvd newydd. At Olygydd Y BRYTHON. ANNWYL SYR.—Bedair blynedd a deugain yn ol-yn 1870—ac un mlynedd ar bymtheg ar hugain cyn i'r Parch. T. Charles Williams anfon yr erthygl i'r Llusern y cyfeiria ati yn y BRYTHoN-ymddangosodd erthyglau gwerth- fawr yn y Traethodydd ar Emynyddiaeth," a dywed yr awdur-Morris Davies-wrth gyf- eirio at rai o emynau Williams Mae yn hysbys i ddarllenwyr fod y prif feddyliau yn yr emyn (Rhif 340, 341, a 342 -un emyn yn dair rhan ) wedi eu cymeryd "o Young's Night Thoughts: Night the Fourth." Ymhlith lluaws o enghreifftiau yn dilyn, ceir y cwbl a nodir gan y Parch. T. Charles Will- iams. Mor wir, onitê, eiriau y Pregethwr, A oes dim y gellir dywedyd am dano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd ? Efe a fu eisoes yn yr hen amser o'n blaen ni. Nid oes goffa am y pethau gynt, ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw." Dywed awdur yr erthygl y cyfeiriwn ati:—> "Yr ydym yn cyfarfod a rhai cyfieithiadau ac efelychiadau ymhlith Hymnau Williams y mae hynny yn cael ei gydnabod weithiau, ond nid ymhob amgylchiad. Gwneid felly yn fwy manwl yn hen argraffiadau yr awdur, ond esgeuluswyd rhai o'r nodiadau hynny yn yr argraffiadau diweddar. Nid yw'r eyf- ieithiadau yn lluosog, ac y maent yn digwydd yn ei lyfrau cyntaf, yr Aleluia a'r Mor 0 Wydr, pan oedd yr awdur, mae yn debyg, yn darllen llawer ar brydyddiaeth Seisnig, er mwyn ym- gydnabyddu a gwaith y prydyddion a'r emynwyr goreu yn yr iaith honno, ac wrth hynny ei fod yn cael ei dueddu i gyfieithu neu aralleirio ambell adran neu emyn a fyddai yn cael cryn argraff ar ei feddwl. Os bydd emyn yn dda a blasus, nid yw o ddim gwahaniaeth ei bod yn gyfieithiad neu efelychiad o iaith arall. Os llwyddodd y cyfieithydd i dros- glwvddo 'r svniadau vn vsbrvd, svmledd, ystwythder, a phrydferthwch y gwreiddiol, fel ag i wneud emyn Cymraeg da, teilynga ei waith gymeradwyaeth ac os ystyriwn an- awsterau anocheladwy cyfieithiad, rhaid addef ddarfod iddo gyflawni gorchest ganmol- adwy. Na thybied neb chwaith fod Williams na Wesley yn euog o len-ladrad ac yn ddi- ffygiol mewn gwreiddioldeb, oblegid, ar yr un sail, gellid dwyn yr un cyhuddiad yn erbyn Milton, Pope, ac ereill o'r prydyddion goreu a mwyaf cymeradwy. Mae cyfansoddiadau cysefin y naill a'r llall yn ddigon helaeth a lliosog i ddangos eu bod yn alluog i ehedeg yn uchel, ac i ymddyrchafu yn uwch fyth, yng ngrym eu hathrylith gynhwynol eu hunain, fel ag i'w rhyddhau oddiwrth bob cyhuddiad ar y fath, beth bynnag allai fod eu diffygion ar ystyriaethau ereill."—Yr eiddoch yn gywir, JOHN HUGHES. Croxteth Grove, Lerpwl. I Benthyciadau'n Per Ganiedydd. I At Olygydd Y BRYTHON. I ANNWYL SYR,—Darllenais lythyr y Parch. T. Charles Williams dan y pen Dyled y Beirdd i'w gilydd yn Y BRYTHON am ddo e- gyda boddhad, a brysiaf innau i anfon gair ar yr un mater. Mae blynyddoedd erbyn hyn er pan ddanghosodd y Parch. D. Jones, Disgwylfa (Caernarfon yn awr) i mi ddau emyn o waith G. Herbert (1593-1632), ac yr oedd ef a minnau yn argyhoeddedig fod Williams wedi eu gweled cyn cyfansoddi un neu ddau o'i emynau ar ddioddefiadau Crist. Yn Herbert's Poems, ceir emyn ar The Agony," ac fel hyn y derllyn yr ail a'r trydydd,— Who would know Sin, let him repair Unto Mount Olivet there shall he see A Man so wrung with pains,that all His hair, His skin, His garments bloody be. Sin is that press and vice, which forceth pain To hunt his cruel food through ev'ry vein. Mae emyn 207 (743) yn Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd a'r llythyren W. wrtho, ac fel hyn y rhed yr ail a'r trydydd pennill, Dringaf fyny i'r Olewydd I gael gweled maint fy mai Nid oes arall is yr wybren Fan i'w weled fel y mae Annwyl f'enaid Yno'n chwysu dafnau gwaed. Gwel'd yr Hwn fu'n prynnu'm pardwn, PrynnU pardwn maith y byd, Gweld Ei wallt, a gweld Ei wisgoedd, Gweld Ei ruddiau'n waed i gyd Fe, fy mhechod, Yrrodd allan ddwyfol waed. Trachefn, dyma'r trydydd pennill gan G. Herbert Who knows not Love, let him essay And taste that juice which, on the Cross, a pike Did set again abroach then let him say If ever he did taste the like. Love is that liquor, sweet, and most divine. Which my God feels as blood, but I as wine. Ac meddai Williams :— Profed hwnnw nad yw'n medru Caru Prynwr mawr y byd, Beth o'r dwr a'r gwaed a lifodd Gyda'r bicell fawr ei hyd Hwn sy'n magu Fflamau o gariad heb ddim trai. Gwelir mai cyfansoddi penhillion gwreiddiol yn Gymraeg ddarfu Williams o syniadau y daeth o hyd iddynt mewn awdur Saesneg, ac fe ddaethant yn ei law gelfydd ef yn fwy ystwyth a chanadwy, ac yn sicr mae gan ddyn hawl ar y peth y darfu iddo ei wella wrth ei fenthyca. Fe ddywedir mai y bobl fwyaf gwreiddiol yw y rhai mwyaf dibynnol ar ereill, ac ymddengys nad yw Peraidd Gan- iedydd Cymru yn eithriad i'r rheol.—Yr eiddoch yn gywir, J. HENRY WILLIAMS. Tabernacl, Porthmadog. I Cydgyfarfyddiad Mpddytiau M worton. I At Olygydd Y BRYTHON. ANNWYL SYR,—Darllenais lythyr y Parch. T. C. Williams, fel y darllennaf bopeth arall o'i eiddo, gyda diddordeb mawr. Ond buas- wn yn hoffi, fel ereill ar fy math, gael ych- waneg o oleuni ar y pwnc. A ydyw'r ffaith fod yr emynau ddyry Mr. Williams yn ei lythyr yn brawf sicr i Williams Pantycelyn gopio Edward Young ? Onis gallai'r un meddyliau fod yn wreiddiol i'r naill fel y llall ? Nid wyf yn meddwl y gellir profi diffyg gwreiddioldeb dyn drwy ddangos fod rhywun arall wedi traethu'r un meddyliau o'i flaen. Peth cyffredin ym myd darganfyddiad ydyw'r ffaith i ddyn gael gafael ar syniad am ryw fath ar beiriant, dyweder, ac wrth geisio patent i'r cyfryw, iddo gael deall fod rhywun wedi ei ragflaenu. Adnabuwyd pylor yn China ymhell iawn cyn y gwnaethpwyd yn Ewrop ond mae pob lie i gredu fod darganfyddiad pylor yr un mor wreiddiol yn y Gorllewin ag oedd yn y Dwyrain pell. Ers rhyw drigain mlynedd yn ol, yr oedd dau ysgolor, Adams yng Nghaergrawnt, a Leverrier ym Mharis, yn ymchwilio'n seryddol yn hollol annibynnol ac ar wahan i'w gilydd. Sylwyd fod yna anghysondeb yn symudiad Uranus, ac nad oedd y planedau gwybyddus yn ddigon o esboniad ar yr anghysondeb yma. Tybed a oedd planed arall yn bod oedd eto heb ei darganfod os felly, pa le'r oedd ? Dyna'r broblem y ceisiai Adams a Leverrier ei phen- derfynu. Yr oedd y ddau yn hollol annibynnol ar ei gilydd yn eu hymchwil, a'r canlyniad fu fod y ddau yma, drwy nifer o gyfrifiadau dyrys, wedi darganfod y blaned Neptune yr un adeg. Yr oedd y darganfyddiad yn wreiddiol i'r naill fel y llall. Hysbys eto yw'r ffaith i Syr Alfred Russel Wallace, pan yn dilyn ymchwiliadau gwy- ddonol yn y Malay Archipelago, ddarganfod deddf sy'n hysbys iawn heddyw. Un diwr- nod, tra'n troi a throsi ar ei orweddfan, ar- weiniodd ei fyfyrdodau ef i weled mai'r egwyddor esboniai ddatblygiad oedd the survival of the fittest." Ysgrifennodd ei ddar- ganfyddiad ar unwaith, ac anfonodd i Loegr at Charles Darwin, heb wybod o gwbl fod y gwr mawr hwnnw drachefn wedi dod i'r un casgliad, ac ar fin cyhoeddi ffrwyth ei sylw- adaeth mewn llyfr a greodd gynnwrf mawr y pryd hwnnw. Er i'r darganfyddiad yma eto gael ei wneud yr un adeg, gan ddau yn anni- bynnol ar ei gilydd, yr oedd mor wreiddiol i'r naill fel y llall, ac y mae'r byd yn ddyledus i'r ddau fel ei gilydd. Yn awr, onis gallai'r un peth ddigwydd yn hanes Williams, iddo gael gafael ar wirionedd crefyddol tebyg i eiddo Young ? Peth arall y mynnwn gael barn Mr. Will- iams arno ydyw hyn A chaniatau fod Pant y celyn wedi gwisgo yn ei iaith ei hun er budd y Cymry syniadau a gawsai mewn awduron ereill," a ydyw hynny yn difwyno'r mymryn lleiaf ar athrylith ein Peraidd Ganiedydd ? Ystyriwn Shakespeare eddyf pawb wreidd- ioldeb hwn, eto gymaint yw dyled Shakes- peare i'r gorffennol Yr oedd y bardd hwn yn benthyca o lawer cyfeiriad. Cymerodd ei gymeriadau a'i plots o amryw fannau. Bu'n darllen Plutarch a Holinshed yn ddiameu. Ac eto, er iddo fenthyca cymaint, a dyledu ei hun mor fawr i'r gorffennol, eto, efe yn ol un awdur Seisnig, yw the greatest creative genius of our race." Y.bardd ei hun oedd yn newydd. Gafaolodd mewn adnoddau o'r gorffennol, bwriodd hwy i fewn i ffwrnes ei farddoniaeth ac yn awr, mae ei waith o'n blaen, wedi ei buro megis trwy dan, wedi ei newid yn hollol. Shakespeare ydyw yn awr, ac nid neb arall. Wrth fenthyca, nid dis- tryvrio yr oedd, ond cyflawni. Onis gellir dweyd yn gyffelyb parthed y Cymro o Bant y celyn ? Deallaf oddiwrth lythyr Mr. Williams nad ydyw'n beio Pant y celyn. Ac fe garwn i weled ysgrif o waith y gwr parchedig yn amddiffyn ein Peraidd Ganiedydd yn erbyn rhyw ddynionach gant ysglyfaeth drwy am- canu distrywio popeth Cymraeg y Cymro. Byddai ysgrif o waith un o'i safle a'i allu ef yn foddion effeithiol i ddistewi'r beirn- iaid gor-feirniadlyd yma.—Yr eiddoch, Brynsiencyn. D. C. HERB ERT. Penliniwn. At Olygydd Y BRYTHON. ANNWYL SYR.—Gohebiaeth ddiddorol yvt r un a gawn yn eich colofnau ar gyd-ddarllen yr Ysgrythyr Lan yn yr oedfa gyhoeddus. Y mae'n amlwg fod rhyw ymdeimlad amgael mwy o ran yng ngwasanaeth y cysegr wedi meddiannu llawer o'r aelodau mwyaf ystyriol. Ac i'n barn ni, byddai newid i'r cyfeiriad yma yn Ricr o fod er lies, trwy fagu mwy o ysbryd addoli a defosiwn yn y gynulleidfa. Meddyl- ier am yr olygfa a geir mewn llawer capel nifer mawr yn dod i fewn yn ddifeddwl hollol, i bob golwg, gan rygou a thrystio a'u traed, ac wdl cyrraedd y set yn edrych yn wamal amgylch ogylch ar wisg hon ac pr ddillad y llall a thra y bydd y gweinidog yn darllen cyfran o Air Duw, pesychant yn uchel, megis pe allan ar yr heol. Ac wedi i'r gweinidog ddywedyd "Gweddiwn," ychydig welir yn myned ar eu gliniau, pob un bron ar ei eis- tedd, neu a'i ben ar ochr ei sbt ereill yn gwenu ac yn edrych o ddeutu rhai a ddarllenant gylchgronau yn llochwraidd, a rhai megis yn cysgu ac ar ddiwedd yr oedfa, gwelir nifer am y cyntaf yn gwneud at y drws, eu hetiau ar eu pennau ymron cyn y gadawant y seddau. Credaf mai'r unig ffordd iawn a gwir ddefos- iynol ydyw gostwng ar ein gliniau wrth weddio. Gresyn ein bod braidd i gyd yn gwrthod cydffurfio a'r agwedd weddus hon yn yr addoliad cyhoeddus ond yn ein hystafell- oedd gartref, ni ddywedwn ein pader byth tra yn eistedd ar y gadair. Dyma esiampl ein Harglwydd hefyd, "Efe a syrthiodd ar ei wyneb ac a weddiodd hefyd, wedi iddo fyned ar ei liniau, Efe a weddiodd." Ond am y Pharisead, meddir o'i sefyll a wedd- iodd," etc. Ie, sefyll yr oedd o. Addefaf fod ychydig anhawster i gynulleidfa fyned ar eu gliniau oherwydd nad oes darpariaeth briodol ar gyfer hynny yn ein capeli. Dyma wall y dylai adeiladwyr ac adgyweirwyr addoldai ei ddiwygio. Lerpwl. DANIEL O. JONES- 1 Pennill y ddwy fflam, ac yn y blaen. I At Olygydd Y BRYTHON. ANNWYL SYR.'—Beth amser yn ol, anfonais un neu ddwy o hen benhillion anarferedig i'ch Ffetan, gan addaw mwy. Hwdiwch y rhain eto Abraham a Moses oedd gadarn ar y graig, A saith o gychod gwenyn o gylch yr orsedd fainc A hithau morwyn Moses a fwytodd beth or mel, O canwn ninnau Canwn, am ddiliau doed a ddel. 0 aros 0 a-ros 1 lachawdwr y byd, Nes cyrraedd y cerbyd 'nol aros cyhyd 0 cyfod fi iddo o gyrraedd y lli\ 0 enaid annuwiol, pa le byddi di ? Dwy fflam ar Ben Calfaria Gwrddasant yno ynghyd Fflam cariad at bechadur, Fflam goch o Ddwyfol lid A'u mwg a ddringai i fyny Nes cuddio haul y Nen, A'r Iesu rhwng y ddwyfflam Yn marw ar y pren. Y Arglwydd Dduw Iehofa, Tro yma'th wyneb lion, Ac edrych ar dy bobol Sydd yma ger Dy fron Rho ras i'r bobol ifanc, A nerth i'r canol oed, A chymorth i'r hen bobol Sy'n cyrchu at y nod. Yr eiddoch yn gywir, MACWY. Eisipu Blodwen. At Olygydd Y BRYTHON. I ANNWYL SYR,—Teimlwn yn dra diolchgar os y caniatewch i mi, drwy gyfrwng Y BRY- THON, ofyn i'ch darllenwyr os digwydd fod gan unrhyw un ohonynt gopi Hen Nodiant ar werth o'r chwaraegerdd Flodwen, Dr. Joseph Parry. Os oes, a fydd y cyfryw mor garedig a chyfeirio fel y canlyn,—Yr eiddoch yn gywir, 65 Langton Road, JOHN ROWLANDS. Wavertree, Liverpool. Galw i'r Gad. I At Olygydd Y BRYTHON. I SYR,—Caniatewch i mi, yn ol eich caredig- rwydd arferol, alw sylw'r eglwysi at Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. Nid Cymdeithasau Cymrodorol ac ereill yn unig a wahoddir, eithr y gwahanol fan Gymdeithasau a gynhelir dan nawdd eglwysi Cymraeg. Bwriedir uno'n holl luoedd o blaid ein hiaith. Os gofyn neb pa fudd a fydd o ymuno, boddloned ar yr hen air, Mewn undeb mae nerth." Os ewyllysia unrhyw Gymdeithas ymuno, anfoner ataf am bob manylion. Cynhelir Cyfarfodydd yr Undeb fel y canlyn :—1, Dyfed, Ion. 10, am 1.30, yng nghapel Heol Awst, Caerfyrddin. 2. Gorllewinbarth Morgannwg Guild Hall, Abertawe, Ion. 31, am 2.30. Croeso gan Faer y dref. 3, Gwent a Mynwy yn y Tabernacl, Caerdydd, am 2.30, Ion. 24. Croeso gan Undeb Cymdeithasau Cymraeg y ddinas. 4, Canolbarth Cymru. Ymofynner a Mr. Roland Thomas, B.A., Aberhonddu. 6, Gwy- nedd Golygydd Y BRYTHON, Lerpwl, yw'r Pen-Capten. Os tery'r gair hwn lygad y neb a garo'i wlad, anfoned ataf am gopi o raglen gyflawn y cyfarfodydd uchod. Nid oes angen i neb fod ar ol. Y mae'r gwersyll Cymreig yn symud. Cafwyd digon ar Seisnigeiddio Cymru.—Yr eiddoch yn wladgar, D. ARTHEN EVANS. 15 Somerset Road, Barry. I Tro Trwstan. At Olygydd Y BRYTHON. y BRYTHON yr wythnos hon,. dywedir mai myfi ydyw awdur yr englyn can lynol yn yr hanes a roddwch am Eisteddfod yr Annibynwyr, Ffestiniog Adlonol anadl anian-Blfen fyw Lifa'n falm i'r egwain, Yw'r aw-el ber ei liwian,- Hi dynn o'r gwydd dyner gan. Gwir i mi dderbyn y wobr am yr englyn i'r awel, ond nid myfi yw awdur yr englyn uchod. Dyma'r englyn am yr h-wii y cefais i r wobr Yr awel anwel, heini-sawr y maes Ar ei min sy'n oedi Anadl anian hyd lwyni, A swyn hedd yn ei sain hi. A fyddwch gystal a chywiro'r gwall yn eich rhifyn nesaf. Diolch i chwi am wneud eich newyddiadur yn un mor ddiddorol, hyd yn oed i Ddeheuwr.—Yr eiddoch yn bur, Treparke Gelliwen, Treparke Gelliwen, S. O. THOMAS. St. Clears. Sir Gaerfyrddin. -0
Advertising
ANNUAL SALE. CREAMERS GREAT CLEARANCE SALE OF Furs and Fur Garments Now in Progress. I SWEEPING REDUCTIONS. 56 BOLD STREET LIVERPOOL.
0 Sir Ann Griffiths.
0 Sir Ann Griffiths. sef Sir Drefaldwyn. CEMAES, MALDWYN.—Nos Lun, Rhag. 29,. cynhaliwyd cyfarfod i ganu'n iach a'r Parch. T. Llew Thomas (Eilian) ar ei ymadawiad i Horeb a Phrenteg, Porthmadog. Ymchwel tua'r Q ogledd i'w hen Sir y mae Eilian, wedi, bod yn gwasanaethu'r eglwys yng Nghemaes a'r Waen am dros chwe blynedd. Yn ystod y tymor hwn, bu Mr. Thomas yn fawr ei barch ac yn llwyddiannus fel bugail. Cymerwyd y gadair gan Mr. Evan Evans, blaenor, ac un o henafgwyr yr eglwys, a rhoes air doniol ac i bwrpas, yn ol ei arfer. Darllenwyd llythyrau oddiwrth y gweinidogion canlynol, yn datgan eu gofid o golh Mr. Thomas o gylch y Cyfarfod Misol, ac yn dymuno pob llwyddiant iddo ef a'i deulu yn eu cylch newydd :-y Parchn. Fred Davies a D. Cunllo Davies, Machynlleth John Williams, Llanwrin J. Madryn Jones, Penegoes W. Roberts, Melin y rhedyn; a J. T. Jones, Llanbrynmair. Cyfiwynwyd nifer o lyfrau gwerthfawr a fountain pen ar- dderchog i Eilian gan Mr. John Edwards, Rhyd y gwiail, ar ran aelodau'r eglwys, fel arwydd o'u parch a'u hedmygedd. Diolch- odd Mr. Thomas am y rhoddion hardd, a dy- wedodd y bu ei arhosiad yn y Cemaes yn ennill mawr iddo. Siaradwyd ymhellach gan nifer o aelodau'r eglwys, ynghyda'r Parchn. G. Bedford Roberts (W.), Commins Coch R. W. Jones (M.C.). Aberangell; a John Will- iams, B.A., Carno. Teimlad pawb oedd y bydd colled fawr trwy'r cylch ar ol y brawd diymhongar ac amrywiol ei ddoniau. Dar- llenwyd yr englynion hyn o waith Dofwy, cyfaill mynwesol Mr. Thomas Caniataed y Cennad Hedd—ei gofio Gan gyfaill diduedd O'i eiriau a'i gywiredd Daw haf i mi hyd fy medd. Fy llewaidd gyfaill llawen—ymhob his, Fu mab hoff Ceridwen Gwr hoyw, treiddgar awen,- A gwr bach go hir ei ben. Denai'i iaith, a'i areitheg—ein synnvvyr- Denai'i iaithn, i'n ddiatreg, Swynai ni'n ddiatreg, Hawdd i humour ei ddameg IlBrynu tir oedd dan Brenteg. Llefarwr pert, llifeiriol—ei egni, Gwr dygn ac ymroddol Ac astudiwr gwastadol yng Nghemaes Erys ei hanes yn stori swynol. IV ddawn a'i deulu eiddunwn—hylwydd, A heulwen bob dwthwn Ai trosedd-ni ryfeddwn- I Brenteg roi braint i hwn ? -0
[No title]
Bydd yn dda gan lu cyfeillion Mr. J. Howard James, myfyriwr o Goleg Annibynnol Bangor, gael ar ddeall ei fod wedi derbyn galwad daer ac unfryd i ddyfod i fugeilio yr Eglwys yo Nebo, Glyn corrwg,ger Port Talbot, fel dilyn- ydd y Parch. W. R. Lloyd, Ystrad gynlais. g