Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Meddyliau'r Galon Eto.
Meddyliau'r Galon Eto. Y Pedwerydd Swp, Yr hen Siambr Sech. Q-fryr pawb ohonoch ar d'rawiad prun yw honno, tybed,—Ty'r Arglwyddi, wrth gwrs sef y Tý sy mor ddieneiniad ei areith- wyr rhagor Ty'r -Cyffredin-at ei gilydd felly, eanys do, fe glywd ambell areithiwr (ond pur ychydig ag ystyried) yn y Ty Uchaf a thipyn o sug dawn yn ireiddio'i araith. Am y gweddill, sych a swrth fuont o genhedlaeth i genhedlaeth a rheswm da pam,—y mae gormod o floneg y byd ac o olud etifedd arnynt, a 'does dim mor angeuol a hwnnw i athrylith pen a gwres calon, megis y prawf yr haid o ysweiniaid lletach eu tor na'u talcen sy wedi llechu yno ers cyd i faglu pob diwyg- iad a dyrchafiad a fwriedid i'r werin. A dyma wir arall, tae arall hefyd sef fod pob aelod o'r Ty Isaf a godir (wel, nage wir, a ostyngir, os gwelwch yn dda) i Lofft yr Arglwyddi, yn dechreu dirywio yn y fan, ac yn dibennu ei yrfa mor dordyn a dinod a'r lleill oedd yno o'i flaen, yn sgil braint hen a gorthwm hir. Ond yr hyn a'm hudodd i b'ledru Ty'r Arglwyddi oedd gweled cyfeiriad Mr. Lloyd George yn Araith Pwllheli'r dydd o'r blaen yn Gymraeg y dwedodd o'r sylw, ond yn Saesneg y gwelais i ef ac yn debyg i hyn y derllyn o'i gyfieithu'n ol o iaith fain y papurau i iaith fyw y Canghellor :— Cliwi gofiwch beth a ddigwyddodd i Dý'r Arglwyddi. Buasai hwnnw'n anobaith Llywodraethau Rhyddfrydig ac yn ddinistr mesurau Rhyddfrydol ers cenedl- aethau. 'Roedd cewri wedi bod wrthi'n ymosod arno, ond byth i ddim diben :— Mr. Gladstone, Arglwydd Rosebery, "Syr Wm. Harcourt, Syr H. 'Campbell- Bamierman, John Bright; ond methu ddarfunt i gyd. O'r diwedd, dyma'r "Weinyddiaeth hon yn dod ymlaen i c, ymaflyd codwm ag ef a bellach y mae Ty'r Arglwyddi fel rhyw erthyl ac asgwrn "ei gefn wedi ei ysigo, a dacw fo'n ym- "lafnio'n orffwyll ol a blaen nad wyr i ble, a'i gynddaredd yn fwy glafoeriog nag U erlOed. Ond ni waeth iddo heb: 'dyw ei balf ddim cýd a'i boethder erbyn hyn a dyna i chwi un o orchestion y Llywodr- aeth sy'n awr yn addaw dymchweliad c, crafangwyr y tir." Mor hyfryd i glust y werin a fu clywed swn gordd a throsol Mr. Lloyd George yn cracio Ty'r Arglwyddi ar hyd y pedair neu bum mlynedd diweddaf yma gobeithio y cawn fyw i gyd i glywed swi hyfrytach fyth swn Castell y Caethiwed arglwyddaidd yn dym- chwel i'r llawr, furddyn tywyll yr hen oes- oedd a'r llall, Ty'r Cyffredin, yn cael lie a deunydd i godi Castell Rhyddid a Chydraddol- deb y Bobl allan o domen gerrig a golud yr hen Siambr Sech. Tu arall i'r Wal ddiad= lam. Un o'r pethau mwyaf iasol a, welais ers tro byd oedd hares rhyw cinematograffydd,ym mhapurau'r wythnos ddiweddaf, yn beiddio i berfedd y byd, y fo a bagad o gynorthwywyr, sef yn mynd i lawr o fil i ddwy fil o droedfeddi i fol Vesuvius, y mynydd tanllyd, a medru aros yno ddigon o hyd i dynnu llun y fflamau a'r lluwch Gehennaidd a ymferwai o'u cwmpas ac o tanynt, a hynny i gyd er mwyn eu cael ar y film i'w dangos maes o law yn y cinemas. Mor ddiorffwys a di-droi'n-ol yw ysfa dyn am y newydd a'r dieithr a'r cyffrous ac a ai, pe medrai, fil neu ddwy o droedfeddi i fol Annwn ei hunan, er mwyn dringo oddiyno, y fo a'i beiriant, i ddangos llun y gethern gythreulig, a dwyn glafoerion y colledigion gerbron tyrfa- oedd blebrog ac anniwall y Lluniau Byw tua Lime Street yma. Ond gwylied o amo'i hun unwaith y bo fo y tufewn i ddrws y Wal Ddi- adlam, nid ar chwarae bach y tyn o ei bollt nac y daw'n ol yr ochr yma iddi,canys Cyf. iawnder anhyblyg yw'r Porthor. Ac yr oedd darllen disgrifiad y cinematograffydd uchod o geubal y Vesuvius yn dwyn sylw Seraff Talsarn yn bur fyw i'r cof, sef wrth ofyn pa mor bell y medrai dyn ddal i obeithio am drugaredd Duw Wel, mi ddaliaf fi i obeithio yn Ei dru- garedd nes y caf fy hun ar fy mol ar frig y fflamau," ebe John Jones, ar ucha'r floedd ddigymar honno na chlywodd Cymru mo'i hamgenach erioed at yrru ias o syndod Byd Arall i gripio dros dyrfa ugain mil ar faes y Sasiwn. A gwreichion oddiar eingion ei dad oedd y fflachiadau cyffelyb feiddgar a neidiai'n eirias oddiar ddeufin ei fab, y diweddar Barch. D. Lloyd Jones, Llandinam y wreichionen hon yn enghraifft Beth yw'r Atgyfodiad ? Wel, fe blym- "iodd y Mab o Ganllaw'r Gogoniant i lawr 4, i waelod eithaf Trueni Dyn ac yr oedd y naid mor ddofn ac yntau'n taro mor galed || yn erbyn y gwaelod, nes yrebowndiodd 0 yn ei ol, drwy'r bedd, ac i fyny at Ganllaw'r Gogoniant drachefn. Dyna chwi beth oedd yr Atgyfodiad." Medrai dychymyg y ddau, y tad a'r mab, neidio ol a blaen dros y Wal Ddiadlamhawdd- ed a dim, ac yn llawer haws nag y medrai enaid neb o'u gwrandawyr. Y Galon yn gwynnu gyd a'r Gwallt. Pethau byr a brau i'w ryfeddu yw'r blyn- yddau yma, onite ? ac yr fyrrach a breuach o lawer nag y byddent pan o'wnTn hogyn, goeliaf fi. Wedi cael chwiw a chlwy'r oes y maent, mae'n debyg, ac wedi dysgu hedeg, yn lie cerdded, megis y gwnaent hwy a finnau mor wastad a'n gilydd yn nyddiau mebyd. Ond erbyn heddyw, Wyddoch chwi beth y mae'ch gwallt yn britho," ebe rhyw bitw o ddyn bach wrthyf y dydd o'r blaen. Pin draen am hynny os yw'r galon yn gwynnu gyda'r gwallt," ebr finrau, gan glecio 'mawd arno fo a'i fritho, 'r barcud meingraff iddo fo A dyma hi'n ddechreu 1914 eisys Ie, wir, Tramwy'n ofnadwy mae'n hoes, Buan iawn y daw'n ben einioes." Ond chwedl Trebor Mai, Waeth inni dlodi mo'r llawer iawr Na chyfoeth a moethau y palas llawn ;— Tarth ydyw pleser, gwagder yw gwên, Munud yw'n hoes-rhaid myned yn hen." Pan dry dyn drofa'r hyn a hyn o oed (peth hwylus ryfeddol yw'r hyn a hyn" yna, onite ?), y mae mor chwannog i ladd ar flin- dsrau'i fywyd ag yw i ladd ar y tywydd ond cofiwn eiriau Dyfed,— Pererin wyf finnau'n ymdeithio Drwy ganol gofidiau y byd, A llawer ystorm yn fy nghuro, Am dorri fy nghalon o hyd Ond cofiaf am wynfyd angylion, Am haf digyfnewid o dangnef Ac er fod y cymyl yn dduon, A deifwynt yn chwalu'm cysuron, Mae'n dywydd di-fai i fynd adref. Ie, i fynd adref, gobeithio, wir, Dyfed A chwi oludogion clyd arnoch, sy'n rhynnu a rhincian eich dannedd y tywydd oer yma, dyma i chwi recipe sut i gynhesu,— "Mis yw hwn i'r trwyn a'r traed. A'r dwylaw sydd heb fenyg Os hoffech ei gynhesu ef, 0 1 rhowch i'r tlawd galennig." Waeth faint a sgrythoch yn eich parlyrau o flaan eich tanllwyth glo, oeri wnewch wedyn ac yn oerach a mwy rhynllyd nag o'r blaen ond daliwch chwi at recipe Ceiriog, ac fe rof finnau 'ngair na chewch chwi annwyd byth, yn yr un o'r ddau fyd, canys y mae'r Beibl wrth Ffy nghefn Y neb a gymero dru- garedd ar y tlav. d sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd a'i rodd a dal iddo ef drachefn." Ie, diolch am drachefn Duw! Dyna'r ffordd i gadw'n gynnes a gwynnu'r galon ac felly,na hidiwch befo mo'ch gwallt Llygad y Wawr. -0 J.H.J. I
Advertising
[CAMPBELL & LUMBY ———— THE LIVERPOOL JEWELLERS, NOTED FOR VALUE. II I I Gem Set Jewellery in latest designs. j SOLID SILVER NOVELTIES. I I ELECTRO PLATE OF GUARANTEED ,I QUALITY. Repairs of all descriptions carried out with promptness. Old Post Office Place, Liverpool, [I. TELEPHONE 3075 Royal. off church Street.
Bar a Brith. I
Bar a Brith. I OFFRWM DIOLCH.-Estynnwyd cheque am ddau gant o bunnau i Mr. O. O. Roberts yn Nolgellau ddydd Mercher diweddaf, sef tipyn o offrwm diolch y dref a'r ardal iddo am arwain C6r Mawr Idris ers deugain mlynedd, a gwneud ei oreu glas dros Eisteddfod Meirion a phethau da ereiil y Sir. Mr. J. Jones, Uchel Siryf Meirionydd, a'i hestynnodd iddo, gyda dy- wedyd i'r tanysgrifiadau gyrraedd o bedwar ban byd, sef oddiwrth y t6 ar ol to o lanciau a lodesi'r dref a ddysgwyd ganddo yn yr ysgol bob dydd ar hyd y deugain mlynedd. Y mae Mr. Roberts bellach yn cilio o wydd y byd i dreulio'i brynhawn yng nghwmni'r hen atgofion filoedd sydd ganddo am y digrif—a'r dwys—gwrddodd yn ystod ei yrfa a'i lygaid yn loewon heddyw gan ddagrau llawenydd yn gymysg a, hiraeth am y cyfoedion cof- iadwy a gynrychiolid yn yr Offrwm Diolch. El SIOM AM SET-Nid ysfa angerddol am ledu'r Deyrnas nad yw o'r byd hwn sydd wrth wraidd pob achos ac eglwys newydd a godir draw ac yma, eithr rhywbeth anfesurol waelach a mwy dirmygus, tebyg i'r peth gaiff fonclust mor heger gan Dyfed yn ei benhillion i Ble mae'r byd yn mynd ?- Pan eir i wneud blaenoriaid, 0 fewn cynteddau'r saint, Mae pawb yn troi'n ddoctoriaid Mewn awydd am y fraint; Ond creulon siomedigaeth Fydd tynged llawer un, A'r unig waredigaeth Fydd-Capel iddo'i hun. Dyna bwythwr i'r byw y\v'r Archdderwydd, yn enwedig os bydd eisieu pwytho Rhagrith a Die Shon Dafydd. BWYD LLWY YN LLE BARA'R BYWYD.-Mr. Tom Parry, yr aelod ieuanc dros Fwrdeisdrefi Sir Fflint, a lywyddai gyf- arfod unedig o holl Eglwysi Rhyddion Tre- ffynnon nos Fercher ddiweddaf ac un o bethau nodweddiadol ei anerchiad oedd hwn Fod llanw'r byd yn rhedeg yn gryf i gyfeir- iad Materoliaeth a difrawder ac erfod llai o hynny yng Nghymru nag yng ngweddill y deyrnas, eto i gyd, fod swn y llanw cas yn curo ar ein glannau ninnau, ac fod yn bryd inni ymroi i warchod rhag y perygl. Ac un ffordd i wneud hynny oedd hyn ymorol am i'r eglwysi gael y goreu o bopeth —yr adeiladau goreu, harddaf, hwylusaf, a siriolaf y seti cymfforddusaf y canu melysaf a pherSeithiaf a'r pregethu grymusaf. Yn ail, yr oedd eisieu amrywio ac ysgafnu cryn lawer ar y moddion,— moddion yr wythnos yn enwedig. Cyfeirio'r oedd Mr. Parry at fel y mae'r byd barus yn hulio pob difyrrweh gwamal a merfedd i rwydo arian ac eneidiau'n pobl; ac mai gweddus yn yr eglwysi fyddai deffro "ati i gystadlu ag o hyd y gellid, yn lie glynu mor gildyn yn rhych defod ac arfer, nes bod y moddion yn fwy o faich nag o fywyd i'r to sy'n codi. Dylent fanteisio mwy ar hoffter diail y Cymro o ganu, meddai Mr. Parry a gwneud eu capeli'n fangre llawenydd ac at- dyniad a phan ddelo'r bobl yno o serch, ac nid o gydwybod a cherfydd eu clust, y bydd Seion ar i fyny, ac yn lies dyn a llawenydd Duw.—Ond pwnc go an odd ydyw hwn, ac un y gellid dweyd llawer arno, o bobtu, canys nid ar'sucan canu na bwyd llwy felly y megir cymeriadau cryfion. RHOI BYS AR Y BRIW.—Gofynnodd y Post (Lerpwl) i amryw o'n proffwydi cenedl- aethol beth oedd nod angen Cymru ar dro- thwy'r flwyddyn newydd yma ac wele ergyd rhai o'r atebion. Cael pen ar y gynnen grefyddol yma sy rhwng Llan a Chapel ers dwy genhedlaeth modd y caffo dynion difrif o bob cred ymroi i gyfanu'r genedl.-Mr. Lloyd George. Cadw llygad ar y plant galluog ond tlawd y genedl, sy'n methu, lawer ohonynt, a chael chwarae teg fel y mae pethau ar hyn o bryd, ac yn gweled plant diallu'r goludog a'r clyd arnynt yn cael mynd i fyny yn sgil mantais ac nid ymennydd.-Syr Edward Anwyl. Cael gwell addysg amaethyddol i ffemi- wyr Cymru, a'u cael i fyny a phob smic o ddyfais a gwelliant yn nhrin y tir a chodi da byw a marw.-Y.Prog. Bryner Jones. Cael lie a phen llwybr bywoliaeth i'r pedair mil o fechgyn a genethod edy'n hys- golion canolradd bob blwyddyn.-Mr. Silyn Roberts, M.A., Caerdydd. Ail-wampio'n peirianwaith addysg, a chael ein colegau a'n hysgolion sir a'n hysgolion elfennol dan lywodraeth y bobl, yr hyn nid ydynt, ar hyn o bryd, mewn un modd. Y mae eisieu ail edrych Bwrdd Canol Cymru hefyd. Gwyr Mr. 0. M. Ed- wards hyn yn burion, ac fel pob gwir broffwyd a gwladgarwr, caiff ei felltithio.— Mr. T. J. Williams (Bangor). Angen mawr Cymru, yn 1914 ac wedyn, oran hynny, yw cydgord a thangnef rhwng gwas a meistr llai o deimlad a mympwy I yn ein gwladweinwyr, a mwy o'r peth prinnaf i gyd-synnwyr cyffredin-yn y sawl au dilynant.—Mr. D. A. Thomas, un o fawrion glo'r Deheudir. Naturiol i bawb roi ei fys lie bo'i friw a phe buasem ninnau'n ddigon mawr i fod yn un o'r I proffwydi cenedlaethol a gwerth gofyn eu barn, dyma ddywedem fuasai prif angen Cymru, a'r hen fyd yma i gyd o ran hynny :— Arafu tipyn, a chymryd hamdden i sbio i fewn iddo'i hun, yn lie chwyrnellu mor gyflym yn ei fodur a'i wiblong hedeg llai a myfyrio mwy byw'n fwy yn ei dufewn a llai yn ei duallan, a chofio'r gwir digymar hwnnw a lefaras Morgan Llwyd yn ei Dri Aderyn Goreu i blentyn fod gyda'i rieni, ac i ddyn fod gyda'i Dduw." Ond y Beibl wyr oreu o neb sut i roi bys ar y briw canys am y galon sieryd o hyd ac o hyd a dim ond Un fedr wello Clefyd y Galon. GWADDOLWR Y DDRAMA.-Gwyddis fod Arglwydd Howard de Walden,—yswain goludog a galluog Castell y Waun, yn ymyi Glyn Ceiriog-yn rhoi canpunt o wobr bob blwyddyn am y ddrama oreu, Gymraeg neu Saesneg, a fo'n dangos bywyd yr Hen Wlad rhannwyd y wobr eleni rhwng y Parch. R. G. Berry, Gwaelod y Garth (A.), a Mr. D. T. Davies, athro ysgol yn West Hampstead, Llundain. Cynhygir gwobr gyffelyb at y flwyddyn nesaf a cheir pob manylion ond anfon at The Secretary, Welsh National Dramatic Competition, Educational Pub- ishing Co., Cardiff." Y mae Arglwydd de IWalden yn prysur ddysgu Cymraeg tan gyfar- wyddyd un o Gymry Caerdydd, ac a'i gwelwyd y dydd o'r blaen (gan guard gwladgar o Lerpwl yma) yn darllen Cymru'r Plant yn y tren wrth ddychwelyd o'r Brifddinas. I 0
[No title]
DyserTh, GER Rhyl.—Caed gwyl de a chyngerdd blynyddol y Wesleaid NosNadolig, Y cadeirydd dewisedig ydoedd D. Stafford. Ysw., Hyde ond fe'i lluddiwyd gan am- gylchiadau i fod yn bresennol, a chymerwyd yr arweiniad gan Thomas Williams, Ysw., Prestatyn. Y datganwyr oedd Miss Louie James, R.A.M., Dinbych Miss Nancy Owen, Gallt melyd Mr. Thomas Roberts, Seacombe; Mr. Newton Edwards, Seacombe. Dyma'r tro cyntaf i Mri. Roberts a Newton Edwards fod gyda ni, a'r dystiolaeth gyffredinol yma ydyw y gall Seacombe a'r cylch ymffrostio yn eu talentau ragorol. Am Miss James, y mae ei chlodydd hithau erbyn hyn yn hysbys ymhell ac yn agos. Ieuanc ydyw Miss Nancy Owen ond y mae ganddi lais cyfoethog, ac nid yn unig gwna gyfiawnder a'r gerddoriaeth ond a'r farddoniaeth hefyd. Dyma'r cyngerdd goreu a gafwyd yn yr ardal hon ers llawer dydd. Yr oedd datganiad Miss Nancy Owen o Lead, kindly Light," yn fendigedig, a chafodd encfir bob tro.-Edwin Lee.
Advertising
THE WELSH OUTLOOK A MONTHLY" JOURNAL OF NATIONAL SOCIAL PROGRESS PRICE THREEPENCE PIRST NUMBER JANUARY 1914 "The Welsh Outlook" will deal with RELIGION, EDUCATION, INDUSTRY, HEALTH & HOUSING, ART and LITERATURE, in relation to WALES. jMaylbe ordered through any Newsagent or will be &ent Post Paid for 12 Months for 4/ or 6 Months 2/ from The Welsh Outlook Press, Cardiff. W. & J VENMORE, Estate Agents & Voluer- 200 SCOTLAND RD. Liverpool Xkliphokx No. 5163 Royul J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, &c. 6 Lord Street, Liverpoo TBLBPUOWB 011 BAfK: ALLAN I LINJ The Popular Pioneer Line (1819 to 1913) To CANADA Regular Sailings from Liverpool Glasgow. Londonderry, London. Plymouth <3 Havre. Lowest Fares. Cuisine & CSmfr otUusurpasse ALLAN'S, Liverpool, 19 James St.; London, 1 Cockspur St., S.W.; 103 Leadenhall St., E.G., Glasgow, 25 Bothwell 'St. Agents Everywherf Pence £ Envelopes FOR CHURCH COLLECTIONS. Good Quality. Correctly Numbered by Special Machine. Hugh Evans Sons, Brython 356.8 Stanley Road L'pool. Esboniad Cyflawn AR YR HOLL FEffiL. am bris Esboniad ar y Test. Newydd yn unig. Y Dehonglydd Beirniadol ar' yr Hen Destament a'r Newydd, gan y Parch. John Jones" (Idrisyn) mewn pedair cyfrol, fel newydd, wedi ei rwymo mewn llian cryf 18s. Eto (banner rhwym) 25s. Hugh Evans a'i Feib., Swyddfa'r Brython RAILWAY LOST PROPERTY TRAMWAY, POLICE, POST F OFFICE and TKAYELLEB8 f Sample Umbrellas. Ladies and KQents—Splendid Lines 1/ 1/0 and 2/- each. Walking Sticks £ 2d, Sd and 4d each. Northern Umbrella Depots 28a Bold St (Upstairs). Afewdoors from Ohuroh'St LIVERPOOL. For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE, SON & STOTT, LTD., 116, 118 6 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. Telephone 2137 Royal.1 ..Cynhygiad Neilltuol.. i Ddarllenwyr Y BRYTHON." Nid oes dim mwy hwylus a gwerthfawr na Fountain Pen da o gwneuthuriad y gellir dibynnu arno, a hynny am bris isel y gall pawb ei gyrraedd.. Mae perchenogion Y BRYTHoN-er mwyneangu cylchrediad eu newyddiadur—yncynny FOUNTAIN PEN o'r gwneuthuriad goreu guaranteed fitted with 14 carat Gold Nib, fine, medium or broad), ac yn gyfartal o ran ei werth i rai a gynhygir am brisiau llawer uwch. Dyma'r telerau :— Am 3/6 (Postal Order). Neu am 3/- a phum Coupon. „ tip 2/6 a deg Coupon. Y Coupous i gael eu tori allan o'r BRYTHON. Gwna unrhyw ddyddiad y tro, ond n chymerir mwy na thri o'r un dyddiad. Anfoner y Coupons a'r Postal Order, ynghyda enw a chyfeiriad yr anfonydd wedi ei ysgrifennu yn eglur. Cyfeirier yr archebion- 356-358 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Fountain Pen Coupon. Y BRYTHON," Ionawr 8fed, 1914