Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

10 FOELWYN I FANOD._

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

10 FOELWYN I FANOD. I [GAN Y CUDYLL1. Y DYN PIAU'R HA'.— Yr Athro Williams- Parry, M.A., Barry Dock, a gafwyd i ddar- lithio nos Fawrth yr wythnos ddiewddaf, yn Ysgol Uchelfemiol y Genethod, sef ar Oed a Jiwbil, neu'r ddwy nefoedd, neu Baradwys Dafydd ab Gwilym a Nefoedd Williams, Pant y celyn. Cawsom gyfoeth o iaith, traddodiad y celyn. Cawsom hyawdl, a thoreth o gynghaneddion na chlyw- som eu tlysach braidd erioed. Wir, yr oedd o'n dda ac mor Rogaidd ei wyneb a gwylaidd ei drem rhagor y ceiliogod llai a mwy dandiaidd yma. Bryfdir gadeiriodd, gan gloi ei englyn cyfarch i'r darlithydd gyda Bardd yr Haf bereiddia'r hin." Caed gair pellach gan y Parch. Geo. Davies, B.A., Mri. Ben T. Jones, a J. Morris, B.Sc. Awdl a ddeil yn ddifachlud am yn hir yw Awdl Haf y darlithydd, ac mae'r beirdd bach eisoes yn benthyca'i goleuni yn ddistaw bach yn y nos. BTXDDUGOUOK Y CALAN.-Na, nid yw holl ogoniant a thalent oreu Ffestiniog ddim wedi mynd i ganlyn y Hi' drwy'r Ceuant Sych o drugaredd, canys dyma rai o'n plant ynill- odd draw ac yma yn ystod Cyrddau'r Calan y Parch. Evan Roberts (W.), Caersws, a mab ieuengaf y diweddar Barch. William Roberts, Meantwrog, a enillodd Gadair Meirion yn Eisteddfod Dolgellau. Griffith W. Jones, Pen y garth, Bl. Ffestiriiog, a gurodd bawb am ganu'r berdoneg yn yr un Eisteddfod. Cor Meibion y Moelwyn (Cadwaladr Roberts) yn ennill y E25 yn yr un Eisteddfod Ted Jones yr unawd baritone, a Miss Blodwen Edwards, Ffestiniog, yr unawd soprano. Ac yng Ngholwyn Bay, yr un dydd, cipiwyd gwobrau y prif ddarn a'r Ymdeithgan gan Seindorf Freiniol Oakelev (W. E. Edwards) Evan R. Evans, yr unawd tenor, a'r ddeuawd gyda'i gydymaith, D. R. Jones, Wrecsam. O. S. Roberts, Bethania, a gipiodd wobr yr her-unawd ym Melin y Coed, Llanrwst, y nos o'r blaen- DAU'N MYND YN UN.—Yn Eglwys St Mary, Disley, ddydd ola'r flwyddyn, priodwyd Mr. D. O. Jones, Dol garreg ddu, a Miss Jennie Evans, Bron twrog. Yn Salem (A.), Rhiw, Mr. Griffith Jones, Holland Quarry, a Miss M. E. Williams, Cartre. Yn Utica, U.D.A., Miss Helen Hughes, 3 Incline Terrace, a Robert H. Williams, o Glwt y bont, Arfon. Ym Mhont y pridd, y Calan, John A. Will- iams (ail fab Glyn Myfyr), a Miss Eunice Jones, 68 Ely Street, Ton y pandy. Yng nghapel y Rhiw, M.C., fore dydd ola'r flwydd- yn 1913, Dr. E. E. Owen, Post Office, Rhiw, a Miss Alice Jones, Avallon, ail ferch y diweddar Owen Jones, Ysw., prif oruchwyliwr Chwarel- au Oakeley. Fore cyn y Nadolig, yng nghapel Seion (M.C.), Llanrwst, gan y Parch. J. R. Jones, B.A., Peniel, priodwyd Mr. John R. Jones, Highgate, Ffestiniog, a Miss Alice Jones, y Ddol, CwmPenmachno, ac meddai'ch Cudyll :— Oes hir yn llawn cysuron-fo i chwi, Haf o iechyd tirion Alice annwyl a'i swynion A wna'i fwth yn nef i John. Y Parchn. Moses Roberts ac E. Tegla Davies oedd utgyrn arian gwyl bregethu (W.) Ffestimog y Nadolig. Mae Miss Laura Pritchard (Perdones Cynfal) wedi ei phepodi'n gyfeilydd yng nghylchwyl Harlech y flwyddyn hon. Nos ola'r flwyddyn, bu owmni drama Maen )fferen yn perfformio Joseph a'i Frodyr yn Neuadd Gynnull Porthmadog y lie yn anghysurus lawn, a r elw i gapel cofia'r Parch. Wm. Ambrose. Bu Cwmni Beddgelert yma hefyd yn perfformio Arthur Wyn y Bugail, ond yr oedd y tywydd yn eu herbyn, gan fod yr ystorm yn cadw'r gwrandawyr o'r neuadd. DAN Y DORLAN.-Cleddid Thomas Smart, 3 Dorfil Street, yr wythnos ddiweddaf Mrs. Ellen Jones, 8 New Tan y Manod Mrs. Mar- garet Williams, 6 Leeds Street a Hugh Will- iams, Ty Capel, -Moriah, Tan y grisiau a Willie hefyd, bachgen bychan dwy flwydd i Mr. a Mrs. Rd. Roberts, 4 Baron Road. 0 DOLWYDDELEN.—Nos Sadwrn, yn yr Ystafell Gynnull, er budd Bethel (A.), noson gyda'r delyn. Cadeirydd, Mr. G. Williams, Garmon House arweinydd a beirniad a chanwr, Dewi Mai o Feirion telynor, Telynor Dall o Feirion. Can odd y C6r, a'r Misses Annie Lloyd, Gorddinen, ac Annie Williams ac adroddiad gan J. Jones, Bl. Ffestiniog. Cystadleuaethau canu gyda'r tannau. I rai dan 18: 1, Caradoc Davies, Bl. Ffestiniog 2, Robert Gweunydd Jones, Tal y waenydd 3, Evan R. Roberts, Llan Ffestin- iog. I rai dros 18 oed 1, Richard Jones, Trawsfynydd 2, Ellis Jones, eto. -0

[No title]

YSIAFELL Y BLIRDD ,

1O'R DE. "

I EISTEBDFODAITR CALAN.

Advertising