Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

DAU TU'R AfON I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAU TU'R AfON I Bu Mr. Rd. Hughes, 8 Venmore Street, Everton, farw Rhagfyr 18fed, yn 69 mlwydd oed. Daeth i'r ddinas hon dros hanner can mlynedd yn ol. Bu am flynyddau lawer yn aelod selog o Eglwys Cranmer Street, wedi hynny Anfield Road. Yr oedd yn athro medrus a ffyddlon yn yr Ysgol Sul, a bydd yn chwith iawn gan y dosbarth ar ei ol. Dar- llenai lawer, a chymerai ddiddordeb neilltuol mewn materion eglwysig a gwleidyddol. Hebryngwyd ei weddillion i fynwent Anfield y dydd Mawrth dilynol, ac yr oedd y nifer dda ddaeth ynghyd i dalu'r gymwynas olaf iddo yn brawf o'r serch a goleddid ato. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. John Owen, Ifor Hael Jones, ac O. Eilian Owen. Nawdd Duw fyddo ar y weddw a'r teulu. YSGOLION SUL WEBSTER ROAD A RAM- ILIES ROAD.-Nos Iau ddiweddaf, cynhaliwyd te parti a chyngerdd blynyddol y ddwy ysgol. Daeth y nifer arferol ynghyd, ac ymddang- hosai pawb yn eu hwyliau goreu. Cymerwyd y gadair gan Dr. T. J. Williams. Yr oedd Miss Gwladys Griffith yn bur boblogaidd. Y darnau ganodd oedd Gwlad y Canu," "Friend," ac "Y Gloch." Mewn atebiad i ddau encor, rhoddodd Cartref a Telyn- au'r Saint." Yr oedd Mr. Wm. H. Thomas o dan annwyd, ond gwnaeth yn rhagorol. Y darnau ganodd oedd The Guiding Light," Mentra Gwen," Cymru Newydd," ac Oberon." Daeth Mr. Gwynne Ivor Hum- phreys ymlaen i ganu penhillion ddwy waith, a bu raid iddo ateb encor y ddau dro. Efe ydoedd y beirniad ar y gystadleuaeth canu penhillion i blant y ddwy ysgol, a dyfarnodd y gwobrau fel y canlyn 1, Gwilym Williams 2, Maggie Jones; 3, Nellie Davies. Miss Florence Yates enillodd ar yr her-adroddiad. Y beirniad ydoedd Mr. T. O. Morris. Cymer- odd y Cor, o dan arweiniad Mr. David Owen, ran bedair gwaith fel y canlyn Y Gwan- wyn," Y Nant a'r Blodeuyn," Mai," Yr Haf." Cyfeiliai Miss Nani Hughes, a Mr. a Mrs. D. W. Davies. Diolchwyd gan y Mri. Isaac Roberts a Griffith Jones. Terfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau," o dan arweiniad Mr. W. H. Thomas. Nos drannoeth, cafodd plant y ddwy ysgol eu te parti a chyngerdd hwythau. Cymer- wyd y gadair gan Dr. Gwilym Owen, M.A. Achubodd yr eglwys y cyfle i'w anrhegu a Dressing Case, Case of Pipes, a Notebook, cyn ei symud draw i New Zealand. Pan ddaeth- pwyd at y rhan hon o'r rhaglen, cymerodd Mr. O. Hughes (Salisbury Road) y gadair, a galwodd ar Mr. Rd. Williams (Newborough Avenue) i gyflwyno'r rhodd ar ran yr eglwys. Wedyn, cyflwynwyd scarf pin i Dr. Owen gan Hugh Jones, mab bychan Mr. a Mrs. John Jones, Cranbourne Road, ar ran Ysgol Sul y Plant yn Webster Road, ar yr hon yr oedd Dr. Owen yn arolygwr. Wrth ddiolch, dy- wedodd Dr. Owen ei fod yn galw heibio i'w dad, y Parch. Wm. Owen, ar ei ffordd, ac hefyd heibio i Sydney, Awstralia, lie y mae tri o fechgyn ieuainc eglwys Webster Road un ohonynt, Mr. Jonathan Evans, wedi bod yn gweithio'n neilltuol o galed gyda'r plant pan yn eu plith, ac yn parhau'n agos iawn at galonnau'r plant o hyd. Wedi hyn, aed I ymlaen a'r rhan oedd yn ol o'r rhaglen. Diolchwyd gan Mri. W. R. Griffith a E. J. Jenkins. Terfynwyd cyfarfod difyr trwy ganu ":Hen Wlad fy Nhadau.X. Y.Z. CHATHAM STREET (M.C. )-Rhagfyr 31, agorwyd Guild pobl ieuainc yr eglwys uchod, pryd y rhoddodd Mrs. William Thomas, Aigburth Drive, wledd gampus i'r aelodau. Llywyddwyd gan y Parch. R. R. Hughes, B.A., ac yr oedd Mr. Wm. Thomas a Miss Thomas, a'r blaenoriaid, yno. Ar ol y wledd, cafwyd cyfarfod diddorol. Datganwyd yn swynol gan Mri. lorwerth Hughes a Griff. Jones, a chafwyd amryw gystadleuaethau difyr. Yn goron ar y cyfan, perfformiwyd Ymweliad Tomos Bartley a'r Bala (Rhys Lewis) Tomos Bartley, Mr. Ap. Gwilym Rhys Lewis, Mr. O. R. Hughes Williams y Stiwdant, Mr. Lewis Williams Mrs. Jones, y lletywraig, Miss Chaloner. Gwnaethant eu gwaith yn ganmoladwy, ac yn sicr dylai'r Guild fod yn falch fod ynddi dalentau mor ddisglair.—LI. W. CAPEL M.C. WATERLOO.—Daeth tyrfa lu i'r capel uchod am un ar gloch, lonawr laf, yn llawn sirioldeb a dymuniadau da, ar ach- lysur priodi Mr. Wm. Bulkeley Jones, mab y diweddar Mr. Owen Jones, Llansadwrn, Mon, a. Nellie, merch hynaf y diweddar Mr. Griffith Morris, Oil Merchant, o'r ddinas hon, a Mrs. Morris, Holmlea, Waterloo Park. Y gwas priodas oedd y Parch. J. Smith, Penucheldref, Mon, a gwasanaethwyd ar y briodferch gan ei chwaer, Miss Emily Morris, a chyfiwynwyd hi gan ei mam. Cyflawnwyd y seremoni yng ngwydd y cofrestrydd, gan y Parch. W. Henry —yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. H. Jones, Trefriw, a'r Parch. J. J. Evans, Niw- bwrch. Ymunodd llu o wahoddedigion yn Holmlea i gyfranogi o'r wledd briodas, ac i ddymuno pob llwydd i Mr. a Mrs. Jones. Cafwyd anerchiadau pwrpasol a hynod ddiddorol gan amryw. Heblaw'r gweinidog- ion oedd yno, datganwyd teimladau da'r cwmni mewn modd hapus a doniol gan Mr. W. Jones, Beaumaris, a Mr. David Morris, Great Crosby a mawr fwynhawyd yr anerchiad barddonol a anfonwyd gan frawd o Fon, ac a ddarllenwyd gan y Parch. J. J. Evans. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a gwerthfawr, ac yn eu plith un a gyflwynwyd i Mrs. Jones gan ei dosbarth yn Ysgol Sabothol Waterloo, lie y bu'n athrawes ddiwyd a ffyddlon am dymor maith. Teimla'r cyfeillion yn Water- loo yn chwith iawn ollwng chwaer mor ddefn- yddiol o'u plith. Y mae wedi gweithio'n rhagorol fel ysgrifennydd Cangen y Chwior- ydd o'r Genhadaeth Dramor ynglyn a'r eglwys am nifer o flynyddoedd. Yn sicr, bydd yn ennill i'r cylch newydd y symud iddo, oblegid bydd y cartref newydd yn Niwbwreh, lie y mae Mr. Jones yn assistant master yn Ysgol y Cyngor. Ymadawodd y par ieuanc i ddech- reu eu mis mel yn Llandudno. Eiddunir I iddynt gan eu cyfeillion ym Mon a Lerpwl bob cysur angenrheidiol i wneud eu Gyrfa'n brydferth, hir, a glan." GWYL Y CALAN YN CLIFTON ROAD, BIRKENHEAD.-Cyngerdd, am 7.30 Mr. Owen Evans, Lerpwl, yn y gadair, a'r Parch. G. J. Williams, Vittoria Street, yn llywyddu. Y capel yn llawn, a gwelid yn y gynulleidfa lawer o eglwysi ac enwadau ereill. Dyma'r rhaelen Unawd, Cwm Llewelyn, Mr. Fred- eric George ail ganodd. Adroddiad, Mr. I J. R. Salisbury Reciting Competition ail- adroddodd The Welsh Landlord,-y ddau ddarn o'i waith ei hun. Unawd, The Watch- man, Madame Myra Roberts ail ganodd, Little Home in the West. Unawd, Mr. Griff Owen, Pwy fel fy Mam ail ganodd, My Pretty Jane. Unawd ar y crwth, Danse Negre (Coleridge-Taylor), Miss Morfydd Hughes. Unawd, Madame Humphreys-Lees. Friend ail ganodd, Myfi sy'n magu'r baban. Deuawd, Madame Myra Roberts a Mr. Fred- erick George, A Singing Lesson. Unawd ar y berdoneg, Variations and Fugue (Paderewski), Miss Edith Darbyshire, L.R. A.M. Ail chwar- euodd. Yn ei araith, sylwodd y cadeirydd mai hon oedd y ddeuddegfed flwyddyn a thrigam er pan agorwyd Eglwys Gynulleidfaol Gymreig gyntaf Birkenhead yn Chester Street drwy gyfarfod pregethu, lie y clywyd Gwilym Hiraethog ac Ap Vychan. Aed ymlaen ag ail ran y rhaglen Unawd, A Life's Lesson, Madame Myra Roberts. Unawd, Mr. Fred- erick George, Floral Dance; ail ganodd. Unawd ar y crwth, Miss Morfydd Hughes, Second African Dance (Coleridge-Taylor). Unawd, Madame Humphreys-Lees, O na byddai'n haf o hyd ail-ganodd, Little Damosel. Deuawd, Mr. Griff Owen a Fred- erick George, Battle Eve; ail ganasant, Watchman, what of the Night. Adroddiad, Mr. J. R. Salisbury, Cyngerdd y Llan, ail ad- roddodd The Welsh Pessimist, a bu raid iddo adrodd drachefn,Lecture on a Liont-ycwbl o'i waith ei hun. Unawd, Mr. Griff Owen, Mona. Pedwarawd, Mesdames Humphreys Lees a Myra Roberts, a Mri. Griff Owen a F. George, Sleep, gentle Lady. Diweddwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau a'r cwbl yn felys iawn. Y mae Grace B. Jones, merch fach dair ar ddeg oed Mr. J. R. Jones, Thackeray Street (ac a ddysgwyd gan Miss Edith Jones, L.R.A.M., Mulgrave Street) wedi pasio arholiad y Royal Academy of Music a'r Royal College of Music, yn yr adran elfennol gyda distinction. Hwi Grace 0 CYNGERDD DAVID STREET.—Nos Calan, daeth llond capel i David Street i wrando gwledd gerddorol ac adloniadol oedd wedi ei pharatoi ar eu cyfer. Cynhwysai'r rhaglen bigion gwlad a thref, ac yr oedd calon llawer un o'r hen wlad oedd yno yn llamu o lawenydd wrth glywed Dewi Mai o Feirion yn canu pen- hillion mor swynol, a'r Telynor Dall yn tynnu mel o'r tannau man- Llywydd y cyfarfod oedd Mr. R. R. Thomas, Bentley Road (Cric- ieth gynt), yr hwn a draddododd anerchiad dra phwrpasol, a chyfrannodd yn hael at amcan y cyfarfod, sef y Sale of Work sydd i'w chynnal yn Ebrill nesaf. Bu raid iddo ym- adael cyn diwedd y cyfarfod, a chymerwyd ei le gan Mr. J. Evan Morris. Gwnaeth yr holl ddatgeiniaid a'r adroddwr eu rhan wrth fodd calon y dyrfa. Dyma'r rhaglen detholiadau ar y delyn gan y Telynor Dall, gan roddi tine Cymreig hen ffasiwn i'r cyfar- fod. Canwyd "Ar y traeth," "Gwlad y Bryniau," a Nant y Mynydd," yn dder- byniol iawn gan Miss Gwladys Hooson, soprano ieuanc obeithiol o Goed poeth. Meistr- olgar iawn oedd datganiadau Mr. R. J. Will- iams, David Street, Lerpwl, o Light of the World a Niagra." Canu penhillion gan Ddewi Mai yn odidog ryfeddol, a'r dyrfa'n clustfeinio'n astud. Canwyd Friend a Sink, red Sun gan Miss Elsie Hulme-Jones yn neilltuol. Yr oedd Mr. Ifan Tomos yn ei ,hwyliau goreu yn adrodd Modryb a F'Ewyrth," a thynnodd y ty i lawr am ei ben. Encoriwyd y cwbl yn frwdfrydig iawn. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Miss Jennie Thomas. Y mae'r trysorydd (Mr. W. W. Davies, Wen- dover Avenue) yn disgwyl elw da oddiwrth y cyfarfod. CYMRU FYDD ANFIELD.—Terfynwyd 1913 a chanol tymor llwyddiannus yr uchod mewn modd hynod hapus. Ar wahoddiad caredig Mr. Wm. Evans, Y.H., un o gyn-lywyddion y Gymdeithas, daeth cynuhlliad llfosog ynghyd i fwynhau rhaglen ysblennydd amrywiaethol ac ymgomwest, yn cael eu coroni a chwpan- aid o de rhagorol. Y datgeiniaid oedd Miss Jenny Maldwyn Jones, Madame Myra Ro- berts, a'r Mri. Steve Lloyd a Frederic George, a rhoddodd pob un foddhad digymysg. Diolch yn arbennig i Miss Maldwyn Jones a Mr. George am eu caneuon Cymraeg campus, er creu'r awyrgylch briodol i'r Gymdeithas. Cafwyd deuawd nodedig o ddifyr gan Miss Jones a Madame Roberts, Over the hawthorn hedge," a phedwarawd gan yr Arcadians, Merrie England," swynol dros ben. Cyfeiliwyd gyda'i fedr hysbys gan Mr. Bert Kennison. Yn ben ar y cwbl, syfrdanwyd pawb garr Mr. Arthur Erskine, conjuror, gyda'i gampau gwyrthiol bron. Darparydd y rhaglen oedd Mr. Sam Evans, a diolchwyd iddo ef, y cadeirydd, y perfform- wyr, a'r boneddigesau am eu gwasanaeth gwerthfawr gan y Mri. Jno. Meek a Lewis Edwards. Dengys yr adroddiad blynyddol fod cynnydd o 6 yn yr aelodaeth. Llyw- yddion y Gymdeithas ydyw Mr. John Herbert a Mrs. T. J. Thomas cadeiryddion, Mr. Rd. Williams a Mrs. O. Eilian Owen trysorydd, Mr. Evan Williams ysgrifennydd ariannol, Mr. J. Vaughan Hughes a'r ysgrifenyddion, Misses Fanny Jones ac Euronwy Jones, a'r Mri. Eleazar Roberts (ieu.) ac Alun E. Jones. Llwyddiant a ddilyno eu llafur cariad, a rhagored yr ail ran o'r tymor ar y cyntaf, os oes modd. GWAITH CENHADOL.—Llawer o son sydd yn y dyddiau hyn am y Gwaith Cenhadol a wneir mewn gwledydd tramor, ymhlith pagan- iaid y byd, yn enwedig yn y dwyrain pell, yn India a China a Japan, etc., a'r cri a ddatgenir yn uchel yn awr yw,—" Y Byd i Grist yn ystod yr Ugeinfed Ganrif." Nis gellir byth ddweyd na gwneud gormod yn y cyfeiriad hwn, a bendith Duw fyddo ar ymdrechion pawb sy'n awr yn llafurio ynglyn a'r gwa- hanol Gymdeithasau Cenhadol Cristionogol ymhob rhan o'r byd paganaidd, fel y byddo i'r gwaith ardderchog hwn gynhyddu a llwyddo, nes y pregethir yr Efengyl dra- gwyddol i bob enaid byw. Ar yr un pryd, y mae yma lawer o baganiaid wrth ein drysau, o fewn y wlad fwyaf Cristionogol dan haul a llawer ohonynt wedi syrthio i gyflwr isel a thruenus, fel nad oes obaith am eu hadfer, ond yn unig trwy'r Efengyl. Yr un Efengyl sy'n abl i agor llygaid deillion paganaidd India all godi'r tlawd o'r llwch a'r anghenus o'r domen, yn slums Liverpool. Y mae'n dda gennym sylwi fod yma amryw chwiorydd teilwng yn ymroi i wneud gwaith cenhadol rhagorol iawn ymhlith y Cymry yn rhannau isaf y ddinas hon, a'u bod yn ennill llawer o'u cydgenedl i droi o gyfeiliomi eu ffyrdd at y Duw byw,ac i fynychu moddion gras ar ddydd yr Arglwydd a nosweithiau'r wythnos. Y mhlith y chwiorydd lafuria yn Liverpool, gallwn enwi y rhai canlynol fel rhai ddyry eu holl amser i'r gwaith cenhadol trefol :-y Chwiorydd Evans, Williams, a Watkins, yn gweithio mewn gwahanol fannau ymhlith y Cymry, a Miss Radcliffe ymhlith y Saeson, ac y mae'r pedair hyn wedi addo, yn garedig iawn, roddi ychydig o hanes eu gwaith cen- hadol hwy eu hunain, ar y Nos Saboth nesaf, yr lleg cyfisol, yng nghapel Chatham Street, a disgwylir y cenir unawdau gan Sister Will- iams a Sister Watkins yn y cyfarfod. Y mae y gwaith hwn yn un mor bwysig fel y dylai ein holl eglwysi gymeryd y diddordeb neilltuol ynddo, a gobeithiwn y bydd y cyfarfod uchod mewn modd amlwg o dan fendith yr Arglwydd Ceir y manylion mewn hysbysiad ar golofn arall.—J.J.B. o

BOOTLE. I

I Y CYFARFOD MISOL'

o Big y <.Lleifiad

Advertising