Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Cyhoeddwyr y Cymod Y Saboth…
PALAIS DE LUXE, LIME ST. LIVERPOOL. LLUNIAU BYW SYMUDOL Ohwaethus, dyddorol, ac adeiladol ac TN BARHAOL, 0 2.0 hyd 10-30 bob diwrnod o'r wythnos. enwoh pan j mynnoch, ae arhoswcb cyhyd ag y dymmiooh e yn rhad heb dal rhwng 4 a 6 yn yr Orchettr Stalls, Pit Stalls, a'r Dre" Circle, Mynediad, I I- a 6ch
.Gyda'r Clawdd.1
LIVERPOOL WELSH NATIONAL SOCIETY. ON FRIDAY EVENING, JAN. 9, 1914. at the Royal Institution, Colquitt St., commencing at 7-45 — ELIDIR SA1S — (Mr. W.J Hughes.Jones, B.A.), wilFgive^an ADDRESS on Thel New Poetry of Wales." ¡'- Chair tojbe taken it by Mr. IT. !TALIESIN IPEES. All are welcome, 52 HertfordlRd., R. Vaughan Jones, Bootle- Hon. Sec. Eisteddfod Cadeiriol Widnes. (19th ANNUAL). Thursday, February 26th, 1914. Musical Adjudictor-Dr. CARADOG ROBERTS (Mus., Doc., Oxon), F.R.C.O.,A.R.C.M., L.R.A. Chief Choral Sing unto God," (Judas Mac) Male voice Choir Spartan Heroes," iProthero Juvenile Choir The Lord is my Shepherd," (H Smart) Congregational Choir '\Send out thy Light" f w (Gounod) Orchestral Band Competion (12 instruments) Music Own Choioe. S.C.T.B., Solos; Piapoforte, Violin and Grand Challange Solo, (own Choice), See full list of oubjeots, free on applications (per post J stamp) from-Mr. J G Jones, Collenfab; 57 Albert Road. Widnegj Capel Anibynol Kensington iTraddodir DARLITH yn y Capel uchod, Nos Fercher, Ion. 14eg, 1914, gany Parch. J. 0. Williams (PEDROG). Testyn: Trwy Ddrych Atgof. Cymerir y Gadair am 7.30 gan W" J Y West WHHam Jones, Ysw., SSy MYNEDIAD I MEWN = 6ch. Yr elw at ddyled yr Eglwys. Chweohed EISTEDDFOD GADEIRIOL Y PLANT LLANERCHYMEDD, Lion a Mawrtb y Pasc, 1914. PRYDDEST, i rai dan 21 oed, Coiia yn awr dy Greawdwr." Gwobr, Cadair dderw hardd. C6R PLANT, Brenin y Bore (D. D. Parry). 14 /4 £ 2/2/ HER-ADRODDIAD (pob oed). 91 II UNBHYW DDETJAWD (pob oed). ;El 110 HER-UNAWD (pob oed). CANU* GYDA'R DELYN (pob oed). £ 2' 12 El /I/ a 10/6. Nifer fawr o gystadleuaethau i blant mewn Rhyddiaeth, Barddoniaeth, Adroddiadaui Cerddoriaeth, Drills, a Chelfyddydwaith. Anfoner yn ddioed am restr gyflawn o'r Testynau. Pria lc. drwy'r post, lic. ysgrifenyddion- OWEN T. JONES, 20 Twrcyhelyn Str. R. ROWLANDS (Myfyr Mon), Wilpol. Printed and Published by the pro- prietors, Hugh Evans and Sons, 356.8 Stanley Road, Liverpool, In the County of Lancaster. Tel. 591 Bootle. f
Family Notices
DYDDIADUR. IONAWR, 1914. O-Oyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol 13-Cymdeithas Genedlaethol Oilgwri 14—Darlith yn Kensington 17, 18-Cyfarfod Pregethu Wesleald Egremont 24. 25-Cyfarfod Pregethu Laird Street 31—Eisteddfod Plant BootIe F3 OHWEFROI* G-Cyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol 7-Cyfarfod Cystadleuol yn Laird Street 7, 8-Cvfarfod P*»=cethu yn Park Road 10-Cymdeithas Stn^dlðol Oilgwri 14—Cyngerdd yr 118 leb Corawl yn y Phllharmonie 18-Darlith yng Nghapel M.O., Edge Lane 20,21—Cyf. Cystadleuol Unedig Oylch y De, ChathanrSt. 22-Cyfarfod Pregethu yn Grove Street 23-Darlitb yn Grove Street 28-Cinio Gwyl Ddewl Oymdeithas Ollgwrf 28-Cinio Gwyl Ddewi Lerpwl MAWRTH. 0 7 8-Cymanfa Wesleaid Lerpwl a'r Oylch 7-Cyngerdd y Cymric 7—Eisteddfod Earlestown 8-Cor Meibion Claughton yn Port Sunlight 13—Cyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol 14-Perfformio Elijah yn Douglas Road 21—Eisteddfod Bglwys Rydd y Oymry Birkenhead 28—Brahms' Requiem," etc., gan yr Undeb COlaw) 30—Cymanfa Ganu y M.C yn Sun Hall EBRILL 1 2, 3-Sale of Work David Street S-Oyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol 10-12 Cymanfa Bedyddwyr Palmerston Drive 18-Cymanfa unedig y Plant yn Claughton Road Y Pasc-Eisteddfod Birkenhead 25, 26-Cyfarfod Pregethu yn Clifton Road as, 26-Cyfarfod Pregethu yn Park Road 26, 26—Cyfarfod Pregethu Everton Village Cymru, 6c. Chwef. 26-Eisteddfod WldTes Llnngwyn-Eisteddfod Mon
Advertising
Cyhoeddwyr y Cymod Y Saboth nesaf. Y METHODISTIAID OALFINAIDD PsraOES ROAD—10 a 6, H H Hughes DAVID STREET—10.30 a 6, J D Evans, Pont y pridd FITZCLABENCE STREET—10 a 6, J Hughes DOUGLAS ROAD—10 a 6, L Lewis CHATHAM STREET—10-30 a 6, R R Hughes CROSSHAIR STREET—10-30 a 6, S V Williams, Cyaegr AKFIELD ROAD-IO.30 a 6, J Owen HBWSHAM PARK—10 a 6, R Aethwy Jones BOOTLE-10 a 6, 0 Lloyd Jones PARS FIELD—10.30 a 6, W M Jones SEACOHBE—10.15 a 6, G. W. Griffith GARSTON—10.30 a 6, J Daniel Evans ROCK FERRY-10.30 a 6, 0 J Owen WALTON—10.30 a 6. E J Evans WATERLOO—10.30 a 6, W Henry PEEL ROAD—10.30 a 6, R W Roberts EDGE LANE—10.30 a 6, D Jones WEBSTER ROAD—10.30 a 6, J Owen Jones, Bala LAIRD STREET—10.30 a 6. William Davies, Aberdar WOODCHTTRCH ROAD—10.30 a 6, J Jones, Trawsfynydd NEW BRIGHTON—10.30 a 6, R J Jones, Bangor WEST KmBY-ll a 6, T Talwyn Phillips, Bala SOUTHPORT-IO.30 a 6, R J Williams HTJYTON QUARRY—10.30 a 6, G Tibbot, Manoemion WHISTON—10.30 a 6, ST. HELENS— ST. HELENS JUNCTION— BANKHALL-6.15, Griffith Jones ELLESMERE PORT—10.30 a 6, RUNCORN-IO a 6, WIGAN—2.30 a 6, WILLIAM MOULT STREET—6-15, ASHTOK IN MAKERFIELD-IO.30 a 6, D J Hughes, Alntree PP. WARWICK STREIdT-6.15, SKELSEERSDALE—10.30 a 6, David Hughes, Bootle YR ACHOSXON 8EISNTG. OAKHELD ROAD—10.45, a 6.30. T G Owen EVERTON BRow-10.45 a 6.30, D W Morgan CATHARINE STREET—10.30 a 6, J Talog Davies SPELLOW LANE—11 a 6.30, G R Jones, BREEZE HILL—11 a 6.30 H Ridehalgh Jones ORRELL, BOOTLE-ll a 6.30, J Howell Bvans EGREMONT—10.30 a 6.30, T C Williams, Porthaethwy WILLMER ROAD—10.45 a 6.30, J H Howard YR ANNIBYJ» WY& TABERNACL—10.45, T Price Davies 6-30, 0 L Roberts PARK ROAD—10.30, J 0 Williams 6, J Vernon Lewis GROVE STREET—10.30, Dr Owen Evans, 6-15. D Adams CLIFTON ROAD—10.30 a 6-15 D J Moses Oycroes GT. MERSEY ST.—10.30, Myles Griffiths. 6, R T Williams MARSH LANE—10.30, R 0 Jones, 6, A Jones KENSINGTON—10.30, J V Lewis 0. J 0 Williams TRINITY ROAD—10.30, D Adams 6 Dr Owen Evans LTscARD-10.45, 0 L Roberts 6.15, T Price Davies VICTORIA ST-10.30, Albert Jones 6.15, R 0 Jones BALMORAL ROAD—10.30 a 6, J D Evans, Pwllglas HEATHFIELD RD-10.30, Ysgo! 2,30, D Adams PRESCOT—2.15 a, 6 J Mostyn Williams, Maneelnlon SOUTHPORT—10.30, a 6.30, J T Rees, Bryncrug EARLESTOWN—10.30 a 5.30, Cyfarfod Gweddi GOLBORNE-10.30, Oyf Gweddi 5.30, Oyf Ysgol ASHTON-IN-MAKERFIELD—10-30 a 5-30, Isaac Owen Y WESLEAID OAKFIELD—10.30, J Felix 6 E J Parry SPELLOW LANE—10.30.T 0 Jones 6 J W Felix BooTLB-10.30, J W Felix 6, John Felix EDOB HILL—10.30, E J Parry 6, D Jones KNOWSLEY ROAD—10.30, 6, T 0 Jones MYNYDD SEION—10.30, L Edwards 6, W 0 Bvans BIRKENHEAD—10.30 a 6, T I Hughes WIDNES-10.30 a 6, J Lloyd Jones GARSTON—2.30, L Edwards 6 P Lloyd EGREMONT—10.45, W 0 Evans 6. L Edwards ASHTON-IN-MAKERJTETJT)—10.30, Ed Evans e F E Jones EARLESTOWN—10-30, J Lloyd 6, H Curry GOLBORNE-2, Hugh Curry 5.45, J Lloyd SPRING VIEW—2, F E Jones 6, Hugh Roberts LEIGH—10.30, F E Jones 5.45, John Williams ST. HELENS—10-30, Oyf Gweddi 6.30 Edward Evans Y BEDYDDWYR. EVERTON VILLAGE—10.30, J Davies 6 D Powell WINDSOR ST-10.30 a 6, J Valentine Evans, Clydach BOUSJTELD STREET—10.30, R T Williams 6, M. Griffiths WOODLANDS—10.30, D Powell. 6.15, J Davies EDGE LANE—10.30 a 6, H R Roberts BALLIOL ROAD-10.30 a 6, P Williams 8EAC0MBE—10.45 a 6.15, R Lloyd PALMERSTON DRIVE-tO. SO, L W Lewis, 6 E W Wynn. EGLWYS RYDD Y OYMRY. CANNING STREET—10.30, Hugh Jones 6, W 0 Jones HIGH PABK ST—10.30, Alun Jones ft, D Davies BOOTLE-IO.30, W 0 Jones 6, Hugh Jones BIRKENHEAD—10.30. D Davies 6, R Thomas DONALDSON STREET—10.30, Cyf Gweddi 6, R T Roberts YR EGLWYS SEFYDLEDIG Dewi SANT—11, a 6.30, R D Hughes ASAPH SANT—10.45 a 6.30, William Owen DEINIOL SANT—11 a 6.30, Robert Davies WINIFRED SANT—11 a 6.30 J Hughee
Advertising
Ebion Abertawe. I I rOAN LWYD Y BERTH.] AR gais y Golygydd mwyn, anfonaf yn awr ac eilwaith air am helyntion y dref hen ac enwog ar lannau Tawe. Edrychir ymlaen yn awr at Gyfarfod Adran Nedd a Thawe o'r Gynhadledd Gymraeg sefydlwyd yn ddiweddar ar lannau Nedd. Cynhelir hwn yn Neuadd y Dref ddydd Sad- wrn, lonawr 3 lain, am 2.30 ar gloch. Cafwyd addewid am luniaeth gan Faer y Dref (yr Henadur T. Taliesin Corker), a bydd ef yno i roi croeso i'r cynrychiolwyr. Yr oeddis am gael cwrdd yr adran yn neuadd y dref er gorfodi'r teulu uniaith sy'n rheoli neuaddau felly, a swyddfa'r clerc trefol, i gydfyw am ychydig oriau a mudiad hollol GYMREIG, a chlywed acen iaith y fro. Corgwn bychain o glarcod disut yw cyfeillion goreu'r gwrth- Gymreigwyr, a dylid ymgais ymhob tref i osod terfynau ar waith pysgod bychain ar y fath, a llyfanu tipyn ar eu dannedd. Hyderir y bydd dau gynrychiolydd o bob Cymdeithas Gymraeg rhwng Llanelli a Chwm afon yn ymbresenoli yn Abertawe ar y dydd a nod- wyd. Ar ran y cynhullydd, sydd wedi bod yn rhwymau annwyd, gwnaed y trefniadau yn hylaw ac yn siriol gan Mr. D. Morlais Samuel. Gwelir fod Llyfrgell Caerdydd yn copio Abertawe o'r diwedd, trwy drefnu dwy ddar- lith yn Saesneg ar destynau Cymreig. Ond aeth gwyr Abertawe ymhellach eisoes, gan fynnu darlithiau Cymraeg cyhoeddus ar nos Sadwrn. Bu Sarnicol a'r Parch. Eurof Walters, M.A.,B.D., yn dal pen y llinyn cyn Nadolig,gyda llawer o frwdfrydedd a hyotledd. Maes o law, bydd Mr. T. Matthews, M.A., yn darlithio yn Gymraeg ar y celfydd John Gibson," gyda darluniau a nes ymlaen, daw y diwyd a'r doniol John Meredith, cadeirydd y Cymrodorion, a hanes ei daith i Lydaw adeg cynnal y Ffair Geltaidd yn Nantes. Ceir darlith bwysig arall ar Yr Adfywiad Cenedl- aethol," gan un o blant llenyddol y dref-Mr. Osborne Samuel, B.A., Ysgol Sir Abertileri. Fel hyn, ceir ami arwydd fod Cymry ieuainc y dref o'r diwedd yn dihuno ac yn llwyddo i symud yr awdurdodau. Cafwyd gwledd flasus odiaeth i'r Cymodorion bwy ddydd drwy'r Brethyn Cartref" fedr y Parch. Rhys J. Huws weu gyda deheurwydddihafal. Y tywydd fu'n llethu pawb. Fel hyn yr anerchwyd Talnant gan un o'r egin feirdd ax Ddydd Calan 'Rwyf yma'n fawr fy ffwdan, Yn dynn wrth fon y pentan, Gan sbio'r eira'n dod i lawr A minnau 'nawr yn egwan. Mi dreuliais ddyddiau Gwila Wrth fin y tan a'r llyfra, A dolur pen a pheswch trwm Fel Mari Mwm yn hela. Gobeithiaf fentro allan At waith yn lied ddiegwan, Ar fora Mawrth, os llwydd a ddaw, Er gwaetha'r baw a'r berman. Dymunaf iwch a'r teulu Bob llwydd y flwyddyn newy' 9 Digonedd mawr o fudd a maeth A dechreu'r daith dan ganu Nid oes neb yn fwy hapus ynglyn a chyfarch Nadolig na'r Athraw J. Young Evans, M.A., Aberystwyth. Bu ef yn annerch ei gydnabod fel hyn, yn Saesneg, Lladin, a Chymraeg :— Yet once again, to-day, By proud Ceredig's boy, Where Rheidiol stands, with confluent Ystwyth meeting At our retired abode, Near saintly Padarn's road, Our brief Encyclical we write-in "festal greeting. ■ Laetitiam uobis Domini Natalia donent, Atque nouent anno qaudia uesra nouo. MCMxirr. Rhodded Nadolig i chwi lawenydd A mwy dedwyddwch drwy'r Flwyddyn Newydd. Prydferth iawn ac ysgolheigaidd, onite 1 Gwneled yr egin raddedigion rywbeth i'r cyfeiriad erbyn y flwyddyn nesaf Llawer o s6n sydd am Facwyaid, ond faint o waith a wnant ? Ni anghofiodd cyfaill arall am y llen-garwr tyner a'r argraffydd destlus o Landyssul, Mr. J. D. Lewis sydd ers talm yn dlawd ei iechyd, ond bellach, gobeithaf, ar gael adferiad llwyr Eiddunaf bob llawenydd A llwydd fawr flwyddyn newydd Gwelliant iechyd, bias at waith A llywio'r daith yn ddedwydd. Erbyn hyn, dyma Talnant yn dod a'i bill yn ei ben, a'i gywydd dan ei gesail, i gyfaill sy'n byw gerllaw iddo :— Mi gefais hwyl wrth ddarllen Beth ddaeth i'm llys ar gardan, Ac arno n6d y Beili Glas Mae moddion gras mewn triban. Ceir madd, a maeth, a moddion ~7 I swyno hyll ysbrydion, Yn esgyll mwyn y triban del, Er hel i ffwrdd ddolurion. Ar wawriad Blwyddyn Newydd Erfyniaf ddyddiau dedwydd I chwi a'r teulu ar ei hyd, A mwy—hyd yn dragywydd. Terfynaf drwy ddymuno Blwyddyn New- ydd Dda i'r golygydd mwyn, i f'annwyl gyfaill Mr. Hugh Evans, a phawb o deulu'r BRYTHON. —.—o
Advertising
MARW. HUGHEs-Rhagfyr 31, yn 290 Anfield Road, Hugh Hughes, o'r cyfeiriad uchod, a'r Tyddyn Du, Cemaes, M6n.
Advertising
YN EISIEU GWR A GWRAIG i ofalu am Gapel Wes- \jr leaidd Plimsoll Street, Edge Hill. Cyflog, Y,10 8s. Od. y flwyddyn. Ceisiadau i DAVID JONES, 14 Leda Street, Edge Hill.
aw- GOSTEG. 1
SUL YR YSBYITAI:- Cofied Cymry Lerpwl am y (asgliad y Sul nesaf! DONALDSON STREET CHAPEL. The Annual TEA AND CONCERT, will be held NEXT SA ruRDAY, JANUARY 10th, Artistes- Soprano, Mrs BUSFIELD. Contralto, Miss LILY EDWARDS. Tenor, Mr. GRIFF OWEN. Baritone, Mr. ALBERT COPPOCK. Entertainer, Mr. G. E. WILLIAMS. Elocutionist, Miss DORIS MAGINESS. Accompanist, Miss GERTRUDE KELLY, A.T.C.L Tea on tables 4.30 to 6.30. Concert commencing at 7.30. ADMISSION Tea and Concert, Is. Concert only, J6d.
DYDDIADUR.
Capel y Wesleyaid- Serpentine Rd., Egremont. ..Cyfarfod Pregethu.. Nos Sadwrn a'r Sul, IONAWR 17 A'R 18, 1914. Pregethir Nos Sadwrn, am 7.30 gan y Parch. J. Roger Jones, B.A., Manchester Sul, am 10.45, y Parch. F. E. Jones, Oakfield Am 2.30 a 6, y Parch. J. Roger Jones. Eisteddfod Plant Bootle. yn Neuadd y Dref Nos Sadwrn, lonawr 31, 1914. DAUER SYLW:- Y Cyfansoddiadau a'r Gwaith Celfyddyd ac hefyd Enwau y Corau, Action Song Parties, Cydadroddwyr, Unawdwyr, Adroddwyr, i fod yn llaw yr Ysgrifenyddion erbyn IONAWR, lOfed. Edward Jones, 10 Devonfield Rd., Orrell Park R- Vaughan Jones, 52 Hertford Road, Bootle Wirral Welsh National Society. ON TUESDAY, 13th JAN,, 1914, at 8 o'clock, In the Schoolroom of the English Presbyterian Church of Wales, Martin's Lane, Liscard, Sir VINCENT EVANS, Kt. (London), Will deliver a Lecture on 'Welsh National Monuments & their Preservation' Chair will be occupied by J. MORRIS. Esq., J.P- A hearty welcome is extended to all. Trysorau Cenedlaetbol y Cymry Traddodir Darlith (GYDA DARLUNIAU) ar y testyn uchod, Yn Ysgofdy Capel Princes Rd,, gan Mr. J. H. Davies, M.A. (Cofrestrydd Coleg Aberystwyth), Nos Wener, lonawr 16, 1914. Cymerir y Gadair am 7.45 gan Mr. JOHN MORRIS, Y H. Gyda'r Llusern Mr. LLEW WYNNE Mynediad i mewn yn rhad. Taer ddymunir ar i Gymry'r ardal ymdrechu bod yn bresennol. CAPEL CHATHAM STREET. Nos Sul Nesaf, Ion. 11, am 6 o rgloch cynhelir CYFARFOD ynglyn a'r Gwaith Cenhadol ymysg Cymry'r Ddinas. Ceir Anerchiad gan y Pareh. R. R. HUGHES. B.A., a hanes y gwaith gan y Ohwiorydd Evans, Williams, Watkins a Ratcliffe ynghyda chaneuon gan y Chwior- ydd Williams a Watkins.
Ebion Abertawe. I
aw- GOSTEG. 1 CENLLFR OALAN- v Daeth yma ddigon o gopi'r wythnos hon i lenxor BRYTHON ddwywaith trosodd a dyna hi, bu raid tocio a chrychu'r goheb- iaethau gado twmpath mawr hyd y rhifyn nesaf, gan frochi a dwrdio fod ami un ohonoch yn llusgo anfon eich newyddion a'ch nodion mor hwyr, yn lie troi ati yn y fan, er mwyn inDi eu cael fore dydd Llun yn lie bore dydd Mercher,—y bore y bydd y crwc yn Ilawn a chwithau felly'n colli'ch lie ac yn llifo trosodd. Diwygiwch rhag llaw, onite ni waeth heb a chyboli anfon o gwbl. Daw a dal o'r llithoedd gohiriedig yr wythnos nesaf.
Advertising
Gyda'r Clawdd.1 Sef Clawdd Offa. 1 I Gan GYMRO 0'1 GORYN I'W GARN. Goreu drws drws capel.-Ddydd Mercher, agorwyd capel newydd yr Annibynwyr, Tan y fron. Mr. Walter Davies, Arthog, ger Dol- gellau, agorodd y drws yn ffurfiol, ac ebai Yr wyf yn falch o'r anrhydedd. Y mae anrhydedd yn perthyn i agor adeiladau ereill, megis darllenfeydd, ysbytai, etc., a gwneir gwaith da ynddynt ond y mae mwy an- rhydedd yn perthyn i agor Ty Dduw, lie y meithrinir y bywyd ysbrydol. A byth na ddelo'r adeg pan y gwelir ei gau oherwydd na fydd yn gwneuthur y gwaith y bwriadwyd o iddo." Gwedi mynd i mewn i'r capel, dar- Ilenwyd salm gan y Parch. W. Thomas, Gwersyllt, a gweddiodd y Parch. O. J. Owen, Ponciau a chafwyd anerchiad gan Mr. Walter Davids, yn cynghori'r ddiadell a'r bugail i ymdrechu talu'r ddyled gynted y medront, a chrj, bwyllodd am ymdrech y di- weddar Williams o'r Wern i leihau dyled capeli yn ei oes ef, pan gasglwyd dros £ 60,000. Diweddwyd trwy weddi gan y Parch. R. Roberts, Rhosystyllen. Yn yr hwyr, llywyddai Mr. Thomas Jones, Y.H., Gwrecsam. Dechreuwyd gan y Parch. J. H. Richards, a siaradodd y llywydd a'r Parchn. R. Peris Williams, J. Talwrn Jones, J. D. Jones, R. Roberts, J. H. Richards, T. E. Thomas, a Mr. John Harrison, Coed poeth. Canwyd hefyd gan y Cor, o dan arwemiad Mr. Williams, a chanodd Mr. Leonard Bryan. Y mae'r eglwys mewn gwedd lewyrchus dan arweiniad ei gweinidog gweithgar, y Parch. W. Daniel a bellach, y mae iddi dy eang a diddos. Y pensaer ydoedd Mr. J. Harrison, Coed poeth a'r adeiladydd, Mr. R. Will- iams, Brymbo. Deuddyn sydd yn adna- byddus am onestrwydd eu gwaith. Y mae lie i 300 eistedd yn y capel. Methu dal !-Cythryblwyd ardalCoed poeth yn ystod llawenydd y Nadolig gan y newydd fod un o'r trigolion ar goll, sef Mr. John Will- iams, Assembly Road. Gwr pur adnabyddus yn y lie, o dueddiadau llenyddol, yn arfer ysgrifennu, ac wedi ennill amryw wobrwyon mewn cyfarfodydd cystadleuol a buwyd yn chwilio amdano am dridiau, pan ddeuwyd o hyd i ran o'i ddillad ar lan llyn perthynol i Gwmni Gwaith Dwr Gwrecsam a Dwyrain Dinbych. Gyrrwyd i Gaer am wasanaeth Hong fechan i chwilio'r llyn, ac yn union deg cafwyd ei gorff. Yr oedd wedi ysgrifennu nodyn yn Gymraeg, yn cynnwys ei enw a'i gyfeiriad, a'r frawddeg, Duw faddeuo imi'r hyn wyf ar fedr ei wneuthur." Bu dan law'r meddyg am gyfnod oherwydd dioddef ohono gan boenau yn ei ben. Bwriwyd yn y treng- holiad ddarfod iddo, ac yntau yn orffwyllog, roi terfyn ar ei einioes. Y Rhod yn troi.-Cafodd preswylwyr Tloty Gwrecsam wyliau llawen trwy garedigrwydd y Meistr a'r Feistres, y Gwarcheidwaid, a chyfeillion ereill. Darparwyd Coeden Nadolig hefyd i'r plant, a daeth amryw o'r gwarcheidwaid ac ereill ynghyd i'w gweled ac i gynorthwyo i wneuthur yr wyl mor ddifyr ag oedd modd i'r plant. Ymhlith yr ymwel- wyr yr oedd Syr George Askwith a'r Ar- glwyddes Askwith,—hyhi'n chwaer i Mrs. Fenwick, un o'r gwarcheidwaid, merched i'r diweddar Mr. Archibald Peel ydynt yr Arglwyddes oedd yn trosglwyddo'r anrhegion i'r plant. Diolchwyd iddi gan Mr. W. J. Fletcher a Mr. E. D. Roberts ac wrth ateb dros ei briod, ebe Syr Askwith Medrai fy mhriod ateb yn llawer gwell na mi, canys y mae wedi dod i'r ardal lie bu'n byw am flyn- yddoedd, a lie bu ei thadau'n byw, wedi dod i Gymru'n ol. Gallwn yn ystod ein pererin-, dod grwydro ymhell o Wrecsam ond pa le bynnag yr elom, hyderaf y cofiwn .bob amser mai Cymry ydym." Wei, diolch i chwi, Syr, bu adeg pan geisiai llawer anghofio'u bod yn Gymry, a cheisio cuddio'u cenedl o olwg pawb. Da gennym weled y rhod wedi troi. Cardod i'r Achos.-Bii c6r o gapel Bedydd- wyr Lodge, Brymbo, yn canu carolau, gan fyned oddiamgylch yr ardal, a hynny o gasgliad dderbynient yn cael ei roddi i chwyddo trysorfa'r eglwys. Dyma'u harfer hwy bob blwyddyn ers talm. Llam i dragwyddoldeb.—Bore dydd Sadwrn, bu farw Mr. Huw Simon, Bwlch gwyn. Yr oedd yn boblogaidd iawn gan ei gydnabod- Yr oedd yn ganwr da; meddai lais tenor gwych, ac enillodd droion ar ganu. Canai garolau nos Fercher a nos Itau, a bu farw'n frawychus o sydyn bore dydd Sadwrn, ym mlodau'i ddyddiau, yn ddeuddeg ar hugain oed. l PS 17 Daeth dros dri chant ar ddeg ynghyd i Bafiliwn y Rhos i wrando ar G6r plant y Capel Mawr yn mynd trwy operetta Caradog." Yr oedd yr esgynlawr wedi ei wisgo'n gyf- addas, a'r plant hefyd hwythau mewn gwisg- oedd oedd mewn cydgord a'r hanes a genid am Garadog. Mr. Emlyn Davies gyfeiliai y cadeirydd oedd Mr. Ernest Jones a diolchwyd iddo gan y Parch. Wynn Davies' Y mae Wesleaid cylchdaith Coed poeth wedi penderfynu gwahodd y Parch. H. M. Hughes, Caernarfon, i ddod i Goed poeth yn y flwyddyn 1917; y Parch. R. Garrett Roberts, Bangor, i ddod i Wrecsam a'r Parch. R. J. Parry, Bwlch gwyn,i ddod yno'n ol ar derfyn y tair blynedd nesaf. Bu masnachwyr Gwrecsam yn ceisio trefnu i gau eu masnachdai am ddeg ar gloch nos Sadwrn, a rhyw bythefnos yn ol, pender- fynwyd ar hynny ond ymddengys i wrth- wynebiad mawr ddod oddiwrth rai, a nos Fawrth, cynhaliwyd cyfarfod i ail ystyried y pwnc, a phenderfynwyd trwy fwyafrif mawr yri erbyn cau ddeg ar gloch. Gresyn na welsent eu ffordd yn glir i gau'n gynarach. Nid oes modd i'w gweithwyr deimlo ar eu calon i fynd i le o addoliad bore Sul. Ac y mae eu cwsmerxaid hefyd yr un mor flinedig. Druan o'r Sul, rhaid ei buteimo er mwyn ychydig elw ac eto, gelwir ein gwlad yn wlad Gristionogol D.R." ar i fyny.-Yr ydym yn falch o gael lion gyf arch ein baritone poblogaidd, Mr. D. R. Jones, ar ei brysurdeb a'i lwyddiant gyda'i ganu. Y Nadolig yr oedd mewn cyngerdd yn Gyffylliog, Rhuthin Boxing Day, Cyngerdd ac Organ Recital yn Llan- idloes Calan, unawd baritone a deuawd yng Ngholwyn Bay dydd Gwener, Her-Unawd (gyntaf ac ail) yng Nghynwyd dydd Sadwrn trechodd lu ar y baritone a'r ddeuawd (gyda'r cantor o Lerpwl) ym Methesda.