Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Ein Conedl ym Manioue-nion.…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Ein Conedl ym Manioue-nion. I Dyddiadur, r. IONAWR 1914 24—Te Parti Mawreddog yn Pendleton CHWEFROL 6-Darlith y Gymdeithas Genedlaethol 13-Cytarfod y Gymdeithas Genedlaethol 14—Cyngerdd Undebol y Band of Hope 22—Oyfarfod Pregethu Lord Duncan Street nhadon y Sul Nesaf. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Moss SIDE-10.30 a 6.30, D D Williams PENDLETON—10.30, E W Roberts 6; John Roberts HEYWOOD STREET—10.30, J Roberts 6 E W Roberts HIGHER ARDWICK—10.30 a 6, Hugh Jones, Tyldesley LEIGH—6, FAR.VWOKTH—10.30 a 6, J SRoberts EARMSTOWN—10.30 a 5.45, WARRINGTON—10.30 a 6, D Jones Hughes, Bootle BGIIWYS UNDEBOL ECOLES-ll a 6.30, Rhys J Lewis YR ANNIBYNWYR CHORLTON ROAD-10.30, Caleb Williams 6.15 J Howell, Ponciau BOOTH STREET—10.30 J Howell 6-15 Caleb Williams Penmaenmawr LD DUNCAN ST., SALFORD-10-30 J Morris 6-15 W 0 Jones QUEEN'S ROAD—10-30 a 615, George James HOLLINWOOD -10.30, Cyf Gweddi 6.15, J Morris, Salford WEASTE—10.45 a 6, W W Jones Y WESLEAID Dimwi SANT—10.30, J T Eitis 6, A Lloyd Hughes HOREB-10.30 Efrydydd 6, J M Williams BION —10.30, A LJ Hughes 6 Efrydydd BEULAH-2-30, J M Williams 6 T H Evans CALF ARIA—10.30, J Spencer Williams 6, J Roger Jones JECOLES—2.30, J Roger Jones 6.30 G Tibbott i Y BEDYDDWYR UP. MEDLOCK ST.—10.30, a 6, J H Hughes LONGSIGHT—10.30, a 6.30, ROBIN'S LANE. SUTTON—10.30 a 5.30 COLOFN Y CYFRIN. YN RHOSYDD MOAB.—Mae'r flwydd- yn newydd eisoes wedi peri tristwch a galar i amryw o'n cydnabod, trwy golli anwyliaid o bob oed. Wele rai y bu raid eu hebrwng i Ian y bedd, a throi cefn yno am y waith olaf byth Miss Sarah Davies, Seaton Street, Moss Side hi wedi dod o Ddyfllryn. Conwy, ac yn chwaer i Mrs. Griffith, priod y diweddar Robert Griffith, awdur Llyfr Cerdd Dannau meddai addfwynder a thynerwch cymeriad.—Mrs. Roberts, Upper Kent Road, y hi mewn gwth o oedran, a bu am amser yn rhydau'r lor- ddonen, a than gysgodau'r glyn, ond glyn goleu a dibryder er hynny. Bu'n fam ym- roddgar a gofalus, ac y mae plant iddi yma ac yng Nghymru a deimlant fod atgof yr hen aelwyd yn awr yn troi'n hiraeth trist; ym Mynwent Bagillt y gorwedd ei gweddillion hi. -Mrs. Coleman, Sale, chwaer oedd hi i Mrs. John Hughes a Miss Edwards, Derby Street, Moss Side, a chanddi amryw berthyn- asau adnabyddus ereill, sef yr Edwardsiaid, Llanuwehllyn.—Priod a mam ieuanc arall oedd Mrs. Forbes, merch Mr. a Mrs. John Evans (Gynogfab). Llif cydymdeimlad at y galarusion ac mor wag o falm fuasai'r byd hwn heb gred a gobaith am fyd a ddaw. AR Y DDEULIN I DDECHREU.— Cynhaliwyd cyfarfodydd gweddi yr wythnos ddiweddaf gan yr eglwysi Cymreig yn lied gyffredinol. Mor weddus ar ddechreu blwyddyn yw parhau hen arfer dda ein tadau. Yr wythnos hon mae pregethu am bedair noson gan y Wesleaid yng nghapel Hardman Street, gan y Parch. A. W. Davies, Rhyl. Eu cyfres cyfarfodydd adfywiol ydynt. Haeddant glod am eu gwahoddiad cynnes hysbysebol i bawb, yn enwedig pan y evnhwysa'r ddau air anghyffredin hyn Dim Casgliad cynhwysant hyawdledd mud yn y cyfnod hwn pan droir popeth bron yn flwch casglu. LLEFARU AM YN LLE LLEFARU W RTH.-Adeg fanteisiol y cyngor yr awgrym e.'r adduned yw dechreu blwyddyn a dyma esboniad da i awgrym na ddylem ei ollwng dros gof. Fel hyn yr esboniai Sion Ifan yr adnod A lefarasant bob un wrth ei gy- mydog" yn seiat Llanuwchllyn drigain mlynedd yn ol Mai y felltith ddilyna liaws crefyddwyr yr oes hon ydyw, eu bod yn llefaru bob un am ei gymydog, ac nid wrth ei gymydog. Mwy o lefaru wrthynt, a llai am danynt a wnai les." Yr un peth fuasai dy esboniad ti, Sion Ifan, pe'n fyw yn awr ar ddechreu 1914. EI BEN BLWYDD A'I HEN AEL- WYD.-Y Sadwm nesaf, yr 17eg, mae dydd blwydd geni Mr. Lloyd George, Gwelir ei enw yn rhai o'r dyddiaduron Saesneg, ond araf iawn ym ni'r Cymry i wneud hyn. Dyma ddwy enghraifft, Almanac y Miloedd, hen ddihareb sydd ar gyfer y dyddiad eto, Calendr BIwyddiadur y M.C." gwagle sydd yno, er fod rhai pethau gwleidyddol a pher- sonau Ilai eu daioni yn cael sylw mewn man- nau ereill. Ond dae waeth, cyn y cyfrif amser hanner can mlynedd arall ni fydd yr un almanac Cymraeg na Saesneg heb enw ein harwr ynddynt. Ffaith. Mewn ty distadl a llannerch ddiarffordd yn y dref hon y ganed ef. Yn § New York Place, allan o Marsden Street, C-on-M. mae march i un John Hughes, Llan- llyfni, yn byw yn y ty hwn yn awr. Ymwelir &'r lie yn achlysurol gan lawer, rhai o eithaf- oedd gwlad. Mae mwy o Gymry pell nag o Gymry agos yn pererinio i weled y llannerch y dysgodd Mr. Lloyd George gerdded. Dichon mai gorchest fwyaf ei fywyd y pryd hwnnw oedd dringo y ddwyris fach wrth y ddor heddyw, ein gorchest ni f'ai dweyd nifer y grisiau enwogrwydd a ddringodd ef. Mae'r lamp ar gornel y ty yn ddameg syml o'r lamp a oleuwyd yn y ty yn 1863, ac sydd erbyn hyn wedi taflu goleu cysurlawn i filoedd o aelwyd- ydd digon tywyll eu hamgylchiadau cyn hynny. Wrth sefyll ar lawr y gegin fach, gallwn ddweyd tan ryfeddu mai yno y sigl- wyd crud un sydd yn siglo meddyliau'r byd wrth geisio tegwch a chyfiawnder i'w gyd-ddynion. Flwyddyn yn ol i'r dyddiad uchod, rhoddwyd rubanau a baneri i harddu so anrhydeddu'r ty, ac yn fuar wedyn caed ar ddeall fod ym mwriad rhywun roddi carreg gof ar fur y tg-, ac hefyd hysbyswyd yn y Wasg Seisnig yn ddiawdurdod ac anghywir fod y Gymdeithas Genedlaethol am ymuno a'r boneddwr annatgudd i wreud hynny. Ond ni wnaed dim byd yn hyn, canys nid oes yno garreg nac unrhyw nod arhosol ar y muriau diaddurn, i gofio man geni y gwr hynotaf mewn llawer ystyr o neb yn fyw yn y wlad hon heddyw. Pa hyd yr erys Manceinion heb rhyw goffhad cyhoeddus teilwng o fan ei enedigaeth ? Pa hyd ? !5:

0 Faldwyn i Faesyfed.

Ysgol Bron Aber, Trawsfynydd.…

-Dyma Lyfr! I

Advertising