Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
.11 Stocktaking Sale II Commencing 19th JANUARY, 1914, CAMPBELL & LUMBY ———— THE LIVERPOOL JEWELLERS, offer to Customers during their ———— SALE a SPECIAL discount of I FRon 15 JO (3/- in the A) off all marked prices. Old Post Office Place, Liverpool, I TELEPHONE 3075 Royal. off Church Street.
Yr Ysgol is y Gelli.
Yr Ysgol is y Gelli. RYW foregwaith tawel yn yr Hydref diweddaf cychwynnais o fwg a mwrllwch dinas sydd ar ochr y Sais i Glawdd Offa i gyfeiriad y lanaf a'r Gymreiciaf o Siroedd Cymru cas gwr na charo'r Sir a'i maco. Cyrraedd ei chyrrau odiaeth ym Mlaenau Ffestiniog tua hanner dydd, a theithio wedyn yn y tren bach i gyfeiriad Minffordd, yng ngwydd ceinder ao aruthredd yn gymhleth a'i gilydd nes ffuriio golygfa nad oes mo'i thecach, os ces yn wir ei hafal, yn y wlad, na'r byd am wn i. Teithiais ugeiniau o weithiau'r ffordd honno erioed, ond bob tro'r elwyf ar hyd-ddi bydd yr olwg ar fynydd a dyffryn, clogwyn a chastell, rhaeadr a llyn, a choed a maes a mor ac afon, nid yn unig yn newydd, ond yn fwy newydd a rhyfeddol bob cynnyg. Yng rgolwg y gogon- iant dihefelydd hwn y magwydMorgan Llwyd. Yn ei ganol, acw is law ym Mynwent Maen- twrog, y gorwedd llwch yr Archddiagon Edmwnt Prys, yn ogystal a gweddillion llawer en aid dethol arall a ehedodd ymaith ar ei ol,— yn eu mysg William Roberts, Maentwrog, yr efengylydd effeithiol, a thad bardd Cadair Meirion eleni ddiweddaf yn y byd. Dacw hefyd Bulpud Huw Llwyd o Gynfal, heb fod nepell oddiwrth breswyl un o feibion mwyaf athrylithgar Cymru heddyw, sef yw hwnnw, Elfyn. Ond nid gwiw ymdroi'n hwy. Yr oedd yp fy mryd ac yn fy nghalon ymweled a'r Ysgol is Coed y Gelli yn Nhalsarnau,—nid talu yrnweliad," os gwelwch yn dda oblegid ni allaf fi, mwy nag ere ill a fu dan addysg yn yr Ysgol honno, byth obeithio medru talu'n llawn ein dyled iddi, naill na thrwy ymweliad na thrwy unrhyw ffordd arall. Diameu fod cannoedd o blant Cymru, sydd heddyw ar led y byd, hwythau'n teimlo rhywbeth tebyg tuag at yr Ysgol Ile'u dysg- wyd i ddechreu dringo gynt. Pob parch fo i athrawon Ysgolion Elfennol Cymru Gweith- iodd cannoedd ohonynt yn ddygn eu gwala ar hyd y blynyddoedd mawn dinodedd yn ami, gan osod i lawr sylfeini ar y sawl y goruwch- adeiladodd yr Ysgolion Canol a'r Colegau wedyn. Y mae llu mawr eto'n ddiwyd wrth yr un gwaith, ac yn gynhysgaeth amryddawn i lawer ardal mewn llawer cylch mewn byd ao eglwys. Un o'r rhain, ac nid y lleiaf ohonynt yw prifathro Ysgol y Gelli. Un o blant y Bala yw ef, Mr. J. J. Thomas wrth ei enw,— blaenor, cerddor, canwr, ac athro plant y buasai'n anodd ei guro a'i gymryd at ei gilydd. Nid swyddog mohono ef, ond gwr a gymer ddiddordeb angherddol yn ei ddis. gyblion, ac a gar eu lies a'u llwydd fel y c&r tad ei blant ei hun. Y mae fel petai wedi'i eni'n athro plant, ac y mae'r adroddiadau disglair odiaeth a roddodd yr Arholwyr am faith flynyddoedd am yr Ysgol a'i gwaith yn cadarnhau hynny. Bu llawer tro ar fyd a chryn newid ar yr Ysgol er pan fu rhai ohonom yn ddiseyblion ynddi, ond deil Mr. Thomas cyn ireiddied a chyn ieuenged ei ysbryd ag erioed. Mawr yw ei asbri o blaid y Gymraeg a'i llenyddiaeth a'i cherddi. Ni bydd byth yn fwy wrth ei fodd na phan yn deffro meddyliau ieuanc yr ardal i ddysgu caru ac edmygu bywyd a gwaith yr awenyddion mawr fu'n bywheb fod nepell o'r Ile,-Aforgan Llwyd, Edmwnt Prya, ae Elis Wyn o Las II Ynys, etc. Pan oedd GOlygYdd Y BRYTHON yn yr Ysgol hon ers talm, ni chlybu gymaint a oedd y fath wyr mewn bod ai peidio. Ond heddyw, wele gwnaethpwyd pob peth yn newydd a gwyn eu byd y plant a ddysgir rhwng y muriau hyn yn awr. Hir oes i'r athro a'i briod hawddgar a diwylliedig. Nid oes dim yn sirioli cymaint ar galon Mr. Thomas ag yw llwydd lliaws oli hen ddis- gyblion mewn llawer cylch ar fywyd. Fe I synnech ped ysgrifennwn restr o'r plant fu dan ei ofal sy'n awr yn addurn i bulpud a choleg ac ysgol a masnach, ymhell ac yn agos. Yn eu plith, ac yn un o'r rhai gloywaf ohon- ynt, y mae mab y Ty gwyn,—Mr. John Lloyd, M.A., athro yn yr Ysgol Sir, Abermaw. Y dydd o'r blaen, daeth i'm llaw gyfrol gain ei golwg a gwych ei chynnwys, o'i waith ef, sef Llyfr Darllen ac Ysgrifennu, at wasanaeth Ysgolion Uch-elfennol a Chanolradd yn bennaf, ond sy'n gymwys i'r Ysgol a'r Cartref ym mhobman. Dyma'r Traethawd buddug- ol yn Eisteddfod Genedlaethol Gwrecsam, 1912, a da iawn y gwnaeth y Mri. Hughes a'i Fab, o'r dref honno, ei gyhoeddi'n llyfr mor hylaw. Ceir yn y gwaith ddyfyniadau o ryddiaith a barddoniaeth llawer o'r Clasuron Cymraeg, a gwersi tra phwrpasol wedi'u sylfaenu arnynt. Ar ol gweld y llyfr, nid wyf yn synnu dim ddarfod iddo ennill y gamp. Dengys y detholiadau, o ran eu gwerth a'u hamrywiaeth, fod greddf y lienor yn gryf yn yr awdur, a'i fod yn hyddysg iawn yn llen- yddiaeth oreu'i wlad. Dengys y cwestiynau ¡ a'r gwersi sydd ar ddiwedd pob dernyn fod greddf a medr athro hefyd yn gryf yn y detholwr gwych a gwerthfawr tros ben yw'r Nodion Bywgraffyddol, etc., ar ddiwedd y gyfrol, ac y mae'r darluniau sydd ynddo'n wir- ioneddol dda. Yn awr, dyma gyfle euraidd i rieni Cymru ac athrawon ysgolion i roddi llawer o hufen Hen ein gwlad yn nwylo'r plant am ddim ond pymtheg ceiniog. Y fath amheuthun fuasai llyfr fel hwn i rai ohonom sydd eto'n gymharol ieuanc pan oeddym yn blant ac yn dyheu am wybod ychydig am lenyddiaeth Gyrnraeg. Clod i enw Mr. O. M. Edwards,—ef fu'n cymwynaswr pennaf yn hyn o beth, ond yr oedd rhai ohonom wedi dechreu myned yn fawr pan ddechreuodd ef ei waith da. Heddyw, dyma bawb yn ddiesgus wele yn eu cyrraedd ddyfyniadau o'r Mabinogion, Charles Edwards, Elis Wyn, Morgan Llwyd, Ceiriog, Emrys ap Iwan, Alun, Daniel Owen, Goronwy Owen, Gwilym Hiraethog, etc., etc., fydd yn sicr o fod yn agoriad llygad ac yn ddeffroad meddwl i'r ieuenctid a'u darllenont, a pheri iddynt rodio ymhellach ar hyd ffordd frenhinol llenyddiaeth Cymru. Mynner y llyfr ac astudier ef ymhob cartref ac ysgol, ac ond gwneuthur hynny, bydd llawer o ddiolch calon i Mr. John Lloyd, i Eisteddfod Gwrecsam, ac,—i'r Ysgol is y Gelli am fagu lienor ac ysgolor sydd hefyd yn gweithio er lies ei wlad. D. TECWYN EVANS. o—■—
Advertising
THE WtLSH" OUTLOOK A Monthly Journal of National Progress. The Education of the Welsh Doctor. The Religious outlooK in Wales. Evolution or Revolution. Art and National Life. Recent Welsh Plays. Modern Welsh Literatures NOTES OF THE MONTH: TheTeacher' s Register, The Land Campaign. The Living Wage, WALES AT WORK: National Museum of Wales. Agricultural.-Co-operation. I Welsh National Memorial. REVIEWS. COMPETITION. ILLUSTRATIONS. PRICE 3d. Now on sale at all Newsagents or will be sent post paid for 6 months for 2/ for 12 months 4/ W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers 200 SCOTLAND RD., Liverpool VlUPHOHi No. 5163 Royal J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, &c. 6 Lord Street, Liverpool TMLBPWOMM <111 MAMKa ALLAN Royal LINI The Popular Pioneer Line (1819 to 1913) qrc)l CAM J&IDIL. Regular Sailings from Liverpool, Glasgow. Londonderry, London. Plymouth <9 Havre. Lowest Fares. Cuisine & Comfort Unsurpassed ALLAN'S, Liverpool, 19 James St.; London, 1 Cocks pur St., &W.; 103 Leadenhall St., E.O.; Glasgow, 25 Bothwell "St. Agents Everywhere Pence Envelopes e FOR CHURCH COLLECTIONS. Good Quality. Correctly Numbered by Special Machine. 9 Hugh Evans & Sons, 'Brython 356-8 Stanley Road L'pool. I Esboniad Cyflawn AR YR HOLL FEIBL am bris Esboniad ar y Test. Newydd ju unig. Y Dehonglydd Beirniadol ar yr Hen Destament a'r Newydd, gan y Parch. John Jones (Idrisyn) mewn pedair cyfrol, fel newydd, wedi ei rwymo mewn llian cryf 18s. Eto (hanner rhwym) 25s. Hugh Evans a'i Feib., Swyddfa'r Brython For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE, SON & STOTT, LTD., 116, 118 6 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. Telephone 2131 Royal.1 J *1 ■!■■■ .nu,, ,1'IUIfMW Cynhygiad Neilltu ol., i Ddarllenwyr Y BRYTHON." Nm oes dim mwy hwylus a gwerthfawr na Fountain Pen da o gwneuthuriad y gellir dibynnu arno, a hynny am bris isel y gall pawb ei gyrraedd. Mae perchenogion Y BRYTHON—er mwyn eangu cylchrediad eu newyddiadur—yn oynny FOUNTAIN PEN o'r gwneuthuriad goreu guaranteed fitted with 14 carat Gold Nib, fine, medium or broad), ac yn gyfartal o ran el werth i rai a gynhygir am brisiau llawer uwch. Dyma'r telerau:— Am 3/6 (Postal Order). Neu am 3/- a phum Coupon. ,,2/6 a deg Coupon. Y Coupons i gael eu tori allan o'r BBYTHON. Gwna unrhyw ddyddiad y tro, ond ni chymerir mwy na thri o'r un dyddiad. Anfoner y Ooupons a'r Postal Order, ynghyda euVt a chyfeiriad yr anfonydd wedi ei ysgrifennu yn eglur. Cyfeirier yr archebion :— 356-358 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Fountain Pen Coupon; Y BRYTHON." Ionawr 15fed, 1914
..Ffetan y Gol..11
Ffetan y Gol..11 Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffet an mai dyma'r gair sydd ar ei genau:— NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. Ebwch Besimistaidd. I At Olygydd Y BRYTHON. I ?? I 11 1 ANNWYL SYR.—Ymhle r oeaa em OeIraa nos Wener ddiweddaf, pan oedd Elidir Sais yn bwrw drwyddi ? Braidd na theimlem fod gofyn gair yn ei bryd, er efallai na fuasai'r beirdd yn synied fod eisieu talu gormod o sylwi ebychiadau pesimistaidd y darlithydd. yr hwn, ychydig amser yn ol, fel yr addefai ei hun, oedd i'w gael yn canmol, braidd yn gor- ganmol, y rhai y mae yn dueddol i'w diystyru heddyw. Dichon nad oes ond gofyn tipyn o amynedd na chawn chwildroad arall, ac y bydd y darlithydd o dan amgylchiadau mwy hapus,yn cael gwelediad arall a syniad newydd am y clasuron Seisnig a barddoniaeth Gym- raeg y dyddiau diweddaf hyn. Oh I the glorious irresponsibility of youth !-Yr eiddoch yn gywir, R. WYNNE JONES. 10 Deane Road, Liverpool. ) Benthyciad lalwyn. I At Olygydd Y BRYTHON. I ANNWYL SYR.—Pan welais nodiadau'r Parch. T. Charles W lliams. M.A., ar Dyled y beirdd i'w gilydd," cofiais i mi sylwi dro'n ol ar y pennill hwn, a briodolir i Islwyn, ond nid wyf yn cofio'n awr ymha le yn ei weithiau y mae i'w weled :— Mae bryn ar gopa'r Andes Yn ymyl eilfyd draw Pan cyrraedd teithiwr ato, Fe fydd y storm islaw Fe wel y mellt yn gwibio, Fe glyw y daran gref ? Mewn pellter dwfn o dano, A dim o'i gylch ond nef. Yr oeddwn wedi arfer a meddwl fod Islwyn yn hollol wreiddiol," ond yn Byron's Poetical Works, tudal. 36, gwelirj When I roved a young Highlander oer the dark heath, And climbed thy steep summit,O Morven, of snow, To gaze on the torrent that thunder'd beneath, Or the mist of the tempest that gather'd below, etc. It is by no means uncommon, on attaining the top of Ben-e-vis, Ben-y-bourd, etc., to perceive, between the summit and the valley, clouds pouring down rain, and occasionally accompanied by lightning, "while the spectator literally looks down upon the storm, perfectly secure from its 49 effects." Mae'n debyg y gellir dweyd yma eto, "ei fod yn gwella ar y gweeiddiol," ond eifod yn gosod lie i un feddwl fod yn rhaid i Islwyn 14 ei weled."—Yr eiddoch, Cwm y glo. T. JONES-PARRY. Y gwin yn newydd a'r llestri'n hen. At Olygydd Y BRYTHON. SYR.—Er trymed cosfa gafodd gan Siluriad yn 1887, y mae Enwadaeth yn fyw o hyd, neu ni fuasai'n angenrheidiol i'r Parch. John Williams, Brynsiencyn, ysgrifennu ar y pwnc yn Y Beirniad yr 1913. Y ma) Mr. Williams yn awr ya wr rhydd, ac nid oes gan neb arall Well mantais nag ef i sylwi gan ei fod, fel tase, yng Nghaer gybi heddyw ac yng Nghaer dydd yfory. Sylwch mai nid yn erbyn enwadau yr ysgrifennodd yr un o'r ddau. Cofier," meddai Siluriad, ein bod yn gwneud byd o wahaniaeth rhwng enwadau ac enwadaeth y mae un yn angenrheidrwydd rhagluniaeth ac yn lled-ddaioni, tra riad ydyw'r Hall ond ymgorfforiad o gulni a rhagfarn. A dyma ei eiriau olaf yn yr ysgrif fu yn adseinio drwy Gymru bengwygilydd am flynyddoedd ar ol iddi ymddangos yn y Geninen, 0 Gymru, Gymru, pa bryd yr ysgubir ymaith oddiar dy wyneb glan bob cant, a rhagrith a Philistiaeth enwadol ? Ie, gofynnwn eto, pa bryd ? Ni'th elwir yn Gymru wen hyd hynny." Hwyrach fod rhyw fath ar gysur inni yn y ffaith mai nid cenedl y Cymry'n unig a boenir gan yr anhwylder hwr, a dyna un peth barodd inni feddwl am alw sylw darllenwyr Y BRY- THON at y pwnc. Y mae Kikuyu (caicw- i'w) yn debyg o fyw mor fydenwog a Cholenso yn hanes datblygiad diwinydd- iaeth yr Eglwys Anglicanaidd. Ysgrifennodd y Dr. John William Colenso, Esgob Natal, ei brif waith, ssf The Pentateuch and the Book of Joshua critically examined, gan ddechreu yn y flwyddyn 1862 a gorffen yP y flwyddyn 1879. Dyma oedd cychwynfa uchfeirniadaeth (higher critisicm) sydd erbyn heddyw yn weddol barchus. Ar y pryd, achosodd hyn gynnwrf ofnadwy, yn enwedig yng ngwersyll yr Esgobaethwyr. Ar y cyr taf, er mwyn osgoi twrw, dymunei'r esgobion ar iddo ym- ddiswyddo a gofynagant iddo wneud hynny, ond gwrthod yn garedig a wnaeth. Lor gysa oedd Archesgob Canterbury ar y pryd, ac eel ar ran yr esgobion a ysgrifennodd at Colenof, a dyma fel y gwnaeth hynny :— My dear Colenso,—With regret Your brethrer. all, in conclave met, Request you-most disturbing writer— To give up your Colonial mitre. This caus j. I beg to urge most strongly, And am, yours very truly, Longley. A dyma'r ateb My dear Archbishop—To resign This Zulu diocese of mine, And own myeelf a heathen dark, Because I've doubts about the Ark, And think it right to tell all men so, Is not the game for yours, Colenso. Nid oes fawr i gyd, os dim, gwahaniaeth, goeliaf fi, rhwng heresy hunt ao Enwadaeth. Yr un yw'r ysbryd-" Dall-bleidiaeth," cant, rhagrith a Philistiaeth." Yn ol y wasg feunyddiol Seisnig, cychwyn- odd heresy hunt fawr arall ychydig amser yn ol, o Zanzibar, ac y mae bellach wedi cyrraedd y wlad hor. yr helsmon yw Esgob Zanzibar, a mass yr he If a yw Kikuyu, British East Africa. Ymddengys i rhyw drigain o gen- hadon, etc., Dwyrain Affrica, gyfarfod mewn cynhadledd ym mis Mehefin diweddaf yn Kikuyu ¡;arda'r bwriad o gael cydweithrediad yr Eglwysi Cristionogol ar y maes cenhadol yn Nwyrain Affrica. Trafodwyd y pwnc lawer gwaith o'r blaen yn ystod y chwe blyn- add diweddaf. Yr amcan yw, nid dodi'r eglwysi nau'r cymdeithasau cenhadol yn y tawdd-lestr," a'u toddi'n un, eithr uno'r brodorion Cristionogol yn un eglwys frodorol. Ar ddiwedd y gynhadledd, gweinyddodd Esgob Mombasa ordinhad Swper yr Arglwydd, a chyfranogodd YT holl gynrychiol- wyr, sef rhai Eglwys Loegr (ac yn eu plith Ebgob arall, sef Esgob Uganda), Eglwys Scotland, y Cryniaid, Bedyddwyr, Anni- bynwyr, Methodistiaid, etc. ac wrth dder- byn i'r cymundeb rai sydd y tu allan i Eglwys Loegr, yr oedd y ddau esgob yn cydnabod urddau nad ydynt Esgobaethol ac os y caniateir hynny yn Affrica, nis gellir, yn hawdd, ei warafun yma, yn Lloegr. Dyma ysgatfydd yw prif asgwrn y gynnen er hwyrach fod yr helynt yn debyg o ddat- blygu'n firwgwd rhwng uchel-Eglwyswyr ac isI-EglwySwyr, neu y rhai sy'n coleddu diwinyddiaeth y Canol Oesoedd, a'r rhai sy'n coJeddu diwinyddiaeth yr ugeinfed ganrif. Pa bryd y daw Eglwys Loegr i gydnabod yn ymarferol mai adran yn unig ydyw hithau o'r Eglwys fawr y tu allan i'r eglwysi," sef Eglwys Gatholig (gyffredinol) Crist ? Gelyn gwaethaf Cristnogaeth yw ysbryd drwg enwadaeth. Goreu drws drws agored. G. GRIFFITHS. Grassendale, Ion. 10, 1914. Llygad Pwy ? At Olygydd Y BRYTHOST. SYR,—Pan oedd oriau olaf yr hen flwyddyn yn prysur ddirwyn i'r pen, edrychwn yn synfyfyriol i gyfeiriad y tAn yn araf losgi allan' a gwrthrychau pluddglwyfus yn ymwthio heibio yn y meddwl y naill ar ol y llall; rhag i mi gael fy llethu yn llwyT, ac er mwyn ychydig o newid a seibiant meddyliol,estynnai fy llaw at y Geninen am 1900, y chwe rhifyna wedi eu cyd-rwymo cydrwng Ceninen Gwyl Ddewi a'r Eisteddfodol, ond nis gallwn ddar- llen ond ychydig. Yn ddamweiniol, wrth droi'r dail, ond cyn troi'r cwbl o ddail y Geninen Eisteddfodol, gwelwn yr englyn canlvnol:— "Y LLYGAD (Pontardatoe). Haul odiaeth y gwelediad—cu glo'r owsg A glyw'r corff yw'r Llygad Ac ym mellt ei eigion mad, Y chwery llid a chariad Brynaman. R. JONES. Wedi darllen yr englyn, cofiwn iddo ennill mewn cystadleuaeth yn un o brif drefi gwlad eang Lleyn, ers tua dwy flynedd yn ol ao mewn cyfarfod arall nid nepell iawn o ynys Enlli; bu'r un ymgeisydd yn Uwyddiannus i ennill v wobr yno hefyd. CRAIG YR IMBILL.
I Yswiriont GencHloethor lechyd…
I Yswiriont GencHloethor lechyd Cardiau Cyfrannu.—Dymuna'r Dirprwy- vryr ddwyn i sylw cvflogwyT y bydd Cardiau Cyfrannu, yn y dyfodol, mewn grym am gyfnod o 26 wythnos, ac eithrio'r cyfnod a ddechreua ddydd Llun, Tonawr 12, 1914. yn ystod yr hwn y bydd y cardiau mewn grym am 25 wythnos. Hefyd, dymunant alw sylw y bydd i'r cardiau arbennig ar gyfer personau a ddeil Dystysgrifau Eithriad gael eu hanfon, yn y dyfodol, yn syth i'r personaii hynny gar y Dirprwywyr Cymreig, ac nid i'w cyflogwyr.
Wrth sbio ar y Bwrdd
-< 111 mynd i Dowyn Meirionydd a gweld y m6r am y tro cyntaf erioed. Y mae yma ami i air gwlad amheuthun o dlws a phriodol, a dyma enghraifit o ddychlamiad yr hen Ann pan welodd hi ferched sidanog y Towyn yn dangos eu hunain wrth droedio'r tywod:—" Mi dyffeia i fod amal un sy'n blu a blode o bobtu'r lie 'ma yn gryn sopen gartref, ac amal un o'r bechgyn 'ma sy'n swagro yn angel penffordd a diawl cil pentan." Y mae yna un stori Saesneg yn niwedd y llyfr, ond nid cystal honno a'r rhai Cymraeg o blwc. Pwy yw Sam Ellis ? Y mae 'r storiwr gwerth gwybod hynny, ddau tu'r Werydd. -0