Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

0 FOELWYN I FANOD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 FOELWYN I FANOD. [GAN Y CUDYLLI. I Bbynhawn dydd Iau, lonawr 8fed, wedi e chystuddio yn galed iawn am fis, bu farw Miss Edith Owen, merch hynaf Mr. a Mrs. Stephen Owen, arolygydd yr Heddlu, a hi ond 23 mlwyddoed. Niddisgynnodd llaw oer angau ar gymeriad glanach, prydferthach, na char- edicach erioed. Ni ddiferodd gair caled nao ymadrodd chwerw dros ei gwefus lan- ac ni chafodd ond y glan le i aros yn ei chalon am funud. Hawdd ydoedd canfod ers blyni, yddau yn wir ei bod hi yn addfedu i'r wlad Lie mae'r awel fyth yn dyner, Lie mae'r wybren fyth yn glir. Dodwyd oedd farwol ohoni i orwedd ym Mynwent Llanaber, ger Abermaw, brynhawn dydd Llun, lonawr 12fed. Nawdd y nef fyddo dros ei rhieni trallodus a'i hunig chwaer, Agnes H. Owen. Nos Sadwrn, yn Ysgoldy Jerusalem, cyn- haliwyd y cyfarfod dirwest wythnosol, pryd y gwasanaethwyd gan Obeithlu Bowydd, a berfformient fath ar ddrama fechan, Y Lili a'r Rhosyn. Cyfarfod gwych. Mae argoelion fod y fasnach yn awgrymu bywiogi braidd yn ein hanes ninnau, a mawr hyderwn fod haul llwyddiant wedi hollti'r cymyl. Ddydd Gwener, wedi cystudd trwm, bu farw Robert Griffith, Gelli uchaf, yn 56 mlwydd oed. Mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'i blant sy bellach heb dad na mam, ond Tad yr Amddifaid.

Advertising

YS]AFELL Y BEIRDDI

Eisteddfod Gadeiriol Bethesda.