Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

fo Big y Lleifiad

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

fo Big y Lleifiad Arglwydd y Wledd- Y mae Arglwydd Howard de Walden, Castell y Waun-sef oefnogydd a rhoddwr y canpunt gwobr flynyddol am y ddrama Gym- reig oreu-wedi rhoi ei air i ysgrifennydd y Gymdeithas Genedlaethol y daw i'w Chinio Gwyl Ddewi nos Sadwrn, Chwefrol yr 28ain. Y mae'r yswain llengar yn prysur ddysgu Cymraeg tan arweiniad un o Gymry hyddysg Caerdydd yn meddwl y byd o lenyddiaeth a theithi a dyfodol y Cymry a diau mai y fo fydd arglwydd y wledcl y nosbn honno. 0 Berfedd y Byd- I Danghoswyd llythyr imi'r wythnos hon at I gyfnither iddo oddiwrth y Parch. Edward Evans, brodor o Wyddelwern sy'n genhadwr ers blynyddau tan y Sudan United Mission ym Mukuru, Gogledd Nigeria, ac oedd yn werth cael cip arno gan fel y codai'r lien ar bob rhyw hai a helynt sy'n blino bywyd efengylwyr y parthau pell ac anwar hynny. A'n helpo pregethu aberth yr ydym ni, glyd arnom, yn y wlad hon aberthu y maent hwy yno, a gorfod stwytho i wneud ami i orchwyl feunyddiol na chym'rem ni dalsyth mo'r pumpunt am fynd o fewk y filltir iddi. Ond am ddygnu arni ac aros yno y mae Edward Evans, er y cwbl i gyd, gan feddwl mwy am Goron Ddrain ei Feistr nac am feitr yr Esgob na'r hwyl a'r poblog- rwydd peryglus a byrhoedlog a gaiff eilunod y tyrfaoedd yng ngwlad y breintiau mawr. A dyma ddywed wrth ddibennu ei lythyr :— "'Roedd yn syn gennyf weled yn Y BRY- "THON am farwolaeth Mrs. Evan Owen. Bydd yn chwith gennyf feddwl am Lerpwl hobddi. Mae'r Cymry wedi cael colled, "ac y mae'r meysydd cenhadol drwy'r byd wedi cael colled yn ei marwolaeth. Pwy ohonoch a garia ymlaen yr un gwaith gyda'r un diddordeb ? Gair go uchel i'r wreigdda honno o berfedd y byd. Ceisio Tyllu'r Pared- Clywais mai Tuhwnt i'r Llen oedd testyn darlith Dr. A. G. W. Owen, Laird Street gerbron Cymdeithas Lenyddol Parkfield, nos Iau ddiweddaf. Mr. P. H. Jones, F.I.C., yn y gadair, ac amryw'n siarad ar ol. Nis gwn pa beth a ddywedodd Dr. Owen end pared teneu iawn sydd rhyngom a'n cyd-eneidiau'r tu arall i'r lien, onite ? ie, teneu iawn, ond o ddeunydd rhy galed a gwydn i'r cryfa'i ben roi ei bin drwyddo i wneud hie y gallo'r pelydryn 116iaf o oleuni ddod trwodd. Sylw da iawn oedd sylw'r Parch. John Hughes, M.A., mewn oedfa-gladdu gweinidog y dydd o'r blaen 'Rwy'n credu mewn anfarwildeb a thra- gwyddoldeb am fod Duw wedi medru ei gudd- io rhagom mor ardderchog." A diau mai am ei fod wedi cael ei guddio mor anhydraidd y mae dynion yn ysu mor anesmwyth i fedru tyllu'r pared a rhwygo'r Hen. Am Angau a'r Bedd, inverted light yw'r ddau oleu hynr>.y, ac yn pelydru'r cwbl i'r Ochr Arall, ond yr un llygedyn i'r Ochr Yma. Ac er fod yna adnod yn dweyd Yr hwn a ddug fywyd ac anfarwoldb (rid anllygredigaeth) i oleuni," euddio'r Parch. J. Hughes sy'r iawn o hyd. Our little life is round 3d with a sloep "— dyna cyn belled ag y medrai'r Shakesp3are loew'i lygad weld. Ac falty, aros yn ddi-dwll y mae'r Pared hyd yma.  Pwyo Pen y Ddraig Las- I Geilw'n cymydog—Mr. Griffiths, Grassen- I dale-s.-ylw yn y Ffetan at ysgrif y Parch. John Williams, Brynsiencyr, yr y Beirniad ar Enwadaeth, saf nid ar ddrw g y peth ynddo'i hun, ond ar y sectyddiaeth gas, gul, amheugar ac anghristnogol a gyfyd ohono—dau beth gwahanol. Achlysurwyd yr ysgrif honno gan lith flaenorol y Parch. D. Tecwyn Evans,B.A., ar yr un pwnc yn yr un cylchgrawn a gwel- wn oddiwrth rai o'r cylchgronau cenedlaethol ei bod hi wedi deffro'r De cystal a'r Gogledd, ac fod goreu pob enwad yn unfarn am ei neges a'i hamcan. Ceir y Proff. Joseph Jones, Aber honddu, yn Wales, yn pleidio cael Llyfr Hym- nau Cydenwadol, sef un y medrai pawb a'r pedwar enwad eu cyd-ganu, fel un cam at glosio'r llwythau Ymneilltuol yn nes at ei gilydd. Eithaf awgrym, cyn belled ag yr aifii; ond peth go hawdd yw'n cael ni'r hen Gymry i gyd-ganu ein cael i gydd-deimlo a chyd- wefthio ar ol canu, dyna'r gamp a 'does dim ond un peth all wneud y wyrth honno, cyd- syllu ar ogoniart y Person nas deifio pob cenfigen gan wres Cariad y Crist. Diolch fod arweinwyr yr enwadau yn dywedyd eu medd- yliau mor rhydd ar y mater, ac yn dangos fod pob dyn da, o ba Iwyth bynnag y bo, wedi dod i lwyr ffieiddio'r teimlad sal a sectol sy'n anghyfanu ac yn anfelysu cymaint ar fywyd Cymru. A choded pawb ohonom ei bastwn i bwyo pen yr hen Ddraig Las. -o- O'r Gors i'r Graig.- Cyfarfod prudd-ddiddorol iawn oedd hwn- nw a gynhaliwyd yng nghapel Chatham Street nos Sul ddiweddaf, sef i wrando'r chwiorydd lafuria ymysg cwympedigion Cymreig parthau isa'r ddinas yn dweyd hanes y gwaith, yn ei Iwydd a'i aflwydd. Y chwiorydd hyn yw'r Chwaer Evans (yn llafurio tan nawdd y Cyfarfod Misol), a'r Chwiorydd Williams a Watkins (yn llafurio tan nawdd rhai o chwiorydd Cristnogol eu hysbryd a hael eu calon o Chatham Street ac eglwysi ereill). Caed gair byr hefyd ar y diwedd gan Miss Radcliffe, wna waith cyffelyb ymysg y Saeson. Wedi anerchiad, i ddechreu, gan y Parch. R. R. Hughes, B.A., clywd y tair chwaer yn codi'r lien ar ami i aelwyd enbyd a welent, nes gyrru ias o dristwch ac arswyd dros y dorf, ond yn sirioli a chalonogi pawb dro arall wrth ddweyd am ambell enaid a godwyd ar ei draed byth i gwympo'n ol, gobeithio. Byddai'n iechyd i'n haelodau hamddenol a chysurus eu cyflwr gael clywed a dirnad mwy am y gwaith a wneir a'r ofn- adwyaeth a welir. Ac y mae'r iechyd clywed fod un neu ddwy o chwiorydd cyfrifol Chatham Street yn ymweled a Soho Street a heolydd cyffelyb, ac yn cael o hyd i ambell Gymraes yn y ffauau ffiaidd sy'r ffordd honno, ac yn gwnued eu heithaf i'w rhyddhau o hualau chwant a chymdeithion sy'n eu tynnu i lawr llwybrau llithrig y trythyllwch. Da yw eu gwaith, a'r Nef yn ei wylio a'i roi i lawr yn ei Ilyfr. Ond gresyn, megis yr awgrymodd Mr. J. J. Bebb, na fuasai modd cael rhyw Noddfa (Rescue Home) i ddiogelu a chadw'r genethod druain ar ol eu cael, rhag iddynt lithro'n ol i'w hymdreiglfa yn y dom, a mynd yn hollol anadferadwy-i olwg y ddaear, beth bynnag am olwg y Nef. Awgrym da, ac yn werth rhoi ami i degan eglwysig heibio er mwyn ei gael lie i godi'n cwympedigion Cym- reig o'r Gors i'r Graig. Proffwyd a Phesimist- Y mae gen i syniad pur uchel am graffter a gwybodaeth Elidir Sais, ac a fyddaf bob amser yn mawrygu ei arddull goeth a'i ddull byw a bachog o draethu ei feddyliau prin fod haiach sgrifenwr ymysg llenorion ieuainc Cymru ac a anelais yn awchus a disgwylgar i aelwyd y Gymdeithas Genedlaethol nos Wen- er ddiweddaf i'w glywed yn nithio Beirdd Newydd Cymru mwynheais ran gynta'r ddarlith, lie y traethid mor feistrolgar ar ystyr y gair dwfn ond lledrithiol hwnnw Barddoniaeth," ac a gydolygwn, rhaid dweyd, a'r chwip heger a roes i'r peiswyn y cawn ormod lawer ohono yn yr anerchiadau Eisteddfodol ond pan draethodd am dros awr mor gain a diddorol ar Farddoniaeth N ewydd Cymru, ac yna a ddibennodd gyda dywedyd nad oedd y fath beth, wel, fe chwarddais yng nghyntaf ac a frochais yn ail. Arfaethaswn, er mor anwybodus rhagor y fo, godymu ag Elidir ar y pwnc yn Y BRYHON ond gwelaf fod Dyn y Drych wedi gwneud hynny, ac wedi dweyd fy meddyliau gymaint gwell a galluocach nag y medrwn i, nes nad oedd raid i mi ddywedyd dim yn rhagor nag Amen. Stori Modryb.- Heb lol na rhith, un o'r straeon tyneraf a ddarllenais ers talm yw stori Modryb a John, gwaith Pedrog,sydd yn Nysgedydd mis Ionawr, ac heb ami ddim o'r 61 gwneud hwnnw sydd mor atgas ar waith y prer tisiaid ansoddeiriol derllyn y cwbl mor urddasol a phe bai wedi digwydd bob gair a dichon mai felly y gwnaeth. Sut bynnag am hyiiny, 'does lygaid na leithiai wrth fyrd dros y breuddwyd a'r brofedigaeth a bortreadir mor fyw ac mor fedrus. -&■ Y ddau Francis. I 'Does odid i neb a wna gymaint y blynydd- au hyn i gadw hen delyn Cymru a hen benhillion Cymru a hen iaith Cymru rhag mynd i ganlyn lli' Lloegr na'r ddeufrawd G. W. ac O. W. Francis, Nantlle. Canant beunydd drwy chwesir y G ogledd, a hynny nid er mwyn cregin a chlod, ond er budd rhyw glaf neu'i gilydd, a phob rhyw achos da a chref- yddol. Buont yn Lerpwl yma droion gan adael tine hyfryd anghyffredin ar eu holau yng nghulst pawb a'u clybu. Aiff pobeth yn swynol tan eu hudlath, ac eco clogwyni'r Hen Wlad ymhob tant a thirawiad. Ac er mwyn i chwi gael syniad am wedd wyneb y ddau Ffrancis, dyma fo :— A dyma englyn Ap Lleyn i'r ddau :— Y ddau hyn a ddihunant—enaid dyn &'u tyner adloniant; Ddau cerddgar, pawb a'u carant- Fe gar y Nef hogia'r Nant. AP LLEYN. Darlith Syr Vincent- I Arbediad Cofiechi Cenedlaethol Cymru (Welsh National Monuments and their Pre- servation) oedd testyn darlith Syr Vincent Evans, Llundain, gerbron Cymry Cilgwri, sef Cymdeithas Genedlaethol Wallasey a'r Cylch, nos Fawrth, Ion. y 13eg Mr. John Morris. Y.H. (David Street) yn y gadair a'r Mri. T, Taliesin Rees, F.R.I.B.A., W. Garmon Jones, M.A., a H Huggins yn diolch amdani dros y cynhulliad. Dawgair ymhellach yn ein nesaf.

IDAU TU'R AFON I

ICymry'r Alltud.I

fMANCHESTER.1I

I Ar Lannau'r Honddu.

GAIR OR RHOS.

[No title]

Advertising

Advertising