Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Rhai o bethau'r Rhityu- Dim Barddoniaeth yng Nghymru Felly wir ebe Dyn y Drych wrth ddarllen anerchiad Elidir Sais gerbron Cym- deithas Genedlaethol Lerpwl nos Wener ddiweddaf. Tudal. 4. Rhodd Mam y Morning Post Y Papuryn digywilydd ebe'r Gwyliwr yn Llith Llundain, ar tudal. 1. Alban o'r De yn dwedyd hanes Glewion yr laith yng Nghasnewydd ar Wysg. Tudal. 2. Ctasuron Cynghanedd!: Pumed swp Gwrtheyrn, sef o Gymar- iaethau'r Hen Feirdd y tro hwn. Tudal. 4. Nyni a'n Barddoniaeth: Crynhodeb o draethiad Mr. W. Hughes- Jones, B.A., ar Feirdd Newydd Cymru. Tudal. 2. Ffetan y Gol Ebwch Besimistaidd y Gwin Newydd a'r Hen Lestri; Islwyn fel Benthyciwr Pwy biau'r Llygad ? Yr Ysgol is y Gelli: Y Parch. Tecwyn Evans,B .A., yn codi llyfr Mr. John Lloyd, M.A., un o blant gobeithiol Talsarnau. Pigiadau'r Lleifiad ar tudal 7 0 Berfedd y Byd Ceisio Tyllu'r Pared Pwyo Pen y Ddraig Las Arglwydd y Wledd Stori Modryb Y ddau Francis Proffwyd a Phesimist; O'r Gors i'r Graig. Zanxibariaid Cymru Mr. Hugh Lloyd (Manchester) yn son am Heresi Kikuyu, sef y pechod Eglwysig o gyd-fwyta gyda'r Pechaduriaid Ymneilltuol -ac yn dang os fod rhai cyffelyb i Esgob Zanzibar i'w cael ymysg Esgobion cyndyn Cymru.
W GOSTEG.
W GOSTEG. Sieb Seid oddiwrth Gwrtheyrn, yn y nesaf. A Glossary of Mediaeval Welsh Law a Hanes Porthmadog-y ddwy gyfrol wedi cyrraedd, ac a'u hadolygir gynted gellir. J.J.M., Utah.-Rhaid i'r ohebiaeth fod yn Gymraeg nid oes yma mo'ramseri'w chyf- ieithu. Diolch am y cardiau, ac am eiriau mor felys o lyn mor hallt. -«&- 0 barch, nid o amharch.-Diolch am eich llythyr, E.J. ond yr ydych wedi camsynied, canys o barch iddynt y'u gelwir yn Gymry'r Alltud, megis yr eglur-ddngys is-benawd y golofn sy tan y Hall: "G oreu Cymro y Cymro Oddicartref." Na, nid oes neb o'n darllenwyr yr aberthwn fwy i gael lie a chwarae teg iddynt nag i'r Cymry cynnes sy ar daen trwy siroedd Lloegr, ac yn dyheu, lawer o honynt, am y bras-fanteision ysbrydol a fwynheir mor helaeth gan Gymry Lerpwl a Llundain, a chan y Heill sydd gartref yn yr Hen Wlad. Ond erbyn edrych, ar Gymry'r Alltud y mae mwyaf o floneg crefydd a gwlad- garwch yn fynych, canys pella y plannoch Gymro o'i gynhefin, dyfna'n byd ei hiraeth amdano, a chryfa'n y byd ei gariad ato, a dyna'r pam y mae'r BRYTHON yn prysuro a'i lwyth wythnosol o fara cartref ateu byrddau.
DYDDIADUR.
DYDDIADUR. IONAWR, 1914. 17, 18—Cyfarfod Pregethu Wesleald Egremont 24. 25-Cyfarfod Pregethu Laird Street aI-Eisteddfod Plant Bootlet g 1 TCHWEFROL. G-Oyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol 7—Oyfarfod Oyatadleuol yn Laird Street 7, 8-Cvfarfod P-rgethu yn Park Road 7-Darlith gan v Parch D G Jones yn Up. Canning St 8—Oyfarfod Pregethu Upper Canning Street 10-Cvmdeithas .eaedlaethol Cilgwri 14—Cyngerdd yr ITedeb Corawl yn y Philharmonic 18-Darlitb vng Nghapel M.O., Edge Lane 20,21—Cyf. Oystadleuol Unedig Oylch y De, Chatham St. 22—Cyfarfod Pregethu yn Grove Street 28-Darlith yn Grove Street 28-Cinio Gwyl Ddewi Cymdeithaa Cilgwri 28-Cinio Gwyl Ddewl Lerpwl MAWRTH. 0 7 S-Oymanfa Wesleaid Lerpwl a'r Cyleh 7-Cyngerdd y Cymric T-E i-tpddfod Earlertown 8—Cor Meibion Claughton yn Port Sunlight 13—Cyfarfod y Gymdeithas Genedlnethoi 14-Perffor-nio Elijah yn Douglas Road 21—Eisteddfod Eglwys Rydd y Cymry Birkenhead 28—Brahms' Requiem," etc., gan yr Undeb OOTawl 80-Cymanfa Ganu y M.C yn Sun Hall EBRILL 1 2, 3-Sale of Work David Street 8-Ovfartod y Gymdeithas Genedlaethol 10-12 Cymanfa Bedyddwyr Palmerston Drive 18-Cymanfa unedi g y Plant yn Claughton Road Y Pasc-Eisteddfod Birkenhead 25, 26-Cyfartod Pregethu yn Clifton Road 26, 26-Cyfarfod Pregethu yn Park Road 26, 26-Cyfarfod Pregethu Everton Village Cymru, 6c. I Ohwef. 26—Eisteddfod W?ea I LIangwyn—Eisteddfod Mon i
0 Chwarel a Chlogwyn.
0 Chwarel a Chlogwyn. Sef o Ddyffryn Nantlle- GAN YSBRYD GLASYNYS. DIWEDD TRIST.-Cyfarfu gwas y Grafog, ger Groeslon, a'i ddiwedd mewn modd trist yr wythnos ddiweddaf. Tywysai geffyl a throl ar y ffordd a red yn gyfochrog a'r ffordd haearn ger Injan Grafog," pan yrhusiodd yr anifail ac yn ei ymdrech i geisio ei ffrwyno'n dynnach a'i ddal, syrthiodd y gwas dan y drol, a dyna'i dranc, druan bach. Aeth yr olwyn dros ei frest, nes gwasgu ei fywyd allan ar unwaith. Bachgen hawddgar, hwyliog, ydoedd, ac wedi canu llawer mewn cyrddau tua Bryn rhos. Brodor o Gaernarfon ydoedd, ac yn ffefryn mawr mewn byd a betws. Cyd- ymdeimlir yn fawr a'i dad a'i frodyr. HYBTT'B GWAN.-Yng nghapel Soar, nos Sadwrn, dan arweiniad Mr. O. W. Jones, Pen y groes, cynhaliwyd cyngerdd er budd Mr. T. J. Evans, brodor ieuane caredig sy'n cwyno ers plwc. Cymrwyd rhan yn rhagorol gan ein talentau lleol, sef Misses Mag. Owen, H. Hughes-Jones, Mri. J. Morris Parry, E. Jones- Griffith, Rd. Williams, ac E. Walter Williams. Canwyd penhillion gan Miss Jennie Morris, ac adroddwyd gyda hwyl fawr gan Eillion a Wm. Rowlands. Canwyd y cornet hefyd gan Master Fred Jeffreys, a chanai Cyrn Arian Nantlle hefyd. Cyfeiliwyd gan Mr. Gwilym Evans. Y TRI BRAWD.'—Aelwyd gerddgar fu aelwyd Bryn y coed, Tal y sarn, er pan wy'n cofio achleswyd can a cherdd yno yn anad un aelwyd yn y fro, a bu fel tan eirias yn goddeithio aelwydydd ereill yma a thraw am flynyddau lawer. Pwy o'n cenedl sydd heb wybod am yr alaw fach ddwys-dyner a nyddodd yr hen gyfaill Hugh Owen ar y geiriau Deigryn ar fedd Mam ? Y mae can yr hen batriarch gwych wedi tewi yr ochr yma byth er pan aeth ef i gartref y gan fry ond gadawodd ddelfrydau'r gan a'r gerdd yn waddol i'w deulu, ac a dyrr dros eu glannau yn natur ei feibion glew. Ddydd Calan, wele dri ohonynt yn troi allan a'u clorian yn eu llaw i fesur a phwyso mewn tair o ardaloedd poblog Lleyn ac Eifionydd ac heb ddeilen ar eu tafod, yn cyhoeddi eu barn yn onest a chroew. Mynych mynych yw eu galwadau, a chredwn fod cerddoriaeth y Sir ar ei mantais o fod eu trigias o'i mewn. Ers blynyddau bellach, y mae'r hynaf ohonynt, Pencerdd Llyfnwy, mewn maelfa Iwyddiannus yn nhref Caer Seiont O. Llew Owen yn swyddfa'r Genedl: a J. Jones-Owen gartref yn Mryn y coed. HWYLIO'R WERYDD.—Y mae'r parlys sydd ar y fasnach lechi yn gwasgu teuluoedd allan o fywyd ein Dyffryn i chwilio am well byd yr ochr arall i'r Werydd yn barhaus. Ddydd C, weyt eT, hwyliodd Mr. J. W. Jones, Tal y sarn, a'i fab ugeinmlwydd Arthur, am Wlad y Gorllewin, ac y mae ym mryd ei briod, Mrs. Henderson Jones, eu dilyn fis Mawrth. Chwith meddwl dygymod a cholli y doniau cerddgar hyn o'n bro J.W.J. yn gerddor gwych, ac wedi arwain y gan yn Nhal y sam (M.C.) ers blynyddau; ac am y gymwynas honno, estynnodd yr eglwys a'r gynulleidfa yno bwrs a'i lond o aur iddo nos Fercher cyn hwylio. G wyr de a gogledd Cymru am fedr Mrs. Henderson Jones, ac fel arddanghosiad o deimladau diolchgar am ei gwasanaeth, caiff y chwaer ddirodres gyngherddau ffarwel a phyrsaid o'r llwch melyn cyn yr ymedy ac os teilyngodd un ohonom hynny erioed, hyhi deilyngodd. i
Advertising
Eisteddfod Plant Bootle. Cynhelir yr uchod Nos Sadwrn, lonawr 3lain, 1914, Yn NEUADD Y DREF. Llywydd Y MAER (Or. Rafter). Beirniad Cerddorol Caradoc Roberts, Ysw. Mus. Doc. Beirniad Adrodd. R. O. Williams, Ysw. Telynores = TELYNORES GWYNGYLL. NAW 0 GORAU. CHWECH "ACTION SONG." UN AR DDEG CANU PENILLION. CHWECH CYD ADRODD UNAWDAU, ADRODDIADAU, &c. TBI CHANT 0 G Y ST AD LEU W Y R. Tocynau 2s, 1 s a 6ch. Plant hanner pris. Y,grif.-Edward Jones, 10 Devonfield Road, R. Vaughan Jones, 52 Hertford Rd Capel y Wesleyaid- Serpentine Rd.. Egremont. ..Cyfarfod Pregethu.. Nos Sadwrn a'r Sul, IONAWR 17 A'R 18, 1914. Pregethir Nos Sadwrn, am 7.30 gan y Parch. J. Roger Jones, B.A., Manchester Sul, am 10.45, y Parch. F. E. Jones, Oakfield Am 2.30 a 6, y Parch. J. Roger Jones.
I _____MORFA NEFIN. I
I MORFA NEFIN. CYNHALIODD y M.C. eu gwyl len a chan ar ddydd Calan. Yr oedd y cynulliadau yn lliosog, a'r codymwyr yn haid. Gwr y gadair oedd Tom Jones, Ysw., rheolwr y Metro- politan Bank, Nefyn arweinydd, y Parch. G. Parri Huws beirniaid y gerdd, J. Jones- Owen, Ysw., Talsarn Hen ac awen, y Parch. J. Owen, M.A., Caemarfon.
TREF PATROBAS.
TREF PATROBAS. WESUL TIPYN.-Dyna mae Mr. Thomas, Y.H., Gerallt, yn ei wneud, ydyw gwella wesul tipyn ar ol y ddamwain dost honno gafodd drwy golli ei droed pan yn mynd allan gyda'r bywydfad ychydig amser yn ol. HiR GABTBEF ydyw'r man y rhoddwyd Mrs. Pritchrad, gweddw'r diweddar Capt. J. Pritchard, Bryn tirion, Morfa Nefyn,ddydd Mawrth diweddaf. Angladd anghyhoedd. Hyhi yn fam i briod y Parch. E. T. Evans, gweinidog Annibynwyr y lie. Nid oedd ond ychydig wythnosau ers pan flaenorodd ei ohwaer hi, Mrs. Capt. Thomas, Adenfa. Colled fawr i'r Tabernacl ar ol dwy chwaer ffyddlon.—Ddydd Gwener, hebryngwyd yr hyn oedd farwol o Mr. Richard Jones, Glyn- llifon House, i fynwent rydd Nefyn. Yr oedd yn gystuddiol ers rhai misoedd. Gwr hysbys ym myd masnach oedd ef, ac yr oedd y ffaith fod amaethwyr y wlad o amgylch ogylch wedi dod i'w hebrwng yn arddanghosiad o'u cymeradwyaeth iddo fel masnachwr. LLONDER gennym ddeall fod y Parch. E. T. Evans (A.), Morfa, wedi llwyddo i gael cym- hares i'r gadair enillodd yn Eisteddfod Gwyr Ieuainc Nefyn. 0 Gwmaman y daeth ei ail. Am gadair uwch yr elo. YM MAi bydd Eisteddfod Gwyr Ieuainc Nefyn y tro nesaf, ac mae ar y gweill yn barod. Chwi sydd ag ysfa cystadlu, byddwch a'ch llygaid yn agored, oblegid bydd y testynau o'r wasg yn fuan bellach.—J.D.
Advertising
Eglwys Parkfield, Birkenhead TRADDODIR DARLITH ar u Fy Naitb i'r Amerig," gan y Parch. W. M. JONES. yn y capel uchod Nos Iau, lonawr'22ain, 1914. C&deirydd,"J. W. Davles,"Ysw., Talgarth, Waterloo. Cenir gan y Cor tan arweiniad Mr W Jones, L. T.S.O Drysau'n agored am 7-15. Dechreuir am 7-30. TOCYNAU II' Yr elw at yr achos. EISTEDDFOD AT ECCLES, Good Friday, April 10th. COMPETITIONS- Mixed, Male Voice and Children's Choirs, Solos, Duetts, Quartetts, Pianoforte, Recitations, 6c. Write (with Stamp) for Syllabus to R. 0. EVANS, 12 Knowsley Avenue, Eccles. Chweohed EISTEDDFOD GADEIRIOL Y PLANT LLANERCHYMEDD, Liun aJ Mawrth y Pasc, 1914. PRYDDEST, i rai dan 21 oed, Cofia yn awr dy Greawdwr." Gwobr, Cadair dderw hardd. CÔR PLANT, Brenin y Bore (D. D. Parry). 94 /4 HER-ADRODDIAD (pob oed). £ 1 /I UNRHYW DDEUAWD (pob oed). HER-UNAWD (pob oed). ;Eli I/ CANU GYDA'R DELYN (pob oed). il /1 a 10/6. Nifer fawr o gystadleuaethau i blant mewn Rhyddiaeth, Barddoniaeth, Adroddiadau, Cerddoriaeth, Drills, a Chelfyddydwaith. .Anfoner yn ddioed am restr gyflawn o'r Testynau. Pris lc. drwy'r post, lie. Ysgrifenyddion- OWEN T. JONES, 20 Twrcyhelyn Str. R. ROWLANDS (Myfyr Mon), Wilpol. Trysorau Cenedlaethol y Cymry Traddodir Darlith (GYDA DARLUNIAU) ar y testyn uchod, Yn Vsgoldy Capel Princes Rd,, gan Mr. J. U. Davies, M.A. (Cofrostrydd Coleg Aborystwytb), Nos Wener, lonawr 16, 1914. Cymerir y Gadair am 7.45 gan Mr. JOHN MORRIS, Y H. Gyda'r Llusern Mr. LLEW WYNNE Mynediad i mewn yn rhad. Taer ddymunir ar i Gymry'r ardal ymdrechu bod yn bresennol. Eisteddfod Cadeirioi Widnes. (19th ANNUAL). Thursday, February 26th, 1914. Musical Adjudictor-Dr- CARADOG ROBERTS (Mus., Doc., Oxon), F.R.C.O.,A.R.C.M., L.R.A. Chief Choral Sing unto úod," (Judas Mac) Male voice Choir Spartan Heroes," (Prothero Juvenile Choir The Lord is my Shepherd," (H Smart) Congregational Choir "kSend out thy Light" V w (Gounod) Orohestral Band Competion (12 instruments) Music Own Choice. S C.T.B., Solos; Pianoforte, Violin and Grand Challange Solo, (own Choice), See fall list of Subjects, free on spplications (per post i stimp) from-Mr. J G Jones, Collenfab; 57 Albert Road. Widnes, Printed and Published by the Pro- prietors, Hugh Evans and Sons, 356.8 Stanley Road, Liverpool, in the County of Lancaster. Tel. 591 Bootie. 1
, I Cyhoeddwyr y Cymod I
I Cyhoeddwyr y Cymod I Y" Saboth nesaf. I Y METHODISTIAIDTOALFINAIDD PRINCES ROAD—10 a 6, D Jones DAVID STREET—10.30 a 6, J Daniel Evans FITZCIARENCE STREET—10 a 6, R Aethwy Jones DOUGLAS IELOAD-10 a 6, G. W. Griffith CHATHAM STRIET-10-30 a 6, R R Hughes ? OROSSHALL STREET—10-30 a 6, Lemuel Jones, Goppa ANFIELD ROAD—10.30 a 6, W Henry NEWSHAM PARK-10 a 6, J Hughes BOOTLE-10 a 6, J H Howard PARKFlELD-lO.30 a 6, 0 J Owen SBACOHBB—10.15 a 6, E J Evans GARSTON-10.30 a 6, J Evans ROCK FEnRY-10.30 a 6, W M Jones WALTON—10.30 a 6, L Lewis WATERLOO—10.30 a 6, J Owen PEEL ROAD—10.30 a 6, Hugh Williams, Amlwch EDGE LA-10.30 a 6, H H Hughes WEBSTER ROAD—10.30 a 6, 0 Lloyd Jones LAIRD STREET—10.30 a 6. R W Roberts WOODCHTTRCH ROAD-10.30 a 6, J P Jones, St. Helens NEW BRIGHTON-10.30 a 6, Thos. Jones, Rhostyllen WEST KIRBY-ll a 6, David Hoakins, Carnarvon SOUTHPORT-10.30 a 6, R Davies HTJYTON QUARRY—10.30 a 6, J Williams WHISTON-10.30 a 6, Griffith Jones ST. HETE-NS-W Hughes, Lerpwl ST. HELENS JUNCTION—Edwin Evans, Birkenhead BANKHALL-6.15. R J Williams ELLESMERE PORT—10.30 a 6, RUNCORN—10 a 6, WIGAN-2.30 a 6, 0 Jones WILLIAM MOULT STREET—6-15, ASHTON IN MAKERFIELD—10.30 a 6, H L Jones, Oroesor UP. WARWICK STREET—6.15, Sister Evans SKELMEBSDAIE—10.30 a 0, YR AOHOSION SEISNIG. OAKFIELD ROAD—10.45, a 6.30. T G Owen EVERTON BROW-10.45 a 6.30, D W Morgan CATHARINE STREET-10.30 a 6, Sydney o Morgan SPELLOW LANE—11 a 6.30, G R Jones. BREEZE HILL-ll a 6.30 H Ridehalgh Jones ORRELL, BOOTLE-ll a 6.30, J Howell Evans EGREMONT-10.30 a 6.30, R G Jones WILLMER ROAD-10.45 a 6.30, TR ANNIBY WYR TABLPRNACL-10.45, a 6-30, 0 L Roberts PARK ROAD-10.30, M Llewelvn 6, J Vernon Lewis GROVE STREET—10.30, R LI Williams 6-15. D Adams CLIFTON ROAD—10.30 a 6-15, W E P Jones, Colwyn GT. MERSEY ST.—10.30, J V Lewis 6, Morgan Llewelyn, Manceinion MARSH LANE-10.30, W Roberts 6, A Jones KENSINGTON—10.30, J Parry, (loan Dderwen) 6. J 0 Williams TRINITY ROAD-10.30. Albert Jones 6 W Roberts LisCARD-10.45, D Adams 6.15, R Lloyd Williams, Penarth VITTORIA ST-10.30. J 0 Williams 6.15, J Parry, Mostyn BALMORAL ROAD—10.30, Cyf Ysgol 6, Cyf Gweddi HEATHFIELD RD-10.30, Ysgol 2,30, D Adams PRESCOT—2.15 a, 6, A T Evans, Liscard SOUTHPORT-10.30. a 6.30, EARLESTOWN—10.30 a 5.30, G J Williams, Birkenhead GOLBORNE-IO.30, a 5.30, J Lloyd ASHTON-IN-MAKERFIELD—10-30 a 5-30, Morris Watkin Earlestown Y WESLEAID OAKFIELD—10.30, Aaron Owens 6, T 0 Jones SPELLOW LANE—10.30. F E JonI" 6 John Felix BOOTLE—10.30, John Felix 6. J Lloyd Jones EDGE HILL-10.30, T 0 Jones 6, Aaron Jones KNOWSLEY ROAD-10.30, J Lloyd Jones 6, F E Jones MYNYDD SEION-10.30, J W Felix 6. W 0 Evans BIRKENHEAD—10.30, W 0 Evans 6, J W Felix WIDNES-10.30 a 6, R J Williams GARSTON-10.30, a 6, T I Hughes EGREMONT-10.45, a 6. Cyf Pregethu ASHTON-IN-MAKERFIELD—10.30, E J Parry 6 H Roberts EARLESTOW.N-10.30, Hugh Roberts 5.30, Cyf Ysgol GOLBORNE-2, Cyf Gweddi 5.45, J Williams SPRING VIEW—2. D Rowlands 6, J Sudworth LEIGH—10.30. a 5.45, Hugh Curry ST. HELENS—2. a 5.30 E J Parry Y BEDYDDWYR. EVERTON VILLAGE-10-30. M Griffiths 6 D Powell WINDSOR ST—10.30 a 6, T R Jones, Garnant, Glam BOUSFIELD STREET—10.30, D Powell 6, M. Griffiths WOODLANDS—10.30, a 6.15, J Davies EDGE LANE—10.30 a 6, H R Roberts BALLIOL ROAD—10.30 a 6, P Williams 8EACOMBE—10.45 a 6.15, R Lloyd PALMERSTON DRIVE—10.30, L W Lewis, 6 E W Wynne EGLWYS RYDD Y CYMRY. CANNING STREET—10.30, W 0 Jones 6, R Roberts HIGH PARK ST-10.30, D Davies 6, R Thomas BOOTLE-10.30, Cyf Gweddi 6, W 0 Jones BIRKENHEAD—10.30. a 6, J E Griffiths. Pen y cae DONALDSON STREET-10.30, R Thomas 6, D Davies YR EGLWYS SEFYDLEDIG DEwi SANT-11, a 6.30, R D-Hughes KSAPH SANT-10.45 a 6.30, William Owen DEINIOL SANT—11 a 6.30, Robert Davies WINIFRED SANT—11 a 6.30. J Hughes
!Gyda'r Clawdd.
Gyda'r Clawdd. Sef Clawdd Offa. Gan GYMRO Ol GORYN I'W GARN. Digon hawdd codi bys.-Cynhaliwyd try- dydd cyfarfod Cymdeithas Lenyddol Undebol tan nawdd Cyngor Eglwysi Rhyddion Brym- bo. Cadeirydd, y Parch. F. Watcyn Vaughan, a'r pwnc, A yw'r Eglwysi yn ymddwyn yn foddhaol tuag at bynciau cym- deithasol ? Dadleuai Mr. J. R. Rogers nad ydynt, a Mr. Meredydd Williams, C.S., eu bod, a siaradwyd gan amryw ymhellach. Dyma'r trydydd cyfarfod, ac ymosod ar yr Eglwys ymhob un ohonynt. Hyd y clywais i, nid oes yr un yn dod a chyhuddiad teg yn erbyn yr Eglwys, nac ychwaith yr un yn meddu gweledigaeth eglur beth ddylai'r Eglwys wneud yn wahanol neu'n ychwanegol rhagor a wna. A oes rhywun fedr ddangos i'r Eglwys ei bai ? A oes rhywun a ddengys iddi sut i gyflawni'i gwaith yn amgenach ? Ni thybiwn ei bod yn berffaith,-pan ddel yn berffaith ni fydd ei hangen, peidia a bod, llyncir hi gan Deyrnas Dduw. Nid rhai i'w beirniadu sydd eisieu ceir digon o'r rhai hynny ynddi ac allan ohoni; dyna lwybr byr llawer un i enwogrwydd. Erys gwir enwog- rwydd i'r neb a'i beirniado ac a ddanghoso iddi sut i gyflawni'i chenhadaeth yn well. Dyna gymeriad gloyw !-Ddyad Llun, eladdwyd Mrs. M. Harrison, gweddw Mr. Benjamin Harrison, Coed poeth. Yr oedd wedi cael oes faith o ddeng mlynedd a phed- war ugain. Bu hi a'i phriod yn nodedig am eu Syddlondeb i dy Dduw a'i achos trwy eu hoes faith. Hwy gartrefodd y pregethwyr am ugeiniau o flymyddoedd. Nid oedd hafal Mrs. Harrison am wneud i'r dieithriaid a alwai yno ar eu teithiau pregethwrol, deimlo'n hollol gartrefol. Tystiai'r gynulleidfa o wyr a gwragedd bucheddol i'r parch a deimlid ati ac i'r anwyldeb oedd iddi yn y gymdogaeth. Hi a reolai'i thý'n dda mewn addfwynder, a'i thymer yn wastad a hynaws bob amser. Cofiai un o'r gweinidogion oedd yn ei hangladd am ei charedigrwydd hi a'i theulu iddo ar ei ymweliad cyntaf a'r ardal ddeugain mlynedd yn ol. Yr oedd yn un o ragorolion y ddaear, a gedy fab a merch teilwng o'u rhieni, sef Mr. John Harrison, Coed poeth, a Mrs. Hopcyn Rees, China ac erys crefydd y tad a'r fam yn eu plant a phlant eu plant. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. T. E. Thomas (ei gweinidog), Peris Williams, J. Talwrn Jones, O. J. Owen (Rhos), H. Ivor Jones, Caer R. Roberts, Rhos ystyllen a W. Daniel, Tan y fron. Cyfoded Duw eto gymeriadau tebyg iddi. las y ddrama.—Ymwelwyd ag ardal Coed poeth nos Lun gan Gwmni Drama Cefn mawr. Actio'r ddrama Rhys Lewis yr oeddynt, a dyma'r pumed tro iddynt, ac nid oes ball ar y ganmoliaeth gant am eu gwaith gloew bob tro. Mr. Birkett Evans oedd y cadeirydd.— Bu Cwmni'r Fro Wen yn actio Helyntion Teulu'r Hafod gerbron eu pobl eu hunain ym Mwlchgwyn. Nid yw proffwyd heb an- rhydedd ond yn ei wlad ei hun, ond fel arall y mae yma. Ca'r proffwydi hyn gymaint o anrhydedd ag a all eu cymdogion roddi iddynt. Cadeiriwyd gan Mr. J. J. Parry, Gwern y gaseg. Gorche8t Methodistiaid Pen y Cae.-Cynhal- iwyd nodachfa Iwyddiannus gan Eglwys M.C. Pen y cae. Cynhaliwyd hi er dileu'r ddyled, a chafwyd dros ddeucant o bunnau ac y mae'r swm anrhydeddus yn glod nid bychan i'w gweithgarwch a'u hynni. Pymtheg a thrigain yw rhif yr aelodau. Mr. Hugh Griffiths cedd llywydd y pwy 1 Igor Mr. John Evans yn drysorydd, a'r ddau ysgrifennydd oedd y Mri. T. J. Roberts a W. H. Jones. Na ddigalonwch nes llwyr dalu'r ddyled. Penlinio.—Yn unol ag arferiad eglwysi'r wlad, treuliodd Eglwysi'r Rhos yr ail wythnos o'r flwyddyn newydd yn wythnos o weddio. Dodwyd heibio'r gwahanol gyfarfodydd, a rhoddwyd lie i'r cyfarfod gweddi. Ai nid dyma ddirgelwch llwyddiant yr Eglwys ? Tyf enaid y sant wrth iddo weddio, a grymusir yr Eglwys. Penderfynodd Bethel (M.C.), Rhos, rol tri mis o seibiant i'w gweinidog, y Parch- Isfryn Williams, sy'n wael ei iechyd ers rhai wythnosau. Adferiad buan a llwyr gaffo. Y mae'r Parch. W. Bailey Roberts wedi dechreu ar ei weinidogaeth yn ei le newydd, sef Eglwys Saesneg Hill Street, y Rhos, a rhagolygon gwych o flaen y bugail a'r praidd- Cynhaliwyd trengholiad ar gorff Mr. George Lloyd, Acrfair. Tystiodd Mr. J. Lloyd, brawd yr ymadawedig, eu bod yn cydweithio ym mhwll glo Wynnstay ym mis Ebrill, 1912. Ac un diwrnod, syrthiodd darn o lo o dalcen. yr wythien ar law chwith ei frawd ni thyb- i odd ar y pryd fod ei frawd wedi ei anafu'n ddrwg, a chynghorodd ef i barhau i weithio. Ond cwynai George Lloyd ei fod mewn poenau ac aeth adref, ac ni ddyehwelodd mwy i'w waith yn raddol, gwaethygodd parlyswyd ei fraich a'i wddw ac yn y diwedd, methai ag agor ei enau na bwyta. Y rheithfarn oedd iddo farw mewn canlyniad i ddamwain a gyfarfu agos i ddwy flynedd yn ol.
[ Y Ddrama'n Cydio.
Y Ddrama'n Cydio. Beddau'r Proffwydi gan Gwmni Mynydd Seion. NID Cwmni oich Mynydd Seien chwi yn ninas Llynlleifiad, Mr. Gol., ond hwyrach nad oes ynglyn a'ch Mynydd Seion chwi yna gwmni sy'n medru actio drama, ond Cwmni Mynydd Seion Ponciau, un o faesdrefi Rhos llannercli rugog. A chwmni yn medru actio ydyw, a'r aelodau yn medru chwarae o ddifrif. Prin y mae ambell un, hwyrach, yn barod i gysylltu o ddifrif a chwarae, ond rhaid chwarae o ddifrif cyn y chwaraeir yn llwyddiannus. Nid chwarae chwarae y bydd plant a phlant I am chwarae, onite ? Chwaraeant o ddifrif, a dyna paham y maent mor fedrus ac mor llwyddiannus fel chwaraewyr. Wedi gweled yr hyn a welais, a chlywed yrhynaglywais, a theimlo yr hyn a deimlais ym Mhafiliwn y Rhos wedi i'r haul fachlud ddydd Calan, ac wedi i'r lien gael ei chodi, yr wyf wedi fy llwyr argyhoeddi fod y ddrama yn sicr o gydio yng Nghymru. Nid oeddwn cyn y noson honno'n credu fod y Cymry yn feddiannol ar dalent i actio drama. Pe gofynasid i mi ddweyd beth barodd i mi feddwl hyn, nis gallaswn ddweyd paham ond er hynny, dyna'm cred. Modd bynnag, wedi i Gwmni Mynydd Seion fynd drwy Feddau'r Proffwydi, yr wyf yn barnu'n wahanol ac y mae'r atgof am y perfformiad fel pe'n dyfnhau'r grediniaeth. Y mae Beddau'r Proffwydi yn ddrama Gymreig, ac un dda iawn ydyw. Hwyrach y gellid ei gwella yma ac acw, ond rhaid addef ei bod yn ddrama Gymreig. Mae lliw a delw helyntion aelwyd y Cymro a Gwlad y Bryniau ami, drwyddi, o'i dechreu i'w diwedd. Rhaid cael capel i mewn i ddrama Gymreig, oblegid y mae Bethel—nid Bethel, hen ardal W. J. Gruffydd, awdur y ddrama hon, wyf yn ei olygu, ond y little Bethel y soniai Canghellor y Trysorlys amdano yn ei araith—ydyw, y mae Bethel yn ddarn go fawr o fywyd y Cymro. Gwell fuasai genhyf gael ochr oreu'r capel i mewn, ac nid yr ochr sydd ym Meddaitr Proffwydi ond er hynny, dywedaf eto, drama dda yw hon. Buasai'n ddiddorol, pe buaswn wedi meddwl am hynny mewn pryd, sylwi ar wahanol aelodau'r Cwmni oedd yn cyn- rychioli'r gwahanol gymeriadau, ond ni feddyliais am hynny hyd ar ol y perfformiad. Nid yw eu henwau gennyf, ac nid oes gennyf gopi o'r Ddrama, felly rhaid boddloni ar ychydig argraffiiadau cyffredinol. Yr oedd rhai ohonynt yn gampus, yn enwedig pan gofir nad ydynt yn actwyr proffesedig. Nid oedd yr un gwael yn eu plith. Yr oedd y rhan fwyaf yn hollol naturiol, a dyna'r peth pwysicaf, Be natural and then you won't be flat." A oedd rhai ohonynt yn peidio a siarad yn rhy ddistaw, i fod yn glywadwy i'r rhai oedd yn yr eisteddleoedd pellaf ? Prin yr oeddwn i yn clywed rhai o'r merched, er nad oeddwn ymhell oddiwrthynt; ond hwyrach nad oedd y bai i gyd arnynt hwy. Beth am acoustics y Pafiliwn ? A ydynt yn fanteisiol i lefaru ac i wrando ? Credaf eu bod, oblegid yr oedd yn ddigon hawdd clywed yr amryw fabanod oedd yn y gynulleidfa yn cymeryd rhan yn y cyfarfod, er nad oedd yr un baban i gymeryd rhan yn ol y copi a welais o'r ddra- ma. Ond nid ar y babanod yr oedd y bai, ond ar y 0 ran hynny, gwell i mi beidio a beio, onite gwarchod ni am awgr- rymu y dylesid eu gwarchod hwy gartref. Pe buasai awdur y ddrama yno, nid oes amheuaeth yn fy meddwl na buasai wedi ei lwyr foddloni ar y perfformiad. Yn wir, aethwn gryn bellter i'w gweled a'u clywed eto. Rhaid fod y Parchedig J. Howell, bugail y praidd ym Mynydd Seion, wedi cymeryd nid ychydig o drafferth i gyfarwyddo'r cwmni. Efe, fel y clywais, fu wrthi, er nad oedd yn y golwg ar y llwyfan, ond clywais ei fod tuhwnt i'r Hen. Derbynied fy llongyfarchiadau. Yr oedd yr ynad Cadwaladr Morgan yno hefyd ar y Wylfa." Nid ar y fainc, oblegid maine llys gwladol yw ei fainc ar rai o ddyddiau'r wythnos, a mainc set fawr ar y Saboth. Cefais gipdrem arno unwaith neu ddwy trwy gwr y Hen, a llyfr yn ei law, nid llyfr y gyfraith na llyfr cyfrifon, ond llyfr y ddrama. Bu bron i mi anghofio dweyd mai'r cadeirydd oedd y Parch. R. Roberts, Rhostyllen, Bishop Emeritus y Rhos. Pan oedd y curtain i lawr, daeth o'r gadair in front of the curtain a rhoes anerchiad byr, buddiol, a blasus. Ni chlyw- ais faint oedd swm yr elw ariannol. Rhaid ei fod yn swm sylweddol, oblegid yr oedd cynull- eidfa fawr yn bresennol. UN O'R PROFFWYDI BYW.