Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Heb os nac onibae, dyna feddwl yr Arglwydd y crechv^i ynddo, ond y mae Efe'n aros wrthym ni, Ei gorff a'i gyfryngau, igyd- gyfranogi o'i annioddefgarwch sanctaidd Ef at yr hyn ,y dylideifoddyginiaethu. Am y gwerth diderfyn a ddyry dysgeidiaeth Crist ar vr enaid unigol, Ei ofal am y gwannaf o bob dyn a dynes a phlentyn fel rhai sy'n berchen urddas plant Duw,—gwneir, fe dreisir hyn yn y pnodd erchyllaf gan yr amodau y caniateir i filoedd fyw tanynt— amodau sy'n sarhad ar Dduw ac yn drais ar ddyn. Y mae egwyddor Brawdoliaeth Dyn-sef os dioddefa un aelod o'r corff fod yr holl aelodau'n cyd-ddioddef ag o—yn ein rhwymo i arfer y moddion cryfaf i achub ein cyd- ddynion, er mwyn iechyd a bywyd y corff cyfa'. Dylai mothiant ein cardoda i fod yn ddim math ar feddyginiaeth wirioneddol rhag drygau cymdeithasol, a'r effeithiau dirywiol, mewn gwirionedd, a ddeillia o lawer o'r hyn a wneir i gyfarfod y waedd a'r angen,—dylai, fe ddylai hyn ein sbardynu i gynorthwyo gyda chael meddyginiaeth ddyfnach a llwyrach. Nid yw cardod, hyd yn oed ar y goreu, yn ddim math ar iawn am gyfiawnder, ac y mae'n beth Beiblaidd mai'r dreth gyntaf ar bob diwydwaith ydyw cydnabyddiaeth deil- wng i'r gweithiwr. Dichon y bydd i wrthymchwydd llafur orfodi'r bobl gefnog i roi tecach rhaniad o ffrwyth diwydiant ond dylai pob dosbarth fel ei gilydd ysu am wneud yr hyn fo'n iawn am ei fod yn iawn, ac nid am y rhaid inni. Yr ydym yn credu fod llywiaeth wladol yn dod i gydnabod fwyfwy nad yw llafur a delir yn grintach ddim yn llafur darbodol ac mai rhyw gallineb byr ei olwg yw'r prynnu yma yn y rhata'i farchnad, heb falio p'odd y chwysir y gweithiwr wrth wneud. Credwn nad yw Eglwysi Crist ddim yn dylanwadu'n agos fel y gallent ar ein bywyd cymdeithasol. 'Does arnom eisieu clywed dim plaid-wleidyddiaeth o'r pulpud ond y mae arnom eisieu clywed—yng ngenau'r pre- gethwr, yng ngweddi'r addolwr, ac yng nghvdwybod gyffredin y Cristion da,—oes, eisieu eu clywed yn cydnabod dyledswydd at gymdeithas, ac yn cymell cymhwysiad gonest a glcw o egwyddorion cyfiawnder a thru- ¡' garedd. Taer-ddymuno'r ydym am i efrydwyr athrawiaeth Crist ddirnad yr egwy- ddorion, ac y dylai pawb gafodd dro at Grist a phawb sy'n cymuno wrth Fwrdd yr Arglwydd—ie, am eu bod wedi cael tro ac am eu bod yn cymuno wrth Ei fwrdd, hwy ddylent ddirnad eu bod felly wedi ymaddaw ac ymddiofrydu i'w cyflawni a'u byw. A'r petha'u hyn yn ddwys ar ein meddyliau, wele ni, aelodau o'r amrywiol gyfun- debau crefydd sydd yng Nghymru, yn dy- muno pwyso ar i bob Cristion, o ba gorlan bynnag, deimlo'i ddyledswydd i ymroi a'i holl aidd ac egni i gymhwyso egwyddor y Cyflog Byw at bob gwaith a gorchwyl.— Arwyddwyd, ar ran Ysgol Gymreig y Gwas- anaeth Cymdeithasol, gan SYR STAFFORD HOWARD, K.C.P., Llywydd, YR ARCHIAGON BUCKLEY  C?M.-?- MR. D. LLEUFEN THOMAS. ? ?<??0?. Y Parch. GWILYM DAVIES, M.A., Ysg. Mygedol.

Ffetan y Gol.

Advertising

I YS] AFELL Y BEIRDD I

Advertising

CWYN -COLL

CATHLAU .... BORE a NAWN ALAFON.

Advertising