Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Ln C nsal ym Manoeinion.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Ln C nsal ym Manoeinion. Dyddiadur, I IONAWR 1914 24-Te Parti Mawreddog yn Pendleton OHWEFROL 6—Darlith y Gymdeithas Genedlaethol 13-Cytarfod y Gymdeithas Genedlaethol 14—Oyngerdd Undebol y Band of Hope 22-C)farfod Pregethu Lord Duncan Street 28-Cyngherdd Gwyl Dewi yn Holdsworth Hali Cenhadon y Sul Nesat. I Y METHODISTIAID OALFINAIDD. Moss SIDE-10.30 a 6.30, Thomas Hughes, Rhiw PENDLETON-10.30 E W Roberts 6; R Williams HEYWOOD STREET-10-30, E Humphreys, Rochdale 6 « E W Roberts HIGHER ARDWICK-10.30 R Williams 6, E Humphreys LEIGH-6, FARNWORTH—10.30 a 6, J Edgar Roberts EARLESTOWN—10.30 a 5.45, W ARRINGTON-10.30 a 6. Edmund Griffith, Lerpwl EGLWYS UNDEBOL ECCLES-ll a 6.30, W Roberts, Lerpwl YR ANNIBYNWYR OHORLTON ROAD-1 0.30 a 6.15, BOOTH STREET-] 0.30 a 6-15, M Llewelyn LD DUNCAN ST., SALFOUD—10-30 a 6-15, J Morris QUEEN'S ROAD—10-30 a 6-15, ROLLINWOOD-IO.30, Cyf Gweddi 6.15, W W Hughes WEASTE—10.45 a 6, W W Jones Y WESLEAID DEWI SANT—10.30, 6, J Roger Jones HOREB-IO.30 J Roger Jones 6, Cyf Gweddi SIGN —10.30, Cylarfod Gweddio 6 A Lloyd Hughes BEULAfi-2.30, A Ll Hushes 6 G Tibbotfc CALFAlUA-IO.30, J TEllis 6, J M Williams ECCLES-2.30, J M Williams. 6.30 Y BEDYDDWYR UP. MEDLOCK ST.—10.30, a 6, J H Hughes LONGSIGHT-10.30, a 6.30, ROBIN'S LANE. SUTTON—10.30 a 5.30 -1 COLOFN Y CYFRIN. I EGIN MEDLOCK STREET.—Cynhaliwyd CyfarfodCystadleuol Ysgol Sul yBedyddwyr, Medlock Street, y Sadwrn, diweddaf, a pharato- wyd to rhagorol.i' r plant a'r bobl ieuainc gan chwiorydd yr eglwys. Daeth nifer luosog i'r cyfarfod, ac yr oedd y-i llawn mwynhad. Beirniadwyd yr ymgeiswyr gan Mr. J. G. Jones Mrs. O. R. Williams, Moss Side Mr. Edward Lloyd, Victoria Park. Llywydd- wyd gan y Parch. J. H. Hughes. Cyfeiliwyd gan Miss A. E. Evans a Mr. G. H. Williams, ac arweiniwyd y plant gan Mr. R. C. Jones. Enillwyd y gwobrwyon gan y rhain :—Ad- roddiad (dan 10 oed) Nellie Roberts a Gwennie Rogers. Adroddiad (dan 15 oed) Madge Roberts a Ceridwen Williams. Canu, Tyner wyn y praidd Miss Madge Roberts. Unawd, Beth a wnai di a'r Iesu": Miss Nellie Jones. Canu hen alaw Gymreig Misses Gwladys Jones a Myfanwy Williams. Daeth dau barti i ganu'r don Bethania, a bu'r ddau yn gyfartal. Adrodd, Pethau bychain Misses Dilys Williams a Nellie Jones. Caed hwyl dda gyda chystadleuaeth cyfansoddi llythyr caru, ac enillodd Mr. G. H. Williams. Am wneud Table Centre 1, Miss Worsley Jones 2, Mrs. John Roberts. Canwyd yn y cyfarfod gan y plant a Mr. R. J. Jones, ac adroddwyd gan Mr. James Thomas, a Misses Branwen Morgan a Dolly Jones. 11 i "J —— HOs CWPAN, CWPAN LA:N.-Mae eglwys I M.C. Pendleton wedi cael pawb ei gwpan cymun, a thrwy hynny wedi dangos eu bod i fyny a'r oes. Mae amryw o eglwysi'r cylch yn cyndynnu gyda'r hen ddull a wrthodir yn awr yn dra chyffredinol. Mae'r modd brawd- ol y symudodd eglwys Pendleton yn anrhyd- edd iddi, a dylai fod yn symbyliad ac esiampl i ereill. Datblygodd y syniad gyntaf ym mhlith y chwiorydd rhoisant y mater i ystyriaeth y blaenoriaid a gofynasant hwythau lais yr eglwys, a phleidleisiodd yr aelodau yn unfryd. Ymrodd y chwiorydd i gasglu'r arian angenrheidiol, a danghoswyd sirioldeb a haelioni inawr. Credaf na fyddai aelodau'r un eglwys heb i bawb gael ei gwpan yn fuan iawn pe caent eu rhyddid a'u hawl i bleidlcisio ar y mater. Y mae'r hen ddull yn hollol groes i lanweithdra, ac i bob arforiad teuluaidd a chymdeithasol. Nid yw syndod yn y byd fod cynifer yn troi eu cefn ar y seiat gymun, neu'n ffugio yfed o'r cwpan, yn yr eglwysi sy'n parhau gyda'r hen ddull. Nid diffyg parch a chysegredigrwydd ydyw ystyried ein dyledswydd gyda hyn, pan gofiwn fod meddygon swyddogol ein trefi ar eurgoreu yn ceisio atal lledaeniad afiechyd gan ddangos perygl arferion cyffredin. II —< $ F COFIANNYDD YR HEN BENUEL.-Lle tra chynhyrchiol yn yr ystyr o gyfansoddi Ilyfrau yw'r dref hon gan Gymry'r gorffennol, ac hefyd y presennol. Yr olaf i wneud y gwaith hwn yw'r Parch. J. H- Hughes, gweinidog y Bedyddwyr. Gelwir ei lyfr yn Camnlurydd- iaeth Penuel, Bangor. Hanes y Bedyddwyr ym Mangor ydyw, o'i ddechreuad gan mlyn- edd yn ol hyd yn awr. Un o blant eglwys Penuel yw Mr. Hughes, a'r hynaf ohonynt yn y weinidogaeth. Cyfleodd yr hanes yn fanwl iawn, ac mewn modd diddorol a dar- llenadwy. Dosrannodd ef yr benodau, a'r rheiny drachefn yn adrannau byrion,a gweith- iodd yr hanes i mown o ddolen i ddolen mor hapus, fel y cefais ddigon o hyfrydwch i'w ddarllen trwyddo heb ei roddi o'm Haw. Dichon y bydd darllen yr hanes, i'r rhai sydd yn cofio llawer o'r hen gymeriadau, yn foddion i adnewyddu ambell atgof sydd megis ar goll yn awr a phetae y rhai hynny'n anfon yr atgofion ar eu hunion i awdur y llyfr, ceid cyflawnach hanes erbyn y bydd eisiau ail argraffiad. Da fyddai i hynny gael ei wneud gyda phob llyfr hanes. Mae Mr. Hughes wedi cofio ei hen gartref ymhell ohono, a gwaith rhagorol fyddai i ereill ei efelychu gan ysgrif- ennu yr hyn a wyddant am eu cartrefi hwy. thau. Dechreuad bychan iawn oedd i achos y Bedyddwyr ym Mangor, ond y mae ei gynnydd graddol a chryf yn rhyfeddol. Cewri crefyddol oedd llawer o'r rhai oedd a'u "hysgwyddau dan yr arch, ac y mae'r ychydig ddvfyniadau a geir yn yr hanes amdanynt yn darawiadol. Dyma ddarlun Arwystl o Thomas Thomas, trydydd gweinidog yr achos yn y lie Dyn bychan, del, coesfyr, sionc, a dibwyll. Safai arno'i hunan fel top, a throai cyn chwyrned-pan ai yn ei flaen ni byddai ewyn yn ol iddo, a pha ffordd bynnag. yr ysgogai, ymlaen neu'n ol, byddai ei draed daDo." Mae'n bleser gweled y llyfr yn yr orgraff gywir, ac nid oes ond ychydig eiriau fel y rhai canlynol yn frychau arno, "neill duol," adgof," cyrhaedd," "canghen," etc. ond nid yw'r brychau ond megis dim bron wrth gynnwys gwerthfawr y llyfr. CHWALFA DRisT.-Ailao trysorau'r fonedd- iges dalentog a goludog, Miss Gaskell, ar I werth yn awr. Bu farw ychydig amser yn ol. Yr oedd ganddi lyfrgell fawr a gwerthfawr. Cyfansoddodd nifer dda o lyfrau, a gwnacth lawer o ddarluniau, ac amryw ohonynt yn olygfeydd Cymreig. Yr oedd ei serch at ei Ilyfrau, a'i darluniau, yn angerddol ond y fath chwalfa, fawr fydd arnynt igyd mewn byr amser wedi iddi hi gau ei llygaid arnynt am byth. Anfynych y ceir golygfa fwy trist.

Gwlitli Gwladgarvvch.

0 Chwarel a Cblogwyn. I

Advertising