Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
 of f6 ggis GODS jt ■ III poIi^an SAVE 5/- :n the & IIIUFORNISH FOR S?"' iflinooo^s] Hn|| A Visit to our Showrooms, or, if this Is H BHS IHH impossible, a pstnsal of our ?t ? )!)j ? LARGE tHUS?TEO CATALOGUE ■ |l will convince yon of this fact. ?t ?? ??N N FIFTY TKARS, T?PUTATION FOR VALUEt M MY??ILES ?J ? ? ? 34?6<38?0.42'4?'46?S'L?D? RD ) r W 'pm># £ f2/4.xoYm LlVEMOflL* I ??? ???/?:/??/???'?M??.?_A A   IF YOU WANT SEASONED Oak, Mahogany, Birch, BlacK Walnut, Ash, White Wood, Pitchpine, Yellow Pine, Doors or Mouldings, WlklTE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD, LIVERPOOL- YN AWR YN BAROD. Liais oLuoaaiD YSGRIFAU MYFYRDOD •AM PETER HUGHES GRIFFITHS  ?. ?- i 2/= nett. HUGH EVANS A'l FEtBION, Swyddfa'r Brython," LERPWL.
WRTH GOFIO JOHN HENRY I
WRTH GOFIO JOHN HENRY Myn-ych y daw angladd rhyw gyfaill neu gydnabod ,tan lygad y Drych a phe delid ar bob un, nid digon fyddai'r gofod yn y golofn hon, o wythnos i wythnos, i hynny'n unig. Ond yr oedd John Henry yn wr mor nodedig ymysg Cymry Lerpwl fel nas gallwn lai nag aros ennyd tan gysgod prudd ei ym. adawiad, a chwith gennym feddwl ei fod yntau, bellach, wedi dianc adref." Rhed ein hatgof cyntaf amdano cyn belled ag Eisteddfod Porthmadog,—40 mlynedd yn ol. Dyna'r Eisteddfod Gadeiriol gyntaf i ni fod ynddi. Yr oedd Eben Fardd wedi marw ers tua saith mlynedd, a chofiwn yn dda fod ei goffa'n bur fyw yng nghylchoedd yr Eis- teddfod honno. Yno y gwelsom loan Madog a Chynddelw—y cyntaf yn derbyn gwobrwy. on, a'r olaf yn beirniadu. Dedwyddwch oedd testyn awdl y Gadair, a'r diweddar Glynog, o Ryd y main, a enillodd. Y mae fel doe inni wrando Cynddelw'n traddodi ei feirniadaeth, mewn parabl croew, clir, a'r ganmoliaeth uchel a roddai i'r awdl fuddugol. Disgynnodd yr englyn olaf o'r cyfansoddiad o enau Cynddelw ar ein clyw, ac argraffwyd ef ar ein cdf yn y fan, ac yma y mae yn awr,- I'n Dyddiwr, cyn diweddu—ein gyrfa, O'n gwirfodd gwnawn gredu I fyny y cawn fwynhau cu—fawl bythol, Salmau oesol Caersalem Iesu. i Yn yr un Eisteddfod honno y gwelsom y diweddar gyfaill caredig ac awenyddol, Yr Alltwen, yn esgyn i'r llwyfan, yn ddyn ieuanc syth, lluniaidd, penddu, i dderbyn gwobr am Gywydd i Bismark. Yn yr Eisteddfod honno hefyd y bu cystadleuaeth, mewn cylch neill- tuol, ar englyn i Lais Meurig Idris. Dyn tew iawp oedd Meurig, a'i lais fel utgorn. Ac ebai'r Alltwen, :> Llais y mor yw llais Meurig,—neu daran Yn ymdorri'n ffyrnig Crwn ydyw, ond crynedig, Hynod, mewn gormod o gig! Os iawn y cofiwn, Idris Fychan, brawd Meurig, a orfu a diweddai fel hyn,— Llais abl, tog, a llais bol t6n, Llais Meurig yw lies Meirion. Ond rhaid cau'r drws ar yr atgofion ymdyrr ato o'r Eisteddfod grybwylledig, oddigerth yr un y bwriadem ar y cychwyn ei alw i fewn, sef yr un am ddyn ieuanc, o'r enw John Henry Williams, brodor o Borthmadog, ond oedd ar y pryd yn Lloegr, tan addysg gerddorol. Efe a enillodd ar gyfansoddiad cerddorol, a mawr oedd y llawenydd am ei Iwydd. Dyna'r tro cyntaf i ni wybod dim am y Cymro cerddgar a ddaeth i amlygrwydd wedi hynny fel cyfansoddwr,fel datganwr, ac fel athro mewn cerddoriaeth. Ni fwriadem, ac nis gallem, ddilyn gyrfa'n cyfaill o hynny hyd i'w ymadawiad, oher- wydd na chawsom ddigon o adnabyddiaeth ohono, a diau y gwneir hynny gan rhywun mwy cyfarwydd na ni. Ond yr oedd John Henry yn ddyn nodedig -yn gymeriad ar ei ben ei hun, a mynnai hawl i dyfu yn ol ei neilltuolion arbennig ei hun, yn gymeriad gwreiddiol ac annibynnol. Prawf rhai o'i ganeuon ei fod yn perchen athrylith y gwir gerddor, ac wrth wrando arno yn canu fe deimlid fod ei enaid yn llosgi'n wyn yn ei nodau. Amheuthun fyddai ei wrando'n canu ei waith ei hun. Fel rheol, mynnai gyfansoddi'r geiriau'n gystal a'r gerddoriaeth. Yr oedd yn gaethwas i swyn cerddoriaeth, ac nid hawdd bob amser fyddai iddo ddilyn unrhyw raglen ddarostyngedig i amser a lie. Buom yn ei gwmni unwaith mewn eisteddfod fechan ym Mon, a mawr fu'r helbul i gael ganddo ddilyn y rhaglen a'r awrlais. Yr oeddym yn ein llety, ac yno'r oedd offeryn cerdd a fawr hoffai. Ar ol te, dechreuodd drin hwnnw. Yr oedd y teulu i gyd wedi mynd i'r neuadd yn gynnar, i sicrhau He, ond glynai Mr. Henry wrth yr offeryn. Gwelsom ei fod yn amser i ninnau gychwyn, gan ein bod i arwain y cyfarfod. Ceisiem ganddo yntau ddod. Dim ond dros y don yma, ac mi awn efo'n gilydd," meddai. Felly dro ar ol tro, nes yr aeth yn ddiweddar arnom. Y cadeirydd oedd gymer- iad gwreiddiol arall, fel Mr. Henry, sef y diweddar Ddr. Evans (Tudur). Un nodedig o fanwl a rheolaidd ei drefniadau oedd y Doctor. Rhoddwyd ar ddeall inni wrth fynd i'r neuadd ei fod yn dwrdio'n enbyd, a gwel- som hynny wedi mynd ato. Gan obeithio ennill ei gymod, adroddasom englyn iddo. Waeth yn y byd, ddiced oedd y cadeirydd fel y gadawodd y llwyfan ar garlam, yn brotest i yn erbyn y ddeuddyn esgeulus o'u gwaith. I Teimlem ni'n anesmwyth ddigon, ond gwelem I John Henry a'i lygaid ar un o'i ganeuon, ac yn suoganu'n bur ddidaro Nid oedd wedi ei gwbl foddhau yn natganiad un o'r unawdau cystadleuol,a rhannodd y wobr yn anghyfartal yn ol fel y barnai efe fod y gwahaniaeth mewn teilyngdod rhwng dwy ferch. Un o'r pethau digrifaf a welsom mewn cwrdd o'r fath oedd ffwdan ein cyfaill pan alwyd ef i gyfrif gan nifer o'r merched, ac y ceisiai egluro iddynt seiliau ei ddyfarniad. Yr oedd yn ddewr iawn pan fyddai galw am hynny,fel y cafodd un llanc mewn tref arall ym M6n wybod, pan i'w alw i gyfrif ar derfyn cwrdd cystadleuol. Prin y mae gwasanaeth ein cerddorion a'n cantorion poblogaidd yn cael ei haeddol glod yn ein mysg. Mae yn Lerpwl, drwy'r blyn- yddoedd,gantorion sy'n rhoi eu gwasanaeth yn ami am ddim, i gefnogi achosion dyngar a gweiniaid. Maent yn ymweled ag ystefyll cenhadol, a phreswylwyr y slums, S Thlotai, ag ysbytai, a Chartref y Morwyr, ac a phob math ar leoedd i beri cysur i'r afiach a'r tlawd. Ac nid dieithr i waith ary fath oedd Mr. John Henry. Yr oedd yn ddyn o ysbryd crefyddol, ac yn teimlo diddordeb mawr yng Nghaniad- aeth y Cysegr. Gwyr llawer o eglwysi Cymreig Lerpwl iddo roi ei wasanaeth iddynt lawer tro am ychydig iawn o gydnabyddiaeth, i feirniadu a chanu. Gwelodd Mr. John Henry gystuddiau trymion a maith, a bregus oedd ei iechyd ers blynyddoedd bellach. Addefir yn gyfiredinol ei fod yn feistr ar y modd i ddiwyllio llais, a daeth llawer o'i ddisgyblion i enwogrwydd. Bydd rhai o'i gyfansoddiadau fyw'n hir. Nid oes neb sicrach o anfarwoldeb na'r cerddor a gyfansodda gan wir dda, ac yn taro calon cenedl. Credwn ei fod ef yn un o'r cyfryw, ac y deil ei ysbryd i ganu trwy ein gwlad, o genhedlaeth i genhedlaeth, am amser maith. Parchus fyddo'i goffa, a nodded y Nef tros ei weddw a'i amddifaid.
Advertising
PALAIS DE LUXE, LIME ST., LIVERPOOL. LLUNIAU BYW SYMU001 Chwaethas, dyddorol, ac adeiladol ac YN BARHAOL. 0 2.0 hyd 10-30 bob diwrnod o'r wythnos. Denwoh pan y mynnooh, ao arhoswob oyhyd ax j dymtmoch To yn rhad heb dal rhwng 4a 8 Yft yr Oreheetr Stall*, Pit Stall*, a'r Drest Circia, Mynediad, a 6cb
SGUBO'R SGLODION. )
SGUBO'R SGLODION. ) RHYW goflaid o 'sglodion hyd lawr y gweithty newyddiadurol yma oedd y rhain, ac a sgubwyd yn dwmpath fan hyn o'r ffordd rhag baglu rhywnn a bod tan draed wrth i ddyn fynd ati i lifio pethau praffach a thrymach y rhifyn :— CHW-[W*'R DD-PAMA.-Y mae chwiw'r ddrama wedi ymledu fel tan gwyllt dros Gymru, Dde a Gogledd, ac yn chwythu'r cyngherddau a llu o bethau ystrydebol o'i flaen fel peiswyn o flaen y gwynt. Ac yn awr, dyma hi'n dechreu anturio oddicartref, canys hwyliai Cwmni'r Change--sef drama Mr. J. O. Francis, Llundain, a enillodd ganpunt gwobr Arglwydd Howard de Walden y llynedd-o Southampton am New York ddydd Mercher diweddaf. Trefnir eu cyhoeddiadau yno gan Mr. Tom Owen, brodor o Abertawe, ac y mae ei chwaer, Doris Owen, yn aelod o'r cwmni, a hi yw'r eneth ieuengaf a arwyddodd gytun- deb theatraidd erioed. Ac eto fyth Dat- blygiad y Ddrama yng Nghymru yw rhan o ddarlith a draddodir gan Mrs. Silyn Roberts (Caerdydd) yn Nenmarc, lie y treddyd hi gyfres o ddarlithiau bob blwyddyn. Byth yr oero'r chwiw, canys lie bynnag yr elo'r Ddrama, aiff a'r iaith Gymraeg gyda hi. EU GWLAD YNTEU'U GLASIAD ?— Yng Nghyd-bwyllgor Heddgeidwadol Sir Ddinbych ddydd Mercher diweddaf, eglurodd y Prif Gwnstalbl mai'r rheswm am gynnydd meddwdod yn nhref Dinbych ar y Sul am y llynedd oedd cau'r clybiau, ac fod y Territor- iaid wedi bod yno'n gwersyllu'r haf. Yr un hen stori, beunydd a byth. Dywedir am farch rhyfel Llyfr Job ei fod o'n arogli rhyfel o bell, ond arogli rhywbeth arall y bydd llawer o'r Ilymeitwyr milwrol, ac o bellach byth a beth pe baent yn caru'u gwlad mor angerddol a'u glasiad ? Ni fyddai fawr o siawns i'r Germaniaid ddod yma wedyn MARW YN EI ANTERTH.-Dyna ddarfu'r Parch. Robert Griffith, gweinidog eglwys M.C. Gymraeg Ffiirit ers pedair blynedd ar ddeg, ac yn ddim ond un a deugain oed. Yr oedd yn Rhyddfrydwr croyw ddi- syfl, ac a ymladdodd er clod iddo'i hun ag Esgob Llanelwy ar bwnc y Datgysylltiad. Yr oedd yn Warcheidwad y Tlawd, ac yn weithiwr difefl tros ei blaid gyda'r etholiadau Sereddol. Medrai ysgrifennn rhagymadrodd gwerth ei ddarllen i adroddiad blynyddol ei eglwys, ac nid rhygnu yn yr un rhych a geiriau fel y gwneir mor ystrydebol bob blwyddyn gan amlaf. Gresyn colli gwr mor dda a defnyddiol yn ei anterth. Bydd yn bur chwith i'r eglwys a'r Sir amdano fel dyn a gweinidog, A beth mor lioff a choffa Camre teg cymeriad da ? chwedl Tryfanwy yn rhywle. Rhoes Mr. J. Herbert Lewis5 A.S., ac eraill air uchel iddo yn yr angladd ddydd Sadwrn diweddaf. BARF A BLEWIAC-TI.-Un gvvalian- iaeth rhwng yr oes hon a'r llall o'i blaen yw prinder y farf laesbraff fyddai mor gyffredin pan oeddwn i'n hogyn rhagor ydyw heddyw. Un o fil a gawch yn gwisgo un hir a hardd heddyw, canys gwell gan yr oes falch ac arwyrebol hon ydyw'r mwstas bach a'r tusw gwefl teneu, a hwnnw nid yn llwyn naturiol fel llwyni ratur a'r arifeiliaid, ond fel gwrych neu setting a. fo wedi ei eillio'n wastad, a'i gwyro'n bigfain nes edrych fel dau big draenen seth un o bobtu'r clawdd cerrig. Rhad arno, y mae'n beth hyll a diurddas,- mewn pulpud yn enwedig. 'Fyddai dim byd mwy dymunol gen i na gweld Gwilym Hir- aethog, neu un arall o Hoelion Wyth Pulpud Cymru, yn gafaelyd ym ei farf, ac yp bwrw 'i law ar hyd ei blew urddasol, wrth dynnu bwa'i ddychymyg at ollwng saeth yr argyhoedd- iad i galon tyrfa o Blant y Codwm. Ond heblaw bod yn hardd a hamddenol i edrych arni, 'roedd y farf drwch yn ddarn go dda o iechyd dyn, canys wrth guddio'i frest ac estyn ei blind blew i lawr hyd at y pumed botwm corn fyddai ar ei wasgod melfered, hi a gadwai'i gwisgwr rhag ellyllon yr annwyd a'r disianwst a'r mil myrdd meicrobau bach yna sy'n snechian beunydd am gyfle i gael i fewn i frest dyn a chloddio chwarel y darfodedig- aeth yn ei ysgyfaint. Ond yn lie gwisgo barf, dyma ni eiddilod gwan a gwichlyd yr oes hon yn rhy wachul i'w chario, ac yn gwisgo pawb ei blistryn a'i glwt gwlanen goch rhwng ei grys a'i groen, ac yn claddu'n bronnau tan siop I drygist o geriach celfyddyd a gwneud y corffilyn moethus mor dendar nes ei yrru i grynnu a sgrythu ar bob chwa, ac yn y di- wedd i sych-besychu a phoeri ei hoedl allan ymhell cyn yr amser. Y mae gen i lun Cyn- ddelw ac ereill o gewri'r uwd a'r llymru yn y gell yma, ac y mae sbio arno fo a'i droedfedd o farf yn fwy o gynhesrwydd i mi na'r gas stove yma sy mor gwta'i gwres foreuau'r barrug yma. Ychydig iawn, iawn, o wyr y barf a'r blew cryfion a llaes yma a gyfarfum i nad oeddynt yn gryf o gorff a chynheddfau Brynfab, Pont y pridd ynfi, yn enghraifft a chawswn i farf fel y fo, ni fuasai raid imi ddim llyncu cymaint o foddion meddyg, na gwisgo'r grafat gwddf yma sy'n un sach am safn dyn hyd nes delo mwynder Mai a Mehefin yma i'w dynnu. Maddeuwch imi am droi a throsi fel hyr gweld y barrug a Hun Cyn- ddelw a'm gyrrodd oddiar fy echel, ac i ganmol barf a dwrdio blewiach. Ond ahai wrth roi mhensil yn 'y mhoced, dyma'm llygad yn disgyn ar bum pennill Saesneg Talhaearn i'w Whiskers, ac yn fy myw y medraf eich gollwng cyn darllen ohonoch y ddau olaf o'r pump :— Without my whiskers, I must own, My strength, like Samson's, would be gone My Pegasus would limp and moan, And be a roarer And alFthe Muses would disown Their warm adorer. By Jove and Genevieve I swear I would not lose a single hair, Unless some gentle lady fair, To me endear'd, Should wish them off-then she might share My heart, and shear my beard. I Yn"union fel y Tal, onite ? « HOELEN I'W BARCH,—Y mae Syr. Henry Lewis, Bangor, ar fin cyhoeddi ei gyfres ysgrifau ar Ddadgysylltiad yn llyfryn chwech, o wasg Conwy. Gwyddis ei fod ef yn godymwr ami i ddeon ac esgob ar y pwnc poeth, ac yn un o'r ymladdwyr goreu sydd gennym dros Ryddid a Chydraddolde I Dyma'i safle Pob parch i'r Eglwys fel un ° ddiadelloedd yr lor, ond naw wfft iddi hi fel gorthrwm gwladol. Dioddefasom ddigon o hyd, ond dim rhagor os gwelwch yn dda. Da iawn. Hoelen i'w harch, Syr Henry s8f¿;yr arch o Goed y Gwaddol a'r Degwm. LLENORES ABER YSTW YTH.-Dy- wedir fod traethawd Miss E. J. Lloyd, Aber- ystwyth, ar Hanes yr Eisteddfod, i'w gy- hoeddi'n gyfrol. Da iawn, canys dyma'r traethawd gafodd yr hanner canpunt gwobr, a'r fath glod gan y beirriaid, yn Eisteddfod Gwrecsam, 1912. SOSIN GALLT Y BLACA.-Y mae'r Parch. John Da vies, gweinidog eglwys Unitar- aidd Gallt y Blaca, Sir Aberteifi, am roi fyny'r fugeiliaeth fis Mehefin nesaf. Y fo ar nn ei bedwar ugain oed, ac yn ddigon sionc a siriol heddyw, er gwaetha'i bwn blynyddau, i gerdded deng milltir bob Saboth ol a blaen i'w gyhoeddiadau. Y mae o'n ddigon hen i gofio'r chwerwedd a'r glafoeri fyddai ar Undodaeth gan gulion Trindodol, ac a fedrodd ddiodde'r peth annioddefol hwnnw :-clywed crebach saith salach ei gymeriad nag e'i hun yn tystio'i fod o a'i gorlan y tuallan i Drefn y Cadw. Na choelia i fawr ebe Sosin gloyw Gallt y Blaca, y mae honno'n anfeidrol letach na chwi, o drugaredd." OPERA GYMRAEG.-Dywedir fod Mr. D. Jenkins, Aberystwyth, wedi cwblhau Opera seiliedig ar Aylwin, nofel hysbys Mr. Watts-Dunton. Ym mro Eryri y mae'r cyflead a dyma'r ymgais gyntaf ar y math hwn ar gerddoriaeth. Y mae'r Opera a'r Ddrama yn berthynasau agos a byddai'n eithaf peth inni gael y ddwy gyda'i gilydd yng Nghymru. -90 CHWIBIANU A CHLWCIAN.—Bu'r Parch. J. Venmore Williams ac ereill o Warcheidwaid Tlodion Undeb Caergybi, yn eu cyfarfod yr wythnos ddiweddaf,wrthi'n hallt- ddwrdio'r sathru mawr ac annioddefol sydd ar Sul Cymru gan yr ymwelwyr o Loegr ond ebe Mr. Thos. Hughes, i ddangos mai nid ar un ochr yr oedd y bai i gyd, nage, o lawer chwaith :— I ba beth yr ydych yn son ? Yn enw dyn y mae rhai o'n harweinwyr crefyddol a logant eu ceffylau ar y Saboth er mwyn y geiniog a gant gan y gwyr-dyfod yma." 'Does neb ohonom mor bendew bellach a meddwl y gellir troi'r llanw Seisnig yma yn ei ol, nac y gellir byth mwy gadw'r Saboth mor gaeth a manwl ag y gwnai'n tadau ond hyn sydd sicr :—Fod y dieithriaid dibris yma'n cael llawer gormod o raff, a hynny oherwydd fod y tren a'r cymoedd sy'n chwibianu a chlwcian mor uchel amdanynt yn malio'r un fieuen am y Ilaid a'r llysnafedd adawant o'u hoi ar ein gwlad, fyddai mor dawel a di-lwch cyn dyfod pryfed yr ha' atom i wybeta'u hoen a'u hamdden. Y mae'n ddigon sicr gen i mai plentyn un ohorynt hwy atebodd yr holwr fel hyn pan ofynnodd hwnnw P'run yw'r dydd hwya', 'mhlant i ? Dydd Sul," ebe'r crwt golffaidd ei flas a'i fryd. CYMFIARIAETH Y DROL FEFUS.— Dyma gymhariaeth a godir o'r Cymru, ac a ddyfynnir o rywun gan y Parch. Peris Will- iams, yn ei ysgrif ar Goleg Bala-Bangor. Am y diweddar Broff. Thomas Lewis y sonnir yn y cyswllt hwn Fel siaradwr cyhoeddus, yr oedd ofn dyn yn gryn fagl iddo. Dioddefai ei bregethau oddiwrth hyn. Siaradai yn gyflym a lied undonog, a gallesid meddwl £ t mai ei brif uchelgais oedd gallu myned i'r pen heb i'r un drychineb alaethus ddig- wydd. Ond wedi iddo ddarfod, teimlai gwrandawyr craff yn debyg fel y teimla "pobl Gwrecsam pan fydd troliau mefus Holt newydd fynd heibio tua'r stesion- u yr awyr yn llawn arogl hyfryd." Pobl y wlad—a'r hen bobl yn enwedig-am gymhariaeth, onite ? Yr J dym ni silod llwydioh y trefi'n rhy bwl a bydol i weld dim ond rhyw bethau ready-made ac ail-llaw. Dim ond un gymhariaeth y gwn i amdani gura un y drol fefus, sef un Ann Griffiths am saint y seiat, sef y dylent fod mor sanctaidd nes, pan agoro'r Diafol ddrws y Gyfeillach i feddwl mynd yno i'w poeni a'i goflaid o feddyliau gwibiog, y collo'i wynt gan gryfed y sawr sanctaidd ddeuai i'w ffroenau, yn union fol y bydd ambell arddwr yn colli ei wynt gan bereidd-dra sawr y blodau pan agoro ddrws y greenhouse., YN LLOND EI GROEN.—Un o gys- tadleuon Eisteddfod Tremadog yr wythnos ddiweddaf oedd i famau'r fro am y goreu a'r graenusa.'i babi. Ond 'rhoswch chwi dipyn bach tybed nad gwnlo rhyw shoddy Soisnig ar siwt o frethyn cartref Cymreig yw cydio'r baby show wrth Eisteddfod yr hen Gymry ? Y mae cymell y rhieni i iawn-fwydo'u plant, a'u cael yn do a chenedl cadarn eu cyrff a durol eu deunydd, yn lle'r silod llwydion a llaprwth sydd ohonom yng Nghymru heddyw, —ydyw, y mae cefnogi hynny yn beth da'n ddiameu ond dyma'r perygl, ydych chwi'n gweld sef i'r babanod cystadlouol yma gael eu llyfnu a'u gwneud yn 11 ond eu crwyn yn yr un fel dwyllodrus ag y llyfnir ac y llenwir anifeiliaid rhai o'r ffermwyr yma gogyfer a'r ffair a'i chrogbris. Ond 'does fawr o sa' yn y pethau pwff a geir yn Hond eu crwyn drwy fwyta rhyw geriach celfyddydol ar y wyneb y mae'r graen a'r gogoniant i gyd, a'r funud y'u rhoir yn y drol a'r tresi, ac yr a honno a'i llwyth i rych neu allt, dyna hi'n dag a nog ar yr hen "Gapten" a'i wynt. Ac yn go debyg y bydd hi gyda'r babanod pwff yma, ar ol i'r Eisteddfod fynd heibio. Gewyn a giau piau hi am fynd ar drol a'i llwyth i ben Gallt y Bywyd ac nid rhyw dwmpath brau o gig a bloneg. 009- M YND O'R OOLWG.-Tristwoh mawr pob plaid wleidyddol yr wythnos cyn y ddiweddaf, ydoedd clywed fod Mr. Joseph Chamberlain yn rhoi fyny'i aelodaeth seneddol tros Bir- mingham, ac yn mynd o Cyffredin ac o olwg y wlad am byth bellach, a hynny oher- wydd yr afiechyd sydd wedi ei ysigo ers blyn- yddau. 'Fu neb yn fwy o eilun y werin Radicalaidd ar ddechrou'i yrfa, na neb yn fwy o wron y bendefigaeth Doriaidd ar ei diwedd. A dyna beth anodd i bawb mynd o'r golwg. 009- YR HEN SIR TVEN.-Nid oedd yr un carcharor i'w brofi yn Llys Chwarter Sir Feir- ionydd yr wythnos cyn y ddiweddaf, a rhoed par o fenyg gwynion i gadeirydd y fainc, Syr Osmond Williams. Dywedwoh a ddwedoch, po Cymreicia'r Sir, glana'n y byd y hi rhag pob anfoes ac annuwiaeth anesa'n y byd y bo r sir i'r Clawdd—sef Clawdd Offa—dua'n y byd a thywylla'n y byd yr â. G waded a wado. -0
HOELEN WYTH,
HOELEN WYTH, Ac nid Seren Wib. Y Parch. Thomas Charles Williams M.A. Cyfetyb y darlun uchod i'r gwreiddiol yn hollol. Cyfyd yn naturiol ddisgwyliadau uchel yn yr edrychydd, ac nid yw'n debyg o'i fradychu yn y casgliadau a dynn oddi- wrtho. Tery ni ar unwaith fod natur wedi bod yn dirion iawn wrtho, a gellir ei gyfarch, corff a gymhwyswyd i ti." At hyn, gellir ychwanegu fod Rhagluniaeth a Gras wedi rhoddi sel eu bendith ar waith natur. Nid oes yr un ddolen goll yng nghadwya cwrs ei ddatblygiad i'r safle y mae ynddi heddyw. Daeth i'r byd, ni raid dweyd ymlile, gyda dogn helaethach na'r cyffredin o allu naturiol, ac estynnwyd iddo fanteision addysg goreu'i oes i'w ddiwyllio, a pharha'r naill a'r llall i ddwyn ffrwyth lawer. Yr oedd dysgu yn rhywbeth nes ato nag ail natur." Byddai'n clirio ei arholiadau bron heb eu gweled, ac oa byddai ef yn y rhedegfa, gobaith gwael i neb arall fod yn gyntaf. Yr oedd ei ddaear ef, mewn ystyr addysgol, yn dwyn ffrwyth bron ohoni ei hun. Onibae am gyfoeth ei feddwl, a thrylwyredd ei ddiwylliant, ni fuasai fyth yn atebol i gyflawni ei waith mawr ddydd ar ol dydd. Ni fu prawf neb mor lym a'r eiddo ef, trethwyd ei adnoddau'n gynnar, pwyswyd ef yn y cloriannau trymaf, gelwir am ei wasanaeth. yn y cylchoedd pwysicaf yng Nghymru a Lloegr er hyn oil, esgyn v mae mewn defnyddioldeb, parch, a bri, ac nid yw awr ei anterth, i'n bryd ni, wedi dod i'r golwg etc. Sibrydid ar ei darddiad cyntaf mai seren wib ydoedd, nad oedd dyfnder daear ynddo, ac y darfyddai ei boblogrwydd gyda chyfres gyntaf ei bregethau ond gor- chuddia ei hanes yproffwydi gau, o hynny hyd heddyw, a chywilydd. Yn wahanol i lawer o bregethwyr mawr Cymru, daeth o hyd i'w ddawn ar ei union. Newidiodd Mr. Matthews, Dr. Hughes, a Joseph Thomas eu dull o bregothu, a hynny er gwell, ond nid oes dim cyfnewidiad wedi digwydd yn nawn ein gwrthrych o'r cychwyn cyntaf. Ar hyd'y llinellau hynny ddeuai i'r golwg ynddo pan yn myned drwy'r dosbarth a'i flwyddyn brawf yTdatblygwyd ac y per- ffeithiwyd ei ddawn pregethu hyd y dydd hwn. Cafodd afael yn fore ar ei wir hunan, cydiodd yn ddiollwng yn y gafaeliad hwnnw, ac y mae'r wlad yn gafaelyd ynddo yntau era blynyddoedd bellach, ac yn ei werthfawrogi fel un o'i thrysorau pennaf. Gwir mai pan yn ddeunaw oed-"y dechreuodd bregethu, ond yr oedd yn bregethwr ddegau o flynyddoedd cyn ei eni. Gwyddis fod ei daid, pedwar ewythy iddo, a'i. dad, ar y maes oes a dwy o'i flaen fel nad rhyfedd fod y nwyd bregethu ei lond. Hyn sy'n peri nad yw byth yn blino ar y gwaith, er pregethu cymaint, nac irdor ei ysbryd yn pallu dim. Mae caredigrwydd ei Gyfundeb wedi bod o fewn ychydig i droi'n greulondeb iddo, drwy ei yrru yn rhy arw. Nid yw'r peth hwnnw a eilw Robertson The deadening effect of constant preaching," wedi mennu dim arno. Gofala ffarmio ei north yn gyntreifiol, ac nid yw byth yn euog o ladd neb ond e'i hun yn y pulpud. Pregethu y mae ac nid traethodi. Dyma'r gwahaniaeth, meddai Dr. Saunders, rhwng art a fine art. Cyfansodda mor esmwyth, a thra. ddoda mor naturiol, fel y metha ami un ddadrys y dirgelwch paham na phrogethai cystal ag yntau. Nid yw bod adrei yn fynych yn poeni dim arno, oblegid bydd wedi cyfansoddi prSgeth cyn i ami un gael hyd i destyn. Nid ei fai ef nac eglwys y Borth yw na fuasai yn ei bulpud ei hun ddwywaith yn y mis, ond rhaib y wlad amdano. Ofnwn y bydd cwyno mwy gyda hyn eto, gan fod prif bulpudau'r ochr arall i Glawdd Offa yn gofya ar. y Lqwyaf am ei wasanaeth. Mae eisoes yn ffefrddyn yn Westminster ChapVI, City Temple, Carr's Lane, Coleg Mansfield, Rhyd- ychen, a Phrifysgol St. Andrews yn Scotland. Mae hybysiad wedi ymddangos ei fod i lenwi pulpud ein cydwladwr enwog, Mr. J. D. Jones, Bournemouth. Traddoda bregeth yn flyn- yddol bron o flaen Cyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion, ac nid yw eleni i fod yn eithriad yn Norwich, lie y cyferfydd y Cyngor ym mis Mawrth nesaf. Mae ami bregeth Cymraeg da yr" cael ei aberthu am bregethwr Saesneg symol enghraifft i'r gwrthwyneb ydyw ein cyfaill. Pan yn gofynamollyngdod i wasanaethu cynulleidfaoodd Seisnig, fel yr uchod, ni ddylid gwaraftm rhyddid iddo, gan ei fod drwy hynny'n dwyn enw da inni fel gwlad, ac yn gwneuthur daioni mewn cylch, ehangach. Hyd y cofiwn, nid oes yr un pregethwr Cymreig arall wedi ei alw cyn fynyohed i lenwi prif bulpudau'r Saeson yn hanes ein cenedl. Pan ar daith o'r Atlantic i'r Pacific yn yr America, agorwyd drysa. lawer iddo nad ydynt eiddo pob ymwelwr.