Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
W. IDPAVIIES, Conductor, Adludicator, Accompanist. Teacher of Slnging, Violin, Ci Pianoforte Terms for Festivals, Concerts, Eisteddfodau. At HAFOD. DEGANWY, N. Wales Tom Davies (Dewi Meirion), ADRODDWR. ARWEINYDD, BEIRNIAD, Buddugol yn Eisteddfodau Taleithiol y Gogledd as yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain. Rhoddir Gwersi. Oyfeiriad— Bryn Deinlol, Bangor Y DDRAIG GOCH." THOMAS JONES, Bookseller, 16 BROWNLOW HILL (opposite Midland Adelphi Hotel). 55 Large selection of School Books in various sub- jects and languages, new and second hand. Also the following—Y Brython, Y Beirniad, Cymru, Y Llitsern, Wales, Welsh Outlook, Cofiant Thos. Gee, Almanac Caergybi. Orders received for all kinds of Welsh Books and Magazines. "An Aceomplished Elocutionist. glallasey News, E. KINGSTON JONES, Gold Medallist-Winner at Royal National Eisteddfod. ELOCUTIONIST. ENTERTAINER. ADJUDICATOR. Pilot's Concert, Philharmonic Hall ;—" Mr, Kingston Jones was responsible for some of the best features of the -entertainment.Liverpool Courier. Adroddiadau Cymraeg a Saesneg. Concerts, Part or Entire Evening. Lessons given. Applv 27 Olifton Road East, Tuebrook, Liverpool CANU GYDA'R. DELYN. Mr, ü. OSBORNE DAVIES, Athraw ar Ganu Penhillion Telyn.' Telerau Rhesymol. Ymofyner yn 4 Exeter Road, Bootle. Madame Gladys Williams, PROFESSOR of ELOCUTION, Deportment, Gesture, Voice Culture Defects of Speech, &c. ADJUDICATOR leading Eisteddfodau, including ROYAL NATIONAL, BANGOR, i 1914. ENTERTAINER principal Welsh and English Concerts. 35 Hamilton Square, Birkenhead CouponQ Rhad=Yswiriaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd). BTDD I.. # GRESHAM Fire and Accident Insurance Society Lto St. Mildred's House, Poultry* LONDON. E.C. dalu 4100 Tan punt) i gynryohiolydd oyfreithio a phersonol y sawl a fo'n ddiles-ddaliwr y coupon hwn, os y bo iddo fo neu hi gael eu lladd yn hollo ao yn nniongyrchol drwy ddamwain o fewn y Deyrnas Gyfunol i dren unryw Gwsani ReilfEordd, Tramcar, Omnibus, Cab, neu Gerbyd Trwyddedi p a Llog yn yr hwn y bo'r daliwr yn cael ei gludo fel teithiwr toeyn a ohlud, yn ddarostyngedig bob amser i'r amodau arbennig a ganlyn sydd ystyried fel rhan a ohyfran o'r eytundeb- (a) Fod y marw'n digwydd o fewn deng niwmod ar hugain wedi'r ddamwain (b) foe rhybudd ohoni'n cael ei roi i'r Gymdeithas c fewn saith niwrnod yn eu Prif Swyddfa yn Llundain (c) fod y eyfryw dystiolaeth res- ymol parth achos y farwolaeth yn cael ei gyflwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn (d) fod y daliwr wedi 'sgrifennu ei arwydd- enw arferol, cyn i'r ddamwain ddigwydd, ag ine yn y lie darparedig gogyfer a hynny (e) na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag un person parth mwy nag un coupon yn y papur hwn na r un cyhoeddiad arall (/) na bo r ya- wiriaeth hwn ddim yn gaffaeladwy i bersonar tan ddeuddeg na thros ddeg a thrigain mlwydd oed, ac a ddeil yn ddilys am saith niwrnod o 12 o'r glooh y dydd y'i codir.7 Arwyddnod y Daliwr. THgfod I Danysgrxfwyr, Raid i dderbynwyr cyson y papur hwn ddim arwyddo r Coupon os ca'r Gymdeithas gwbl sicrwydd a phrawf ei fod yn cael eu anfon Iddynt yn ddifwlch. Athrofa Aberystwyth (USR O'B COMGAU Ym MffsiFirsaoi. Or misu PrifaihrcM -T. F. ROBERTS, M.A., LL.D II) ECEIRF,UA'R Tymot nesaf u Ddydd Mawrth, Hydref laf, 1913. Parofcoii yr efrydwyr a* gyfev Arholiadau Prifyago Cymru. Cynhyga amryw 0 ysgoloriaefchau (rhat honynt yn gyfyngedig i Qymry) y flwyddyr hon. Cymer yr arholiad le yn Abenrstwytl at y 16eg o Fie Medi, 1913. Am fanylion pellaoh, ymofynev 6—« J. H. DAVIES, M.A., Cotr""dd.
fO Big Y ???
fO Big Y <????<!?S?, Heifiad PLICIO'R CH W YN- I Daeth y nodyn hwn yma oddiwrth un o FitYTHOiSriaid ieithgar eglwys M.C. Peel Rd. Oedolion.-Dyna glewten gafodd y bastarddair yma gan y Parch John Owen yng nghyfarfod Ysgol Waterloo y Sul dixeddaf. Gobeithio y bydd yn ddigon i'w ladd, fel na ddaw byth mwy i boeni cyfarfod athrawon, Ysgol Sul, na chyfar- fod ysgol. Lie buoch chwi cyhyd heb anelu un o'ch saethau marwol at hwn, Mr. Gol. ?-S," Fe wnaethom hynny lawer gwaith ac ers llawer blwyddyn, Mr. S., ond eich bod ehwi'n anghofio. 'Does dim rhyw lawer er pan dyn'som yr oedolion o'r gwraidd, debygem ni, mewn ysgrif faith ar Blicio'r Chwyn, sef Chwyn yr laith taflasom ef i'r domen, at y lleill ond yn lie gweld ei wrthuni, a gadael iddo wywo a marw'r fan honno, mynnodd rhyw ysgrifennydd dwl a diwybod fynd i'r domen i'w nol, a'i blannu eilwaith yn ad- roddiad blynyddol ei Ysgol Sul. Ac yno y mae 0, yn tyfu ac yn tagu blodau'r iaith. Ac heblaw hynny, y mae'n gof gennym i'r Hybarch Ddaniel Rowlands, M.A., Bangor, roi cic a bonclust i'r oedolion wrth feirniadu traethawd dirwestol lle'i defnyddiesid. A chwyn ereill dag yr iaith yn Adroddiadau Eglwysi ac Ysgolion Sul pob enwad yw'r creadigaethau hyllion a ganlyn :-Ysgrifen- yddes, llywyddes, trysoryddea, ac yn y blaen Yddes, wir! Pe'r ydd, yn niwedd ysgrifen- nydd, yn golygu swyddog gwryw, wel yn enw pob rheswm, pa synnwyr sydd mewn ych- wanegu es ato pan etholir chwaer i'r swydd honno ac felly wneud y druan ddeuryw honno'n ydd ac yn es—yn ddyn ac yn ddynes ? Y mae hynny'n wrthuni digon amlwg i'r un baban blwydd. Dyweder ac argraffer ys- grifennydd, trysorydd, llywydd, am bawb fo'n llenwi'r swydd, boed fab boed ferch a pheidiwch, da chwi, a chodi bwrn ar ddyn gyda'ch oedolion a'ch yddes na'r un arall o'ch erthylod atgas. Wnaiff hynyna'r tro, S., ynteu a gawn ni dynnu chwaneg o'r chwyn I yn ein rhifyr nesaf ? -<> I DARLITH yR HEN GOELION- Rywbeth yn debyg i hynyna fuasai'n eithaf enw ar y ddarlith dda duhwnt a gafodd Cym- deithas Ieuenctyd Eglwys M.C. New Brighton nos Feroher ddiweddaf gan Mr. W. Garmon Jones, M.A., Prifysgol Lerpwl, a hen chwedlau a chredoau'r Oesoedd Canol yn cael eu trin a'u holrhain mewn modd hyddysg ac adeiladol tros ben. Ac ebe'r darlithydd, Dyna ichwi un cwlwm rhyngom ni heddyw a'r hen oes bell honno ydyw'r hen emyn 4 Diolch i Ti, yr Hollalluog Dduw, Am yr Efengyl Sanctaidd Haleliwia, Amen. Pan oeddym ni mewn carchar tywyll, du, Rhoist in' oleuni nefol Haleliwia, Amen.' a'r dyrfa'n ei chanu ar ei hyd. Olion arall o'r Oesoedd Canol a Thywyll oedd yr Wylnos (Vigil), plannu blodau ar fedd ein rhai annwyl, a dweyd ein Pader, ac ami i hen air ac arfer Pabaidd araU, a ddeil yn fyw ac anniflan yn rhai o barthau gwledig Cymru hyd heddyw. Danghoswyd mor ffyddlon oedd yr hen fynachod i'w crefydd ac aed a ni, yn ddis- grifiadol felly, at Ffynnon Derfel Gadarn i ddwys-wrando ar yr hen goelion mall ond mwynion hynny. Diolchwyd am y ddarlith gan Mri. Rowland Roberts ac Aneurin A. Rees a phawb yntroi adref tanfwmian-diolch mai nid o Ffynnon Elian na Derfel Gadarn na St. Winifred yr yf Cymru heddyw, ond o Ffynnon nes a rhatach na'r un, canys O arwain fy enaid i'r dyfroedd, Y dyfroedd sy'n afon mor bur, Y dyfroedd a dorrant fy syched, Er trymed fy nolur a'm cur Y dyfroedd tragwyddol eu tarddiad, Y dyfroedd sy heb waelod na thrai, Y dyfroedd a olchant fy enaid, Er dued, er amled fy mai." Ie wir, er dued, er amled fy mai," Thomas Jones, Dinbych. -+ GWAS I DDUW, OND NID I DDYN- I Dyma ddyfyniad o bregeth-goffa'r Parch. J. Hughes, M.A., am y diweddar Barch. Griffith Ellis, M.A, a godir o Dryaorfa'r mis hwn, seiliedig ar Act. xvi. 17 Y dynion hyn ydynt weision y Duw Goruchaf," etc :— Y peth cyntaf yr edrychai yr hen flaen- oriaid amdano mewn gwr ieuanc a fyddai yn ymgeisydd am y weinidogaeth oedd fod ynddo ddefnydd gwas, a'i fod yn barod i wneud gwasanaeth yn yr Ysgol Sabbothol, yn y Cyfarfod Gweddi, a holl rannau gwaith yr Arglwydd. "Hdrychent gyda thipyn o betrusder ar ddawn, os nad oedd wedi ei hieuo ag ysbryd y gwas. A ydyw yn fachgen da, yn fab da, yn frawd da, yn athraw da, "ac yn barod i wasanaethu, petai ond myned i ddysgu yr A.B.C. i ddosbarth o blant ? Gwas Duw ydyw y gweinidog nid gwas bach y pen blaenor, i ddal ei warthol a'i godi i'r cyfrwy ond gwas y Duw Goruchaf, i ddatod sandalau'r lleiaf un o saint diffygiol Duw, ac i olchi eu traed. Gwas, nid i redeg hwnt ac yma gyda negeseuon y byd hwn, ac i unioni Ilwybrau y Sir mewn Cyngor Sirol ond gwas y Duw Goruchaf i berffeithio y saint i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist. Gwas felly oedd ein hannwyl frawd. Gwas ymhob man yn y Pulpud, yn y Seiat, yn y Dosbarth Darllen, yn y Gynulleidfa, yn y Gymanfa, H yn y Cyfeisteddfod, yn y Wasg, yng Nghymru, ac yn yr Unol Daleithiau." -<>- POCER DR. JOHN- Y diweddar Ddr. John Thomas yw testyn ysgrif felys yn y Tyst diweddaf, gan na wn pwy a dyma damaid a'm gogleisiodd i'w godi yma i 'mhig Cofiem gyda hynny am ei arfer ar aelwyd- ydd yn ei ymgom ger y tan. Buasai yn hollol naturiol, ac ni fynasai i neb ffwdanu mwy a mwy yn ei gylch ef, ac ni ciiymerasai fwy o sylw na rhywun arall. Hoflasai bob amser siarad ar ac am ddynion adnabyddus y cylch, eu sefyllfa- oedd, eu. perthynasau, eu gwasanaeth i grefydd. Yn hynny y cawsid ef wrth "ei fodd. Ac yn yr ymdrin amdanynt cawsid ei eisteddiad yn weddol syth yn ei gadair, a chawsid, fel rheol, yn ei law- io, yn wir, yn ei ddwylaw—«i gyllell logell ac os buasai pocer bach glan a thwt ger y tan, defnyddiasai hwnnw a bob amser pan fuasai y gyllell neu y pocer bach yn ei law, cawsid gwir adeil- t: adaeth yn ei gymdeithas." Oes, y mae rhywbeth mewn pocer, welwch ehwi-yn nwylo dyn mawr a myfyrgar yn enwedig, canys wrth chwarae a hwnnw y gwelodd ami i broffwyd a bardd ei bethau goreu, i'w dywedyd wedyn ar goedd byd. A phwy na hoffasai fod yn y seiat yn gweld a gwrando Dr. John yn procio'r tan cyn mynd allan i brocio'r wlad yn wenfflam oblaid Dadgysylltiad a Dirwest ? Oes gynnoch chwi brocer ? CLODDFA'R COF- Trwy Ddrych Atgof oedd testyn darlith y Parch. J. O. Williams (Pedrog) yng nghapel Kensington nos Fercher ddiweddaf. Rhan gynta'r ddarlith yn elfeniad athronyddol o allu'r cof i guddio cystal ag i ddangos ac er fod ybabell bridd a'r cloc yn dywedyd wrth bawb ohonom gyflymed y symudwn tua'r "môr elwir Marwolaeth," chwedl Cynddelw, eto i gyd, fod y Myfi, sef y tenant ysbrydol sydd o'i mewn, yn aros yr un heb symud na heneiddio dim. Ail ran y ddarlith yn dryfwl o ffraethineb byw a blasus odiaeth, wrth ddis- grifio hen gymeriadau bro mebyd ac adrodd hanes y troion trwstan a ddigwyddodd pan oedd y Prifardd yn dysgu garddio a phryd- yddu ym Mhlas Gelliwig. O na chawsid snapshot o'r hen saer maen hir a heglog hwnnw a syrthiodd i'r simne ar ol ei dusw eithin wrth ei glanliau, a'i draed yn cicio'r ser," ac o wyneb yr hogyn hwnnw laddodd yr hwyaden ar y llyn pan ddaeth ei achos gerbron," ac ohono fo ac Ellen Thomas pan gamgymerodd hi ei ben am yr iar honno yn nhywyllwch y nos A chlowyd y ddarlith felys a gwreiddiol gyda gwarogaeth dyner a diolchgar i'r hen letywraig garedig a duwiol honno amei charedigrwydd a'i chysgod drosto yn y dyddiau amddifad hynny.—Diolchwyd amdani gan y Parchn. R. T. Williams a G. J. Williams; ac i'r cadeirydd gan y Parch. W. A. Lewis a'r darlithydd, a'r olaf yn cloi ei deyrnged diolch gyda'r erglyn hwn am haelioni gwr Pen Rhos heno a phob amser i'r achos yn Kensington :— Gwr hynaws, yn gar inni—sy' Mhenrhos, Mae'n wr hawdd i'w hoffi; Pan wna weithred, hardded hi,—- A dim dwnad amdani. -9- PWY AETII A'R LEDI! Dyma fel y can Pedr Hir yng Nghenhinen Ionawr i DelynoresLleifiad (Miss Bessie Jones) ar ei phriodas a'r Mons. Diverres :— Difyr iawn yw gwrando dawn y dynion Ddichon ganu hefo'r tannau tynion Gwell yw byw na miloedd o aur melyn, Pan fo merch a'i dwylo ar y delyn Telynores Gwalia wy'n anwylo,— Mwyn yw swyn y delyn tan ei dwylo. Ni ddaeth tecach bun o Ddeffrobani, Ceisio'n daer bu llawer dyn amdani; Bu o'i hachos filoedd o ofalon, Llawer UP, mi goelia', ar dorri'i galon Ac ar ol gofidiau dirifedi, Ffodas wr o Lydaw aeth a'r Ledi. CEINION ABERYSTWYTH- Yr oedd y cynhulliad ddaeth i Ysgoldy Capel M.C. Princes Road, nos Wener ddi- weddaf, wrth eu bodd yn gwrando Mr. J. H. Davies, M.A., yn darlithio ar Drysorau Llyfr- gell Genedlaethol Aberystwyth, a'u lluniau'n cael eu dangos a llusern ar y llian. Mr. John Morris, Y.H., Parkfield Road, oedd yn y gadair Mr. T. A. Lloyd a Dr. Owen Evans ddiolchodd i'r darlithydd, a'r darlithydd a Mr. J. Harrison Jones i'r cadeirydd. Y mae Cymry Lerpwl yn o gynefin bellach a. gweled Trysorau Aberystwyth, ac a ddylent wneud eu rhAn at godi'r adeilad hardd a hwylus i'w clwydo dros byth er budd cenedlaethau'r dyfodol. -0--
-DAU TU'R AFON.I
DAU TU'R AFON. I CYLCHDAITH WESLEAIDD OAKFIELD, LER- PWL.—Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarter y gylchdaith uchod yn Oakfield nos Sadwrn, y 10fed cyfisol, o dan lywyddiaeth y Parch. John Folix. Cynhulliad rhagorol wedi dod ynghyd, a'r holl eglwysi yn cael eu cynrych- ioli. Dechreuwyd yn y modd arferol gan y Parch. F. E. Jones. Darllenwyd yr ystadegau gan Inspector Jones, yn dangos fod rhif yr aelodau yn 598,-cynnydd o 12 ar y chwarter, a chynnydd o 27 ar y flwyddyn. Y cyfrifon. ariannol yn foddhaol ar y cyfa i, er fod un neu ddwy o'r eglwysi heb ddod i fyny a'r Assess- ment sydd arnynt, ond yn addo gwneud y diffyg i fyny. Cafwyd adroddiad o'r casgliad ynglyn a Chanmlwvddiant y Genhadaeth Dramor gan Mr. Ellis Jones y trysorydd. Mae eglwys Oakfield wedi gwneud ei rhan yn deilwng, ond yr oedd yn ddrwg gan y trysor- ydd orfod cydnabod nad oedd yr holl eglwysi ddim wedi dod i fyny a'r disgwyliadau. Diolchwyd i'r goruchwylwyr, Mri. Inspector Jones ac Edward Jones, am eu gwasanaeth yn ystod y flwyddyn, ac ail etholwyd hwy yn unfryd, er eu bod yn dymuno'n gryf gael yrn- ddiswyddo. Yn unol a chais oddiwrth oruch- wylwyr Cylchdaith Coed Poeth, penderfyn- wyd gohirio gwahodd y Parch Philip Price i ddod yn arolygwr y Gylchdaith o'r fl. 1916 i'r fl. 19.17, a gofynnwyd i'r Parch. F. E. Jones, yn unfryd hollol, bidio ag addo ei wasanaeth i unrhyw gylchdaith arall tan y fl. 1917, er fod y cyfnod rheolaidd iddo yn y gylchdaith hon yn terfynu yn 1916, ac addaw- odd yntau i'r perwyl hwnnw. Llywyddwydjy cyfarfod yn ddeheig, a gwnaed yr holl waith mewn ysbryd a theimlad tra theilwng. Cafwyd gair neu ddau gan ychydig o'r brodyr ar agwedd ysbrydol yr achos yn y Gylchdaith, a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. T. O. Jones (Tryfan). Da clywed fod Mrs. J. G. Rowlands, Crox- teth Grove, yn gwello'n bur foddhaol o'r cystudd a'i goddiweddasai ers rhai wythnosau bellacli ac fod Mr. W. A. Lloyd (Glan Alwen) —un o bileri hynaf a chadarnaf yr Achos-yn Great Mersey Street—yn hybu o'i gystudd yntau. FEL Y BYDDONT UN. "'—Cynhaliwyd Seiat undebil trwy drefniant Undeb Eglwysi Ymneilltuol Cymreig Birkenhead a Rock Ferry, nos lau ddiweddaf, yng nghapel yr Annibynwyr, Clifton Road. Darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr ar y decnreu ga.n y llywydd, y Parch. W. M. Jones, Parkfield, a gweddiodd Mr. Lewir Morris, CJaughton Road. Siarad- odd y llywydd ychydig eiriau, gan gyfeirio at fater y Seiat, sef "Profiad o Grist yna galwyd ar y Parch. Joseph Davies, yr Wood- lards, i'w agor (yn absenoldeb anorfod y Parch. T. Isfryn Hughes, llywydd yr Undeb). Dilynwyd yntau gan Mr. Wm. Jones, i-Irice Street, a diweddwyd trwy ganu emyn a chyd- adrodd Gweddi'r Arglwydd. Cyfarfod ben- dithiol iawn, a'r siprad yn hollol ymarferol. Nid oedd rhif y cynhulliad yT hyn a ddylasai fod. Ai tybed fod mwyafrif ein haelodau eglwysig yn ddifater, ac yn manteisio ar noson fel hor i gymeryd rhywfath ar holiday cref- yddol ? Gresyr hyn, pan y mae cymaint o angen undeb i gyfarfod anawsterau'r oes' Cofied pawb am gymanfa unedig y plant yn Claughton Road, Sadwrn, Ebrill 18fed.— Ianto. Y DIWEDDAR MR. JOHN ARTHUR, 113 COCKBURN STREET.—Daeth y newydd trist yr wythnos ddiweddaf am farwolaeth y gwr adnabyddus yma, a gymerwyd oddiwrthym Ionawr y 7fed, ar ol cystudd byr, yn 64 mlwydd oed. Brodor o Daliesm, Deheudir Cymru, ydoedd, a daeth i'r ddinas yn ieuanc, ac a ddechreuodd fusnes canhwyllwr (chan- dler), yn yr hyn y llwyddodd am 30 mlynedd. Bu'n aelod o eglwys Park Road am 43 o flyn- yddoedd, ac yn hynod ffyddlon. Cydym- deimlir yn fawr a'i briod yn ei hunigrwydd. tion ac annwyl tu r umad yma am do o nyn- yddoedd. Claddwyd ei weddillion ym myn- went Smithdown Road, Ionawr y 12fed, pryd y daeth nifer luosog ynghyd i ddangos parch i'r ymadawedig. Gwasanaethwyd yn y ty ac yn y fynwent gan y Parchn. J. Vernon Lewis, B.A.,B.D. Dyma'r prif alarwyr :— Mrs. Gwen Arthur (gweddw), Ellen Arthur (chwaer), Thomas Llewelyn (nai), Ellen Jones (nith), David Arthur, Thomas Williams (cefn- dryd), Ellen Williams (cyfnither), Meredith Evans, Mary Evans, Sarali Jones, Mr. a Mrs. Edward Williams, Robert Williams, Salmon Evans, Owen Evans, John Andrews, John Jones, Pryce Jones, llu o aelodau Park Road. Er fod dymuniad i beidio anfon blodau, daeth wreath hardd oddiwrth ei gydweithwyr. Dymuna Mrs. Arthur ddiolch i bawb am eu cydymdeimlad yn y brofedigaeth lem. Trefniadau'r angladd yn nwylo Mr. R. W. Evans, 16 Whitland Road, Fairfield. Y mae pawb o'u cydnabod yn cydymdeimlo a Mr. a Mrs. T. Humphreys-Jones, Bryn Orthin, Martin's Lane, Liscird, ar farwolaeth eu trydydd mab, ym mlodau'i ddyddiau. Daeth y diwedd ddydd Mercher diweddaf, ac a'i cleddid ddydd Sadwrn, y Parch. Lodwig Lewis yn gweinyddu. Y bargyfreithiwr, Mr. J. W. Cremlyn-ac un o blant yr eglwys a'r Gymdeithas-a anerchai Gymdeithas Lenyddol M.C. Stanley Road, Bootle, nos Wener ddiweddaf, sef ar Politics and Humanity, A'r Parch. Lewis Edwards (W.), Seacombe, a'r Chwaer Watkins (Lerpwl) a gyfarchai gyfarfod dirwest lliosog a gaed yn ysgoldy capel Laird Street nos Wener ddiweddaf, tan nawdd Cyfrinfa'r Temlwyr Da sy'n cyliwfan Baner Sobrwydd mor amlwg yn yr eglwys honno. O WATERLOO.—Y Sul diweddaf, cynhal- iwyd cyfarfod ysgolion Undeb M.C. Lerpwl, yn Waterloo Mr. R. W. Roberts, Douglas Road (llywydd newydd yr Undeb), a Mr. J. H. Lewis, yr ysgrifennydd, yn llywio'r gweith- rediadau. Yng nghyfarfod y prynhawn, ad- roddodd nifer o blant yr Ysgol Salm xxvii yn bur rhagorol, ac yna holwyd y plant oddiar y Rhodd Mam gan y Parch. J. Owen, Anfield. Atebent yn rhwydd, a graen da ar eu Cym- raeg. Cafwyd-hanes yr ysgol gan Mr. Ivor Lloyd a'r Mri. G. O. Roberts a J. W. Davies a bwriwyd trem dros gyfiwr yr ysgol gan yr ystadegydd, Mr. Hywel I. Jones. Cynnydd o 38 oedd yn rhif yr aelodau, ond dipyn yn isel oedd cyfartaledd y presenoldeb. Gwelwyd fod yr ysgol mewn cyflwr llewyrchus, a'i bod wedi mabwysiadu gwelliantau rhaglen yr Undeb yn gyflawn, a chanddi athrawon medrus ac ymroddedig ac yn ffodus hefyd, fod ganddi foneddigion hael eu calon, parod i gyfrannu at gael pob celfi fyddo'n eisieu. Ar ol cyfarfod y prynhawn, paratowyd te gan gyfeillion y lie i'r cynrychiolwyr, a wedi hynny cawsant hwythau gyfarfod gyda'i gilydd i drefnu materion yr Undeb, a mab- wysiadwyd awgrym y swyddogion i wneud tysteb i Mr. R. T. Williams, y cyn-lywydd, am ei ymroddiad a'i lafur diflin gyda'r Undeb ers amser hir. BIRKENHEAD.—Gyda braw y daeth y newydd prudd ddydd Llun yr wythnos ddi- weddaf am farwolaeth ddisymwth y chwaer annwyl Mrs. Jane A. Evans, priod Mr. Thos. Evans, 26 Briardale Road, Rock Ferry, yn yr oedran cynnar o 26 mlwydd, gan adael dau blentyn bach ar ei hol,-yr ieuengaf ond wyth- nos oed. Nid oedd llawer o amser er pan ddaeth hi yma o Fethesda, ac ymaelododd yn Eglwys Clifton Road, He y mae ei phriod yn ffyddlon ers rhai blynyddoedd bellach. Mae ein cydymdeimlad llwyraf ag ef a'r per- thynasau yn eu galar dwfn. Cymerwyd yr hyn oedd farwol ohoni i Fethesda prynhawn dydd Mercher. Gwasanaethwyd yn y ty cyn cychwyn, yn effeithiol iawn, gan y Parch. G. J. Williams, Vittoria Street, ac yna heb- ryngwyd ei gweddillion i orsaf Bebiagton. Claddwyd ddydd lau ym Methesda.—Cyfaill. BLAENION" DIRWEsT.-Daeth cynhulliad go luosog i Ysgoldy M.C. Anfield Road neithiwr (nos Fawrth yr 20fed) i wrando Mrs. J. Herbert Lewis, Caerwys, yn annerch cyfarfod a gynhelid tan nawdd Chwiorydd a Phwyllgor Purdeb a Dirwest v Cyfarfod Misol. Mrs. Parry, York Terrace, oedd yn y gadair y Chwaer Evans ddechreuodd y cyfarfod canodd y Chwiorydd Williams a Watkins hefyd a diolchodd Mrs. James Venmore a Mrs. W. O. Hughes i Mrs. Herbert Lewis am ei hanerchiad rhagorol. Dylasai fod yno fwy'n ei gwrando. Brysied y Llanw Mawr a Dwyfol y mae r traeth yn ddigon sych ers talm bellach. Y DIWEDDAR MR. HUGH HUGHES.—Mr. Golygydd.- Yr wyf yn siomedig na fuasai rhywun wedi anfon gair i'ch papur poblogaidd am y di" ddar gyfaill ffyddlon a Christicn cywir a gweithgar, Mr. Hugh Hughes, blaenor Newsham Park, a Tyddyn du, Cemaes Bay, Mon. Credaf y dylid cael coffhad teilwng yr oedd yn haeddugwneuthur o hyn iddo. Bu ei fywyd yn esiampl i ddynion ieuainc ddilyn ei ol. Yr oeddwn yn ei adnabod er y flwyddyn 1881-2, ac yn Lombard Street, y capel bach oedd ganddynt i addoli cyn adeiladu Newsham Park. Nid oedd yn ysgolor gwych, na rlivw alluoedd ar- bennig, ond yn gwneud ei oreu gyda phopeth Teyrnas y Cwaredwr. "Dyn all round oedd Mr. Hughes caniadaeth y Cysegr, arolygwr yr Ysgol Sul, eyfarfod gweddi, dywedaiair o'i brofiad a chynghorai mewn seiat, gyda'r plant yn y Band of Hope fel dirwestwr, gwithiai gyda'r TemL-wyr Da yn athro hefyd, ac bob pwyllgor fel rheol, ac yn wr o gyngor a phwyll mewn pob tra- fodaeth. Nid hawdd i'w ddigio chwaith os byddai anghydwelediad Cymerai ei godwm yn esmwyth fe wyddai yn lied dda ei hyd a'i led. Yr oedd ei ffyddlondeb yn yr Eglwys yn ddiball, a chyson ymlaob cyfarfod os na fyddai rhwystrau anorfod. Yr wyf yn meddwl ei fod yn un o'r aelodau hynaf yn Eglwys Newsham Park a rhwng cromfachau yr wyf yn meddwl fod un yn fyw, a dim ond un, oedd yn dechreu'r achos bach yn Lombard Street, sef yn nhy'r hen chwaer Mrs. Griffiths gweddw oedd hi, yn byw ar gadw lIetywyr; a byddai hithau'n uno gyda'r brodyr yn y parlwr. Yr un y cyfeiriaf ato ydyw'r hen Gristion cywir ac Ysgrythyrwr cadarn, Mr. Samuel Williams, fu'n hysbys iawn yn Lerpwl. Bu am dymor yn cadw ty- capel Newsham Park, ond sydd heddyw yn weddw, ac yn treulio nawn bywyd gyda'i nai yn Foel fawr, Cemaes Bay ac y mae ei fab, W. D. Will- iams, yn aelod defnyddiol a galluog yn Eglwys Newsham Park. Cofiaf yn dda, pan euthum i Lerpwl gyntaf, yn fachgen ieuanc, ac ym. aelodi yn Lombard Street, byddwn yn y set ganu (0 fel y mae'r hen frodyr yn ymrithio i fy meddwl y funud yma), a Hugh Hughes, yn ddyn ieuanc yn eu canol, yn gwneud ei oreu. Efe oedd yn y Band of Hope yn arwain y plant i ganu dysgai anthemau bach a thonau, etc a black board a gwialen i arwain, ac mi fyddai mewn hwyl a helbul weithiau yn cael ganddynt wneud fel y dywedai. Gwn hyn yn dda, am y cefais y fraint o fod yn ysgrifennydd y Band of Hope am beth amser. Mae hen gapel bach Lombard Street yn gy-segredig yn fy ngolwg i, sef rhodd y di- weddar Mr. Thomas Hughes, brawd i'r di- weddar David Hughes, Y.H. Wel, nid oedd neb yn fwy parod i waith na Mr. Hughes pan oeddym yn adeiladu capel Newsham Park ar y blaen ymhob man a phob amser, a chwith na chaf weled ei wyneb mwy. Y blynydd- oedd diweddaf yma, pan ar ymweliad & Lerpwl, a'i gyfarfod beunydd yn rhyvrle, pethau sylweddol, a hanes yr achos goreu, fyddai swm a sylwedd ei ymddiddan ef. Credaf ei fod yn caru'r gwaith a'i holl galon. Rhoddodd yr eglwys bob anrhydedd posibl iddo, fel prawf o'i hymddiried ynddo yr oedd yr ffrynd i bawb, hen ac ieuanc bob amser yn rhestru ei hun yng nghyfarfodydd y bobl ieuainc. Cofiaf yn dda un tro am y diweddar Mr. Evan Pritchard yn cyhoeddi cyfarfod y bobl ieuainc ar ol, acarhosaiMr. Hughes, wrth gwrs. Dyma ryw frawd waetb heb ei enwi) yn gofyn iddo a oedd am aros, "Ydwyf," meddai yntau. Beth yyr eich hoed chwi ? 0, nid wyf cyn hyned a chwi o sbel," meddai yntau'n gellweirus. Wel ymataliaf, er y gallwn ddweyd llawer iawn ychwaneg amdano ef, ond rhyw godi cwrr y lien ac i symbylu rhai ereill i ychwa.,ae.gu. H. A. WILLIAMS, Llys Arthur, King's Avenue, Rhyl. Trefniadau'r claddu yng ngofal Mr. J. Jones, Preston Grove, Teulu'r Fro Wen mewn helynt. Bu Cwmni'r Fro Wen, Bwlch gwyn, yn chwarae Helyntion Teulu'r Hafod ym Mhafil. iwn y Rhos, nos Fercher ddiweddaf, a beirn- iaid penodedig Eisteddfod Genedlaethol Bangor (Dr. J. Lloyd Williams a Mr. T. J. Williams) yno i'w cloriannu. Yr oedd tua phedwar cant o gynhulliad, a chymerwyd y gadair gan Arglwydd Howard da Walden, Castell y Waun. Dyma'r cymeriadau :— John Vaughan-a,or y ddrama, J. Ambrose Lloyd Pitar Vaughan-tad yr arwr, Cynan Jones Marged Vaughan--rnwm yr arwr, Gwladys A. Belton Ceridwen Vaughan- chwaer yr arwr, Agi A. Rogers Stiit,,a,d Lord Milbitry-y filain, Wm. J. Jones Ifor Wynn -clerc y stiward, John W. Roberts R. S. TVilliams--masnachwr Tre Maenan, Alun T. Roberts Ehedydd Glan Trobwll-bardd, John Hughes Heddgeidwad y dref, J. E. Evans Meddyg y dref, J. E. Evans Gwladys ffl-eredydd-cariad yr arwr, E. A. Williams Mrs. J enkins-gwraig weddw, Blodwen Rogers Casglyddion Ysgol Bryn du, Tre Maenan-Mary Kate Harris, Myfanwy Pugh, Maggie Jones, A. Williams, Sallie Lloyd, M. Williams. Dywedodd Arglwydd Howard de Walden ei fod yn falch o gael bod yn bresennol yn eu plith i weld y chwarae, gan y cymerai ddi- ddordeb mawr a dwfn yn natblygiad y ddrama yng Nghymru. Yr oedd wedi synnu at ei chynnydd yn y Dywysogaeth; a theimlai fraw ar lawer pryd wrth weld fod hanner poblogaeth Cymru yn troi i sgrifennu dramau. Yr oedd yn falch fod chwaraeon syml cartref Cymreig, fel yr un oeddyrit wedi ei weld yn cael sylw. Dyna'r ffordd i faethu a hybu pob symudiad dramayddol. 'Does dim amheuaeth nad oedd gan yCymry dalent dda i ddynwared, er c9"d y meddyliasent fel arall. sent fel arall, Llongyfarchai'r cwmni ar eu chwaraead ar. dderchog. Diolchwyd iddo, dros y Cwmni, am ei nawdd a'i araith, gan y Parch. Wynn Davies. Canodd John Vaughan bennill o Hen Wlad fy Nhadau i ddiweddu. Edrychwn ymlaen am ddyfodol disglair i gwmni plant y Fro Wen. Deallwn y buont yng Nghoedllai nos lau a nos Wener gyda'u Helynt. a chafwyd ysgoldy'r Wesleaid yn orlawn y ddwy noswaith.-Hirdir,
Family Notices
PRIODI. OWEN-JONES—Ar y 19eg o lonawr, yng nghapel M.C. Edge Lane, ymunodd Hugh Owen, Dacy Road, Everton, mewn glan briodas a Jennie Jones, Dolwyddelen. Gwasanaethwyd gan y Parchn. David Jones a Lemuel Jones, Goppa (brawd naturiol i' briodasferch ).