Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DRINK su M AN M IsM aw AP M, DWYRYD TEA. The Tea of Old Time flavour,
Advertising
I USE m mw lm m IKEENORA SELF -RAISING FLOUR The ideal Flour for every kind of fancy Bread and Pastry Scones, &c., &c.
Advertising
DURING JANUARY ONLY. 10th YEAR OF BEATY BROS'. lTII. Remarkable and Important Offer. Suits to Measure, Excellent J Satisfaction Value. 2^ Assured, Worth Double. Good-class Materials and Beautifully made. ONLY ADDRESSES- CHURCH STREET & LONDON ROAD, LIVERPOOL. Note.—Order Department closed on Wednesdays 1 o'clock. (Open Saturdays). A yw ch Llygaid yn eich blino? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen eu gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwn ni gyda'n hofler gwyddonol ddweyd wrthych os oes amoch angen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi a't rhai- a barai fwyaf o les i chwi. Galwch heddyw: ARCHER & SONS, Eyesight Specialists. 73 LORD STREET, T- I dlwvd 1848. LIVERPOOL* 'Phone-392S Bank. W. mm & SOD, TAILORS, 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Real Welsh Homespuns for Golfing and Fishing, 'Phone—580 Bootle. Mr. H. W. H E LY. DANNEDD GOSOD Tynnn'ch Dant, heb yr ias leia o boen efo ffordd Lloegr a'r Amerig. PRISIAU CYMEDROL I Y eyngor n'r telerau yn rhad ac am ddim Foneddigesau i weini Tellr cludiad cwsmeriaid o'r wlad 13 Norton Street, Liverpool (oongl London Road). Oriau,-9 i 7. m 'Phone, 1436 Royal. COOK & TOWNSHEND, are now shewing The Newest and Smartest Overcoats for Winter Wear. Warmth without Weight. PRICES 21/- 25/- 30/- and 35/- Byrom St. & Dole St., LIVERPOOL. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMON ADa SIT ftlNQBR ALJI. lito., ate. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL LLYFBAU AIL LLAW. LlyfrGweddi y Catholig, neu Ymarferion Bywyd Cristionogol yn ol athraw- iaethau gwir eglwys lesu Grist, Argraffedig yn Lerpwl yn 1837. Ychydig gopiau, 1/6, cas lledr. Hugh Evans 358 Stanley £ Road,JLiverpool. „. v ROBERTS & EDWARDS < ESTATE AGENTS, 64 Kirhdale Rd., Liverpool Telephone: 2193 Royal,
o mLAN Y TAFWYS
o m LAN Y TAFWYS I [GAN Y GWYLIWRI Westminster, Nos Frnvrth, 27 i. 1914. Yn benben a i gilydd. DAL i gynhyddu a chasglu nerth wn.a'r an- esmwythdra a'r aflonyddwch ym myd Llafur, ac mae'r dyfodol, a dweyd y lleiaf, yn hynod o gymylog. Un o'r arwyddion sy'n peri pryder arbennig i garedigion Llafur ydyw'r anghydwelediad parhaus cyrliwng y rhai a elwir, ac a alwant eu hunain, yn arweinwyr y dosbarth gweithiol. Ceir esiampl o'r hyn y cyfeiriwn ato yn nigwyddiadau Cynhadledd o'r cyfryw arweinwyr sy'n awr yn eistedd yn Glasgow. Yng nghyfarfod y cynrychiolwyr, cododd Mr. Ramsay Macdonald, cadeirydd y Labour Party yn Westminster, i gynnyg fod adroddiad yPwyllgor yn cael ei fabwysiadu, a dywedodd, a'i law ar ei fynwes mae'n ddiau, ei fod ef a'r pwyllgor, er wedi llwyddo ond ychydig, eto wedi gwneud eu goreu. Gwa- hoddodd feirniadaeth ar eu hymddygiad, ac fe'i cafodd Gan billed ag y mae fy ngwy- bodaeth a fy mhrofiad i yn mynd, yr oedd Ramsay yn llygad ei le pan yn datgan fod mynd rhagddynt yn amhosibl i Blaid Llafur o dan yr amgylchiadau presennol yn Nh £ 'r Cyffredin. Y ffordd i walla pethau, ebr ef, ydyw anfon nid deugain ond tri chant a deugain o aelodau Llafur i Westminster. Amheuwn yn fawr iawn yr atebai hynny'r diben. Yn bersonol, y mae gennym fwy o ffydd yn athrawiaethdevolution nag yn ngor. fodaeth unrhyw fwyafrif gwleidyddol hyd yn oed pe digwyddai iddo fod yn un gwir werinol. Ond nid at hynyna yr oeddwn i yn cyrchu, ond at y gwahaniaeth barn a amlyg- wyd ymhlith arweinwyr Llafur yn y Gynhadledd mor fuan ag yr eisteddodd Mr. Macdonald i lawr, os nad yn wir cyn hynny. Nid oedd polisi'r Pwyllgor, yn ol barn Mr. Anderson (un o gadfridogion yr I.L.P.) yn ddigon nodweddiadol. Polisi'n seiliedig ar fargeinion gyda'r ddwy brif blaid Seneddol ydo idd, meddai Mr. Will Thorne. Anwiredd hynny bob gair, ydoedd atebiad Mr. Hen- derson, a rhywbeth gwahanol hollol i hynny ydoedd yng ngolwg Mr. Keir Hardie. Pwy sydd yn ei le, ni feiddiaf gynnyg dweyd, ond cymaint a hyn, ni ddichon i unrhyw blaid lwyddo pan fo diffyg cydwelediad a chyd- ymdeimlad. Ar fin Armagedon. I Y mae'r anesmwythdra a'r aflonyddwch y cyfeiriwn ato wedi cymryd ffurf ymarferol yn heolydd Llundain. Ers rhai dyddiau bellach, yr ydym yn gorfod dioddef anghysur ac oemi oblegid fod miloedd o'r dynion sy'n trin glo yn yr ystorfeydd mawrion allan ar streic o eisieu gwell dealltwriaeth rhyngddynt hwy a'u meistriaid. I'r cyhoedd oddialian, mae achos yr ymrafael, rhyw geiriog y dunell, yn edrych yn both digon dibwys; dichon fod yr egwyddor yn un bwysig er hynny; ond y mae'r canlyniad, yn enwedig i dlodion anghenus y ddinas, yn un tra difrifol. A'r hyn sy'n peri syndod i ni ydyw fod yn bosibl i ddwyblaid feI hyn golli llywodraeth arnynt eu hunain mor bell ag i da-flii cymdeithas i drybini a cholled ynghylch mater y dylid ac y gellid ei benderfynu drwy gyflafareddiad rhesymol mewn llai na deuddeng awr Dy- wedir fod Syr George Askwith wedi bod yn cyflafareddu heddyw a doe, ond y syndod ydyw na fuasid yn ei alw i mewn yn gynt, a chyn i'r cweryl dorri allan mewrf anghyfleus- dra ac anghysur i filoedd o bobl hollol ddi- niwed. Ac y ma3 drwg mwy eto wrth ein drws. Oherwydd camddealltwriaeth ac anghydwelediad yn'y Bitildi,nq Trade, y mae amryw filoedd o weithwyr wedi eu cau allan. Nid ydym yn ddigon cyfarwydd a manylion y cweryl i'w trafod yn y fan hon ond mae'r rhagolygon yn ddigon i beri i'r mwyaf an- ystyriol brydern. Bygythir yn awr alw allan holl weithwyr y trades sy'n dal per- thynas a gwaith adeiladu. Cyfrifir fod tua chan mil a banner (150,000) o'r cyfryw weith- W31?YD perthyn i'r gwahanol Gymdeithasau, ac os gelwir hwy allan, neu os cloir hwy allan, nid yw fawr wahaniaeth pa un, fe fydd y sefyllfa yn un ddifrifol dros ben. Yma drachefn, yr ydym yn methu dirnad paham nas gellir dwyn rhyw Awdurdod Cyflpfareddol i weithredu cyn i'r aflwydd ddisgyn. Terfynodd Botha gweryl gweith- wyr Johannesburg trwy martial law, ond can- lyniad mesurau felly yn y wlad hon fyddai Chwyldroad. 0 ba le y daw ymwared, y mae yn anodd gwybod, ond ymwared raid gael, neu ynteu Armageddon. Canu Dau Lais. Pobl sy'n ymguddio o olwg y cyhoedd i gryn fesur yw'r bobl sy'n gwneud i fyny'r gwahanol newyddiaduron. Ambell waith, teflir pelydr annisgwyliadwy arnynt gan amgylehiadau. Rhywbeth felly ydyw tros- glwyddiad gohebydd Seneddol y limes o'r newyddiadur hwnnw i wasanaeth y Daily News and Leader, a'r rhesymau diddorol a roddir am y trosglwyddiad. Mae cyfnewidiad cyffelyb wedi digwydd yn ddiweddar ynglyn a dau bapur a gyhoeddir yn y Deheu- dir, y naill yng Nghaerdydd a'r Hall yn Abertawe. Hyd ddechreu'r flwyddyn hon, cynrychiolai Mr. A. P. Higham y Mail Ceid- wadol yn Westminster yn awr y mae'n arolygu'r Daily Leader Rhyddfrydol i lawr yn Swansea, ac mae'n sicr gennym y gwas- anaetha'r naill gyda'r un ffyddlondob ag y gwasanaethodd y llall. Clywais fod nifer o Lundeinwyr (yn eu plith Syr Vincent Evans (fel cadeirydd), Syr D. Brynmor Jones, Syr J. Prichard Jones, Mr. Llewelyn Will- iams, A.S., Mr. John Hinds, A.S., Dr. Hart- wellJones (rheithor Nutfleld), a'r Parch.Elfed Lewis, (Esgob y Tabernacl), wedi bod yn rhoddi gwledd o longyfarchiad i Mr. Higham ar ei drawsfudiad i'r Wasg Ryddfrydol. Cwrdd diddorol arall ynglyn ag un o wyr y wasg ydoedd y luncheon a roddwyd i Mr. Arthur Spurgeon gan rai o berchenogion newyddiaduron LIundain a chyfeillion ereil] fel arwydd o ddiolchgarwch iddo a pharch tuag ato am ei wasanaeth fel croniclydd llosgiad y Volturno, ac achubiad ei dwylaw o'r hyn y digwyddodd fod yn llygad-dyst. Pwy ddywed pad oes ymysgaroedd cydymdeimlad, hyd yn oed mewn journalists -0-
Llyfr Coch Pewi SantI
Llyfr Coch Pewi Sant I LLYFR Coch Dewi Sant y geilw un o newydd- iaduron Lerpwl y Llawlyfr a gyhoeddwyd ychydig ddyddiau'n ol gan Adran G-ymroig y Bwrdd Addysg, Whitehall, Llundain. Cyf- arwyddyd ydyw i ysgolfeistri ysgolion elfennol a chanolradd Cymru ac hefyd i rai sy'n gofalu am gymdeithasau Cymraeg o bob math ymhobman, sut i fanteisio ar Wyl Ddewi i ddyrchafu'r genedlac i yrru'r hen wlad yn ei blaen. Rhowch addysg i blant y mynyddoedd, Na hidiwch am lawer o stad, A chwi sydd yn s6n am hen oesoedd Rhowch drem ar ddyfodol ein gwlad. Tynnu nodd ac ysbrydiaeth o brofiad y gor- ffennol i adeiladu'r dyfodol. Y mae hyd a lied y llawlyfr bron gyma,int a'r Cymru Coch, a gellir dweyd fod arogl hyfryd y cylchgrawn hwnnw hefyd arno, ac ysbryd gwladgar go]yg- ydd Cymru yn ymsymud ar wyneb y llawlyfr, ac yn ymdreiddio drwvddo. Arwyddir y cyflwynair gan Alfred T. Davieg, ysgrifonjiydd Adran Gymreig y Bwrdd Addysg. Y mae wyneb y clawr a'r darluniau, heb son am ddim arall, yn foddion addysg ac yn werth mwy o lawer na'i bris, srf 3c. Yn y rhan gyntaf ohoni, ar ol gair o gyngor ac arweiniad esmwyth, ceir ysgrif fer ar Ddewi Sant yn Gymraeg, ac un arall yn Saes- neg, ond nid cyfieithiad yw'r naill o'r llall. Er hynny, y mae'r nail] yn cwblhau'r llall yn y modd mwyaf mpdrus a chywrain, Yn di1 yn y rhain ceir Rhaglen—Awgrym," neu ddefnyddiau at wneud program am y diwrnod (neu'r noson, fel bo galw). Y mae'r rhaglen hon yn cynnwys pob fgwedd ar fywyd— popoth sy dda a phur, y tlws, y prydferth, y mirain, y cain, a'r dyrchafpdig, nc oni ddywed Emerson mai Bywyd yw crefydd a chrefydd ydyw bywyd ? Y mae diwyd- iannau gw,rin, lien gwerin, eaneuon gwerin, hwian-g rddi a hanes y Tylwyth T< g yn werthfawr dros ben i ddeffroi'r mpddw] i<^uanc, ac i ymarfervd y darfelydd, y ddawn fwyaf ogoneddus frdd dyn. Ni ellir 8,ffi- gyfired arferiad uwch nag ymarfrriad teithi dychymyg dyn. Bpth ydyw uchelgais ond mynegiant o ddarfelydd ? Sut y gellir deall gwladgarwch, ymaberthu, dyl' dswydd, gobaith, of'nad yw'r darfelydd wedi ei gyn- hyrfu a'i ddeffroi ? Pe cymerid y darfelydd oddiarnom, hyrddid ni i lawr oddiar binacl gwynfyd i ddyfnder anobaith. Yn ychwanegol at Alawon Cenedlaethol Cymru, enwir y caneuon gwerin a ganlyn fel rhai cyfaddas :—1, Tra bo dau 2, Y G lomen; 3, Y Fwyalchen 4, Doli 5, Ffarwel i Blwy Llangower 6, Y Gog Lwydlas 7, Y Saith Rhyfeddod 8, Y Pren ar y Bryn 9, Yn iach i Arfon 10, Cwyd dy galon 11, Y perot purlon 12, Cyfri'r Geifr. Yn yr ail ran, neu atodiad, gelwir sylw at dri chan mlwyddiant Myddeltoniaicl Din- by ch." Rhoddir darlun o Syr Thomas Myddelton, Arglwydd Faer Llundain yn 1631, ac ychydig o'i hanes ef a'i ddau frawd, sef Syr Hugh Myddelton a'r Capten William Myddelton (Ovoilym Canoldref) y bardd. Thomas a'i gydwladwr Rowland Heylyn gy- hoeddodd y "Beibl Bach yn 1631,-y Beibl Cymraeg cyntaf ddaeth o few 1 cyrraedd y Cymro eyffredin. Pum swllt oedd ei bris. Swm cyfartal a gini neu ddeg swllt ar hugain o'n harian ni heddj-w. Fel hyn y galwai'r Ficer Pritchard sylw ato Mae'r bib] bach yn awr yn gysson, Yn iaith dy fam i'w gael er coron, Gwerth dy grys cyn bod heb hwnnw, Mae'n well na thref dy dad i'th gadw. [Cannwyll y Cymry.] Grassendale. G. GRIFFITHS. -0
0 FOELWYN I FANOD.
0 FOELWYN I FANOD. [GAN Y £ CUDYLL]. DRWG gennym fod ein cyfaill cerddgar, Cadwaladr Roberts, Ysw., Y.H., arweinydd poblogaidd Cor Meibion y Moelwyn, wedi ei gaethiwo i'w wely. Bu Miss Pritchard, Birmingham, a Mr. Rollie Williams y Bala, yn annerch cyfarfod ym Nhan y grisiau. Treuliodd Cymdeithas Lenyddol Bethesda noson i ganu gweithiau'r diweddar D. Emlyn Evans yr wythnos ddiweddaf, a chaed noson i'w chofio. Nos Lun, gerbron Cymdeithas Lenyddol Maenofferen (M.C.), bu Glyn Myfyr yn darlith- io ar Y Glo ei sylwedd, ei hanes, a'i ddefn- yddioldeb. Mae Cwrnni Drama Barlwyd wedi bod yn perfformio Rhys Lewis yn Nhrawsfjmydd, ac ym Mhwllheh, ac y maent i'w pherfformio eto ym Methel (M.C.), Tan y grisiau. Nos Sadwrn, yn Ysgoldy Jerusalem, cyn- haliwyd cyfarfod dirwest gan Obeithlu Maen offeren, a gwnaeth y plant eu rhan mewn canu ac adrodd yn rhagorol. Nos Iau, yn y Neuadd Gynnull, a'r bardd feddyg Isallt yn y gadair a Bryfdir yn arwain, cynhaliwyd cyngerdd y Pysgotwyr a dyna gyngerdd na fedrai'r mwyaf gwynebdrist beid- io a chwerthin, pan ymddanghosodd Cor Meibion Cwmfoel, wedi pardduo eu hwynebau ac ymragrithio mor dda a doniol. Trwm gennym glywed fod Maggie, merch Mr. a Mrs. Owen Jones, Bethsaida, wedi marw yn y De, He mae ei rhieni yn byw ers peth amser. Yng Nghymdeithas Lien a Chan y Taber- nacl, caed papurau ar Gwyneth Vaughan, Ceiriog, Dorcas, a Grace Darling, gan Misses Jennie Roberts, Katie Roberts, Eleri Llion Morris, a Blodwen Roberts. Ddydd Mawrth diweddaf, bu farw John Griffith (yr hen fugail), Hafod Ruffydd, yn 90 oed, a bore dydd Sadwrn, bu farw Miss Eliz- abeth Jones, Benar View, wedi cystudd blin, yn 64 mlwydd oed. Yn Nhre madog, y nos o'r blaen, cipiodd Bryfdir gini am gerdd goffa i F. S. Percival, Ysw., perchennog Chwarel Votty a Bowydd. Nos Fercher, dewiswyd y rhain yn flaenor- iaid yn Eglwys Bryn Bowydd (A.) Mri. Griffith Williams, Garmon House, ac Evan H. Jones, Oxford Street. Dymunwn yn dda i Nurse Maggie A Owen, Manod House, ar ei phriodas a Mr. J. Freeman Williams a Mr. Richard Jones, Wenallt, High Street, a Miss Lizzie Edwards, Cambrian Terrace. Hyfryd gennym longyfarch Cyffdy ar ex waith yn cael hanner y wobr a. Sgiwenydd yn Eisteddfod Utica, am gan ar Ysbryd yr Oes y Calar. Nos Wener, gerbron Cymdeithas Lenyddol Jerusalem (A.), bu Elfyn yn darlithio ar Atgo\ yn hynod ddiddorol ac addysgiadol. Cleddid Miss Martha Williams, merch Mr. David Williams, Oak Mount, prynhawn dydd Llun diweddaf, ac a hi ond 28ain oed. I ■*