Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
BSINNNIBNNNNINaiNNaiaiNNNNBNNN I RAY & MILES H ANNUAL CLEARANCE H SALE S H .6!M.OM worth of HOUSE FURNISHING B IH Goods all marked at QENUtNE REDUCTIONS. S H The Time to Furnish -Fehmarv 2nd to March 14th H 8 EI Q IlLustrated Sale Catalogues post free. g a LONDON ROAD, LIVERPOOL. H IBEEIBEIBENEIBIBNBNNNIBEEIBIBE IF YOU WANT SEASONED Oah, Mahogany, Birch. Black Walnut, Ash, White Wood, 1,Pitchpine,, iyellow Pine, Doors or Mouldings, WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD, LIVERPOOL-
WRTH ODRE ERYRI
WRTH ODRE ERYRI mewn gwynt a glaw, BuoM weithiau'n synnu at 01. Y BRYTHON yma oherwydd ei Iwyrymwrthodiad a dau both arbennig—silcen ac ymbrelo. Wrth gwrs, pan fo ar gefn ei Ferlyn rhamantus, ni synnai neb*ato am hynny. Coiiwn yn dda f el y byddai Sion Jones, pregethwr cynorth- wyol, yn mynd i'w gyhoeddiad ar gefn ei Hen Ddarbi ond cadwai'r hen gaseg honno'r Saboth yn rhy dda i wneuthur osgo at redeg, a byddai gan Sion Jones ruban tyn o'l het am ei en,yn ei sicrhau hithau i gadw'i He dyrchafedig, er gwaethaf na, gwynt na glaw. Ystyriai'r hen bererin duwioi'fod yr het silc mor angenrheidiol iddo ar ei ben ag ot dd pregeth yn y pen o tani-gyda hyn o wahaniaeth, set y gwnai yr un het y tro o hyd, ond fod eisieu ambelt bregeth newydd. Ond pwy allai ddychmygu gweld y Gol. yn marchog ei Ferlyn pranciog earlamog, ar neidlam gorwylit, tros afonydd, ac ar lethrau cnbog Eryri neu Foelwyn, yn gwisgo silcen, ac yn gwasg'u ymbrelo tan ei gesail—heb son am ei ledu i'r gwynt a'r glaw Yr hyn y synnwn ato fyddai ei weld heb yr un o'r ddau declyn ffasiynol hyd yn oed pan yn cerdded ar draed, yn hamddenol, hyd heol y dref neu hyd ffordd y wlad, a'i ddwylo'n ei logellau, heb hidio dim, a hithau'n stido bwrw am ei ben neu yn mynd tua'r fancwet heb am ei ben ond yr het y gallai ei thynnu wrth y drws, a'i chrynhoi i faint wy hwyaden, a'i iharo'n ei logeli. Erbyn hyn, modd bynnag, yr ydym wedi ein hargyhoeddi, a chymryd pob peth i ystyriaeth, mat ei blan ef yw'r gore a braidd ra wnaethwn Iw het na fydd inni mwy fentro allan a na silcen nao ymbrelo—yn erwedig i Wlad y Bryniau. Cawsom bronad chwerw droion cyn hyn o ynfydrwydd y peth. Conwn inni, lawer biwyddyn yn ol, fod yn mynd o'r Blaenau i lawr i Lan Ffestiniog, ar ros Sul, gyda Bob ein brawd. Yr oedd hi'n noson dywell, wyntog, a glawog. Wedi mynd allan o'r capel, a chychwyn i'n taith, fraich-ym-mraich, codasom yr ymbrelo. Yn bur fuan, rhoes y gwynt ei ddwm trwyddo yn ¡ union i'n hwynebau. Ac fel y ceisiem ddal y carpiau i'r ddrycir, hyd yr oedd modd, cipiodd 1 y gwynt y cyfan o'r ymbrelo, ond yn unig ei fagi, o'n Haw, ac ni chlywsom air byth o hanes y darn ynnLadawedig. Bu'r bagi ynghadw gan fy mrawd a'i briod am lawer o amser wedi hynny, yn gof o ddiwedd yr ymbrelo annwyl, a ddygwyd oddiarnom mor ddiseremoni, pan oedd reitiaf inni wrtho. L Ryd y main yr aem dro arall, a'r gaeaf oedd hi. Erbyn cyrraedd gorsaf Drws y Nant, yr oedd hi'n dywyll, yn wyntog, a'r glaw yn cael ei wynfyd ar y wlad. Daethai bachgennyn caredig i'n ewrdd, yn banner cuddio lantern tan ei got. Ac i ffermdy o'r enw Llety Wyn yr arweiniodd ni. Ond yr un ynfydrwydd fyth-wedi mynd a'r hen silcen am ein pen gwirion Allan a ni o'r orsaf, a thua'r llety. Ar y nordd, yn bur fuan hefyd, chwareuodd y ddrycin yr un giam ag arfer yn gyntaf i gyd, gwasgodd y gwynt yr ymbrelo yn ei grafangau a gwnaeth ef yn gareiau na fu'n worth meddwl ei gymryd at ddoctor, ond ei adael am byth. Wedi hynny yr oedd y ffordd yn glir i trad y silcen. Dybryd y plastrodd y gwynt y glaw ami. Mor drwm y curai'r braalaw ar y druan nes yr oedd y swn ar fy mhen fel cawod o farblis ar tray. Bu dda i'r hyn oedd weddill ohonom gael cysgod clyd Llety Wyn i ddibennu'r helynt. Cofiasom y gwersi chwerwon hyn yn hir, gan gyfrif wrth gych- wyn i daith y fath Ie oedd yn ei therfyn. Both bynnag, yn amryfus iawn, buom yn rhy ysgafala am y drydedd waith. I Odre'r Eryri y bu'n gwib ddiweddaf. Cyraeddasom yno a,r nos Sadwrn, yn gysurus ddigon. Nis gellsid dymuBo llety mwy dymunoL Ond yr oedd yn eglur fod Eryri'n paratoi i bernormio Storom y noson honno. Utganai'r gwynt trwy y fro, a dechreuai'r glaw guro &r y ffenestri. Yn yr ystafell gynnes, dawet, dechreusom roi ffrwyn i'n myfyrdod. Ciywsem ein cyfaill o Nant Ffrancon yn darlunio storom fel y gwelodd ef hi yn y fan honno a gofynnem i ni ein hun, ? Pie mae Mr. Jones ar noson fel hyn, tybed ? Co6em am ddarlun mawreddog Eben Fardd o'r ddrycin fu bron a chwythu'r Patriarch Job i ffwrdd i gyd ac nis gallem lai na meddwl am un o'i ddisgynyddion oedd yn byw, o leiaf iveithiatt, yn yr ardal hon. Yn bur fuan, clywsom ddau gwyn arbennig- cwyn am ymadawiad y Parch. Rhys J. Huws ac Elidir Sais Icwyn gwerth ei glywed, a theg ei adrodd cwyn coll am ddynion byw. Yn y nian,estyn.nwyd inni lyfr,a bu ei agor yn fwynhad amheuthuii,-Coflant y Parch. J. il-,tostyn t/OMes. Cawsom ei gwrnni dro neu ddau, ac unwaith mewn cwrdd pregethu. Tybiem ei fed yn bregethwr meddylgar, gwreiddiol, a chryf. A dyma.'i ddarlun, a'i lawysgrif. Darlun da, a Hawysgrif nod weddiadol o'r dyn,-Ilaw gref, bendant, glir, ac fel pe'n ceisio ysgrifennu geiriau i arcs byth. Darllenasom y Coflant, ac amryw o'r pre- gethau. Sut na fuasai mwy o son am y pregethwr h\vn ? Pregethai'n athronyddoi, ond er hynny'n ysbrydol ac Efengylaidd. Gall yr ymddengys ei waith mewn llyfr yn rhy athronyddol ei Surf. Mae felly am nad yw e/c yma." Modd bynnag, cawsom y frfjnt o'i wrardo, ac yr oedd y pregethau. fel y traddodid liwynt ganddo ef yn llawn o wifrau byw "—ei bersonoliaeth a'i danbeid- rwydd ysbryd yn peri i'w frawddegau cryno losgi'n wyn ar ei wefusau- Mae ganddo bregeth ar "Y mae ysbryd mewn dyn." Mown gwirionedd, dyna'r arwyddair y gellid ei roddi i'w holl waith yn y gyfrol. Tynnodd ni, mown myfyrdod, o swn y gwynt a'r glaw, i ddyfnderoedd byw a chyfrin yr ysbryd a'i fyd ac yn y byd hwnaw .yr euthom i orffwys. Dyma fore Saboth Bu cymdeitlias yr yabryd," a bregethai'r diweddar Barch. J. Mostyn Jones inni, yn help i baratoi ar ei gyfer. Gwelem ei bod yn fore drycinog-y gwynt yn "sgowlio," a'r glaw yn disgyn. Ceisiem lenwi'r meddwl a myfyrdodau SabothoL Ond wedi brecwest, galwodd cyfaill i fewn, yn ein gwahodd'i fynd gydag ef i'r oedfa. Euthom; ond buan y bu raid sylweddoli fod dyn, er yn ysbryd, yn meddu corff hefyd. Yma, fyth, codasom ein hymbrelo, megis drwy reddf. Beth bynnag i chwi, nid cynt y gwnaethom hynny, na throes y gwynt ef y tu gwrthwyneb allan, ac aeth yn gadach. Y tro hwn, cawsom gymorth gwron cyfarwydd ag ymladd a gwynt," a phaciodd yr ymbrelo i fyny'n daclus, i beidio a'i god i mwy. A dyma'r trydydd tro inni gael ein trm fel hyn gan ddrycinedd. Ceisiwn, mwyach, gadw mewn cof oferedd i ddyn yw mynd allan i ymladd ag ystormydd y wlad ag ymbrelo a silcen Tybiaf glywed rhywun yn sibrwd ein bod yn cymysgu pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt," ac mai gwrthuni dichwaeth yw son am ysbryd ac "ymbrelo," "oedfa" het/' yn yr un bennod. Hawdd yw croesi'r ffin o'r hyn sydd briodol. Waeth yn y byd, mae'r naill a'r Hall o'r pethau hyn yn perthyn i ddyn, ac yn gydweuedig a'i hanes a'i bronad, Sul, gwyl, a gwaith. Gall dyn ar adegau suddo i ddyfnderoedd ei hunan ys- brydol, ac anghofio byd, cnawd, a gwynt a glaw ond gelwir arno drachefn, a rhaid iddo ofalu am ymbrelo a het-neu rhyw arfogaeth i ymladd a dryci-noedd. Cpllti;ai,)- ? Wel, onid gwell cymryd anffodion fel hyn dipyn yn ysgafn, yn hytrach na chrio o'u herwydd ? A phaham y gwarafunir i druan ddyn adrodd ei bronad cymysg, pan mai'n gymyfg y daw iddo ? [Gyda Haw, ymbrelo oedd yr un a gwrddocld a'r anSod ddiweddaf yma a gymerasom dro'n ol mewn camgymer- iad am ein heiddo ein. hun ond mae croeso i'w berchen ei gael yn ol yn awr !] Ond yr oedd un Drem brztdd ar yr ardal wrthQdre Eryri. Bu'n ganolfan yatormydd gweithfaol cethin nynyddoedd yn ol, ac mae'r eneithiau'n aros hyd heddyw, ac wedi teneuo'r boblogaeth yn fawr. Ai camwedd fu'r Streic yma ?—wn i ddim Ond ni ddaeth ond chwalfa Ar ei hoi fel blingol bla Mae'i thoster ym Methesda. Waeth yn y byd, mae Rhagluniaeth yn cym- ryd amser maith yn ami i weithio allan ei chynlluniaa. Mae deddf marwoldeb yn gweithio trwy blasau Cyfalaf yn gystal a bythynod Llafur. Mae'r trysorfeydd yng nghoffrau'r hen fynyddoedd o hyd, a bydd raid cael atynt. Ni chaniata CySawnder i ebyrth y gwroniaid fynd yn ofe? byth. Bydd raid i Ormes roi Sordd. Mae rhai o wronia.id Rhyddid eto'n fyw yn yr ardal, a c ysbryd y rhai fuont feirw, ar led y byd, yn ymguddio yn y cilfachau hyn, Mae'r ''achos wedieiysgrifennu, a phin o haearn ac a phlwm," yng NghronicI yCreigiau a daw Barn Gy6awn heibio i'w ddarllen, ac i gyhoeddi dedfryd union ac awdurdodol arno mae swn ei cherddediad yn y politer a'r diwygiad n,-saf fydd-Dacar-gryn! ?
m am pBKi a's BEX SIWI 6Lwi.
m am pBKi a's BEX SIWI 6Lwi. Punned Swp Meddyliau'r Galon. Llyfr Edward Davies. I WEDi cythru'r BRYTHON diweddaf drwy'r I wasg, a chael fy ngwynt ataf dipyn, eisteddais ar fy hen gadair glustog lledais fy mhedion a'm sgidiau clem o flaen y tanHwyth clap gafaelais yn y procer bach pig cam. chwiliais a chwareuais a'r drychiolaethau glo a pharddu a hongient oddiar Nyn y grat ac wedi cael honno'n lan, gofynnais i Eluned fach acw estyn y Ilyfr coch ei glawr a banner coron ei bris a gawswn drwy'r post wythnos neu fwy cynt, ac ynddo daer-ymbil am gael gair o sylw arno yn Y BBYTHON. Dyma'i deiti :— "Hanes Porthmadog ei ch7-efydd ai H enwogion. Gan Edward Denies, Pen- Mt0r/6[." Yrnddengys mai dyma draethawd buddugol Eisteddfpd Cape] y Tabernad, Rhagfyr, 1912, ac marr pwyllgor pybyr ei hun sy'n .ei gy- hoeddi. Go dda hwy, ac yn dangos tipyn o antunaeth a phlwc, yn lle'r cryndod cnntach hwnnw sy m.cr gyHredin. A phe baech ar eich colled, peidiwch a phoeni dim, canys gwnaeth- och chwi a'r awdur gymwynas gampus a'ch bro, ac a roesoch batrwm a delfryd i bwyil- gorau ereill sut i gael conant teilwng a gwerth ei gadw o'r dref a'i dynion. Ond 'does berygl yn y byd ?/ collwch, tybed ? canys os oes gronyn o flas darilen yn nheirmil y Port, ac yn eu dengmil disgynyddion sydd ar daen led y byd o Ynys Gifftan i Begwn y De, dylai werthu'n inuwch bob copi. (Ie, 'r her Ynys GiStan annwyl y mae 'mysedd i'n ysu'r funud yma am ysgrifennu Llythyr Penagored atat ti, rhyw brynhawn dydd lau pan gaf hamdden ;—ond tyrd yn d'ol ac i'th stabi, y merlyn stranciog '). Wedi meddwl dweyd rhyw bwt adolygiadol yr oeddwnaryrgyfrol, ac yna'i chau a'i rhoi i glwydo ar f'estyll gyda'r lleill ond wrth ei darUen a'i darllen, cododd y naill atgof ar ol y Hall i fyny o naen y meddwl, set am yr banner biwyddyn hiraethus a helbulus a dreuliais yn y dref hon yn bwt o brentis gyda'r diweddar Mr. J. P. Jones yn y jBee/nfe ac er gwneud fy ngoreu i beidio, methais yn lan ymatal rhag codi ambell atgof yma, bob yn all a, thameidiau'r llyfr. Conaid ddigon cymysg fydd hi ie, mi wn i hynny, cystal a. chwithau 'does mo'r help rhaid i chwi ei chymryd hi fel y mae hi, neu ynteu. fyw heb ddim o lyfr Edward Davies. Codwr y Ccb. I Y peth eyntaf a,'n tery yw'r llun da sydd yn nechreu'r llyfr o'r Yswain W. A. Madocks, codwr y Cob, wyneb mwyn, deallus sglein. athrylith o'i lygad a- grym ewyllys yu cloi a chydio'i ddwy wefus ond heb gethino dim ar ei gernau. Ie, gorchest fawr oedd codi'r Cob, ac achub y Traeth Mawr o baifau'r mor, ei droi'n ffann a phorfa, a rhoi ffordd haearn ar hyd ei weg'il i gtudo pobi a Hechi ol a blaen o Ffestiniog. Y mae'r llyfr yiv dweyd hanes y gwalch llygadog Syr John Wynn o Wydir yn ceisio cymell Syr Huw Myddleton i yi-nanyd a'r gwaith, cyn beHed yn. ol a'r .Swyddyn 1625; ond yr oedd Syr Huw'n rhy brysur a'i orchest fwy fyth yn cael dwr yr Afon Newydd i ddisychedu miloedd y .Brifddinas, ac ni wnai. Bu raid cael Deddf Senedd i gychwyn y gwaith, a'r Yswain T. Love Jones-Parry ;,A.S., Madryn, a'i gwthiodd drwodd yn y nwyddyn 1807. Ac ebe'r llyfr Dechreuodd Mr. Madocks ar y gwaith ym mis Mawrth, 1808 ac yn fuan yr oedd ganddo o dri i bedwar cant o weithwyr o bob rhan o Gymru gyda'r gorchwyl, ac yn eu plith yr oedd Twm o'r Nant yn oruchwyliwr y gwaith maen." Yr hen Dwm fe roiswn lawer am gael bod rywie yn y cyniniau, i'w glywed yn gweiddi ei orchymynion mewn cynghanedd ar y sein tano, ac yn clustfeinio am ddeunydd antarliwt o stori a sgwrs yr amt dran a rhychor oedd ymysg pedwar cant gweithwyr y Cob. Dywedir fod y Morglawdd mewn rhai mannau yn gan troedfedd o uchder o'i sylfaen, ac yn 400 troedfedd o led yn ei "waelod. Drwy'r anturiaeth hon, enillodd "Mr. Madocks 2,700 o aceri o dir, yn. ychwanegol at y ddwy Rl a enillasai yn jSaenoroL'' Ond ymgynghreiriodd y Mor a Morus y Gwynt â,'i gilydd ar y 14eg o Chwefrol, 1812, gan ymosod ar y Cob a'i chwalu'n deilchion. Yr oedd Madocks bellach i Swrdd ar led end yn lie pwdu a digalonni, yraroes Mr. John '.Vi!Jiams, ei oruchwyllwr, i'w ail wneud a c'lafodd y wlad a'i phenaethiaid yn bob cefn iddo. Tariai Shetley'r bardd ym Mhlas Tanrallt, Tremadog, ar y pryd a thaflodd yntau'i swyn a'i ddylanwad o blaid y peth, ac a gyfrannodd banner canpunt ei hun. (Dyma yr adeg y bu'r prifardd enwog hwnnw, tan arweiniad Eben Fardd, yn edrych am Sion Wyn o Ein.on., bardd claf Chwilog, ac a gafodd ymgom hir ag o wrth erchwyn y gwely lie gorweddodd Sion drigain nalynedd namyn dwy, ac y tyfodd yn fwy o fardd a Uenor ac ieithydd ar wastad ei gefn fan honno nag y tyf Hawer bngyn bras ei fantais yn ein Colegau heddyw. Ond tyrd yma, 'r merlyn, unwaith etc !) Ac 0 'r Cob annifyr a di-swyn diolwg Fe'th gerddais droion yn y dyddiau gynt a fu, pan yn grwt gartref, ac y'm gyrrid ar neges i'r Port o Dalsamau draw, a basged yn un Haw a brechtan linsi yn y Hall (Ie, brechtan Imsi, sef gymysg o fara amyd a bara ceirch, tafell o bob un, a,c a elwid felly.am wn i, am ei bod hi'n gymysg o ddau nawd, fel y mae lin8ey'n gymysg o gotwm a gwlanen. wn i ddim dyfalu'r ydwyf hwyrach y dywed yr Athro Ifor Williams, aposto] ein Llafur Gwlad o Goleg Bangor, air ar hyn '—ond gee, cymoder, wo !)—ie, unwaith eto, ac ym gyrrid ar neges i nol fErog i Ann fy chwaer a thuntur riwbob i Morgan 'y mrawd, a sgidiau hoelion i minnau y daith yn ddeuddeng milltir, ol a blaen yr hen Gob (darn ola'r daitb, set y nesaf i'r Port) yn BUtir o hyd, cyn sythed a chath wedi rhewi, a chyn hired ei diodde a gweddi hen. hwsmon Cefn Gwyn yn. y cyfarfod nos Lun cynta'r.mis. Ond rhaid symud oddiar y Cob, a gwrando'r awdur yn dweyd lianes tref y Towyn, set o'r adeg pan nad oedd ond twmpath tywod hyd nes ymgodi ohoni'n dalp o dref brysur e cheiau a'i Hongau'n llawnion o leclu 'Ffestiniog, end cyn dyddiau'r Lein Bach (1863), a gludid mewn gwageni hyd i'r Cei Newydd rhyngom a.'r Feleurhyd ac afon Maen Twrog, ac ymlaen. mewn ysgraffau trwm a thrwstan heibio Trwyn Penrhyn hyd i GesaII y Gest, ac yua. oddiyno yn llongau'r Port i bedwar ban byd. Balm Emrys ar y Briw. Wedi darfod a'r Cob a'r Lein Bach a'r Cei Llechi a'r wedd fasnachol a byd-hwn i'w bwnc, edrydd yr awdur hanes twf crefydd y dref yn ei drydedd pennod-pennod dda a chryno iawn. Y mae aiYibeIl ddalen yn bictiwr byw o'r rhagfarn a'r eiddigedd en- wadol a gorddai'r eglwysi yn yr oes honno yr oedd hi'n ddrwg rhwng yr Annibynwyr a'r Methodistiaid am fod yr hybarch John Jones, Tremadog-a waedai i farwolaeth er mwyn Etholedigaeth a gweddill y Pum Pwnc Calfinaidd-wedi gwrthod rhoi benthyg ei gapel i wr dieithr yr Annibynwyr bregethu ynddo ac ebe Emrys, mor fwyn a Christnog- aidd wrth sgrifennu ar y peth yn 1870 Clywsom lawer o feio ar naenoriaid y Methodistiaid oherwydd y tro. Y ma.e'n wir fod ymddygiad o'r fath yn ymddangos yn ddieithr yng ngoleuni'r dyddiau hyn. Yr ydym yn sicr fod hen bobi dda yr oes honno yn gweled Ilawer mwy o ryfedd- od yn ymddygiad un blaid yn gofyn, nag yn ymddygiad y blaid arall yn gwrthod. Y mae'r oes yn fwy cyfrifol am y weithred honno na'r personau. Yn wir, yr oedd rhywbeth i'w edmygu yn yr hen bobi dda a wrthodasant roddi gwasanaeth Capel Tremadog i Benjamin Jones, Bwllheli. Dyna, engraint o wroldeb. Yr oedd y gweinidog a'r blaenoriaid yn ddeiliaid ar ystad Madocks. Yr oedd gwraig ieuanc yr agent. trwy ei gwr, wedi gwneud y "cais. Yr oedd gan y gruchwyliwr hwnnw fwy o awdurdod na'r hyn sy'n meddiant y gwyr sydd. yn sidellu pleid- ? leisiau yn y dyddiau hyn a mwy na'r cwbt, yr oedd y boneddwr a'r blaenoriaid yn gyfeillion cynnes i'w gilydd. Ond ni wyrent drwch blewyn o'u ffordd Safasant o blaid y ffydd fet dynion. Ac ? os deuai Annibyjniaeth neu rhyw aeth arall agos i'r lie gofalent na ddeuai drwy eu hareithfa, hwy. Adwaenom y dynion hynny yn dda. 0 na chaem fwy o rai tebyg iddynt. Buont lawer gwaith ar ol hynny yn agor eu pulpud yn Hawen i bregethwyr o enwadau eraill. Yr oeddynt yn medru symud gyda'r oes. Heddwch i Iwcli John Jones, Tremadog WiHiam. Williams, Llannerch a. William Roberts, Farm Yard." Gresyn na buasai mwy o faim Emrys yj.i y wla.d 'does mo'i debyg at gau. briwiau Satan y 'Sect, can's dyna'r g'walch geidw'r crochaii i ferwi o hyd. Pan ddeuwn at hanes y Wesleaid, gwelaf grybwyU enw Mr. Edward Evans, Talsarnau —patriarch pregethwrol a chanddo ddigon o lais i "shywio holl gethcrn Annwn yn ol i'w chiifachau pellaf rhag ei ofn. Ac ymhellach ymlaen, dyma hanes Bedydd- wyr y Port ac ynddo ami i damaid gwerth ei godi, hwn yn un Yn 1845, symudodd Mr. Brown i Ben y "bont, Llandysul. Y flwyddyn ddilynol daeth Dafydd Jones, Talsarnau, i gy- meryd gofal yr eglwys. Ordeiniwyd ef yn 1847. Saer coed oedd Dafydd Jones ? wrth ei alwedigaeth, a gweithiai ei grefft ar ystad y Glyn ond deuai i bregethu i Borthmadog bob Sul. Dywedir nad oedd y gydnabyddiaeth a dderbyniai ond 10s. y mis !—rprin ddigon i dalu am ei gwch i'w gludo'n ol a blaen. Ni allesid disgwyl Ilawer o Iwyddiant tra'r oedd y gweinidog yn llafurio'n yr wythnos mor bell oddiwrth ei eglwys. Ie, yr oedd Talsarnau ymhell o Borthmadog y pryd hynny. Nid oedd bum mlynedd etc er pan adeiladwyd y capel-yr oedd y batch yn fawr, a'r eglwys ynfechan,agofynnai am egni parhaus i'w chadw rhag suddo. Yn wir, yr oedd talu'r Hog yn fwy na'u gallu. Yr oedd yr amgylchiadau'n gyf- ryw fel y gorfu i'r Gymanfa ymyryd, oherwydd dywedir fod dau neu dri o'r ? brodyr mewn perygl o gael gwerthu eu heiddo, i gyfarfod a dyled y capel a gwnaeth y Parch. Robert Jones Llan- llyi'ni, Eifionwyson, a Golygydd y Bedydditvr, apel ar eu rhan at Fedyddwyr "-Cymru, a chawsant atebiad caredig. Buont mewn gwirionedd yn gymorth wrth raid i'w brodyr ym Mhorthmadog, ? ac amiygasant hwythau eu gwerthfawrog- iad o hynny trwy gynwyno i Robert Jones bar o hosanau cochddu '—rhodd oedd yn dangos gwir deimlad ac ysbryd yr eglwys yn Ilawer gwell na,g y gwnai "papur canpunt heddyw." Meddyliwch, mewn difrif, am Ddafydd Jones y Glyn a'i chweugain y mis, a choched bawb ohonom at y clustiau wrth gymharu'n degwm ni a,'i ddegwm ef, er pob gwahaniaeth ym mhris y byw a meddyliwch drachcfn am y symledd gwledig ond odiaeth o dlws sydd yn yr estyn par o sanau c')chddu i Robert Jones, Llanllyfni, a'i gymdeithion a chymharwch o a'r heljmt a'r tystebu drud a gorwych sy'n gymamt ffasiwn a phla'r biynyddau hyn. Pan gychwynnodd y Bedyddwyr Albanaldd achos yn y Port, bu raid iddynt ei gadw am dymor yn ystafell Wm. Grimth, hen bysgotwr methedig a ga.dwai'r unig ysgol ddyddiol oedd ar gael yn y dre'r pryd hwnnw. Creadur dreng a rhyfedd oedd yr hen William, galiwn feddwl oddiwrth y paragraff canlynol Annibynwr gor-selog ydoedd efe, a chas- hai'r cnwad newydd a, chas cynawn, fel y gwelir yn y bennod ar Addysg. Ni feddai'r lien forwr ond ar un ystafell i "gyflawni ei hoJI oruchwylion. Yno y dysgai y plant, ac y darpa.rai ei holl ymborth. Oherwydd ei gaaineb tuag at y Bedyddwyr Albanaidd, gofalai na wnai ddim a fydda;'n hwylustod iddynt gyda'r gwasanaeth crefyddoLac niallai, q dan unrhyw amgylctuad, arcs yno yn ystod y moddion. Yn hytrach, gofalai am fyned ymaitli, gan adael popeth yn y ? lIe yn y cynwr mwyaf annhrefnus a fyd.da.rn bosibi—yn enwedig ar y Sabothau. Gadawai'r meinciau ar draws ei gÏl:y-dd,. a gweddillion y penwaig a'r wynwyn i addurno'r pentan y mae tipyn o swn ydadleuon diwinyddol ar v frawddeg hon (tudal. 69) ? Dywedai rha,i o ddilynwyr R. Rees nad oedd mwy o rinwedd lawnol y].T.g ngwaed Cnst nag y sydd mewn gwaed aderyn. oes, ac o liw'r oes, bedwar ugain inlynedd yn oL pan ddadleuai dyiiion ar y Pum Pwnc uwc.hben eu glaseidiau yn y dafam, a hynnv mor naturiol ag y dedly eu dily'nwyr yn y tafamauheddywarpwy aiffahi ar gfybiau'r be! droed. Dyma Bodyn. tlws roddir ar fedd coffadwr- iaeth Wm. Jones, bugaii y Bedyddwyr Camp- bellaidd Bu Mr. Jones farw ar y 18fed o OrHennaf, 1887, ac ni dderbyniodd yn ystod y saith mlynedd ar hugain. y bu'n henadur yn Sion unrhy\v gydnabyddiaeth anannol am ei lafur, am y credai fod derbyn cySog am wasanacthu'r swydd yn groes i ddysgediiaeth y Testament Newydd." Pan ddeuir at hanes y LIan a'r Eglwys Wladol, cynheUd gwasanaethau Cymraeg fore a hwyr, a Saesneg yn y prydnawn." Does mo'r fath air a "gwasanaethau" yn Gymraeg cySeithiad o services ydyw moddioa yw-'r Cymraeg a gresyn meddwl fel y mae'r Eglwys Wladol wedi lladd a llurgumo cymaintareinhiaith,yhia'i boreolweddi am weddi'r bore hwyrol weddi am weddi'r hwyr, ac yn y blaen. Dyna'r pam mwyaf fy mod i mor gryf am ei dadgysylitu a'i dadwaddoli hi. Da chwi, olygydd llengar yr Haul o Benmachno, rhowch drefn ar Gymraeg yr Hen Fam ac yna fe fydd gwell gobaith i ninnau'r gwenyn YmneiUtuol goiynnu Uai a dod yr) ol yn ddistaw bach i hen gwch y genedl. Y chwi blant y breintiau mawr mown ystyr addysgol, sydd mor glyd arnoch yn eich hysgolion elfennol a chanolradd y biynyddau hyn, diolchwch nad oeddych ddim yn byw yn y Port gan mlynedd yn o), canys dyma'r disgriuad o ysgol gynta'r lie Yr ysgol gyntaf ym Mhorthmadog, yn ol pob hanes, yw yr un a ga.dwai'r hen forwr diddorol WiHiam Gnmth, ym Mhen. y Cei, wrtli ochr y Grisia Mawr. Mor- wriaeth yn bennaf a ddysgai efe. Nid oedd gan yr hen lane, druan, ond un ystafell at ei holl wasanaeth—i gadw ysgol, gwneud ei fwyd, golchi a phobi, byw a chysgu ynddi. Cysgai mewn Aammoc& a grogid wrth y nenfwd. Ei nasusfwyd fyddai penwaig a wynwyn, wedi eu ffrio neu eu briwiio yn nannedd "ygrat." "II Na wyddoch, wyddoch chwi mo'ch geni, mechgyn i, rhagor a wyddai'uh tadau a'ch teidiau yn oes ysgol yr hen Wm. Grinith. Tuchanwcli lai a diolchwch fwv, da chwi. Will draed. "Enwogion Porthmadog"yw testyn yr wythfed bennod ac yu eu mysg dyma ddod ar draws Wil Ellis (1810-1875), rhychor rhy- fedda'r dref ar y pryd. Bwriais rhyw chwe mis o brentisiaeth yn y Beehive, Lombard Street, tua r nwyddyn 1874 ac y mae '? il? yn dod i fewti ,tr gennyf frith-got am Wil yn dod i fewn ar ambell brynhawn trymaidd o haf, gan ddisgyn ar gadair, taro'i ben ar y cowntsr, a chwyrnu fel rhinoceros am oriau. a rhyddid Hawn i bob pryf a chacw:i fynd i'w safn a phan hon.no'n llawn, dacw'i pherchen yn cau'r drws yn chwap ar y menagerie i gyd, y to a'i %awcl-i fawr a'i dwrsiau digrif. Onid amdano fo y dywedodd lolo Caernarfon fod "-ei draed fel chwarter i dri," am eu bod yn troi allan. gymaint ? Y mae marwnad Cynhaearn yn un o'r pethau goreu wnaed yn y cyfeiriad hwnnw, a dyma damaid i brofi :— Beth yw'r tristwch ? Mae Wil Elis, Yr hen fachgen llonna' erioed, Wedi marw o'r broncliitis, Pan yn bump a thrigain oed Yntau di-engodd megis eraill, Ond nid testyn syndod yw,— Pawb adwaenent yr hen gyfaill, Synnent sut yr oedd yn byw. 'Roedd Rhagluniaeth yn ei gone, Gan ei fwydo yn ddifeth, Cafodd lety'n nodded iddo Er na thalodd rent na threth Mown hen adail oedd yn ymyi Cafodd gysgu yn y gwair Nid oedd yno fuwch na clievyl, Mwy na'r Port ar ddiwrnod ffair. Mewn Eisteddfod gyda'r Beirddion, Byddai'n gwisgo ruban glas, Adeg Lecsiwn byddai'n gyson Yn areithio gyda bias Bu yn dadleu north ei esgyrn Dros iawnderau bach a mawr CoUodd Lib'ral.5 un o'r cedyrn Pan gadd Wil ei dorri 'lawr. Byddai'n myned i'r addoldv. Weithiau i'r Capel, weithiau i'r Haa Agorai'i geg a chaeai 'lygaid, Ac fe chwyrnai dros y fan Cafodd lawer blasus bivniad Yn ei wyneb, draws ei gefn Pan. ddegroai, rhoi ochenaid— Yna chwyrnai'n uwch drachefn. Os arwyddai ffurf ei wyneb Fod yn WH ychydig wall, Ei gyfrwysdra oedd ddihareb, Ei fh'aethineb oedd ddiball 'Roedd yn onest ac yn nyddlon, Tystion i'w gywirdeb gawn Bu yn rhodio llwybrau union Gyda. choesau ceimion iawn. poor Wil a,dgo6on erys, Am ei ddull ai hynod wedd Lliaws deithient tua'r Ynys, I gael golwg ar ei fedd Un Wil Elis gadd ei eni, Hwnnw weithian aeth o'n Dut.h Gwag yw hebddo—am ei goHi Teimla'r ardal drwyddi'n chwith. Cysga., Wi!—ond paid a chwyrnu— Uecha'n dawe!, yr hen frawd Gorwedd heddyw 'rwyt mewn gwely Lie mae'r bonedd fel y tiawd Pan y cawn dy weled etc, Dyfod wnei ar newydd wedd Yna bydd dy gorff afrosgo Wedi ei buro yn y bedd.