Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
II Campbell & Lumby's II GENUINE STOCKTAKING SALE. NOW PROCEEDING. EVERYTHING REDUCED ——— at least 15 ° o (3/- in the Pound). Nothing has been specially purchased for THE SALE The DISCOUNT will be allowed off all goods in stock without any exceptions, THE LIVERPOOL JEWELLERS, Old Post Office Place, Liverpool, II TELEPHONE 3075 Royal. off Church Street.
H '————————————— Tu ol i Gowntar…
H ————————————— Tu ol i Gowntar y Bee- ( hive. I A thra bwy'n son. am y Beehive, waeth imi adde'n onest fan yma mai methiant llwyr fu 'mhrentisiaeth y fan honno. 'Doedd dim or siopwr yn y 'mhen na nghalon-nae oedd, mo'r tipyn lleiaf. Fu neb erioed mor ddwl a diddim at ledu a clilodfori'r pethau gerbron y cwsmeriaid yr oeddwn yn gan mil rhy swil a thawedog, nac yn medru dweyd dim.ond y gwir moel, a beth dalai hwnnw mewn lIe felly? Byddwn yn cochi a ffwdanl.1 a cham roi newid neu rywbeth o hyd. A dim ond un siwt oedd gennyf ar fy helw yn y dyddiau llymion hynny (a 'does gen i fawr fwy heddyw o ran hynny), ac un William 'y mrawd yn ail llaw o Lundain oedd honno, sef siwt y page boy oedd wedi mynd yn rhy fach iddo. 0 dipyn i beth, yr oedd hi'n dechreu breuo a rhwygo a mmnan, pan ddigwyddai peth cas felly, yn gorfod rhedeg at y teilwriaid a weithient yng nghein y siop i gael clytio'r twll. Ond digwyddodd hynny mor fynych nes oedd y clytiau bellach yn y mwyafrif ar y siwtan wreiddiol ac yr oeddwn yn mynd mor debyg i Wil Elis toe nes pan biciais i'r gweithty trwsio un diwrnod, dyma farchog y nodwydd yn edryeh arnaf yn dosturiol, ac ebe fo, Shonyn bach, y tro nesaf y bydd arnat ti eisio clwt, rhaid iti ddwad a lie i'w roi o ar dy got efoclx di." Ond peidiwch chwi a chodi bys a n-iingim-Li ar gyfnod y tlodi a'r siwt glwt,-y mae'n eithaf gen 1 amdani erbyn heddyw a chan croeso i chwi gael holl harddwch a ehlydwch siwtiau'r byd os mynnwch, ond i mi gael mantell wen ddiwnïad fy Mrawd Hynaf i gtiddio'm hyd y Ila,m,r." Ffeindiwch glwt ar honno, camp i chwi Sut bynnag, blino ar y Beehive ddarfum i, ac ymadael oddiyiio ar ben y chwe mis heb fawr ddim ax fy helw ond fy ngharitor a'm siwt glwt, Gallasai j fod yn waetli, a bod y clwt ar fy nghymenad yn lie ar fy nghot. Ac yr oedd yn dda i "J.P." imi fynd, canys 'doedd fawr o broffit i neb arnaf fi fel siopwr yr oeddwn mor ddiamcan at fcsur a ohyfnf a rhoinewid ag oedd John Jones, Talsarn, pan gadwent hwvthau siop yn Llanllyfni, canys pan aeth Fanny i lawr i Gaernarfon un diwr- nod, ac y gadawodd y siop yng ngofal ei phriod, dyma wreigan o gymydog i fewn i ofyn am "gnegwarth o dâp." Nid oedd gan wr Duw amcan yn y byd pa faint i'w roi am geiniog, ac a ddywedodd wrth y wraig am gymeryd yn ol ei chydwybod. Dyma'r faeden yn cymryd un Hath ar bymtheg a phan ofynnai rhywun yn rhywle wedyn beth oedd hyd cydwybod merch, atebai John Jones, tan gosi'i ben, mai un llath ar bymtheg. A 'doedd fy nghnegwerth innau fawr fyrrach, mi wrantaf, canys ni fu'r un Uanc glasach, blerach, na mwy lloaidd yr olwg yn hurt- lygeidio'r tu ol i gowntar nob erioed, yn siwr i chwi ac y mae'n dda mi nad oedd Jac Glan y Gors neu Cynhaearn ddim yno i ngweld, onite dyna gerdd a gawswn Ond yr oedd Shonyn yn hogyn ei fam, serch hynny, ac a gafodd groeso ganddi hi er pob cie a gafodd gan y Beehive a'r byd. Ac yr oedd yn dda gen i gael mynd adref, canys swbach a meddalyn digon liiraethxis oeddwn, ac a ddringais na wn p'sawl gwaith i ben Moel y Gest i edrych a welwn mam ar drothwy drws Ty ar y graig yn Nhalsarnau draw, y babi imi Gwelaf fod yr awdur yn cynnwys Samuel Holland, A.S., ymysg enwogion y Port. Wel, yr wyf yn ei gofio yntau, sef yn Harlech y diwrnod y'i dewiswyd yn aelocl dros sir Feir- i onydd, yn erbyn Cyrnol Tottenham, y Tori. Ac nid yw ond megis doe gennyf gofio gweld y chwarelwyr ac ereill yn tynnu'r ceffylau o'u tresi, ac yn neidio i'w lie a llusgo'r gwron o'i gerbyd bob cam i Faen Twrog am wn i, bellter deg i ddeuddeng milltir. Ond a hwy ar fin cychwyn, syrthiodd un tynwr yn glwt ar y ffordd wleb, leidiog, a dyna'r hen Holland yn galw arno ato i eistedd, a dacw'r olwg olaf a welais i arno'n un slebog o laid Harlech yn ochr hen yswain glanbryd Glanwilliam. Bu Hawer tro ar fyd er hynny, ond y mae cynifer ag erioed o frain yn crawcian yn Harlech, ac o gocos ar y Traeth i bobl y Penrhyn, ond ddim yn agos gymaint rhagor a fyddai o lechi 'Stiniog ar gei'r Port. Wrth ddarllen y llyfr, gwelwn y dywedir Llunden o hyd am Lundain. 'Dwy hynny ddim yn iawn, canys baledwyr pen ffair a'r gwyr wnaeth y cerddi ddysgodd y wlad i gamseinio a cha-iiisillaf u hen enw'r Brifddinas. Diddorol yw hanes Mr. Madocks, Codwr y Cob, yn sefydlu rhedegfatx ceffylau yn y Port, a barlxaent amddau ddiwrnod, a'r gwobrwyon yn amrywio o E50 y ras i lawr, ac meddai'r hanes yn y llyfr On the last day, a handicap for beaten horses, 5 gs. each ac yn gwneud i'r dieflyn Direidi yma sydd o fewn dyn grugo na, chawsid cystadleuaeth gyffelyb i feirdd ar ol dydd lau'r Eisteddfod, ar lun handicap for beaten bards. Y mae llongwyr Cymru'n ddihareb am eu glewder a'u medr, na neb glewach a medrus. ach o'u mysg hwythau na morwyr a chaptein- iaid j Port. Siaradant am Neifion gyda'r parch mwyaf a gwae'r neb a laddai ar y mor, er iddo foddi eu rhai anwylaf. Dyma damaid doniol am yr hen Gapten Pritchard, Ty Gwyn, Ynys Llanfihangel:- Bu'n morio amryw weithiau gyda'i long, y Gomer, i'r America. Gadawodd y m6r yn 1835, gan ddechreu masnach iddo ei hun yn y Terrace-Ile a elwir yn awr yn Lombard Street. Masnachai ar y cyntaf mewn porter, a gariaiei long o'r lwerddon. Ond wedi dyfodiad y don ddirwestol dros y wlad, yn 1838, rhoddodd i fyny werthu'r ddiod, ac fel arwydd gweledig o'i argy- hoeddiad o ddrwg meddwdod cymerodd y baril olaf o borter a feddaigan olIwngei chynnwys i'r heol. Daeth hwch cymydog heibio, chwenychodd y ddiod, ac yfodd yn helaeth ohono, a meddwodd Daeth yn ddirwestwr selog, hynny yw, y capten- am yr hwch, ni chofnodir i honno byth sobri." Ac "He set our minds to Music, As Nature had set his own," ebe Eifion Wyn ar garreg fedd John Roberts' y cerddor wnaeth gymaint dros ganu'r Port a'r ddau Draeth. Ac wrth sgrifennu byr-gofiant am Enwogion y Port gofalodd Edward Davies mai nid rhyw almanac o fara sych y ffeithiau a'r ffigyrau a fyddent, ond fod haen o ymenyn arnynt, tebyg i hwi-i, a ddywedir wrth goffhau Dr. Robert Roberts, un o feddygon llenoraidd y dref Urddwyd ef yn fardd yn Eisteddfod 1872, wrth yr enw Robin Goch o'r Gest.' Ond ychydig o hvydd a fu iddo fel bardd. "Gwnaeth benhillion coffa am ei wraig "a threiodd ei law at wneud englvn i I Hafgwm," yng nghreigiau Bwlch y Moch. Wele'r ymgais HAFGWM. Creigiog, clogyrnog gernau,—hynodol, Ofnadwy bicollau, Yw Hafgwm, erchyll gwm gau,— Ond bu am wythnosau yn methu llunio'r llinell olaf. Wedi iddi fyned 'i'r pen' arno, aeth i ddweyd ei gwyn wrth loan "Madog. "Yn eno'r tad," ebe loan, pam na ddeudwch clii,- A nadrodd yn ei odrau Diolch am lun Emrys sydd yn y gyfrol deuthum i'r Beehive flwyddyn neu ddwy'n rhy hwyr i'w gael o ar dir y byw hen dro canys rhoiswn siwt gyfan, heb son am un glwt, am gael gweld a ehlywed y gwr ddaeth wedi hynny'n un o'm duwiau barddonol. •"i^~ i i < <— Yr Hogyn Garw. Dyma bennod ar Enwogion H eddy to v Port yn dilyn y Hall ar Enwogion Doe ac er meithed fy nhruth, rhaid codi a chael lie i hwn am yr hogyn garw Yr oedd Myrddin [sef Mr. John Jones (Myrddin Fardd), Chwilog] yn gyfaill personol i Mr. Edward Breese—pennaeth ffirm y Mri. Breese, Jones, a Casson, ym Mhorthmadog. Cyfathrachai'r ddau lawer a'i gilydd ynglýn a hynafiaethaxx, ac ar ei gyngor ef yrymofynnoddMr. Lloyd [sef ewythr y Cangliellor] am le i'r bachgen yn y firm. Cafodd addewid o hynny. Ond aeth cymaint o amser heibio nes yr aeth Mr. Lloyd i bryderu, ac i ameu y doethineb o ddisgwyl yn hwy. Amlyg- odd hynny i Myrddin dywedodd yntau wrtho y byddai ef yn myned at Mr. Breese rai o'r dyddiau dilynol, ac yn ymddi- ddanai ag ef yn ei gylch. Felly y bu. Gofynnodd i Mr. Breese a oedd ganddo "ddim lie i 'hogyn Rhisiart Lloyd' bellach a dywedodd Mr. Breese i Mr. Lloyd fod yn siarad rhywbeth am hynny, ond nad oedd arno angen am yr un yn neilltuol y pryd hynny. Ac ebe Myrddin, Yn eno'r tad, cymerwch o, y mae o'n siwr o fod yn hogyn garw, ac mi fydd yn glod i'ch offis chi ei gael o." Os wyt ti'n dweyd' liynny, dywed wrth Richard Lloyd am ddwad a fo yma erbyn naw yfory,' ebe Mr. Breese. Felly fti ac yng Ngorffennaf, 1878, ac efe'n 16 oed, aeth ei ewythr parchus ag ef i dclechreu ar yrfa 'e a ddygai fenditli i'w genedl, ac a barai syndod i'r gwledydd. Ym Mhorthmadog y dechreuodd ysgrifennu i'r wasg ac "areithio a dadleu'n gyhoeddus yno y daetl-i i sylw gwlad yno y priododd ac oddiyno, ar y 10fed o Ebrill, 1890, yr aeth i'r Ssnedd fel aelod dros FwrdelSdre:6 Arfon." Enw da ar y Canghellor yw'r hogyn garw,' na chafodd erioed mo'i well na'i gystal yn yr un Conant a sgrifennwyd amdano, a champ i neb ohonoch ei gyneithu heb golli'r min gwledig sydd arno. Y mae'n debyg mai tueddu i'w gyfieithu'n ROUGH BOY y buasai'r Esgobion a'r Mawrion Tir yma sydd mor ddreng wrtho oblegid ei yrfa anesmwyth i falu eu teganau trais hwy yn deilchion hyd lawr. Dal i'w maIn, Dafydd annwyi ac i anelu'r cerrig llyfnion yma o'th ffon dafl angeuol yn syth i dalcen y swegryn Goliath philistaidd yma sy'n sathru rhyddid ac anian yr hen Gymry dan ei sgidiau hoelion trymion ers gormod o hyd bellach. A thyrd a'i ddillad o i'w cadw yn Nhwr Cymru erbyn y caffo hi Ymreolaeth, i'w dangos, ond nid i'w rhoi amdanat. Sonnir hefyd am lolo Caernarfon ac Eifion Wyn ac ereill gadwodd fflam Awen ac Ath- rylith rhag diffodd wrth odre'r Gest a dyna'r hen Alltud Eifion yntau fuasai'n eithaf testun llith, dim ond y fo'i hun. Ond cato pawb dyma'mhadolygiad eisoes agos cyd a'r a'r gyfrol ei hun, ac felly mi dawaf gydag erfyn am eich maddeuant am fod mor hir nid arnaf fi y mae'r bai, i gyd, ond ar Edward Davjes a'i lyfr yn rhoi proc mor ddi-ddisgwyl i'r myrdd atgofion a orweddent mor ddistaw ar waelod ffynnon y cof dwfn yma. A rhyw grynnu'n arw'r ydwyf rhag i broc gwialen hir "ei gyfiawnder Ef ddod a llu o bethau ereill, dwysach a duach lawer na'r uchod, i I fyny i'r wyneb euog yma fore'r Farn sydd draw. Ond y mae gyda Thi faddeuant." Oes, gobeithio. 'Rwy'n bur sicr fod gyda mi edifeirwch, fy Nhad. Beth bynnag am hynny, diolch i Edward Davies am ei lyfr, ac i bwyllgor y Tabernacl am ei gyhoeddi; ac yn awr, chwi deirmil Plant y Port, a'ch dengmil disgynyddion sydd draw ac yma led y byd, prynnwch y cofiant campus hwn i'ch hen gartref wrth odre'r Gest. Maddeuer i minnau, wrth son am y gyfrol, son cymaint 'r un pryd am fy siwt glwt,-yr oedd gen'i dipyn o feddwl ohoni hi, er gwaetha'i thyllau. Llygad y Wawr. J.H.J. -0-
FEL BO'R HWYL.I
FEL BO'R HWYL.I Colofn Achlysurol gan Feudwy Caerludd. V An un o'n tonaxi ni ein hunain y bydd fy nodxadau y waith hon a syrthiodd fy newis- iad arni hi, nid am fod dim eithriadol yn perthyn iddi o ran ei phoblogrwydd na'r drmiaeth a gafodd, ond am fy mod wedi methu ei holrhain i'w tharddiad, ac yn gobeithio y gall un o'm darllenwyr daflu ychydxg oleuni ar fater yr ymboenais gryn lawer uwch-ei ben. Llawer lliw a Hun fu arm, fely cawn weled yn y man a'r rhyfedd- od yw fod anadl einioes eto'n aros ynddi ar ol gyrfa mor gyfnewidiol a chamdriniaeth mor ysgeler. Amrywia mor fawr o ran ei theitl, e'l chywair, a'i mydr fel nad ar unwaith y cenfydd hyd yn oed y cerddor profiadol mai ffurfiau lledrith ar yr un don yw'r rhan fwyaf, os nad y cwbl, o'r rhai sydd yn adnabyddus i mi. Fe ddengys y dafien ddilynol ar un olwg liaws o fanylion yr amrywiaeth y cyfeiriaf ato l-Casgliad, Y Cerddor Eglwysig, 1864 golygydd, John a Rd. Mills enw, Gwahodd- iad cywair, mwyaf amser, 2-2. 2— Halelwiah, 1849 James IlaiTis Horeb m. 2-4. 3-Swn Addoli, 1862 David Richards Horeb m.; 2-4. 4- Ych wanegiad, 186- leuan Gwyllt Gwahoddiad; 11.; 3-2. 5-Llyfr Tonau y Wesleaid [1875] J. D. Jones Penllyn 11.; 4-2. 6-St. Asaph Tune Book, 1876 W. J. Hughes, B.A.; Gwahoddiad; m. 4-2. 7-0aniadau y Cysegr a'r Teulu, 1878 amryw Penllyn 11.; 4-2. 8-Tonau, Salman, etc., 1883 D. Jenkins, Mus.Bac. Dygryit 11.; 3/4. 9-Atodiad i Gasgliad J.D.J., 1883 W. Will- iams (Northyn) Horeb m.; 3-4. Wrth baratoi y daflen yr oedd dau lyfr pwysig allan o'm cyrraedd, sef Brenhinol Ganiadau Sion (1817), gap Owen Williams o Fon, a Ghaniadan Sion (1840), gan Richard Mills dichon, gan hynny, ei bod hi yn anghyfiawn, ac nas gellir tynnu unrhyw gasgliadau boddhaol oddiwrthi am darddiad y don, fel y dywedais eisoes. Heb gael cyfle i fyned trwy'r llyfrau hynny, an odd gennyf feddwl mai yn y Oerddor Eglwysig (1844) yr ymddanghosodd y d.6n mewn argraff am y waith gyntaf. Ond fel y mae hi, amlyga'r daflen gryn lawer o hanes y don. Y prif ffeithiaxx a ddwg hi i'r golwg ydyw y rhain 1, Fod i'r don gynifer a phedwar enw gwa. hanol, sef (mewn trefn amseryddol), Gwa- hoddiad, Horeb, Penllyn, a Dyffryn. Mae'n rhaid fod twymyn y Newidwst wedi disgyn gyda thoster ar y gwyr da a roddodd y ddau enw olaf ar don ag arni ddau enw o'r blaen 2, Ei bod hi weithiau yn y cywair mwyaf, a thro arall yn y lleiaf o dan Gwahoddiad ym y ddau gywair o dan Horeb yn y mwyaf yn unig ac o dan Penllyn a Dyffryn yn y lleiaf yn unig. 3, Fod eithafbwynt ei chyfnewidiol- deb yn cael ei gyrraedd yng nghymysgedd anferth arwyddnodau ei hamser. Hyn oil a gawn yn y daflen; ond y mae llawer pwynt arall o wahaniaeth nas gellid eu dangos yno, ond a ofynnai ddwy neu dair o golofnau'r BRYTHON i'w gosod allan a'u hegluro. Er engraiift, amrywia'r alaw ei hun gryn lawer yn y casgliadau a enwyd weithiau hefyd fe geir y don gydag ail-adroddiadau, ac weithiau heb yr un. Yn ol y Cerddor Eglwysig, y mae'r llinell olaf o'r geiriau i'w chanu deirgwaith drosodd yn ol yr Haleliwiah, y ddwy linell olaf a ail-adroddir. Pa raid ychwanegu ? Onid yw a ddywedwyd yn ddanghosiad lied effeithiol o'r tryblith diobaith y mae'r hen don, druan, a ninnau gyda hi bellach, wedi ein bwrw yn bendra- mwnwgl iddo gan restr faith o olygwyr, y rhai, os nad oeddynt yn chwannog i newid a llurgunio dan yr enw o ddiwygio pob dim a ai drwy eu dwylaw, o'r hyn lleiaf na falient nemor ddim am ddilysrwydd alawol y tonau a olygid ganddynt. Mae'n resyn nad oes gennym ni yng Nghymru bellach hanes credadwy am ein tonau. Mynych yr eiddig- eddaf wrth yr Almaenwr a'r Sais am fod ganddynt hwy gyfrolau gwerthfawr yn cyn- nwys y cyfryw hane's i'r manyldeb mwyaf am eu tonau yn eu ffurflau a'u llygriadau i lawr i'r dydd hwn. Un ffaitli deilwng o gofnodiad yma ydyw fod Northyn yn eiAtodiad yn priodoli'r don Ddafydd Siencyn Morgan, gyda'r dyddiad 1752, ond ar ba sail nis gwn. Os y cerddor hwnnw a'i cyfansoddodd hi, rhaid o leiaf newid y dyddiad, canys yn 1751 y ganed of Yn fy nyryswch a'm. hanwybodaeth am y don a'i ffynhonell, annichon yw i mi ddweyd pa un o'r golygwyr a'i rhoddodd hi inni yn y dull agosaf i'r gwro idd io 1 .g £ G a 11 a f I ddweyd am un ohonynt, sef golygydd yr Haleliwiah (1849) ei fod ef yn wr cyfarwydd a hanes Salmyddiaeth Gymreig, a mawr ei ofal am roddi alawon fel y'u cenid gan yr hen bobl. Heb ddweyd fy mod yn rhoddi llawn ym- ddiried yn nilysrwydd y ffurf a gyfiwyna ef, fe'm tueddir i feddwl ei fod ef wedi cadw prif nodweddion y don irni, ac na wyrem ymhell o'i ddilyn. Fel y canlyn y dyry ef yr alaw :— HOREB. 8.7.3. Don G. Ymddengys i mi fod y mydr hwn yn lied anystwyth ac ysbonciog (jerky), ac y canai'r d6n yn esmwythach a mwy naturiol mewn amser trifflyg ac awn mor bell a datgan fy marn mai yn y dull olaf hwn y mynnai cynull- eidfaoedd ei chanu yn y dyddiau gynt. Ond pa amser bynnag a ddewiser, gofaler am gadw at y nodyn byr ar seithfed sill y llinell flaenaf, un o nodweddion amlycaf a phrydferthaf ton gwerth ei hadgyfodi pe gellid dyfod i gydwelediad am ei ffurf awduredig.
Advertising
CouponT|Rhad=>Y3wiriaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd), BTDD ft GRESHAM Eire and Accident Insurance Society Lto St- Mildred's House, Poultry, LONDON, E.C. dalu 2100 (can punt) i gynrychiolydd cyfreithio a phersonol y sawl a fo'n ddiles-ddaliwr y coupon hwn, os y bo iddo fo neu hi gael eu lladd yn hollo ac yn uniongyrchol drwy ddamwain o fewn y Deyrnas Gyfunol i dren unryw Gwvnni Reilfford^ Tramcar, Omnibus, Cab, neu Gerbyd Trwyddedi p a Llog yn yr hwn y bo'r daliwr yu cael ei gludo fel teithiwr tocyn a chlud, yn ddarostyngedig bob amser i'r amodau arbennig a ganlyn sydd ystyried fel rhan a chyfran o'r eytundeb- (a) Fod y marw'n digwydd o fewn deng niwrnod ar hugain wedi'r ddamwain (b) foe rhybudd ohoni'n cael ei roi i'r Gymdeitbas c fewn saith niwrnod yn en Prif Swyddfa yn Llundain (c) fod y cyfryw dystiolaeth res- ymol parth achos y farwolaeth yn cael ei gyflwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn (d) fod y daliwr wedi 'sgrifennu ei arwydd- enw arferol, cyn i'r ddamwain ddigwydd, aa ine yn y lie darparedig gogyfer a hynny (e) na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag an Eerson parth mwy nag un coupon yn y papui Ewn nar un cyhoeddiad arall (/) na bo'r ys- wiriaeth hwn ddim yn gaffaeladwy i bersonan tan ddeuddeg na thros ddegathrigain mlwydd oed, ac a ddeil yn ddilys am saith niwrnod o 12 o'r gloch y dydd y'i codir. Arwyddnod y Daliwr Tligfod I Danysgrifwyr, Raid i dderbynwyr cyson y papur hwn ddim arwyddo r Coupon os ca'r Gymdeithas gwbl aicrwydd a phrawf ei fod yn cael ts anfon lddynt ynddlfwlch. W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers 200 SCOTLAND RD., Liverpool TBLSPHOMI No. 5163 Royal J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, &c. 6 Lord Street, Liverpool TBLMPMOMM 4S13 MAWXi iZ ALLAN Royal LINE The Popular Pioneer Line (1819 to 1913) To CAN AIDIL, Regular Sailings from Liverpool, Glasgow. Londonderry, London. Plymouth & Havre. LoweatFares. Cuisine & Comfort Unsurpassed ALLAN'S, Liverpool, 19 James St.; London, 1 Cockspur St., 8.W.; 103 Leadenhall St., E.O.; Glasgow, 25 Bothwell -St Agents Everywhere Pence 4 4 Envelopes FOR CHURCH COLLECTIONS Good Quality. CorreedylrNumbeM by g Special Machine. I:. Hugh Evans t4 Sons, Bry thonj 356.8 Stanley Road L'pool. Esbon iad Cyflawn AR YR HOLL FEIBL. am bris Esboniad ar y Test. Newydd yn unig. Y Dehonglydd Beirniadol ar yr Hen Destament a'r Newydd, gan y Parch. John Jones (Idrisyn) mewn pedair cyfrol, fel newydd, wedi ei rwymo mewn llian cryf 18s. Eto (hanner rhwym) 25s. Hugh Evans a'i Feib., Swyddfa'r Brython o. KING OF THE MEADOW (Brenin y Maes). A Song for Bass Voice. Yn y ddau nodiant. Geiriau Cymraega Saesneg. GAN JOHN HENRY, R.A.M. AIL ARGRAFFIAD. Is. For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE, SON & STOTT, LTD., 116, 118 6 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. Telephone 2137 Kayal.1 ..Cynhygiad Neilltuol.. i Ddarllenwyr Y BRYTHON." NID oes dim mwy hwylus a gwerthfawr na Fountain Pen da o gwneuthuriad y gellir dibynnu arno, a hynny am bris isel y gall pawb ei gyrraedd. Mae perchenogion Y BRYTHON—er mwyn eangu cylchrediad eu newyddiadur-yn cynny FOUNTAIN PEN o'r gwneuthuriad goreu guaranteed fitted with 14 carat Gold Nib, fine, medium or broad), ac yn gyfartal o ran ei werth i rai a gynhygir am brisiau llawer uwch. Dyma'r telerau :— Am 3/6 (Postal Order). Neu am 3/- a phum Coupon. „ 2/6 a deg Coupon. dltydliad y tro, ond a,, Y Coupons i gael eu tori allan o'r BRYTHON. Gwna unrhyw ddyddiad y tro, ond n: chymerir mwy na thri o'r un dyddiad. Anfoner y Ooupous a'r Postal Ofdef?ynghyda en? a chyfeiriad yr anfonydd wedi ei ysgrifennu yn eglur. Cyfeirier yr archebion 356-358 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Fountain Pen Coupon: Y BRYTHON," Ionawr 29ain, 1914