Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Xmas Gifts. O? USEFUL AND ACCEPTABLE Great Sale OF VERY RELIABLE HIGH FASHIONABLE DIømOD JEWELLEBI Saving fully 10/- in every i SPECIAL VALUE. SALE LIST POST FREE. Davies s, 30 Low Hill RAILWAY ALLOWANCES TO CUSTOMERS FROM A DISTANCE. Close to Hippodrome and Olympia. EARLY CLOSING ON WEDNESDAY AT 1. Diamond 18-ct Watch Bracelet Davies's Sale £ 11/18 Usual L35 SLIGHTLY SECOND-HAND, indistinguishable to new 18-ct. Sold Gold fashionable, latest Self-Expanding bars. Lever Watch Bracelet, surrounded with 30 bBaRrsI. LLIANT DIAMONDS, finest quality, pure white; flawless, intense fire and lustre; Highest-grade move- ment, ACCURATE TIMIST. Warranted 30 years; rare bargain will advance B12 any time. Also magni- ficent 18-ct. Diamond and Ruby Self-Expanding Watch Bracelet, fine quality Sale Price £ 13/19/ usual £30. Also Superb Diamond and EmeraldAditto; Sale price regular price £50. All warranted time- keepers. SALE PRICE ACCURATE WATCH BRACELETS. Pearl & Peridot Gold Pendant Davies's Sale Y,11191- UsuaII5 LATEST DESIGN, Beautiful Circular real Orienta PEARLS AND PERIDOT PENDANT. 1-in. diameter with pearly loop, lustrous gems, most charming jewels Also Solid 15-carat Pearl and Tourmaline Pendant, rich gems; Sale Price, £ 2/5/ usually £ 5. Also 15- Oarat Diamond and Pearls, with pearl drop; Sale Price, £ 3/19/6, originally £9. Various Diamond Jewellery Usual Price Sale Price. M DRESS STUD, Gent's Single-stone First-water DIAMOND Combina- Q 1 Q tion Pin or Stud, rare lustre, 0/xu/~ 15-carat Claw set is DIAMOND BROOCH, beautiful 15-carat, latest split bar, set with 3|flawless Diamonds in cross-over .2/19/- style Ul EARRINGS, Exquisite, DIA- ————————— MOND CLUSTERS, selected white gems, rare lustre, platinum set swing drops, 18-carat gold wire. 12/10/ Will advance £11-101- f,31 DIAMOND'WATCH BRACELET, ———————— 18-carat gold' 30 finest gems, Highest-grade Lever, full- jewelled movement Guntimist 1 Q /I Q Bargain. ■*•" AO/" M5 BROOCH, Triple DIAMOND ————————— CLUSTER, 27 large first-water flawless stones, platinum bar. Q n/l A/ 1? in. long. Will advance E27. ?0/1 v Usual £ 2/10/= Davies's Sale 25/- Gold Curb & Padlock Bracelet Fashionable massive flexible Curb and Padlock Solid Gold BRACELET, stamped evev link (the widest at the price), complete in. velvet -a.se). Also ditto at 29/6, usual 0 Also the lollowing BAR( GAINS IN BASKET" PATTERNS at 10/- reduc- tion in every E, as follows :-26/- 35 i 55/- also very fine 9-bar "Basket" Bracelet now 0 /12 /6 usual E7. Reliable and undoubted quality only. Approval. Payments. Over 200 Bracelets to elect from. GOLD BRACELETS 101- LESS IN THE 18 Ct. Diamond Engagement Rings. Usual Price. :"1W" Price. £3 DIAMOND AND SAPPHIRE Half-hoop, stylish 7-stone service 1 Q /C able claw-setting, IS-ct. JH7/ 0 SA DIAMONDS AND SAPPHIRES. 5 géms; heavy 18-ct. Half-hoop; -C 1 /(if all lustrous gems; rare bargain JL/U/_ £4: DIAMONDS, 5-stones. Half-hoop stylish claw, 18-ct. gold, double-cut £ '1 11 Ol gems; rare fire and lustre ~X/ID/" f,5 DIAMONDS, 5 first-water large lustrous gems, fine white quality heavy solid 18-ct. claw half-hoop r others at &2/10/&2/12/ and o O/C E2 /15 1. ?-'?' /0/ £ « DIAMONDS, fine 5-stone large diamonds, each gem of great beauty, heavy 18-ct. gold claw set; £ Q ft17 will advance 50/- *»« If/" M DIAMONDS, 5-stone,very lustrous gems, first water, carved stylish claw set 18-ct.; will advance &£ 0O /IJI L0G /I- se.l. £3/16/- £!1 DIAMONDS, 5-stone platinum Ooronet," half-hoop white clean iUstr o us gems, very high grade, £ ^•0Q//A1 Uc /y~ ? 'tatest design will advance £8 ?- 0/  Lady's Diamond Half-Hoop. LARGE SECOND-HAND 5-STONE SALE PRICE. DIAMOND RING, Claw-Set "CORO- NET," Latest, intense lustre, 18-ct. f Ift/ic/ and Platinum advance &9/15/- any .*C '1 iU/10/ time. Also large 3-STONE DIA. MOND "CROSS-OVER" RING; Sale Price £ 16/10/ usual £ 3. Also USUAL SQUARE CLUSTER DIAMOND RING, 5-stones Sale Price £ 14/17/- p (11 usual E28. Also very large 2-STONE 21 DIAMOND 'CROSS-OVER RING, I' White Stones; Sale Price £ 35/10/ usual E65. i SAVING 10/- IN EVERY 1. Daviess Miscellaneous Bargains. Usual Price SOLID GOLD ONLY Sale Priee. tl /-NECKLET, Diamond Out Links 10/6 20/-LOCKET, oval, engraved, hall-marked 7/6 21/-SIGNET RING (Gent's) shield, heavy. 9/6 201-LINKS, oval, engraved, hall-marked 8/11 17/-8IGNET (Lady's), shield top, strong 7/6 18 /-PIN, real Diamond centre 9/6 18/-PIN, real Diamond-centre 9/6 13-BANGLF, RING, 18-ct. wide, heavy £ 1/16/- 12-SIGNET (Gent's), 18-ct. solidjgold shield.. 18 301-BROOOH, real Diamond centre. 10/- 35/-BRACELET, stiff, wide, engraved 16/6 96-DIAMOND A Sapphire 3-stone Scarf Slide 35/- £ 10-PIN-STUD, Diamond & Sapphire Cluster.. £ 4/12 £ 9—WATCH BRACELET, Russell's Solid Gold |W Lever £3/18/- 214-BRACELET, 16-ct. band, 3 Diamonds £ 6/18/- M-WATOH BRACELET, 18-ct. Diamond pi and Rubies £ 13/18/- Heavy I L"CKY Wedding Rings 22-0ARAT PURE GOLD. Special 20/- Special. (USUALLY 27/9). AfPresentation with each Ring. DAVIES'S, 30 LOWHILL, Liverpool.
fO Bloy 0 Big y t\-A?????…
fO Blo y 0 Big y t\-A????? y Lleifiad Y Parchn. M. P. Morgan, Blaenannerch, a D. Cwyfan Hughes, B.A.,B.D., Bryndu, Môn, a gadwai gyfarfod pregethu Eglwys M.C. Laird Street, nos Sadwrn a'r Saboth di- weddaf. Caed cynulliadau da a phregethu cryf, a dawn y Gogledd mewn cyferbyniad hapus i ddawn y De. i Y Parch. D. Cwyfan Hughes a gadeiriai ym Mryndu nos Iau cyn y ddiweddaf, a Phedrog yno'n darlithio'i ddarlith felys ar Ddrych Atgof, ac yn cyfarch y cadeirydd fel hyn ar y diwedd :—- Galon Cwyfan fo'n caiiu--gaii hyder Gweinidog i'r Iesu A heulwen, heb gymylu, Gyfeirio'n deg i'w Fryn du. Dyma fo wedi gorffen ei yrfa addysg ddisglair ac yn cychwyn ei yrfa weinidogaethol fel bugail yr eglwys lle'i maged—peth go anghyffredin. Draw mi welaf ryfeddodau ydyw'r gan a'r pennill y bydd yr eglwysi'n ei chanu'n gyffredin wrth fynd ati i ddewis bugail. Ac y mae'n un o'r pregethwyr ieuainc mwya'r galw amdano drwy Fon a'r wlad ac a ddaeth i'r byd heb yr un lwv aur nac arian yn ei enau, ond i fyd y c'ledi a'r ymdrechion aled. -9- Y mae'r sawl oedd ym Mryn du yn gwran- do'r ddarlith ar Ddrych Atgof yn deall ergyd y ddau englyn a ganlyn i'r wyau :—• Y didor ysgydwadau-gadd y bag Oedd ddibwys yn ddiau 0 Fon bell i fy hen bau Ni ddirywiodd yr wyau.—■Pedrog. Yr ateb Yr Wy lar ni ddirywiodd "—o'i ys- Ei blisgyn ni thorrodd [gwyd, 'E fyiinai'r iar anfon rhodd, Wy yr awen ddeorodd.-Meirionfab. -9- Pregethwr ieuanc enillodd ben a chalon eglwys Stanley Road y Sul diweddaf oedd y Parch. Caleb Williams, y Bwlan, Llan- aelhaearn cyn hynny ac os deuaf a chryn- hodeb o bregeth y nos hyd atoch yr wythnos nesaf, a godwch hi i'ch pig ? ebe un o aelodau'r eglwys wrthyf ddoe. Gwnaf," ebe finnau, a chroeso." Ac felly hi ddaw. Cafodd yr Undeb Corawl Cymreig rihyrsal gyhoeddus yng nghapel Crosshall Street, nos Sul ddiweddaf, sef ar ol yr oedfa. Rhifai'r c6r ddeucant neu fwy ac yr oedd tua'r un nifer o dyrfa wedi aros i'w clywed a'u mwyn- hau, yn mynd tros The Vanity of Vanities. 0 Dywed y Parch. L. W. Lewis, bugail Bedyddwyr Knowsley Road, Bootle, yn Seren Gymru, mai Blwyddyn y Dadgysylltiad a fydd enw'r Cymry o hyn ymlaen ar 1914. Ond beth am yr Eglwyswyr ? Tebyg mai Blwyddyn dwyn arian Duw y byddant hwy'n ei galw. Mr. Ellis J. Griffith, K.C., A.S., oedd gwr gwadd Clwb Diwygiadol Lerpwl nos Iau, ddiweddaf. Syr Edward Russell yn y gadair ac yn rhoi gwarogaeth uchel i allu a gyrfa a ffraethineb yr aelod tros Fon ac yntau'n dilyn ag un o'r areithiau llawnaf o bwythi byw a draddododd erioed, sef i'r Mr. F. E. Smith, ac ereill o fiaenoriaid amlyca'r Wrth- blaid. Yr oedd nifer o Gymry blaenllaw'r blaid yn y cyfarfod, ac a fwynhaent (ac a ddeallent) grafiadau dyfnion a chwareus eu cydwladwr yn fwy na neb oedd yno. Un dda odiaeth honno am y parsonification of Wales a'r GarsonificaUon of Ireland- -o- Fy Nhaith i'r Amerig oedd testun darlith y Parch. W. M. Jones ym Mharkfield nos Iau ddiweddaf, yng ngwydcj, tyrfa liosog o bobl ei braidd ei hun ac ereill. Caed llywydd da'i air a hael ei rodd ym Mr. J. W. Davies, Waterloo; a mwynhawyd t'rawiadau ffraeth ac ysmala'r ddarlith, yn enwedig am y cysgu ar y llong, a'r oedfa yn y pulpud a helynt yr hot ac. yn y blaen. m m Caed rummage sale yn Ysgoldy M.C. Park- field, Birkenhead-y gyntaf un yno a thrwy ymroddiad dygn y chwiorydd, cliriwyd deunaw punt o elw, a'r prynwyr yn amlach na'r gwerthwyr os yr un. Sonnir am un yn fuan eto. ■o- Trist iawn oedd marwolaeth y cyfaill Mr. Edward Bodden, a gaed wedi boddi bore dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf yn y Mersey gerllaw'r Morpeth Dock. Efe'n frodor o dueddau Llandderfel, yn saer wrth ei grefft, yn Birkenhead ers tair blynedd ar ddeg yn aelod o eglwys M.C. Woodchurch Road; yn eiddgar iawn gyda chanu ac yn y blaen ac yn ddirgelwch i bawb hyd yma sut y daeth y diwedd. Bydd ail drengholiad arno'r wythnos nesaf. WAfraid'dweyd wrth neb o bobl Bootle mai nos Sadwrn nesaf y bydd Eisteddfod y Plant. Y mae hanes hon yn y blynyddau fu yn ddigon o sicrwydd y ceir gwledd werth ei chael yn gwrando'r un ar ddeg o gorau, y chwe pharti ar gan ystum (action song), yr un ar ddeg ar ganu hen ffasiwn a melys y penhillion telyn, a'r lleill ar adrodd ac yn y blaen. Cyfanrif y cystadleuwyr yn rhifo tri chant, a digon o waith chwynnu'n aros Dr. Caradoc Roberts, y Rhos. Daw rhestr y buddugwyr, ac ambell sylw am eu sut a'u camp, yn Y BRYTWON nesaf. Dyma wreichionen bulpud anfonwyd yma'r holl ffordd o Lundain heb oeri, sef gan Mr. R. M. Thomas, Hammersmith, allan o bregeth y Parch. Morgan'Griffith, B.A., yn Wilton Square nos Sul ddiweddaf :— "Hoffwn pan yn hogyn orwedd arJTy weirglodd i geisio canfod yr ehedydd pan glywn o yn canu mor swynol ar rawn- ddydd haf. Byddai yn amhosibl ei weled pan ddigwyddai cwmwl fod o'r tu cefn iddo ond pan giliai hwnnw, a dim ond awyr las y tu ol iddo, deuai i'r golwg yn union. Felly am gwestiynau amser, nis gellir eu gweled yn iawn hebgael tra- gwyddoldeb yn background iddynt." r A dyma un arall, gynhesed a hithau, ddaeth yma oddiwrth Mr. J. R. Roberts, Adare Terrace, Ton y pandy, ac a godwyd o bregeth Dr. Peter Price, M.A., yno'r Sul di- weddaf, mae'n debyg:- "Yr ydach chi'n canu'n ami fod drws Tri-igaredd heb ei gau.' Fuoch chi'n meddwl pam y mae o'n agored ? Wei, "ornaedrwstrugareddhebeigauam fod lesu Grist wedi tafiu ei groes rhwng y post a'r drws." Eto, fyth dyma Mr. R. J. Griffith, Primrose Road, yn anfon rhai o wreichion cyfarfod pregethu Laird Street y Sul di- weddaf Trysor pennaf dyn ydyw ei gymeriad, ac hefyd trysor pennaf Duw." 7 Y mae nefoedd ac uffern yn cychwyn ar y ddaear." Y weithred fwyaf all dyn wneud ydyw credu." Adfywiad Cyffyrddiad Duw a bywyd y byd yma." I ?- Dyma lun Mr. GraDville Bantock, awdur The Vanity of Vanities sydd i'w ganu byth- efnos i nos Sadwrn nesaf gan yrUndebCorawl. Fe'i cyfrifir ef bellach yn un o brif gerddorion y deyrnas ac er mai Sais y fo, y mae ynddo rhyw dynfa a serch cryf at y Cymry, a chan- ddo gred mawr yn eu greddf a'u galluoedd. Y mae wedi cael ei ddewis yn aelod o'r pwyllgor cenedlaethol sy'n hyrwyddo'r mud- iad i gaelColeg|Cerddoroli Gymru acymae'n achub pob cyfle i helpu'r Hen Wlad. 0 Y mae cryn awydd ac asbri drwy'r ddinas i glywed y gwaith newydd uchod, gan fe gyfeirir ato bob wythnos braidd ym mhapurau Llundain a'r wlad, ac y mae'r beirniaid yn uchel eu disgwyliad y ceir perfformiad per- ffaith gan G6r Mawr Lerpwl, i arweinydd ac aelodau yr hwn y mae'r gwaith wedi ei gyflwyno. Ac wedi caleted ymgodymu a'r gwaith, tan arweiniad Mr. Harry Evans, diau na'u siomir. Y mae ym mryd Mr. Bantock bicio yma i Lerpwl ddydd Sadwrn, i glywed y cor yn mynd dros y Vanity, a dyna fydd y waith gyntaf iddo glywed perfformio firwyth ola'i ymennydd mawr a'i gelfyddyd goeth. Dethol- ir y geiriau, megis y dywed'som o'r blaen, o Lyfr y Pregethwr, ac y mae'r geiriau ddethol- wyd yn eithaf argoel o agwedd ei feddwl. Seren soprano'r cyngerdd fydd Miss Ruth Vincent a phawb a'i clybu hi o'r blaen yng nghyngerdd y Cor hwn y llynedd, bydd yn ysfa i'w chlywed drachefn, gan y mae hi'n un o'r cantorion mwyaf swynol a chelfydd ddaw i lwyfan heddyw. Ac heblaw y hi, y mae mawr ddisgwyl am weld a chlywed y crwt Sigmund Feuermann—y fo a'i grwth yn dod i Lerpwl am y waith gyntaf, a Llundain wedi glan ddwli ar ei wefr a'i athrylith wrth drin y violin. Nos Fawrth yr wythnos hon, ymwelodd Cyfrinfa Gwynedd (Laird Street, Birkenhead) a Chyfrinfa Eryri (Liscard Road, Seacombe), a chafwyd cyfarfod da mewn gwirionedd. Y cynhulliad yn un lluosog, y rhaglen yn un flasus ac adeiladol, diih byd merfedd a gwamal a'r cwbl yn arogli o'r difrifwch liawen hwnnw sy'n fwy o fwynhad na dim. Llywyddid gan Mr. J. E. Roberts, Prif Demlydd Gwynedd, ac aelodau'r Demi honno gadwodd y cyfarfod i gyd adroddodd Mrs. Edwards, Mrs. Evan Evans, Mr. Evan Evans canodd y Misses Davies a *Loomes a Mr. J. W. Jones cyfeiliodd Miss Lizzie Roberts, a chaed pwt o anerchiad gan Mr. J. H. Jones. Rhwng deuran y rhaglen, eisteddwyd i fwyn- hau'r arlwy hael tan gamp a ddarparasai chwiorydd caredig Eryri a diolchwyd iddynt hwy a'r Temlwr ffyddlon am eu croeso cynnes. Diolchodd Mri. Robt. Jones a J. Edwards hefyd i dalentau Gwynedd am eu harlwy hwythau a chaed gair byr gan y dirwestwr pybyr a chroew hwnnw-y Parch. Lewis Edwards (W.). Y mae argoel deffroad ymysg Temlwyr Da'r cylch diolch i Dduw am newydd mor dda. o
DAU TU'R ArON. I
DAU TU'R ArON. I EGLWYS ANNIBYNNOL GROVE STREET.— Nos Saboth ddiweddaf, cafodd y Parch. D. Adams, B.A., y fraint o roddi deheulaw cym- deithas i dri ar ddeg o, bobl ieuairi c yr eglwys, yr hyn oedd yn sirioldeb mawr iddo ef a phobl ei ofal. Ar wahan i hynny,mae cryn adfywiad wedi meddiannu'r dosbarth ieuanc yn ystod y misoedd diweddaf yma, a gobeithio nad yw hyn end blaenffrwyth o'r hyn sydd i ddod eto yn y dyfodol. Mae arwyddion hefyd fod y cynhesrwydd oedd arfer a bod, yn y blyn. yddoedd a aeth heibio, rhwng Eglwysi Chatham Street a Grove Street, yn cael ei adnewyddu, drwy fod y ddau weinidog yn newid pulpudau y bore a'r hwyr y Saboth nesaf (Chwefrol laf). Gwyn fyd na bai mwy o hyn yn ein plith fel enwadati.-Aelod. "Y TANT COLL. "-Yiig Nghymdeithas Cymru Fydd Upper Parliament Street, nos Wener ddiweddaf, cafwyd darlith ar y testun anghyffredin uchod gan Mr. John Elias Owens -un o'r ychydig wyr ieuainc galluog ac ym- roddedig sydd wedi gweithio'n ddygn y blyn- yddoedd diweddaf i ddwyn y Gymdeithas uchod i'w sefyllfa lewyrchus bresennol. Cadeiriwyd gan un arall o'r gwyr ieuainc hyn, sef Mr. R. Ernest Jones, sydd eisoes wedi dringo'n uchel ym myd masnach y ddinas. Cafwyd prawf amlwg fod y darlithydd yn berchen meddwl cryf, clir, ac annibynnol, a'i fod yn ddarllenwr mawr, yn sylwedydd craff, ac yn siaradwr hyawdl. Y mae ynddo adnoddau i fod yn allu nerthol ar y llwyfan politicaidd, a gobeithio y cymer Rhydd- frydwyr y cylch yr awgrym. Fel un sydd ganddo lygad i weled, calon i deimlo, clust i glywed, a dewrder i fynegi ei brofiad yn ddifloesgni, ymddengys iddo'n ddiweddar ddarganfod fod y cydfyd mawr wedi ei fwriadu gan y Penllywydd i adseinio cyng- hanedd Cariad, Cyfiawnder, a Gwir- ionedd." Wrth fyfyrgar wrando ar guriadau'r galon ddynol, modd bynnag, sylwodd fod y gynghanedd ynlhell o fod yn gyflawn-fod tant coll mewn gwleidyddiaeth (cartrefol a thramor), ym myd llafur, cymdeithas, a clirefydd--fod cariad cyfiawnder, a gwir- ionedd yn absennol i ormod graddau. A baich ei ddarlith oedd dangos y tant coll yn y cyfeiriadau crybwylledig. Gwnaeth hynny gyda grym ac eofndra. Condemniodd y gwastraff diesgus ar arfau milwrol yn llym, yn enwedig mewn gwledydd Crist- nogol," ac ar gyfnod heddwch. Ceid tant coll ym myd llafur, trwy fod y meistr yn rhy fynych yn gwasgu gormod ar y gwas mewn cymdeithas, yr oedd y bonheddig yn anwybyddu hawliau'r gwreng i raddau rhy helaeth a chan wahaniaethu rhwng crefydd a Christnogaeth, gwelai fod yr eglwys wedi ymddieithrio'n rhy bell oddiwrth egwyddor- i on ei Sylfaenydd yn ei Bregeth ar y Mvnvdd. Datganodd ei ffydd yn Ilwyddiant terfynol y werin i adfqr y tant coll yng nghyng- hanedd y byd, ond iddi gael ei harwain gan ddynion Cristaidd i osod delfrydau teilwng o'i fiaen. Caed ymddiddan diddorol ar derfyn y ddarlith, a chyflwynwyd pleidlais o ddiolch gwresog i'r darlithydd ieuanc talentog gan y Mri. R. Lloyd Phillips, J. J. Williams, a J. J. Thomas. Mae'r darlithoedd achlysurol hyn yn rhwym o wneud lies i'r nifer liosog o'r ddau ryw sy'n eu mynycliu, yn enwedig darlith fel yr un y cyfeirir ati uchod, oblegid gorfodant rai i feddwl a myfyrio. YR HEN LOMBARD ANNWYL !—Mr. Gol., yr ydym yn derbyn eich papur yma'n rheol- aidd; ac wedi gweld hanes Mr. H. Hughes, blaenor gynt yn Newsham Park, yr oedd yn dda iawn gennyf ei ddarllen. Nid oeddwn yn gwybod dim o hanes Mr. Hughes ers blyn- yddau, ond yn ei adnabod yn dda pan yn cydchwarae yn fachgen gyda fy mrawd. Mae yr llawenydd calon gennyf ddeall ei fod wedi bod mor ffyddlon a gwasanaethgar gyda Theyrnas y Gwaredwr yn Lombard Street, ac hefyd yn Newsham Park. Sylw arall oedd gan y parchus frawd yn eich papur ei fod yn meddwl mai un, a dim ond un, oedd yn fyw yn awr oedd yn dechreu yr achos bach yn Lombard Street yn nhy'r hen chwaer Mrs. Griffiths, sef Mr. Samuel Williams." Carwn ddweyd ei fod yn cyfeiliorni. Y mae un yn byw yn Nefyn, sef Mrs. Williams, gwraig y fferyllydd, a Mrs. W. Jones, sy'n byw yn agos i'r brawd sy'n ysgrifennu o Ruddlan, sef merch i'r Parch. W. Roberts, Amlwch, gynt; a fy hunan yn Oldham yma. Cofiaf yn dda am yr ysgol yn nhy Mrs. Griffiths-y dynion a'r plant yn cyfarfod yn y parlwr, a dosbarth y merched o gylch y tan yn y gegin, a Mr. S. Williams yn athro arnom. Mae'r cwbl yn fyw iawn yn fy meddwl. Euthum i'r ysgol bach yn deulu o'r cychwyn, a balch iawn oeddym cael hebgor cerdded yr holl ffordd o Whitefield i gapel Netherfield Road. Mae'n dda gennyf wybod am Mr. Samuel Williams. Carwn yn fawr cael ysgwyd llaw ag ef. A. (WILLIAMS) HANNAM. Coppice, Oldham. GRIFFITH ELLIS.-Wedi gorffen darllen pregeth-goffa'r Parch. John Hughes, M.A., yn Nhrysorfa Ionawr, daeth i'm cof stori am y gwr annwyl uchod, sydd yn esbonio rhyw- faint ar ddirgelwch ei lwyddiant fel gweinidog ar eglwys fawr am fwy na phymtheng mlyn- edd ar hugain. Dychwelyd yr oeddwn gyda hen gyfaill o seremoni dadorchuddio cerf- ddelw'r Dr.Edwards sydd o flaen Coleg yBala. Yr oedd prif ddynion y Corff yno, a Griffith Ellis yn eu mysg, yn ddistaw ddigon oherwydd ei waeledd. Yn y dorf ar fiordd i'r dref gyda hen gyfaill, daeth Harp o ddyn talgryf i fyny a ni, a chyfarchai fy nghyfaill ef gyda thipyn o goegni.g" Beth yr wyt ti, Edward, a thithau yn Annibynwr mor selog, yn ei wneud ynghanol criw o Fethodistiaid ? Wyt ti wedi troi dy got ? Wel, naddo Annibynwr ydw i ac Annibynwr fydd-a i, mi ellwch fod yn siwr ond pan oeddwn i yn Bootle yna ugain mlynedd yn ol, yn hogyn digon gwirion, i gapel Griffith Ellis yr eis i." Sut felly ? Na hitiweh wyddoch chwi pwy ydi'r dyn tryma yn y Sasiwn yma ? Pwy ? Griffith Ellis o ddigon." Pam felly ? "Mi ddeuda i chi. Ar ol i mi ymuno a. Stanley Road, mi fum yn ffyddlon am gryn spel, ac yn dilyn y moddion yn y capel yn ddifwlch. Ond ymhen amser, fe ddechreuais oeri a mynd yn ddiofal ac o fynd yn ddiofal euthum i esgeuluso'r capel a'r Ysgol Sul. Y diwedd fu, i mi grwydro i'r wlad bell, ac eis cyn galeted a'r graig. Bum am dair blynedd heb groesi trothwy na chapel nac eglwys o fath yn y byd, a gellwch ddych- mygu sut yr oedd hi arna i. Beth wnaeth Griffith Ellis ? roddodd o fi i fwy ? Na 'choelia i fawr 'Dawodd o ddim llonydd i mi'r holl amser. Yr oedd ar fy ol i ymhob man. Ceisiwpfy ngoreu i roi'r slip iddo pan welwn i o o bell; ond 'doedd dim posibl ei gytio i ffwrdd yr oedd ar fy ol fel milgi cryfs yn ei feingefn, a'r diwedd fu i mi fynd yn ol i'r eglwys, ac yno y bum i nes i mi ddychwelyd yn ol i'r wlad yma." Da iawn, wir ond yn ol i'r wlad y ma. sut yr ydech chi'n gwneud Griffith Ellis y dyn tryma' yn y Sasiwn yma ? 'Dydw i ddim yn dweyd mai fo ydi'r pregethwr mwya', cofiwch. Pwnc arall ydi hwnnw. Ond pwy arall o'r gwyr mawr yma fuasai yn dod ar ol ffwl gwyllt fel oeddwn i, am dair blynedd, ac yn cau fy rhoi i fyny, fel y gwnaeth Griffith Ellis ? 0 ie, fo ydi'r tryma' ohonyn' nhw i gyd." Hwyrach fod y brawd twymgalon yn agos i'w le.-Tom Anwyl. Y DIWEDDAR MR. WM. ROBERTS, SEL- BORNE STREET.—Golygfa eithriadol a welwyd yng ngorsaf Lima Street am 8.30 bore dydd Sadwrn diweddaf, pryd yr oedd tyrfa liosog o gyfeillion wedi ymgynnull i dalu'r gymwynas olaf i weddillion y diweddar Mr. Wm. Roberts, oedd gyda'i fasnach hyd chwech yn yr hwyr y dydd Sadwrn blaen or ol, ond a gymrwyd yn wael o'r pneumonia, ac a fu farw yn gynrar bore dydd lau, ac o fewn wythnos o amser yr oedd wedi ei gladdu ym Mynwent Eglwys y Plwyf, yn Halkyn, Sir Fflint Gwasanaethwyd yn yr Eglyws gan y Ficer, y Parch. J. F. Rees, a gwnaed sylwadau coffhaol pwrpasol amdano ar lan y bedd gan y Parch. R. R. Hughes, B.A., Liverpool. Yr oedd ei gyfeillion wedi eu syfrdanu gan yr amgylchiad sydyn a phrudd, ac y mae galar dwfn ar ei ol, yn enwedig yn Eglwys Chatham Street, lie y bu'n aelod ffyddlon a gweithgar am lawer iawn o fiynyddoedd. O'r Arglwydd y daeth hyn a hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni." Ganwyd Mr. Ro- berts ym mhlwyf Llangwyfan, Sir Ddinbych, yn 1864, ac er fod ei rieni yn Eglwyswyr, ymunodd ef ag Eglwys y Methodistiaid Cal- finaidd yn Chatham Street ar ei ddyfodiad i Liverpool, yn fachgen tuag un ar bymtheg oed. Bu yng ngwasanaeth y Mri. Thomas Jones & Co., Ltd., o'r dechreu hyd nes y dechreuodd ef a'i ddau ■' frawd fasnach eu hunain, fel Roberts Brothers, Tea Merchants, yn 1894. Fe fu fyw bywyd pur a syml, ac yr oedd yn hynod o hael at bob achos da. Yr oedd Mr. Wm. Roberts yn gymeriad hynaws a llednais, yn weithiwr distaw a thrwyadl, yn gyfaill caredig a siriol, ac yn Gristion cywir a ffyddlon. Y mae colled fawr ar ei ol, yn yr Eglwys, ac yn enwedig yn yr Ysgol Sul, lie y bu'n athro rhagorol am amssr maith, ar ddosbarth o bobl ieuainc, y rhai oedd yn synied yn uchel iawn amdano. Nid oedd yn hoffi bod yn y cyhoedd, ond yn caru'r encilion, a phob amser yn gwneud y gwaith a ym- ddiriedid iddo yn hollol ddidrwst a didram- I gwydd. Heddweh i'w Iwch.—J..J.B. Pennill a wnaed gan Ap Gwilym, aelod o'i ddosbarth :— Mor chwith ydyw meddwl fod Roberts, ein ffrynd, A'p hathro caredig a hoff, wedi mynd, Mor ffyddlon i'r dosbarth bob amser oedd e', Mor fawr yw y bwlch, ac mor wag yw ei le Ynghanol ein dagrau erfyniwn bob un Am gymorth i ddilyn ei gamre'n gytun A disgwyl 'rym eto gydgwrddyd mewn hedd, Fel dosbarth, mewn gwynfyd, tu arall i'r bedd.
I0 Chwarel a Ghlogwyn.
0 Chwarel a Ghlogwyn. Sef o Ddyffryn Nantlle. CAN YSBRYD GLASYNYS. HWDIWCH.Nfeddai Plant Ysgol Sij Pen y groes wrth estyn anrheg ddel i'w hathro Mr. D. Davies, B.A. ar achlysur ei briodas. Estynwyd hwy gan Miss Gwladys Williams, Nantlle, ar ran ei chyd-ysgolorion. pg YR HEN AMSER GYNT.—Yng Nghym- deithas Bethel, Pen y groes, bu Mawrthfab ac R. R. Jones, Dafarn, yn cadw ei haelodau'n ddiddig a llawen wrth draethu am gyfnod mebyd, a dyna felys yw troedio'n ol y ffordd honno, ac fel y mae dyn yn heneiddio ant yn felysach fyth. Cymerwyd v gadair gan y Parch. W. E. Williams. A I; DARLUN TRIST.-Chwith iawn oedd priddo hen gyfaill cywir y Sadwrn diweddaf ym Mynwent Bryn rodyn, a bu amgylchiadau ei farwolaeth yn drist iawn. Trigai'r gwr car- edig, Mr. Wm. Hughes, yng Nglasfor, Groes- lon, a gweithiai fel peiriannydd yn Chwarel Pen yr orsedd, gan aros mewn llety gweithwyr yn y chwarel ar hyd yr wythnos. Gwyr y sawl a'i hadnabu mor llesg ei gam oedd era amser maith bellach, a chawsai lawer o gared- igrwydd gan swyddogion a chydweithwyr ar gyfrif hynny. Yn ol ei arfer, cododd yn fore ddydd Mawrth, a chyn i'w gyd-letywr allu estyn ond ychydig gymorth iddo, trengodd yn dawel, dawel. Cymeriad gloew a rhagorol oedd, yn barchus mewn byd a betws, yn fiaenor ffyddlon ym Mryn rodyn, ac yn Grist- ion o'r iawn ryw. Yr hyn wna'i dranc yn fwy trist yw iddo adael priod wanaidd ei hiechyd, a merch rinweddol, ddysgedig, wedi tyfu i fyny, ac yn analluog ers blynyddau i symud Haw na throed a dyna loes ai trwom wrth ei gweled yn gollwng ei dagrau'n llyn mewn hiraeth am dad tyner, a hithau, druan fach, yn methu eu sychu. Cafodd angladd tywysog, a chymerwyd rhan ynddo gan un o weinidogion y cylch. Oher- wydd yr amgylchiadau eithriadol, rhed eyd- ymdeimlad yr ardaloedd at ei weddw a'i ferch, a danghoswyd hynny mewn modd sylweddol ddydd ei arwyl. Nawdd y Nef f o dros y ddwy. CYRN ARIAN NA.N-TLL-E.-Sibrydir fod Cyrn Arian Nantlle flys ymuno a'r tiriog. aethwyr. A fydd hynny'n rhyw fantais, tybed ? Clywsom y bydd yn lies ariannol iddynt. Yr un arweinydd sydd iddynt, sef Mr. B. H. Jones,—euphonydd heb ei ail. DARLITH.-Darlith felys gafwyd gan Mr. G. T. Roberts, B.A., Caeronwy, yn Festri Baladeulyn nos Tau, ar Emyhyddiaeth Gym* raeg. Llywyddwyd gan y Parch. M. Williams,