Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

yn YNYS HIR.I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

yn YNYS HIR. I [Beirnicâd: y Parch. EMRYS JAMES, Pont y pridd Dr. D. JAMES (Defynnog), Treherbert a Mr. TOM JOHN, M.A., Pen y graig.] Y FEIRNIAD AETH. 1—Cwmni Maesteg (;< Beddau'r Proffwydi") -Er yn rhy ddijTuu ar brydiau, caed gan- ddynt berfformiad gwir dda, ond collent mewn manylion pwysig yn eu hymagweddiad a'u trefniadau ar y llwyfan. Dylid ystyriod pob symudiad yn bwysig ac y mae yn anhebgorol i bob actiwr gofio'r gynulleidfa, a hynny heb ddangos ei fod yn ymwybodol o bresenoldeb y cyfryw. Wedi'r oil, er mwyn adloniant ac adeiladaeth y gynulleidfa y chwaraeir a bai mawr yw unrhyw ymyriad fyddo'n cuddio actiwr gweithredol o olwg y gwrandawyr. Gwnaed hyn yn barhaus gan y Cwmni hyn, a difrodwyd effaith un olygfa bwysig o'r herwydd. Yng ngolygfa y tloty, eisteddai merch a'i chefn yn gwmwl arnom, gan guddio yn llwyr y ddau gymeriad oedd yn cyd-ymddiddan ar y pryd. Yr oedd yn ollyngdod mawr i'r holl edrychwyr pan aeth y ddynes hon allan. Amhosibl fyddai'r fath ddiffyg mewn chwaraedy cydnabyddedig. Yn yr Act olaf eto.eisteddoddHuw Bennett yn union o flaen y claf gorweddiog, Robert William ac ni welsom wyneb yr olaf am ysbaidhir. Er cystal y porfformiad drwyddo, cawsom o hyd yr argraff mai ceisio cofio ac adrodd eu rhannau yr oedd y chwaraewyr, "yn He ymgolli yn ddigadwyn yn eu gwaith. Dynwared yr oeddynt, yn lie byw eu rhannau. Amlwg oedd hyn yn yr olygfa gyntaf,- petruster ac ansicrwydd yn anafu naturioldeb y cyflead a gwan oedd ymweliad yr hedd- geidwad a'r tir-geidwad. Fodd bynnag, dadebrodd y Cwmni wrth fynd rhagddynt, a rhoddwyd i ni well awyrgylch. Rhaid cyfeirio at Huw Bennett fel un o dywysogion y gystadleuaeth odidog hon 'ac yng nghyf- Iwyniad cyffredinol y ddrama, haedda'r Cwmni ganmoliaeth uchel. Mwy o sylw i anylion sydd eisieu arnynt i berffeithio'r ') erfformiad. 2-Cqvmni Gwaelod y Garth (" Asgre Lan"). Dyma gwrnni ardderchog, yn deall rheolau'r llwvfan yn dda a chyda gwell manteision allanol, diameu y cawsem effeithiolaeh per- fformiad fyth. Y maent yn batrwm i'r Cwmniau Cymreig mewn ffyddlondeb i an- hebgorion y llwyfan. Heb os, dyma'r ddrama fwyaf gorffenedig. o'r cwbl. Amlwg yw fod ei hawdur yn deall celf y llwyfan. Eto, nid yn y ddrama hon y ceir y cymeriadau an hawddaf a gryn dipyn. Y ddau gymeriad anhawddaf ynddi yw Mari Huws a'r hen weinidog, gan eu bod yn gorfod cynrychioli cynifer o agweddau a theimladau gwahanol. Cymeriad go hawdd ei bortreu yw Gruffudd Huws, a safbwynt yr actiwr. Un darlun di- gyfnewid ydyw—yr hen amaethwr diddig a diofal. Gwan oedd Mari Huws a Gwen Evans -hawddy gellid gwella ar lawer pwyslais ac ystum o'u heiddo. Cawsom ferched amgen- ach o lawer yn y cwmnloedd ereill. Ond un ddedfryd sydd gennym am y gweinidog—per- ffaith, a thaflodd hudoliaeth hyfryd rhyfeddol dros yr holl berfformiad. Gellid hefyd awgrymu gwelliantau yng ngolygfa yr ar- werthiant. Yr oedd Gruffudd Huws, Morus Huws, a'r doctor yn odidog iawn. Yng nghyflwyniad y ddrama, perfformiad meistrol- gar oedd hwn-rhoi o'r effeithiau yn an- -wrthwynebol yn eu dylanwad arnom, er fod y diffygion a nodwyd yn amlwg ddigon. 3—Cwmni Tylorstown ("Beddau'r Pro- iiwydi ").-Perfformipd da gwell rheolaeth ar fanylion allanol y llwyfan na Chwmni Maesteg. Caed gwell agoriad o lawer. Yr oedd pob siaradwr hefyd yn y golwg o hyd, a'r gwahanol symudiadau yn naturiol a di- dramsrwvdd. Gwnaeth y merched eu gwaith I yn odidog, yn enwedig Elin. Un o set dis- gleiriaf yr ymgyrch oedd hi. Amhosibl oedd darganfod gwall arni. Nid oedd Emrys agos cystal a'i wrthwynebydd o Faesteg. Rhy frysiog ydoedd, yn Uyncu ei eiriau, a'i barabl- iad yn hynod aneglur ac aneffeithiol ar bryd- iau. Bu'r Cwmni hwn yn ddigon anffodus i andwyo'n llwyr yr olygfa olaf,lle'r ymddengys yr hen wraig lesg i groesawu Emrys. Y mae hon i ymdaflu i'r llwyfan yn annisgwyliadwy i'r lleill ond bu yn hir cyn dod, ac wele'r cwmni oil yn edrych tua'r drws mewn dis- gwyliad mud. Lladdwyd yr effaith yn llwyr. Ar y cyfan, perfformiad teilwng iawn oedd hwn. 4-Cuimni Aberaman (" Dic ShonDafydd ") -Perfformiad go deilwng ar y oyfan. Yr oedd digon o fywyd ynddo, a dweyd y lleiaf, ond yr oedd yn ddiffygiol mewn celf- yddyd. Tuedd yr oil o'r cymeriadau oedd gorwneud eu rhannau, a thorrwyd yn fynych rai o reolau elfennol y llwyfan—siarad a'u hwynebau at gefn y llwyfan, cuddio ei gilydd, etc. Gwnaeth Dic ei waith yn dda iawn, er mae yn amlwg mai ymgeisio at effaith yr oedd yn fynych. Naturiol iawn > oedd ei gyfathrach ag Angharad ym mharlwr y fonesig honno. Ond eisteddodd yntau rhyngom a'i fam yn y bwthyn, ac nis gwelsom hi hyd nes iddo godi. Aeth y crydd at ein calon gan mor naturiol yr oedd. Aeth ami gymdeithas brodyr o'r un grefft yn y wlad heb i ni gofio llwybr y beirniad o gwbl. Haedda John Davies glod hefyd, ond rhy ddof oedd ef ar brydiau. Er nad oedd hi'n anhebgorol i'r ddrama, godidog oedd y ferch fach ganodd y dyriau a'r tribannau telyn mor gywrain ac effeithiol. Mwy o arfer sydd eisieu ar y Cwmni hwn. 5—Cwmni Trecynon ("Eluned Gwyn Owen ").—Dyna gwmni uchraddol, yn ddis- glair o allu, ond heb dalu sylw manwl i anhebgorion y llwyfan ac yr oedd yma rai cymeriadau anodd iawn i'w cyfleu yn effeith- iol. Fodd bynnag, o safbwynt yr actio, aeth bron yr oil ohonynt drwy eu gwaith yn hynod effeithiol. Da iawn oedd y crwydryn, a Scriw a'i fab, er mai gwan oedd gwawdiaith yr olaf. Dynwaredwyd y meddwyn yn dda gan Ifan Gwyn Owen. Ond gwan oedd yr olygfa lie y clyw Eluned am farwolaeth ei phriod ar faes y frwydr. Llewygodd fel peiriant, a gwnaeth yr oil fel un wedi ei dirwyn i'r gwaith. Dadebrai o hyd gyda chysondeb rheolaidd, fel pe'n disgwyl ei chyfle i siarad, a siaradai'n hollol rydd pan ddelai ei thro. Dylai fod mwy o amser rhwng un dedebriad a'r llall, a'r brawddegau yn floesg a thoredig. Ond y mae gennym gy- huddiad pwysicach yn erbyn y cwmni hwn. Y cwmni galluog hwn a gyflawnodd drosedd dyfnaf yr ornest mewn ymagweddiad. Ym- ddengys Owen Gwyn Owen, llencyn o yswain gwledig, mewn diwyg filwrol, yn chwilio am ei nith fechan. Wele ugain mlynedd yn diflannu, ac Owen Gwyn Owen yn ymddangos drachefn heb unrhyw gyfnewidiad allanol, mor ifanc ag erioed, a'r un ddiwyg amdano. Anodd yw synied am esgeulusdod mwy an- faddeuol ar lwyfan chwaraedy. Eto, ar aelwyd Bodeurog, wele'r liell gwmni yn eistedd a'u cefnau at y tan. Pe baent o gylch y bwrdd, popeth yn dda. Ond na, teulu'r fferm mewn cydymddiddan fin hwyr sydd yma, a'r mab yn trefnu offer gwaith ar* gyfer y bore. Geilw ymwelwyr ond gwa- hoddir yr oil ohonynt i eistedd—a'u cefnau at y tan Dylasent eistedd yn ddau gylch wrth y tan, yn hanner-wynebu'r gynulleidfa. Gresyu oedd i'r cwmni hwn ddifetha ei gyfle gyda'r fath ddiffygion anffodus oblegid cyfuniad nerthol ydyw. Boed diwygiad, a bydd ei ymddanghosiad yn ofid i rywrai ar faes cystadleuaeth. 6—-Cwmni Treorchy, (" Jack y Bachgen Drwg ").-Dyma gyfuniad o actwy^r peni- gamp. Er anhawdded y prif gymeriadau, cyflawnodd pob chwaraeydd'ei ran yn odidog iawn. Cawsom yma awyrgylch y peth a fwriadwyd. Ni roddodd yr un chwaraeydd i ni yr argraff mai efelychu yr oedd. Cyflwyn- wyd i ni fywyd pob agwedd. Gwoithiwyd pob effaith allan i'w uchafbwynt, heb or- wneud dim. Perfformiad rhyfeddol ydoedd, yn enwedig pan gofiom nad dyma gylch arferol aelodau'r cwmni. Ardderchog oedd Henry a Maria a John bach a thoddodd ein calon yn llyn, a chalon y gynulleidfa hefyd, gan mor najajiol a bj'w y portread. Yr oedd Jack yn ardderchog yn yr oil o'i helyntion— yn ei ddiniweidrwydd gwladaidd, yn ei lwyddiant, ei adfyd, ei afradlonedd, a'i ddych- weliad y tafarnwr fel efe ei hun ac Ann a Shan yn dwyn arogl grug ac eithin Sir Gar yn gawod i'r llwyfan. A thywysog yn ei waith (un o'r goreuon a welsom ar lwyfan y chwaraedy) oedd y llithiwr meddw a bradus yn y coler uchel. Hwyrach fod gormod o bollter rhwng yr argraff cyntaf a'r ail o John mewn cyn lleied o amser. Tyfodd yn. ddyn braidd yn sydyn. A doniol oedd gweled pobl Sir Gar a John ym Morgannwg, yn rhodio Q flaen yr un lien. Dyna wendid y perfformiad. Dylesid defnyddio lien arall, yn dynodi stryd, pan gyrhaeddodd John y dref ym Morgan- nwg. Eto, cofiwn anfanteision yr ystafell ac hwyrach mai nid y cwmni sydd yn gyfrifol am y gwall ond andwyodd hyn naturioldeb y peth i raddau helaeth. Fodd bynnag, mor fyw a chyffrous oedd yr actio fel y diarfogwyd ein beirniadaeth yn llwyr a dyna'r dystiol- aeth uchaf posibl i'r chwaraewyr. Syfrdan- wyd y gynulleidfa yn llwyr gan y perfformiad meistrolgar hwn. Nid oes amlieuaetli am safle'r cwmni yn y gystadleuaeth. 7-Cwmni Ton Pentre (" Enoc Huws ").— Perfformiad gofalus a glan, nemor byth yn tramgwyddo gofynion y Ilwyfan. Ni chaed yma gyffredinedd nac arucheledd pendant chwaith. Mae'n amlwg fod pob osgo a phwyslais o dan ddisgyblaeth gynnil, a'r oil wedi eu h-astudio yn ofalus a chodwyd ni yn gaeth i edmygedd o'r gofal hwn, yr hyn a ddengys ddiffyg y chwaraead. Celfyddyd ac nid bywyd ydoedd, yn peri fod y portread yn fusgrell a dijaini. Y mae trefniant y ddrama yn cymell hyn i raddau pell—ymddiddanion meithion rhwng dau, ac ymsonau hirwyntog. Eto y mae yma ddigon o gyfleustra i alluoedd disglair end ni chododd y perfformiad cyffredinol i'r uchelion, er i ni gael ambell enghraifft unigol o actio ardderchog. -Yr oedd Marged yn dda iawn, a Mrs. Denman mor hyawdl ac awdurdodol ag a hawlid iddi fod, end yn ymddangos yn rhy ifanc fel gwraig i'w chydymaith addfed, ac fel mam i bump o blant. Yr oedd Tomos Bartley yn odidog, ac yn un o feistriaid y gystadleuaeth. Gwan oedd golygfa y briodas, lie y cwyd yr hen Americanwr i ddadlennu anfadrwydd gorffennol Capten Trefor. Ni chafwyd yr effaith a allid, o gryn dipyn, er i'r Capten ddeffro'r wreichionen gyda'i air a'i weithred olaf. Perfformiad gorffenedig, end yn fyr o'r peth byw sydd yn fwy na chelf a chabol. Dyma'n dyfarniad.-Y wobr gyntaf (£15) —Treorchy; yr ail wobr (EIO)-Gwaelod y Garth; y drydedd wobr( £ 5) i'w rhannu rhwng Ton Pentre a Tylorstawn.-Ar air a chyd- wybod, D. EMRYS JAMES } Beiriiiaid. TOM JOHN, M.A. J-Beirniaid. DEFY LNNOG. -0

I O'R BALA. I

MINION MENAI.

David Gittins Goodwin, I

Gyda'r Clawdd. I

Advertising