Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
-1 Dyddiadur, I
1 Dyddiadur, CHWEFROL -Darlith y Gymdeithas Genedlaethol I-Ei.steddfod y Plant yn Booth St 18-Cyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol 14—Cyngerdd Undebol y Band of Hope 122-Oyfurfod Pregethu Lord Duncan Street 28—Cyngerdd Gwyl Ddewi yn Holdsworth Hali Cenhadon y Sul Nesaf. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Moss SIDE—10.30 a 6.30, G P Wiiliams, Wyddgrug PENDLETON—10.30, R R Parry 6, Robert Williams HEYWOOD STREET—10-30, R Williams 6, E W Roberts HIGHER AKDWICK—10.30, E W Roberts 6, R R Parry LEIGH-10-30, H Jones, 6, J S Roberts FABXWORTH—2.30, J S Roberts 6, G Tibbot EARLESTOWS—10.30 a 5.45, WARRINGTON—10.30 a 6, T J Williams, Rock Ferry BIAOKBTON— EGLWYS UNDEBOL ECCLES-ll a 6.30. J M Williams; YR ANNIBYNWYR CJHOBLTON ROAD—10.30, R M Edmunds 6.15 M Llewelyn BOOTH STREET—10.30, M Llewelyn, 6-15,R M Edmunds Llanbedrog LD DUNCAN ST., SALFOBD—10-30 a 6-15, T C Jones QUEEN'S ROAD—10-30 a 6-15,'G S Griffith, Llangollen HOLWNWOOD—10.30, a 6.15, R Eames WEABTE—10.45 a 6, Y WESLEAID DEWI SANT-10.80, A LI Hughes 8, J S Williams HOREB—10.30, Cartrefol, 6, J Roger Jones SlON—10.30, a 6, Charles Jones, Bangor BEULAH-2-30, J RogerJones, 6, Cartrefol OALFArJA-IO.30, J Roger Jones 6, Cartrefol EceiES—10.30, Cartrefol ,6.30, A Lloyd Hughes Y BEDYDDWYR UP. MEDLOCK ST.—10.30, a 6, J H Hughes LONGSIGHT-10.30 a 6.30, ROBIN'S LANE. SUTTON—10.30 a 5.30 COLOFN Y CYFRIN. ifjRO'72 HEN LANCIA U.Nos Sadwrn, eynhaiiodd Hen Lanciau yr achos sydd ar hyr o bryd yn Grey Street gyfarfod anarferol o hwyliog a lliosog ei gymilleidfa. Y cadeirydd oedd Mr. James Williams. Caed amrywiaeth o ganu, adrodd, chwaraeawd, ymgom, etc. Y personau mwyaf amlwg oedd y Mri. David Owen, T. Thomas, James Jones, G. S. Jones. Darparwyd te a theisenau tatws ynglyn a'r cyfarfod. Eiddigedda y chwiorydd am Iwyddiant y llanciau, a bwriadant hwythau ragori'n fuan. Ymdrech i gynhyddu Cronfa Ariannol y Capel newydd oedd hyn, a chaed elw da. Mae'r capel newydd yn Victoria Park yn dra gorffenedig oddiallan, a pharatoir yn awr at .gael y goleu trydan oddifewn, ond ym mis Ebrill yr agorir ef. Bu'r Parch. E. Wyri Roberts, Heywood Street, a gweinidog yr eglwys uchod yn Grey Street, yn darlithio ar Freuddwydion, i gymdeithas lenyddol y lie olaf. Mwynhawyd y ddarlith yn fawr. Da gan bawb am adferiad Mr. Wyn Roberts o'i afiechyd. DISGWYLIAD BOOTH STREET.-Nos Sadwrn nesaf, mae Eisteddfod y Plant yjig nghapel Annibynwyr Booth. Street. Mae rhagolwg am gyfarfod da, pan ystyriu-n fod tros gant o gystadlenwyr, a bydd tri chor yn ymgais am ganu The Bonnie Harvest Moon." Nodwedd arbennig y cyfarfod hwn ydyw fod y Saeson yn cymeryd rhan amlwg yn y eystadlu. Dichon y buasai y lies yn fwy petase holl blant y Cymry o bob enwad yn gwneud mwy at yr Eisteddfod hon, ac yna gael un anenwadol a chyffredinol. EOIN DI R WEST. —Da gweled fod gan holl blant y cylchoedd perthynol i'r Gobeith- luoedd gyngerdd o'r eiddynt eu hunain y Sadwrn dilynol, Ionawr 14eg, yn y Chorlton Town Hall. Mae hwn yn symudiad newydd, ac fe ddylai gael ein cefnogaeth oreu. Bydd plant y Gobeithluoedd yn cymeryd rhan yn y cyngerdd yn adrannau, a chyda'i gilydd, a threfnir unawdau, dadleuon, adroddiadan, caneuon ystum ac amryw bethau ereill dan lywyddiaeth Mr. R. H. Rogers, Stockport. Trwy'r cyngerdd hwn, ceisir meithrin mwy o undeb a diddordeb yn y gwahanol adrannau, a bydd plant o'r lleoedd hyn yn cymeryd rhan o'r gwaith Moss Side, Pendleton, Heywood Street, Ardwick, Gore Street, Hardman Street, Weaste, Lord Duncan Street, Booth Street, a, Stockport. BLODAU PENDLETON.-Daeth -rl-iag- len newydd Cymdeithas G-refyddol Gwyr Ieuainc Pendleton i law. Prif waith y cyfar- fodvdd-ar nawn Sul y misoedd nesaf fydd ymdrin ar Yr Eglwys a'r Oes," Beth yw Iachawdwriaeth ? Cristionogaeth "A allwn garu ein gelynion ? Beth yw gwir neges yr Eglwys ?" A raid i fasnach fod yri groes i egwyddorion Cristnogol er mwyn llwyddo ? Mae dau beth amlwg yn ail- rhydedd mawr i'r gymdeithas hon ei pharhad ffyddlon a chyson, a'i thestynau cryfion a newydd. ANWYLYD EI WLAD. Tom Ellis" fydd testyn darlith y gymdeithas Ganedl- aethol nos Wener a'r Parch. Robert Will- iams, un o Feirion, fydd y darlithydd. Dylai'r ddarlith hon fod yn un gymeradwy iawn, oblegid adnabyddai llawer ohonomef yn bersonol, a bu yma'n annerch a darlithio. Rhyfedd gymaint o enwau roddwyd arno, ond y tlysaf o'r oil oedd Pet y werin."
1-10 Sir Ann Griffiths. !
-1 0 Sir Ann Griffiths. LTDANFYLLIN.—- Eisteddfod Llator y cmn.— Daeth nifer fawr ynghyd i'r cyfarfod uchod nos Wener cyn y ddiweddaf, a chymerid diddordeb neilltuol iawn yn y cystadleuon. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr. E. Hughes, Llwydiarth Hall; ac efe'n flaenor Methodist parchus iawn yn ei blwyf, rhoddwyd croeso inawr iddo pan gododd i annerch y cyfarfod, a chafwyd ymadroddion synhwyrol a gwerth- fawr ganddo. Bu talentau llawer Sir yn amlwg yn y cwrdd. Cloriannwyd gan y boneddigion canlynol :—y Parch. Owen Jones Llanwddyn Dr. T. Davies, G.T.S.C., Ysgol y Sir, Llanfyllin Mason Lewys, Nant y meirchied David Davies, L. C & M. Bank Louis Jones, cyfreithiwr, etc. Enillwyd y prif wobrwyon gan y rhain :—Unawd soprano Miss Morris a Miss Jones unawd tenor, Edward Hughes llun buwch, Mr. Morris a W. Jones canu penhillion, Edwin Rowlands canu'r organ geg, W. Roberts, Pant adrodd, Miss Williams, Waun canu i blant, Bachgen Bach yr Hafod a phlant Cwm; adrodd i blant, Bachgen yr Hafod, a Jennie a Barbara (Cwm). Wythawd, ail barti Llawr y ewm. Arweiniwyd yn ddeheuig gan y gweinidog, y Parch. O. H. Davies, ac efe hefyd gyfeiliodd. Cafwyd hwyl fawr ar lawer peth, ac y mae dymuniad cryf am gyfarfod arall cyn diwedd ftymor. ■■
Cymry Amlwg.
Cymry Amlwg. 9-Syr Edward Anwyl. I UN o'r dynion mwyaf amlochrog ei dalentau a fedd ein cenedl yw Syr Edward-Anwyl. Aiff drwy swrn anferth o waith caled gyda rhwydd- ineb, a hwnnw'n waith tra amryvviol. Lleinw dyrfa o swyddau cyfrifol, ac ni chaiff neb le i achwyn ei fod yn dal unrhyw swydd nad yw hefyd yn ffyddlon i gyflawni ei gwaith. Yn ddiweddar, dethlid priodas aur ei rieni, yr hyn a brawf nad yw yntau ond gwr canol oed cynnar. Ac er ei fod yn Athro yng Ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth ers dros ugain mlynedd bellach, hysbysir yn y newydd- iaduron am ei benodiad yn Brifathro cyntaf Coleg Hyfforddiadol newydd yng Nghaerleon- ar Wysg. Nid un wedi gwario ei ym- adferthoedd mown maes blaenorol a ddewisid i gychwyn Coleg o'r fath at wasanaeth egin- athrawon Morgannwg a Mynwy, eithr gwr yn rhodio yn amldcr ei ryrn. neb gysgod henaint ar ei feddwl, a'i ddelfrydau heb ddechreu edwino. Hwyrach nas gall pawb weled fod y symudiad hwn yn gam ar i fyny—o Goleg Cenedlaethol i un Hyfforddiadol; ond fe gyd- nabyddir fod awdurdodau y diweddaf wedi bod yr dra ffodus wrth Iwyddo i'w berswadio i newid ei le. Bydd cael Cymro mor wyeh, a chenedlgarwr mor bybyr, wrth lyw y sefydliad newydd yn fantais anhraethol i fywyd ieuanc y siroedd poblog yn Neheudir Cymru. Trwy ddylanwad ei bersonoliaeth gref, a thrwy gyfrannu o'i ysbryd Cymreig i'w fyfyr- wyr,newidir hwynt i'r un ddelw ag yntau ac anodd wedyn fesur hyd na dyfnder ei argraff aDuniongyrchol ar fywyd dyfodol y Deheu- barth. I'r Gadair Gymraeg, yn Aberystwyth, y penodasid Syr Edward Anwyl yn 1892 eithr nid ymfoddlonodd efe ar ddysgu elfennau yr iaith honno yn ei ddosbarth ychwanegodd at hynny ymdriniaeth ar Ieitheg GymharoJ, a gwyddorau cysylltiol. Gwnaeth ei bwnc yn llydan a diddorol gosododd sylfaen gadarn i adeilad helaeth ac uchelgrib. Ac ar gyfrif anherfynoldeb ei wybodaeth, o bob cangen, braidd, ynghyda'i ddiymhongarwch, ei naturioldeb a'i agosrwydd at ei ddisgyblion, nis gall beidio a. bod yn arwr yn eu golwg ac megis ei enw, yn annwyl i'w calon. Mae hefyd yn wleidydd addysgol, yn arweinydd yng nghynghorau'r Coleg Cymreig, ac yn fynegydd dyheadau addysgol y genedl. Naturiol hollol, gan hynny, oedd iddo gael ei osod yn Gadeirydd y Bwrdd Canol-tra nad oedd na Llywydd Coleg nac Arglwydd Tir, megis y rhai a'i rhagflaenai; a gwyddis fod i Gymry, a phethau Cymreig, amddiffynydd cryf ynddo ef ar y Bwrdd pwysig hwnnw. Etholwyd ef, hefyd, yn aelod ac yn llywydd Bwrdd Diwinvddol v Brifvsgol ac vn v cymeriad hwn mae'n ddilynydd teilwng i'w hen athro hyglod yng Ngholeg Mansfield--Dr. Fairbairn. Ac heblaw meddu gafaeliad sicr yn egwyddorion llywodraethol y trafodaethau yn y gwahanol Fyrddau hyn, dengys ei fod yn gwbl gyfarwydd ym manylion y gweith- rediadau. Ceir ynddo'r cyfuniad tra eithr- iadol o'r athrawiaethol a'rymarferol,ehangder yr athronydd a manylwch y gwyddonydd nid oes yn y Coleg cenedlaethol nemor gadair nas gallai ef ei Ilenwi gydag effeithiolrwydd. A phe'r ychwanegid at ei ganghennau pres- ennol wyddor Diwinyddiaeth, ni byddai raid i'r Athro Anwyl ofni anturio i'r maes hwnnw. Hablaw bod yn ddisgybl disglair yng Ngholeg Diwinyddol Mansfield yn Rhyd- ychen, ceidw'r efrydiau hynny ymlaen. Galwyd ef i fod yn flaenor mewn Eglwys Gym- raeg yn Aberystwyth, a phregetha'n am] o bulpudau Ymneilltuol Cymraeg a Saesneg. Ceisiwyd ganddo ddarpar y Llawlyfr ar wers yr Ysgol Sul ymhlith yr Annibynwyr Cymreig ddwy neu dair blynedd yn ol dygoddefallan —sef cyfrol ar -Hosea—fiwyddyn cyn yr amser. Prawf hyn, yn ddiau, mor barod ydoedd i'r dasg, a ehyda r fath rwyddineb yr elai drwyddi. Ewyllysgar ydyw, hefyd, i oleuo gwerin ei wlad trwy ysgrifau i'r cyfnodolion Cymreig,— enwadol a chyffredinol, a thrwy ddarlithiau cyhoeddus yn y pentrefi a'r man-drefi, yn gystal ag mewn cylchoedd "anrhydeddusach." Yn y Dysgedydd am Ragfyr, ceir ysgrif o'i waith gyda'r teitl Ystyriaethau ar Flyn- yddoedd Cyntaf Cristionogaeth." Ac er nad oes berygl iddi, mewn ieithwedd na chynnwys, ddychrynnu'r ehud oblegid ei hysgelheigdod, gwyddis megis trwy reddf wrth ei darllen fod yr ymchwiliad llwyraf i fanylion y mater o dan yr erthygl lefn ac ystwyth. Am- ddiffyniad ydyw i ddilysrwydd cronicl Actau yr Apostolion danghosir pa mor gysbn a, thebygolrwydd pethau yw'r hanes yno am flynyddoedd cyntaf yr eglwys. Mae yn ysgrif lawn o synnwyr, a phwyll, a barn, ac yn gweddu n hollol i amcan ac ansawdd y cylch- grawn. Dywedir ynddi lawer o bethau pwys- ig am egwyddorion bywyd oddiwrth hanes y cyfnod bore hwnnw. Wele enghreifftiau o'i brawddegau cynhwysfawr ac adeiladol :— Ar ol derbyn dawn yr Ysbryd Glân, daeth yr ysbryd cenhadol yn gryfach fyth." Ni fydd y werin byth yn barnu daioni neb wrth ei eiriau yn unig." Mae rhediad y rhannau a ysgrifennwyd gyntaf o'r Testament Newydd mewn cydymdeimlad i fesur helaeth a. thegwch y. gyfraith Rufeinig." "Yr eglwysi mwyaf blodeuog oedd yr eglwysi lie y gwelid effeith- v iau doniau ysbrydol amlycaf." Po fwyaf yr edrychwn ar wir Gristionogaeth, egluraf oil y gwelwn rnor loyw yw'r ddynoliaeth a greir ganddi." Mae dynoliaeth heb grefydd yn anhraethol well na cherfydd heb ddynol- iaeth. Dau o Iyfrau pwysicaf y blynyddoedd di- weddaf hyn, ynglyn a- Chymru ac a Chymraeg, yw Christianity in Early Britain gan yr Is- Brifathro Hugh Williai-ns, o Goleg Diwin- yddol y Ba,la, a Welsh Grammar yr Athro John Morris Jones, o Goleg y Brifysgol, Bangor. Cyhoeddwyd y ddau gan argraft- wasg Prifysgol Rhydychen ac i Syr Edward Anwyl yr ymddiriedwyd adolygu'r naill a'r Hall yn Y Beirniad. Amliosibl fuasai cael neb cymhwysach at y gwaith. Nid cyfiwyniad yn unig, ac nid darluniad mewn geiriau pen- agored, cyffredinol, roddir o'r llyfrau, eithr adolygiad yn ystyr briodol y gair. Nid yw yn gynnil o eiriau canmoliaeth danghosir yn glir elfennau rhagoriaeth y llyfrau,ac hefyd yr un inor onest eu gwallau pan ddigwyddo i'r awduron fod wedi llithro ar air neu hyd yn oed lythyren. Yn eu manylwch a'u bonedd- igeiddrwydd, ystyriwn hwynt yn batrwm o adolygiadau a charem gredu oddiwrth yr esiamplau hyn fod adolygiaeth—fel y mae yn cynnwys gwerthfawrogiad a bcirniadaeth- ar y ffordd i fwy o fri a gwerth yn ein plith. Byddai cyfrol safonol fel un y Doethor Hugh Williams o fwy gwerth eto, ac yn decach i edrych ami, inewn ail-argraffiad, pe wedi ei diwygio o'r man frychau a'r gwallau y cyfeir- ia'r adolygydd hwn mor lednais atynt. Gyda mesur o chwilfrydedd yr edrychem ymlaen at ddarllen adolygiad Syr Edward Anwyl ar Ramadeg brawd-athro Cymraeg, a hynny mewn cyhoeddiad o dan olygiaeth yr awdur ei hun ac ar ei gais arbennig ef. Ceir un maith a llwyr,—-yn ymestyn dros chwe tudalen mewn llythyren fan, teilwng o lyfr a saif am oesoedd yn gofgolofn i graffter a dysg yr awdur." Cyfeirir yn feirniadol at lu o bwyntiau yn y gyfrol, eithr gan gydnabod yn ddifloesgni fod lie i wahaniaeth barn ynghylch amryw ohonynt. Dywedir fod y Ilyfr, i'r cyfarwydd, nid yn unig yn ddysgedig, ond yn hynod o ddarllenadwy. Da gennym weled, ar dud. 439, fod yr awdur yn cydnabod yr hyn a eilw yn present linguistic consciousness,' oblegid, er cymaint a ed- mygwn ar yr iaith yn yr amser a fu, ac er maint ein hawydd i ddarganfod ei hen ffurf- iau clasurol, rhaid i ni heddyw, fel Ilenorion ac fel gramadegwyr, geisio tynnu llinell derfyn rhwng y ffurnau sydd yn arferadwy ar hyn o bryd mewn gwahanol fathau ar lenyddiaetli. Nid yr up yw gramadeg rhyddiaeth a gram- adeg barddoniaeth, ac nid yr un yw grama.deg yr awdl a gramadeg y gan neu'r delyneg. Gellir defnyddio llawer ffurf mewn awdl sydd yn rhy ansathredig i'w defnyddio mewn can neu draethawd. Cydnabyddwn yn ddiolch- gar y wybodaeth a roddwyd ynghylch haniad a hanes yr iaith yn y gyfrol werthfawr hon, a gobeithiwn y caiff yr awdur dysgedig a hyglod bob rhwyddineb a thawelwch i gyfan- soddi'r gyfrol nesaf." Fel yna—yn barchus a gwerthfawrogol-y gorffen yr adolygiad. Pan geir y doctoriaid i gytuno'n wirfoddol ar ffurfiau'r Gymraeg, gellir disgwyl heddwch rhwng ysgriblwyr manach, ac unffurfiaetli yn orgrafi ein Uyfravx a'n cylchgronau a'n newydd- iaduron. Ymddengys ysbryd yr adolygiad hwn yn dal gebaith hyfryd felly o'n blaen. Cydnebydd y ddau Athro eu rhwymedigaeth a'u parch i Syr John Rhys, ac apeliant at ei awdurdod a rhwng y tri wfr hyn gellid penderfynu pob dadl ar faterion dyrys a chymleth y Gymraeg. Brysied bore'r Jiwbil ddydd. Tystiolaeth groyw i boblogrwydd yr Athro Anwyl, a gwerthfawrogiad teilwng o swm ac ansawdd ei waith amrywiol, oedd ei anrhyd- eddu gan y Brenin ar achlysur urddo'r, Tywysog yng Nghaernarfon. Bydded llwydd eto ar sefydliad mab o Gaerlleon Fawr ar Ddyfrdwy yng Nghaerlleon ar Wysg, ac ym- ledaened ei ddylanwad trwy ei ddisgyblion dros Gymru benbaladr. r. 7 CLWYDYDD. T.:P-1<7Trr.-7?f-O- tt¿fI I
I Darlun Rhiannon.
Darlun Rhiannon. Ni welsoch, y mae'n debyg gennyf, ddarlun Rhiannon o waith Mr. Kelt Edwards ond chwi allech weled copi lliwiedig ohono yn y Cymru. Y mae hwnnw'n hudol o brydferth. Clywais foneddiges a wyr rywbeth am bethau o'r fath yn dweyd, Y mae o'n dlws, a hynny drosodd a throsodd drachefn. Y mae'n siwr ei fod yn glod i ben a chalon y Kelt. Nid yw'r Kelt un amser mor gelfydd a phan fyddo fo vn ei elfen Geltaidd ei hun. Llwyddodd i drosglwyddo i'w ddarlun hud cyfrin a swynol mabinogi Pwyll, Pendefig Dyfed. Cododd ynnof awydd ail-ddarllen y fabinogi, ac y mae'r darlun yn debyg o wneud yr un peth a. llawer arall. Y mae popeth amgylchiadol y darlun yn eich dwyn ar unwaith megis i awyrgylch a chylchynion y fabinogi. Y mae y coed ar y llechwedd a'r castell a'r m6r a'r tir pell yn gefn i'r darlun ac yn hudo'r dychymyg. Ar y ftordd gej y llechwedd coediog y mae'r marchog, Pwyll Pendefig Dyfed, i'w weld yn rymusgawr, efe a'i farch wedi eu gwisgo a'u harfogaethu yn null hen oesoedd merchogwr- iaeth, ac y mae'r wawr danbeidliw sydd arnynt yn cyfsrbynnu'n effeithiol a'r wawr fwynaidd sydd ar Rhiannon. Ar ei march y mae 'hithau newydd aros ar gais Pwyll a throi ato, ac yn y weithred o wared y rhan a ddylai fod am ei hwyneb o wisg ei phen i ymddiddan ag ef." Rhoes hynny gyfleustra i'r arlunydd ddangos ffurf osgeiddig ei chorff a'i braich a thegwch ei hwynepryd. A barnu oddiwrth y darlun prydferth a wnaeth y Kelt o Riannon nis gallasai Pwyll yn amgen na meddylio bod yn ddifwyn ganddo bob pryd ar a welais erioed o forwyn a gwraig wrth ei phryd hi." i Wrth ddarllen y darlun mewn geiriau a ysgrifennodd rhywun gynt na wyddys pwy, ac wrth edrych wedyn ar yr un darlun wedi ei drosglwyddo gan y Kelt i ffurfiau cain a lliwiau prydferth, gwelir y fath athrawon eywi.. i ddychymyg a chwaeth yw hen fabinogion Cymru. Y mae'r Kelt wedi anadlu yn hir yn awyrgylch yr hen fabinogion, ac yfed yn helaeth o'u hysbryd, a bydd disgwyl taer bellach am iddo droi llawer o'r digwyddiadau a'r golygfeydd yn hyfrydwch llygaid mewn darluniau celfydd.—-PEDB, HIR.
Advertising
Ow EVERY WOMAN SHOULD send 2 stamps for our 32 page Illustrated Book containing valuable information how all T "?g_ a ilie ?d Suppressions may be entirely avoided or removed by simple means. Recommended by eminent Physicans, as the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never fail Thousands of Testimonials. Established T862, Mr. PAUL BLANCHARD, ClaremontfMouse. Dalston Lane, LONDONi LIVERPOOL TER u Shaftesbury, Mount Pleasant About 4 mins, walk from a Lime st & Central Stations ? A First-class Temperam s Hotel, moderate charges. Tele. "Shaftesbury Hotel, L'pool." 'Phone: 8182 MORRIS [VANS' HOUSEHOLD OIL. The never-foiling Remedy FOR Rheumatism. Sciatica, Lumbago 6c Burns Scalds, Cuts. Bruises 49C ALWAYS HANDY IN THE HOME ITS CURITIVE POWERS ARE WONDERFUL. Get a Bottle at once from your Grocer or Chemis Price l/lid. a 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co., THE MANUFACTORY, FESTINIOG, N. WAbES. I. Yn awr yn Barod. COFIANT THOMAS GEE, GAN THOMAS GWYNN JONES. Cynnwysa y cyfrol 650 o dudalenau ynghyd ag amryw ddarluniau. I Pris wedi ei rwymo mewn llian hardd, 6/- Cyhoeddedig gan GEE a'i FAB. Cyf., Dinbych. Balls' Wedding Rings. Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 to 60/ Half dozen Best Electro-plated Spoons given to e&ch purchaser of a ring.. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33 LONDON ROAD, LIVERPOOL Finger Size Card post free. If you want The most Comprehensive POLICIES U1) THE BEST TERMS, write for particulars to j The Gresham j LIFE, FIRE, AND ACCIDENT Insurance Offices. Head Office: SSt. MildredslHouse Poultry, LONDON. E.G. Branch Office G14?Exchange B'l d s LIVERPOOL. II JAMES Ii. SCOTTI General Manager. I. XSTOP ONE MOMENT V ■ ■ Oh, Dear Doctor Must My Darling Die ? Inhere is very little hope, but try Tudor WilliClfns9 PATENT Balsam of Honey. WHAT IT IS! Tudor Williams' Patent Balsam of Honey Is an essence of the purest and most effica- cious herbs, gathered on the Welsh Hills and Valleys in the proper season, when their vif tuea are in full perfection, and o^mbined with Pure Welsh Honey. All the ingredients are perfectly pure. WHAT IT DOES I Tudor Williams' Paten Balsam of Honey Cures Coughs, Colds, Bronchitis, Asthm Whooping Cough, Croup, and all disorders o the Throat, Chest, and Lungs. Wonderfu Cure of Children's Coughs after Measles. It is invaluable to weak-chested men, delicate women and children. It suceoeds where all other remedies fail. Sold by all Chemist* and Stores in 1 j-, 2 /6, and 4 /6 bottles oji direct from Proprietor for 1/3, 2/9, 5 Great saving in purchasing the large size bottles. WHAT IT HAS DONE FOR OTHERS A Stipendiary and Magistrate in the County of Glamorgan remarks:—" I feel it my duty to inform you that I have been using your Tudor Williams' Balsam of Honey in my family, which is a large one, for many years, and have proved its great value, having used nothing else for Cough during Measles, Whooping Cough and Bronchitis, and can highly recommend it to all parents for suofe complaints." YOU NEED NOF SUFFER Disease is a sin, inasmuch that, if you aot rightly, at the right time, it can, to a great extent, be avoided. Here is the preventative. The first moment you start with Sore Throak, take a dose of â Tudor Williams" Patent Balsam of Honey. It has saved thousands; it will save you. It is prepared by a fully qualified chemist, and is, by virtue of its composition, eminently adapted for all cases of Coughs, CokUy Bronchitis, Asthma, etc., it exercises a dies tinct influence upon the mucous lining of the throat, windpipe, and small air vessels, so that nothing but warmed pure ail pftssea into the lungs. THE CHILDREN LIKE IT It is the product of the Honeycomb, aheml. oally treated to get the best results. THEY ASK FOR IT. So different from most Medicines. Nice to take Cures Quickly For vocalists and public speakers it has ne equal, it makes the voice as clear as a bell. Inventor D. TUDOR WILLIAMS, R.S.D.I, Manufacturer 1 TUDOR WILLIAMS, M.R.P.S., A.S.Apth, Analytical and Consulting Chemist and Druggist by Examination. MEDICAL HALL, ABERDARE, WALE. WHOLESALE AGENTS Messrs. Robert Da vies 6 Co., Grocers Grayson Street, Liverpoo Messrs: Evans, Sons, Lescher & Webb Wholesale Druggists, Hanover St. Liverpool Messrs John Thompson 49 Co., Wholesale Druggists, 58 Hanover St:, t/pool m..Lost Property.. ";J;> UMBRELLAS. ?<???'? Railway, Tramway, Police r,.  Railway, Tramway, Police ??! JM Beautiul Umbrellas & Sunshade#, 1 ./?\? 1/4, 1/9, 2/- upwards. Walki Sti?ks? 2d upwards. These are = <,SJS knock-about umbrellas. ? ? Northern?UmbreUa?Depot 28a Bold St. (upstairs), few doors from Churh:St 1 YR IAITH GYMRAEG: El HORGRAFF A'I CHYSTRAWEN. D. Tecwyn Evans, B.A. Nid oes elhafall bawb awyddus I ddysgu starad ac ysgritennu Cymraeg yn gyvpir. Wele ei gynnwys: I-ORGRAFF A CHYSTRAWEN. I. Rhaglith. II. Dyblu' HfCydseiniaid. III. H," Ff," a Chydseiniaid Ereill. IV. > It" U Ai-Ei It; Au-Eu Ae A-U E-Y," etc V. Y Blaenddodiad "Di Dy Am- VI. Yn." VII. Rhai Ffurfiau a Gwallau Cyffredin. VIII. Eto (parhad). IX. Y Rhagenwau Perthynasol (Relative Pronouns). X. Y Modd Dibynnol (Subjunctive Mood). XI. Berf-Enwau (Verb- r Nouns). XII. Brawddegau Syml a Chymysg. XIII. Y Ferf a'l' Gweithredydd (Verb and Subject). XIV.; Rhyv [ (Gender). XV. Acen a Phwyslais. XVI. Nodion. 2-CYMRAEG Y BIBL. I. Orgraff. II. Cystrawen. III. Ffurfiau Anghyffredin. 3 -GEIRFA. Pris mewn Llian, Is. 6ch. Hugb Evans a'i Feibion, Swyddfa'r Brvthon.'