Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Yw'p gwaed ar Gapan eich IDrws…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yw'p gwaed ar Gapan eich I Drws P Cwestiwn Eisteddfod Plant Bootle 1 MEGis y dywed'som droion o'r blaen, un o'r pethau sy'n gwagu fwyaf ar eglwysi Cymraeg Lerpwl, a phob tref debyg iddi, yw'r nifer fawr o had ac epil yr aelodau a gollir wrth golli'r Gymraeg, a gloes a gofid i galon Hawer bugail a swyddog yw gwybod fod llawer o ieuenctyd yr achosion heb ddeall iaith y moddion yn ddigon da i gael y lies a'r adeil- adaeth ysbrydol a ddylynt. Ac i dopio'r twll hwnnw, a chael y plant i goledd ac arfer iaith eu rhieni, y symbylwyd nifer o Gymry cynhesaf y darn yma o'r dref i godi Eisteddfod Plant. Bu'r tair a gafwyd eisoes yn Ilwydd- iant digamsyniol, ac yr oedd y bedwaredd, a gafwyd yn Neuadd y Dref nos Sadwrn ddi- weddaf, mor liosog ac mor lwyddiannus a'r un o'r pedair. 009- Ei hamcan mawr yw eyffroi'r rhieni yn eu dwylo hwy, sef ar yr aelwyd gartref, y mae bywyd yr iaith ac os esgeulusant hwy eu gorchwyl yno, 'does yr un eglwys na sefydliad yn y byd a geidw'n hiaith hen ac annwyl rhag diflannu. Beio a chethru ar yr eglwysi y bydd ambell golsyn o Gymro waeth heb, wir cethru ar y rhieni sydd eisieu a dyna wna'r Eisteddfod hon a'i hyrwyddwyr mewn modd dygp a theilwng o'r gefnogaeth gryfa.f. Rieni Bootle ymrowch ati, bob aelwyd ohon- och,i'w cynorthwyo ;-y chwi tedr a neb arall, a pheidiwch a bod yn ddigon didaro i daflu'eh gwaith eich hun ar gefn gweinidogion a blaen- oriaid ac athrawon dyna'r tro salaf fedrweh wneud a'ch iaith ac a'ch plant ac a'ch eglwysi ) ydyw hynny. A chwi rieni Bootle a Chymru benbaladr, cofiweh gyflafan cyntafanedigion yr Aifft Oherwydd hyn, mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon, ac a darawaf bob cyntafanedig o fewn tir yr Aifft, yn ddYD ac yn an if ail a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aifft y fi yw'r Arglwydd. A'r gwaed a fydd i chwi'n arwydd ar y tai lie byddoch chwi a phan welwyf y gwaed, yna yr af heibio i chwi, ac ni bydd pla dinistriol arnoch chwi, pan darawyf dir yr Aifft Ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aifft, oblegid nad oedd dy a'r nad ydoedd un marw ynddo." Un pur debyg i'r angel dinistriol hwnnw ydwyf innau a beth pe deuwn ar hyd eich heolydd nos yfory, pa sawl cyntafanedig o'ch plant fyddai raid imi ei ladd a Chleddyf yr Orsedd am nad oedd dafn o waed yr oen cen- edlaethol ar gapan eich drysau, n80 dim ond eifftiaith yr estron ar dafod eich plant ? A bu gweiddi mawr yn Bootle." Dim ond darn o'r Eisteddfod a gefais tipyn o'r canol, na dim o'r awr gyntaf na'r awr olaf, onite buasai gennyf air am amryw gystadleuon heblaw'r un neu ddwy a gry- bwyllaf wrth fynd ymlaen. Clywais i Mr. G. Osborne Davies-agor yn dda iawn gyda'i benhillion telyn, swp a gyfansoddesid yn arbennig gogyfer a'r wyl gallwn dybied, ac yn gorffen a, Molawd Cymrii'v hen Dal- haearn, a dawdd galon unrhyw dyrfa ganol gaeaf lie bo calon i'w thoddi. Ac yr oedd yn dda gennym weled Telynores Gwyngyll yno i eilio ar ei hofferyn, ac roi'r cyfarfod mewn cywair mwynhau a gwrando gweddill yr Eisteddfod. Ac ebe Madryn iddi hi:— Can a'i dwylaw AlawoD-ein cenedl,— Can nes swyno'm calon Mwynheis ymysg Monwysion Allu merch Pwllgwyngyll Mon. •o- Pedr Hir fydd yn tywys y Maer i fewn bob tro, a hwnnw'n ei ddilyn fel oen llywaeth, neu'r debyg fel y dywedai Goronwy Owen am hen berson boldyn Walton yma ers talm—ei fod o'n dilyn hwnnw fol bad ar ol llong. Tybed a oes angen dod a'r Maer i fewn bob blwyddyn, i ddwyn amser yr wyl, a rhoi rhyw glwt o shoddy Seisnig ar frethyn cartre'r I Cymry ? Nac oes, goeliaf fl. Y mae'r Eisteddfod yn llawer gormod o goflaid i un cyfarfod fel y mae ac fe gollir hanner awr dda wrth grwcydu i ben dvn y dref. Gwnewch hebddo, da chwi 'rwy'n addef fod yn eithaf peth iddo ef ac eilltion ereill gael golwg ar flodau'r Hen Wlad, a chlywed yr hen iaith yn clecian tua'u clustiau. Campus oedd cystadleuaeth y canu pen- hillion, a hwre i'r pwyllgor am ddod a hi i'w rhaglen. Yr oedd y tri ddaeth i'r llwyfan-y bachgen a'r ddwy eneth—yn rhagorol ac lleisio a geirio mor groew nes codi calon dyn wrth weld yr Ail Genhedlaeth yn cymryd at hen ganu hynaf a melysa'r hen Gymry mor ardderchog. Ac yn wir, rhyw deimlo yr oeddwn y buasai marw'n beth cymharol hawdd ond cael mynd adre yn swn rhai o'r hen benhillion glywsom heno. Dyma i chwi ral ohonynt, yn damaid i brofi, sef o waith Dyfed COED Y BERLLAN. iiu tarw r gaeat yn y cwm, Yn feudwy llwm anniddan A thyfodd gwanwyn yn y wlad A chariad lond ei arian Blodeua gwrid yn swyn ei droed Ar ruddiau co Jd y berllan. Af innau allan i fwynhau Y dydd a'r blodau'n caru Mae swyngyfaredd serch mor lan Yn gwneud i'r mudan ganu Ac awen yma ar ei nyth A garai fyth gartrefu. Eisteddaf dan afallen ber, Yn dyner fy serchiadau Ac ar fy mhen y bwria'i lawr Ei chawod fawr o flodau A chofiaf yn y gawod glir Y feinir garaf innau. O tyred allan, Enid fwyxi, I weld dy swyn dy hunan Mae natur yma'n hawddgar iawn, A'i threm yn llawn o huan Cei liw dy rudd yn ugain oed, Ym mlodau coed y berllan. Mi glywaf yr aderyn du Yn canu ar y cangen Daeth yma gyda'r bore gmy-n, A gwlithyn ar ei aden A chlyw yr hwyr ei olaf bill Ar weddill coedydd Eden. ¡ Mae proffwydoliaeth yn ei big, A diddig yw ei gyngan Am addfed gnwd o felys rin, Ar frigau blin yn hongian A tbelyn aur i'w chanu roed I broffwyd coed y berllan. iti welaf Newton ar ei sedd Yn oistedd dan y cangau, A deddfau creadigaeth lor Yn agor iddo'u dorau Ac yntau'n mynd tu hwnt i'r lien, Yng nghysgod pren afalau. 0 aros, ennyd, wanwyn cu, Paid, paid & chefnu'n fuan Ni flinem weld y blodau hyn Ar ruddiau biwyddyn gyfan Mae addurn byd yn troi yn llwch. Wrth liarddwch coed y berllan. A dyna ddyn y byddaf fi'n ei edmygu am ei blwc ar hyd y blynyddoedd ydyw John Roberts, arweinydd plant Cenhadaeth Rhyl Street,—deil i gystadlu, ennill neu beidio, ac y mae'n amlwg, oddiwrth bopeth a wn ac a glywais amdano, ei fod o'n haeddu diolch yn anad neb ohonoch. 'Does dim a'i try'n ol oddiwrth y plant ac y mae'n eu caru i gyd, pa genedl bynnag y bont, ac yn medru dioddef colli a dal ennill, y naill cystal a'r Ilall a go ychydig sy'n medru'r ddau beth anodd hynny hanner cystal ag o. Y mae ar rieni'r plant ddyled fawr iddo ac y mae'n dda gennyf gael hyn o gyfle i roi fy motwm bach ar ei frest. -4s- Yr oedd y caneuon yst-Lim-yr action songs —yn dda iawn ac yr oedd yn amlwg fod yr ias ddawnsio'n gryf yn sodlau rhai ohonynt. Tlws odiaeth oedd Can yr Enfys. Beth ddaeth o facwyaid Miss M. E. Jones, a Hogiau'r Dre' ? a pham na chyfansodda Pedr Hir a Hawen a Phedrog ac ereill o feirdd y ddinas gan-ystum Gymraeg, er mwyn i'r plant gael tipyn mwy o dewis o'r ychydig sydd ohonynt yn ein hiaith ni ? --9- Yr oedd yr wyl yn glod i ben a chalon ei hyrwyddwyr, ac yn ateb ei diben i'r dim. Golygodd waith caled i'r pwyllgor,—i'r ysgrif- enyddion yn enwedig ac y mae'r dref a'r wlad yn ddiolchgar iddynt am lafur mor galed ac am ffrwyth mor odidog. Gwnaeth yr arweinydd ei waith yn dda a dilol,-—yn fyr ei air, ac yn mynnu chwarae teg a distaw- rwydd i bob ymgeisydd. Y Parch. Wm. Roberts (Trinity Road) a Mr. Dan Davies (Walton Park) ddiolchodd i'r Maer am ei araith ac am ddod yno. Dyma'r hyrwyddwyr :—Llywydd, Hen. Dr. R. E. Roberts, Y.H. Is-lywyddion, J. W. Davies, Ysw., y Cynghorydd Eachus, y Parch. E J. Evans,-Owen Evans, Ysw., y Parch. Wm.. Henry, T' Evan Hughes, Ysw., y Parch Albert Jones, B.A., David Jones, Ysw. (Waterloo), y Parchn. O. Lloyd Jones, M.A. B.D., T. O. Jones (Tryfan),W- O. Jones, B.A., J. Ambrose Lloyd, Ysw., Dr. Roland Owen,, W. D. Owen, Ysw., Hugh Parry, Ysw., y Parch. R W. Roberts, B-A.,B.D., y Parch. Wm. Roberts, R. Llewelyn Roberts, Ysw., J. C. Roberts, Ysw., y Cynghorydd W. D. Scholefield, Y.H., y Parch. Evan Williams, Owen Williams, Ysw., Rowland Williams, Ysw (Walton Park) cadeirydd y Pwyllgor, y Parch. Peter Williams (Pedr Hir) is- gadeirwyr, Mr. Dan Davies, Mr. Richard Williams trysorydd, Abel G. Harris, Orrell Park ysgrifennydd ariannol, R. Vaughan Jones ysgrifennydd cynorthwyol, Oliver Savage ysgrifennydd cyffredinol, Ed. Jones, Devonfield road. BEIBNIAID Lien, y Parchn. O. L. Roberts, Evan Williams, Hugh Evans, Ysw., B.A. (Birkenhead) cerdd, Caradoc Roberts, Ysw., Mus.Doc. adrodd, R. O. Williams, Ysw. amrywiaeth, H. E. Bulmer, Ysw., A.R.C.A., Miss C. A. Palmer cyfeilydd, Miss Nellie Lewis, I A.R.C.M. telyiiores, Miss Annie Thomas (Telynores Gwyngyll) arweinydd y cyfarfod, Mr. R. O. Jones. A dyma'r enillwyr, a hynny'n ddiau am i'w rhieni ofalu fod y gwaed ar gapan eu drysau LLEN Ysgrif, Uni-hyw Gymro Enwog 1, Hugh Roberts, Stanley Road 2, Hywel Williams, Marsh Lane. Arholiad ar Hanes Daniel 1, Lizzie Morris, Stanley Road j 2, Hywel Williams 3, Nellie Davies, Peel, Road. Adrodd ac egluro geiriau Gweddi'r Arglwydd 1, Ceri Rowlands, Marsh Lane 2, Gwyneth Roberts, Trinity Road (W-) 3. Gwennie Morris, Balliol Road, a Gwilym E. Pierce, Peel Road. Eto, Luc xv. 11-24 1, Alwen Williams, Marsh Lane 2, Dennis Lewis, Stanley Road 3, John Evan Jones, Knowsley Road. Eto, Luc xv. 11-32: 1, Dilys LI oyd, Waterloo; 2, Menna. Wil 1 iams, Marsh Lane 3, Lizzie Morris, Stanley Road. Ysgrifennu Stori yn Gymraeg: 1, Jennie Jones, Stanley Road 2, Mary Williams, Marsh Lane 3, Lizzie Morris a Hywel Will- iams. Cyfieithu I, Lizzie Morris, Stanley Road 2, Adeline Hughes, Stanley Road 3, Elizabeth Jones a Gwladys Jones, Stanley Road. CERDDORIAETH: Y Brif Gystadleuaeth Gorawl, £ 3 /3 j~ a medal aur, Y Gwanwyn (W. O. Jones) Cor- Plant y Liverpool Co- Operative (D. Roberts). Ail Gystadleuaeth Gorawl, jEl/IO/- a Her-Darian Arian, "Y Gwanwyn Mwyn Cor Plant Stanley Road (Mr. J. Hughes). Action Song 1, Ysgol Longmoor Lane (Miss Norminton) 2, Cen- hadaeth Rhyl Street (Mr. J. Roberts). Canu Penhillion gyda'r delyn 1, Glynne Riehards 2, Enid Parry, Stanley Road 3, Dora Jones, Stanley Road. Urawd i fechgyn neu enethod, "Y Bore Glas 1, Dora Jones, Stanley Road 2, Gwen Jones, Stanley Road. Eto, Y Gwcw Fach" 1, Maggie Edwards, Peel Road 2, Elsie Davies, Stanley Road 3, Gwen Jones, Peel Road. Eto," Unwaith eto yng Nghymru annwyl 1, Glynne Richards 2, Edith Wynne, Marsh Lane. Unawd agored, Hela'r Sgyfarnog 1, Doris Allsop 2, Glynne Richards. Unawd ar y berdoneg, Summer Frolics 1, Maud Roberts, Peel Road 2, Gwendolen Jones, eto. Ete, "Menuet d'ete." (E. T. Davies): 1, Nellie Collier, Balliol Road (W.) 2, Blodwen Griffiths, Stanley Road. Cystadleuaeth ar- bennig i Gorau Ysgolion Dydd, £ 2 /2 2- £ 1 /I (rhoddedig gan Hen. Dr. R. E. Roberts rhannwyd y ddwy wobr rhwng Ysgolion. Cyngor Orrell a Bedford Road. y| MEYWIAETH— 1 Enethod Gents' Knitted Tie 1, Blodwen Williams, Balliol Road 2, Doris Williams, eto. Nightdress Case (gwaith Ilaw) Alwen Williams, Marsh Lane. Specimen Sewing, etc.: 1, Katie Morris, Walton Park 2, Bessie Morris, eto. I Fech gyn Pencil Sketch-Horse's Head Penr Williams, Marsh Lane. Bust of King George George Pieice, Stanley Road (ail wobr). Designed Calendar George Pierce (ail wobr) I fechgyn neu erietliod, Decorated Motto 1, Glynne Richards, Stanley Road 2, Howell Davies- m Hf ADRODDIADATJ.—"Y Sgoler,"(7 oed a than hynny, 1, Blodwen Williams, Balliol Road 2, Myfanwy Pugh 3, awyneth Roberts, Trinity Road (W.). Bydd dyner 10 oed a than hynny 1, Gwennie Evans, Trinity Road 2, Myfanwy Thomas, Trinity Rd (A.) 3, Aneurin Hughes, Walton Park. Saf i fyny dros dy wlad 10 i 13 oed 1, Freddie Griffiths, Stanley Road 2, Freda Jones, Trinity Road (A.) 3, Cassie Roberts, Orrell. Cymru o 13 i 16 1, Mary Davies, Stanley Road. 2, Hywel Williams a Menna Williams. Cyd-adrodd, Esaiah xxxv." 1, Orrell 2, Walton Park.

Advertising

Advertising

Ffetan y Gol.