Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
to the I Bishop of St, David's.
to the Bishop of St, David's. R My LORD BISHOP.—WelshNonconformists generally follow your speeches and watch your attitude towards the Bill for the Disestablish- ment and Disendowment of the Established Church in Wales with more interest than that of any other of its opponents. They do this because of your former intimate connection with Nonconformity. Tiny also remember with appreciation your willing compliance with the wishes of your Methodist mother to attend a C.M. Church in Abergwili until her death. They admire your abilities as a scholar and ecclesiastic, which have placed you in the highest position your adopted Church could give you. It is also very creditable to you that you have—until recently, at any rate —continued your association with some of the old Noncon- formist friends of your earlier days. All these considerations have a tendency to make Welsh Nonconformists follow your sayings and doings with very great interest. You fight valiantly for what you like to call your "Church." No one can blame you for doing this. From of old the Welsh is an old and haughty nation proud in arms." The Nonconformists rather like you the more because of your valiant tilting in this" Holy War," as you doubtlessly regard it. We would not by any means apply to you that well-known s?ying of Lord Macaulav- There is r o anger like the anger of a renegade." You, my Lord Bishop, are too honourable to harbour such an unchristian feeling towards the mother and nurse of your religious character in your early days. But for all this, you continue to puzzle us. W3 are quite unable to understand your state of mind when you persist in calling this Bill this mean little Bill." It has become quite an obsession, and appears and reappears like Banqiw's Ghost to spoil the intellectual feasts you occasionally provide for us in your vehement appeals to your fellow countrymen and the alien Saxons to oppose the mean little Bill," We notice in your series of speeches delivered this week in Carmarthenshire that you pose as a Welsh patriot and propound a new theory of Nationalism. Has it never occurred to you how inconsistent is your appeal for Welsh National Unity, and at the same time invite the Saxon predominant partner and the Saxon Church, whose ecclesiastical policy for centuries was the Anglicization of the Walsh nation ? Why the Saxon archbishops colluded with the Saxon kings to deprive the Welsh Church of its independence as a National Church. And yet in the name of Nationality you appeal to Welsh Nonconformists to caase attacking an alien Church imposed by force by our Saxon conquerors. Last week we find, in an address delivered by you at Llandilo, that you referred to the common ground of agreement between the Church and Nonconformity in regard to both the fundamental articles of the Christian faith and the supreme purposes of all Christian Societies." This is quite true, my Lord. But you seem to us to miss the point. Our quarrel is not with the Church of England in Wales as a spiritual Society consisting of members who believe the fundamental verities of the Christian religion and whose main object is to extend the kingdom of God on earth. What we object to is this viz., that it has sold its birthright of spiritual independence of state control for the mess of pottage," which, being interpreted, means tithes, endowments, and other privileges conferred upon it by the State. All Nonconformists unite in their opposition to the State control of religion as 3uch, You, my Lord, desire to divide Noncon- formists into two classes--the reasonable Nonconformists who agree with you to call th.3 Bill a mean little Bill," because it takes away from you the endowments which existed before the rise of Dissent, and when the Church and the Welsh nation were practically co-extensive. Those who object to your view, and favour this amount of Disendowment, you, by implication, call unreasonable Non- conformists. Do you, my Lord, think that this insulting insinuation tends to promote the national unity you profess to desiderate so much ? You often refer in your speeches to the importance of anational recognition of religion. And you imply, if you do not assert, as other Episcopal authorities do, that Wales will become irreligious when the Church is dis- established. We as Nonconformists claim to be as anxious as you are to see Wales thoroughly Christianized. But we are also convinced that the State Establishment of religion has always retarded rather than promoted this end which we have in common. You maintain that the loss of the Tithes --A,ill cripple the Church's influence in Wales. We, on the other hand, maintain that it will prove the greatest blessing in disguise to the Church when the members contribute to the support of their clergymen' and thereby claim their right to have more share iri managing the Church. My Loid, we give you credit that you sincerely love your adopted Church. But we are really pained by the evidence you give of your want of faith in th 3 Spiritual Head of the Church and in the indwelling of His Holy Spirit in all who believe in God as He has revealed Himself to us in His Son and our Saviour. Have more faith, my lord, in Christian principles.—With sincerest good wishes, vours. v n X. -"81
0 FOELWYN ! FANOD.I
0 FOELWYN FANOD. I (GAN Y GUDYLL]. I HYFBYD gennym oedd darllen cyfarchiad Rolant Wyn i'w fam, hyhi bellach wedi croesi'r 80 mlwydd, ac yn trigo gyda'i mab yn Seacombe. Bu fyw ei hoes ymro:, yn y Blaenau ymai ae yn Nlirawsfynydd, ac ni fu neb uwch ei pharch yn yr ardaloedd un amser, —ei bywyd syml, a'i chymeriad gloyw yn ei gwneud bob adeg yn ffefryn cymdeithas. Melys gof amdani, a gwn fy mod yn anfon cofion ardal gyfan ati, a'i dymuniadau iddi. Boed nawn ei hoes yn loew hyd fachlud. Nos lau, yng nghapel Seion (B.), bu c6r o dan arweiniad Mr. 0. T. Jones, yn canu cantata.F Deyrnas a'r Brenin, a chawsant dy llawn, a rhoisant foddlonrwydd cyffredinol.— Mae Eglwys Seion hefyd wedi galw'r Parch. Wm. Thomas, Llandyfi, De Cymru, i ddod yma i'w bugeilio, Nos Wener, yn ysgol uch-elfennol y bech- J gyn, o dan lywyddiaeth y Prifathro M. E. Philips, B.Sc., cynhaliwyd social flynyddol y Y.W.C.A. Caed canu ac adrodd, a llawer o ddonioldeb a chymorth i chwerthin, gan foneddigion a boneddigesau o'r lie ac wedi'r cwrdd digrif, eisteddodd deucant wrth fwrdd y wledd, ac arno yr arlwy felysaf o ddarpar- iaeth y chwiorydd caredig, fel y medrant hwy wneud, a diolchwyd yn fedrus ar y terfyn gan Mrs. Dr. Jones, Isallt, a Mrs. R. Griffith, Tegfan. Mae Capel y Tabernacl (M.C.) wedi ei agor ers 50 mlynedd, ac mae tri o'r aelodau wedi bod yn aelodau ar hyd y daith, sef Mrs. Hughes, Tan y graig Mr. Richard Owen ac R. R. Hughes. Bwriedir dathlu'r amgylchiad yn ystod Chwefrol. Mae cor o dan arweiniad Mr. J. Tudor Owen, A.R.C.M., yn hogi eu cleddyfau i frwydr yn Eisteddfod Bangor. Rhwydd hyut icldynt yn eu hymgyrch gerddgar. o
Hoelen ddaw'n Hoelon Wyth
Hoelen ddaw'n Hoelon Wyth Pregeth y Cae Yd. CAMPUS o beth ydyw gwledd heb ei disgwyl. A'r Saboth cyn y diweddaf, clywais wr dieithr o'r wlad yn pregethu, a chefais gystal bias arno res codi gwewyr arnaf i ysgrifennu gair neu ddau amdano. Gwr ieuanc ydyw, tywyll o bryd a hardd ei wedd, tal a lluniaidd ei gorff. Edrychai'n wylaidd, a llawn o'r gostyngeiddrwydd hwnnw wedda i urddas y weinidogaeth. Mae ganddo lais clir a dymunol, er ei fod braidd yn gynnil ohono ar ddechreu'r moddion ond cyfyd i ychydig hwyl" cyn diwedd yr oedfa. Cymraeg croew Lleyn sydd ar ei dafod, a digon ohono a phan etyb hynny ei ddiben well, cawn air Saesneg, yn lie bathu rhyw erthyl o air Cymraeg. Derllyn y penhillion a'r bennod yn ystyriol ac mae ei weddiau yn afaelgar. Dyma un erfyniad yn oedfa'r bore, wrth gofio'r rhai caled arnynt :— r Mae''n cy-pyrddan ni i gyd y 1 i v y bore t: yma. Ond mae yr y ddinas yma blant bach troednoeth, coesnoeth, pennoeth, yn crwydo'r heolydd. 'Does neb yn £ gofalu amdanynt. Maent yn edrych yn wancus yn ffenestri'r siopau, ond mae'r gwydr oer rhyngddynt a'r nwyddau. Cofia hwy, Dad trugarog." A dyma un arall o weddi'r noS Feallai fod yma rai wedi dod gydag am- canion gwael, ond fe elli Di eu bendithio. 'Doedd Ann Griffiths fawr o feddwl y buasai'n cyfarfod a Duw yn yr oedfa honno, er ei bod wedi dyfod yno gydag ) amcan gwael iawn." I Prif nodwedd ei bregethau oedd meddylgar- wch treulia oriau lawer mewn myfyrdod, gallwn feddwl. Mae'r meddyliau wedi eu naddu'n llyfn, a'u morteisio i'w gilydd yn gywrain, ond nid oes dim hedegog yuddo, mewn nac iaith nac arddull. Yn anffodus, nid ysgrifennais air o bregeth y bore, a gwell peidio a dweyd dim ond mai ffydd fel nerth yn wyneb croes ac aberth bywyd oedd ei mater. Ei destyn y nos yd- oedd Marc iv. 28:— Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hitn yn gyntaf yr eginyn, yna y dywysen, yna yr yd yn Ilawn yn y dywysen." A dyma rediad y bregeth Yr un Un sydd wedi creu ein byd ni a'r byd mawr ysbrydol, ac am hynny y mae unoliaeth rhwng y ddau. Fe welodd Iesu Grist hynny, ac wrth ddysgu am Dadolaeth Duw,cyfeiria at Ei ofal am yr adar bach a'r lili. Mae Cae Yd yn dysgu?3 I-Fod yna gyfaddaster yn y dynol i dyfu'r hadau dwyfol Y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun." Nid oes dim drudgery yng ngwaith y ddaear dim eisieu meistr i edrych a gofalu ei bod yn gwneud ei gwaith. Ond pan y mae wedi ei darostwng i oferedd," i dyfu drain a mieri, y mae yn gruddfan ac ohneidio." Pechod sy'n creu swn a dadwrdd. Rhyw lercian o gwmpas y tafarn- au y byddis yn gweld yr heddgeidwad chwarae teg iddo, fe wyr lie mae ei eisieu. Nid oes angen amdano yn Eglwys Dduw yma y mae'r hadau dwyfol yn tyfu'n ddistaw. Mae'r hedyn bach a'r ddaear laith yn ddau beth gwahanol iawn, ond unwaith y'u priodir, nid ydynt yn cweryla. Peidiwn ag anob- eithio uwchben daear dynoliaeth mae Duw am wneud gardd iddo'i Hun ohoni. Mae gan Williams Pantycelyn ddymuniad beiddgar pan ddywed p: t Planna'r egwyddorion hynnj T~ r~ 1g§ Yn fy enaid bob yr un Ag sydd megis peraroglau » r~ «•- r r~ Yn Dy natur Di Dy -7-, —gofyn am i'r blodau sy'n harddu cymeriad Duw ei Hun gael eu plannu yng nghalon lygredig pechadur. Mae'n rhaid i'r Beibl- Gair Duw—fod yn y galon. Os am wybod am y bywyd a'r nerth sydd yn yr hedyn, rhaid ei weld, nid yn y granary, ond ar ol iddo egino a thyfu. Dowch i'r Ysgol Sul ond conwch mai yn y granary yr ydych, a rhaid cael y Gair i'r galon, a byw'r egwyddorion yn feunyddiol. Mae'r Beibl vnjlyfr sy'n son am Dduw, ond nid oes ddeffiniad o Dduw ynddo, ond hanes yr hadau dwyfol yn tyfuyn naear dynoliaeth yr eginyn yn y patriarchiaid y dywysen yn yr hen broffwydi a'r yd yn llawn yn y dywysen yn nynoliaeth berffaith Iesu Grist. W2.-—Y mae'r dwyfol yn ymddangos yn y dynol mewn cynnydd. Teyrnas Dduw yn eginyn yn y galon, nid yn wisg, nac yn gawod o berlau. Nid ffrwythau ydyw crefydd, ond hadau, a'r rhai hvnny'n tyfu, a dwyn blodau a ffrwythau. 3—Mewn cynnydd parhaus Ni fu cae yd erioed yn tyfu un diwrnod, ac yn peidio dran noeth, ond tyfu'n barhaus a chyson. Mae rhai yn ddigon boddlon os cant ddiwygiadfbob deng mlynedd, a gwneud dim rhyngddynt. Gwareder ni rhag bod yn debyg i Lyn Beth. esda, yn cael ein cynhyrfu yn awr ac eilwaith ond rhodder yn ein calonnau ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol. f f | 4—Mewn cynnydd sydd wedi gwreiddio mewn aberth. Fe welodd loan dyrfa fawr yn eu gynnau gwyuion ond yng nghanol y r orseddfainc yr oedd Oen megis wedi ei ladd. Ar linell y gwaed y cawn ni'r nefoedd. Peidiwn a chanu am Ganaan a gwynfyd, heb ysbryd y gwaed yn ein calonnau. Trwy ganol llinell y gwaed yr eir trwy hudoliaethau ac anawsterau'r ddinas fawr, a holl faglau'r diafol. Diolch yn fawr amdani. Y meddy'iiau n ffres, a'r traddodiad ohonynt yn neilltuol ddymunol. Ein teimlad ar ddiwedd y dydd oedd "Nym a'th wrandawn drachefn yn y peth hwn. Bootle. J.D.R. -0-
Rhwng Wil Bryan a Thomos Bartley.
Rhwng Wil Bryan a Thomos Bartley. DYMA feirniadaeth ar Ymddiddan rhwng Tornos Bartley a Wil Bryan am Ferched y Bleidlais, sef testyn cystadleuaeth yn Eis- teddfod Gadeiriol Bethesda Fawr yn Arfon y dydd o'r blaen Ymgeisiodd pump yn y gystadleuaeth wreiddiol a diddorol hon. Ond nid camp hawdd yr ymgymerasan t a hi. Yr oedd gofyn dychymyg cryf i weld sut yr edrychai dau gymeriad mor hynod, ac mor wahanol i'w gilydd, ar destyn mor ddiweddar. Pwy bynnag oedd am lwyddo, yr oedd yn rhaid iddo wneud i Tomos Bartley siarad fel y crydd o'r Twmpath, y gwladwr diniwed, caredig, ac anwybodus ac hefyd wneud i Wil Bryan roi Ilais i ftraathineb byw y bachgen direidus, nwyfus, a lljrgatgraff hwnnw. Yng ngeiriau Wil, rhaid i'r ddau fod yn true to nature y ddau gymeriad a greodd Daniel Owen. Ar ben hyn oil, pe bae modd, dylid cadw tafod- iaith a dullweddau iaith y ddau o'r Dreflan, yn union fel na ellid cael Sam Weller yn Saesneg i siarad dim ond iaith Llundain dair cenhedlaeth yn ol. Dyma'r cynhygioii Un o'r Llan.-Ysgrifenna dafodiaith Arfon ar ei garwaf, heb ymdrech o gwbl i gadw at lafar gwlad Tomos a Wil, ond ambell Twbi shwar. A gwaeth na hynny lawer, nid yw'r ddau ganddo yn debyg o ran eu dull o feddwl i gymeriadau Daniel Owen. Nid yw'n am- ddifad o bertrwydd chwaeth, chwarae teg iddo. Gwnai ymddiddan go dda pe gelwid yn Sgwrs rhwng Dau Hen Law o Sir Gaernarfon. Blctnca.-Ei Chymraeg hi yn yr eithaf arall, yn rhy dda, hynny yw, yn rhy lenyddol a gramadegol, ac eithrio rhyw hanner dwsin prin o ffurfiau gwerinaidd. Ymddiddan ddifnfol sydd ganddi, mewn dull rhy draeth- odol. Disgwylid mwy o ystwythter a natur- ioldeb ar y fath destyn. i Giraldus.-Y mae ef yn llawer mwy bywt na Blanca, a'i Wil Bryan yn nodedig o dda o ran ,ei ysbryd direidus anystyriol, a i ffraethineb. Y mae ei bwt pregeth ar false martyrs cystal a dim yn y gystadleuaeth, ac yn hollol yn null Bryanaidd Daniel Owen. Ond gwan yw Tomos Bartley. Ni fuasai byth yn dweyd wire on, ac onar breit. Methodd Giraldus a chadw'r ddau gymeriad ar wahan. Methiant fu hefyd yn ei dafodiaith. Y mae corff yr ymddiddan yn Uafar gwlad Arfon a rhyw eiriau o FfIirt fel currants mewn torth frith. "1 "1 I iiir enghraitlt, cawn coesa ganaao, swpar, cerddad, minna ac adra. Ond yn yr un frawddeg, adre, tamed, affeth, anwedd. -M! Cymydog i Tomos Bartley.—Dyma r unig un Wyr lafaegwlad Fflint yn berffaith. Efe yw'r goreu o ddigon yn y gystadleuaeth yn hyn o beth, ac eithrio ei to be shwar am twbi shwar Daniel Owen. Stroc dda yw gwneud i Tomos gymryd peder C Jegwarth o ysbryd neidar a thenti riwbob ar ol rhynnu wrth fynd i nol moch i Wern y mynydd. Hollol naturiol hefyd oedd meddyginiaeth Tomos i'r syffragettes, sef eu trin fel y byddai mam Catrin y Tyrpeg yn gwella y ferch anffodus honno pan ddoi ffitia stencs heibio iddi- tywallt tynied o ddwr oer ar ei gwar hi. la," cytuna Wil, "anî eu bod mor hot- headed. Gwych hefyd oedd i Lloyd George atgoffa Tomos o Bob Lewis a'i syniadau, a gwaith Wil yn canmol ei fam a Mari Lewis fel profion o ragoriaeth merched, a'u hawl i'r bleidlais. Ond y peth goreu wna Wil yn yr ymddiddan yw disgrifio golygfa mewn llys gwladol, pan daflodd suffragette y Beibl at ben yr ustus. Gelt.—Ysgrifennjrdd hamddenol, yn cym- ryd digon o amser i ddisgrifio'r olygfa yn y Twmpath cyn i Wil guro yn y drws fel rhagair i'r ymddiddan. Toreth o ffraethineb ganddo, ac yn cadw'r ddau gymeriad yn dda dros ben ar wahan." Gwych ydyw'r crynnu ddaw i lais Tomos wrth ofyn i Wil a ydyw'r suffragettes yn gneud rhyw niwed i foch, gan yr ofn oedd ar ei galon iddynt wneud rhywbeth i'r moch ifinc oedd yn y cut cyn iddynt besgi. PWy hefyd ond Wil Bryan fuasai'n meddwl am flino'r hen grydd a'r syniad y gallai Barbara gael ei chymryd am suffragette ped ai i un o'r trefi mawr ? Disgrifia mewn hwyl suffragette yn rhoi ami noled i ryw blisman ym Mirmingham. Cadarn wr y gyfraith fel pe'n treio cael cusan, ond yn lie hynny yn cal slight touches efo'r morthwyl yn i drwyn now and then, a process which did not improve his temper," yn siwr. Y darn goreu ganddo yw'r hanes byw sydd o Tomos a Barbara Bartley wedi mynd i'r Steddfod yn Wrecsam i wrando ar Lloyd George, Xr suffragettes yn sgrechian, a Tomos yn methu deall pam yr oedd y dynion mor frwnt wrth ferched yn "cal ffitie," ond pan ddeallodd pwy oeddynt, yn ysu am roi pwnied drosto'i hun. Bai mawr Gelt yw iddo roi cymaint o'r papurau newydd i mewn. Pob hanes amlwg am yr ymgyrch fe'i ceir yma. Ac er iddo ymdrechu i gadw at dafodiaith Fflint, methodd yn ddybryd mewn rhai pwyntiau. Ni ddywedir ydi e yno am ydi o. Ni throir a yn e yn teimlad, dillad, arnat, etc., a blinir dyn gan yr amlhau diddiwedd ar anwedd ac affeth an odds. i- Gwelir fod y gystadleuaeth yn gorwedd rhwng Gelt a Ghymydog Tomos Bartley. Celt yw'r llawnaf, ond aeth ei ysgrif yn ormod o gatalog o orchestion merched y bleidlais, a methodd yn ddybryd gyda'r iaith weithiau. Gymydog Tomos Bartley, drachefn, yn hollol gywir gyda'r dafodiaith, a'r ddau gymeriad yn hollol naturiol. Yn He amlhau brawddeg- au Daniel Owen yn eu geneuau, gwnaeth i'r ddau siarad yn naturiol ar y pwn c, ond nid yw mor gyfoethog o arabedd a Ohelt, na'i daraw- iadau hapus hanner cyn amled. Yr unig beth allwn benderfynu arno, ar ol hir betruso, yw rhannu'r wobr rhwng Celt a Ghymydog Tomos Bartley. E. TEGLA DAVIES. « IFOR WILLIAMS.
Advertising
Telephone Royal 1157 Established 1864 ROBERT ROBERTS' ESTATES AGENT, 33 Metherfleld Road South* Has Property to Let In various parta of the own. Mortgages arranged. Valuationsmade Established 1884 'Phones 205 ftootle —— 547 T. WOOSNAM ROBERTS, K.A.I., Estate Agent and Valuer, Bootle Estate Office, Practical, Prompt and Reliable Management of all Classes of Real Estate. 52 STANLBY ROAD, BOOTLE, (2 doort from Bedford Road). Telegrams: "WOOSNAM, BOOTLB Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, ESTATE AGENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rente per- sonally collected. Purchases and Sales ne- gotiated. Mortgages arranged and Insurance, effected. THOMAS fA JONES, ESTATE AGENTS VALUERS. IMVBSTMEH? ISUILDIVGS. 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No. -3868IBank, Properties Bought and Sold, Mortgages arranged. Valuations made. Rents collected, TEL. 117 Airniij). ESTABUSHSD 1872. Stephen Roberts & Son, ESTATE AGENTS & VALUERS. 137 Everton Road, Liverpool. Properties carefully managed. Ronta per- sonally Collected. Purchases wad 8.111.1"11 negotiated. Mortgages arranged and In surances affected. Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER &,PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool Tili B.&HK 4084. Excellent Building Land for Sale in the Vale of Clwyd. Lewis & Bromley Edwards, ESTATE AGENTSj 102 Kirhdale Rd. Liverpool Tel. 1840 Royal. 0. JONES WILLIAMS, F.A.I., ESTATE AGENT & VALUER, 17 Boundary Place, Moss St. Liverpool. Est. 1885. Telephone: 567 Royal. Telephone 8586 Ba nk JONES HUGHES, ESTATE AGENTS, 13 Whitechapel, Liverpool PROPERTIES CAREFULLY MANAGED Rents Collected. R. E. HUGHESJ, Estate Agent, Surveyor Hiif Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'head. Has Houses to Let and for Sale in various parts of the Town and out districts Also Land to be Sold for Building Ur0ses. Advances made to Builders. Estates laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. D. GRIFFITHS & SON, 221 Breck Rd, L'pool PIANOS AND ORGANS from By allth e 8' PER? leading MONTH makers. TELEPHONE—456 Anflal ti1 LADIES BLANCHARD PILLS Ate unrivalled r01 all Irregularities, &o., they speedily afford relief and never fail to alleviate all sufferings They supersede Pennyroyal, Pil Cochia, Bitter Apple, &0 BLANCHARD'S are the best of all Pill for Women." sold in boxes, L/LJ, by Boors' Branches, TAYLOR'S Branches, and all Chemists, or post free, same price, from ESLlE MARTY N. Lte. Chemists.34 DaistooiLaoe, London. Mr HARRY EVANS, Conductor. Adjudicator, Organist Teacher of Singing, 26 Friacas Avenue. Liverpool Û, W. HUGHES^. & L.T.S.C Urwtinydd y Canu yng Nghaptt M.C. Prine" Read) Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, ac Arholwr. I'arotoir I rngeiswyr at Dystysgrifau uweka, Coleg y Soljfa, Hen Nodiant a solffa, 70 KINGSLEY ROAD, LERPWL. —Mm P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'pool, TELEPHONE-261 BOOTLE. TsUphont 151 Aaflsltf, JOHN JONES, II FUNERAL FURNISHER. !? 9 ? Pfesto? GroVe,Rchy Lia. LIV 'RPOOL. StYle.1 Quality. Eccnomy, Attention. SUPERIOR WBDDIN0 BROOQEAMg, Xstilstates imltisliftg all charges CM .410 am aralll or an on-Ir. £ Teleptione,-F#n .Atteld, J. T. JONES, funeral Undertaker, 55 & 57 BrecK Road, L'pool Funerals personally arranged to all parts. Telephone.-215 Old Swan." 16 Whitland Rd., near Sheil Rd., Fairfield. R. W. EVANS Funeral and Wedding IDirectop, (Agent for Thomas Porter de Sons, Ltd.), All orders personally attended to throughout at moderate charges. Highest testimonials can be seen. NO PEELIMINARIEIiFEKS MONEY LENT. PRIVATELY In large or small sums (not less than £10) .ON BORROWER'S OWN PROMISSORY NOTa ESTABLISHED FORTY-THREB YEARS and now lending UPWARDS OF A80,000 ANNUALLY, For Prospectus and Terms apply to GEORGE PAYNE & SONS 3 CRESCENT ROAD. RHYL AND 16 SCHOOL LANE, LIVERPOOL. Attendance every Thursday afternoon at 1.5 KING STREBT, CHESTER. Romologo y Plait. GWERSLYFR I DDOSBARTfilADAU CYMRAEQ Wedi ei:ysgrifennu a'i drefnu dan nawdd Undeb Tsgolion M.C, Lerpwl, gan OWEN EILIAN OWEN. Pris 4c.,sdrwy'r post Sc. Cyhoeddedig yn Swyddfa'r Brython. Bd. Williams & sons, COAL, COKE AND CANNEL MERCHANTS Head Office: 7 Rumford Street Depots- Marsh Lane, L. <5 Y Ry. 217a Crown Street.. and 3 Jackson.Street, BirKenhead. Special Prices for Dealers, Write for Terms Ceinion Rhuddfryn ♦ Yn oynnwys pigion o'i englyniou a'i gywyddaa wedi eu dethol gill ANTHROPOS, a than olyg- iaeth ei fab, y Parch, LEWIS MORRIS, Wrexham S ynghyda darlun o'r awdur, a nodiadau bywgraffyddol gan Dr. Cerny w Williams. v Argraffiad Rhad (mewn amlen),;6ch Trwy'r post, 7o, Llian 1 h HUGH EVANS A'I FEIB. SWYDDFA'R "BRYTHON J.