Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Rhifyn y Gaeaf, Y BEIRNIAD CYLCHGRAWN CHWARTEROL dan nawdd Cymdeithasau Cymreig y Colegsa Cenedlaethol a than olygiaeth J. MORRIS] JONES ATHRONIAETH HENRI BERGSON Yr Athro D. Miall Edwards RHYS GOCH AP RHICCERT Ifor Williams Y GYMRAEG A CHENEDLAETHOLDEB H. Parry Jones ENWADAETH Y Parch. John Williams GWYDION A HUAN Y Golygydd CREFYDDWYR IEUAINC Y DYDD Y Parch. E. Tegla Davies DIARHEBION SION TUDUR TRAFOD PYNCIAU CREFYDDOL F D. J. Jones GALARGAN AM YR ARGLWYDDES RHYS Gwili HAWL AC ATEB NODIADAU Y Golygydd ADOLYGIADAU gan yr Athrawon D. Will- iams, Syr E. Anwyl, y Parch. H. Harris Hughes, a'r Golygydd. Lerpwl Hugh Evans a'i Feibion, Argraffwyr, A 856, 858.StaWey Road. CATHLAU BORE a NAWN ALAFON. Uyfr SWLLT, wedi ei rwymo mewn llian hardd a da, yn cynnwys 87 o Delynegion a Dyriau, a 6 o Ddarluniau prydferth. Ffrydiau gloewon o ffynhonnau myfyrdod yw yr holl ganiadau. Er yn gwbl syml a di-ch&ydd, y mae coethder a cheinder y lienor ar y gwaith. Ceir yma graffder y Celt i ganfod lliwiau, a'i galon i ganu natur.-Pedrog, yn T Brython. I ychydig iawn o ddewisolion yr awen bur y rhoed y ddawn i gymhlethu miwsig iaith a meddyliau calon fel ay gwneir yn y gyfrol hon.— r Goleuad. Diau gennym y rhoddir croesaw helaeth i ganeuon bardd mor felus, ac mor dyner ei gyffyrddiad a'i feddyliau.-Anthropos, yn T Faner. Wedi darllen y llyfr drwyddo gyda Ilawer o fwynhad, gedy'r darnau argraff o fawrfrydigrwydd a cheinder arnom.-Rbys y. Hmos, yn rr Herald. Rhodded ini ragor o'r pethau hyn, sy'n mynd yn syth i'r galon, ac yn aros yno byth.—T. Gwynn JoneS) yn r Beirniai. Rhoir y llyfr ymysg ein hoff lyfrau, i fod yn gydymaith ar gyfer ambell crig o orffwys a mwynhad.-O. M. Edwards, yn 'Cymru. Alafon's Cathlau will place him among our foremost poets, a place which his undoubted merits had not so far won for him. His Cathlau is the most important volume of Welsh poetry since the publication of Mr. T. Gwynn Jones's latest book.—W. J. Gruffydd, yn Wales. Y Llyfr i'w gael o SWYDDFA "CYMRU," CAERNARFON. Gofynned y rhai a garent ei gael i'w llyfrwerthwyr anfon am gopiau, os na bydd ganddynt rai ar law. YLLADMERYDDam 1914 Cylchgrawn Misol yr Ysgol Sabbothol. Dan olygiaeth y Parchn. Evan Davies,Trefrlw T. E. Davies, Abertawe; Proffessor D. Jenkins,,Mus. Bac., Aberystwyth; Pris Dwy Geiniog y Mis, Cynhwysa y Rhifynau o'r Lladmerydd," am y Flwyddvn 1914. Erthvglau ar bethau Beiblaidd Gen y personau canlynol Parelin. J. Morgan Jones, Oaerdydd John Owen. Anfield, Liverpool; J. E. Davies; M.A., Llanelli; D. Hoskids, M.A., Caernarfon; W. Evans. M.A., Pembroke Dock; J. Puleston Jones. M.A., Pwllheli; W. B, Prytherch, Abertawe J, Pritchard, M.A., B.D., Llanberis R. J. Rees, M.A., Aberystwyth; Proff. R. Mo-ris, M A., B.D.; Griffith Hughes, B.A., Bethesda, J' Talog Davies, Liverpool; Dr. R. Roberts, Bhuallt; D. L. Rees, B.A., B. D., Aberaeron; M. H. Jones, B. A., Ton Peter Hughes Griffiths, Llundain; Mr. John Rowlands, M.V.O., Caerdydd. ac eraill. Pregethau Esboniadol ar yr Epistol at yr Hebreaid Gan y Parch. D. Oharles Davies, M.A. Ymson ac Ymgom: Gan y Parch. Peter Hughes Griffiths Llundain. Ein Pobl leuainc: Gan y Parch. W. E Prytherch, Aber: tawe, Nodiadau Arnrywiol: Gan y Parch. Evan Davies. Tref- riw. Hefyd, rhoddir lie arbenig i'r Nodiadau ar Faes Llafur Undeb Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Cal- finaidd. sef y rhan olaf o Esboniad ar Yr Epistol at yr Hebreaid, Gan y Parch. T. E. Davies. Darnau Barddonol, &c. Tonau Newyddion, Ac ymofyner a r OyhoBrldwr-B. W. NcatM D»lgeU»u LLYFRAU CYMRAEG. BEIBLAU. TESTAMENTAU. LLYFRAU HYMNAU A THONAU. CANEUON. Telir sylw prydloa i archebion gyda'r post Hugh Evans a'i Feibion, SWYDDF A'R "BRYTHON," 358 STANLEY ROAD LIVERPOOL!
[No title]
CROESO'R PLANT.—Nos Wener ddiweddaf, ar wahoddiad Cymdeithas Cymru Fydd An- field ac Everton, ymgynhullodd tuag 80 o blant i fwynhau arlwy flynyddol i'r llygad a'r glust yn ogystal a lluniaeth a chwpaned o de fel diweddglo ar y cwbl. Yr oedd yr ystafell- oedd wedi eu haddurno yn brydforth, diolch |i egnion clodwiw Mri. D. J., Williams a Russell Edwards. Derbyniwyd y plant gan y llywyddion, Mrs. T. J. Thomas a Mr. John Herbert. Cafodd pob plentyn, trwy garedigrwydd Mrs. Thomas, anrheg dlws yn y Grotto, oddiar law Miss Alice Jones, oedd wedi ei gwisgo yn briodol iawn yn yr hen ddiwyg Cymreig. Trefnwyd rhaglen ddifyr i'r plant gan Mrs. H. H. Sharp, Mrs. H. E. Jones, Misses H. E.jWilliams, a Miss Evans, Gwalia, yn cynnwys perfformiad swynol o chwarae- gerdd (" Fairy Play ") gan blant Ysgol White- field Road (Defective School), o dan gyfar- wyddyd Miss H. E. Williams, i'w mawr glod. Yr oedd y rhan luniaethol (ref reshments) yng ngofal diogel Mrs. Kennison, a Misses Fanny ac Euronwy Jones. Ar ran y plant, anrheg- wyd Mrs. T. J. Thomas gan y plentyn ieuengaf a blodeuglwm hardd fel arwydd o'u gwerth- fawrogiad|o'u caredigrwydd. Hefyd, cymer- wyd llun "y cwmni gan Mr. G-wilym Mills cyn iddyntlymwahanu. Terfynwyd tua 10 o'r gloch, a phawb yn tystio iddynt fwynhau noswaith ddiguro. Wele'u llun, oddiar photo Carbonora Daeth Mr. Granville Bantock i Lerpwl yn un swydd ddydd Sadwrn diweddaf, sef i glywed 'yr Undeb Corawl yn mynd dros ei Vanity of Vanities yn y Philharmonic Hall, sof gogyfer',A'u cyngerdd wythnos i nos Sadwrn nesaf. Hwn oedd y tro cyntaf iddo glywed ei waith newydd a phan gododd ac y daoth y miaou ar y diwedd, yr oedd ei deimladau inor ddrylliog nes ei lwyr orchfygu wrth geisio datgan ei ddiolchgarwch i Mr. Harry Evans a'i facwyaid am berffeithrwydd ac eneiniad eu canu,—canu a. ddatguddiodd lawer o brydferthion y gwaith oedd yn guddiedig cyn hynny, hyd yn oed iddo fo'i hun, ebe'r awdur. > Daoth cryn gant a banner o Gymry'r Glannau ynghyd i Westy'r Exchange,nos Wener ddiweddaf, sef i'w dawns flynyddol a gynhelir bellach yn ddifwlch ers dwy flynedd ar bymtheg, ac sy'n boblogeiddiach bob tro. Mr. Arthur Venmore oedd capten y pwyllgor eleni, a llywiwr y ddefod, yn cael ei gynorth- wyo gan y Mri. H. O. Daniels, Willard Fox, J. E. Jones, C. Trevor Lloyd, G. R. Evans, H. Williams, R. Humphreys, T. W. Lloyd, E. E. Morris, J. Evan Morris, Hugh Pierce, Glynne Roberts, B.A., R. Rees Thomas, W. A. Thomas (ysgrifennydd), ac yn y blaen. Croesawid y dyfodiaid ar riniog y ddawnsfa heno gan Mr. a Mrs. T. Taliesin Rees, ac yr oedd harddwch yr ystafell, a gwychtor gwisg y rhianedd a'u cymheiriaid, y tuhwnt i ddim a fedr yr iaith Gymraeg eu disgrifio. Darfu- wyd dawnsio tua dau ar gloch y bore Mr. Willard Fox yrf arwain y gweddill ar ganu Hen Wlad fy Nhadau. Dyma gerdyn y saig a fwynhawyd rhwng deuran y ddawns :— Isgell Ceuledig. Rhimyn Lleden ac Addail Rwsia. Pastai Petris gyda Gwin Seres. Cyw, Ffolen, Tafod, Pastai Twrci. Cig Eidion Rhost. Cig Eidion wedi'i wasgu. Bwydlys Golaeth. Bwydlys Tomato. Bwydlys Clorion. Afal-orati Rhewedig. Poten Fanila Exchange. Cyffeithfwyd Sioclet. Ceuled Ffrwyth. Selsigen. Teisen Cnau Groeg. Deugrasenau. Ancwyn -9- Yn yr ail drengholiad a gaed yn Birkenhoad ddoe (ddydd Mawrth) ar Mr. Edward Bodden' y Cymro ieuanc o Landderfel a gaed wedi boddi bythefnos yn ol yn un o'r dociau, ni chaed dim goleuni ar sut y daeth i'w ddiwedd, ac y mae'r cydymdeimlad dyfnaf a'i rieni a'i deulu trallodus yng N'ghymru. -Q.- Y Parch. Wm. James, Abertawe (sef Cadeir- ydd Undeb Annibynwyr Cymru) a'r Parch. Ben Davies (y bardd o Banteg), dyna'r ddau gennad melys sydd i gadw cyfarfod pregethu eglwys Park Road nos Sadwrn a'r Sul nesaf. Trefn yr oedfaon i'w gael yn yr hysbysiad. Mewn amryfusedd, dywedwyd yn Y BRY THON diweddaf mai Mr. R. Ernest Jones oedd cadeirydd y ddarlith yng Nghymdeithas Cymry Fydd Upper Parliament Street, pryd y dylasai fod Mr. W. Ewart Jones, sef mab y diweddar Mr. Hugh Jones, Kingsley Road. Mewn amryfusedd hefyd y gollyngwyd enw Mr. Lewis Roberts, Bootle, o'r rhifyn diwedd- af, sef yn hanes cyfarfod unedig Temlau Eryri a Gwynedd, lie y caed cyfarwyddiadau gwerthfawr ganddo parth rheolau ac am- canion yr Urdd. AITOHYDEDDU'E TEILWNG.-Yn Yagol M.C. Stanley Road, y Sul diweddaf, cyflwynwyd i Mr. Elias Morris lun ei ddosbarth ac yntau (disgyblion presennol a nifer o'r hen) a Beibl yr Athraw, am ei wasanaeth ffyddlon fel athraw am nifer faith o flynyddoedd. Y dos- barth oedd yn anrhegu, a gwnaed y cyflwyniad oyhoeddus ar eu rhan gan y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D. f f 1 Y Parch. J. G. Moelwyn Hughes, M.A., Ph.D.sydd i gyfarch y Gymdeithas Genedl- aethol nos yfory (nos Woner) ar Y Dychymyg ac i'r neb a edwyn y bardd-athronydd, diau y ceir traethiad trwm ond nid trymaidd, sereh hynny. Deued pawb mown pryd, ac nid bratliu drwy'r drws gwiclilyd pan fo un o'r sylwadau goreu ar ganol cael ei ddweyd. Beth yw dychymyg ? Hyn, ebe'r diweddar Barch. Bryniog Roberts, Caernarfon :— Nwyd, anian, enaid dynol,yw y chwim, Fyw Ddychymyg crwvdrol I belldra neidia yn ol,— Hed i fyd y dyfodol. -o- CYMDEITHAS LLEN A CHERDD DA V ID STREET.—Cynlialiwyd y trydydd cyfarfod gan y Gymdeithas uchod nos Fa wrth, y 3ydd o Chwefrol. Noson Etholiadol cymerwyd plaid y Ceidwadwyr gan Mr. R. Llew Griffith y Rhyddfrydwyr, Mr. J. R. Roberts y Sosialwyr, Mr. Peter Roberts y Stifffagists, Miss Annio Morris, 18 Parkiield Road. Cyf- arfod hwyliog iawn, cynhulliad da, ac anerch- iadau rhagorol. Yr oedd i bob ymgeisydd ei gefnogwyr. Etholwyd y Suffragist i gyn- rychioli'r Gymdeithas yn y Senedd gyda mwyafrif mawr. YR HEN LOMBARD ANNWYL" A'I DDOSBARTH CE, GT.N.-Mr. Golygydd,—-A fydd- wch garediced a gadael i mi gael gair neu ddau eto, mewn, canlyniad i lythyr y chwaer o Oldham, gynt o'r hen Lombard annwyl ? Mae'r hyn a ddywedais am y diweddar Mr. Hugh Hughes, a chyfeiriad at gychwyniad yr achos yn nhy Mrs. Griffiths, wedi achlysuro, trwy gyfrwng Y BRYTHON, i ail-ennyn tan ar hen aelwydydd cynnes am eu hen gartref. Gwn am rai yn dod yn dderbynwyr newydd ohono, gau mor gysegredig yw gweled ychydig eiriau yn cyffwrdd a'r lie. Gwelais rai cyn heddyw yn methu ymgynnal oherwydd eu calonnau drylliog wrth son am yr hen frodyr a chwiorydd a weithiodd yn galed i godi a chynnal yr achos. Mae llu ohonom yn barod i uno i ddweyd Yr hen Lombard annwyl Oddiyma y cawsom fel Cyfundeb ein Proff. dysgedig J. O. Thomas. Mae yma ddau ohonom yn y Rhyl eisteddai yn yr un set ag ef pan wnaeth ei araith gyntaf yn y seiat bach, gan adrodd beth oedd ei gymhellion i'r weinidogaeth. Hefyd amry\v ereill ohonom dorrodd allan yn gyhooddus gyntaf. Hefyd, Miss Gwladys Pritchard a'i chwiorydd talentog, sy'n hysbys trwy'r ddinas ynglyn a cherddoriaeth, ac wedi bod yn ffyddlon fel organydd. Diolch i'r chwaer o Oldham am ateb a fy nghywiro ynghylch dosbarth y gegin. Nid oeddwn wedi sicrhau, ond yn meddwl mai un oedd yn fyw ohonynt. Felly mae fy nghamgymeriad i wedi manteisio i wybod y nifer a phwy ydynt. Ond carwn roddi gair bach o eglurhad ynghylch Mrs. Jones, Rhuddlan. Fe euthum i heddyw yno i ymholi,—yn gyntaf at y Parch. D. Jones, y gweinidog, i holi am un o'r enw, ac yn ferch i'r diweddar Barch. W. Roberts, Amlwch, ond ni wyddai am yr un yn y wlad oddiyno, euthum at Mrs. G. Jones, Hendre Farm, gynt o Richmond Terrace, Lerpwl, un o hen ffydd- loniaid Lombard Street; ond merch ydyw hi i'r diweddar Barch. Wm. Morris, Rhuddlan, ac hwyrach mai dyna lie y mae camgymeriad y chwaer o Oldham. Dywedodd Mrs. Jones y bu hi unwaith yn y dosbarth yn y gegin, a chofia'n dda lle'r oeddynt yn darllen, mai un o'r Psalmau, gan adrodd tipyn o'r sylwadau, a'r hwyl gawsant gyda'r hen atliro Samuel Williams. Hefyd adroddodd ychydig o hanes yr ymdrechu i gynnal yr achos, ar ol cael capel, yn lie y ty, cyn dewis yr un blaen or gwoithient yn gaied i gasglu i brynnu eisteddleoedd a gwahanol bethau. 0 mor felys fuasai gweled y rhai erys o ddosbarth y gegin yn cyfarfod i gael picnic, a chael ysgwyd Haw. Llys Arthur, H. A. WILLIAMS. King's Avenue, Rhyl. CYMRO IEuANc SY AR I FYNY.—-Deallwn fod y cyfaill ieuanc, Mr. R. O. Griffith, efryd- ydd ym Mhrifysgol Lerpwl, wedi ennill y Sir John Willox Scholarship, gwerth £ 50 y flwyddyn," am ddwy flynedd, allan o'r 18 goreugwyr oedd yn ymgiprys amdani, sef mown arholiad ar Organic, Inorganic and Physical Chemistry, and Laboratory vrork. Nid yw eto ond 19 oed,—y fo yw'r ieuengaf a'i henillodd erioed, a chredwn mai ofe yw'r Cymro cyntaf i'w chael. Dyma'i gamre breision hyd yma Enillodd ysgoloriaetli i fyned i'r Wallasey Grammar School, ac ar derfyn ei dymor yno enillodd ddwy ysgolor- iaeth gwerth f,85 y flwyddyn am dair blynedd i fyned i Brifysgol Lerpwl, a chyn i'w dymor ddod i ben yno, wele fo'n cipio un o brif worbwyon y Brifysgol. Mab ydyw i Mr. a Mrs J. P. Griffith, 71 Park Road, Seacombe, a llongyfarchwn ef a hwythau ar ei Iwyddiant eithriadol, gan ddymuno iddo hefyd hir oes ac iechyd i ddwyn rhagor o anrhydedd iddo'i hun ei deulu a'i genedl. Uwch uwch yr el, Dringed i gadair angel. MARWOLAETH HEN FAM YN ISRAEL.— lonawr yr 20fed, bu farw Mrs. Elizabeth (Betsan) Williams, 15 Monro Street, Lerpwl, diweddar o Finffordd, Penrhyn deudraeth. Ganwyd hi yn y Bendy Newydd—rhan ucha'r Penrhyn. Yr oedd yn ferch i'r hen gymeriad hynod Sionet Pyrs. Bu'n briod a Hugh Williams, brodor o Sir Fon, a pherthynas agos a. theulu Brith wernydd,Penrhyn. Treuliodd Mrs. Williams y rhan fwyaf o'i bywyd fym Minffordd, ac adnabyddid hi yno fel cymeriad hynod o ran cydymdeimlad, cymwynsgar-- wch, a chrefyddoldeb amlwg. Meddai wy- bodaeth feddygol ar y fath oreu, a bu o was- anaetliamhrisiadwy gjrda'i chjnaghorion mewn aehosion teuluaidd. Rai blynyddau ar ol marw ei phriod, symudodd at ei phlant i Lerpwl, ac ymaelododd yn eglwys David Street, a daAtli yr eglwys i wybod yn fuan ei bod yn wir fam yn Israel." Gwnaed syl- wadau caredig amdani yn yr Ysgol Sul, a threuliwyd y Cyfarfod Eglwysig yn gyfan ar yr achos. Teimlp}r eglwys ei boc^wedi colli un arferai weddio llawer drosti. Cafodd angladd parchus. Cynhaliwyd oedfa yn y ty, y Parch. John Evans yn gweinyddu, ac oddiyno aed a'r gweddillion i Fynwent Pen- rhyn deudraeth, a gwasanaethwyd wrth y bedd gan y Parch. M. E. Morris. Mae mab iddi, sef Mr. John Williams, yn flaenor yng nghapel M.C. Soutliport. Cydymdeimlirjyn fawr a'r teulu yn eu profedigaeth.-CYFAILL. CYMRU FYDD ANFIELD.—Cynhaliwyd"ym- gomwest gynta'r flwyddyn nos Fawrth ddi- weddaf,—yr ystafell yn orlawn, a rhaglen gerddorol chwaethus ddarparedig gan Mrs. Howard Stephens fel a ganlyn :—Ar y ber- doneg, Papillons (Meyer-Helmund) Miss Gladys Stringer. Triawd, 0 hush thee, my baby (Sullivan), Misses E. Christie, D. Ison, a F. Rushton. CAn, 0 lovely Night (Landon Ronald), Miss Jeannie McMurray. Can, "Lilac Time (Williby), Miss Dorothy Ison. Can, Friend (Novello-Davies), Miss Frances Rushton encor, The Rosary." Can, Absent (Metcal,le), Miss Nora. Saunders encor, Poppies for forgetting." Ar y berdoneg, {a) At Dawn (Friml), (b) Valse (Chopin), Miss Gladys Stringer encor, Norwegian Dance." Can, The Carnival (-illolloy), Miss McMurray encor, "I know of two bright eyes." Can, Where my caravan has rested (Lohr), Miss Ison. Can, (a) Melisande in the wood (Goetz), (b) "A Summer Song" (Hardelt), Miss F. Rushton. Triawd, The long day closes (Sullivan), Misses Christie, Ison, a Rushton. Cawsant gymeradwyaeth uchel i gyd, a da gweled y pianydd ieuanc, Miss Gladys Stringer, yn cael gwrandawiad mor astud. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Miss Gwladys Prit- chard. Y llywydd oedd Wm. Evans, Ysw., Y.H., a llanwodd ei le gyda'i ddeheurwydd hysbys. Ar y diwedd, cyflwynwyd diolch gwresoca'r cyfarfod i'r cadeirydd, i Mrs. Howard Stephens, a phawb gymrodd ran, gan Mri. Henry Jones, C.D., ac Ernest Hughes. DOSBARTH DEML GYMREIG LERPWL.— Cynhaliwyd yr eisteddiad chwarterol nos Fercher ddiweddaf, yn Nheml Cambrian, Stanley Road, Bootle. Daeth tua thrigain ynghyd, a dangoswyd arwyddion brwdfrydedd adnewyddol ym mhlaid Temlyddiaeth. Yn ol adroddiad yr ysgrifennydd, ceid cynnydd o wyth yn nifer yr aelodau o Demlau oedd yn gweithio eiscfes, ynghyda sicrwydd o ych- waengiad sylweddol oddiwrth Gyfrinfa Gwynedd, Laird Street, Birkenhead, sydd wedi eihail-agor. Da clywed fod y Br. J. H. Jones (Golygydd Y BRYTHON) wedi ymuno a hi. Llywyddwyd gan y Br. Griff Davies, D.B.D., a rhodd- odd adroddiad calonnog o'i ymweliad a'r Gyfrillfa uchod. Cafwyd areithiau twym gan y Br. Parch. O. Lloyd Jones, M.A., Lewis Roberts, Arol. Eth., ac R. O. Jones, A.T.P. Canodd yr hen Chwaer Mrs. Jones bennill dwys, ac adroddwyd yn effeithiol Man-y Ch- Mrs. Roberts, Is.Dem., ac S. Ellis (Eryri). Terfynwyd mewn cywair uchel, a chyda phen- derfyniad i weithio'n rymusach fyth o blaid ein Hurdd. Diolch i gyfeillion Cambrian am eu croeso, yn neilltuol am y cwpanaid te derbyniol i'r ymwelwyr. CYNHADLEDD GROVE STREET.—Cynhal- iwyd cyfarfod yn Grove Street nos Fawrth, y 27ain cyf., o dan nawdd Undeb Ysgolion Sul Annibynwyr Lerpwl a'r Cylch. Llywydd, Mr. Edward Griffiths, Liscard. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch G. J. Williams. Darllenwyd papur rhagorol gan Miss Adams ar y modd goreu i baratoi dosbarth gogyfer a'r arholiadau. Profodd yn ddigamsyniol mai mantais i athro a dosbarth yw paratoi at yr arholiadau, pa un bynnag a gystadlant ai peidio. G-wrthwyneba rhai'r arholiadau trwy ddweyd eu bod yn meithrin cenfigen a drwg- deimlad. Y mae pob rhagoriaeth yn ddiau yn tueddu i beri cenfigen, er hynny dichon cyd- ymgais mewn ysbryd caredig a llawn cydym- deimlad. Y peth mwyaf dirywiol, fel y digwydda, ysywaeth, yn rhy fynych, yw'r diffyg paratoad priodol at y wers Sabothol ymysg yr athrawon. Mor wrthun ydyw i'r athro ddod i'r Ysgol a gofyn i'w ddosbarth,— Wel, beth yw'r wers i fod heddyw, deud- wch ? "—yn dangos ar unwaith nad yw wedi paratoi ar eu cyfer. Rhoddodd Miss Adams awgrymiadau doeth a chynorthwyol i'r athro ymroddgar megis paratoi ychydig gwestiyn- au i'r disgyblion i'w nat«b gartref yn ystod yr wythnos, ac yn ddilynol eu cywiro gan yr athro. Trwy hyn, sicrheid dau beth sefydlu'r wers yn fwy sicr yn y cof, a dysgu mynegi y wybodaeth yn eu meddiant mewn ysgrifen. Ar ddiwedd pob chwarter, rhodder prawf ar waith y misoedd cynt mewn arholiad, ac felly eu cydnabyddu a'r gwaith ddisgwylid oddiwrthjmt yn yr arholiad eyffrediiiol, fel na byddont yn treulio'u hamser via ofer gydag un cwestiwn, ondyn gofalu rhannu'r amser fel ag i'w galluogi i ateb popeth a ofynmr, ac osgoi'r perygl y syrth ambell un iddo, sef dangos ehangder ei wybodaeth gyffredinol, yn lie ateb yr hyn o ofynai'r arholwr. Yn dilyn, cafwyd cynllunwers gyda dos- barth o fechgyn gan Mr. D. J. Lloyd, B.A., ac yn ddiau manteisia'r athrawon oedd yn bresennol arni fel cynllun i'w dilyn yn y dyfodol, oherwydd yr oedd yn batrwm mewn paratoad manwl a threfn heb ym- droi'n^ddifudd gyda phethau dibwys, ond arwain meddyliau'r plant at sylweddau'r wers, gai-iiwasgu a chadw eu diddordeb yn y gwaith o'r deohreu hyd y cjTXihwysiad priodol yn y diwedd at anghenion personol y dosbarth. f .Cafwyd anerchiad twymgalon gan Mr. A. T. Evans, Liscard, ar agwedd ysbrydol y wers Sabothol, gan ddangos y pwys o ymgysegru i'r gwaith, a'r lie amlwg ddylai gweddi gael ym mywyd a pharatoad yr athro llwyddiannus. Siaradwyd ymhellach gan y Parchn. O. L. Roberts, T. P. Davies, D. Adams, B.A., y Mri. H. Denman a Salmon Evans, a'r cwbl yn gwert-lifawtogir hyn a lefarwyd ac yn cyinell y cynrychiolwyr i drosglwyddo'r genadwri a'r gwersi gwerthfawr i'r gwahanol ysgolion.
Cymry'r Alltud.
Cymry'r Alltud. CYMRODORION HULL.-Bu'r bwriad o uno Cymry Glan yr Hymyr a'r cylch mewn rhwymau cymdeithas mewn arfaeth yn hir gan un brawd yma, a thrwy hysbysebu ei ddymuniad:mewn llythyr Cymraeg yn y wasg leol y dechreuodd weithredu. Creodd ym- ddanghosiad y llith beth syndod a chrechwen ymhlith y Saeson yma, ond ba waeth, cyr- haeddodd y pwt llythyr glust a chalon amryw o Gymry, ac erbyn heddyw y mae Cymdeithas Cymrodorion wedi ei sefydlu yma, a'i mab- wysiadu'n rheolaidd gan y Fam Gymdeithas yn Llundain, a rhai o flaenion ein cenedl wedi taflu adanedd eu nawdd trosti. Y mae pob argoel y deil y Gymdeithas i gynhyddu, ac i gymeryd ei lie gydag urddas ymhlith sefydl- iadau cyfielyb cenhedloedd amrywiol ereill y ddinas boblog hon. Llywydd y Gymdeithas ydyw'r Parch. Frank Edwards, brodor o Dre- ffynnon, a llond ei enaid o frwdfrydedd ymhob achos da, ac yn is-lywyddion dewis- wyd Mr/D. J. Owen, Goole, mab y diweddar Barch.FR. CeinwenyddJ Owen, Lerpwl, a'r Athro T. R. Williams o Abertawe, sy mor Gymreig ei galon er ei alltudiad hir ym mro'r estron. Syrthiodd ein coelbren trysorydd ar Mr. Michaerj. Watkins, un o lewion Lerpwl. Tucefn i'r gwyr blaenllaw a gwladgar hyn y saif pwyllgor cryf, a diau y danghosant nod- weddion teilyngaf a delfrydau uchaf1 y Cymro yn deg ac yn gywir o flaen Ilygaid Saeson Siroedd y Dwyrain. Noson o lawenydd di- gymysg i bawb oedd noson ein cyfarfyddiad cyntaf yn Neuadd y Brunswick. Ymgom- ,w y caf odd y tafoda u west y gelwid hi, a sicr yw y cafodd y tafodau eneiniad y nos honno wrth holi hanes a helynt ei gilydd, a son gyda hiraeth felys am y tir sanotaidd-Cy-mRu. [F Darparwyd arlwy'r noson ar draul y gwr bonheddig hael—y Gwir Anrhydeddus T. R. Ferens, A.S., aelod o eglwys y llywydd a thrwy hynny, cafodd y Gymdeithas newydd-eni hwb werthfawr i'w bywyd. Canodd Mrs. M. J. Watkins, Mrs. W. 0. Jones, a Mrs. Rhys Rees ganeuon Cymreig, a gorfu iddynt ail-ganu, gymaint oedd eu detholion at flas y cyfarfod. Cafwyd cydganau hefyd gan facwyaid Cymreig Coleg newydd Hull, o dan arweiniad y talentog W. M. Lewis, B.A., athro cerddorol y Coleg, a hanyw o dref Daniel Owen (Pes carech, mi ddanfonaf air eto am y Coleg, Mr. Gol., pen-athro yr hwn ydyw'r C,7- 0 (lisglp.iT, Ivor?B. John, Ysw., M.A.). Heblaw hyri, cafwyd adroddiadau gwerthfawr gan Miss Layfield yn ystod y cwrdd, a chydrhwng y doniau disglair hyn, cawsom gyfarfod hwylus, difyr, ac adeiladol, a hawdd canfod dymuniad am ychwaneg o gyfeillach ar wyneb pawb pan godwyd i gyd-ganu ein hanthem gen- edlaethol. Parheir y tymor gyda chyfres o ddarlithiau, trafodaeth ar yr Eisteddfod, dathliad o Ddygwyl Dewi Sant, ac y mae ym mryd y Pwyllgor drefnu Eisteddfod ym mis Ebrill, a gwibdaith yn yr haf i Gymru, lan lonydd." Cewch air am y rhai hyn ym eu tro. Bu nifer ohonom yn ddiweddar yn canu emynau Cymreig yn ystod awr gymdeithasol Eglwys Brunswick, ac y mae'r Saeson wedi dotio gymaint ar ein canu, nes ein gwahodd i gynnal Oedfa Gymreig ar nos Sul Gwyl Ddewi. Hwyrach y'n breintir yr un noson a phregeth Gymraeg, yn goron ar y cyfan. Cyfansoddid y Cor gan bymtheg o leisiau. .Canodd Mrs. J. S. Rhys unawd cysegredig mewn modd penigamp, a melys i'r cantorion oedd unawd y Cymro twymgalon hwnnw yn y gynulleidfa ar y gair Bendigedig cvmer- adwyol, Hyderaf nad wyf yn eich blino & meithder, Mr. Go], ond crefaf ofod am air bach wrth derfynu." Cynrychiolir gan aelod- au'r Gymdeithas bob Sir ymron yng Nghymru ao eithrio Sir Henry Vaughan y bardd. Prysured felly rhyw Frychanydd atom yn fuan, fel y bo'r gynrychiolaeth Gymreig yn gron. Dywenydd gennym fyddai i'r neb a wel y nodiadau hyn pe gwnaent y Gymdeithas yn hysbys i gyfeillion ddigwydd gartrefu yn y rhan yma o fro'r alltud.-Sion Gwent. n K5
[No title]
LLANG-ErNi.-Cyngerdd Gwych.—Nos Wen- er, dan nawdd yr Annibynwyr, caed y cyngerdd goreu fu yn y dref ers blynyddau. YJI. absenoldeb Mr. Wm. Thomas, Birkenhead, a anfonodd rodd, llywyddwyd gan y Parch, W. Morgan Lloyd, y bugail hoff. Canwyd yn odidog gan Madame Humphreys-Lees, Amwythig Miss Annie Davies, o Goleg Cerdd Manceinion Mr. David Ellis, LIun- dain, a Mr. Powell Edwards, Rhos. Canwyd y crwth nes cyfareddu pawb gan Mr. Seth Owen, Talysarn, a chyfeilid gan Mrs. Tubb, o Ysgol y Sir. Bu ail alw mynych, ac yr oedd y neuadd ym llawn.—CAERWYN.
Family Notices
-0 MARW ROBERTS—lonawr 24ain, yn 36 mlwydd oed, Mary Elizabeth, annwyl briod Mr. Rowland Roberts, Wantage, ac unig ferch y diweddar Barch. R. Ceinwenydd Owen, Lerpwl.