Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

0 Chwarel a Chlogwyn.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Chwarel a Chlogwyn. Sef o Ddyffryn Nantlle. GAN YSBRYD GLASYNYS. TALENT GANU PISGAH (A.).Nid y dalciit gartrefol y tro hwn, ond pigion cantorion gwych o ymyl Clawdd Offa sy'n dod yno i gyngherdda Nos Sadwrn, Chwefrol 2 lain dyma hwy Misses Harriet Egan, B. Myrtle Jones, Mri. Watkin Hughes a R. Halkyn Roberts, ynghyd a'n Seth Owen ni o Dal y sarn,-y cwbl yn enillwyr ym mhrif Eistedd- fodau Cymru. Mae yna hen ddisgwyl am- danyrit, a dyna orlawn fydd y capel y noson honno. Gwelaf, Mr. Ysgrifennydd, na chry- bwyllir fod y cyfeilydd, Mr. J. W. Roberts, wedi ennill yn yr Eisteddfod, ond y mae o wedi ei wobrwyo yn Eisteddfod Caernarfon. Clywais Sfod cryn sbio a llygeidio ar yr hysbysleni cywrain sydd hyd y muriau a dyna ddel ydynt hwy, a lluniau'r cantorion ar bob congl. Pam na fuasech yn rhoi cyfle i adroddwr go dda hefyd ? Ond waeth imi dewi, y chwi wyr oreu. Hei lwc am wledd ac elw. CLADDU GWR Duw.—le, heb os nac oni- bae, cymeriad gloyw oedd Mr. Edward Hughes, County Road, sef un o bregethwyr cynorthwyol y Wesleaid ym Mhen y groes. Bu farw yn 73 mlwydd oed, wedi oes lawn o ddaioni. Brodor o dueddeu Amlwch ydoedd. Symudodd i Hanley ac yno, dan weinidog- aeth y Parch. Ishmael Evans, y dechreuodd bregethu. Daeth i'n Dyffryn ni tua 31 mlynedd yn ol, ac ni bu pall ar ei ymroddiad gyda'r Achos Goreu ymhob gwedd arno. Talwyd teyrnged o barch iddo gan y rhain yn ei angladd ddydd Mawrth diweddaf ym Macpelah y Parchn. W. J. Jones, Pen y groes Cynddelw Williams, B.A. R. Mon Hughes, Caernarfon; W. Williams, Tal y sarn; R. W. Jones, Felinheli R. W. Jones, Pen y groes; D. Thomas, Beaumaris Ishmael Evans. Yr oedd y Parch. D. Davies, Caer- narfon, yno hefyd, a'r Parchn. D. Davies, Llanllyfni J. Jones, Hyfrydle a W. Elias Williams, Pen y groes. Heddwch i Iwch yr hen sant. Cydymdeimlir yn fawr a'i weddw ac a'i frawd. Ern HAELOD SENEDDoh-Bu Rhyddfryd- wyr Pen y groes yn cadw cyfarfod gwych a gwresog yn Festri Bethel nos Fa wrth. Llywyddid gan Mr. T. W. Williams, hen gyff Rhyddfrydol cryf, ac yn glynu wrth ei gredo drwy'r tew a'r teneu. Darllenwyd perder- fjmiadau yn ymwneud a Phwnc y Tir, ynghyda diolch i'r Weinyddiaeth am ei gwaith, gan y Parch. R. W. Jones, W. W. Thomas, O. W. Jones, ac Edward Jones ac yn dilyn, cafwyd areithiaw campus gan Mri. Ellis Davies, A.S., ac Edgar Jones, A.S. a dyna godi hwyl a gwres fu, a phawb yn myrd adref wedi 9i argyhoeddi'n ddyfnach nag erioed mai aelod rhagorol sydd gennym. Diilchwyd gar Mr. G. W. Pritchard a D. W. Roberts. TRANC YR ERYR.-Qef Eryr Gwynedd, hen gymeriad diddan fu'n trigo ym mro Llar- llyfni. Hen saer maen, a thipyn o fardd, a hen ymgomiwr diflino. Chwith. fydd meddwl na chawn ei gwmnl mwy. Yr oedd wedi cyrraedd 70 oed. CSWARAE'N TROI'N CHWERW.—Bu eng- raifft deg o hynny yn un o'n chwarelau, sef Pen y bryn, ddydd Marcher,yr 28ain o lonawr, sef wythnos i ddydd Mercher diweddaf. Dan gellwair a'i gilydd fin caniad y nos, aeth dau rybelwr ieuanc i ymdderu o ran hwyl, ac fel mewn hunan-amddiffyniad, ceisiodd un roi gwanaf ysgafn i'r Hall a'r pric mesur," sef yr arf hwnnw sydd gan y naddwr i ysgwario ei gerrig a'u mesur ond yn anffodus, aeth yr hoelen sydd ar ei flaen drwy asgwrn pen y cydymaith ieuanc, er dychryn i'w gyfoed direidus. Ni thybiodd neb, er hynny, fod yr archoll cyn arwed ag y terfynodd, gan i'r llanc gerdded gartref dros drum y CiJgwyn- gwaith mwy na hanner awr. Cyn pen y pedair awr ar hugain, yr oedd ysbryd y llanc nwyfus dwy ar bymtheg wedi hedeg at yr Hwn a'i rhoes, er galar ac alaeth i'w fam weddw, a'r teulu i gyd. Nid all neb fesur loes y cyfoed a'i deulu byth er hynny a phawb mpwn cydymdeimlad ag ef. Bachgen pert, cai-pdig, oedd Owen Pritchard, Goleufryn, Carmel, ac yn gefn mawr i'w fam weddw. Rhoir ei weddillion ieuanc i orwedd yng Ngharmel yfory, a bydd Cymdeithas yr Odyddion yn cymryd rhan yno. Heddyw, dydd Llun, bydd cwêst, arno, a phawb mewn gwewyr am ei ganlyniad. Dyna fu'r siarad ar fin pawb ohonom byth er hynny, a pha ryfpdd pan gofir fod un ieuanc wedi colli ei fywyd drwy chwarae. UN O'R TRI.-Y mae'r Parch. O. Jones- Griffith, B.A., gWAinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nolwyddelen, pregethwr coeth, pert, a gwreiddiol, a brawd i'r Parch. H. E. Griffith, M.A., Croesoswallt, a'r Parch. Morgan Griffith, B.A., Llundain, yn un o'r rhai sydd ar brawf gan gapp] Saesneg y Rhyl. Y mae'r tri brawd hyn wedi yfrd o laeth cryf a roir oddif.r fron eglwys yr Hen Sant o Dalysarn," f\C nid bychan yw ein balchter ohonynt. Bydd SlPson y Rhyl ar eu mantais os y dewisant y gwr ieuanc uchod i'w bugeilio. CnWEDL A RHAMANT.—" Chwedloniaeth, Rhamant, a Thraddodiadau," oedd testyn traith Mr. Llew. Owen, o Swyddfa'r Genedl, Caernarfon, gerbron Cymdeithas Lenyddol Capel M.C. Talysarn nos Iau, ac ymdriniodd a'r testyn o gyfnod bore hanes, gan gyfleu'r modd y datblygodd lien Cymru o gyfnod i gyfnod hyd y dyddiau presennol. Eglurodd Fabinog, Rhamant, Chwedl, a Thraddodiad, a dylanwad y cyfryw ar lenyddiaeth yr Almaen, Ffrainc, a Scandinavia, gan nodi ysgrifenwyr bore hanes Cymru. Clodd ei annerch i fyny gyda thraddodiadau lleol diddorol, nad oeddynt wybyddus i'r mwyafrif cyn hyn. Caed papur hefyd gan Mr. Morris Llewelyn Jones, ar Mendelssohn." Llyw- yddwyd gan y Parch. W. Williams. Ion y 24ain, bu farw Mrs. Catharine Will- iams, Blodwen Villa, Pen y groes, yn 66ain oed, a chladdwyd lonawr y 29ain. Goddef- odd gystudd trwm yn bur dawel, a'r emyn Yn nes, fy Nuw, i Ti oedd ar ei deufin wrth groesi'r afon. Y hi'n fam Miss Mailt Williams, ac ebe Tryfanwy'r bardd amdani Yn dawel iawn y daliai hi-gystudd, A'i Duw 'n gastell iddi; Ac hunodd, wedi'r cyni, Yn su taer 1 yn nes i Ti.' Ac fel hyn y canodd Mr. J4 G. Evans :— Gwelir galar yma heddyw, Gwelir tristwch ar bob gwedd, Gwelir cludo mam a phriod, I orwedd yn y dyfrllyd fedd Un a gafodd ei chystuddio, Un a deimlodd ymdrech byw, Un a blygodd mewn ffyddlondeb, I ewyllys ddoeth ei Duw. o

(RT GOSTEG. I

D YD DIADU R.

Cyhoeddwyr vCvmod Y Saboth…

Gair o Gaerdydd.

LLANGURIG.

Advertising