Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Gyda'r Clawdd j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gyda'r Clawdd j Sef Clawdd Offa. Gan GYMRO 0'1 GORYN I'W GARN. Cymru ar ol cael Dadgysylltiad.—Cynhal- iwyd cyfarfod blynyddol Cyngor Eglwysi Rhyddion Brymbo nos Wener cyn y ddi- weddaf. Dewiswyd swyddogion y Cyngor am y flwyddyn nesaf. Llywydd, Mr. S. C. Hughes Is-lywydd, y Parch. R. Hughes ysgrifennydd, Mr. Ernest Harrison trysor- ydd, Mr. John Williams, Minawel. Ceir Cym- deithas Lenyddol dan nawdd y Cyngor, ac y mae wedi bod yn dra llwyddiannus. Bwriedir cynnal cyfarfod i ddathlu Gwyl Ddewi hefyd. Ar ol gwaith y Cyngor, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus dna lywyddiaetli Mr. S. C. Hughes, ac anerchwyd gan Mr. E. T. John, A.S., ac anerchiad rhagorol a gafwyd ganddo, yn ymdrin a safle'r Eglwysi Rhyddion wedi Dad- gysylltiad. Bydd un yn rhagor o Eglwysi Rhyddion yr amser honno, meddai, sef Eglwys Loegr. Gwedi symud Dadgysylltiad oddiar y ffordd, b$rdd eyfle i'r Eglwysi ganolbwyntio eu nerth ar ddiwygiadau ereill, Mesur Dir- westol, ac ymdrechu o blaid heddwch y Deyrnas. Siaradai Mr. John mewn Cymraeg gloew, glan, ac amheuthun oedd clywed y defnydd helaeth wnelai o briod-ddull yr iaith, megis y brawddegau mynych lle'r arferai'r radd gyfartal hapused a chryfed fydd y wlad wedi cydraddoldeb crefyddol." Diolch am un Seneddwr, beth bynnag, sy'n medru Cymraeg iawn. Un arall sy'n medru Cymraeg iawn ydyw Mr. Wm. Jones, A.S. Diolchwyd i Mr. John gan Mr. S. C. Hughes a'r Parch. Edward Davies. Yr hufen i bobl y ffordd haearn.-Ddydd Mercher, cyn y diweddaf yr oedd Cyfarfod Misol Dwyrain Dinbych yn Acrfair. Mr. Robert Jones, Mona Cottage, Rhos, yn llyw- yddu yn y bore, a'r Parch. R. E. Morris, Gwrecsam, yn yr hwyr. Rhoddodd Mr. W. Thomas, Tainant, a Mr. Thomas Jones, Nant, hanes yr Achos yn y lie. Methodd Mr. J. E. Powell, oherwydd gwaeledd, ddod i agor y drafodaeth, a chymerwyd ei le gan y Parch. j Wynn Davies, Rhos. Rhoddodd ef ffigyrau I diddorol o lyfr y cyhoeddiadau o'r wyth eglwys a deugain sydd yn y Cyfarfod Misol, mae tair ar gyfartaledd heb bregethwr bobSul. Ceir tri ar ddeg o bregethwyr y Cyfarfod Misol yn pregethu yn ei gylch bob Sul, ac ugain o Gyfarfodydd Misol ereill. Dengys hyn y I traul teithio afraid sydd, ac y dylai'r gweini- dog fod yn amlach yn ei bulpud ei hun a dadleuai Mr. Davies am gyflog byw i'r gweini- dogion. Siaradwyd ymhsllach gan y Parch. H. P. Roberts, B.A., Coedpoeth, a Mr. G. J. Jones ac meddai'r siaradwr olaf, Cyfrifais fod E356 wedi eu talu i'r rheilffyrdd y flwyddyn ddiweddaf, gan bregethwyr wrth fynd i'w cyhoeddiadau." Diolchwyd iMr. Robert Jones am Iywyddu mor ddeheuig yn ystod y flwyddyn gan y Parch. S. Owen a Mr. Wynn. Y Parch. R. E. Morris yw'r llywydd newydd. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol yr Anni- bynwyr, Dwyrain Dinbych, yn Southsea, ddydd Mercher cyn y diweddaf. Methodd y Parch. J. P. Gough a dod i lywyddu,oherwydd gwaeledd, a chymerwyd ei le gan yr Henadur T. Jones, Y.H., Gwrecsam. Derbyniwyd dau bregethwr ifanc, sef Mri. Watcyn Will- iams, Fron cysyllte,a John Williams, Rhos, yn aelodau o'r Cwrdd Chwarter. Neilltuir y Sul olaf ym mis Mawrth fel Sul yr Ysgol Sul." Pasiwyd penderfyniad o blaid arbed y gwario ofer a wneir ar baratoadau rhyfel y Parch. R. Roberts, Rhosystyllen, yn cynnyg, a'r Parch.T. E. Thomas, Coed poeth, yn cefnogi a phenderfyniad ar Ddadgysylltiad, gan alw sylw at yr ymdrech wneir gan Esgob Llanelwy i gael gan Ymneilltuwyr arwyddo deiseb yn erbyn Dadwaddoliad a rhyddhad y mynwent- ydd. Cynhygiodd y Parch. Talwrn Jones, Brymbo, a chefnogodd Mri. Wynn Evans, Glynceiriog, ac Isaac Smith, Y.H., Rhos. Darllenwyd papur rhagoroi gan Mr. S. M. Jones, Brymbo. ar Grefydd yn y Teulu," a, chafodd ddiolcbgarweh gwresog y Gyn- hadledd. Dewiswyd y Parchn. W. Daniel, Tan y fron, a T. E. Thomas, Coed poeth. Yr oedd y Parch. W. James, Abertawe, wedi dod i'r Gynhadledd ar ran y Drysorfa Gynorth- wyol, a rhoddodd anerchiad brwdfrydig o'i phlaid, a siaradwyd ymhellach gan y Parchn. T. E. Thomas, J. Talwrn Jones, J. Howell, R. Roberts, Mri. Isaac Smith, a S. At oss. Cydymdeimlwyd a theuluoedd y ddiweddar Mrs. Harrison;Coed poeth, a'r diweddar Mr. Evan Ellis. Pregethwyd gan y Parchn. Peris Williams, J. W. Rowlands, a W. James. Yn Victoria Hall, Gwrecsam, nos Lun, bu cyngerdd er budd Ysgol Sul Genhadol y Wesleaid, Hightown. Daeth cynhulliad da ynghyd i wrando'r cerddorion canlynol Miss Edith Davies, soprano Miss Myrtle Jones, contralto Mr. Griffith Owen, tenor a Mr. Emlyn Davies, baritone a chafodd pob un ohonynt hwyl iawn ar ganu. Dyma ym- ddanghosiad olaf Miss Davies fel cantores yng Ngwreesam y mae'n myned i Landudno yn briod i un o fasnachwyr y dref honno. Yn y cyngerdd, ar wahoddiad Mr. John Davies, daeth y Faeres (Mrs. Jarman) i gyflwyno anrheg i Miss Davies ar ran yr Ysgol Sul yn Hightown. Bu Miss Davies yn bur wasan- aethgar i'r Ysgol Sul yno. Pob cysur a llwyddiant a'i dilyno yn ei chartref newydd. Dyna wahaniaeth rhwng dwy seiat !-Bu'r Anrhyd. Ormsby Gore, A.S., ar ymweliad a Gwrecsam, wedi ei wahodd yno gan Gym- deithas y Tafarnwyr. Yr oedd cynhulliad mawr ohonynt hwy a'u cyfeillion wedi dod i'r cinio blynyddol. Testyn araith Mr. Gore oedd rhyddid yr unigol. Dymunai Iwyddiant y Gymdeithas o galon cymdeithas i ddiogelu ac i amddiffyn ydyw. Bu dirprwy- aeth o foneddigesau gydag ef yn ddiweddar yn gofyn iddo gefnogi Mesur Trwyddedol 1908. Ni fedrai wnouthur hynny nid yw o blaid Mesur a ddygir ymlaen gan Syr Herbert Roberts ychwaith. Y mae teimlad y wlad, meddai, wedi gwella'n fawr parthed dirwest, ac ni chredai fod unrhyw angen am ddeddfu'n greulon ym erbyn y ddiod.—Atebwyd gan yr Henadur Edward Hughes. Y peth hanfodol yn y fasnach, meddai ef, yw nid cyfalaf ond cymeriad. Dygant eu masnach ymlaen yn wyneb eryiiflinder oedd yn ymylu ar erlodig- aeth, oherwydd anwybodaeth dirwestwyr. Cymaint a hynyna am y tafarnwyr a'u eyf eillion. Sylwer ar y gwahaniaeth rhwng y i ddwy seiat y bu Mr. E. T. John a Mr. Ormsby Gore yn siara.d ynddynt. Seiat yr Eglwysi Rhyddion i John, Seiat y Taf arn- wyr i Gore. Ssiat bywyd, a seiat angau. Y mae Mr. Arthur Davies, Rhos, wedi ) ennill gradd A.R.C.O. Athro yn Ysgol y j Cyngor yw Mr. Davies ac er yn dilyn ei waith bob dydd yn yr ysgol, llwyddodd i ennill ei radd mewn cerdd. Rhagorol. Dis- gybl yw i Dr. Caradog Roberts, a dyma'r trydydd i ennill y radd. Ceir gwedd lewyrchus ar Gymdeithas Rhyddfrydwyr leuainc y Rhos. Y flwyddyn ddiweddaf, gwnaethant gyfnewidiadau mawr yn eu ty." Y mae eu derbyniadau arianol yn cynhyddu'n barhaus, a'r aelodau'n cyn- hyddu. Y mae clwb darbodol ynglyn a'r Gymdeithas, a manteisir aruo gan lu o'r aelodau. Llwyddiant iddynt amddiffyn egwyddorion rhyddid a sobrwydd. Cynhaliwyd. cyfarfod pregethu yn Trinity Hall, Acrfair, yr wythnos ddiweddaf. Pre- gethwyd gan y Parchn. Prifathro Prys E. G. Miles, Lerpwl G. A. Edwards, Croes- oswallt R. R. Roberts, Caer. Methodd y Parch. J. Pugh Jones, Cerrig y drudion, a dod i bregethu i Gyfarfod Pregethu y Rhos, a daeth y Parch. Egwys Jones, Croes oswallt, i lenwi'r bwlch. Cafodd gynulleidfa- oeddCmawr. A ddylai'r Eglwys ochri gyda Llafur yn erbyn Cyfalaf ? oedd testyn dadl yng Nghymdeithas y Ford Gron, Rhos. Llyw- yddai'r Parch. Wynn Davies. Agorwyd y ddadl yn ddeheuig gan Mri. Joseph Davies a John Davies, a dilynwyd hwy gan y Mri. W. Phillips, W. Hughes, J. Williams, J. W. Jones, Ed. Williams, T. Phillips, a Fred Williams. Cafwyd dadl dda, a'r siarad heb fod yn gyfan- gwbl o blaid un ochr, fel y digwydd yn rhy fynych o lawer mewn dadl. Pan bleidleis- iwyd, yr oedd mwyafrif mawr yn erbyn i'r Eglwys ymyryd. Nos Wener ddiweddaf, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cymdeithas y Cymry, Brymbo. Llywyddwyd gan yr is-lywydd, y Parch. E. Davies, Noddfa, Lodge, ac anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. J. Talwrn Jones ar "Gymru: ei phobl a'i hiaith," a chafwyd anerchiad Hawn tan ganddo. Yr ydym yn byw," ebai, ar y ffin rhwng y ddwy wlad, ar y gororau, lie bu costyll a godwyd i'n lladd a'n gormesu y mae'r cestyll yn adfeilion, ond yr ydym ni i fod yn gestyll i gadw'n fyw' ac i amddiffyn ein hiaith,ein gwlad a'n cenedl.' Yr oedd cynhulliad rhagoroi wedi dod ynghyd. a'r brwdfrydedd yn fawr. Diolchwyd am yr anerchiad gan Mri. Morris Edwards, S. C. Hughes, S. Hughes. Derbyniwyd un ar ddeg o aelodau newyddion. Rhifa'r Gym- deithas bellach ymhell dros gant. Ei hysgrif- ennydd yw Mr. S. Marion Jones, ac un selog a gweithgar ydyw. Bendithied yr Arglwydd y Gymdeithas, a chyfodpd hi'n astalch yn erbyn y llanw Seisnigaidd sy'n bygwth yr iaith, ac a'i gwnelo'n allu i lefeinio'r ardal a gwir wladgarwch. Yng nghapel Seion, Southsea, bu'r Parch. H. P. Roberts, B.A., Coedpoeth, yn darlithio ar Y diweddar Barch. John Evans, Eglwys- bach. Cadeiriwyd gan y Parch. W. R. Jones. Diolchwyd yn gynnes i Mr. Roberts ar gyn- hygiad Mr. Samuel Jones a Mr. Samuel Cunnah. Cynhaliodd Ysgol Sul Queen Street, Gwrecsam, eu cyfarfod cystadleuol blyn- yddol nos Fercher ddiweddaf. Mr. Robert Roberts, arolygwr yr Ysgol Sul, yn llywyddu. Yr oedd cystadleuaeth wedi ei threfnu ar gyfer pob oedran o flwydd i fyny.

AM LYFR. j

O'R BALA.I

Advertising