Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
RAY 6 MILES i H wm"w1 | ANNUAL CLEARANCE | 1 SALE ? ?S? t I £ 100,000 worth of HOUSE FURNISHING i H Goods all marked- at GENUINE PEDUCTIONS. || H H 8 The Time to Furnish ebru ary 2nd to Marchl4th U 8 8 g Illustrated Sale Catalogues post free- g g 0 LONDON ROAD, LIVERPOOL. 0 H IF YOU WANT SEASONED Oak, Mahogany, Birch, BlacK Walnut, Ash, White Wood, -Pitchpine, Yellow Pine, Doors or Mouldings WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Liafc 0 LundalD YSGRIFAU MYFYRDOD CAN PETER HUGHES GRIFFITHS 2/= nett. HUGH EVANS A'l FEIBION Swyddfa'r f, Brython," LEBPWL.
0 Lannau'r Camwy.
0 Lannau'r Camwy. CAFWYD Eisteddfod lewyrchus a. phoblogaidd yn Nhrelew y 13eg a'r 14eg o Dachwedd, yr hon a gynhelid eleni yn-y "Neuadd Goffa," yr adeilad godidocaf yn holl Batagonia, ac a godwyd er cof am y filltai gyn taf o'r Cymry laniodd yma i gychwyn y sefydliad yn 1865. Y gwyn fawr a phennaf ynglyn ag Eistedd- fodau'r Wladfa ers blynvddoedd bellach oedd diffyg adeiladau digon mawr i gynnwys y dylifiad pobloedd gyrchent i'r wyl ond bellach, ni raid dweyd hynny am Drelcw. wedi cael ohonynt hwy yno y Neuadd ysblennydd hon. Mesura 43 Hath o hyd wrth 14 o led, a chynhwysa dy wrth ei dalcen i deulu fo'n gofalu amdano, ynghydag ystafell i bwyll- gorau, etc. Y mae'r adeilad wedi ei wneud drwyddo draw o'r defnyddiau goren, ae yn unol a chynllun a dynnwyd allan gan un o archadeiladwvr pennaf eich dinas fawr chwi ar lannau'r Mersey yna, ac oddiyna y cafwyd yr holl ddefnyddiau at y tô, drysau a ffenestri-y cwbl o haearn a gwydr eira, Costiodd lawn 40 mil o ddoleri yn barod, ac fe'i gorffennir ymhell cyn dydd ei agoriad yn 1915- Haner Canmlwyddiant cyntaf y Wladfa," a'r adeg honno disgwylir y ceir croesawu llu o flaeÚwyr y genedl ar eu hymweliad cyntaf a'r Sefydliad, i ddathlu'r amgylchiad a gofaled y Gol. am raen ar flewyn a phedolau da o dan garnau'i ferlyn, canys y mae'r Wladfa yn disgwyl wrtho. Nos Iau, y 13eg, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf yr Wyl yr hen Wladfawr pybyr, R. Brunt, yn llywyddu, a'r Ial barod ei ddawn yn arwain, ac yn deilwng ei restru ymysg arweinyddion goreu'r Eisteddfod yng Nghymru a chymerwyd rhan yn y cyfarfod gan ddatgeiniaid, offerynwyr ac adroddwyr teilwng o esgynloriau ucha'r genedl. Bore dydd Gwener, cynhaliwyd Gorsedd- o dan arweiniad Caeron, a chydag ef gwelid dau hen wron Gwladfaol--dau batriarch o ran golwg ac oedran, sef Berwyn a'r Parch. J. Evans (Caerendg), gweinidog parchus yr Annibynwyr yn Gaiman ers yn agos i 40 mlynedd ac efe hefyd oedd llywydd yr Eisteddfod am 2 p.m., a rhyfedd fywioced a sirioled ydoedd pan anerchai'r dyrfa fawr yno. Eithr och ni ymhen y pythefnos union wele'r newydd trist drwy'r Wladfa fod Caerenig wedi huno yn yr angau. Brodor o bentref Llanddewisol, Sir Gaerfyrddin, ydoedd, ac addysgwyd ef yn Abertawe a Choleg Caerfyrddin, a bu'n weini- dog ar Eglwys Moriah, Cwmaman, Aberdar, cyn ei ddyfod i'r Wladfa yn 1874. Tywysog a gwr mawr yn Israel fu ei hanes o'i ordeinio ym Moriah, Awst 28, 1867, hyd ei farw yn ei gartref clvd ar lannau'r Camwy, y 29ain o Dachwedd, 1913. Poed melys ei hun, a ben- dithier y Wladfa ag arweinwyr gwladol a chrefyddol o gyffelyb ysbryd a gal lu. Y cadeirydd yng nghyfarfod yr IIWJT oedd y boneddwr ieuanc, Joseph Jones, rheolydd eyffredinol Cwmni Masnachol y Camwy," gan yr hwn y caed anerchiad byr a chynhwys- fawr, teilwng o ystyriaeth a sylw manylaf holl garwyr lien a chan y Wladfa benbaladr. I ran y Gaimaniaid y syrthiodd y prif wobrwyon eleni—yn ganu a phopeth ni fu cadeirio am nad ymgeisiodd yr un o'n poetau am yr an- rhydedd a'r wobr dda a gynhygid a gresyn hynny pan gofir y fath ddawr a deimla'r Cymro yn yr henl seremoni ddiddorol honno bob amser,—disgwylir y bydd gwell hwyl yn y cyfeiriad hwn erbyn yr eisteddfod nesaf, a gynhelir vn v Gaiman ar v 15fed a'r 16eg o Hydref, 1914. Deallwn y cafwyd dros fil o ddoleri o elw clir yn Nhrelew eleni a chryn hwb wna'r swm del hwnnw at orften y gwaith ar"y -Netiadd a''I dodrefiitt'n briodol. |§jg Dwg enwi'r Neuadd i'm cof fod boys y Gaiman hwythau'n symud ymlaen at godi un deilwng o'r dref honno hefyd erbyn dyddiau'r eisteddfod, yn Hydref nesaf ac unwaith y gwna'r Gaimaniaid eu .meddyliau i fyny ar unrhyw fater o bwys, eu harfer dda hwy ydyw tynnu'r gair "amhosibl allan o'r geiriadur hyd nes y bo'r mater wedi ei benderfynu. Y mae'r ymwelwyr a'r Hen Wlad yn dech- reu dod yn ol i'rhen gynefin.a'r cwbl yn edrych yn dda a graenus. Gyda'r Hong ddiweddaf, gwelsom Mrs. R. Owen, Tir Halen, fu tua Thywyn Meirionydd a Phen y groes, Arfon Mrs. Llewelyn Roberts, Gaiman, tua Bangor Fawr yng Ngwynedel—gyda'i hewythr dawn- us Deiniol Fychan, y cartrefai hi Mrs. W. Parry, Treorei-Llanberis gynt J. T. Jones, Maes Mon, a'i fab hefyd a grwydrasant lawer ledled y Gogledd a'r De, a bu John yn brysur ddigon rhwng popeth, goeliaf fi, oblegid yn ystod rhyw saith neu wyth mis o amser, llwyddodd i deithio llawer mil o filltiroedd, syrthio dros ei ben mewn cariad, a phriodi gweddw barchus o dueddau Ffestiniog,—a brysio yn ol at ei waith enillgar ar ei dyddyn gwych Rhagfyr 5ed, gwedi amser cau'r maeldai yn Nhrelew, aeth Torn Edwards (Mostyn) a Linus Roberts, evfrifwyr yn y C.M.C., a John Humphreys, i ymdrochi i'r afon ger Moriah. Tarawyd Humphreys gan y cwlwm gwythijjtra yn y dwfn, a thrwy fawr ddewrder y Ilwydd- odd Edwards i'w achub. Yn y cyfamser, cafodd Linus yr un anhwvl, a bu foddi cyn y gallai Tom fyned ato! Mab ydoedd ef i'r diweddar Boaz Roberts ddaethai yma o dueddau Rhuthin 28 mlynedd yn ol, ac yn fachgen a fawr hoffid gan bawb. Ddwy flynedd yn ol i'r dyddiau hyn, croniclwn hanes marwolaeth y gwr ieuanc Samuel Jeffreys drwy foddi yn yr afon wrth ymdrochi, a'r tro hwn y mae gennym y gorchwyl gofidus o groniclo hanes marwolaeth ei frawd Jeremiah yr hyn a ddigwyddodd ddydd Sadwrn, y 6ed cyf., drwy gael ei ladd gan fellten yn ystod ystorm enbyd o fellt a tharanau, y gethinaf a gawsom ers blynydd- oedd. Allan ar y cae gyda'i geffyl a'i drol yr oedd Jeremiah druan ar y pryd, a chan mai byw ar ei ben ei hun yr ydoedd, ni wyddai neb am y ddamwain alaethus hyd y dydd Llun dilynol, pryd yr oedd ar gymydog iddo eisieu ei weled. a phan aeth i'r ty ac heb ei weled, aeth am dro drwy'i dyddyn i chwilio amdano a dychmyger ei fraw pan gafodd hyd iddo ef a'i geffyl yn feirwon, a'r drol yn chwilfriw Yr oedd yn gafael yn ffrwyn yr anifail a'i law dde, ac ol y fellten ar hyd ochr chwith ei gorff o'i goryn i'w sawdl, a'r truan wedi bod yn gorwedd allan yng ngwres.tanbaid haf Pata- gonia am agos i dridiau. Yr oedd y ddeu- frawd ieuanc, Sam a Jerry Jeffreys, yn fech- gyn eithriadol o ddymunol a gweithgar ac yn ystod eu hwyth mlynedd trigias yn y Wladfa, wedi llwyddo cymaint trwy ddiwydrwydd a gweithgarweh, nes gallu prynnu fferm dda o 200 erw o dir yn rhanbarth Tierra Salada yma, ac eleni yr oedd Jerry wedi archebu' peiriannau dyrnu costus yn' rhannog a gwr ieuanc arall yma. Nowydd trwm i'r rhhni oedrannus yn Nhremeirchion fydd y newydd am farw disyfyd eu hoffus Jeremiah, mor fuan ar ol en mab arall, a gollwyd o dan amgylch- iadau mor adfydus flwyddyn i'r dyddiau hyn Yn ystod yr un ystorm, lladdwyd ceffyl yn Nhrelew hefyd—bellter o 25 milltir o'r man y digwyddodd y ddamwain i Jeffreys. ? Yr un hwyrnos a'r ddamwain, bu farw'r boneddwr adnabyddus, R. A. Da vies, Trelew, yn 56 mlwydd oed. Mab oedd efe i'r diwedd- ar gerddor .adnabyddus, Adna Davies, Tir Halen, fu farw ychydig gyda dwy flynedd yn ol yma. Brodor o Ddolwyddelen, a, gwr adnabyddus iawn yn y cylchoedd cerddorol yno, 30 a 50 mlynedd yn ol. Yr oedd R. A. Davies yn un a fawr berchid gan bawb yma, a gwasanaethodd fel ynad cyflog Trelew am fiynyddoedd lawer hyd o fewn tair blynedd yn ol, pryd yr aeth i bartneriaeth ag un o brif gyfreithwyr y diriogaeth hon yn Rawson a Threlew. Chwith iawn gan y Wladfa feddwl na cheir gwasanaeth gwerthfawr R.A." yn ei gwahanol gylchoedd mwy, canys gwr aml- ochrog iawn oedd ef, yn ysgolor gwych, medrus ar y Gymraeg, Saesneg, a Hispaeneg fel ei gilydd, yn gerddor gwych ac i fod yn un o feirniaid cerddorol Eisteddfod Gadeiriol Gaiman yn M14. Gadawodd deulu lliosog mewn dwfn alar o'i golli, a chafodd gladdedig- aeth tywysog. Heddwch i'th Iwcli, Davies I annwyl. TRYFAN.
I Oramodwyr "Helynt a Heulwan."
Oramodwyr "Helynt a Heulwan." FRIN y teimlwn fod y teitl yn darawiadol. On id gwell cyferbyniad i "heulwon fuasai cwniwi, ? Tybed, wedi'r cwbl, mai un arall o ddrygau y bechadures fawr a elwir Cyng- hanedd a wnaeth yr helynt ? Beth bynnag, gwyr pawb y meddwl, ac mao'r Ddrama hon, erbyn hyn, yn bur boblogaidd. Ni ofidiai neb yn fwy na ni am atialliir Gol. i fod ym Martin s Lane, Liscard, nos Iau ddi- weddaf, modd y gallsai dynnu'r gwaith a wnaed yno trwy ei farn graft y gwyr pawb ohonom ei fod yn ei meddu ar faterion o'r fath yma. Gobeithiwn y ca gyfle araU, cyn bo hir, i wneuthur hynny eto. Rhaid i ni addef, er blined hynny, mai ychydig iawn o gym- hwyster a feddwn i ddal y Drych ar beth fel hyn-i ddim pwrpas beirniadol. Ac ni fydd y nodiadau a wneir yn deilwng o'r enw b')irn- iadaeth. Yr urig safon a honnwn sydd gyffelyb i eiddo'r lien Gymro diddan o Ddyffryn Conwy, yr hwn, pan amheuodd rhywun ei gymhwyster i farnu canu, a ddy- wedodd, Wei, mi wn inna be fydd yn y mhlesio Gwyddom ninnau gymaiut a hynny, a'r hyn na fydd yn ein plesio dros ben. Wedi'r gwys a'r gwahawdd" sydyn a gawsom i weld y perfformiad ym Martin's Lane, ymaith a ni tuag yno. Ar y eweh, ac yn tynnu i'r un cwrdd, gwelem ddau ddyn call o Prescot—yn cynrychioli sel difiin y dyddiau gynt. Cyraeddasom yr Ysgolclv, lie chwareuid y Ddrama, yn gynnar, ond yr oedd pobl yn prystir ymwthio i fewn am le—■ amryw ohonynt wedi bod yno'l' inoson gynt, yn mwynhau'r un peth. Amlieuthun oedd teimlo'r awyr mor Hawn o drydaii,-mor agos l Gapel Gwelem y Parch. T. Price Davies, y gweini- dog dyfal a phoblogaidd, fel tynfaen, yng nghanol ei boblTyn brysur, brysur, ond a chanddo ddigon o amser i bopeth hefyd. Trefnesid y llwyfan yn nodedig o gyfleus a chwaethus, ac anodd meddwl pa fodd y gellsid gwell defnydd o cyn Ileted lie. Nid Tylwyth y Chware oedd air yn ormod yn y mawrglod a roddwyd i ddyfais, medr, a llafur cariad Mr. Aaron Evans yn ffurfiad yr amgylchedd llwyfannol i'r Cwmni. Yr oedd yn ddyledus iddo ef, yn anad neb, fod cyn hawddod troi Cegin Tan y Graig i Siop y Barbwr. Ni fu gormod aros o gwbl i gyfnewid y golygfeydd, na swn euro a ffwdan afrwydd y tu ol i'r lien. Hysbyswyd ni mai yn Nliachwedd di- weddaf y dechreuodd y Cwmni ar ei waith yr oedd yr holl aelodau'n anghynefin a'r grefft ac yr oedd y Ddrama'n faith. Pan gofiem hyn oil, ac wedi sylwi ar y chwarae, am tua dwy awr, gallwn yn ddibetrus ddatgan ein syndod i'r perfformiad fod mor ragorol. Rhaid ddarfod i'r rhai a gymerent ran, a'r rhai fu'n eu hyfforddi, lafurio'n galed a diball. Eisteddem yn ymyl bardd sy'n deall y pethau hyn, a chlywsom iddo fynd yn nes na Chil y Drws "at y Cwmni ystig. Dyma'r gwahanol gymeriadau a weithredent yn y Ddrama :— Wmphra Jones E. Herbert Jones Betsan Jones, qwraig Wmphra Jones .Miss M. L. Hughes Mary Ellen, eu merch Mrs. Dd. Reynolds lfan Hnws, y Postman E. H. Roberts Gwen Huws, merch y Postman vMyfanwy Pritchard John Griffith, y Barbwr A. T. Evans Tomos Dafis, y Pen Cantwr D. J. Evans W. Hughes Parry, y Pfop W. D. Williams Vaughan Lloyd, y Sgweiar J. M. Hughes Bob Williams, Stiwart yr Ystad John Williams Anfantais i effaith y Ddrama ei hun oedd ad- nabyddiaeth y gyntilloidfan gyffredinol o'r personau a weithredent, er fod hynny, ond odid, yn ychwanegu at ddifyrrwch y cwrdd. Torrodd rhai chwerthiniadau allan am fod y bobl yn deall pwy oedd tan y paent, y farf a'r gwallt gosod, a'r. dillad benthyg, yn hytrach nag ar gyfrif y cymeriad a chwaraeid. Un gamp fawr i'r Cwmni oedd cofio'n dda. Amhosibl chware'n efleitliiol os petrusir yng nghylch g-ir na gweithred. Nid ydym yn golygu y dylid, mewn cyfansoddiad ar fath hwn, gadw at bob gair nac ymadrodd. Llwyddodd rhai i fwrw ambell air i fewn fu o fantais fawr i'r perfformiad. Felly, er eiiglira,ifft,y gwnaeth y Postman. Sawl llythyr sy genti i mi, Ifan ? gofynnai'r Barbwr pan ddaeth y Postman i'w siop ac atebai'r Ifan henffel, Llythyr ? Be sy haru ti ? Mi gest un y llynedd." Yr oedd y llynedd yn well ergyd o lawer na'r wythnos dwytha," ac fe drawodd y gynull- eidfa i.lawr yn deg. [Gair rhyngom ni a'r Gol. yn y fan yma, ac nid yw o fusnes i neb arall.PLii-i ddaeth ei gwsmer cyntaf i fewn at y Barbwr, yr oedd yr olaf tros ei ben a'i glnstiau mewn papur newydd a phan gododd oi ben i weld pwy oedd yno, ebai efe, Cham- pion o bapur ydi'r BIIYTITON Dyna ych- wanegiad gwerthfawr arall at y Ddrama, onite ?] Ond yn son am gofio'v oeddym. Otiibai gonestrwydd ein cyfeillion yn ein gosod yn ymyl y llwyfan, ni wybuasem i neb anghono dim ym Martin's Lane y noson honno. Modd bynnag, clywsom rywun yn sibrwd y tu ol i'r lien, a sylwasom ar y copi oedd o'n blaen ac felly y deallasom fod y Sgweiar wedi anghofio tipyn o'i wors. Modd bynnag, yr oedd ei adnoddau ei hun mor gyfoetliog, felna fuasem wedi deall dim o hynny onibai am frad y sibrwd hwnnw. 0 ran yr orchest o gofio, yr oedd y cyflawniad, fel cyfanwaith, yn ein synnu a diau y daw'n berffeithiach gyda phob ymarferiad o 'r gwaith. Beth am y gwisgoedd ? Un o'r pethau cyntaf yn y perfformiad oedd un o'r pethau mwyaf anfoddhaol. G-eneth annwyl iawn oedd Mary Ellen, merch Wmphra a Betsan Jones ond braidd nad oedd hi'n gwisgo'n rhy ffansTol i "Fwthyn Tan y Graig." Y wisg honno oedd amdani pan ddaeth Wmphra Jones adref oddiwrth ei waith, ac y dywedodd wrthi, Wnei di fynd a bwyd i'r mochyn, fy ngeneth i ? A'r un wisg yn union, hyd y deallem ni, a feddai pan yn cwrdd a Vaughan Lloyd, ac, yn wir, trwy y gwahanol ddigwydd- iadau. Actiodd Mary Ellen ei rhan yn gampus, ond dylasai gael y fantais oddiwrth beth mor syml a hawdd a gwahaniaeth gwisg, —het wahanol at y "Sgweiar" ac at y mochpi." Ond yr oedd y rhelyw o'r gwisgcedd yn g\-veddu'n dda i'r cymeriadau. Beth bjmnag, braidd na theimlem fod y lliw coch ar ddau ben o'r deg braidd yn ormod—y Postman a'r Barbwr. Prin y ceir dau o bob deg yn bengoch yng Nghymru. Ond mae hyn yn llai peth na "hollti blewyn,"—dadlu ynghylcli ei liw Camp arall mewn ch warae wr yw cadw 'i h un yn aelod byw o'r Cwmni, hyd yn oed pan na byddo ef ei hun yn cymeryd rhan union- gyrchol. Gwelsom, yn lied ddiweddar, G-wmni'n chwarae darn o Rhys Lewis, ac nn o'r cymeriadau yn eistedd mor farw a phren ond pan ddeuai ei dro i siarad. Wedi adrodd ei ddarn, disgynnai allan draehefn, yn hollol ddi-fynegiant. Ond yr oedd Cwmni Martin's Lane yn rhagorol yn hyn o beth, a gwifrau byw diddordeb, sylw, a mynegiant, yn uno'r Cwmni yn y gwahanol actau. Nid oedd un person pren yn eu mysg. Wrth gwrs,nid oedd pob un yn cael cystal cyflo a'i gilydd i godi hwyl a rhagoriaeth ymhob un oedd bod yn gywir i ansawdd a nodwedd y cyrner- iad a gynrychiolai. Y lleiaf ei hwyl, efallai, cedd Tom Dafis; ond cadwoddfyn hollol gywir i gymeriad carwr pur, ac mewn pryder am yr hon yr ofnai fod Vaughan Lloyd; y Sgweiar, yn bygwth ei dwyn oddiarno. Rhoes fynegiant effeithiol i gariad dwfn, siom chwerw, eiddigedd naturiol, a llawenydd buddugoliaeth o'r diwedd a chadwodd hunanfeddiant urddasol ar hyd y ffordd. Nid amcanodd fod yn ddigrif, a'i ddoethineb oedd yr achos. Rhagorol oedd y Flop, a'i gariad Gwe-n Huws—y naill cystal a'r Hall. Ond y Ffop oedd yn actio fwyaf. Ni fethodd yr un edrychiad na symudiad. Os oedd bai arno o gwbl, hynny'oedd am fod calon mor fawr a charedig yn curo, nes y clywai pawb hi, o tan ei holl ffopyddiaeth. Gan Vaughan Lloyd a'i Stiwart yr oedd y rhan fwyaf amhoblogaidd, ac felly yr anhawddaf o lawer. Nid oedd calon yr hwn a, gynrychiolai'r Sgweiar yn gynefin a'i swjxld. Er hynny, gwnaeth ei ran, ar y cyfan, yn wir dda. Gellir dywedyd yr un ganmoliaeth am y Stiwart-—er cymaint a ddioddefodd gan ei elynion Actiodd yn hollol naturioi, heb orwneud dim. Hen wag oedd y Postman, yn deall ei swydd, a llawer dros ben. Fel y gwelwyd yn barod, fflachiodd ambell fraw- ddeg allan o ben y Postman nad oedd yn ¡ llythyrgod y Ddrama o gwbl, ond yn wir dda. Y creadur mwyaf byw o'r holl Gwmni oedd y Barbwr. Taflodd olwg ochrog ar y gynull- eidfa wrth ddod i fewn i Gegin Tan y Graig ond hawdd rnaddeu iddo, oherwydd fod ei lygaid aflonydd yn syllu i bobman, a hynny'n bur naturiol. Yr unig dro y gwelsom ef yn crynhoi ei holl fodolaeth yn sefydlog i.un pwynt ydoedd pan yn darllen Y BRYTHON, pryd y daeth Tomos Dafis i fewn am ei shafio." Bu'n hir iawn yn seboni a glanhau wyneb ei gwsmer, a hynny am y rheswm ei fod yn busnesa a charwriaetli Torn a Mary Ellen. Wedi hynny, daeth Stiwart Vaughan Lloyd i fewn, i fynd tan sebon ac ellyn y Barbwr. Cafwyd yma un o bethau goreu'r chwarae i gyd. Yr oedd eyflymder yr ellyn ar wyneb y Stiwart, yn cael ei ddilyn gan gyflymder tafod y Barbwr, neu ei achesi ganddo, yn wir fedrus a naturiol, ac yn gystal camp ag y gollid ei chyflawni rhwng datganwr a chyfeilydd. Ond coron y gweithrediadau Siop y Barbwr fu gwaith yr eiJlyddyn gwaedu cern y Stiwart, a hwnnw'n gwawchio, ac yn rhedeg allan am ei fywyd, mown trochion sebon a gwaed. Llwyddiant diamheuol fu'r Act yma. Ac am Winphra a Betsan Jones, anod(L canmol gormod. Buont, ymhob modd, yn. deilwng o'u safle yn y Ddrama. Ni fu unrhyw arwydd o betruster yng nghof yr un ohonynt, ac am- lwg oedd eu bod mown eydymdeimlad deallus a'r hyn y rhoddent fynegiant iddo. Ni chaf- odd dau erioed eu hieuo'n fwy cymharus nag Wmphra a Betsan Martin's Lane. Yn wir, gwasgasant y galon oer a sych sydd ynnom ddwywaith neu dair i ddagrau nas gallem eu hatal, a Mary Ellen yr un modd, megis y parodd y Barbwr, y Postman, a'r Flop inni chwerthin. Llwyddiant, hefyd, fu'r plot, ymhob rhan ohono a theimlem fod rhywbeth gwell na chelfyddyd yn y chwarae. Yr oedd pob un o'r cymeriadau ar ei oreu yma, a'r gynulleidfa tan ewyllys y Llwyfan. Diweddiad hapus iawn -er nad oedd yn y Ddrama argraffedig- oedd canu'r canlynol, ar Rhyfelgyrch Cadben Morgan,— Helynt yn ol a Hculwen ymlaen, Ciliodcl y cwmwl oedd ar daen, Cariad drechodd holl ystrywiau trais, Purdeb a orchfygodd bob isel gais. Chwery yr awel gerdd a dail y coed, ■ Tlysach yw'r blodau nag erioed Teulu Tan y Graig mwy nid ydynt brudd, Cilio wnaeth y nos, torrodd gwawr y dydd. Ond rhaid terfyniT a sylw neu ddau. Yn un peth, fe lwyddwyd i ddethol Cwmni meddylgar a deallus, ac amryw'n meddu dychymyg byw i sylweddoli y cymeriadau a gynrychiolent. Rhaid wrth feddwl i bob gwaith o'r fath, ac awen hefyd. Heb hynny, mae pob ystumiau a wneir yn gyffelyb i ysgog. • t adau dyn pren, a phob gair a leferir fel llafar parrot dienaid. Beth bynnag oedd diffygioa. y Cwmni ym Martin's Lane, yr oedd yncldo sail i lwyddiant mawr yn ansawdd ei bersonau. Yn olaf, rhaid inni gydnabod fod y chware ym Martin s Lane, i ni beth bynnag, wedi troi o chware i ddifrif. Yr oedd moral y Ddrama yn ddyr chafe dig. Addef wn fod yn y cyfan- soddiad ambell air y teimlem mai da fuasai ei chwynnu allan ond o ran ton a nod y gwaith, golygai ddyn rhy dduwiol i arian allu prynnu ei grefydd, a thad nas gallsai oddef i'r syniad o arian ac eiddo bydol benderfynu priodas ei ferch. Yr ydym yn cydymdeimlo a r dynion a betrusant gefnogi'r Ddrama ynglyn. a clirefydd credwn fod yn hawdd mynd ormod rhysedd a hwynt, a rhoi gormod o le iddynt nc, yn enwedig, fod perygl dwyn i fewn bethau o ansawdd an- nheilwng ond, yn ddiamheuol, mor bell ag y sjdwasom, ac y teimlasom ni, yn ystoddwy awr o chware I:Ielynt a He?.tliven, ilis gv,llwll lai na datgan ein boddhad a'n cymeradwy- aeth. Beiddiwn ddywedyd ddarfod i'r gyn- ulleidfa fynd allan wedi cael cyffroad i'w natur oreu, a chyda delfryd Cristionogol o flaen eu meddwl. Mewn gair, yr oedd y Ddrama'n bregeth nad allai neb lai na'i theimlo. Ceid yma enghraifft o Feibl wedi mynd yn ddyn, a'r dyn wedi mynd yn Feibl byw,np,s gallsai gallu gorthrwm na hudol- iaeth golud ei gau, mwy nag y gallent gau dorali'i- Nvawr." íiii
I Ar Draws ac ar Hyd.
I Ar Draws ac ar Hyd. El RHOI AR, Y mae Pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol 1915 (Aber ystwyth) wedi pasio i gyflogi ysgrifennydd am E.150 o gyflog, heblaw 3 y cant o log ar y tanysgrifiadau allo sugno o drysorfa'r wyl. Codir pabell i ddal wyth mil, a eh or o bedwar cant. ALA WYDD l-¡'IACHYNLLEl'H.-Daw'r newydd o Fachynlleth am. farwolaeth Mr. Robert Edwards (Alawydd Magloni), yn dair a deugain oed. Yr oedd yn hysbys ym myel y gan fel enillwr ami i wobr Eisteddfod ar gyfan- soddi cerddoriaeth, a bu llawer o'i gynhyrch- /ion yn y Cymru, Cymru'r Plant, ac yn y blaen. Y fo oedd organydd Eglwys Crist yn y dre honno. ->■ CURO'R CYRNOL.-Bu'n ddadl gy. hoeddus yng Nghricieth nos Fawrth yr wyth- nos ddiweddaf rhwng y Cyrnol Logan (ysgrif- ennydd a hyrwyddwr cyflogedig v National Service League) dros Wynedd a Sir Gaer, a Mr. Wm. George, sef ar Wasanaeth Milwrol Gorfodol. Y Cyrnol siaradodd gyntaf, a Mr. George yn dilyn, ac yn ei roi a'i wadnau i tyny a i bwyth a ganlyn wrth gloi'r ddadl Os gall talaith cvn Ileied ag Ulster roi  70,000 i 100,000 bigion ar y maes, yn it barod i ymladd dros yr hyn a ystyrient (( hwy n iawn, ai afresymol disgwyl y ceid nifer cyffelyb, o fysg miliynnau Prydein- wyr gwladgar, yn barod i neidio ar c" amrantiad tan yr hen faner pe deuai peryg ac angen ? Byddai awgrymu na cheid yn athrod ar bobl y wlad hon." Ys gwn i beth ddywedodd y Cyrnol wedyn ? Cosi ei ben ac anelu am y tren,m'ae'n ddiau. CRYFA' IAS IAS ACHUB.—Gwnaeth Hugh Ashton, llencyn o weithiwr ym Mangor, weithred ddewr a chlodus iawn ddvdd Mercher diweddaf, sef achub Mary Jane Jones gwraig oedd wedi suddo yn y llaca ar y traeth wrth hel cocos, ac a fuasai wedi boddi onibae i Ashton glywed ei gwaedd a rhuthro i'w thynnu o r llanw i'r feisdon. Peidiwch chwi a lladd cymaint ar y ddynoliaeth, a'i hathrodi ag athrawiaeth yr hollol lygredigaeth y mae greddf yr achub yn gryfach ynddi hi, wedi'r ewbl, na greddf yn y byd. -.0- DYN Y DALIADAU.—Mr. R. Roberts- Jones, Cefn Trefor, Talsarnau, sydd wedi cael ei benodi'n oruchwyliwr y Man Ddaliadau dros Sir Feirionydd, ar gyflog o £ 130 yn. y flwyddyn a'i dreuliau.