Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

YS] AFELL Y BEIRDD \ ' . I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YS] AFELL Y BEIRDD I Y eynhyrchion gogyfer a'r golofn hon i'w cyf- eirio :-PEDROG, 217 Prescot Road, Liverpool. 7 Morwr.-Y llinell gyntaf a'r olaf yn gywir, y gweddill yn wallus. 7 Fuwch.-Dim ond y llinell gyntaf yn wallus,— Blewog a chorniog ei choryn. I Mae'r gweddill o'r englyn hwn yn bur dda. Y Gwlithyn.-Dyma'r mwyaf anffodus o'r tri--dim cynghanedd wedi cael ei phig i fewn o gwbl. Myrned yr awdur feistrioli'r mapylion cynghaneddol mae'r ddawn eng- lynol ganddo. 7 Rhew-Cwympoàd yr awen arno, a thorrodd aelodau ei chynghanedd,—dim ond an llinell gywir, a dim ond cynghanedd yn honno,— Y rhew clauer y rhiw clyd. Er Cof am E.M.-Dal i ddod yma a-wna marvrnadau hirion, sychion, a rhigymol. A dyma un arall. Nid dymunol yw cyfeirio, fel hyn, at yr un peth o hyd, a chwyno wrth wneuthur. Ond beth arall ellir ei wneud ? Cymeradwy.-Dr. Owen, etc., Y Bladur, 7 Diafol, Fy Mam, Y Ddau Lyfr. SINAI. I lyw oerodd hen Sinai eirian,—ofn Deddf Nid oes ar ddyn weithian Pie mae Ilafar y daran ? A phle mae Duw y ffiam dân ? PEDROG. Y CYBYDD. I A! gybydd dwl, gwybydd di—na rydd aur Ddim sy' nefol iti I fynd i Nef ein Duw ni,- Dim ond enaid am dani Pedrog. Y BLADUR. I Yn y wlad clywch y bladur—yn hisio Trwy laswellt a llafur, Yn blygion o bob blagur, Llyfnhau d61 wna'i Hafn dur. Birmingham. GWYNONWY. Dtchakgeedd—" CLEFYD DY' SUL." I Mab amryw glefydau'n ymosod ar ddyn, Ond chawn ni ddim cennad i nodi ond un,- Un digon cyffredin, mewn gwlad, ac mewn tre' Un anodd, pan ddelo, gael gwared ag e'. Er swcro a chymell, mae'n styfnig fel mul, A'r enw sydd arno yw Clefyd Dy' Sul." Er cymaint ei raib yw, ar fryn ac mewn pant, Nid ydyw yn poeni na chyffwrdd a phant Ond wedi y deunaw, o hynny hyd fedd, 'Does neb yn ddiogel rhag archoll ei gledd. Mae ambell i glefyd a chennad o'i flaen, Rhyw deimlad diffygiol, a marwaidd fel maen, Rhyw awgrym fod byddin y gelyn yn dod, A chyfle i ddarpar i'r frwydr sy' i fod Ond clefyd dirybudd a chyflym yw hwn, Fe ddaw mor ddisymwth ag ergyd o wn. Er myned i'r gwely nos Sadwrn yn lion, Deffroir yn y bore a'i saeth yn y fron, Bydd poen yn 'r aelodau, a chur yn y pen, Bydd niwl ar y llygaid, a'r tafod yn gen Wiw meddwl am godi mewn cyflwr fel hyn, Br cystal f'ai pregeth yng Nghapel Twr gwyn. Ond dyma un cysur,—rhaid dweyd yr holl wir, Er poethed y clefyd, ni phery yn hir Bydd arwydd cyn cinio fod amser pryd bwyd Yn peri cryn awydd am godi o'r glwyd Ar erbyn daw'r teulu yn gylch wrth y bwrdd, Ni cheidw y clefyd mo'r clwyfus i ffwrdd Er methu y bore a chyffwrdd a'i fwyd, Nid ydyw ei ruddiau er hynny yn llwyd Ac nid oes un arwydd, er trymed ei haint, I'w archwaeth ymadael-ma.e'n bwyta'r un faint A chesglid, pe gwylid yn graff dipyn bach, Mai fo yw'r tebycaf o bawb i ddyn iach. Ond peidiwch camsynied, fel gwna'r sawl nas gwyr Am ddichell y clefyd,—ni chiliodd yn llwyr. Nid ydyw y seibiant o'r poenau ond ber, A'r gelyn ddaw eilwaith yn ftyrnig ei her A dychwel yn ol cyn yr Ysgol fydd raid, A'i boenau'n arteithiol, dan ruddfan O'r taid, Na chyrchwch mo'r meddyg, arhoswch tan de, Ac hwyrach y daw pethau n agos i'w lie. Cyd-folwch a'r truan pan eto y cwyd,— Pod clefyd morenbyd yn gadael chwant bwyd Na fernwch, na feiwch, na holwch paham, Estynwch y bara, a'r deisen, a'r jam, Ac wedi'r pryd yma mae'r seibiant yn hwy, Rhyw arwydd pur sicr mai cilio mae'r clwyf, Ewyllys y claf fyddai dweyd wrtho Dos Gael imi beth bynnag gael oedfa y nos. Ond fel y dynesa y pryd paratoi, Mae'r poenau'n dychwelyd, a'r gobaith yn ffoi. Gwrandewch ar ei brofiad-i'r iach mae'n iaith syn,— Hir-gystudd yn unig all siarad fel hyn, Er siomi ei obaith, ni chwyra, pa les Pe tawn i yn cwyno, ni fawn fiewyn nes." Ymostwrg wna'n dawel, er bod dan y groes, A'r clefyd yn difa cysuron ei oes 'Rol swper, bob amser, mae'r clefyd yn troi, A'r poenau a'r blinder i gyd yn cyd-ffoi 'Does dim at ei wella fel awyr yr hwyr, Un ddogn o hono a'i gwella yn llwyr. Ar ol cael ymwared o glefyd mor flin, A'n gynnar i orffwys, a mawl ar ei fin A chysga yn esmwyth a thrwm, hyd y wawr, A chyfyd ben bore ddydd Llun, megis oawr. Os dyfod yn sydyn wna'r clefyd erch hwn, Os anodd, tra pery, yw dioddef ei bwn, Rhaid cofio trwy'r cwbl fod un peth o'i du, Ymedy heb adael dim haint yn y tf A chilio a dyfod wna'n ol yr un drefn, Yn sydyn y cilia-nes daw Sul drachefn. DEWI MEIRION. I

Advertising

. Beirniadaeth..

0 LANNAU DYFI !

Advertising