Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
 siotw USEFUL AND ACCEPTABLE Great Sale OF VERY RELIABLE HIGH FASHIONABLE DM JEWELLE81 Saving fully 10/- in every £ SPECIAL VALUE. SALE LIST POST FREE. Daviess, 30 Low Bill RAILWAY ALLOWANCES TO CUSTOMERS FROM A DISTANCE. Close to Hippodrome and Olympia. EARLY CLOSING ON WEDNESDAY AT 1. Pearl & Peridot Gold Pendant Davies's Sale 21/19/- UsuallS LATEST DESIGN, Beautiful Circular real Orienta PEARLS AND PERIDOT PENDANT 1-in. diameter with pearly loop, lustrous gems, most charming jewels Also Solid 15-carat Pearl and Tourmaline Pendant, rich gems; Sale Price, £ 2/5/ usually £ 5. Also 15- Oarat Diamond and Pearls, with pearl drop; Sale Price, £ 3/19/6, originally £ 9. Diamond 18-ct Watch Bracelet Davies's Sole £11/18 Usual f,35 -SLIGHTLY SECOND-HAND, indistinguishable to new 18-ct. Sold Gold fashionable, latest Self-Expanding bars. Lever Watch Bracelet, surrounded with 30 BRILLIANT DIAMONDS, finest quality, pure white flawless, intense fire and lustre; Highest-grade move- ment, ACOURATE TIMIST. Warranted 30 years; ment, rare bargain. Also magnificent 18-ct. Diamond and Rubyl Self-Expanding Watch Bracelet. lfine quality Sale Price £ 13/19/ usual £30. Also Superb Diamond and Emerald ditto; Sale price £ 18/10/ regular price £50. All warranted time-keepers. SALE PRICE ACCURATE WATCH BRACELETS. Various Diamond Jewellery Usual Price Sale Price. £ 9 DRESS STUD, Gent's Single-stone First-water DIAMOND Oombina- Q/1Q/ tion Pin or Stud, rare lustre, 0/ xi7/" 15-carat Claw set is DIAMOND BROOCH, beautiful 15-carat, latest split bar, set with Siflawless Diamonds in cross-over O/I Q style ?. AflVr &21 EARRINGS, Exquisite, DIA- ————————— MOND CLUSTERS, selected white gems, rare lustre, platinum set 1Q/1 A/ swing drops, 18-carat gold wire. JL?/1U/' JEST DIAMONDIWATCH BRACELET, ———————— 18-carat gold' 30 finest gems, Highest-grade Lever, full- Jewelled movement Guntimist 13/18/- Bargain. 10/J. 0/~ £ 65 BROOCH, Triple DIAMOND CLUSTER, 27 large first-water Qawlesa stones, platinum bar OQ/lfl/ It in. long. ??/iV/- Usual £ 2/10/- Davies's Sale 25/- Gold Curb & Padlock Bracelet Fashionable massive flexible Curb and Padlock Holid Gold BRACELET, stampe.. eve. y link (the widest at the price), complete in velvet fise). Also ditto at 29/6, usual £ 3. Also the tollowing BAR- GAINS IN "BASKET" tion in every B, as follows :-26/- 35 t 55/- also very fine 9-bar "Basket" Bracelet af)w £ 3/12/6 usual S7. Reliable and undoubted quality only. Approval. Payments. Over 200 Bracelets to sleet from. GOLD BRACELETS 10/- LESS 1, L HE £ Lady's Diamond Half-Hoop. LARGE SECOND-HAND 5-STONE SALE PRICE. DIAMOND RING, Claw-Set "CORO- NET," Latest, intense lustre, 18-ct. flft/ic/ and Platinum; Also large 3-STONE 110/15/- DIAMND "CROSS-OVER" RING; Sale Price £ 16/10/ usual B3. Also USUAL SQUARE CLUSTER DIAMOND RING,5-stones' Sale Price £ 14/17/- Ol usual &28. Also very large 2-STONB ;12l DIAMOND 'OROS?-OVER, RING White Stones; Sale Price £ 35/10/ usual E65. SAVING 10/- IN EVERY E. 18 Ct. Diamond Engagement Rings. Usual Price. saie Price. £3 DIAMOND AND SAPPHIRE Half-hoop, stylish 7-stone service. 19/6 able claw-setting, 18-et tA DIAMONDS AND SAPPHIRES 5 gems, heavy 18-at. Half-hoop; -C 1/6/ all lustrous gems; rare bargain ~l/D/~ M DIAMONDS, 5-stones. Half-hoop stylish claw, 18-ct. gold, double-cut o 1 /I ft gems; rare fire and lustre *»1/1U/- M DIAMONDS, 5 first-water large lustrous gems, nne white quality heavy solid 18-ct. claw half-hoop othersat £ 2/10/ £ 2/12/ and £ (g/0/_ S2 /15 *.?/ 0 M DIAMONDS, fine 5-stone large diamonds, each gem of great rQ/in beauty, heavy 18-ct. gold claw set.. ?* <a/ ll/ f.8 DIAMONDS, 5-stone,very lustrous gems, first water, carved stylish r Q /l O claw set l8-ct. X.0/i0/" £21 DIAMONDS, 5-stone platinum Coronet," half-hoop white clean lustrous gems, very high grade, £ Q/ifll latest design. Daviess Miscellaneous Bargains. Usual Price SOLID GOLD ONLY Sale Price. 21 /-NECKLET, Diamond Out Links. 10/6 201-LOOKET, oval, engraved, hall-marked 7/6 21/-SIGNET RING (Gent's) shield, heavy. 9/6 20/-LINKS, oval, engraved, hall-marked 8/11 17 /-SIGNET (Lady's), shield top, strong 7/6 18/-PIN, real Diamond centre 9/6 18/-PIN, real Diamondjcentre 9/6 £ 8—BANGLE RING, 18-ct. wide heavy £ 1/16/- f2-SIGNET (Gent's), 18-ct. solidfgold shield.. 18 so I-BRO OOH, real Diamond centre 10/- stiff, wide, engraved 16/6 ZOLDI 'OND & Sapphire 3-stone Scarf Slide 35/- £ 10-PIN-STUD, Diamond & Sapphire Cluster.. £ 4 /12 £ &—WATCH BRACELET, Russell's Solid Gold Lever £ 8/18/- £ 14-BRACELET, 15-ct. band, S Diamonds 96/18/- 935-WATOH BRACELET, 18-ct. Diamond and Rubies £ 13/18/- Heavy' Lucky' Wedding Rings 22-CARAT PURE GOLD. Special 20/- Special. (USUALLY 27/9). AfPresentation with each Ring. DAVIES S. 30 LOWHILL, Liverpool.
f ? Big y Lleifiad.
f ? Big y  Lleifiad. GOREU LLAW HEN LAW— Gwelaf fod ein cyd-drefwr Mr. Llew Wynne wedi cael ei ddewis yn llywiwr llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yr haf nesaf yma. Prin fod neb yng Nghymru mor gyfarwydd ag ef a holl hanes a chyfrinion yr wyl, na neb amlach ei gofion am y beirdd a'r llenorion fu ynglyn a hi, na neb a chanddo ddiddanach casgliad o straeon a throion trwstan ddig- wyddodd dan ei phabell hi o dro i dro. Hwn fydd y trydydd tro i'r Llew wneud yr un gorchwyl mewn Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor, heb son am lu mewn mannau ereill. DIM DAFN.—Ac yr ydym ni ddirwest- wyr Lerpwl yn falch iawn, Bwyllgor Bangor, eich bod wedi pennu nad oes dim dafn o ddiodydd meddwol i'w gwerthu ar y cae, ac mai pobl y Y.M.C.A. neu rywun tebyg sydd i arlwyo'r lluniaeth a'r llymaid. Gobeithio hefyd na faeddir mo Raglen yr Wyl a hysbys- iad am yr un chwisgi na chwrw, ac y bydd hi'n lan a sweet ei harogl o glawr i glawr. GRYM A GAFAEL.-Da clywed fod y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., wedi gwella cystal o'r pwl afiechyd a'i goddiweddodd y dydd o'r blaen, ac mai arwydd pur sicr o'r gwellhad oedd y grym a'r gafael digamsyniol oedd ar ei anerchiad yng Nghyfarfod Pedwar- Misol Walton Park nos Fercher ddiweddaf. Nid yw bod yn Lerpwl am flynyddau wedi ei hysbyddu ef. PAWB EI FFORDD 0 ADDOLI.- Gwelaf fod Gol. y Dysgedydd-Dr. Owen Evans—yn tynnu ar ddoniau Lerpwl i lenwi ei gylchgrawn, canys yn rhifyn Chwefrol, dyma ysgrif gan y Parch. O. L. Roberts yn disgrifio oedfa yn Synagog Iddewig y ddinas a chlywaf mai'r gyntaf ydyw hon o gyfres ysgrifau tebyg am, oedfaon cyfundebau a chenhedloedd ereill, sydd i'w cyhoeddi'n gyfrol ganddo maes o law. Portread diddorol iawn, ac wedi codi blys yn f'aden i hedeg tua'r Synagog un o'r Sadyrnau nesaf yma, gael imi ddeall a mwynhau'r Hen Destament yn well. a chael gwers bur angenrheidiol mewn defos- iwn a pharch i'r Ty a'i Breswylydd. Tebyg yr ymwel Mr. Roberts ymhellach draw a Theml y Groegiaid sy gerllaw'r Synagog, ac a Mosque y Mahometaniaid, ac ag addoldy'r Positivists, ac y cawn bortread o'u hoedfaon rhyfedd hwythau. A beth am yr Ysbrydeg- wyr-y Spiritualists ? Y mae ganddynt hwythau eu synagog mawr yn Lerpwl yma, a'u gwasanaeth, a'u hysbryd ond p'run ai'r Ysbryd Oddifry ynteu'r Ysbryd Oddi-isod sydd yn bresennol gyda hwy, nid y fi sydd i ateb. DARLITH Y DYCHYMYG.—Y Parch. J. G. Moelwyn Hughes, M.A.,Ph.D., Aberteifi, a gyfarchai'r Gymdeithas Genedlaethol yn Colquitt Street nos Wener ddiweddaf, sef ar Y Dychymyg. Y Parch. D. Powell oedd yn y gadair a'r Parch. D. Adams, B.A., Mr. Hugh Evans, a Mr. John Morris, Y.H., (Parkfield Road) ddiolchodd ar y diwedd. Darlith tan gamp, na chaed odid ei gwell erioed yn y Gymdeithas. Codais goflaid ohoni i 'mhig, ond y mae'n rhaid ei adael hyd yr wythnos nesaf, er mwyn cael mwy o le iddo nag sydd gennyf heddyw. -0- GORFOLEDD CROSSHALL STREET.- Dr. Moelwyn Hughes a'r Parch. Mordaf Pierce (Dolgellau) gadwai gyfarfod pregethu Eglwys Crosshall Street nos Sadwrn a'r Saboth di- weddaf, a chaed gwleddoedd a hir gofir, nos Sul yn enwedig. Yr oedd Dr. Moelwyn Hughes wedi codi'r gynulleidfa i'r fath uchter teimlad nes y torrodd yn orfoledd moliant drwy'r lie, a'r oedfa'n atgoffa'r pawb oedd yno o'r golygfeydd a welwyd adeg ton ddwyfol 1904 a 1905. Beth melysach nag Efengyl pan draether hi'n deilwng, ac nid yw holl cinemas y byd ond clindarddach drain dan grochan i glust Cymro rhagor hyfryd swn maddeuol ras o enau cennad a thipyn o farwor y Nef ar ei ddeufin. <>■ UFFERN SOHO STREET.-Y Ilithoedd mwyaf arswydus a ddarllenais braidd erioed oedd tair llith y ferch honno a sgrifennodd i'r Post y dydd o'r blaen am ei hymweliadau a rhannau isaf ac aflanaf dinas Lerpwl ac y mae meddwl fod ami i Gymraes yn suddo i'r Sugnedd ofnadwy a ddisgrifid ganddi yn ddigon a rhwygo calon dyn. 'Raid i neb fynd i fyd arall i weled uffern y mae hi i'w gweld bob nos yn Soho Street a heolydd tebyg sydd yn Lerpwl yma. MACWY AID Y COLEG.-Y mae yna gryn hanner cant neu fwy o Gymry ymysg efrydwyr Prifysgol Lerpwl yma, a gwres yr Hen Wlad yn gryf iawr yn eu gwaed. Y mae un ohonynt-Mr. J. W. Felix, mab y Parch. J. Felix, bugail Wesleaid Spellow Lane-wedi cyfansoddi drama, Rhys Rhydderch wrth ei henw, a honno i'w chware yn un o neuaddau y Brifysgol yr ail o'r mis nesaf. 4 Diau fod yr Athrawon J. Glyn Davies, M.A., a W. Garmon Jones, M.A., yn megina cryn lawer ar y tan Cymreig sydd mor wenfflam yn mynwesau'u macwyaid. DRAMODYDD MYNYDD SEION.- Mr. R. Pierce Jones,—brodor o F6n, aelod yn Eglwys Wesleaidd Mynydd Seion, a gwr ieu- anc a leinw swydd gyfrifol tan Fwrdd Masnach (Labour Exchange) yn Lerpwl-ydyw un o ddau awdur Helynt a Heulwen, sef y ddrama a ddisgrifir mor ddiddorol gan Wr y Drych ar tudal 4. Bu'n ysgrifennydd Cymdeithasau Cymreig Llundain am bum mlynedd, ac y mae'n bryd i Gymry Lerpwl ddechreu gafael ynddo. Yr oedd yn gweld ei chware ym Martin's Lane", ac a ddywedodd air da a di- ymhongar ar y diwedd. '1 'J27P PERAROGL GWILYM DAFYDD.—Y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llanrwst, a'r Parch. W. M. Jones (M.C.), Birkenhead, gad- wai gyfarfod pregethu Wefeleaid Spellow Lane nos Sadwrn a'r Saboth diweddaf; ac yn oedfa'r nos Saboth, dadorchuddiwyd y dabled goffa sydd ar bared y capel am y diweddar Mr. Wm. Davies (Gwilym Dafydd). Caed gair gan y Parch. D. Tecwyn Evans a Mr. Ellis Owen, a'r ddau'n talu teyrnged deg a dira,grith i un o'r Cym ry mwynaf a phura fron o'r hanner can mil sydd ohonom ar lannau'r Mersey yma. Llawer gwaith y bu yn fy nghlwyd tan fondo'r BBYTHON yma, a'r holl swyddfa'n lanach a llawnach o berar- arogl Crist a Dirwest ar ol iddo fynd allan. Ac fe erys perarogl Gwilym Dafydd i bereiddio ,?L,3rpwlamlawe,rblwyddyn. Dyma'r geiriau sydd ar y dabled:— Er serchog gof am GWILYM DAFYDD. I Bu yn aelod ffyddlon o'r Eglwys hon am dros 60 mlynedd, ac yn swyddog a blaenor defnyddiol am dros 50 mlynedd. Yr oedd yn wir foneddwr Cristionogol—cywir ei egwyddorion, glan ei galon, ffyddlon i grefydd, a selog dros bob symudiad i ddyrchafu ei gyd-ddynion. Am gyfnod maith bu yn amlwg fel arweinydd dirwestol yn y ddinas a'r cylch. Perchid ef gan bob dosbarth yn ei fywyd a phan y bu farw, galar mawr a wnaethpwyd amdano ef. Ganwyd Medi lleg, 1830. Bu farw Tachwedd Meg, 1912. Da was, da a ffyddlon." LOES LEM.-Ba loes chwerwach ac anos ei dioddef na cholli perlyn o hogyn bach pert ac addawol, yn ddeg oed ? Dyna'r loes ddaeth i ran Mr. a Mrs. Edward^Roberts, 80 Upton Road, Birkenhead a mawr yw eu galar wrth gladdu eu gobaith ym mynwent Flaybrick Hill heddyw (ddydd Iau). TEULU HOLYROOD.-Y mae Mrs. a Misses Jones, Holyrood House, wedi anrhegu eglwys M.C. Edge Lane a phawb ei gwpan Gymun, yn lie yr hen rai—a'r rheiny hefyd yn rhodd ei phriod, y diweddar Mr. Ellis Jones. Dim ond un o fil troion tirion teulu Holyrood yw'r cwpanau cymun a phe'u hysgrifennid bob yn un ac un, nid wy'n tybio y cynhwysai'r BRYTHON mo'u rhes rhoddion. Hwy waddolodd wely yn Ysbyty Stanley Road a mil o bunnau a gwyr y Genhadaeth Dramor a llawar achos da arall beth yw cael cryn gynhaliaeth ganddynt. Ac i asbri a gweithgarwch Miss Ellis Jones y mae priodoli yr hanner canpunt a gesglir bob blwyddyn gan yr eglwys at y Genhadaeth Dramor a mawr y gwaith y wna hi gyda Chymdeithas y Central Relief. Bendith o beth yw cyfoeth pan fo tipyn o galon a gweledigaeth ysbrydol y tu ol iddo, i'w yrru yn y blaen, fel sydd y tu ol i filoedd Holyrood. £ >- TRO TIRION WILLIAM THOMAS.- A thra bwy'n son am bobl hael, gadewch imi ddweyd yr hyn a glywais heddyw'r bore, sef fod ein cyd-ddinesydd Mr. Wm. Thomas, Y.H. newydd gyfrannu wyth cant o bunnau at y capel newydd a gyfyd y Bedyddwyr yn lle'r hen un yn Rhydwyn, Llanrhyddlad, Mon, sef hen blwy ac ardal y rhoddwr caredig. Y mae eglwys Rhydwyn yn un o rai hyna'r Sir y hi fugeilid ar un adeg gan yr hyglod John Robinson, Llansilin, ac ynddi hi y traethodd Christmas Evans lawer o'i feddyliau eirias a'i alegorlau diail. Y mae Cyfundeb y Bedyddwyr drwyddo draw yn ddiolchgar i Mr. Thomas, ac yntau'n Fethodist, am gofio enwad arall mor hael a Christnogol ei ysbryd ac nid yw'r wythcant hwn ond un o lawer arwydd cyftelyb sydd hyd-ddi fod mor- farsiandydd cyfoethog Lerpwl yn cofio ac yn caru'i hen ardal a'i sir o lwyrfryd calon. ç;
DAU TU'R AFON.
DAU TU'R AFON. I BIRKENHEAD. EGLWYS M.C. LAIRD STREET.-Nos Sad- wrn ddiweddaf, cynhaliwyd cyfarfod cystadl- euol mewn cysylltiad a'r lie uchod. Llywydd, J. Jones, Ysw., Mayfields," Lirverpool, yr hwn a gyfrannodd yn hael at y draul, ac a roes anerchiad byr a chynhwysfawr. Arwein- iwyd yn ddeheuig fel arfer gan y cyn-weinidog, y Parch. S. G. Evans, B.A. Beirniadwyd y eanu gan Mr. R. Thomas, G. & L.T.S.C., Groeslon-y mae efe'n bur hysbys yn y wlad fel cerddor a beirniad, eithr dyma'i ymweliad cyntaf a Glannau'r Mersey yn y ffordd honno, a da iawn a dirodres y gwnaeth ei waith, a'i ddyfarniadau'n cael cymeradwy- aeth gyffredinol. Beirniedid yr adrodd gan Madame Gwladys Williams, a chydsyniodd yn rhwydd a chais y cyfarfod trwy adrodd ei hun yn Gymraeg, "Mr. a Mrs. Denman," allan o Enoc Hitws, ac yn Saesneg fel en cor, Prince Arthur to Hubert (Shakespeare). Gwledd o'r fath fwyaf amheuthun oedd ei chlywed, a llawenhawn yn fawr ddeall mai hi, ar bwys ei theilyngdod, sydd yn un o feirniaid Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Wele'r buddugwyr Arholiad ysgrifenedig: 1, Maud Roberts 2, Ed. Williams 3, R. P. Williams. Cushion Cover Megan Vaughan. Map: 1, Eunice Thomas 2, Nellie Jones. Unawd (dan 12 oed) cyfartal, Maud Roberts ac Enid Evans. Eto, dan 16 1, Ceinwen Morris cyf. 2, May a Myfanwy Davies. Unawd i rai heb ennill dros 5 o'r blaen D. Lloyd, Oxton. Unawd soprano Gwladys Ellis, Clifton Road. Unawd tenor Wm. Phillips, Gwrecsam. Unawd baritone D. R. Jones, eto. Deuawd: D. R. Jones a Wm. Phillips. Traethawd dan 21: 1, Margaret Roberts 2, Nellie Jones. Prif draethawd K. E. Roberts, Laird Street. Adrodd, dan 12 oed Tegwen Ff. Evans 2, Enid Evans. Eto, dan 16: cyf. 1, May a Myfanwy Davies 2, Enid Evans. Eto, dros 16 neb yn deilwng. Gwaith Haw (celfyddyd) cyf. ], Mrs. Vaughan a Miss Davies, Gorwyl; 2, Miss Jones, Heathley. Diolchwyd i bawb am bob cynhorthwy gan Mr. Wm. Jones a Mr. John Evans. Chwefrol 6ed, hebryngwyd corff y diweddar Mr. Henry Roberts, mab y diweddar Barch. Robert Roberts, Tan y fron, i fynwent Flaybrick Hill. Gwasanaethwyd gan y Parchn. W. O. Jones, B.A., a W. M. Jones, Parkfield. Yr oedd yr hen frawd wedi trigo yn y dref ers blynyddoedd lawer, ac yr oedd yn uchel iawn ei barch. Daeth cyn- hulliad lluosog ynghyd i dalu'r gymwynas olaf iddo. Ymhlith ereill, Mri. R. T. Roberts a Henry Roberts (meibion), Mr. a Mrs. Jones, Treffynnon (merch a mab yng nghyfraith) Mr. Smart, Treffynnon Mr. R. T. Jones, Birkenhead Mr. R. Roberts, Coed poeth Mrs. Davies a Mrs. Roberts, Seacombe Mr. a Mrs. R. Jones, Earlestown Mr. Joseph Jones, George Jones ac Owen Jones, Bodffari Mr. Tom Wynne, Wyddgrug Mr. a Mrs. T. Hughes, Mr. a Mrs. Rees Jones, Mr. a Mrs. Robert Jones, Mri. Thos. Hughes (ieu.), Walter Hughes, D. E. Williams, Wm. Jones, Ed. Morgan. Colled fawr i'r Eglwys Rydd yn Birkenhead yw colli un mor hyddysg yn ei Feibl ac mor selog gyda'r Ysgol Sul a'r dosbarth darllen.-Gohebydd. VITTORIA STREET.—Nos Fercher ddiweddaf, daeth aelodau'r capel uchod, ac amryw ereill o'r cylch, i fwynhau gwledd ardderchog a ddarparwyd gan chwiorydd yr Eglwys. Wedi'r wledd, caed cyfarfod amrywiaethol. Yn absenoldeb y cadeirydd, J. Evans, Ysw. yr hwn a anfonodd cheque am swm sylweddol at yr achos, arweiniwyd y cyfarfod gan Mr. Edward Edwards, a'r ysgrifennydd, Mr. O. H. Jones, wrth ei benelin ar y llwyfan. Gwas- anaethwyd gan G6r y Plant, Master Trevor Griffiths, Miss Lizzie Bates, Miss Cissie Will- iams, Master Dan Davies, Miss Katie Owens, Miss Myfanwy Davies, Miss May Davies, Miss 'Mary Wynn Jones, Miss Maggie Jones, Miss Nancy Humphreys, Miss Gwladys Ellis, Mr. Tom Price. CyfeUiwyd gan Mr. Rowland Jones. Methodd y gweinidog, y Parch. G. J. Williams, fod yn bresennol oherwydd afiechyd. Diolchwyd i'r cadeirydd ac i'r rhai gymerodd ran gan Mri. Rowland Owens, John Jones, a T. Davies. Terfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Mr. Tom Price yn arwain.-E.E. Y PARCH. WILLIAM ROBERTS, TRINITY ROAD, BOOTLE.-Fel y crybwyllwyd eisoes, rhoddodd Mr. Roberts rybudd i'w eglwys, rai wythnosau'n ol, o'i fwriad i dorri ei gysylltiad bugeiliol a hi ddiwedd Mawrth nesaf. Gyda gofid blin y derbyniwyd y newydd, a mawr ydoedd eu helynt a'u penbleth. Ni wyddent i ba le i droi, na pha beth i'w wneud. Yn ystod y saith mlynedd y bu efe'n weinidog yn Trinity Road, bu yn bopeth i bawb o bobl ei ofal. Ni chafodd eglwys erioed weinidog mwy ffyddlon ac ymdrechgar gyda phob rhan o'r gwaith, na'r un parotach i aberthu ei hun ar allor gwasanaeth ei bobl. Y mae ei ynni, ei gydymdeimlad, a'i garedigrwydd yn hysbys i bawb a'i hadwaenai a phregetha'r Efengyl gyda medr a grym ac eofndra mawr. Dengys y ffaith iddo lenwi cadair Cyngor Eglwysi Rhyddion Bootle am y flwyddyn 1912, a chadair Undeb Eglwysi Cynulleidfaol Cymreig Lerpwl a Manceinion am y flwyddyn 1913, mor uchel ydyw yn syniad a pharch ei frodyr. Ond fel talwr dyledion y mae efe wedi ennill enw arbennig iddo'i hun. Yn ystod ei weinidogaeth yn Golborne, adeilad- wyd capel gwerth JE600, a chasglodd Mr. Rob- erts bob ceiniog o'r swm hwnnw, heb gymorth neb arall, gan adael y capel yn ddiddyled. Yr oedd Eglwys Trinity Road mewn cyflwr isel saithQnlynedd yn ol, a'i dyled bron a'i llethu, ac yr oedd eisieu ffydd gref, a gwroldeb mwy na'r cyffredin, i ymgymeryd a'r gwaith. Ond yr oedd wrth fodd calon Mr. Rpberts, ac ar unwaith ymdaflodd yn llwyr i'r gwaith. Gwnaeth ei 61 yn fuan ar yr eglwys, ac enillodd barch a serch dyfnaf ei bobl. Yn ystod y saith mlynedd, llwyddodd i dalu ymaith dros £ 800 o'r ddyled, heblaw cyfarfod a'r hell ofynion ereill, ac i'w lafur personol ef y mae bron y cwbl yn ddyledus. Bu Mrs. Roberts hefyd yn gymorth nid bychan iddo, a dang- hosodd yn fuan ei bod wedi yfed yn helaeth o ysbryd ei phriod. Gweithiodd mewn amser ac allan o amser, a bu'n ddefnyddiol mewn cylchoedd ehangach na'r eglwys yn Trinity Road. Am y pum mlynedd diweddaf, bu'n llywydd Cangen y Merched o Gyngor yr Eglwysi Rhyddion, ac o dro i dro ymwelodd a holl gapeli'r cylch o bob enwad, yn annerch cyfarfodydd ynglyn a'r Mother's Guild, yr Achos Dirwestol, etc. Bydd colled gyffred- inol ar ei hoi. Ond y mae iechyd Mrs. Roberts yn anfoddhaol ers tro, ac, yn ddi- weddair wedi torri i lawr yn IAu, a dyma'r prif reswm dros waith Mr. Roberts yn ymddi- swyddo, gan fod y meddygon yn ei annog yn daer i fyned a Mrs. Roberts i'r wlad i fyw. Y maent wedi penderfynu gwneud eu trigfan ym Mhorthdinorwig, man geni Mr. Roberts. Ond yr oedd ymlyniad Eglwys Trinity Road mor fawr wrth ei gweinidog, fel na fynnent son am dorri'r cysylltiad, a pharod oeddynt i wneud unpeth yn eu gallu er ei gadw. Pasiwyd penderfyniad taer ac unol, yn apelio ato, er mwyn popeth, adystyried ei benderfyniad, a thynnu ei ymddiswyddiad yn ol. A da gennym ddeall eu bod erbyn hyn wedi dyfod i gyd-ddealltwriaeth. Er trigo ohono yn Arfon, y mae Mr. Roberts am ddal ei afael yn Trinity Road, Bootle. Anfonodd gynhygiad mawrfrydig iddynt, a nos Saboth cyn y ddiweddaf, derbyniodd yr eglwys y cynhygiad yn unfryd, a chyda llawenydd mawr. Felly y mae'r ym- ddiswyddiad wedi ei dynnu'n ol ac er symud ei breswyl, trefna'r gweinidog i fod ymhlith ei braidd yn fynych a chyson. Llwyddiant mawr a ddilyno'r trefniant, a chaffed Mr. Roberts hir oes ac iechyd i was- anaethu ei bobl yn yr Arglwydd.-Ei dmygydd. RIGBY STREET.—Nos Fercher, cynhaliwyd te parti a chyngerdd yn yr ystafell uchod, i'r Cymry sy'n byw yn y gymdogaeth, a'r rhai y mae'r Chwaer Evans yn gweithio yn eu plith. Daeth cynhulliad da, a phawb yn ymddangos am eu goreu yn mwynhau'r danteithion darparedig gan y Chwaer Evans, trwy garedigrwydd cyfeillion. Cynorthwyid hi wrth y byrddau gan Mrs. a Miss Roberts, Chatham Street, a Mrs. Owen a Mrs. Davies o Edge Lane. Cymerwyd y gadair yn y cyngerdd gan Mr. David Evans, Botanic Road, a chafwyd adrodd neu ganu gan Miss Blodwen Owen, Miss Kate Jones, Mr. Hughes Ellis, a Mr. John Griffith yn canu penhillion yn hwyliog iawn gofalwyd am y gramophone a'r organ gan Mr. E. Evans, i gyd o Eglwys M.C. Edge Lane. EGLWYS ANNIBYNNOL PARK ROAD— Cyfarfod Pregethu.-Nos Sadwrn a'r Sul di- weddaf, bu'r Parchn. Wm. James, Abertawe (Cadeirydd Undeb Annibynnol Cymru), a Ben Davies, Panteg, yn pregethu'r Efengyl gyda "I nerth a sicrwydd mavvr i gynulliadau da. Llawenydd mawr i bawb oedd gweled a chlyw- ed y bardd mwyn o Banteg. Cafwyd pregeth fyw a thyner ganddo fore Sul ar Acwila a Phriscila—cydweithwyr Apostol Crist. Mae'n amlwg fod y brofedigaeth chwerw yr aeth y bardd drwyddi'n ddiweddar wedi rhoi nodyn newydd yn ei delyn, a rhyw felyster mwynach yn ei eiriau a'i feddyliau. Traddodwyd dwy bregeth ragorol gan Mr. James, ac ymhyfrydai nos Sul mewn annog i ymnerthu yn yr Arglwydd ac yng nghadernid ei allu ef." Mwynhawyd ei weinidogaeth yn fawr, a chafodd dderbyniad croesawgar gan yr eglwys yn Park Road ar ran y Drysorfa Gynorthwyol y gweithia mor ddiwyd o'i phlaid. Prawf o hynny yw'r ffaith fod yr eglwys eisoes wedi addo dros B180 at y Drysorfa. Daw llawer rhagor eto. Heblaw hyn, mae adroddiad yr Eglwys o'i chyflawn- iadau yn ystod y flwyddyn ddiweddaf yn ua o'r rhai goreu a gafwyd erioed-y easgliadaa. i gyd wedi mynd i fyny, a llwydd mawr ar yr holl waith. Bendith fo ar ymdrechion Mr. James, a thaled yr Arglwydd iddo am ei lafur. CAPEL CHATHAM STP.EET.-Guild y Bobl Ieuainc.—Cynhaliwyd eyfarchwel o aelodau'r Guild uchod Nos Fawrth, Chwef. 10, pryd y cafwyd cydgyfarfyddiad llawen iawn Mr. T. Lloyd Jones, Falkner Square, yn y gadair. Cystadleuaeth am oreu ddyfalu y wobr i Mr. Morris Evans. Canwyd penhillion (gwaith Ap Gwylym, aelod o'r guild) gan Mr. Iorwerth Hughes. Johnny Morgan yn cael y wobr am gyntai' fwyta Cream Cracker. Sketch ddigrif gan Mr. Trevor Jones a Gwilym Pritchard. Cafwyd lluniaeth yn ystod y cyfarfod. Canwyd gan T. R. Morgan a Griffith Jones. Fel y dywedodd y cadeirydd, mae'r Guild yn ateb diben ei sefydliad- cadw'r ieuanc mewn cyswllt a'i gilydd, a lie i bob dawn amiygu ei hun. Yn ystod yr haf, bydd y Guild yn dal ymlaen ar ffurf a geidw'r aelodau gyda'i gilydd. Diolchwyd gan y Parch. R. R. Hughes, B.A., i'r cadeirydd ao i'r ddau bwyllgor, am eu gwaith da. Y mae amser maith er pan welwyd cynifer o bobl ieuainc gyda'i gilydd yn Chatham.-M.P. CYMDEITHAS LENYDDOL PRINCES ROAD. -Wedi cael hwyl ar groesi cleddyfau a'i gilydd mewn ami faes gwleidyddol a chym- deithasol, mentrodd aelodau'r Gymdeithas i'r ornest a Chymdeithas Lenyddol Seion (M.C.), Gwrecsam, nos Fercher, Chwefrol 4ydd. Cawsant y fantais o ymladd ar eu tiriogaeth eu hunain, a thyrfa gref o Princes Road yno i'w cefnogi, ond nid oedd yr ymwelwyr ar ol am nifer dda o'u tu hwythau, i'r rhai y rhoddwyd croeso cynnes iawn. Yn llywydd, i gadw trefn a chwarae teg, cafwyd gwr cyfar- wydd a medrus yn J. Harrison Jones, Ysw., Y.H. Testyn y ddadlydoedd Fod gwladgar- wch yn rhwystri Frawdoliaeth Gyffredinol." Dadleuai Princes Road mai dyna'r gwir, a Seion mai nad e. Grymus a gwresog fu'r ymrafael rhyngddynt, ac apeliwyd at hanes, a phrofiad, a ffeithiau, ac athroniaeth, ae ysgrythyr, ar y naill ochr a'r Hall, gyda hyawdledd a medr. Agorwyd o du Princes Road gan gadeirydd y Gymdeithas, Mr. R. Lloyd Phillips, mewn araith gynhwysfawr a galluog, ac o du Seion gan Mr. J. W. Davies, B.A., mewn llith lawn o ddawn a grym. Dilynwyd hwy, bob yn ail, gan Mri. J. Free- man Williams, J. Smeath Thomas, M.Sc., J. J. Williams, a J. O. Owens, o Princes Road a Mri. J. W. Powell, H. G. Davies, J. H. Owen.i a W. Emyr Williams, Ll.B., o Seion. Ofer fa cei?io rhoi cynnwys yr areithiau mewn hyn o ofod, ond nid ofer fu'r areithio. Deffiniwyd Gwladgarwch o bob rhyw safbwynt, a Brawdoliaeth Dyn o bob cyfeiriad ac yn fflachiadau cleddyfau'r ddwyblaid gwelsorm ambell gip ar fantais ac anfantais eu per- thynas a'i gilydd a thrwy dwrf yr ornest clywsom adsain dyhead am y gwladgarwch hwnnw sy'n ddigon eang i garu'r Byd, ac am ddydd ymddanghosiad The Parliament of Man, The Federation of the World. Nos Lun ddiweddaf, cawsom olwg ar genedl nad oes iddi wlad, aceto fedd ymwybyddiaetk ddofn o'i chenedlaetholdeb, lyn wrth ei hiaith, geidw ei nodweddion, ac sy'n wasgaredig dros holl wledydd Ewrop. Cenedl y Sipsiwn ywhon, a'r Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., fu'n ein goleuo ar hanes a nodweddion y bobl ryfedd hyn sy mor gynefin ac eto mor ddieithr i bawb yn y wlad. Cafwyd blafi neilltuol ar y ddarlith gan y dyrfa dda a ddaethai ynghyd, a diolchwyd yn gynnes i'r darlithydd amdanL Bu Mr. Wm. Chas. Edwards, pentre Braw, Pentre Llyn Cymer, farw'n frawychus o sydym ddydd Mawrth yr wythnos hon, yn Ysbyty'r Royal Southern, tra'r meddygon newydd roi cysgbair idd er mwyn chwilio i'w anhwyldeb. Gedy dylwyth o blant, ac y mae cydymdeim- lad dyfnaf yr ardal a hwy. Bydd trangholiad I ar y corff heddyw (ddydd Iau).
I Egin Grawn y Bala.
I Egin Grawn y Bala. ER mwyn y rhai gar wybod hanes yr efrydwyr sydd yn gadael Athrofa'r Bala y flwyddyn hon, rhoddwn sefyllfa pethau ar hyn o bryd. Y mae tri wedi derbyn galwadau, sef :— Robert Roberts, Caergeiliog, i Ryd y clafdy O. J. Davies, Corris, i Bontfaen, Brycheiniog a James Hughes, Llanaelhaearn, i Lidiardau Meirionydd. Y mae y rhain eto'n rhydd T. H. Williams, Porthdinorwig J. P. Jones, Penrhyn deudraeth Richard Edwards, Corris John Jones, B.A., Trawsfynydd E. M. Griffith, Abergynolwyn Thomas Will- iams,Pant glas, Bala E. E. Hughes, Carmel; T. O. Hughes, B.A., Cricieth W. H. Roberts, Llanrwst Hugh Jones, Caernarlon Christ. mas Jones, Llangefni J. L. Mostyn Owen, Bethesda Edward Williams, B.A., Pwllheli R. Lloyd Edwards, Cefn'meiriadog D. Morris' Jones, M.A., Tal y cafn R. O. Williams, Amlwch. Rhestr faith, ond cysur clywed fod digon o le yn y Winllan," a hynny yng Nghymru erys y gweithwy-r dipyn yn araf, efallai, yw'r rhai sant allan i gyfiogi, ond hyderwn y deuant cyn y delo unfed-awr-ar- ddeg y flwyddyn i ben.-Ysg. -0-
[No title]
LLANELLi.-Mae arnaf ofn, Mr. Gol., rhag i chwi feddwl mai dim ond yn Lerpwl ar Gogledd acw y mae canu da, ac amcan hyn o nodyn yw eich hysbysu o Wyl Gerddorol y Tabernacl, Llanelli. Nos Fawrth yr wythnos aeth heibio y bu, ac yn wir, ni ddymunem well canu. Perfformiwyd The Seasons, gwaith Haydn. Bu disgwyl mawr am y cyngerdd, ac ni chadd neb, am wn i, o'r dyrfa fawr ei siomi. Yr oedd y datgeiniaid wrth eu bodd, ac yn rhoi gwledd i bawb. Y mae Mr. Meudwy Davies, arweinydd galluog y C6r, wedi rhoi gweithiau'r prif gerddorion inni bob blwyddyn am 35 mlynedd, heb gymaint a cholli unwaith Dyna orchest y gallai unrhyw gerddor fod yn falch ohoni. Y mae drwy hyn, nid yn unig wedi gwneud oratorios yn boblogaidd yn y lie, ond wedi codi chwaeth pobl at gerddoriaeth glasurol, yr hyn sy'n bwysig. Anodd yn ami, a'r gwahanol atyn- iadau ereill, yw cael pobl i gyngerdd heddyw, ond y mae Mr. Meudwy Davies yn sicr o gyn- hulliad da a deallus bob amser. Nid wyf yn credu fod gennym yn y De neb yn gweithio cymaint o blaid cerddoriaeth uchraddol, ac y mae'r llwyddiant mawr sy'n dilyn ei ym- drechion o hyd yn profi ei fod yn wr o allu a diwylliant. Erchir am ei wasanaeth fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd o bob cw* o'r wlad. Caffed fywyd ac iechyd i was- anaethu ei wlad a'i enwad am faith flwyddi eto.-Un gadd wledd.